Display Result » DP/9
POLICY DP/9 - PRIF GYNLLUN BAE COLWYN
Bydd cynigion adfywio ym Mae Colwyn yn canolbwyntio ar ardal Prif Gynllun Bae Colwyn (CBMP) fel y dangosir ar y map cynigion: Nod y cynigion hyn yw goresgyn dirywiad economaidd, amddifadedd a mynediad drwy ailddatblygu ymarferol a chynigion newydd. Wrth ddiwallu’r anghenion datblygu a ddynodir ar gyfer Bae Colwyn, mae’r Cyngor yn cefnogi’r amcanion CBMP a ganlyn:
Darparu ar gyfer anheddau newydd yn unol â Pholisi Strategol HOU/1 – ‘Diwallu’r angen am gartrefi’;
Creu gweithgaredd economaidd a chymdeithasol sy’n arwain at adfywio cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy;
Creu darpariaeth ar gyfer datblygiad adwerthu cyfleus yn unol â Pholisi Strategol CFS/1;
Ailfodelu cynllun Parc Eirias gan glystyru cyfleusterau chwaraeon ar y terfyn deheuol a gwella mynediad i gerddwyr ar draws Nant y Groes;
Cyfrannu at adeiladau ac adeileddau o bwysigrwydd lleol neu genedlaethol drwy welliannau sympathetig neu gynigion cadwraeth;
Integreiddio cynigion ar gyfer gwella a datblygu glan y môr, gan gynnwys gwaith ar yr amddiffynfeydd arfordirol a gwella’r ardal fel cyfleuster/ atyniad twristaidd a hamdden yn unol â Pholisi Strategol STR/1;
Ailfodelu a datblygu Canolfan Siopa Bay View i’w integreiddio’n agosach â chanol y dref ac ardaloedd eraill, gyda darpariaeth adwerthu newydd yn unol â Pholisi Strategol CFS/1;
Gwelliannau i’r canolbwynt cludiant yn Sgwâr yr Orsaf gan gynnwys ailosod y priffyrdd a man cyhoeddus newydd yn unol â Pholisi Strategol STR/1.