Display Result » STR/2
POLISI STR/2 - CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL AR SAFONAU PARCIO
- Dylid darparu mannau parcio ceir yn unol â'r safonau uchaf a osodwyd yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol ar Safonau Parcio Conwy, i leihau gorddibyniaeth ar y car a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy.
- Mewn rhai lleoliadau, megis lleoliadau â mynediad da at gyfleusterau a gwasanaethau a wasanaethir gan gludiant cyhoeddus o safon uchel, bydd y Cyngor yn ceisio lleihau nifer y mannau parcio a ddarperir, yn unol â Safonau Parcio Conwy. Os bydd cyfleoedd yn codi, er enghraifft ar safleoedd defnydd cymysg, anogir i bobl rannu llefydd parcio a cheir i leiafu'r ddarpariaeth.
- Dylid darparu mannau parcio beiciau yn unol â'r safonau a osodir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Safonau Parcio Conwy i sicrhau y darperir mannau digonol a diogel.
View this result in context