Display Result » HOU/11
POLICY HOU/11 - CARTREFI GOFAL PRESWYL A THAI GOFAL YCHWANEGOL
O fewn Ardal y Cynllun bydd cynigion ar gyfer cartrefi gofal preswyl neu dai gofal ychwanegol ond yn cael eu caniatáu os bodlonir y meini prawf canlynol:
- Fod y llety gofal newydd wedi’i leoli naill ai o fewn ffiniau’r anheddiad a nodir yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol neu mewn Prif Bentref Haen 1;
- Ar gyngor gwasanaeth cymdeithasol y Cyngor ac/neu'r strategaeth tai a gan ystyried graddfa'r sefydliadau preifat ac awdurdod iechyd lleol presennol na fydd y cynnig yn arwain at orddarpariaeth o lety gofal o’i gymharu ag anghenion yr ardal leol;
- Bod modd gwasanaethu'r llety gofal newydd yn ddigonol;
- Bod y llety wedi’i leoli o fewn pellter cerdded rhesymol i ganol tref neu bentref.