Display Result » NTE/4
POLICY NTE/4 - BIOAMRYWIAETH
- Dylai datblygiadau newydd anelu i gadw a, lle bo'n bosibl, gwella bioamrywiaeth trwy:
- Leoli sensitif, gan osgoi safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u diogelu neu’r rhai o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol.
- Cynllunio a dylunio sensitif sy’n osgoi neu’n lliniaru unrhyw effeithiau anffafriol ar fioamrywiaeth sydd wedi’u nodi.
- Llunio rhaglen ddatblygu sy'n lliniaru effeithiau anffafriol ar fioamrywiaeth a rhywogaethau.
- Creu, gwella a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a thirweddau naturiol.
- Integreiddio camau bioamrywiaeth i'r amgylchedd adeiledig.
- Cyfrannu tuag at gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP).
- Darparu ar gyfer cytundeb rheoli gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleoli sicrhau cadwraeth a dyfodol buddiannau bioamrywiaeth yn y tymor hir.
- Dylai pob cynnig gynnwys Datganiad Bioamrywiaeth sy’n cydymffurfio â’r canllawiau a nodwyd yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol CDLl5: - ‘Bioamrywiaeth a Chynllunio’.
- Bydd y Cyngor yn gwrthod cynigion fydd yn cael effaith sylweddol ar Safle Ewropeaidd, rhywogaethau a warchodir neu sydd â blaenoriaeth neu eu cynefin, oni bai fod yr effaith honno wedi'i lliniaru'n ddigonol, a bod camau adfer a gwella priodol yn cael eu cynnig a'u sicrhau trwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio.
- Mewn sefyllfaoedd eithriadol, lle bo budd economaidd neu gymdeithasol yn bwysicach na’r niwed i safle neu rywogaeth bwysig, y dull gweithredu fydd ceisio osgoi neu leihau’r niwed i ddechrau ac yna ceisio lliniaru’r effaith i sicrhau na fydd unrhyw golled net i fioamrywiaeth. Defnyddir amodau ac ymrwymiadau cynllunio i sicrhau hyn.