Display Result » CTH/4
POLICY CTH/4 - HWYLUSO DATBLYGU
Byddwn ond yn caniatáu hwyluso datblygu sy’n ceisio sicrhau dyfodol ac/ neu ddefnydd arall addas i adeilad rhestredig neu adeilad sy’n gwneud cyfraniad positif sylweddol i gymeriad ardal gadwraeth, tirwedd hanesyddol neu barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig os:
- Yw’n angenrheidiol i sicrhau dyfodol tymor hir yr adeilad neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol
- Nad yw'n achosi niwed sylweddol i’r adeilad y mae'n ceisio'i gynorthwyo neu ei leoliad neu’r ardal gadwraeth, tirwedd hanesyddol, neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol y mae’n rhan ohono
- Y cyflawnir cyn lleied o waith ag sydd ei angen i sicrhau dyfodol yr adeilad a’r defnydd priodol o’r adeilad neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol
- Nad oes cymhorthdal digonol ar gael o unrhyw ffynhonnell arall