Display Result » TOU/1
POLICY TOU/1 - TWRISTIAETH
Bydd y Cyngor yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd trwy hyrwyddo twristiaeth gydol y flwyddyn gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael ei warchod a:
- Cheisio gwella cysylltiadau a budd traws ffiniau gydag awdurdodau cyfagos, yn unol â Pholisi TOU/2 – ‘Lleoliad Datblygiad Twristiaeth Newydd’;
- Gwrthwynebu cynigion a fyddai'n arwain at golli llety sy’n cael ei wasanaethu, yn unol â Pholisi TOU/3 – ‘Ardal Llety Gwyliau’
- Rheoli datblygiad safleoedd newydd ac estyniadau i safleoedd presennol ar gyfer chalets, carafannau statig a theithiol a champio o fewn Ardal y Cynllun, yn unol â Pholisïau TOU/4 – ‘Safleoedd Chalets, Carafanau a Champio yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol’ a TOU/5 – ‘Safleoedd Chalets, Carafanau a Champio yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig’;
- Cefnogi mewn egwyddor, cynigion ar gyfer datblygiad cysylltiedig â thwristiaeth sy'n arallgyfeirio’r economi twristiaeth y tu allan i'r cyfnod brig gan gynnal ansawdd amgylcheddol a threftadaeth fel y nodwyd ym Mholisi TOU/6 – ‘Estyn y Tymor Gwyliau’;
- Gwella cysylltedd trwy gefnogi cyflenwi gwell cysylltiadau yn Harbwr Foryd, y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru, yn unol â Pholisi Strategol STR/1– ‘Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygiad a Hygyrchedd’ a Pholisi TOU/6 – ‘Estyn y Tymor Gwyliau’.