Display Result » HOU/6
POLICY HOU/6 - SAFLEOEDD EITHRIEDIG GWLEDIG I DAI FFORDDIADWY AR GYFER ANGHENION LLEOL
Mae’n bosibl y caniateir cynlluniau tai sy’n darparu 100% AHLN fel eithriad i amgylchiadau polisi arferol yn unol â Pholisi Strategol HOU/1 a Pholisi HOU/2 cyn belled fod y meini prawf canlynol yn cael eu diwallu:
- Nad oes unrhyw safleoedd heb eu dyrannu yn dod ymlaen o fewn ffiniau datblygu neu derfynau’r anheddiad a allai ddiwallu'r angen hwn;
- Fod y cynnig yn gyfagos ac yn estyniad rhesymegol i’r ffin ddatblygu neu yn gyfagos i’r anheddiad presennol;
- Fod trefniadau diogel yn cael eu darparu i sicrhau fod pob annedd o fewn y cynllun yn darparu AHLN ac yn parhau felly am byth;
- Fod nifer, maint, math a daliadaeth yr anheddau yn cwrdd ag anghenion lleol a gyfiawnheir fel yr amlinellir yn yr arolwg anghenion tai lleol yn unol â Pholisi HOU/5;
- Fod yr unedau AHLN yn rhai o ansawdd uchel, wedi’u hadeiladu i Ofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth y Cynulliad – Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 yn unol â Pholisi HOU/2, Polisi Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ a’r Cod ar gyfer Tai Cynaliadwy;
- Fod y cais datblygu’n cwrdd â’r Meini Prawf Disgownt Gwerthu Tai Fforddiadwy'r Cyngor;
- Fod y cais datblygu’n diwallu'r gofynion a amlinellir yn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun.