Display Result » TOU/5
POLICY TOU/5 - SAFLEOED CABANAU GWYLIAU, CARAFANNAU A GWERSYLLA YN YR ARDAL DDATBLYGU WLEDIG STRATEGOL
Dim ond os yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r meini prawf isod i gyd y caniateir safleoedd newydd yn yr ardal wledig ar gyfer cabannau pren, carafannau sefydlog neu feysydd gwersylla:
- Mae’r safle’n estyn cyfadeiladau twristiaeth bresennol;
- Mae graddfa’r safle’n fach ac nid yw’n cynnwys darparu mwy na 10 llain ychwanegol yn ystod cyfnod y cynllun;
- Ni fydd y datblygiad i’w weld yn ymwthio i’r tirlun a bod cynllun tirlunio manwl yn cael ei gyflwyno yn ogystal ag Asesiad Cymeriad Ardal LandMap;
- Nid fydd y cynllun yn arwain at grynhoi safleoedd na lleiniau’n annerbyniol mewn un lleoliad neu ardal;
- Bod Datganiad Bioamrywiaeth yn cael ei gyflwyno gyda’r cais i ddangos sut fydd bioamrywiaeth ar ei hennill;
- Bod modd cael mynedfa addas ac nid yw’r datblygiad yn creu risg annerbyniol i ddiogelwch priffyrdd.