Display Result » MWS/3
POLICY MWS/3 - DIOGELU CREIGIAU CALED WRTH GEFN
- Mae’r adnoddau a chyfleusterau perthnasol canlynol wedi’u cynnwys o fewn y dynodiad Craig Galed wedi’i Diogelu:
- Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Penmaenmawr, gan gynnwys mannau prosesu, rheilffordd a dolen gludo;
- Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Raynes, gan gynnwys mannau prosesu a’r mannau lle leolir y jeti a’r ddolen gludo;
- Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llanddulas (y tu allan i’r safle tirlenwi), gan gynnwys y mannau lle lleolir y jeti a’r hen ddolen gludo;
- Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llan San Siôr, gan gynnwys mannau prosesu;
- Creigiau caled wrth gefn ychwanegol sy’n ymestyn tua’r dwyrain o Hen Golwyn hyd at y ffin gyda Sir Ddinbych,, wedi’u nodi ar y Map Cynigion.
- Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o fewn y dynodiad Craig Galed wedi’i diogelu a allai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol niweidio hyfywdra gweithio’r adnoddau hyn yn y tymor hir.