4. POLISÎAU GOFODOL, DIAGRAMAU ALLWEDDOL A PHOLISÎAU RHEOLI DATBLYGIAD CEFNOGOL

Egwyddorion Datblygu

Egwyddorion sy'n Pennu Lleoliad Datblygiad

4.1.

Cyflwyniad

Mae egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn greiddiol i Gynllun Datblygu Lleol Conwy. Mae datblygiad cynaliadwy yn golygu cyflawni twf economaidd a symud anghyfartaledd cymdeithasol ac ar yr un pryd amddiffyn a gwella'r amgylchedd. Nod Polisïau Gofodol yw sicrhau bod lleoliad, graddfa a'r math o ddatblygiad a ganiateir yn dilyn egwyddorion datblygiad cynaliadwy ac yn cyflawni enillion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghonwy.

4.2.

Bwriedir lefelau uchel o ddatblygiadau newydd, yn enwedig, o fewn lleoliadau hygyrch y Strategaeth Datblygu Trefol Conwy ar hyd llain yr arfordir dros gyfnod y cynllun. Nid canlyniad uniongyrchol datblygiadau a gwblhawyd yn y gorffennol a thueddiadau o fewn ardal llain yr arfordir yw hyn, ond canlyniad cysylltiadau'r ardal a'i phwysigrwydd ar gyfer cyflogaeth, ei hygyrchedd a'r galw a natur atyniadol yr ardal fel lle da i fyw ynddo. Cefnogir y Strategaeth Datblygu Trefol yma gan Strategaeth Datblygu Gwledig sy'n pennu'r dull ar gyfer cwrdd ag anghenion aneddiadau gwledig o fewn Conwy. Mae cymeriad gwledig yn bennaf a dyluniad generig y gorffennol y Fwrdeistref Sirol yn ei gwneud yn arbennig o bwysig lleoli datblygiadau newydd mewn modd sensitif a'u dylunio i ansawdd uchel er mwyn cyfrannu at gwrdd â'r amcanion uchod.

4.3.

Rhoddwyd ystyriaeth i nifer o egwyddorion wrth ddyrannu tir yn y CDLl hwn ac mae angen rhoi ystyriaeth gyflawn iddynt mewn datblygiadau newydd arfaethedig, boed fawr neu fach ac ar gyfer pa ddiben bynnag a boed yn adeiladau newydd neu'n addasiadau i adeiladau sy'n bod eisoes, fel bod rhinweddau arbennig ardal yn parhau. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn hyrwyddo mannau cynaliadwy ansawdd uchel lle mae pobl yn dymuno byw, gweithio ac ymlacio ynddynt. Mae'r bennod hon felly yn cynnwys polisïau sy'n ymwneud â datblygiad cynaliadwy, ansawdd dyluniad, egwyddorion sy'n pennu lleoliad datblygiad, meini prawf datblygu, cyfraniad y datblygwr, arweiniad cenedlaethol a chyd-destun ystyriaethau perthnasol. Polisïau DP/1 'Datblygiad Cynaliadwy', DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol', DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd' a DP/4 ‘Meini Prawf Datblygu’, DP/5 'Isadeiledd a Datblygiad Newydd', DP/6 'Canllawiau Cenedlaethol' a DP/7 'Ystyriaeth Berthnasol' a nodir yn y meini prawf blaenoriaeth y bydd angen i ddatblygiad newydd eu cwrdd, mewn egwyddor, wrth gyflawni datblygiad sy'n gynaliadwy ac wedi ei leoli'n briodol.

4.4.

Mae polisïau a nodir yn yr Adran hon gefnogi'r egwyddorion datblygu hyn ymhellach. Mae pob datblygiad a ddyrennir o fewn y CDLl yma wedi bod yn ddarostyngedig i'r egwyddorion datblygu a nodwyd ym mholisïau DP/1 a DP/2 (gweler BP/21 'Gallu i Ddarparu') ac sy'n cael eu hystyried fel y dewisiadau mwyaf cynaliadwy sydd ar gael yn unol â'r rhan fwyaf o'r meini prawf. Yn unol â hynny, bydd angen i gynigion datblygu yn y dyfodol fodloni egwyddorion sy'n pennu lleoliad datblygiad a hierarchaeth anheddiadau er mwyn sicrhau bod datblygiad cynaliadwy yn cael ei gyflawni yn ogystal â pholisïau cysylltiedig eraill o fewn y CDLl.

4.5.

Mae'n rhaid i bob cynnig ar gyfer datblygu a defnyddio tir fod yn gynaliadwy a chyfrannu at gwrdd ag anghenion y gymuned leol. Er mwyn cynaliadwyedd, lleolir twf yn y prif leoliadau trefol ar lain yr arfordir o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol fel y lleoliadau mwyaf hygyrch a chynaliadwy gan gydymffurfio â'r Strategaeth Gofodol a DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol'. Wrth sicrhau datblygiad cynaliadwy, aseswyd pob un o'r lleoliadau hygyrch hyn yn erbyn y meini prawf datblygiad cynaliadwy yn DP/1 'Egwyddorion Datblygiad Cynaliadwy' gan bennu'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygiad. Bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hyn.

4.6.

Bydd rôl swyddogaeth gwasanaeth y Prif Bentref i'r Pentrefi Bychain a Phentrefannau yn cael ei hamddiffyn, ei chynnal a'i datblygu ymhellach. Bydd cymeriad a bywiogrwydd y Pentrefi Bychain a'r Pentrefannau yn cael eu gwarchod gyda datblygiad graddfa fach yn dderbyniol ar yr amod ei fod yn 100% AHLN, o safon dyluniad uchel, ac yn gydnaws â chymeriad yr ardal leol.

4.7.

Bydd pob cynnig datblygu yn cael ei asesu yn nhermau'r anghenion a nodwyd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a'u heffaith posib ar gymunedau a'r amgylchedd. Disgwylir i gynigion datblygu wneud defnydd effeithlon o'r tir a mabwysiadu dull dilyniannol sy'n rhoi blaenoriaeth i leoliadau hygyrch a Thir a Ddatblygwyd o'r Blaen. Dylai cynigion yn Ardal y Cynllun geisio hyrwyddo cynaliadwyedd trwy arddangos bod y meini prawf canlynol a nodwyd ym Mholisi DP/1 ‘Datblygiad Cynaliadwy’ wedi cael eu hystyried a lle darperir mesurau priodol:

POLISI DP/1 - EGWYDDORION DATBLYGIAD CYNALIADWY View Map of this site ?

  1. Caniateir datblygiad yn unig lle dangosir ei fod yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Mae'n ofynnol i bob datblygiad:
  1. Cydymffurfio ag arweiniad cenedlaethol yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’
  2. Bod yn gyson â’r dull dilyniannol a nodir ym Mholisi Gofodol DP/2 ‘Dull Strategol Trosfwaol’;
  3. Gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o dir, adeiladau ac isadeiledd trwy roi blaenoriaeth i'r defnydd o dir a ddatblygwyd yn barod mewn lleoliadau hygyrch, cyflawni ffurfiau o ddatblygiad cywasgedig trwy ddefnyddio dwyseddau uwch ac y gellir eu haddasu yn y dyfodol; yn unol â DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun;
  4. cadw neu wella ansawdd adeiladau, safleoedd a mannau o bwysigrwydd hanesyddol, archeolegol neu bensaernïol yn unol â pholisi CTH/1 'Yr Amgylchedd Hanesyddol';
  5. cadw neu wella ansawdd bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt, a diogelu rhywogaethau a warchodir yn unol â pholisi NTE/1 'Yr Amgylchedd Naturiol' ;
  6. rhoi ystyriaeth ac ymdrin â'r perygl o lifogydd a llygredd ar ffurf sŵn, golau, dirgryniadau, arogl, allyriadau neu lwch yn unol â DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' a DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd';
  7. gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau trwy ddefnyddio technegau adeiladu cynaliadwy, ymgorffori mesurau cadwraeth ynni a dŵr a, lle bynnag y mae hynny'n bosib, defnyddio ynni adnewyddadwy, yn unol â DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd' a NTE/1 'Yr Amgylchedd Naturiol;
  1. Lle mae hynny’n briodol dylai cynigion datblygu hefyd
  1. darparu mynediad diogel a hwylus trwy drafnidiaeth cyhoeddus, neic ac ar droed i leihau'r angen i deithio mewn ceir yn unol â Pholisi DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' a STR/1 'Trafnidiaeth Cynaliadwy';
  2. cynnwys mesurau i reoli traffig a lleihau tagfeydd sy'n codi yn unol â STR/1 ''Trafnidiaeth Cynaliadwy';
  3. darparu ar gyfer isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n ofynnol oherwydd y datblygiad, yn unol â Pholisïau DP/4 'Meini Prawf Datblygu', DP/5 'Datblygiad ac Isadeiledd' a Monitro a Gweithredu'r Cynllun;
  4. cael eu dylunio i safon uchel, gan fod yn ddeniadol, hwylus i'w haddasu, hygyrch, a diogel fel nodir yn DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd;
  5. hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy yn unol â EMP/1 ‘Cwrdd ag Anghenion Cyflogaeth’;
  6. cadw neu wella ansawdd mannau agored gwerthfawr, cymeriad ac ansawdd tirweddau lleol a chefn gwlad ehangach yn unol â pholisi NTE/1 ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ a CFS/1 'Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol';
  7. rhoi ystyriaeth ac ymdrin ag effaith posib ar newid hinsawdd yn unol â pholisi NTE/1 ‘Yr Amgylchedd Naturiol’;
  8. amddiffyn ansawdd adnoddau naturiol cynnwys dŵr, aer a phridd yn unol â NTE1 ‘Yr Amgylchedd Naturiol’;
  9. lleihau cynhyrchu gwastraff a rheoli ailgylchu gwastraff yn unol â MWS/1 ‘Rheoli Gwastraff’.
  1. Ar gyfer datblygiad sylweddol mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno Datganiad Cynaliadwyedd i arddangos bod egwyddorion datblygiad cynaliadwy wedi’u defnyddio.

 

 

4.8.

Mae egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn sylfaenol i ymrwymiadau rhyngwladol a pholisi cynllunio strategol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r egwyddorion hyn hefyd yn sail i'r strategaeth, a holl bolisïau a chynigion CDLl Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae o bwysigrwydd allweddol i lwyddiant parhaus y Fwrdeistref Sirol bod datblygiad yn gynaliadwy ac yn cyfrannu at gyflawni enillion amgylcheddol, economaidd a cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a'r dyfodol.

4.9.

Mae'r polisi allweddol yma yn dwyn ynghyd materion cynaliadwyedd er mwyn sicrhau bod egwyddorion sylfaenol datblygiad cynaliadwy yn sylfaen i bob cynnig datblygu. Trafodir y materion hyn mewn mwy o fanylder mewn penodau dilynol. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at faterion cynaliadwyedd allweddol dulliau a deunyddiau adeiladu, a fydd yn rhan o ystyriaeth gyffredinol y cynnig datblygu, ond nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r system gynllunio.

4.10.

Mae'n ofynnol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad sylweddol gyflwyno Arfarniad o Gynaladwyedd i dangos eu bod wedi ymdrin â materion cynaliadwyedd, yn cynnwys effaith ar iechyd, yn eu cynigion datblygu. Cyfeirir at brif ddatblygiadau trwy gydol y CDLl hwn. Lle mae polisi neu destun cefnogol yn cyfeirio ar brif ddatblygiad, fe'i diffinnir fel:

  • Datblygiad preswyl: codi 20 neu fwy o anheddau, neu, os nad yw hynny'n wybyddus lle mae arwynebedd y safle yn 0.5 hectar neu fwy; neu
  • datblygiad arall lle bydd yr arwynebedd llawr yn 1,000 m2 neu fwy, neu lle mae arwynebedd y safle yn 1 hectar neu fwy.

4.11.

Er mwyn cynorthwyo wrth baratoi datganiad Cynaliadwyedd, rhoddir arweiniad pellach yn y Canllawiau Cynllunio Atodol.

Dull Strategol Trosfwaol

Amcanion Strategol

SO1. Hyrwyddo lefelau datblygiad sy'n cyfrannu at warchod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ac sy'n cwrdd ag anghenion y gymuned trwy leoli datblygiad lle mae hynny'n ymarferol ar dir a ddefnyddiwyd o'r blaen, yn bennaf mewn lleoliadau trefol ar yr arfordir, ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, a thrwy sicrhau dwysedd effeithlon o ddatblygiad sy'n gydnaws ag amwynder lleol.

SO3. Darparu tir i alluogi cyflenwad digonol ac amrywiol o dai i gyfrannu at anghenion, yn cynnwys tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol ac i gwrdd â'r angen ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ar raddfa sy’n gyson â gallu ardaloedd a chymunedau gwahanol i dyfu.

SO4. Adnabod a diogelu tir i gyfrannu at gwrdd â defnydd cyflogaeth B1 (Busnes) B2 (Diwydiannol Cyffredinol) a B8 (Storio a Dosbarthu), gan ganolbwyntio'n benodol ar gyfleoedd cyflogaeth gwerth uwch o gwmpas ffocws strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn, ffocws strategol Y Rhyl, Llanelwy, Bodelwyddan a Phrestatyn, yn cynnwys Bae Cinmel.

SO7. Canolbwyntio datblygiadau ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, ac yn benodol mewn lleoliadau sy'n hwylus i gerddwyr, beicwyr a chludiant cyhoeddus.

POLISI DP/2 - DULL STRATEGOL TROSFWAOL View Map of this site ?

  1. Bydd y datblygiad yn cael ei leoli yn unol â’r dull strategol trosfwaol a nodir isod:

Ardaloedd Trefol

Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (yn cynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn, Conwy, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Bae Penrhyn /Ochr Penrhyn a Thywyn/Bae Cinmel.

Bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yn digwydd o fewn ac ar ymyl yr ardaloedd trefol hyn. Dros gyfnod y cynllun bydd tua 90% o'r datblygiadau tai a 80% o ddatblygiadau cyflogaeth (B1, B2 a B8) (trwy ddatblygiadau a gwblhawyd, ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd) yn cael eu lleoli'n bennaf, o fewn ac ar ymyl yr ardaloedd trefol er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau gofodol cyfrannu at greu cymunedau cynaliadwy.

Bydd Ardaloedd Trefol yn allweddol wrth ddarparu cyfuniad o'r farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol (AHLN) ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd. Bydd ffiniau anheddiad yn cael eu haddasu i adlewyrchu'r datblygiad arfaethedig. Caniateir AHLN hefyd ar safleoedd eithrio gerllaw Llanrwst.

Prif Bentrefi

Haen 1: Llanddulas, Dwygyfylchi, Llysfaen, Glan Conwy

Haen 2: Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Trefriw* a Thal-y-Bont/Castell*

Bydd graddfa datblygiad arfaethedig y dyfodol yn adlewyrchu anghenion yr aneddiadau o safbwynt maint a swyddogaeth a'u perthynas corfforol a swyddogaethol ag ardaloedd trefol. Mae Prif Bentrefi yn darparu gwasanaeth swyddogaethol ar gyfer y Pentrefi Bychain a Pentrefannau a bydd hyn yn cael ei gynnal a'u ddatblygu ymhellach i gwrdd ag anghenion y cymunedau. Dros gyfnod y cynllun bydd tua 10% o'r datblygiadau tai ac 20% o'r datblygiadau cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn cael eu lleoli o fewn Prif Bentrefi, Pentrefi Bychain a Pentrefannau, ond yn bennaf ym Mhrif Bentrefi Haen 1 a Haen 2 a'u cyflenwi trwy ddatblygiadau a gwblhawyd, ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd. Er mwyn adlewyrchu cyfyngiadau datblygu yn Nolgarrog, Tal-y-Bont a Threfriw, bydd datblygiad yn gyfyngedig ac yn cael ei hyrwyddo trwy ddatblygu o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o bris y farchnad ac AHLN a Phentrefi Haen 2 yn darparu ar gyfer AHLN yn unig ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd ar raddfa lai na'r hyn a ganiateir mewn Ardaloedd Trefol. Ni chaniateir datblygu pellach y tu allan i ffiniau anheddiad, ac eithrio AHLN graddfa lai 100% ar safleoedd eithrio i hyrwyddo cymunedau cynaliadwy yn unol â Pholisi HOU/5;

Pentrefi Bychain

Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Llan San Siôr, Tal-y-Cafn a Thyn-y-Groes

Bydd datblygiad cyfyngedig yn digwydd yn y Pentrefi Bychain er mwyn amddiffyn cymeriad yr ardal, cefnogi AHLN a chyfran at greu cymunedau cynaliadwy. Dros gyfnod y cynllun, ni ddyrennir unrhyw safleoedd tai'r farchnad neu safleoedd cyflogaeth, ac ni fydd ffiniau aneddiadau yn cael eu llunio o gwmpas y Pentrefi Bychain. Bydd AHLN unigol neu ystadau bach o AHLN o fewn, neu ar ymyl, Pentrefi Bychain, ar Hap-Safle, yn dderbyniol fel eithriadau, ar yr amod bod y datblygiad arfaethedig yn cwrdd â Pholisi HOU/5.

Pentrefannau

Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan a Than-y-Fron

Dros gyfnod y cynllun, ni roddir dyraniadau ar gyfer datblygiad o fewn y Pentrefannau. Caniateir datblygiad yn unig mewn amgylchiadau eithriadol. Un eithriad fyddai lle byddai datblygiad yn darparu anghenion AHLN unigol mewn lleoliadau derbyniol a chynaliadwy.

  1. Ar ben hyn bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn:
  1. a. Monitro cyflenwi'r datblygiad mewn perthynas â'r gofynion
  2. b. Addasu amseru rhyddhau safleoedd tir glas fel sy'n briodol yng ngoleuni’r; monitro

 

* Yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

4.12.

Mae'r Dull Strategol Trosfwaol yn diffinio'r fframwaith ar gyfer lleoli'r datblygiad. Mae hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod cefn gwlad yn cael ei warchod rhag datblygiadau ymwthiol graddol ar ymyl pentrefi a helpu i warchod rhag twf graddol mewn lleoliadau anghynaliadwy. Fodd bynnag, yn gyffredinol cefnogir ailddefnyddio effeithlon tir a ddatblygwyd yn barod o fewn fframweithiau datblygu, yn amodol ar fodloni'r polisïau perthnasol, er budd cynaliadwyedd. Diffiniwyd fframweithiau er mwyn ystyried maint presennol yr ardal adeiledig, datblygiadau yr ymrwymwyd iddynt gan ganiatâd cynllunio a chynigion eraill a gafodd eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'n bwysig o safbwynt polisi cynllunio cyfyngu ar faint o ddatblygiadau newydd a ganiateir mewn ardaloedd gwledig sydd ag ychydig o wasanaethau a dim llawer neu ddim trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl.

4.13.

Gweledigaeth y Strategaeth Gymunedol Gynaliadwy ar gyfer Conwy yw creu 'Sir o harddwch naturiol eithriadol, a fydd yn parchu, diogelu a hybu ei hamgylchedd a'i threftadaeth; cymuned sy'n gofalu am y rhai anghenus ac sy'n estyn croeso cynnes i'r ymwelwyr niferus a ddaw yno a phobl sy'n dathlu amrywiaeth ac sydd a'u holl fryd ar sicrhau dyfodol hyfyw a ffyniannus i bawb.' Mae Conwy yn wynebu strwythur demograffig heriol.

4.14.

Er mwyn cyfrannu at gyflawni’r materion blaenoriaeth o amddiffyn yr amgylched naturiol ac adeiledig a darparu tir i gwrdd ag AHLN, mae'r Cyngor yn hyrwyddo lefel o ddatblygiad dros gyfnod y cynllun sy'n ceisio chwarae rhan mewn cyflenwi'r materion blaenoriaeth hyn. Ni ellir hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys ac atal dirywiad pellach yn y gweithlu trwy'r lefel twf ym. Fodd bynnag, i annog ein poblogaeth ifanc ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i aros a gweithio yn yr ardal, mae'r Cynllun yn hyrwyddo cynnig cyflogaeth amrywiol, safonau dyluniad uchel, a chyflenwi math priodol o dai fforddiadwy a daliadaeth ar gyfer angen lleol. Wrth fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n wynebu Conwy, bydd datblygiadau yn cael eu canoli yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy, yn unol â pholisi DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' yn Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol Abergele, Bae Colwyn, Llandudno a Chyffordd Llandudno. Mae'r Cyngor yn canoli datblygiad yn yr ardaloedd hyn, nid oherwydd mai dyma lle mae datblygiad wedi digwydd yn hanesyddol yn y gorffennol, ond oherwydd ar ôl ystyried arweiniad cenedlaethol a meini prawf cynaliadwyedd, bod y lleoliadau hyn yn hygyrch i gyfleusterau a gwasanaethau allweddol, yn meddu cyswllt agos ag ardaloedd cyflogaeth, wedi eu cefnogi gan rwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd strategol a hefyd yn cynrychioli ardaloedd lle nodwyd angen am AHLN.

4.15.

Aseswyd addasrwydd safleoedd ar gyfer datblygiad preswyl, busnes neu ganol tref newydd trwy fabwysiadu dull cynllun, monitro, a chyflwyno fesul cam tuag at ddarparu. Mae hyn wedi cynnwys:

  • Adnabod gofynion strategol ar gyfer y ffurf hynny o ddatblygiad a chynnal asesiadau lleol o'r angen a'r cyflenwad posib.
  • Dyrannu safleoedd priodol ar gyfer datblygu i gwrdd â'r gofynion hynny trwy fabwysiadu dull dilyniannol, gan roi'r flaenoriaeth uchaf i dir ac adeiladau o fewn ardaloedd trefol. Lle nad oes modd cwrdd ag anghenion yn y ffordd yma, rhoddwyd ystyriaeth nesaf i safleoedd sy'n ymestyn yr aneddiadau hyn ac sy'n hygyrch i drafnidiaeth cyhoeddus o ansawdd da ac yn olaf, lle mae angen, i safleoedd o gwmpas nodau mewn coridorau trafnidiaeth cyhoeddus o ansawdd da; rhoi blaenoriaeth yn gyntaf i ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddatblygwyd o'r blaen cyn ystyried defnyddio tir glas addas; rhoi blaenoriaeth i safleoedd sy'n hygyrch i drafnidiaeth cyhoeddus, ar droed a beic a rheilffyrdd a dŵr ar gyfer dibenion cynhyrchu symudiadau cludo nwyddau mawr; ac osgoi safleoedd sy'n cael effaith niweidiol ar asedau ac adnoddau amgylcheddol Conwy.
  • Cyflwyno'r dyraniadau yn raddol yn unol â'r dull dilyniannol a nodwyd uchod ac yn y Cynllun Darparu Tai a Chyflwyno fesul Cam (adran 5) a rhoi blaenoriaeth i ryddhau safleoedd sy'n dod yn gynt yn y drefn chwilio.
4.16.

Bydd y Cyngor yn amddiffyn ystadau diwydiannol cyflogaeth trefol presennol ym Mharc Busnes Mochdre, Ystadau Diwydiannol Tir Llwyd a Thre Marl ac yn hyrwyddo twf pellach lle dangoswyd bod galw. Bydd y dull gweithredu yma yn amddiffyn ein pentrefi a chefn gwald trwy leihau nifer y datblygiadau sy'n digwydd ar dir glas. Bydd hefyd yn helpu i wella trafnidiaeth yn y Fwrdeistref Sirol trwy leoli tai, cyflogaeth a gwasanaethau mewn lleoliadau hygyrch. Bydd hyn yn cyfrannu at leihau'r angen i deithio mewn ceir yn ogystal â gwneud defnydd da o isadeiledd presennol a Thir a Ddatblygwyd o'r Blaen.

4.17.

Er mwyn amddiffyn a lle mae hynny'n bosib, i wella cymeriad y Prif Bentrefi a'r Pentrefi Bychain, Pentrefannau a chefn gwlad, byd dyno dwf cynaliadwy cyfyngedig sy'n darparu ar gyfer anghenion trigolion ac yn hyrwyddo cymunedau cynaliadwy. Bydd gweithredu safleoedd eithrio a safleoedd 100% a ddyrannwyd ar gyfer AHLN yn ffurfio sail ar gyfer cyflenwi'r AHLN yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Gwledig.

Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd

Amcanion Gofodol

SO10. Gwella dyluniad adeiladau, yn cynnwys dylunio i osgoi cyfleoedd ar gyfer trosedd er mwyn datblygu cymunedau cryf a diogel.

SO11. Lleihau’r defnydd o ynni trwy leoli a dylunio adeiladau’n ofalus a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy lle mae posibilrwydd y byddant yn ddeniadol o safbwynt economaidd ac yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

SO14. Hyrwyddo’r defnydd darbodus o adnoddau trwy leihau gwastraff a chynorthwyo i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n gyson ag anghenion yr ardal a’r hierarchaeth wastraff.

POLISI DP/3 - HYRWYDDO ANSAWDD DYLUNIO A LLEIHAU TROSEDD View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn annog dylunio o safon uchel sy’n darparu mannau defnyddiol, diogel, parhaol a derbyniol, ac yn amddiffyn cymeriad lleol a hynodrwydd amgylchedd adeiledig hanesyddol a naturiol Ardal y Cynllun. Bydd y Cyngor yn mynnu bod datblygiad:
  1. yn addas ar gyfer ei gyffiniau o ran ffurf, graddfa, crynswth, manylion edrychiad a’r defnydd o ddeunyddiau;
  2. yn bodloni safonau cymeradwy’r Cyngor o ran darparu mannau agored a mannau parcio, ac ar yr un pryd yn darparu ar gyfer pob oedran, anghenion hygyrchedd, a phobl sydd ag anableddau;
  3. yn talu sylw i’r effaith ar eiddo cyfagos, ardaloedd a chynefinoedd sy’n cynnal rhywogaethau a ddiogelir;
  4. yn talu sylw i effeithiolrwydd ynni a’r defnydd o ynni adnewyddadwy o ran dyluniad, gosodiad, deunyddiau a thechnoleg yn unol â NTE/11;
  5. yn darparu systemau draenio trefol cynaliadwy i gyfyngu ar ddŵr gwastraff a llygredd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd yn unol â chanllawiau cenedlaethol a Pholisi NTE/11;
  1. Pan fo hynny’n briodol, bydd y Cyngor hefyd yn ceisio
  1. gwella cymeriad lleol adeiladau, treftadaeth a mannau agored;
  2. darparu ar gyfer cymysgedd cydnaws o ddefnyddiau, yn arbennig yng nghanol trefi a phentrefi;
  3. ymgorffori tirlunio o fewn ac o amgylch y datblygiad, yn briodol i raddfa ac effaith y datblygiad;
  4. integreiddio a llwybrau presennol i ddarparu mannau cydgysylltiedig sy’n cysylltu â’r ardal ehangach, a chyfleusterau cyhoeddus a llwybrau trafnidiaeth gwyrdd yn enwedig;
  5. darparu datblygiadau sy’n cynnig dewisiadau trafnidiaeth amgen ac yn hyrwyddo cerdded, beicio a’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus;
  6. creu mannau diogel trwy fabwysiadu egwyddorion dylunio i osgoi trosedd er mwyn darparu gwyliadwriaeth naturiol, gwelededd ac amgylcheddau wedi’u goleuo’n dda ac ardaloedd lle mae’r cyhoedd yn symud o gwmpas;
  7. sicrhau bod nodweddion bioamrywiaeth yn cael eu cadw a’u gwella;
  8. ymgorffori ardaloedd a chyfleusterau rheoli gwastraff, cronni/storio dŵr glaw, ailddefnyddio dŵr llwyd ac ailgylchu;
  9. talu sylw i Ganllawiau Mabwysiadu Ffyrdd yr Awdurdod wrth gynllunio ffyrdd.
  1. Dylai cynigion datblygu gynnwys Datganiad Dylunio a Mynediad. Dylai Datganiadau Dylunio a Mynediad gynnwys, pan fo’n briodol:
  1. Dadansoddiad safle llawn o nodweddion a dynodiadau presennol;
  2. Arolwg safle manwl gywir yn cynnwys nodweddion tirlunio a lefelau’r safle;
  3. Y berthynas rhwng y safle a’r hyn sydd o’i amgylch;
  4. Mynedfeydd presennol i gerddwyr, beicwyr, marchogion ceffylau a cherbydau;
  5. Unrhyw bwysigrwydd hanesyddol hysbys;
  6. Cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar effeithiolrwydd ynni a mynd i’r afael â materion dŵr, gwastraff a draenio;
  7. Dangos y bydd y datblygiad yn sicrhau amgylchedd cynhwysol y gall pawb ei ddefnyddio, waeth beth fo’u hoed, rhyw neu anabledd;
  8. Delio â’r ffordd y mae’r datblygiad wedi ystyried polisïau trafnidiaeth y cynllun datblygu.
  1. Ar gyfer datblygiad newydd mawr bydd y Cyngor yn ceisio cyfraniad ar ffurf canran gytunedig o gyfanswm y costau datblygu i ddarparu neu gomisiynu gweithiau celf neu wella dylunio sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn unol â DP/4 ‘Meini Prawf Datblygu’, pan fo hynny’n briodol i’w leoliad ac os nad yw’n tanseilio hyfywdra’r datblygiad.

 

 

4.18.

Bydd pob datblygiad newydd yn cael effaith ar yr hyn sydd o’i amgylch. Y nod fydd bod unrhyw ddatblygiad, o estyniad trefol i estyniad i gartref presennol, yn cymryd pob gofal priodol i ymateb i’r hyn sydd o’i amgylch, yn cynnwys adeiladau, mannau agored ac ymylon pentrefi, ac yn sicrhau cynllun integredig nad yw’n niweidio amwynder lleol ac sy’n dod â manteision i’r ardal, pryd bynnag y bo modd. Mae dyluniad o safon uchel yn fater y mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth iddo, yn elfen allweddol mewn datblygu cynaliadwy ac yn sicrhau mannau deniadol a defnyddiol a all ddod â manteision sylweddol i’r datblygiad ei hun, y trigolion, yr amgylchedd a’r gymuned. Bydd datblygiadau sydd wedi’u dylunio’n wael yn creu adeiladau a mannau hyll. Gallant leihau’r cysyniad o ddiogelwch, cynyddu trosedd, rhwystro ailgylchu, cynyddu’r defnydd o ynni, rhwystro trigolion rhag gwneud ymarfer corff a hyrwyddo teithio anghynaladwy. Ni fydd datblygiadau a ddyluniwyd i safon uchel yn cael eu derbyn ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

4.19.

Bydd pob datblygiad newydd yn cael effaith ar yr hyn sydd o’i amgylch. Y nod fydd bod unrhyw ddatblygiad, o estyniad trefol i estyniad i gartref presennol, yn cymryd pob gofal priodol i ymateb i’r hyn sydd o’i amgylch, yn cynnwys adeiladau, mannau agored ac ymylon pentrefi, ac yn sicrhau cynllun integredig nad yw’n niweidio amwynder lleol ac sy’n dod â manteision i’r ardal, pryd bynnag y bo modd. Mae dyluniad o safon uchel yn fater y mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth iddo, yn elfen allweddol mewn datblygu cynaliadwy ac yn sicrhau mannau deniadol a defnyddiol a all ddod â manteision sylweddol i’r datblygiad ei hun, y trigolion, yr amgylchedd a’r gymuned. Bydd datblygiadau sydd wedi’u dylunio’n wael yn creu adeiladau a mannau hyll. Gallant leihau’r cysyniad o ddiogelwch, cynyddu trosedd, rhwystro ailgylchu, cynyddu’r defnydd o ynni, rhwystro trigolion rhag gwneud ymarfer corff a hyrwyddo teithio anghynaladwy. Ni fydd datblygiadau a ddyluniwyd i safon uchel yn cael eu derbyn ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

4.20.

Yn ôl Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Adeiladau Rhestredig 1990 (y ddau wedi’u diwygio gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004) rhaid i’r mwyafrif o geisiadau am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig gynnwys Datganiad Dylunio a Mynediad. Bydd y datganiadau hyn yn galluogi ymgeiswyr i brofi i’r Cyngor eu bod wedi rhoi ystyriaeth briodol i effaith eu cynnig ac wedi ystyried yr holl ffactorau perthnasol wrth ddylunio’r cynllun, yn cynnwys materion tirlunio. Mae’n bwysig fod datblygiadau yn hygyrch i bawb, ac mae elfen fynediad y Datganiadau yn darparu dull o sefydlu bod y nod hwn yn cael ei gyflawni. Bydd lefel manyldeb y Datganiadau yn amrywio yn ôl graddfa a chymhlethdod y cais. Mae’r polisi yn nodi’r materion y dylai’r Datganiadau ymdrin â hwy.

4.21.

Dylai datblygu dealltwriaeth o nodweddion a chyd-destun ardal bob amser fod yn rhan o’r gwaith a wneir cyn llunio cynnig datblygu. Bydd dull sy’n seiliedig ar ddylunio yn sicrhau bod pob cynnig, beth bynnag fo’i raddfa, yn ymateb yn gadarnhaol i nodweddion penodol safle, yr hyn sydd o’i amgylch, gofynion y gymuned, a’i fod yn gwella hynodrwydd yr ardal a chymeriad y dirwedd.

4.22.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cydnabod y gall dyluniad adeiladau a gofodau wneud cyfraniad sylweddol at leihau’r posibilrwydd o drosedd, a chreu amgylcheddau mwy pleserus i fyw ynddynt sy’n tawelu meddyliau’r trigolion. Er enghraifft, mae mannau agored yn fannau anadlu gwyrdd mewn aneddiadau a gall plant eu defnyddio i chwarae, ar gyfer cerdded a chwaraeon, yn ogystal â bod iddynt werth cyffredinol o ran amwynder ar yr amod eu bod yn ddiogel, a bod pobl yn credu eu bod yn ddiogel. Rhaid cymryd gofal gyda dyluniad a gosodiad datblygiadau newydd, er enghraifft, trwy ddilyn y canllawiau ‘Diogelu Drwy Ddylunio’ cenedlaethol. Gall dylunio da olygu bod cymdogion yn edrych dros fannau cyhoeddus a gellir osgoi creu llwybrau dianc posibl. Mae’n bosibl dylunio i atal trosedd ym mhobman; stadau tai, canol trefi, parciau ac ardaloedd diwydiannol a dylid delio ag unrhyw broblemau yn ystod camau cynnar y broses ddylunio.

4.23.

Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar bolisi’n disgrifio egwyddorion sylfaenol y mae angen ymateb iddynt os yw datblygiadau i arddangos cymeriad, cyd-fynd â’r hyn sydd o’u cwmpas, a darparu amgylcheddau deniadol a chynaliadwy i ddefnyddwyr. Yn ogystal â bod yn hynod bwysig i bob prosiect newydd, bydd amryw o’r meini prawf hefyd yn berthnasol wrth ystyried addasiadau ac estyniadau i adeiladau sydd eisoes yn bod. Er mwyn cymhwyso’r meini prawf yn llwyddiannus, mae’n hanfodol fod cynigion dylunio’n deillio o ddealltwriaeth o’r safle a’i gyd-destun, yn hytrach na dibynnu ar y defnydd diddychymyg o gynlluniau safle a mathau o adeiladau safonol. Mae’n bwysig bod deunydd darluniadol a/neu ysgrifenedig addas yn cyd-fynd â phob cynllun, er mwyn dangos sut mae’r dyluniad wedi esblygu ac wedi ystyried y pwyntiau hyn.

Meini Prawf Datblygu

Amcanion Gofodol

SO1. Hyrwyddo lefelau datblygu sy’n cyfrannu at amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ac sy’n bodloni anghenion y gymuned trwy leoli datblygiad, os yw hynny’n ymarferol, ar dir a ddefnyddiwyd o’r blaen, yn bennaf mewn trefi ar hyd yr arfordir, ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, a thrwy sicrhau dwysedd datblygu effeithiol sy’n gydnaws ag amwynder lleol.

SO13. Gwneud gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol yn fwy hygyrch, yn cynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden.

POLISI DP/4 - MEINI PRAWF DATBLYGU View Map of this site ?

  1. Pan fo’n briodol, dylai cynigion datblygu ddarparu’r canlynol, yn unol â pholisïau’r Cynllun a Safonau’r Cyngor:
  1. Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ac eithrio anheddau unigol mewn ardaloedd trefol a Phrif Bentrefi Haen 1 lle ceir cyfraniad ariannol;
  2. Mynediad diogel o’r rhwydwaith priffyrdd, gan wella’r isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded;
  3. Lle parcio ceir;
  4. Lle diogel i barcio beiciau;
  5. Man Agored;
  6. Mynediad diogel a hwylus i bob adeilad a gofod cyhoeddus, yn cynnwys y bobl hynny sy’n cael trafferth i symud o gwmpas neu sydd ag amhariad arall megis ar eu golwg neu eu clyw;
  7. Ardal wedi’i sgrinio ar gyfer gwastraff, yn cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu;
  8. Dyluniad a gosodiad sy’n lleihau’r cyfleoedd i droseddu;
  9. Cyfraniadau ariannol tuag at ddarparu a chynnal a chadw’r isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau sy’n angenrheidiol i’r datblygiad;
  1. Ni roddir caniatâd cynllunio pe byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol annerbyniol:
  1. Ar amwynder preswyl;
  2. Yn sgil traffig sy’n cael ei gynhyrchu;
  3. Ar fuddiannau archeolegol a’r ffurf adeiledig;
  4. Ar yr iaith Gymraeg;
  5. Ar amodau amgylcheddol yn deillio o sŵn, golau, dirgryniad, arogl, allyriadau gwenwynig neu lwch;
  6. Ar fuddiannau ecolegol a bywyd gwyllt a chymeriad y dirwedd;
  7. Ar lifogydd a’r perygl o lifogydd;
  8. Ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf aml-ddefnydd;
  9. Ar ansawdd dŵr daear neu ddŵr wyneb;
  10. Ar gyfleusterau cymunedol hanfodol.

 

 

4.24.

Mae’n bwysig fod cynigion datblygu’n cynnwys darpariaeth briodol i gwrdd â’u hanghenion. O’i ddarllen ar y cyd â Pholisïau DP/1 a DP/3 ar Ddatblygu Cynaliadwy a Dylunio Datblygiadau Newydd, mae’r polisi hwn yn darparu rhestr wirio ar gyfer datblygwyr i’w helpu i sicrhau eu bod yn bodloni’r holl ofynion. Er mwyn osgoi polisi rhy hir a chymhleth, mae llawer o’r meini prawf yn croesgyfeirio at bolisïau eraill yn y Cynllun, sy’n darparu’r manylion llawn.

4.25.

Bydd y Cyngor yn paratoi Dogfen Gynllunio Atodol ar gyfer yr amrywiol agweddau datblygu y mae’r polisi hwn yn ymdrin â hwy.

Isadeiledd a Datblygiad

Amcan Gofodol

SO13. Gwella hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol, yn cynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden.

POLISI DP/5 - ISADEILEDD A DATBLYGIADAU NEWYDD View Map of this site ?

  1. Os oes angen, bydd y Cyngor yn trafod â datblygwyr er mwyn ceisio cyfraniadau tuag at ddarparu isadeiledd neu welliannau i gwrdd â’r gofynion sy’n deillio o’r datblygiad newydd. Bydd natur, graddfa a chyfnodau unrhyw ymrwymiadau cynllunio a geisir yn gysylltiedig â ffurf y datblygiad a’i effaith ar yr ardal o’i gwmpas.
  2. Bydd angen cyfraniadau hefyd tuag at gynnal a chadw cyfleusterau yn y dyfodol, naill ai ar ffurf cymorth cychwynnol neu hyd byth.
  3. Dylai isadeiledd, mannau agored, gwasanaethau a chyfleustodau cyhoeddus gefnogi datblygiadau newydd a dylent fod â mynediad da iddynt, yn unol â Pholisi DP/4 Ni roddir caniatâd i ddatblygiad oni bai fod digon o gynhwysedd yn y isadeiledd lleol presennol i gwrdd â’r gofynion ychwanegol sy’n deillio o’r datblygiad newydd, neu fod trefniadau addas wedi’u gwneud ar gyfer unrhyw welliannau angenrheidiol.
  4. Dylai datblygiadau a darpariaeth gwasanaethau fod wedi’u lleoli fel eu bod yn lleihau’r angen i deithio. Dylai mynediad hwylus ar hyd llwybrau cerdded, llwybrau beicio ac ar drafnidiaeth gyhoeddus fodoli neu gael ei ddarparu, gan annog pobl i ddefnyddio’r dulliau hyn o deithio’n lleol a lleihau’r angen i deithio mewn ceir preifat a gwella hygyrchedd gwasanaethau i’r rhai hynny nad oes llawer o ddulliau trafnidiaeth ar gael iddynt.
  5. Caiff trefniadau i ddarparu isadeiledd newydd neu i wella’r isadeiledd presennol yn unol â gofynion y datblygiad eu sicrhau gan ymrwymiadau cynllunio, neu amodau mewn rhai achosion, ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio.
4.26.

Bydd cynigion i ddatblygu yng Nghonwy yn cael eu cefnogi os ydynt wedi gwneud trefniadau addas i wella neu ddarparu isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ar y safle ac oddi ar y safle, sy’n angenrheidiol oherwydd y datblygiad, ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol, a allai gynnwys ond heb fod wedi’i gyfyngu i:

  1. dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol;
  2. deunyddiau adeiladu/creu arwyneb;
  3. tirlunio;
  4. parcio ceir a beiciau;
  5. mynediad diogel a hwylus i gerddwyr, beicwyr a cherbydau;
  6. gwasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus;
  7. rheoli traffig a lleihau tagfeydd traffig;
  8. draenio dŵr aflan a dŵr wyneb a dyfrffyrdd;
  9. systemau draenio trefol cynaliadwy;
  10. y risg o lifogydd;
  11. llygredd oherwydd sŵn, golau, dirgryniad, arogl, allyriadau neu lwch;
  12. storio ac ailgylchu gwastraff;
  13. halogiad ac amodau’r ddaear;
  14. adeiladu cynaliadwy;
  15. y defnydd o ynni adnewyddadwy;
  16. lleihau cyfleoedd i droseddu;
  17. cynllun a dyluniad (yn cynnwys Celf Gyhoeddus);
  18. cyfleusterau addysg (yn cynnwys darparu llyfrgelloedd a chynnal a chadw ysgolion presennol);
  19. mannau agored yn cynnwys mannau chwarae;
  20. cyfleusterau cymunedol a hamdden (yn cynnwys cynnal a chadw rhandiroedd);
  21. Gwasanaeth Tân
  22. Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  23. Bioamrywiaeth (yn cynnwys Cytundebau Rheoli)
4.27.

Mae’n bwysig darparu ar gyfer isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol sy’n deillio o ddatblygiad newydd ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol, yn ogystal â mynediad, parcio, draenio, dyluniad, ynni adnewyddu a thirlunio addas ar y safle. Mae pob datblygiad newydd yn cyfrannu at alwadau ar isadeiledd, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus presennol. Felly bydd disgwyl i ddatblygwyr gyfrannu at y gwelliannau angenrheidiol neu ddarpariaeth newydd i wasanaethu’r anghenion sy’n deillio o’u datblygiad. Ni ddylai datblygiad ddigwydd cyn gosod y isadeiledd sydd ei angen gan y rhai fydd yn byw yno. Dim ond ar ôl i’r partïon perthnasol ddod i gytundeb ynglŷn ag ariannu a rhaglen weithredu’r ddarpariaeth sydd ei hangen ar y safle ac oddi ar y safle y caiff datblygiad ei ganiatáu, fel y nodir ym Mholisi DP/4 a DP/5. Mae’n amlwg, fodd bynnag, fod cyfyngiadau sylweddol ar rai safleoedd a allai effeithio ar y gallu i gwblhau safle o safbwynt ariannol. Yn yr achosion hyn, caniateir rhywfaint o hyblygrwydd.

4.28.

Hyd yn hyn, nid oes angen dyrannu unrhyw dir newydd ar gyfer sefydliadau addysg. Ond mae’n anorfod y bydd y cynnydd a ragwelir yn nifer y tai yn cael effaith ar yr ysgolion sydd ohoni a’u hadnoddau yn Ardal y Cynllun. Mae’n amlwg hefyd fod rhai ysgolion yn is na’r safon ac angen gwaith cynnal a chadw. Felly, er mwyn sicrhau bod ceisiadau tai yn dderbyniol o safbwynt cynllunio, bydd angen i ddatblygwyr gyfrannu naill ai at ymestyn, at adnoddau neu at gynnal a chadw ysgolion os yw datblygiadau arfaethedig yn creu angen clir. Ni wyddom a fydd rhai ysgolion yn cau, yn cael eu huno neu a fydd angen ysgolion newydd yn y dyfodol. Bydd y Cyngor yn adolygu ei ddull gweithredu, fodd bynnag, ar ôl cwblhau Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy yn unol â BP24.

4.29.

Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ymrwymiadau Cynllunio yn cefnogi’r polisi a pholisïau eraill yn y Strategaeth ac yn darparu deunydd cyn cynnal trafodaethau ar gyfer datblygwyr yn unol â Pholisi DP/7.

4.30.

Bydd y Cyngor yn adolygu ei ddull gweithredu ar ôl i’r Cynulliad benderfynu ar yr Ardoll Isadeiledd Cymunedol.

Canllawiau Cenedlaethol

Amcanion Gofodol

Yn cynnwys yr holl Amcanion Gofodol - SO1 i SO16

POLISI DP/6 - ‘POLISÏAU A CHANLLAWIAU CYNLLUNIO CENEDLAETHOL’ View Map of this site ?

  1. Rhaid i gynigion datblygu gydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
4.31.

Mae polisïau cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad i’w gweld ym Mholisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru a chânt eu hategu gan Nodiadau Cyngor Technegol a Chylchlythyrau a chan Ddatganiadau Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog. Rhaid i awdurdodau Cymru ufuddhau i bolisi cenedlaethol, yn cynnwys Cynllun Gofodol Cymru, wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Elfen allweddol o’r system gynllunio newydd yw osgoi ailadrodd polisi cenedlaethol yn ddiangen mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Bwriedir i Gynlluniau Datblygu Lleol fod yn ddogfennau byrrach a mwy penodol nad ydynt yn ailadrodd polisi cenedlaethol yn ddiangen fel y gwnâi Cynlluniau Lleol a Chynlluniau Datblygu Unedol y gorffennol.

4.32.

Mae materion sy’n berthnasol i ardal wledig Conwy a thai yng nghefn gwlad, yn benodol, wedi dod i bwyso’n daer ar y gymuned. Mae canllawiau cenedlaethol yn ymdrin â cheisiadau cynllunio ar gyfer ymestyn tai, codi tai i ddisodli eraill neu drosi tai yng nghefn gwlad, anheddau i gefnogi mentrau gwledig neu dai amaeth a choedwigaeth, ar ffurf paragraffau 7.6.9 i 7.6.11 o Bolisi Cynllunio Cymru, Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog ‘Tai’ (2006) a Nodyn Cyngor Technegol 6: ‘Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig’ (2000). Yn ogystal â hyn, caiff safleoedd o bwysigrwydd i fioamrywiaeth, o safbwynt daearegol neu hanesyddol eu hamddiffyn gan ganllawiau Ewropeaidd a chenedlaethol. Bydd Nodyn Cyngor Technegol 15: ‘Datblygu a’r Perygl o Lifogydd’ hefyd yn berthnasol i bob cais cynllunio ac felly, ni chânt eu hailadrodd yn y Cynllun Datblygu Lleol hwn. Cynhaliwyd ymarfer cwmpasu trwyadl o’r holl ganllawiau cenedlaethol fel y nodir yn BP1 ‘Cynlluniau a Strategaethau’ er mwyn deall meysydd sy’n cael eu hailadrodd. Er mwyn rhoi’r canllawiau cenedlaethol perthnasol sy’n berthnasol i rai ceisiadau cynllunio i’r sawl sy’n defnyddio fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd Cynllun Datblygu Lleol Conwy, fodd bynnag, bydd y Cyngor yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y wefan gyhoeddus ac yn darparu nodiadau arweiniad.

4.33.

Mae Polisi DP/6 yn mynnu bod pob cais cynllunio yn destun canllawiau cynllunio diweddar er mwyn osgoi ailadrodd diangen drwy’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynnwys datganiadau clir ar bolisi rheoli datblygu cenedlaethol, na ddylid gorfod eu hailadrodd fel polisi lleol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Lle mae’r Cynllun Datblygu Lleol I’w Archwilio gan y Cyhoedd hwn yn osgoi ailadrodd mae’n darparu’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf ar y pryd.

Canllawiau Cynllunio Lleol

Amcanion Gofodol

SO2 Hyrwyddo adfywiad cynhwysfawr Bae Colwyn, Abergele, Tywyn a Bae Cinmel er mwyn ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd drwy’r Fenter Ardal Adfywio Strategol.

SO5. Annog yr economi wledig i gryfhau ac arallgyfeirio mewn modd sy’n gydnaws â’r economi, y gymuned a’r amgylchedd lleol.

SO10. Gwella dyluniad adeiladau, yn cynnwys dylunio i osgoi cyfleoedd i droseddu er mwyn datblygu cymunedau cryf a diogel.

SO11. Lleihau’r defnydd o ynni trwy leoli a dylunio adeiladau yn ofalus a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy os yw’n debygol y byddant yn ddeniadol o safbwynt economaidd ac yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

SO12. Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad yr arfordir a chefn gwlad sydd heb eu datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirwedd/cadwraeth a nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol, gan sicrhau ar yr un pryd bod bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir yn cael eu hamddiffyn.

SO13. Gwella hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol, yn cynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden.

POLISI DP/7 - ‘CANLLAWIAU CYNLLUNIO LLEOL’ View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn paratoi canllawiau ychwanegol ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol, Prif Gynlluniau a Briffiau Datblygu Safle i ddarparu manylion pellach am bolisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol, ac fe’u rhestrir isod:
  1.  
    1. SPG Arfarniadau Datblygiad Cynaliadwy
    2. SPG Ymrwymiadau Cynllunio
    3. SPG Dylunio
    4. SPG Ynni Adnewyddadwy
    5. SPG Dyluniad Tu Blaen Siopau a Diogelwch
    6. SPG Ardaloedd Cadwraeth ac Arfarniadau
    7. SPG Dwysedd a Chymysgedd Tai
    8. SPG Anheddau i Gefnogi Mentrau Gwledig
    9. SPG Tai Aml-breswyl a Fflatiau Hunangynhywsol
    10. SPG Bioamrywiaeth
    11. SPG Datblygiad a Mannau Agored
    12. SPG Dulliau Arbed Dŵr
    13. SPG Safonau Parcio
    14. SPG Safonau Mannau Agored
    15. SPG Gwestai
    16. Adeiladau Rhestredig ac Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol
    17. Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth Byd Conwy
    18. Parciau a Gerddi Hanesyddol
    19. Mentrau Treftadaeth ac Adfywio
    20. Prif Gynllun Ardal Adfywio Strategol
    21. Briffiau Datblygu ar gyfer safleoedd tai mawr
    22. Briffiau Datblygu ar gyfer safleoedd cyflogaeth mawr
  1. Disgwylir i gynigion datblygu ystyried y dogfennau hyn fel a phryd y bydd y Cyngor yn eu mabwysiadu.
4.34.

Canllawiau anstatudol yw Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n ategu polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol. Dim ond y polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol sydd â’r statws arbennig a roddwyd gan A54a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990, wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio. Mae’r Llywodraeth yn cynghori y gellir ystyried Canllawiau Cynllunio Atodol fel ystyriaeth berthnasol. Mae’r pwys a roddir iddo’n cynyddu os caiff y Canllawiau Cynllunio Atodol eu paratoi mewn ymgynghoriad â’r cyhoedd ac os ydynt yn destun penderfyniad gan y Cyngor. Paratowyd y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Safonau Parcio a Safonau Mannau Agored gyda chefnogaeth fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd Cynllun Datblygu Lleol Conwy.

4.35.

Bydd y Cyngor hefyd yn paratoi Briffiau Datblygu ar gyfer safleoedd tai (50 neu fwy o anheddau) a safleoedd cyflogaeth newydd mawr (5 hectar neu fwy). Pwrpas briff datblygu yw hysbysu datblygwyr a rhai eraill sydd â diddordeb o’r cyfyngiadau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â safle a’r math o ddatblygiad y mae polisïau cynllunio lleol yn ei ddisgwyl neu’n ei annog o fewn fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd ei Gynllun Datblygu Lleol.

4.36.

Menter yr Ardal Adfywio Strategol

Bydd y Cyngor yn hyrwyddo adfywiad cynhwysfawr Bae Colwyn, Abergele, Tywyn a Bae Cinmel er mwyn ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd drwy baratoi Prif Gynllun Ardal Adfywio Strategol. Ymateb yw hyn i’r ffaith fod yr ardal wedi derbyn statws ardal adfywio strategol yn 2008 ar gyfer yr ardal rhwng Bae Colwyn ym Mwrdeistref Sirol Conwy a’r Rhyl yn ardal Cyngor Sir Ddinbych. Pennwyd amserlen o 7 mlynedd ar gyfer y Fenter a bydd yn nodi ardaloedd adfywio yn y mannau hyn ar sail eu potensial i ailddatblygu tir llwyd, angen economaidd a chymdeithasol, ac agosrwydd at gysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy.

Y STRATEGAETH DAI

Amcanion Gofodol

SO1. Hyrwyddo lefelau datblygu sy’n cyfrannu at amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ac yn cwrdd ag anghenion y gymuned trwy leoli datblygiad, pan fo hynny’n ymarferol, ar dir a ddefnyddiwyd o’r blaen, yn y trefi ar hyd yr arfordir yn bennaf, ar hyd rhwydweithiau isadeiledd sy’n bodoli neu arfaethedig, a thrwy sicrhau dwysedd datblygu effeithiol sy’n gydnaws ag amwynder lleol.

SO3. Darparu tir i alluogi cyflenwad digonol ac amrywiol o dai i gyfrannu at anghenion, yn cynnwys tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol ac i gwrdd ag anghenion Sipsiwn a Theithwyr, ar raddfa sy’n gyson â gallu gwahanol ardaloedd a chymunedau i dyfu.

4.37.

Datganiad y Strategaeth Dai

Cynlluniwyd y polisi tai strategol i sicrhau y caiff 6300 o dai eu codi yn ystod gweddill cyfnod y cynllun, yn y mannau iawn ac o’r math iawn i gynyddu i’r eithaf ei gyfraniad at gwrdd ag anghenion a nodwyd. Y brif flaenoriaeth yw cynyddu’r cyflenwad o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle, trwy ei bolisïau ar niferoedd, dosbarthiad a mathau o dai i gynyddu’r ddarpariaeth o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a chyfrannu at gwrdd â’r angen am tua 1900 uned o dai fforddiadwy.

4.38.

Mae’r agwedd at ddarparu Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn amrywio rhwng yr ardal drefol a’r ardal wledig. Yn yr ardal drefol mae’r ddarpariaeth yn ceisio sicrhau o leiaf 50% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd datblygu, ond yr agwedd yn yr ardal wledig, yn enwedig y prif bentrefi llai, mân bentrefi a phentrefannau, yw cyfraniad o 100% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol. Bwriada’r Cyngor ddefnyddio tir sydd yn ei feddiant ei hun a sefydlu cofrestr o safleoedd sy’n eiddo i’r cyhoedd i gyfrannu at gwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol.

4.39.

Mae’r Cynllun yn nodi ‘Ardal Chwilio’ i’r de ddwyrain o dref Abergele ar gyfer Safle Aros Sipsiwn a Theithwyr.

4.40.

Mae’r adran hon yn cynnwys y polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau y caiff y strategaeth ei chyflawni.

POLISI HOU/1 - ‘CWRDD Â’R ANGHENION O RAN TAI’ View Map of this site ?

  1. Yn y cyfnod o 2007 i 2022, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynllunio, monitro ac adolygu’r gwaith o ddarparu tua 6300 annedd newydd (ar raddfa flynyddol gyfartalog o 420 annedd newydd): Mae’r safleoedd sydd wedi’u nodi ar gyfer datblygiad tai i fodloni’r lefel angenrheidiol o dai newydd wedi’u dangos yn y Cynllun Darparu a Chyfnodau Tai yn yr adran Gweithredu a Monitro.
  1. Rhoddir blaenoriaeth i leoli datblygiad newydd yn unol â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy a nodir ym mholisi DP/1 a’r hierarchaeth aneddiadau a nodir ym Mholisi DP/2. Caiff tua 90% (5670 annedd) o’r datblygiadau tai eu lleoli ar hyd Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol y stribyn arfordirol hygyrch sef Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy (35% - 2205 annedd), Bae Colwyn, Mochdre a Rhos-on-Sea (30% - 1890 annedd), Abergele, Tywyn a Bae Cinmel (20% - 1260 annedd) a Phenmaenmawr a Llanfairfechan (5% - 315);

Addaswyd ffiniau’r aneddiadau a’r rhwystrau glas i gynnwys y datblygiad, fel y gwelir ar y map cynigion ac yn unol â Pholisi NTE/1. Y tu allan i ffiniau’r aneddiadau, ni chaniateir unrhyw ddatblygiadau tai pellach, ac eithrio i gwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd eithrio ar gyrion Llanrwst yn unol â Pholisi HOU/2, HOU/5 a HOU/6,

  1. Yn y Prif Bentrefi, bydd graddfa’r datblygu a ragwelir yn y dyfodol yn adlewyrchu maint a swyddogaeth yr anheddiad a’i berthynas ffisegol a swyddogaethol â’r ardaloedd trefol. Yn ystod cyfnod y cynllun, caiff tua 10% (630 annedd) o’r tai angenrheidiol eu cynnwys ym Mhrif Bentrefi Haen 1 a Haen 2 i gefnogi twf cynaliadwy a hyrwyddo cymunedau cynaliadwy.

Addaswyd ffiniau’r aneddiadau a’r rhwystrau glas i gynnwys y datblygiad, fel y gwelir ar y map cynigion ac yn unol â Pholisi NTE/1. Bydd y Prif Bentrefi Haen 1 yn cynnwys elfen o’r farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a bydd y Prif Bentrefi Haen 2 yn cynnwys Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn unig, i adlewyrchu lefel y cyfleusterau a’r gwasanaethau a sicrhau cyfraniad at yr angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a bod yr amgylchedd naturiol a hanesyddol yn cael ei amddiffyn. Y tu allan i ffiniau’r aneddiadau, dim ond cynlluniau bach y gellir eu cyfiawnhau (hyd at 5 annedd) a ganiateir, yn darparu 100% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd eithrio ar ymyl yr aneddiadau, yn unol â Pholisi HOU2 ‘Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’, HOU/5 a HOU/6;

  1. Yn y Mân Bentrefi, dim ond datblygiad cyfyngedig a ganiateir i adlewyrchu cynaliadwyedd a chymeriad aneddiadau. Yn ystod cyfnod y cynllun, nid oes angen unrhyw ddyraniadau tai na ffiniau aneddiadau. Dim ond cynigion datblygu tai ar raddfa fach a gefnogir os yw’n golygu ailddatblygu, neu drosi adeiladau presennol, neu os oes cyfiawnhad dros godi tai sengl neu grwpiau bach o anheddau ar stadau (hyd at 5 annedd) i gwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol o fewn neu wrth ymyl yr anheddiad, yn unol â Pholisi HOU/2, HOU/5 a HOU/6 .
  2. Mewn Pentrefannau ac yng nghefn gwlad agored, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir datblygu tai. Gellir cefnogi annedd unigol o fewn neu ger ffin yr anheddiad, neu os yw’n golygu trosi adeilad dibreswyl yng nghefn gwlad agored, ac os gellir ei gyfiawnhau i gwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar sail achos wrth achos, yn unol â Pholisi HOU/2, HOU/5 a HOU/6.
  1. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi blaenoriaeth i dai ar dir a ddatblygwyd o’r blaen yn ystod cyfnod y cynllun. O ganlyniad, wrth ystyried ceisiadau cynllunio bydd y Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr fynd ati gam wrth gam gan roi blaenoriaeth i dir hygyrch a ddatblygwyd o’r blaen yn unol â DP/2, Tabl HOU/1a a’r Cynllun Darparu Tai fesul Cam yn yr adran Gweithredu a Monitro.
  2. Yr Hierarchaeth Aneddiadau a nodir yn DP/2, Tabl HOU/1a a’r Cynllun Darparu Tai fesul Cam yn yr adran Gweithredu a Monitro fydd yn llywio dosbarthiad cyffredinol tai newydd ar gyfer y farchnad.
  3. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod datblygiadau tai yn gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o dir trwy ddarparu cymysgedd eang o fathau o dai ar ddwysedd priodol, i adlewyrchu anghenion amrywiol y trigolion yn unol â Pholisi HOU/3 a’r rhagdybiaethau dwysedd tai a nodir yn y Cynllun Darparu Tai fesul Cam.
  4. Bydd y Cyngor yn delio ag anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn unol â Pholisi HOU/8 ‘Sipsiwn a Theithwyr’
  5. Bydd y Cyngor yn rheoli datblygiad fflatiau hunan-gynhaliol a Thai Aml-breswyliaeth i gynorthwyo adfywiad, gwella ansawdd tai a’r dewis o dai, a chyfrannu at well amgylchedd yn unol â Pholisi HOU/9

Dinerth Hall Farm, Rhos on Sea

Triangle Field, Cerrigydrudion

Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos

Pen y Coed, Llanddulas

Dolwen Road, Hen Golwyn

I’r De o’r Felin, Llanddulas

94 Conwy Road, Bae Colwyn

Fordd y Mynydd, Betws yn Rhos

Gwellyn Avenue, Bae Cinmel

Ffordd Llanelwy, Betws yn Rhos

Ger Parc Hanes, Tywyn

Gogor Ganol, Ffordd Gogor,Llansannan

Oddi ar Derwen Lane, Bae Penrhyn

Tir oddi ar Berth y Glyd Road, Llysfaen

Canolfan Ieuenctid, Llandudno

Tir yn Abergele

Bryn Castell, Conwy

Llanfair Rd, Abergele

Clwb Cymdeithasol/Clwb Ieuenctid, Cyffordd Llandudno

I’r Gogledd o Groesffordd, Dwygyfylchi

High St East, Cyffordd Llandudno

Esgyryn, Cyffordd Llandudno

Tir yn Sychnant Pass Rd, Conwy

Glyn Farm, Bae Colwyn

Abbey Rd, Llandudno

Maes Dolfor, Llanfairfechan

Gyferbyn â’r Ysgol, Llanfair Talhaiarn

Oddi ar Heol Martin, Eglwysbach

Trem Arfon,Llanrwst

Top Lan Road, Glan Conwy

Bryn Hyfryd, Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst

Tir oddi ar Penmaen Rd, Conwy

Coed Digain, Llangernyw

Plas Penrhyn, Bae Penrhyn

 

Tabl 4 HOU1a – Amcangyfrif o’r Tai a Ddarperir

 2007/20122012/20172017/2022

Tai a Ddarperir

2012

2601

2408

Tabl 5: HOU1b Hierarchiaeth Aneddiadau

 

4.41.

Dylai cynigion preswyl gydymffurfio â’r polisïau yn y Bennod ar Egwyddorion Datblygu a’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio er mwyn sicrhau amgylcheddau byw o safon.

4.42.

Mae Conwy angen darparu o leiaf 6,300 o gartrefi rhwng 2007 a 2022 er mwyn cyfrannu at gyflawni amcanion allweddol darparu Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol, amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig a darparu tai addas ar gyfer y boblogaeth iau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol fel eu bod yn aros yn yr ardal. Mae angen yr anheddau hyn hefyd gan fod maint aelwydydd yn lleihau ar gyfartaledd, ond hefyd gan fod rhai yn dal i symud o’r ardal. Ar ôl cynnal asesiad o gyfanswm y tir sydd ei angen yn ystod cyfnod y cynllun, y Strategaeth sy’n cyfrannu’n gadarnhaol orau at yr amcanion blaenoriaeth yw oddeutu 6,300 annedd. Ystyriwyd i ba raddau y mae tir addas ar gael, cynhwysedd y diwydiant adeiladu tai, amodau’r farchnad ar hyn o bryd a chynaladwyedd wrth lunio’r ffigwr tai sy’n cael ei ffafrio, fel y nodir yn BP/3. Ar y cyfan, mae hyn yn golygu darparu isafswm o 420 annedd y flwyddyn rhwng 2007 a 2022 sy’n cynrychioli tuedd adeiladu’r 5 mlynedd diwethaf. Mae’n amlwg fod darparu 6,300 annedd yn debyg o gyfrannu’n gadarnhaol at flaenoriaethau allweddol y Cyngor o gwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol a hanesyddol ar yr un pryd. Mae’n annhebygol yr eir dros y ffigwr hwn oherwydd y tir sydd ar gael a’r gallu i’w gyflawni yn ystod cyfnod y cynllun, ond er mwyn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd a chyfrannu ymhellach at gyflawni materion blaenoriaeth, ystyrir ceisiadau tai yn dderbyniol os ydynt yn cyfrannu ymhellach at ddiwallu’r prinder Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ac yn cwrdd â’r polisïau yn yr adran ar Egwyddorion Datblygu a’r polisïau perthnasol eraill yn y Cynllun.

4.43.

Yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol, mae datblygu mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch ar dir a ddatblygwyd o’r blaen yn cael ei ffafrio dros safleoedd tir glas. Wrth gyflawni anghenion tai Conwy, ni fydd yn ymarferol cyflawni’r holl alw am anheddau ar dir a ddatblygwyd o’r blaen, felly bydd angen colli rhywfaint o safleoedd tir glas a lletemau glas er mwyn sicrhau bod modd cyflawni’r cynllun. O fewn y Cynllun Datblygu Lleol hwn, nodir y safleoedd tai strategol (safleoedd sy’n cynnwys dros 100 o anheddau) ac anstrategol (safleoedd sy’n cynnwys llai na 100 o anheddau) ar y Map Cynigion ac yn y Cynllun Darparu Tai fesul Cam a nodir yn yr adran Gweithredu a Monitro.

4.44.

Bydd Cynllun Datblygu Lleol Conwy yn neilltuo safleoedd ar gyfer tai sy’n gallu darparu 10 annedd neu fwy. Fel y dengys Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2008, mae Conwy eisoes wedi darparu 421 o gartrefi newydd rhwng 2007 a 2008. Mae’r cydsyniadau sydd heb eu gweithredu’n dod i gyfanswm o 3340 o gartrefi, sy’n debyg o gael eu codi yn ystod yr 8 mlynedd nesaf ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfartaledd o 420 annedd y flwyddyn. Mae’r ffigwr hwn yn eithaf uchel ac yn debyg o gael effaith sylweddol ar nifer y Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol sy’n cael eu datblygu yng nghyfnodau cynnar y Cynllun. Wrth brofi bod modd darparu’r nifer o dai yr ymrwymwyd i’w codi, bydd y Cyngor yn ystyried cyflwyno Rhybudd Cwblhau i leihau’r ansicrwydd hwnnw a sicrhau bod modd cyflawni’r anghenion sy’n wynebu cymunedau Conwy. Yn ychwanegol at y ffynonellau cyflenwi tai hyn, mae BP/4 ‘Astudiaeth Potensial Tir ar gyfer Tai (2008)’ yn dangos bod nifer o safleoedd heb eu neilltuo, a elwir yn hap-safleoedd datblygu, wedi bod yn gwneud cyfraniad sylweddol at y cyflenwad tai yn ystod y 7 mlynedd diwethaf. Ar sail y duedd hon mae’n debyg y caiff ffigwr hap-safleoedd cyfartalog o 1696 ei gyflenwi yn ystod cyfnod y cynllun, sy’n cynnwys ailddefnyddio 100 o gartrefi gwag yn ystod y cyfnod 2008 - 2012. O ystyried yr holl ffynonellau cyflenwi tai hyn, mae angen codi 843 o dai pellach yn ystod cyfnod y cynllun, fel y gwelir isod: cynhwyswyd ffigwr wrth gefn o 10% yn nifer cyffredinol y tai sydd eu hangen er mwyn adlewyrchu’r cydsyniadau, safleoedd strategol a hap-safleoedd hynny na fyddant, o bosibl, yn dod i’r fei yn ystod cyfnod y cynllun, sy’n mynd â nifer cyffredinol y tai sydd eu hangen yn ystod cyfnod y cynllun i 1473.

Tai wedi eu Cwblhau (2007/08)

421

Ymrwymiadau (Tai gyda Chaniatâd Cynllunio)

3340

Hap-safleoedd

1696

Is-gyfanswm

5457

Yn dal i’w hadeiladu (6300 – 5557)

843

Ynghyd â 10% Wrth Gefn (10% o 6300)

630

Cyfanswm y Tai sydd eu hangen yn y Cynllun Datblygu

1473

4.45.

Er mwyn cefnogi amcan y Cyngor o greu cymunedau cynaliadwy, bydd y Cyngor yn sicrhau bod tai yn cael eu datblygu mewn mannau addas sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol gyda mynediad da at swyddi newydd a phresennol, gwasanaethau allweddol a isadeiledd. Blaenoriaeth gyntaf y Cyngor yw ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen, yna estyniadau trefol cyn estyniadau i bentrefi mwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da yn unol â Pholisi DP/2. Er mwyn sicrhau bod modd cyflawni hyn, cynhaliwyd arfarniad o safleoedd tai strategol ac anstrategol ac ystyrir eu bod ar gael, yn addas o ran eu lleoliad ac yn hyfyw yn economaidd yn ystod cyfnod y cynllun, fel y dengys BP/21. Er mwyn rhoi rhywfaint o hygrededd i’r gallu i gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol, trefnwyd arddangosfeydd ar gyfer datblygwyr ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar y fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd hwn o’r Cynllun Datblygu Lleol, er mwyn cyflwyno’r problemau datblygu’n glir i ddatblygwyr.

4.46.

Mae angen i fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd’r Cynllun Datblygu Lleol sicrhau y gellir darparu’r isafswm o dai sydd eu hangen yn hyderus. Disgwylir y caiff mwy o dai eu darparu ar dir a ddatblygwyd o’r blaen yng nghyfnodau cynharach y cynllun o ganlyniad i’r nifer uchel o gydsyniadau tai a ymrwymwyd, ac yn is yn y cyfnodau diweddarach wrth i ddatblygiadau ar ymylon trefi fynd yn eu blaenau. Felly, bydd y cynigion tir glas ar ymylon trefi yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol hygyrch sef Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele yn darparu mwyafrif y tai sydd eu hangen yn ystod cyfnod y cynllun. Mae’r mannau hyn yn hwylus ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau lleol, yn agos at ardaloedd cyflogaeth ac fe’u hategir gan rwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd strategol. Fel y dengys BP/21, bernir bod yr ymrwymiadau cyfredol a’r safleoedd strategol ac anstrategol oddi mewn ac ar ymylon yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol yn cynnwys safleoedd sydd ar gael, yn addas ac y mae modd eu cyflenwi i ddarparu’r rhan fwyaf o dai sydd eu hangen. Mae Cynllun Darparu Tai fesul Cam (cyfeiriwch at yr Adran Monitro a Gweithredu) a’r Tabl Cynllun Cyflenwi ategol yn nodi sut y caiff yr angen am dai ei ddiwallu yn ystod cyfnod y cynllun (2007 - 2022).

4.47.

Tai yng Nghefn Gwlad

Er bod polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn gwrthwynebu anheddau newydd yng nghefn gwlad, mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen llety’n agos at eu mentrau ar amryw o weithwyr amaethyddol i ddibenion hwsmonaeth a diogelwch ac am resymau eraill. Os bydd ymgeiswyr yn gallu profi angen gwirioneddol am anheddau newydd yn gysylltiedig â’u menter, efallai y bydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Gan fod hyn yn golygu gwyro o Bolisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’, bydd amod yn cyfyngu ar breswyliaeth ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio. Dim ond mewn achosion eithriadol y defnyddir amod o’r fath ac yn unol â Meini Prawf Disgownt Gwerthu Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol y Cyngor.

4.48.

Ar y cyfan, bydd ailddefnyddio neu ailgodi adeiladau sydd eisoes yn bod yn cael ei ffafrio dros gynigion i godi annedd newydd er mwyn osgoi datblygu pellach yng nghefn gwlad. Os bwriedir codi adeiladau newydd, dylid eu lleoli a’u dylunio fel eu bod yn cael yr effaith leiaf bosibl ar gefn gwlad, a’u grwpio os oes modd o amgylch datblygiad sydd yno’n barod. Dylent hefyd fodloni’r Egwyddorion Datblygu a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun. Ni fydd codi annedd pellach yn cael ei gyfiawnhau os yw annedd sydd eisoes yn gwasanaethu’r uned neu sydd â chysylltiad agos â hi naill ai newydd ei gwerthu neu ei gwahanu oddi wrthi mewn rhyw ffordd.

4.49.

Ymestyn Anheddau yng Nghefn Gwlad

Mae angen rhoi ystyriaeth arbennig o ofalus i estyniadau i anheddau yng nghefn gwlad o ran eu heffaith ar y dirwedd yng nghefn gwlad Conwy, sy’n bur agored ar y cyfan. Yn ogystal â hynny, golyga’r angen am dai yn y Fwrdeistref Sirol ei bod yn bwysig gosod rhyw gyfyngiad ar y cynnydd cyfatebol ym maint anheddau o ganlyniad i unrhyw estyniad, gyda’r nod o leihau gostyngiad graddol yn y stoc o anheddau bach a chanolig eu maint mewn ardaloedd gwledig. Caiff ceisiadau am estyniadau i anheddau yng nghefn gwlad eu hasesu ar sail Polisi DP/6 a pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun.

4.50.

Ail-godi Anheddau yng Nghefn Gwlad

Os gellir dangos y rhoddwyd y gorau i ddefnyddio annedd, efallai y caniateir ei ail-godi ar sail un am un. Fel annedd newydd, mae’n debygol o gael mwy o effaith ar yr ardal wledig na’r annedd y mae’n cymryd ei le a bydd yn manteisio ar hawliau datblygu a ganiateir ar ôl iddo gael ei gwblhau ac i bobl symud i mewn iddo. Felly dylai anheddau sy’n cael eu hail-godi fod yn debyg o ran maint ac uchder i’w strwythur gwreiddiol. Efallai y bydd y Cyngor yn rheoli ehangu anheddau a ail-godir ymhellach trwy ddefnyddio amodau cynllunio i ddileu’r hawliau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir. Caiff ceisiadau am ail-godi anheddau yng nghefn gwlad eu hasesu ar sail Polisi DP/6 a pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun.

4.51.

Trosi Adeiladau yng Nghefn Gwlad at Ddefnydd Preswyl

Bu cryn bwysau i drosi ysguboriau ac adeiladau gwag yng nghefn gwlad yn unedau preswyl yn y Fwrdeistref Sirol, ond mae’n amlwg fod hyn yn groes i’r polisi cyffredinol o gyfyngu ar gynigion tai sydd y tu allan i derfynau sefydledig aneddiadau. Mae’r Cyngor yn cefnogi trosi adeiladau addas at ddefnydd cyflogaeth, a dyma’r defnydd sy’n cael ei ffafrio o hyd ar gyfer adeiladau o’r fath yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’. Os na ellir cyflawni hyn yr ail ddewis sy’n cael ei ffafrio yw uned breswyl sy’n uniongyrchol gysylltiedig â rhedeg menter wledig, y cyfeirir ati’n aml fel uned byw a gweithio. Byddai hyn yn fwy cynaliadwy na throsi at ddefnydd preswyl yn unig, oherwydd y goblygiadau is o ran cymudo. Dim ond os daw hi i’r pen y caniateir trosi at ddefnydd preswyl yn unig, yn enwedig er mwyn diogelu dyfodol adeiladau o ansawdd neu gymeriad pensaernïol arbennig neu er mwyn cwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn unol â Pholisi DP/6 a pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun.

4.52.

Dim ond mewn mannau sy’n agos at wasanaethau a chyfleusterau lleol y bydd trosi at ddefnydd preswyl yn briodol, yn arbennig ar raddfa fawr sy’n cynnwys nifer o unedau preswyl. Rhaid i ddatblygiad hefyd fod mewn lleoliad sy’n ddigon hygyrch i gynnig dewis priodol o ddulliau teithio heblaw’r car, neu fod yn gallu darparu hynny, yn unol â Pholisi STR/1. Bydd ceisiadau i drosi adeiladau yng nghefn gwlad ync ael eu hasesu ar sail Polisi DP/6 a pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun.

4.53.

Anheddau i Gefnogi Mentrau Gwledig

Ar y cyfan, bydd ailddefnyddio neu ail-godi adeiladau sydd eisoes yn bod yn cael ei ffafrio uwchlaw cynigion i godi annedd newydd er mwyn osgoi datblygu pellach yng nghefn gwlad. Os bwriedir codi adeiladau newydd dylid eu lleoli a’u dylunio i leihau’r effaith ar gefn gwlad i’r eithaf, ac os oes modd dylid eu grwpio o amgylch datblygiad sydd yno’n barod.

4.54.

Ni fydd codi annedd pellach yn cael ei gyfiawnhau os yw annedd sydd eisoes yn gwasanaethu’r uned neu sydd â chysylltiad agos â hi naill ai newydd ei gwerthu neu ei gwahanu oddi wrthi mewn rhyw ffordd. Wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer mentrau newydd yng nghefn gwlad a’r angen am unrhyw lety cysylltiedig, mae’r Cyngor yn ceisio cyngor ynglŷn â hyfywedd masnachol y fenter arfaethedig yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’. Os yw cyngor o’r fath yn dangos fod hyfywedd y fenter yn ansicr, bydd y Cyngor yn gwrthwynebu annedd yng nghefn gwlad yn gryf. Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai y rhoddir caniatâd cynllunio dros dro ar gyfer carafán yn gysylltiedig â’r fenter fel y gall yr ymgeisydd brofi y gall hyn fod yn brif fywoliaeth iddo/iddi. Bydd y Cyngor yn adolygu’r dull hwn, fodd bynnag, ar ôl derbyn canllawiau newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chanlyniadau papur ymgynghori ar Ddatblygiad Cynaliadwy yng Nghefn Gwlad.

4.55.

Caiff Canllawiau Cynllunio Atodol eu paratoi ar gyfer anheddau sy’n gysylltiedig â mentrau gwledig yn unol â DP/7 ‘Arweiniad Cynllunio Lleol’.

POLISI HOU/2 - TAI FFORDDIADWY AR GYFER ANGHENION LLEOL View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn mynnu bod Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn cael eu darparu mewn datblygiad tai newydd i gwrdd ag anghenion lleol, fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, Cofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf Conwy. Bydd datblygiadau tai newydd yn cyfrannu at gyflawni hyn trwy:
  1. Roi blaenoriaeth uchel i ddarparu Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol trwy drafod gyda datblygwyr er mwyn cynnwys o leiaf 50% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol fel darpariaeth ar y safle ym mhob datblygiad tai. Fel eithriad, bydd darpariaeth is yn dderbyniol os gellir ei brofi’n glir a’i gefnogi trwy gyflwyno tystiolaeth. Bydd darpariaeth oddi ar y safle neu daliadau cymudo’n dderbyniol ar gyfer cynigion datblygu sy’n cynnwys 1 annedd, a gall fod yn dderbyniol ar gyfer cynigion sy’n cynnwys 2 annedd neu fwy ar yr amod fod cyfiawnhad digonol. Disgwylir y caiff yr unedau Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol eu darparu heb gymorth grant. Bydd cyflenwi Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn seiliedig ar Dabl HOU2a, y Cynllun Cyflwyno Tai fesul Cam a’r hierarchaeth ganlynol:
  1. Yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol darperir cyfuniad o unedau gwerth y farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd wedi’u neilltuo a hap-safleoedd.
  • Caniateir Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd eithrio ar gyrion Llanrwst.
  1. Yn y Prif Bentrefi Haen 1, darperir cyfuniad o unedau ar gyfer y farchnad ac unedau Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd wedi’u neilltuo, hap-safleoedd a safleoedd eithrio. Yn y Prif Bentrefi Haen 2, dim ond Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a ddarperir ar safleoedd wedi’u neilltuo, hap-safleoedd a safleoedd eithrio.
  • Y tu allan i ffiniau anheddiad y Prif Bentrefi, bydd datblygiad 100% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar raddfa fach yn dderbyniol ar gyrion aneddiadau, gan roi’r flaenoriaeth gyntaf i Dir a Ddatblygwyd o’r Blaen er mwyn annog creu cymunedau cynaliadwy yn unol â Pholisïau DP/2 ‘Dull Gweithredu Strategol Cyffredinol’, HOU/5 a HOU/6. Ni chaniateir unrhyw Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol y tu allan i ffin anheddiad Trefriw oherwydd cyfyngiadau ffisegol. Caiff anghenion Trefriw yn y dyfodol eu cyflenwi y tu allan i Ardal y Cynllun ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri;
  1. Yn y Mân Bentrefi, caniateir anheddau unigol neu grwpiau bach o anheddau yn cynnwys 100% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn unig ar safleoedd eithrio o fewn, yn union gerllaw ffiniau aneddiadau ac ar gyrion yr anheddiad adeiledig yn unol â HOU/5 a HOU/6;
  2. Mewn Pentrefannau, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir datblygu i ddarparu annedd Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol unigol y mae cyfiawnhad drosto mewn lleoliad derbyniol a chynaliadwy yn unol â Pholisïau HOU/5 a HOU/6’.
  3. Yng nghefn gwlad agored, seilir Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar Bolisi DP/6.
  1. Sicrhau cymysgedd priodol o ran y mathau o dai a maint unedau Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol o fewn datblygiad, a bennir gan amgylchiadau lleol ar adeg cyflwyno cynnig datblygu yn unol â Pholisi HOU/4;
  2. Dylai unedau Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol integreiddio’n llwyr â gweddill y datblygiad ac ni ddylid gallu eu gwahaniaethu oddi wrth dai heb fod yn fforddiadwy yn unol â Pholisi HOU/5;
  3. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau lefelau uwch o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd sy’n eiddo i’r Cyngor yn unol â Pholisi HOU/6 ac fel y gwelir yn Nhabl HOU2b a’r Cynllun Darparu Tai fesul Cam;
  4. Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn ceisio sefydlu cofrestr o’r holl dirddaliadau sydd yn nwylo’r cyhoedd ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ledled y Fwrdeistref Sirol, yn unol â Pholisi HOU/7

 Tabl_6

4.56.

Prinder Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yw un o’r problemau mwyaf taer y mae’r Fwrdeistref Sirol yn eu hwynebu. Mae Cam 1 (2007) Asesiad Marchnad Dai Leol Conwy yn rhoi arweiniad da i’r lefel gyffredinol o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol blynyddol yn y Fwrdeistref sef 331 uned y flwyddyn. Bydd Cam 2 yr asesiad, a ddisgwylir yn fuan yn 2009, yn mynd ymlaen i ddadansoddi’r angen hwn ymhellach yn nhermau daliadaeth, lleoliad, maint a math o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol. Yna bydd y manylion hyn yn ffurfio polisi diwygiedig drwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol ac yn sail i geisiadau cynllunio fel ystyriaeth berthnasol yn unol â Pholisi HOU/4 ‘Cymysgedd Tai’. Er mwyn helpu’r Cyngor i ffurfio polisi yn fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd’r Cynllun Datblygu Lleol, casglwyd manylion am yr angen am dai fforddiadwy ar lefel anheddiad trwy Gofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf y Cyngor a’u dadansoddi, fel y gwelir yn BP/9. Mae’n amlwg fod 3805 o bobl angen tai fforddiadwy. Ond fel y dengys BP/9, ac yn unol ag Uned Ddata Llywodraeth Leol, mae’r holl angen a nodwyd ym mhob anheddiad wedi’i ostwng 50% i adlewyrchu pobl yn symud allan a newidiadau yn y farchnad dai leol. Mae hyn yn gostwng yr angen gwirioneddol yng Nghonwy i 1908 (127 annedd y flwyddyn), yn amodol ar gwblhau’r Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol.

4.57.

Wrth edrych at yr angen am 127 o anheddau fforddiadwy’r flwyddyn ar sail yr asesiad a nodir yn BP/9, mae’n amlwg y bydd y tai sy’n weddill i’w hadeiladu a’r ymrwymiadau yn cyfrannu’n llawn at gwrdd ag angen y gymuned am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol. Un o brif amcanion y Cyngor, fel y noda’r Cynllun Corfforaethol, yw cyfrannu’n sylweddol at gwrdd â’r angen am Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a chwrdd â’r prif amcan o amddiffyn a gwella asedau naturiol a hanesyddol ar yr un pryd. Er mwyn gwneud hynny, mae’n hollbwysig fod datblygwyr yn darparu llawer o unedau Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar y safle a bod y trothwyon sy’n cael eu gweithredu i geisio tai fforddiadwy’n isel er mwyn lleihau’r effaith gyffredinol ar asedau pwysig y Fwrdeistref Sirol. Awgrymir, felly, y byddai’r angen mawr hwn yn cyfiawnhau targed o 50% o leiaf o dai fforddiadwy yn yr holl ddatblygiadau tai ar gyfer y farchnad ac yn ceisio sicrhau darpariaeth uwch ar safleoedd sy’n eiddo i’r Cyngor/Llywodraeth, yn dibynnu ar gyfyngiadau ac ymarferoldeb. Er mwyn rhoi elfen o hyblygrwydd i’r cynllun, fodd bynnag, bydd darpariaeth is o dai fforddiadwy’n dderbyniol ar safleoedd lle gall y datblygwr brofi’n glir bod hyn yn angenrheidiol trwy ddarparu tystiolaeth ategol. Byddai’r eithriad yn berthnasol i werthoedd tir o ganlyniad i gyfyngiadau sylweddol ar y safle. Wrth gymhwyso’r ddarpariaeth a’r trothwy yma gellir cyfrannu’n llawn at yr angen am dai fforddiadwy yn ystod cyfnod y cynllun, fel y gwelir isod:

Cyflenwad Tai Fforddiadwy 2007-2022

Cyflenwad Tai Fforddiadwy a Ymrwymwyd

 

181

Cyflenwad o Dai ar gyfer y Farchnad (50/100% o’r Ddarpariaeth)

 

1574

Cyflenwad o Safleoedd sy’n Eiddo i’r Cyngor (70/100% o’r Ddarpariaeth)

 

165

Cyflenwad trwy Ddulliau Eraill (Grant Tai Cymdeithasol)

 

Cyfanswm Cyflenwad Tai Fforddiadwy

 

1920

Yr angen am Dai Fforddiadwy

 

1908

Gwarged+/Diffyg-

 

+12

4.58.

Fel y noda’r testun ategol yn HOU/1 ‘Cwrdd â’r Angen am Dai’ ar hyn o bryd mae rhyw 3340 o geisiadau tai wedi’u hymrwymo sy’n darparu cyfanswm o ddim ond 181 o unedau fforddiadwy. Wrth benderfynu pa ddarpariaeth y dylid ei cheisio ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol, mae’r Cyngor wedi talu sylw i ganllawiau cenedlaethol a defnyddio Pecyn Cymorth Arfarnu Datblygiad y Tair Draig (cyfeiriwch at BP/9) i bennu’r lefel briodol o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn nhermau gallu safleoedd i gyflenwi. Mae’n bwysig fod y ganran o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a geisir ar safleoedd, neu drwy swm wedi’i gymudo a’r trothwy ar ei gyfer, yn hyfyw o safbwynt ariannol ac y gellir ei gyflenwi yn ystod cyfnod y cynllun. Felly, dylai datblygwyr ddarparu ‘cyfiawnhad digonol’ os na all fodloni gofynion y polisi, gan gyfeirio at y cyfyngiadau (perygl o lifogydd, gweddillion archeolegol, dyluniad, tai fforddiadwy ac ati) ar y safle sy’n golygu na ellir bodloni gofynion y polisi.

4.59.

Rhaid cydbwyso Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol â gofynion eraill ar gyfer isadeiledd trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol, mannau agored a dulliau adeiladu cynaliadwy. Rhaid sicrhau bod darparu’r tai yn parhau i fod yn opsiwn hyfyw hefyd. Bydd y Cyngor yn gwneud defnydd llawn o Becyn Cymorth Arfarnu’r Tair Draig i asesu pa mor hyfyw yw cynllun a’r ganran o ddarpariaeth Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol.

4.60.

Yr amgylchiadau lleol ar yr adeg y caiff y cais cynllunio ei gyflwyno fydd yn pennu’r cymysgedd priodol o ran daliadaeth a maint tai fforddiadwy o fewn datblygiad, yn cynnwys yr angen am dai, costau datblygu, a oes cymorth grant ar gael, a’r gallu i ddarparu cymunedau cymysg a chytbwys.

4.61.

Ategir cyflenwi’r Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol trwy ddefnyddio safleoedd eithrio gwledig, a fydd hefyd yn seiliedig ar ddarganfyddiadau Cam 2 yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol ac astudiaethau’r Hyrwyddwr Gwledig Lleol. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o safleoedd eithrio a’u gallu i gyflenwi, bydd y Cyngor yn mynd ati i sefydlu rhestr o dir sydd mewn perchenogaeth gyhoeddus ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ledled y Fwrdeistref, ochr yn ochr â’r Gwasanaethau Peirianneg a Dylunio, y Gwasanaethau Tai ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd y cynllun hefyd yn cynnig ailddefnyddio tua 150 o gartrefi gwag erbyn 2022 hefyd, trwy fersiwn diwygiedig Strategaeth Dai Conwy, er mwyn cyfrannu at Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol. Isafswm yw’r targed, fodd bynnag, a rhagwelir y bydd yn cynyddu yn ystod cyfnod y cynllun.

4.62.

Fel y noda Polisi Cynllunio Cymru a DP/3 ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Dylunio i Leihau Trosedd’, gall dylunio da amddiffyn yr amgylchedd a gwella ei ansawdd, helpu i ddenu busnesau a buddsoddiad, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd. Mae’r amcanion hyn yr un mor berthnasol i dai ar gyfer y farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a’r egwyddor bennaf yw sefydlu synnwyr o le a chymuned. Mae integreiddio datblygiad hen a newydd o safbwynt gweledol yn arbennig o bwysig ar safleoedd bach. Ni ddylid bod modd gwahaniaethu rhwng tai fforddiadwy a thai ar gyfer y farchnad a ddarperir ar yr un safle ychwaith, o ran ansawdd y dyluniad allanol na deunyddiau.

POLISI HOU/3 - DWYSEDD TAI View Map of this site ?

  1. Dylai datblygiadau preswyl wneud y defnydd gorau o dir trwy sicrhau dwysedd o 30 annedd yr hectar o leiaf ar safleoedd wedi’u neilltuo a hap-safleoedd mawr. Dylid sicrhau dwysedd uwch o hyd at 50 uned yr hectar mewn mannau mwy cynaliadwy.
4.63.

Dylai cynigion preswyl gydymffurfio â’r polisïau yn yr Egwyddorion Datblygu a’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio er mwyn sicrhau amgylcheddau byw o safon. Fel bod cartrefi newydd yn cyfrannu at gwrdd ag anghenion rhai sy’n byw yno ar hyn o bryd a thrigolion y dyfodol, mae’n bwysig eu bod yn cael eu dylunio i safon uchel a’u bod yn creu amgylchedd deniadol sy’n gweithio’n dda, lle mae pobl eisiau byw, sy’n diwallu eu hanghenion, ac sy’n creu synnwyr o le lle gall hunaniaeth y gymuned ddatblygu.

4.64.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, anogir datblygiadau dwysedd uwch. Mae adeiladu ar ddwysedd canolig i uchel yn golygu y gellir gwneud y defnydd gorau o safleoedd datblygu, ac mae’n helpu i ddiogelu cefn gwlad rhag datblygu diangen. Os bydd adeiladu’n digwydd ar raddfa fawr, gall ffurfiau datblygu dwys hefyd gynnal y mas critigol o bobl y gall fod eu hangen i gefnogi cyfleusterau lleol. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai dwysedd uwch fygwth ansawdd datblygiad newydd.

4.65.

Mae dwysedd cymharol uchel yn briodol mewn mannau sydd â mynediad da at amrywiaeth o wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth, gan y bydd hyn yn helpu i gyfyngu ar yr angen i deithio (trwy ddarparu cymaint â phosibl o dai mewn mannau sy’n gymharol gynaliadwy).

4.66.

Rhyw 20 annedd yr hectar oedd cyfartaledd dwysedd cynlluniau tai diweddar yn ardal Conwy. Dywed Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog ‘Tai’ (2006) y gall pwysau cryf am ddatblygu gynyddu i ddwyseddau amhriodol o uchel os na chaiff ei reoli’n ofalus. Dylid annog dwysedd uwch ar safleoedd sy’n hawdd mynd iddynt, pan fo hynny’n briodol.

4.67.

Mae’r llywodraeth yn disgwyl y gwneir defnydd mwy effeithiol o dir a ddefnyddiwyd o’r blaen er mwyn atal defnyddio tir glas ac atal ein trefi rhag ehangu i gefn gwlad a’r pentrefi cyfagos. Dywed polisïau cynllunio yn Lloegr (y cyfeirir atynt yma i ddibenion cymharu) y disgwylir i gynigion ddarparu o leiaf 30 annedd yr hectar ar y safle. Er mwyn gallu diwallu angen cymunedau am dai, bydd y Cyngor yn mabwysiadu’r dull hwn, ond mae’n cydnabod y gall fod angen dwysedd is, mewn achosion eithriadol, er mwyn sicrhau dyluniad ac amwynder boddhaol. Er ei bod yn anorfod y bydd lletemau glas mewn lleoliadau trefol hygyrch ar hyd yr arfordir yn darparu elfen o’r angen am dai, bydd y Cyngor yn lleihau’r effaith hon trwy ddatblygiadau dwysedd uwch o hyd at 50 annedd yr hectar yn ardaloedd trefol hygyrch Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele. Mae’r Cynllun Darparu Tai fesul Cam (adran 5) yn rhoi manylion y safleoedd strategol ac anstrategol hynny a fydd yn cynnwys tai dwysedd uwch.

POLISI HOU/4 - CYMYSGEDD TAI View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod cymysgedd o dai ar gyfer y farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn cael eu darparu sy’n adlewyrchu’r gofynion o ran daliadaeth, mathau o dai a’u maint, fel y’u nodir yn yr Asesiad Tai ar gyfer y Farchnad Leol (Cam 2) a Chofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf Conwy.
  2. Mewn datblygiadau sy’n cynnwys 5 annedd neu fwy, dylai tai ar gyfer y farchnad ddarparu,
  1.  Oddeutu 70% o gartrefi gydag 1 neu 2 ystafell wely; ac
  2. Oddeutu 15% o gartrefi gyda 3 ystafell wely; ac
  3. Oddeutu 15% o gartrefi gyda 4 ystafell wely neu fwy;
oni bai y gellir profi trwy dystiolaeth bod amgylchiadau lleol yr anheddiad neu’r lleoliad penodol yn awgrymu cymysgedd gwahanol o dai a fyddai’n diwallu anghenion lleol yn well.
4.68.

Dylai holl ddatblygiadau tai Conwy fod yn gynhwysol a chynnwys aelwydydd amrywiol o ran nifer eu trigolion ac angen am dai er mwyn creu cymunedau cymysg. Felly mae angen i bob datblygiad tai ddarparu amrywiaeth mwy cytbwys o fathau o dai er mwyn adlewyrchu’r angen a nodwyd yn y gymuned. Penderfynwyd ar raniad cyfartalog y cymysgedd o dai ledled y Fwrdeistref Sirol gan ddefnyddio’r ‘cyfraneddau aelwydydd yn ôl maint aelwydydd’ a’r ‘maint aelwydydd yn ôl nifer yr ystafelloedd mewn anheddau’ mwyaf diweddar a geir yng Nghyfrifiad 2001 a BP/6. Adolygir yr wybodaeth sy’n deillio o wybodaeth fwy diweddar methodoleg rhagamcanion ac amcangyfrifon aelwydydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy.

4.69.

Fel y nodir yn Natganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog ar Dai (2006), mae’n ddymunol o ran cynllunio fod datblygiadau tai newydd mewn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd yn cynnwys cymysgedd a chydbwysedd addas o fathau a maint o dai fforddiadwy i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion tai a chyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy. Mae Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog ar Dai (2006) hefyd yn dweud ei bod yn bwysig fod awdurdodau, wrth ystyried tai fforddiadwy, yn gwerthfawrogi’r galw am faint a mathau gwahanol o dai (h.y. tai canolig a thai cymdeithasol ar rent) mewn perthynas â chyflenwad, fel bod ganddynt wybodaeth dda wrth drafod y cymysgedd priodol o anheddau a ddisgwylir mewn datblygiadau newydd.

4.70.

Mae’r Cyngor yn annog darparu cyfraddau uwch o gartrefi llai ac argymhellir bod datblygwyr yn anelu at gynlluniau sy’n cynnwys tua 70% o eiddo gydag un a dwy ystafell wely i gwrdd ag anghenion y gymuned. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i stadau tai sydd â’r potensial, oherwydd eu maint, i gyfrannu’n sylweddol at angen y gymuned am amrywiaeth ehangach o fathau a maint o anheddau.

4.71.

Bydd y Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar Gymysgedd Tai. Bydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n ystyried datblygiad preswyl, a chaiff ei ystyried fel ‘ystyriaeth berthnasol’ pan ddaw’r Cyngor i asesu cynigion o’r fath. Caiff y cymysgedd priodol o dai fforddiadwy ei bennu o hyd ar sail safleoedd unigol yn unol â HOU/3.

POLISI HOU/5 - SAFLEOEDD EITHRIO GWLEDIG AR GYFER TAI FFORDDIADWY AT ANGHENION LLEOL View Map of this site ?

  1. Gellir caniatau cynlluniau tai sy’n darparu 100% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol yn unol â Pholisi HOU/2 ac ar yr amod y bodlonir y meini prawf canlynol:
  1. Gwneir trefniadau cadarn i sicrhau bod yr anheddau yn y cynllun yn darparu Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ac yn parhau felly am byth;
  2. Bod nifer, maint, math a daliadau’r anheddau yn bodloni'r angen lleol sydd wedi’i gyfiawnhau, yn unol â Pholisi HOU/4;
  3. Bod yr unedau Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol o safon uchel, wedi’u hadeiladu i gwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu – Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 Llywodraeth y Cynulliad yn unol â HOU/2 a’r Cod ar gyfer Tai Cynaliadwy, yn unol â NTE/1;
  4. Bod y cynnig datblygu’n bodloni Meini Prawf Disgownt Gwerthu Tai Fforddiadwy’r Cyngor.
4.72.

Mae polisi cenedlaethol yn caniatáu safleoedd eithrio wrth gwrdd â’r angen am dai fforddiadwy mewn pentrefi neu gerllaw pentrefi dan amgylchiadau pan na fyddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi fel arfer a phan fo angen lleol y gellir ei brofi am dai fforddiadwy, na ellir eu darparu mewn unrhyw ffordd arall. Mae’r safleoedd ‘eithrio gwledig’ hyn yn darparu ffynhonnell fechan ond bwysig o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig a chânt eu hystyried yn ychwanegol at y ddarpariaeth dai ar gyfer anghenion cyffredinol. Mae angen y polisi uwchlaw’r hyn a gynhwysir mewn canllawiau cenedlaethol i ddarparu manylion ynglŷn â’r diffiniad o safleoedd eithrio a dyraniadau 100% yn yr Ardal Strategaeth Wledig.

4.73.

Bydd y Cyngor yn asesu ac ystyried anghenion y pentref arbennig yn ofalus ym mhob achos cyn symud ymlaen â chynllun. Defnyddir rheolau daliadaeth i sicrhau bod manteision fforddiadwyedd (a geir fel arfer gan y gwerth tir isel sy’n deillio o sail eithriadol y cynllun) yn cael eu cadw am byth ar gyfer deiliaid dilynol os bodlonir meini prawf y Cyngor.

POLISI HOU/6 - SAFLEOEDD SY’N EIDDO I’R CYNGOR A’R LLYWODRAETH YN ARDAL Y CYNLLUN View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau lefelau uwch o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar safleoedd sy’n eiddo i’r Cyngor a'r Llywodraeth na’r safonau isaf ar gyfer safleoedd preifat, pan fo hynny’n ymarferol, yn unol â Pholisi HOU/2 ac fel y dengys Tabl HOU2b a’r Cynllun Darparu Tai fesul Cam;

4.74.

Bydd gwaredu tir sy’n eiddo i’r awdurdod lleol a'r Llywodraeth ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol hefyd yn ychwanegu at y sicrwydd y cânt eu darparu. O ganlyniad i lefel yr angen am dai yn y Fwrdeistref Sirol a’r flaenoriaeth a roddir i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a hanesyddol, nodir tir sy’n eiddo i’r Cyngor yn y Cynllun Darparu Tai fesul Cam (adran 5). Pan fo hynny’n ymarferol ac yn gweddu i’r cymeriad bydd y Cyngor yn ceisio darparu mwy o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol ar y safle na’r safon isaf a bennir ar gyfer safleoedd preifat.

POLISI HOU/7 - ‘COFRESTR TIRDDALIADAU’ View Map of this site ?

Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn ceisio sefydlu, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tai Conwy, Parc Cenedlaethol Eryri ac asiantaethau cyhoeddus eraill, cofrestr ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan o dirddaliadau sydd yn nwylo’r cyhoedd ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol.

4.75.

Er mwyn gwneud y defnydd gorau a sicrhau y gellir cwblhau safleoedd eithrio a’u potensial i ddarparu 100% o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol arnynt yn y dyfodol, bydd y Cyngor yn mynd ati i sefydlu cofrestr ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan, ochr yn ochr â’r Gwasanaethau Peirianneg a Dylunio, y Gwasanaethau Tai, awdurdodau cyfagos, os oes materion trawsffiniol yn bodoli, a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Caiff tir ei arfarnu’n rheolaidd i sicrhau bod cronfa o safleoedd addas y gellir eu cwblhau ar gael i gwrdd â’r angen am dai fforddiadwy yn y gymuned.

POLISI HOU/8 - CWRDD Â’R ANGEN AM SAFLE AR GYFER SIPSIWN, TEITHWYR A PHOBL SY’N GWEITHIO MEWN SIOEAU TEITHIOL View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn neilltuo safle i gwrdd ag unrhyw angen ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Phobl sy’n gweithio mewn Sioeau Teithiol a nodir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (Cam 2), o fewn yr Ardal Chwilio Sipsiwn a Theithwyr a neilltuwyd ar y Map Cynigion.
  2. Os nodir bod angen safle ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Phobl sy’n gweithio mewn Sioeau Teithiol, ystyrir dethol safle o fewn yr Ardal Chwilio gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:
  1. rhaid i’r safle fod yn addas ar gyfer y math yma o ddefnydd gyda thebygolrwydd realistig y gellir datblygu’r safle yn ystod cyfnod y cynllun;
  2. ystyrir tir a ddefnyddiwyd o’r blaen, neu dir gwag yn yr Ardal Chwilio, neu ar gyrion ardaloedd trefol cyn safleoedd mewn mannau gwledig;
  3. dim ond fel eithriad y caiff safle a neilltuwyd ar gyfer defnydd arall ei ryddhau os oes asesiad o’r anghenion tai lleol wedi sefydlu bod angen safle ar gyfer sipsiwn, teithwyr neu bobl sy’n gweithio mewn sioeau teithiol, na ellir bodloni’r angen mewn unrhyw ffordd arall ac nad yw graddfa’r datblygiad yn uwch na lefel yr angen a nodwyd;
  4. mae’r safle yn hygyrch i siopau, ysgolion a chyfleusterau iechyd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu ar feic;
  5. mae mynediad da i’r prif rwydwaith trafnidiaeth ac ni fydd y datblygiad arfaethedig yn achosi tagfeydd traffig na phroblemau diogelwch ar briffyrdd;
  6. mae’r safle eisoes wedi’i sgrinio’n briodol neu mae modd ei sgrinio a’i dirlunio’n briodol;
  7. bydd gan y safle wasanaethau digonol ar y safle ar gyfer cyflenwi dŵr; pŵer; draenio; gwaredu carthffosiaeth; a chyfleusterau gwaredu gwastraff.
4.76.

Mae angen darpariaeth briodol i gwrdd ag anghenion sipsiwn, teithwyr a phobl sy’n gweithio mewn sioeau teithiol. Mae angen deall yr anghenion hyn er mwyn darparu llety priodol a lleihau nifer y gwersylloedd a datblygiadau diawdurdod yn y Fwrdeistref Sirol. Disgwylir i Awdurdodau Lleol asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae bellach yn ofyniad statudol yn ôl Adran 225 Deddf Tai 2004 fod pob awdurdod cynllunio lleol yn asesu anghenion llety ei holl Sipsiwn a Theithwyr ac yn ymateb i unrhyw anghenion a nodir drwy’r system gynllunio. Felly bydd yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol gynnwys polisïau addas yn y Cynllun Datblygu Lleol i’w defnyddio wrth ystyried safleoedd arfaethedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr a neilltuo safleoedd os nodwyd angen eglur.

4.77.

Mae’n bwysig felly fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bolisïau ar gyfer darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ei gynlluniau datblygu, os yw’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr, a gynhelir fel rhan o’r Asesiad o Farchnad Dai Leol Gogledd Orllewin Cymru, yn nodi bod angen. Wrth gynllunio ar gyfer darparu llety i Sipsiwn a Theithwyr, mae’n bwysig fod y safle(oedd) yn gynaliadwy ac yn cynnwys mynediad da at wasanaethau a chyfleusterau allweddol ac yn cynnal a gwella’r amgylchedd naturiol. Nid yw canlyniadau’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr na’r Asesiad o Farchnad Dai Leol Gogledd Orllewin Cymru ar gael ar hyn o bryd, fodd bynnag.

4.78.

Achos yr Angen

Mewn cydweithrediad a Chynghorau Sir Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd yn asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr trwy gyfrwng yr Asesiad o Farchnad Dai Leol Gogledd Orllewin Cymru. Hon yw’r broses ffurfiol ar gyfer asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr; fodd bynnag, ni fydd canlyniadau’r asesiad hwn ar gael am ryw 12 mis. Argymhellir bod yr Astudiaeth Asesu Safle Aros Sipsiwn a Theithwyr hwn yn cael ei adolygu’n llawn ar ôl cwblhau’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol . Ni fydd canlyniadau’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol ar gael mewn pryd i gyfrannu at sylfaen wybodaeth fersiwn I’w Archwilio gan y Cyhoedd Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fodd bynnag. Mae’r Cyngor felly wedi cytuno â Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddefnyddio’r dystiolaeth fwyaf diweddar i ddelio ag anghenion llety.

4.79.

Bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn monitro gwersylloedd anghyfreithlon yn agos yn ystod y cyfnod 2005 – 2008 (cyfeiriwch at BP/22); awgryma’r wybodaeth hon fod angen neilltuo un safle aros yn cynnwys rhyw 10 llain yn rhan ddwyreiniol y Fwrdeistref Sirol, yn agos at y rhwydwaith ffyrdd strategol. Ar ôl cwblhau’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, caiff yr agwedd a fabwysiadodd y Cynllun Datblygu Lleol at anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ei adolygu.

4.80.

Cynhaliwyd ‘Astudiaeth Arfarnu a Chwilio am Safle Sipsiwn a Theithwyr’ hefyd (cyfeiriwch at BP/23) a oedd yn creu meini prawf addas ar gyfer arfarnu safleoedd posibl, yn chwilio am safle yn yr ardal lle mae angen ac yn arfarnu safleoedd posibl. Daeth i’r canlyniad fod 7 safle a allai fod yn addas. Aseswyd bod y 7 safle wedi’u lleoli’n dda o ran bod yn agos at y rhwydwaith ffyrdd lleol, gwasanaethau lleol a’u bod yn annhebygol o gael effeithiau sylweddol ar yr ardal o’u hamgylch, yn cynnwys effeithiau ar dirwedd, bioamrywiaeth ac amwynder trigolion lleol. Am y rhesymau hyn, barnwyd bod y 7 safle yn rhai a allai fod yn addas ar gyfer safle aros Sipsiwn a Theithwyr ac amrywiaeth i leiniau. Er mwyn ystyried yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (Cam 2), fodd bynnag, ni chaiff unrhyw safle ei neilltuo, ond mae’r safleoedd wedi’u grwpio i ddau barth chwilio. Pwrpas hyn yw rhoi rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn gallu darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn yr angen am leiniau, os daw’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (Cam 2) i’r casgliad hwnnw. Dangosir y parthau chwilio ar y Map Cynigion. Dim ond safleoedd sydd wedi’u lleoli yn y ddau barth chwilio ddylai gael eu hystyried yn fannau addas ar gyfer safle aros Sipsiwn a Theithwyr o ganlyniad i’w cynaliadwyedd tybiedig. Rhagwelir y bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad perthnasol i ddatblygu safle yn un o’r parthau chwilio neu’n ystyried cais cynllunio unigol ar sail ei rinweddau ei hun.

POLISI HOU/9 - TAI AML-BRESWYLIAETH A FFLATIAU HUNAN-GYNHALIOL View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn rheoli datblygiad Tai Aml-breswyliaeth er mwyn cynorthwyo adfywio, gwella ansawdd tai a’r dewis ohonynt, a chyfrannu at well amgylchedd yn Ardal y Cynllun. Cyflawnir hyn trwy wrthsefyll pob cynnig i greu Tai Aml-breswyliaeth;
  2. Caiff rhannu eiddo preswyl yn fflatiau hunangynhaliol ei ganiatáu yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol ar yr amod:
  1. Nad yw’r cynllun trosi a newid yn creu Tŷ Aml-breswyliaeth;
  2. Os yw hynny’n briodol, bod y datblygiad yn cydymffurfio â’r Egwyddorion Datblygu a Safonau Parcio’r Cyngo a bod pob fflat hunangynhwysol yn cael ei ddylunio i safon uchel yn unol â Gofynion Datblygu o Ansawdd - Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 Lywodraeth y Cynulliad sy’n cynnwys safonau gofod a Chartrefi Gydol Oes a’r safonau isaf i’w cyrraedd mewn perthynas â’r Cod Cartrefi Cynaliadwy
  3. SPG Tai Aml-breswyl a Fflatiau Hunangynhwysol;
  4. Na fyddai lefel gweithgarwch y trigolion a’r traffig a gâi ei greu yn cael effaith ddifrifol ar breifatrwydd ac amwynder deiliaid eiddo cyfagos;
  5. Y nodwyd bod angen i gefnogi’r datblygiad yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (Cam 2).
4.81.

Mae creu fflatiau hunan-gynhaliol wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ardaloedd Bae Colwyn a Llandudno. Cyflawnwyd hyn trwy godi adeiladau newydd a thrwy drosi tai mawr ac eiddo masnachol. Gall fflatiau hunan-gynhaliol helpu i ddelio ag anghenion y bobl hynny sydd eisiau prynu neu rentu unedau llety bach, yn ogystal â darparu opsiwn tai cymharol fforddiadwy i’r rhai hynny sy’n awyddus i brynu eu heiddo cyntaf.

4.82.

Er bod creu fflatiau hunan-gynhaliol yn helpu i gwrdd ag angen am dai, gall eu darparu fod yn andwyol mewn rhai achosion i amwynder ardaloedd preswyl sydd eisoes yn bod. Er enghraifft, gall nifer fawr o fflatiau arwain at broblemau fel prinder llefydd parcio ar y stryd a phrinder llefydd storio biniau. Mae ardaloedd lle ceir llawer iawn o fflatiau hefyd yn aml yn gysylltiedig â lefel isel o berchnogion yn byw ynddynt a all, mewn rhai achosion, arwain at safonau cynnal a chadw is a’r problemau cysylltiedig o ran dirywiad amgylcheddol (gan fygwth amcanion gwella’r amgylchedd ac adfywio). Ar ben hynny, gall effaith gronnus trosi anheddau mwy yn fflatiau gael effaith andwyol ar greu cymunedau cymysg a chytbwys trwy leihau nifer y cartrefi sydd ar gael i deuluoedd mewn ardal. Ar hyn o bryd mae llawer iawn o fflatiau hunan-gynhaliol yn cael effaith ar gymeriad ac ymddangosiad ardal Bae Colwyn. Er mwyn gwella ymddangosiad yr ardal a helpu i adfywio Bae Colwyn, yn arbennig, yn ogystal ag ardaloedd eraill ar hyd yr arfordir, mae polisi HOU/9 yn angenrheidiol er mwyn atal gormodedd o ddefnydd o’r fath a sicrhau bod datblygiad yn cwrdd ag anghenion a nodwyd. Bydd Polisi HOU/9 hefyd yn cefnogi’r agwedd sydd i’w nodi yn y Prif Gynllun Ardal Adfywio Strategol i wella’r tai sydd ar gael, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd ym Mae Colwyn.

4.83.

Yn ogystal â fflatiau hunan-gynhaliol, bu darparu Tai Aml-breswyliaeth (adeiladau lle mae llawer o bobl yn rhannu rhai cyfleusterau er eu bod fel arall yn byw’n annibynnol ar ei gilydd) hefyd yn broblem yng Nghonwy yn y gorffennol, yn enwedig ym Mae Colwyn. Mae Tai Aml-breswyliaeth yn aml yn darparu amgylchedd byw cymharol wael ac anaml y byddant yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ansawdd ardal. O ganlyniad caiff Tai Aml-breswyliaeth pellach eu gwrthsefyll yng Nghonwy.

4.84.

Bydd y Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fflatiau Hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl i gefnogi’r polisi, yn unol â Pholisi DP/7 ‘Canllawiau’r Cynllun Lleol’. Bydd yr SPG yn darparu canllawiau atodol i Bolisi HOU/9 sy’n rhoi manylion y diffiniadau o Fflatiau Hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl a’r safonau dylunio gofynnol ar gyfer trawsnewid fflatiau hunangynhwysol.

Y STRATEGAETH ECONOMAIDD

Amcanion Gofodol

SO1. Hyrwyddo lefelau datblygu sy'n cyfrannu at amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ac sy'n cwrdd ag anghenion y gymuned trwy leoli datblygiad lle mae hynny'n ymarferol ar dir a ddefnyddiwyd o'r blaen, yn bennaf mewn lleoliadau trefol ar yr arfordir, ar hyn rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, a thrwy sicrhau dwysedd datblygiad effeithlon sy'n gydnaws ag amwynderau lleol.

SO4. Adnabod a diogelu tir er mwyn cyfrannu at gwrdd â defnydd cyflogaeth B1 (Busnes) B2 (Diwydiannol Cyffredinol) a B8 (Storio a Dosbarthu), gan ganolbwyntio'n benodol ar gyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel o gwmpas ffocws strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn, ffocws strategol Y Rhyl, Llanelwy, Bodelwyddan a Phrestatyn, yn cynnwys Bae Cinmel.

SO5. Annog cryfhau ac arall gyfeirio'r economi gwledig sy’n gydnaws â’r economi, y gymuned a'r amgylchedd lleol.

4.85.

Datganiad Strategaeth Economaidd

Bwriadwyd y polisi cyflogaeth strategol i sicrhau bod y Cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid dros gyfnod y cynllun i gynllunio, monitro ac adolygu 80 hectar o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliadau hygyrch er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfraniad y mae'n ei wneud tuag at gwrdd ag anghenion a nodwyd yn yr aneddiadau trefol a gwledig. Bydd yr ymagwedd at gyflenwi mewn ardal drefol yn cael ei harwain gan ddyraniadau a ymrwymwyd a newydd, tra bydd cynigion creu cyflogaeth mewn ardal wledig ar gyfer datblygiad B1, B2 a B8 yn cael eu hystyried yn unol â’r polisïau o fewn y Cynllun ac yn cael eu llywio ymhellach gan Gynllun Asedau Busnes y Cyngor.

POLISI EMP/1 - CYFARFOD Â GALW CYFLOGAETH B1 (BUSNES), B2 (DIWYDIANT CYFFREDINOL) a B8 (WARWS A STORIO) View Map of this site ?

Mae twf economaidd wrth galon amcanion y Cyngor i'r dyfodol wrth hyrwyddo adfywio a chwrdd â gofynion tir cyflogaeth B1, B2 a B8 dros gyfnod y cynllun. Bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu rhwng tua 80 Hectar o ‘Stoc Llawn ‘ tir cyflogaeth, (yn cynnwys safleoedd a ymrwymwyd, dyraniadau newydd a hap-safleoedd) gyda symudiad a ragwelwyd o B2 (Diwydiant Cyffredinol) i B1 (Busnes) a B8 (Warws). Cyflawnir hyn trwy:

  1. Lleoli tir cyflogaeth B1, B2 a B8 newydd yn unol â’r egwyddorion datblygu a nodwyd yn DP/1 a’r hierarchaeth aneddiadau a nodwyd yn DP/2. Dros y cyfnod 2007 i 2022, bydd tua 80% (64 hectar) o ‘Stoc Llawn’ tir cyflogaeth B1, B2 a B8 yn cael ei leoli o fewn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol tua 20% (16 Hectar) yn cael ei hyrwyddo o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig.
  2. Cwrdd â'r galw am 58 Hectar (yn cynnwys 24 hectar) o dir cyflogaeth B1 (Busnes), B2 (Diwydiant Cyffredinol) a B8 (Warws a Storio). Dyrennir tua 80% (46 hectar) o’r tir cyflogaeth a bydd ar gael o fewn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol hygyrch a hyrwyddir tua 20% (12 Hectar) o fewn yr Ardal Strategaeth Gwledig, yn bennaf i gwrdd â'r symudiad tuag at fwy o ddefnydd B1/B8 yn unol â pholisi EMP/2 a Thablau cefnogi EMP/2a ac EMP/2b. Gweithredir monitro lefelau ‘Stoc Rhydd ‘ trwy Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth a fydd yn llywio Adran Monitro a gweithrediad y Cynllun hwn;
  3. Hyrwyddo cymysgedd cynaliadwy o ddefnydd cyflogaeth B1, B2 a 8, Adwerthu, Hamdden/Twristiaeth a Thai yn unol â pholisi EMP/3
  4. Hyrwyddo ehangu busnesau B1, B2 a B8 presennol o fewn ardaloedd cyflogaeth sefydledig yn unol â EMP/4;
  5. Bydd dosbarthiad cyffredinol tir cyflogaeth newydd yn cael ei arwain gan yr Hierarchaeth Aneddiadau a nodwyd yn DP/2, polisi EMP/2 o fewn Ardal y Cynllun a Thablau cefnogol EMP/2a ac EMP/2b;
4.86.

Mae cyflenwi twf economaidd cynaliadwy yn berthnasol i thema ‘Creu Cymunedau Cynaliadwy’ yng Nghynllun Gofodol Cymru, ‘Conwy Ffyniannus’ ac ‘Annog Dysgu a Chreadigedd’ yn Strategaeth Gymunedol Conwy 2004 – 2014 a ‘Gwella’r Economi’ a ‘Gwella Isadeiledd’ yn Strategaeth Adfywio Conwy 2005 – 2015. Mae Cynllun Gofodol Cymru yn nodi ardal Llandudno fel ffocws sy'n cysylltu Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Cymru ac fel canolfan adwerthu, gwasanaethau a chyflogaeth i gefnwlad sylweddol. Mae hefyd yn nodi ffocws arall i'r dwyrain o'r Fwrdeistref Sirol sy'n cynnwys Tywyn, Bae Cinmel a rhannau cyfagos o Sir Ddinbych.

4.87.

Fframwaith Tir Cyflogaeth

Mae Astudiaeth Tir Cyflogaeth Conwy 2009 (cyfeirier at BP/14) yn nodi'r angen i’r Cyngor gynllunio, monitro ac adolygu stoc llawn o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 o tua 80 hectar dros gyfnod y cynllun er mwyn cwrdd â’r galw a nodwyd a bod yn ddigon hyblyg i ailgyflenwi stoc, delio gyda marchnadoedd sy’n newid a galw na ellir ei ragweld yn y dyfodol dros gyfnod y cynllun. Mae'r stoc llawn o 80 hectar yn cynnwys y cyflogaeth a ymrwymwyd (sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol neu sydd naill ai yn cael ei adeiladu neu’n cael ei adeiladu o fewn cyfnod y cynllun) a Stoc Rhydd (tir sydd ar gael) o 58 hectar sy’n cynnwys cwrdd â galw disgwyliedig cyflogaeth B1, B2 a B8 o 24 hectar (1.7 hectar y flwyddyn) dros gyfnod y cynllun.

4.88.

Yn unol â’r Hierarchaeth Aneddiadau a nodwyd ym Mholisi DP/2 ‘Dull Strategol Trosfwaol’ ac argymhellion yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth (Papur Cefndir 14), bydd tua 64 hectar (80%) o’r 80 hectar o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 yn cael ei leoli ac ar gael o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol ar hyd rhwydwaith trafnidiaeth y llain arfordirol strategol, gan mai dyma’r lleoliad mwyaf cynaliadwy o safbwynt ei leoliad i dai, gwasanaethau a chyfleusterau presennol ac arfaethedig. Bydd oddeutu 16 hectar (20%) o’r stoc llawn yn cael ei hyrwyddo a’i ystyried o fewn yr Ardal Strategaeth Gwledig i gynnal a chefnogi cymunedau cynaliadwy. Bydd dynodiadau yn hyblyg ond fe fydd yno symudiad tuag at ddynodiadau B1/B8 dros gyfnod y cynllun yn unol â’r hyn a ragwelwyd gan Astudiaeth Tir Cyflogaeth Conwy. Mae Tabl 7 isod yn nodi manylion y fframwaith tir cyflogaeth B1, B2 a B8 dros gyfnod y cynllun.

Tabl 7: Fframwaith Tir Cyflogaeth 2007 - 2022

Galw
1.7ha y flwyddyn (24 hectar dros gyfnod y cynllun)
 Canolbwyntio ar B1 / B8
 Canolbwyntio ar y Llain Arfordirol (A55 / Yr Arfordir)
 Ardal Wledig – (B1/B2/B8) Gofyniad tymor byr, tymor canol a hir dymor mewn ardaloedd diwydiannol neu gyflogaeth.
Cyflenwad
Targed 80% o stoc o gwmpas y Llain Arfordirol
 Targed 60% o stoc ar gyfer B1/ B8
 B2 – dynodiad hyblyg/cymysg lle mae hynny'n bosib
 Lefelau Stoc Llawn ar 80ha / Stoc Rhydd @ 48ha – 68ha
 Cyflenwi Tymor Byr ar 8ha - tir parod i'w wasanaethu (hy 2 - 4 yn fwy na'r galw)
 Tymor Canol ar 35ha - marchnadadwy ond 1-3 blynedd o gael ei wasanaethu
 Hir Dymor ar 15ha - ‘addas’ ond angen ei uwchraddio / gwasanaethu gyda 3 blynedd o gyfnod arwain i mewn.
4.89.

Mae Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth Conwy 2008 (cyfeirier at BP/13) yn dod i'r casgliad bod tua 24 hectar o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 eisoes wedi’i ymrwymo (gyda chaniatâd cynllunio, yn cael ei adeiladu neu wedi’i adeiladau ers Ebrill 2007). Wrth ystyried y tir a ymrwymwyd, mae hyn yn gadael gofyniad tir cyflogaeth B1, B2 a B8 o 42 hectar dros gyfnod y cynllun. Fodd bynnag, mae angen i'r Cyngor sicrhau bod yno stoc rhydd o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 tir o 58 hectar dros gyfnodau tymor byr, tymor canol a hir dymor y cynllun. Bwriad hyn yw cwrdd â'r galw am 24 hectar, a galw nad oes modd ei ragweld yn y dyfodol ac addasu i newidiadau yn y farchnad economaidd. Er mwyn sicrhau bod y galw’n cael ei ddiwallu a bod stoc rhydd ar gael, mae angen 16 hectar pellach o stoc rhydd B1, B2 a B8 tir cyflogaeth er mwyn sicrhau lefel stoc rhydd o 58 hectar, sy'n dod â chyfanswm y stoc llawn i 82 hectar dros gyfnod y cynllun fel nodir isod. Bydd y Cyngor yn monitro’r defnydd o dir cyflogaeth dros gyfnod y cynllun trwy’r Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth ac Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl er mwyn sicrhau bod lefelau stoc rhydd yn cael eu hailgyflenwi â thir B1, B2 a B8 y gellir ei gyflenwi.

Tir Cyflogaeth B1, B2 a B8 a Ymrwymwyd 24 Hectar
Stoc Rhydd sydd ei Angen58 Hectar (yn cynnwys 24 hectar o alw)
Cyfanswm Stoc82 Hectar
4.90.

Mae cyflawni a chynnal lefelau uchel o dwf economaidd a chyflogaeth B1, B2 a B8 yn fater cynllunio pwysig sydd â goblygiadau; nid yn unig ar gyfer creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy, ond hefyd i faterion cydgysylltiedig megis isadeiledd a'r tai sydd ar gael. Felly, y bwriad yw sicrhau bod cyfleoedd economaidd yn cael eu defnyddio i’w potensial llawn o fewn Ardal y Cynllun. Bydd yno bwyslais ar ddefnydd B1 (Busnes) a B8 (Storio/Warws) yn y tymor byr a'r tymor canol, a B2 yn yr hir dymor.

4.91.

Mae economi'r ardal yn bennaf yn cynnwys busnesau bach, mewn perchnogaeth leol. Lleolir y rhain mewn amrywiaeth o fangreoedd, ac nid bob tro mewn ardaloedd diwydiannol neu gyflogaeth. Er mwyn cadw bywiogrwydd yr economi B1, B2 a B8 lleol, mae'n bwysig bod busnesau presennol yn gallu ehangu o fewn eu cymunedau eu hunain, a pharhau i fod yn hygyrch i'w marchnadoedd lle bynnag y mae hynny'n bosib. I gynnal datblygiad yr economi B1, B2 a B8, bydd angen adnabod safleoedd newydd ar gyfer ehangu a busnesau newydd na ellir eu lleoli ar safleoedd presennol. Yn yr un modd, mae’n bwysig cadw safleoedd B1, B2 a B8 presennol a newydd, fel bod modd iddynt leoli busnesau bach newydd neu fusnesau sydd yn y broses o gael eu datblygu.

4.92.

B1, B2 a B8 Tir Cyflogaeth ac Awdurdodau Cyfagos

Mae’r Cynllun yn cydnabod na ellir ystyried y cyflenwad o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 yng Nghonwy ar wahân i'r cyflenwad mewn ardaloedd awdurdodau cyfagos, yn enwedig y lleoliadau hynny sydd mewn lleoliad strategol ar hyd coridor yr A55. Bydd angen i'r cynllun datblygu gymryd ystyriaeth o lefelau’r tir cyflogaeth sydd ar gael yn ogystal â dwysedd y gweithgaredd cyflogaeth presennol. Yn Sir Ddinbych, mae Parc Busnes Llanelwy yn ddatblygiad mawr 47 hectar sy’n cynnwys defnydd swyddfa graddfa fawr ac mae Ystâd Ddiwydiannol Parc Cinmel yn ystâd fawr 29 hectar sy'n cynnwys datblygiadau swyddfa, diwydiannol a warysau. Mae ystadau Parc Menai a Bryn Cegin yng Ngwynedd hefyd yn safleoedd cyflogaeth allweddol. Ni ragwelir y bydd y stoc llawn mawr o dir cyflogaeth o fewn ardal drefol y dwyrain yn cael effaith niweidiol ar safleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd cyfagos oherwydd natur eu defnydd. Yn anorfod bydd y defnydd bach a chanolig B1, B2 a B8 yn Tir Llwyd yn cael effaith ar gyflenwad a galw yn Sir Ddinbych

4.93.

Colli Defnydd Cyflogaeth yn Ardal y Cynllun

Mae safleoedd cyflogaeth o fewn Ardal y Cynllun yn adnoddau pwysig, y dylid eu cadw.

4.94.

Dylid gwrthsefyll trosi, newid defnydd neu ailddatblygu safleoedd cyflogaeth presennol i ddefnydd nad yw'n gysylltiedig â chyflogaeth o fewn yr ardaloedd strategaeth trefol a gwledig oni ddangosir bod y safle yn anaddas ar gyfer unrhyw ddefnydd cyflogaeth. Bydd angen i geisiadau cynllunio gynnwys tystiolaeth nad yw'r safle'n addas ar gyfer defnydd cyflogaeth parhaus. Byddai angen tystiolaeth bod yr eiddo wedi’i farchnata'n ddigonol am gyfnod nad yw'n llai na deuddeg mis ar delerau sy'n adlewyrchu defnydd cyfreithlon a chyflwr y fangre. Dylid gosod prisiad rhesymol i farchnata'r eiddo ar sail lleoliad a chyfyngiadau.

4.95.

Yn aml bydd datblygiadau cyflogaeth B1, B2 a B8 newydd mewn aneddiadau gwledig yn gyfyngedig oherwydd eu heffaith posib ar gymeriad pentref. Mae gwneud y defnydd gorau o safleoedd cyflogaeth presennol yn lleihau’r pwysau ar gyfer datblygu safleoedd newydd, yn cynnwys safleoedd newydd yng nghefn gwlad. Mae hefyd yn darparu ystod mwy o gyfleoedd cyflogaeth ac yn lleihau’r angen i deithio.

4.96.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi DP/6 a pholisïau cysylltiedig eraill yn y Cynllun hwn.

4.97.

Addasu Adeiladau Gwledig ar gyfer Cyflogaeth

Mae Ardal y Cynllun yn elwa o adnodd adeiladau gwledig. Lle nad oes angen yr adeiladau ar gyfer eu defnydd gwreiddiol mwyach, amaethyddiaeth yn bennaf, gallant roi cyfle gwerthfawr i gynnig cyflogaeth a chefnogaeth i'r economi wledig a’r Diwylliant Cymraeg. Ymysg y defnydd posib y mae masnach, diwydiant, twristiaeth neu hamdden.

4.98.

Oherwydd eu lleoliad, mae'n rhaid rheoli datblygiadau o'r fath yn ofalus. Mae'n hanfodol bod y defnydd a’r dyluniad arfaethedig yn rhoi ystyriaeth i gymeriad ac edrychiad yr adeilad presennol, a'r ardal gyfagos.

4.99.

Dylai datblygiadau fod ar raddfa sy'n addas i'w lleoliad, oherwydd gall datblygiadau cyflogaeth mawr yng nghefn gwlad wrthdaro gydag egwyddorion datblygiad cynaliadwy, gan arwain at symudiadau traffig anghynaliadwy, a niwed posib i'r amgylchedd. Dylid lleoli datblygiadau sy’n arwain at nifer sylweddol o weithwyr neu ymwelwyr o fewn neu yn agos i aneddiadau a dylent fod o fewn cyrraedd hwylus i gludiant cyhoeddus, beicio, neu gerdded. Mewn ardaloedd heb fynediad o'r fath, efallai y bydd datblygiad busnes ar raddfa fach yn dal yn briodol lle mae'n arwain at gynnydd bychan yn unig mewn symudiadau cerbydau. Yn y cyswllt yma efallai bydd angen cynhyrchu Cynllun Teithio a / neu liniaru effaith traffig yn unol â Pholisi STR/1. Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi DP/6 a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun hwn.

4.100.

Newid Adeiladau yng Nghefn Gwlad

Bydd y Cyngor yn cefnogi ailddatblygu adeiladau presennol yng nghefn gwlad ar gyfer dibenion datblygu economaidd lle mae lleoliad yr adeilad presennol yn addas ac o ddyluniad ac adeiladwaith parhaol, a lle byddai ei ailddatblygu hefyd yn arwain at welliant amgylcheddol, gan arwain at ddatblygiad mwy cynaliadwy a chyfrannu at adfywio gwledig.

4.101.

Wrth ystyried y cynigion ar gyfer newid adeiladau yng nghefn gwlad ar gyfer defnydd cyflogaeth, bydd unrhyw gynnydd mewn arwynebedd llawr yn cael ei reoli'n gaeth. Dylai'r dyluniad integreiddio’r datblygiad gyda'r ardal gyfagos yn unol â Pholisi DP/6 a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun hwn.

4.102.

Arallgyfeirio Ffermydd

Mae ffermio yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Conwy, ond yn gynyddol mae busnesau fferm yn gorfod arallgyfeirio i ffurfiau eraill o weithgaredd er mwyn i ffermio aros yn hyfyw. Fe allai hyn gynnwys, er enghraifft plannu coetiroedd, siopau fferm a phrosesu a phecynnu bwyd ar ffermydd. Er mwyn amddiffyn ansawdd a natur unigryw y tirwedd lleol, mae'r Cyngor yn dymuno atal datblygiad heb ei gydlynu mewn ardaloedd gwledig ac ailddatblygu asedau ffermydd heb ystyried hyfywedd y daliad.

4.103.

Mae'n bwysig bod gan gynigion ar gyfer arallgyfeirio economaidd sylfaen dda o safbwynt cyfrannu'n effeithiol at y busnes ffermio. Mae'n bwysig bod yr economi gwledig yn cael ei gefnogi a bod gweithgareddau cysylltiedig â ffermio yn cael eu hintegreiddio yn yr amgylchedd a'r tirwedd gwledig. Mae'n ofynnol i ffermwyr gyflwyno Cynllun Busnes Fferm gydag unrhyw gais cynllunio ar gyfer arallgyfeirio. Fe ddylai hyn gynnwys manylion gweithgareddau presennol y fferm, yr angen i arallgyfeirio, manylion y cynnig a goblygiadau’r cynnig i, er enghraifft, yr economi gwledig a'r amgylchedd yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’ a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun hwn.

POLISI EMP/2 - DYRANIADAU SAFLE I GWRDD Â GALW CYFLOGAETH B1, B2 A B8 A LEFELAU STOC RHYDD View Map of this site ?

  1. Dyrennir ‘Stoc Rhydd’ o 58 hectar o dir cyflogaeth BI, B2 a B8 (yn cynnwys 24 hectar o alw) a bydd ar gael dros gyfnod y cynllun er mwyn sicrhau stoc o safleoedd y gellir eu cyflenwi.
  1. O fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol dyrennir a rhyddheir lefel ‘Stoc Rhydd’ o tua 46 hectar, (yn cynnwys 19 hectar o alw), yn unol â Thabl EMP/2a, yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill o fewn y cynllun. Lleolir tir yn ffocysau Strategol y Cynllun Gofodol, sef:
  1. Bae Colwyn, Llandudno, a Chyffordd Llandudno,
  2.  Bae Cinmel (wedi’i gynnwys o fewn Ffocws Rhyl, Prestatyn a Dinbych)

Fel nodir yn Nhabl EMP/2b a’r Map Cynigion. Bydd tir i gwrdd â lefelau stoc rhydd yn cynnwys dyraniadau newydd a safleoedd heb eu datblygu a ymrwymwyd fel a ganlyn:

Ardal Strategaeth Datblygu Trefol
Tir sydd ar gael yn rhydd o Safleoedd Cyflogaeth heb eu datblygu a ymrwymwyd (B1, B2 a B8) B1, B2 a B8 Hectar
BParc Busnes, Abergele (Cam 1) 0.38
Parc Busnes, Abergele (Cam 2) 9.5
Tir Llwyd, Bae Cinmel 27.9
Ar Lein/The Point, Cyffordd Llandudno 3.2
Ffordd Maelgwyn, Cyffordd Llandudno 0.3
Lynx express, Rhodfa Penrhyn, Llandrillo-yn-Rhos 0.13
Tty Gwyn, Llanrwst 1.54
Is Gyfanswm Stoc Rhydd 42.95
Dyraniadau BI, B2 a B8 Newydd
Estyniad Tir Llwyd, Bae Cinmel 8.0
Esgyryn, Cyffordd Llandudno (Defnydd Cymysg Preswyl a Chyflogaeth B1 – Cyfanswm Arwynebedd = 10.2 hectar) 7.2
Is Gyfanswm Stoc Rhydd 15.2
CYFANSWM STOC RHYDD TREFOL 58.15
  1. O fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig caniateir stoc rhydd o tua 12 hectar (yn cynnwys 5 hectar o alw) yn unol â’r Egwyddorion Datblygu, polisïau cysylltiedig eraill o fewn y cynllun ac Adroddiad Asedau Busnes y Cyngor.
  1. Bydd dyraniadau ac ymrwymiadau o fewn yr ardal drefol a safleoedd cyflogaeth B1, B2 a B8 newydd eu cynnig o fewn yr ardal wledig yn cael eu monitro yn unol â Thabl EMP/2b

Tabl 8 EMP/2a: Cyfanswm Dynodiadau a Rhyddhau Tir Cyflogaeth B1, B2 a B8

B1/B8 Hectar 2007 – 2022 B2 Hectar 2007 – 2002  
Tymor Byr Tymor Canol Hir Dymor Tymor Byr Tymor Canol Hir Dymor Cyfanswm
Ardal Strategaeth Datblygu Trefol
 4  17  7  2  11  5  46
RArdal Strategaeth Datblygu Gwledig
 1  4  2  1  3  1  12
CYFANSWM
 5  21  9  3  14  6  58

Tabl 9: EMP/2b: Dyraniadau/Ymrwymiadau Heb eu Datblygu, Dynodiadau a Rhyddhau Stoc Rhydd Tir Cyflogaeth B1, B2 a B8

Safleoedd Math o ddefnydd Cyfanswm tir sy'n weddill (Hectar) Cyflenwi tymor byr (Hyd at 12 mis) Cyflenwi tymor canol (1 – 3 blynedd) Cyflenwi hir dymor (3 blynedd a mwy)
ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU TREFOL
Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8 Heb eu Datblygu a Ymrwymwyd
Lynx express, Rhodfa Penrhyn, Llandrillo-yn- Rhos  B1  0.13  0.13  0  0
Llandudno ‘ar lein’, Ffordd Conwy, Cyffordd  B1, B2  3.2  3.2  0  0
Uned 1 Parc Busnes Morfa Conwy, Conwy  B1, B2  0  0  0  0
Tir yn Ffordd Maelgwyn, Cyffordd  B1, B2, B8  0.3  0.3  0  0
Tir Llwyd, Bae Cinmel  B1, B2, B8
 27.9
 2.16  21.8  3.94
Parc Busnes Abergele (cam 1)  B1  0.38 0.38 0
0
 
Parc Busnes Abergele (cam 2)  B1  9.5  0  9.5  0
Ty Gwyn, Llanrwst  B1, B2, B8
 1.54  1.54  0  0
Is Gyfanswm    42.95  7.71  31.3  3.94
Dyraniad Newydd Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8
Esgyryn, Cyffordd Llandudno (Defnydd Cymysg Preswyl/Safle Cyflogaeth)  B1/Preswyl  7.2  0  0  7.2
Estyniad Tir Llwyd, Bae Cinmel    8.0  0  0  8.0
Is Gyfanswm    15.2  0  0  15.2
ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU GWLEDIG
Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8 Heb eu Datblygu a Ymrwymwyd
N/A  0  0  0  0  0
Dyraniad Newydd Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8
N/A  0  0  0  0  0
CYFANSWM          

Tabl EMP/2b: Dyraniadau/Ymrwymiadau Heb eu Datblygu, Dynodiadau a Rhyddhau Stoc Rhydd Tir Cyflogaeth B1, B2 a B8

Safleoedd Math o ddefnydd Cyfanswm tir sy'n weddill (Hectar) Cyflenwi tymor byr (Hyd at 12 mis) Cyflenwi tymor canol (1 – 3 blynedd) Cyflenwi hir dymor (3 blynedd a mwy)
URBAN DEVELOPMENT STRATEGY AREAARDAL STRATEGAETH DATBLYGU TREFOL
Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8 Heb eu Datblygu a Ymrwymwyd
Lynx express, Rhodfa Penrhyn, Llandrillo-yn- Rhos  B1  0.13  0.13  0  0
Llandudno ‘ar lein’, Ffordd Conwy, Cyffordd  B1, B2  3.2  3.2  0  0
Uned 1 Parc Busnes Morfa Conwy, Conwy  B1, B2  0  0  0  0
Tir yn Ffordd Maelgwyn, Cyffordd  B1, B2, B8  0.3  0.3  0  0
Tir Llwyd, Bae Cinmel  B1, B2, B8
 27.9
 2.16  21.8  3.94
Parc Busnes Abergele (cam 1)  B1  0.38 0.38 0
0
 
Parc Busnes Abergele (cam 2)  B1  9.5  0  9.5  0
Ty Gwyn, Llanrwst  B1, B2, B8
 1.54  1.54  0  0
Is Gyfanswm    42.95  7.71  31.3  3.94
Dyraniad Newydd Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8
Esgyryn, Cyffordd Llandudno (Defnydd Cymysg Preswyl/Safle Cyflogaeth) B1/Preswyl  7.2  0  0  7.2
Estyniad Tir Llwyd, Bae Cinmel    8.0  0  0  8.0
Is Gyfanswm    15.2  0  0  15.2
ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU GWLEDIG
Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8 Heb eu Datblygu a Ymrwymwyd
N/A  0  0  0  0  0
Dyraniad Newydd Safleoedd Cyflogaeth B1, B2 a B8
N/A  0  0  0  0  0
CYFANSWM    58.15  7.71  31.3  19.14
4.104.

Yn unol â chasgliadau Astudiaeth Tir Cyflogaeth Conwy (2009), mae angen i'r Cyngor sicrhau bod yno dir cyflogaeth stoc rhydd (tir sydd ar gael) B1, B2 a B8 o 58 hectar dros dymor byr, tymor canol a hir dymor cyfnod y cynllun. Mae hyn er mwyn cwrdd â'r galw am 24 hectar ac addasu i newidiadau yn sgîl galw annisgwyl yn y dyfodol, lle rhagwelir symudiad o B2 (Diwydiant Cyffredinol) i BI (Busnes) a B8 (Warws a Storio) fel nodir yn EMP/2 a’r tablau cefnogol. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oes tir ar gael dros gyfnod y cynllun i gyflenwi’r 12 hectar o Stoc Rhydd o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig. Mae hyn yn golygu cyflwyno tir a arfarnwyd i'r Cyngor i'w ystyried a chwblhau’r Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth (cyfeirir at BP/13). Er mwyn cwrdd â'r angen o fewn yr Ardal Strategaeth Gwledig, caniateir cynigion ar gyfer cyflogaeth B1, B2 a B8 yn ddarostyngedig i'r Egwyddorion Datblygu. Bydd y Cyngor yn paratoi Cynllun Asedau Busnes a fydd yn hysbysu'r Cyngor ynghylch tir posib i ddiwallu'r angen. Bydd cwblhau’r Cynllun Asedau Busnes yn llywio adolygu’r CDLl trwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol.

4.105.

Mae CBSC eisoes wedi gwneud gwaith sylweddol i adnabod a dosbarthu stoc sydd eisoes yn bodoli yn y sir. Mae Tabl EMP/2b yn crynhoi’r sefyllfa gyfredol o ran cyflenwad tir. Yn hanfodol mae hyn yn rhoi syniad clir i'r Cyngor ynghylch pa dir sydd ar gael ar gyfer dibenion datblygu. O gofio bod rhai safleoedd a ymrwymwyd sydd heb eu datblygu yn denu dynodiadau cymysg bu’n rhaid cydgrynhoi’r diffiniad ar gyfer y dadansoddiad hwn.

POLISI EMP/3 - DIOGELU TIR CYFLOGAETH B1, B2 a B8 PRESENNOL View Map of this site ?

Caniateir datblygiad a fyddai'n arwain at golli tir cyflogaeth neu fangre presennol a ymrwymwyd i ddefnydd arall yn unig yn yr amgylchiadau eithriadol canlynol;

  1. nid yw'r defnydd presennol yn gydnaws â'r ardal gyfagos ac nid yw'n bosib defnyddio’r safle’n foddhaol ar gyfer cyflogaeth, a;
  2. gellir dangos na fyddai yno effaith sylweddol ar y cyflenwad cyffredinol o dir a mangreoedd cyflogaeth.
4.106.

Oherwydd natur ac effaith y gweithgaredd diwydiannol/masnachol, mae'r tir sy'n addas ar gyfer datblygu cyflogaeth yn llawer mwy anodd i'w adnabod a’i ddwyn ymlaen na thir ar gyfer dibenion eraill megis tai. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod safleoedd cyflogaeth ac adeiladau sy’n bodoli eisoes neu sydd wedi eu dyrannu yn y Cynllun ar gyfer datblygu cyflogaeth yn cael eu trin fel adnodd gwerthfawr a phrin.

4.107.

Cyfyngir eithriadau i'r Polisi i safleoedd diwydiannol/swyddfeydd presennol ac ni ragwelir y bydd llawer ohonynt ac fe’u hystyrir yn unig os yw'r Cyngor o'r farn bod y safle neu'r fangre yn anaddas ar gyfer dibenion cyflogaeth yn rhinwedd ei leoliad a’r ardal gyfagos ac effaith y defnydd ar amwynderau defnyddwyr tir cyfagos.

POLISI EMP/4 - HYRWYDDO TIR CYFLOGAETH DEFNYDD CYMYSG View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn caniatáu datblygiad defnydd cymysg, yn y lleoliadau canlynol yn unol â’r Egwyddorion Datblygu;

  1. Hen Waith Alwminiwm yn Nolgarrog ar gyfer cyflogaeth B1, B2 a B8 /Hamdden a Thai;
  2. Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan ar gyfer cyflogaeth B1/Hamdden a/neu cyflogaeth Iechyd/Meddygol
  3. Hen Waith Briciau, Cyffordd Llandudno ar gyfer cyflogaeth B1, B2 a B8 a defnydd adwerthu/ stordai adweddu fformat mawr;
  4. Esgyryn, Cyffordd Llandudno yn bennaf ar gyfer cyflogaeth B1 gydag elfen o Dai;
  5. Parc Busnes Abergele ar gyfer cyflogaeth B1 a/neu cyflogaeth Iechyd/Meddygol
  6. High Street East, Cyffordd Llandudno ar gyfer tai a chyflgaeth
  7. Tir Llwyd, Bae Cinmel fel defnydd cymysg B1, B2, B8 cyflogaeth a Chyfleuster Rheoli Gwastraff.
4.108.

Mae'r lleoliadau hyn yn ffurfio safleoedd cyflogaeth B1, B2 a B8 pwysig wrth ddarparu tir a swyddi ar gyfer y cymunedau yn yr anheddiad hynny. Er mwyn amddiffyn, cwrdd â sialensiau’r farchnad economaidd cyfredol a hyrwyddo elfen o hyblygrwydd wrth ail-leoli adwerthwyr cymharol a chyfleus presennol a hyrwyddo cymunedau cynaliadwy, tai fforddiadwy a hyrwyddo twristiaeth gydol y flwyddyn, caniateir datblygiadau defnydd cymysg yn cynnwys, B1, B2 a B8, Hamdden, Adwerthu a Thai lle bydd polisi EMP/3 a, lle mae hynny’n briodol, polisïau perthnasol eraill yn y cynllun yn cael eu cyflawni. Mae'n bwysig bod y safleoedd hyn yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo er mwyn denu defnydd cyflogaeth a fydd o fudd i'r gymuned a'r amgylchedd naturiol a hanesyddol.

4.109.

Er mwyn cwrdd â’r stoc rhydd tir cyflogaeth dros gyfnod y cynllun, bydd Esgyryn ac estyniad i Dir Llwyd yn cael eu dyrannu yn y CDLl. Er mwyn sicrhau cyflenwi safle Esgyryn bernir bod angen elfen o ddatblygiad preswyl, yn cynnwys tua 90 anheddiad, er mwyn sicrhau hyfywedd economaidd y safle ac o’r herwydd, bod modd ei chyflenwi dros gyfnod y cynllun. Mewn perthynas ag ymrwymiadau presennol, mae caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd B1, B2, B8 ar hen safle’r Gwaith Brics, a hefyd siop DIY fformat mawr.

4.110.

Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn argymell y dylai’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu tir diwydiannol sydd ar gael i weld a yw’n addas ar gyfer gweithrediadau rheoli gwastraff. Mae astudiaeth ddiweddar o’r tir cyflogaeth wedi dangos fod lle yn Tir Llwyd ar gyfer rhagor o weithrediadau diwydiannol. I sicrhau hyblygrwydd, ac i gyd-fynd â defnydd presennol y safle a’r defnydd i’r dyfodol, nid oes unrhyw ardal benodol wedi’i nodi, ond byddwn yn ystyried pob cais am gyfleusterau trin gwastraff yn y lleoliad hwn yn unigol.

4.111.

Bydd Briffiau Datblygu yn cael eu paratoi gan Wasanaethau Polisi Cynllunio ac Adfywio Conwy.

POLISI EMP/5 - EHANGU BUSNESAU B1, B2 a B8 View Map of this site ?

Caniateir ehangu busnesau B1, B2 a B8 presennol ar yr amod eu bod wedi eu lleoli o fewn ardaloedd cyflogaeth sefydledig o fewn ffiniau aneddiadau ac nad yw’n gwrthdaro gyda’r Egwyddorion Datblygu a pholisïau perthnasol eraill o fewn y Cynllun.

4.112.

Bydd lefel stoc rhydd o 58 hectar yn galluogi twf mewn swyddi ac ehangu ar yr ystadau diwydiannol presennol (e.e. Parc Busnes Mochdre, Ystadau Diwydiannol Tir Llwyd a Thre Marl), lle mae newidiadau yn y farchnad yn galw am hynny. Mae'r lleoliadau hyn yn ardaloedd cyflogaeth sefydledig yn y Fwrdeistref Sirol a bydd angen i’r cynllun fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu ehangu lle mae hynny'n briodol. Cydnabyddir bod Tir Llwyd o fewn parth perygl o lifogydd categori C1, fodd bynnag, mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn diweddaru astudiaeth Perygl Llifogydd o'r Llanw Conwy a fydd yn rhoi mwy o sicrwydd parthed graddfa'r perygl rhag llifogydd yn yr ardal honno, a bydd hynny'n llywio’r Asesiadau Canlyniadau Llifogydd sydd yn gysylltiedig â chynigion datblygu.

4.113.

Mae'n bwysig bod cwmnïau presennol nad ydynt yn cwrdd â gofynion Polisi EMP/1 yn cael cyfle i ehangu ac addasu er parhad llwyddiant eu busnes, ond mae'n rhaid i hyn ddigwydd mewn amgylchiadau priodol. Ni ddylai graddfa twf wrthdaro gyda pholisïau eraill y cynllun, ac ni ddylai arwain at lefel anghynaliadwy o ddatblygiad mewn lleoliad arbennig. Anogir busnesau sy'n ceisio ehangu ar raddfa fawr i chwilio am leoliadau o fewn Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol ac yn agos i'r rhwydwaith ffyrdd strategol ar hyd llain yr arfordir.

4.114.

Mae ehangu yn golygu ychwanegiadau neu addasiadau i adeilad presennol, o fewn y cwrtil presennol neu dir cyfagos

Twristiaeth

Amcanion Gofodol

SO5. Annog cryfhau ac arallgyfeirio’r economi gwledig sy’n gydnaws â’r economi, y gymuned a’r amgylchedd lleol.

SO8. Cynorthwyo twristiaeth trwy amddiffyn a gwella atyniadau a llety twristiaeth ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad

4.115.

Datganiad Strategaeth Twristiaeth

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Ardal y Cynllun. Mae'r Strategaeth Gymunedol yn cydnabod bod atyniadau i ymwelwyr gydol y flwyddyn yn hanfodol i ffyniant a lles yr ardal a'r economi lleol. Mae prif ffocws llety twristiaeth yng nghanolfannau gwyliau traddodiadol yr arfordir. Mae'r prif atyniadau yn cynnwys asedau unigryw amgylchedd naturiol ac adeiledig Ardal y Cynllun a’r agosrwydd at Barc Cenedlaethol Eryri. Mae'n bwysig amddiffyn nid yn unig yr atyniadau a’r cyfleusterau traddodiadol yma, a gwella ansawdd cyffredinol y llety presennol, ond hefyd hyrwyddo a chefnogi twristiaeth y tu allan i'r tymhorau brig gan sicrhau ansawdd amgylcheddol a threftadaeth. Mae'r Adran hon yn ymgorffori’r polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau bod gweithgareddau fel beicio, cerdded a thwristiaeth amgylcheddol a threftadaeth yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi fel rhan o'r strategaeth sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth.

POLISI EMP/6 - TWRISTIAETH View Map of this site ?

  1. Cyfrannu at ddatblygiad economaidd trwy hyrwyddo twristiaeth gydol y flwyddyn gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael ei warchod:
  1. Cefnogi mewn egwyddor, cynigion ar gyfer datblygiad cysylltiedig â thwristiaeth sy'n arallgyfeirio mewn tymhorau tu allan i'r cyfnod brig gan gynnal ansawdd amgylcheddol a threftadaeth.
  2. Ceisio gwella cysylltiadau a budd traws ffiniau gydag awdurdodau cyfagos, yn unol â Pholisi EMP/7 ‘Lleoliad Datblygiad Twristiaeth Newydd’
  3. Gwrthwynebu cynigion a fyddai'n arwain at golli llety â gwasanaeth, yn unol â Pholisi EMP/8.
  4. Rheoli datblygiad safleoedd newydd ac estyniadau i safleoedd presennol ar gyfer cabannau gwyliau, carafannau sefydlog a theithiol a gwersylla o fewn Ardal y Cynllun, yn unol â pholisi EMP/9;
  5. Gwella cysylltedd trwy gefnogi cyflenwi’r Bont Defnydd Deuol a Marina Harbwr Foryd, y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru, yn unol â STR/1 ‘Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygiad a Hygyrchedd’
4.116.

Mae'r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn ffactorau allweddol wrth ddenu ymwelwyr i'r ardal ac mae angen eu rheoli'n effeithiol. Fodd bynnag, mae twristiaeth yng Nghonwy ar hyn o bryd yn gweld newid yn y galw, gyda dirywiad mewn gwyliau haf teuluol traddodiadol a chynnydd yn y pwyslais ar ystod mwy eang o weithgareddau, nad ydynt wedi eu cyfyngu'n unig i fisoedd traddodiadol yr haf. Y tair prif ardal twf yw twristiaeth busnes, gweithgareddau morol a gwyliau gweithgaredd byr. Mae angen llety a chyfleusterau o ansawdd ar yr ardaloedd twf hyn er mwyn sicrhau bod twristiaeth yn parhau i chwarae rôl bwysig yn Ardal y Cynllun.

4.117.

Mae’r atyniadau a'r cyfleusterau arfordirol traddodiadol a gynigir gan leoedd fel Llandudno, Bae Colwyn, Conwy, Llandrillo-yn-Rhos, Tywyn a Bae Cinmel yn dal i wneud cyfraniad pwysig i'r economi ond mae tueddiadau diweddar yn awgrymu’r angen am sylfaen twristiaeth mwy amrywiol. Mae Venue Cymru yn Llandudno wedi cael ei ehangu ac mae'n cyfrannu at ystod ac ansawdd cyffredinol cyfleusterau twristiaeth sy’n seiliedig ar fusnes a gynigir o fewn Ardal Twf Twristiaeth Strategol Llandudno, Deganwy a Chonwy. Mae yno gyfle i gadw a gwella’r gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn trwy ddarparu cyfleusterau newydd a gwella ansawdd cyfleusterau presennol. Byddai hyn yn cynnwys gwella ansawdd llety gwyliau a galluogi darparu ystod eang o weithgareddau awyr agored a dan do, gan ffafrio ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol.

4.118.

Mae lleoli Harbwr Foryd ar y ffin rhwng Bae Cinmel yng Nghonwy a Rhyl yn Sir Ddinbych wedi rhoi'r cyfrifoldeb am ei ddefnyddio yn y dyfodol yn nwylo’r ddau awdurdod. Diogelir y safle yma yn y cynllun datblygu ar gyfer datblygiadau twristiaeth a hamdden a bydd unrhyw ddatblygu yn y dyfodol yn cael ei reoli'n ofalus trwy ddull gweithredu mewn partneriaeth. Mae cynlluniau cychwynnol yn awgrymu iard storio cychod, marina gydag angorfeydd gwell, a chyswllt cerddwyr/beicwyr newydd ar draws yr Afon Clwyd.

4.119.

Efallai y bydd yno amgylchiadau eithriadol lle byddai llety ac atyniadau twristiaeth mwy yn briodol yng nghefn gwlad agored neu leoliadau nad ydynt yn drefol lle gellir ymestyn y tymor twristiaeth gan arwain at enillion o safbwynt cyflogaeth wledig. Fodd bynnag, ni ddylai datblygiad fod ar draul ystyriaethau amgylcheddol. Yn aml fe all cynlluniau a ddyluniwyd yn dda sicrhau cadwraeth neu gynyddu bioamrywiaeth ac ansawdd tirwedd ond cydnabyddir y gall fod yno effeithiau negyddol ar gefn gwlad gan arwain at drefoli rhannol. Felly, mae Polisi EMP/1 yn darparu meini prawf caeth ar gyfer ystyried cynigion o'r fath. Gallai enghreifftiau o gynlluniau yng nghefn gwlad agored gynnwys eco-dwristiaeth, gweithgareddau marchogaeth, beicio mynydd, canŵio, pledu paent, a physgota fel rhan o safle twristiaeth integredig. Un enghraifft o leoliad lle gallai cyfleusterau sylweddol fod yn briodol yng nghefn gwlad agored yw hen Waith Alwminiwm Dolgarrog yn unol â Pholisi EMP/4.

POLISI EMP/7 - LLEOLIAD DATBLYGIAD TWRISTIAETH NEWYDD View Map of this site ?

  1. Bydd datblygiadau twristiaeth newydd, yn cynnwys llety ac atyniadau yn cael eu lleoli'n bennaf o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol;
  2. O fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig caniateir datblygiad twristiaeth newydd yn unol â Pholisi EMP/9 a DP/6.
  3. Bydd pob cynnig yn cael ei ystyried yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y cynllun a fwriadwyd i amddiffyn yr amgylchedd a chymeriad y tirwedd.
4.120.

Mae'r galw am ystod eang o gyfleusterau twristiaeth trwy gydol y flwyddyn yn effeithio ar natur dymhorol y diwydiant. Mae gweithredu busnesau twristiaeth gwahanol ar adegau gwahanol yn gofyn am ddull mwy hyblyg. Bydd y Cyngor yn cefnogi datblygu ac addasu ystod o gyfleusterau twristiaeth i ddarparu ar gyfer y newid yma yn y galw lle mae hynny’n briodol.

4.121.

Mae ymweliadau traddodiadol yr haf am gyfnod o wythnos neu ddwy yn dirywio ac mae'r galw am wyliau byr yn cynyddu, fodd bynnag, ni ddylid gweld y newid yma fel cyfyngiad, yn wir mae disgwyl i lefelau twristiaeth gynyddu 6% y flwyddyn yn y DU, targed y mae Cymru yn ymrwymedig i'w gyflawni. Un ffordd o hyrwyddo hyn yw trwy ddarparu amrywiaeth ehangach o gyfleusterau trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliadau gweledig ac arfordirol fel: gweithgareddau dŵr, darparu gweithgareddau/cyfleusterau ar gyfer gwyliau byr, gwibdeithiau diwrnod, a gwella cysylltiadau gyda chyfleusterau awdurdodau cyfagos.

4.122.

Fe all twristiaeth hefyd ffynnu mewn ardaloedd gwledig, lle gelir defnyddio trefi marchnad, er enghraifft, i ddenu cyfran uwch o ymwelwyr. Mae gan ardaloedd gwledig hefyd y potensial i integreiddio arallgyfeirio busnesau gydag arallgyfeirio datblygiad sy'n seiliedig ar dwristiaeth a bydd y Cynllun yn cefnogi cynlluniau addas mewn lleoliadau priodol.

4.123.

Mae ffurfiau eraill o lety i ymwelwyr yn cynnwys, er enghraifft, sefydliadau gwely a brecwast, a bythynnod a fflatiau hunan arlwyo. Er bod y rhain yn darparu ffurf werthfawr o lety, mae angen asesu natur, graddfa a lleoliad llety newydd yn ofalus, er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwrthdaro gydag amcanion eraill y Cynllun ac egwyddorion cynaliadwyedd.

4.124.

Mae'r aneddiadau o fewn yr Ardal Datblygu Trefol yr Arfordir yw'r lleoliadau a ffafrir ar gyfer datblygiad newydd er mwyn i gyfleusterau newydd fod yn hygyrch i ymwelwyr a bod llety newydd yn cael ei ddarparu lle gall ymwelwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau trwy gael dewis o ddulliau teithio.

4.125.

O fewn yr Ardal Strategaeth Gwledig dylai cynigion yn gyntaf edrych ar ailddefnyddio adeiladau presennol ac estyniadau i fusnesau presennol er mwyn amddiffyn cefn gwlad rhag datblygiadau anaddas, yn unol â Pholisi EMP/6 a DP/6. Fodd bynnag, fe ellid caniatáu adeiladu atyniadau a llety â gwasanaethau newydd mewn rhai rhannau o gefn gwlad os nad oes yno safleoedd neu adeiladau dilyniannol mwy ffafriol. Bydd hyn yn galluogi datblygiad penodol a allai helpu i ymestyn y tymor twristiaeth, darparu budd i'r gymuned leol a hyrwyddo mwy o gysylltiadau gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, ni chaniateir adeiladu llety heb wasanaeth newydd, er mwyn amddiffyn yr ardal rhag adeiladu tai gwyliau preifat ar draws Ardal y Cynllun.

4.126.

Fe all pwysau ymwelwyr arwain at bryderon mewn lleoliadau sy'n amgylcheddol sensitif. Mae canllawiau cenedlaethol, strategaethau ac astudiaethau cysylltiedig yn cadarnhau bod angen i'r polisi gydnabod y gallu mwy cyfyngedig yn yr ardaloedd hyn. Nodwyd yr ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu twristiaeth ar y Map Cynigion, sydd wedi llywio’r Hierarchaeth Twristiaeth. Mae gan bob un o'r ardaloedd a nodwyd yn yr hierarchaeth twristiaeth alluoedd gwahanol i gynnwys datblygiad newydd.

4.127.

Addasu yn Llety Gwyliau

Mae yno amryw o adeiladau presennol o fewn y trefi a’r pentrefi sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer addasu yn llety gwyliau, llety â gwasanaethau a llety hunan arlwyo. Ar ben hynny, mae yno lawer o adeiladau gwledig yn mynd allan o ddefnydd oherwydd arferion ffermio modern. Byddai addasu adeiladau addas o'r fath yn llety gwyliau yn cyfrannu tuag at arallgyfeirio’r economi gwledig ac at hyrwyddo’r Diwylliant Cymraeg, ac felly yn cael croeso cyffredinol, yn unol â DP/6

POLISI EMP/8 - PARTH LLETY GWYLIAU View Map of this site ?

Dynodir Parth Llety Gwyliau yn Llandudno ac fe’i dangosir ar y map cynigion. Er mwyn diogelu lefel briodol o welyau â gwasanaethau ar gyfer twristiaeth, ni chaniateir cynigion ar gyfer ailddatblygu neu addasu gwelyau â gwasanaethau presennol ar gyfer defnydd twristiaeth a defnydd nad yw'n ymwneud â thwristiaeth o fewn y parth yma.

4.128.

Bwriad yr Awdurdod Cynllunio yw sicrhau bod unrhyw ddirywiad yn lefel y llety gwyliau, trwy newid defnydd amgen, yn cael ei reoli'n briodol.

4.129.

Mae gwestai yn agwedd bwysig o economi twristiaeth cynaliadwy. Fe all datblygu gwestai newydd fod o fudd lle maent yn gwella ansawdd y llety mewn lleoliad arbennig. Mae hefyd yn bwysig gwrthsefyll colli gwestai. Mae'n bwysig cadw llety gwestai yn Ardal Twf Twristiaeth Strategol Deganwy a Chonwy, lle mae hynny'n bosib, er mwyn cadw bywiogrwydd a chymeriad unigryw’r ardal.

POLISI EMP/9 - SAFLEOEDD CABANNAU GWYLIAU, CARAFANNAU A GWERSYLLA View Map of this site ?

  1. Caniateir cynigion ar gyfer gwella safleoedd presennol yn amodol ar y canlynol:
  1. Bod y datblygiad yn arwain at welliant cyffredinol yn y cyfleusterau, gosodiad a thirweddu;
  2. Nad yw'r datblygiad yn cynyddu nifer yr unedau carafannau sefydlog neu gabannau gwyliau ar y safle;
  3. Nad yw'r datblygiad yn arwain at gynnydd cyffredinol yn ardal y safle;;
  4. Bod y datblygiad yn gydnaws â'r Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun.
  1. Ni chaniateir safleoedd newydd ar gyfer safleoedd cabannau gwyliau, carafannau sefydlog, carafannau teithiol neu wersylla.
4.130.

Mae safleoedd carafannau sefydlog a charafannau teithiol yn ogystal â safleoedd cabannau gwyliau a gwersylla yn ffynhonnell bwysig o lety gwyliau, sy'n gallu bod yn hanfodol i lwyddiant yr economi twristiaeth, er bod safleoedd o'r fath yn aml yn cael eu gweld fel rhai sy'n weledol ymwthiol, sy'n arbennig o amlwg ym mhrif ardaloedd canolfannau gwyliau Tywyn a Bae Cinmel lle mae cyfres o safleoedd wedi uno a dod yn fwy amlwg. Yn yr un modd, mae dwysedd safleoedd yn y gorffennol wedi cael effaith weledol ar nifer fach o leoliadau gwledig. Mewn rhai ardaloedd gellir barnu bod effaith crynodol safleoedd presennol yn weledol ymwthiol ac yn tra-arglwyddiaethu ar y tirwedd, felly bydd y Cyngor yn annog cynlluniau tirweddu i wella a sgrinio safleoedd

4.131.

Mae gormod o dir yn cael ei roi i lety hunan arlwyo ar ffurf carafannau sefydlog a chabannau gwyliau yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol. Felly, bydd y Cyngor yn parhau gyda'r polisi a sefydlwyd ers tro o wrthwynebu cynigion i ddatblygu rhagor o dir i'w ddefnyddio yn yr ardaloedd hyn. Nid yw'r broblem yma o ormodedd yn berthnasol yn yr ardal fwyaf gwledig. Fodd bynnag, fe all datblygiad o'r fath, yn enwedig carafannau sefydlog, ymwthio ar y tirwedd a niweidio cymeriad yr ardal wledig oni bai ei fod wedi’i reoli'n gaeth.

4.132.

Caniateir disodli safleoedd carafannau sefydlog â datblygiadau mewn arddull caban coed lle mae hynny'n gwella edrychiad a thirweddu'r safle. Fodd bynnag, fel gyda phob datblygiad, caniateir cynigion ar gyfer unrhyw lety yn unig ar ôl dangos na fydd yno effaith niweidiol ar integriti Safleoedd Natura 2000.

POLISI EMP/10 - YMESTYN Y TYMOR GWYLIAU View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn caniatáu ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafannau, cabanau gwyliau a gwersylla presennol, cyn belled fod y safle yn addas ar gyfer defnydd estynedig o’r fath, ac ond yn cael ei ddefnyddio i bwrpas gwyliau.

4.133.

Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 13: ‘Twristiaeth’ (2006), paragraff 3.38 yn nodi y ‘dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi ystyriaeth sympathetig i geisiadau i ymestyn y cyfnodau gweithredu sy’n cael eu caniatáu dan y caniatâd cynllunio presennol er mwyn lleihau effaith dymhorol y diwydiant a hyrwyddo twristiaeth, cyn belled nad yw’r cyfnod gweithredu estynedig yn cael effaith niweidiol ar yr ardal o gwmpas, yr amgylchedd lleol a’r gymuned’

4.134.

Yn unol â Pholisi DP/6 a TAN15 ‘Datblygu a Risg Llifogydd’, byddwn yn gwrthod ymestyn y tymor gwyliau i safleoedd sy’n agored iawn i risg llifogydd, fel y parciau carafanau a chabanau gwyliau hunangynhwysol presennol yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, er mwyn sicrhau diogelwch a chyfyngu’r risg cyffredinnol. Bydd angen i’r Cyngor fod yn fodlon, ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, nad oes risg cynyddol o lifogydd ar safle’r cais cyn y bydd yn rhoi caniatâd cynllunio i ymestyn y tymor gwyliau. Yn gyntaf, rhaid i’r Cyngor fod yn argyhoeddedig na fydd presenoldeb poblogaeth ychwanegol mewn carafanau yn peryglu diogelwch trigolion parhaol, naill ai yn dilyn digwyddiad llifogydd sylweddol, neu os bydd rhybuddion i adael yr ardal ar fyr rybudd.

CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL

Amcanion Gofodol

SO6. Datblygu cyrchfannau canol tref bywiog ar gyfer siopa, diwylliant, adloniant, busnes a hamdden trwy wella bywiogrwydd, hyfywedd a chymeriad atyniadol Llandudno fel canolfan adwerthu is ranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn.

SO10. Gwella dyluniad adeiladau, yn cynnwys dylunio cyfleoedd i atal troseddu er mwyn datblygu cymunedau cadarn a diogel.

4.135.

Datganiad Strategol Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol:

Mae darparu cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol digonol yn hanfodol wrth ystyried cynigion datblygu newydd. Mae angen i gymunedau gael mynediad da at ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau megis addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, mannau agored, cyfleusterau hamdden a siopa er mwyn bod yn gynaliadwy. Dylid rheoli darparu cyfleusterau o'r fath yn gywir a’i ymgorffori mewn polisïau cynllunio a chynlluniau adfywio.

4.136.

Cynhaliwyd asesiad o’r gofynion isadeiledd cymunedol yng Nghonwy er mwyn canfod yr angen am rai mathau o gyfleusterau dros gyfnod y cynllun - nodir y sail tystiolaeth hwn ar Bapurau Cefndir perthnasol 15, 16, 19 a 25 ar ddarparu safleoedd adwerthu, gofod agored a lotments. Aseswyd tir a lluniwyd polisïau er mwyn gallu cwrdd â'r anghenion hyn. Mae'r Adran hon o'r CDLl felly yn cynnwys y polisïau a'r dyraniadau tir y bernir eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol presennol yn cael eu hamddiffyn, a bod anghenion ychwanegol cymunedau yn gallu cael eu cyflawni dros gyfnod y cynllun.

POLISI CFS/1 - CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn amddiffyn a, lle mae hynny’n bosib, gwella cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol trwy:

  1. Gwarchod a gwella bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y canolfannau adwerthu yn Ardal y Cynllun trwy leoli datblygiad adwerthu priodol yn unol â’r Hierarchaeth Adwerthu a nodwyd ym Mholisi CFS/2;
  2. Defnyddio dull gweithredu dilynol wrth benderfynu ar gynigion ar gyfer datblygiad adwerthu newydd yn Ardal y Cynllun yn nhermau dewis safle a sicrhau bod safleoedd amgen addas ar gael yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’;
  3. Gwarchod y cynnig adwerthu yn Llandudno, Bae Colwyn a Chanolfannau Ardal trwy ddynodi prif ardaloedd siopa a / neu ardaloedd siopa yn unol â Pholisïau CFS/3 a CFS/4
  4. Gwarchod canolfan adwerthu Llandudno trwy ddynodi Parc Llandudno a Mostyn Champney fel parciau adwerthu lle bydd adwerthu graddfa fawr yn cael ei ganoli a’i ddiogelu.
  5. Diogelu siopau hanfodol sy'n gwerthu nwyddau cyfleus y tu allan i Landudno, Bae Colwyn a’r Canolfannau Ardal yn unol â Pholisi CFS/6
  6. Gwarchod a gwella cymeriad atyniadol canolfannau siopa trwy ganiatáu blaen siop priodol a mesurau diogelwch blaen siop priodol yn unig yn unol â Pholisïau CFS/7 a CFS/8 a DP/7
  7. Cwrdd ag angen y gymuned am randiroedd yn Abergele, Bae Colwyn, Deganwy, Conwy, Bae Penrhyn, Penmaenmawr, Llanfairfechan a Threfriw, a diogelu rhandiroedd presennol yn unol â Pholisïau CFS/9 a CFS/10
  8. Sicrhau bod datblygiad tai newydd yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer anghenion mannau agored y trigolion, a diogelu mannau agored presennol yn unol â Pholisïau CFS/11, CFS/12 a CFS/13.

ADWERTHU

POLISI CFS/2 - HIERARCHAETH ADWERTHU View Map of this site ?

Mae'r cynllun yn sefydlu hierarchaeth adwerthu ar gyfer canolfannau siopa o fewn ardal y cynllun yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Bydd safle canolfan siopa yn yr hierarchaeth adwerthu yn gyffredinol yn pennu lefel y ddarpariaeth siopa newydd. Y mwyaf yw'r ganolfan, y mwyaf tebygol yw hi gellir cefnogi datblygiad newydd. Darlunnir yr hierarchaeth adwerthu (isod) ar y Diagram Allweddol CFS/ 2a.

Canolfan Is Ranbarthol – Llandudno

Canol Tref - Bae Colwyn

Canolfannau Ardal - Abergele, Conwy, Bae Cinmel, Cyffordd, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Hen Golwyn, Penmaenmawr, Llandrillo-yn-Rhos

Canolfannau Lleol/Cymdogaeth – West End Bae Colwyn, Craig y Don, Deganwy, Mochdre, Bae Penrhyn, Pensarn, Tywyn, Bae Colwyn Uchaf

Canolfannau Pentref - Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog, Dwygyfylchi, Eglwysbach, Glan Conwy, Llanddulas, Llanfairtalhaiarn, Llangernyw, Llansannan, Llysfaen, Trefriw

 Niagram_8

4.137.

Mae'r MIPPS ar Adwerthu a Chanol Trefi ym mharagraff 10.2.1 yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol adnabod presennol canolfannau, yn enwedig rhai sy'n cyflawni swyddogaeth arbenigol.

4.138.

Mae'r categorïau o fewn yr hierarchaeth adwerthu yn seiliedig ar y rhai sydd wedi eu cynnwys o fewn y MIPPS ar Adwerthu a Chanol Trefi. Lluniwyd meini prawf manwl ynglŷn â safle pob canolfan o fewn yr hierarchaeth ac fe’u nodir yn BP/16.

4.139.

Dylai datblygiadau newydd fod yn gydnaws â graddfa a swyddogaeth y canolfannau presennol er mwyn creu patrymau o ddatblygiad cynaliadwy ac i osgoi unrhyw effaith niweidiol ar y canolfannau eraill. Mae rhoi ystyriaeth i safle'r ganolfan o fewn yr hierarchaeth gyffredinol yn hanfodol.

4.140.

Bydd ceisiadau cynllunio unigol sy'n ymwneud ag adwerthu yn cael eu hasesu yn ôl eu rhinwedd eu hunain, yn unol â Pholisi DP/6 ac ar sail paragraffau 10.2.11 ac Adran 10.3 y MIPPS ar Adwerthu a Chanol Trefi. Rhoddir ffafriaeth yn gyntaf i ddatblygu safleoedd o fewn canolfannau isranbarthol a threfi presennol, yna i safleoedd ar ymyl canolfannau, ac yna canolfannau ardal, lleol a phentref.

4.141.

Mae rôl Llandudno fel y ganolfan siopa isranbarthol yn denu nifer fawr o siopwyr o'r Fwrdeistref Sirol ac awdurdodau cyfagos. Mae’r Cynllun yn cydnabod yr angen i hyrwyddo’r swyddogaeth adwerthu o fewn Llandudno a Bae Colwyn gan gefnogi ar yr un pryd ddatblygiadau adwerthu priodol yng nghanolfannau eraill yr hierarchaeth.

4.142.

Bwriedir gwella Bae Colwyn, y ganolfan adwerthu ail fwyaf yn yr hierarchaeth, trwy raglenni adfywio. Er mwyn ymateb i’r dirywiad mewn amodau economaidd, mae'r Cyngor yn weithgar wrth geisio adfywio canol y dref a'r ardaloedd cyfagos yn unol â Pholisi DP/7. Bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn adnabod ardaloedd adfywio yn ardal drefol Bae Colwyn ar sail eu potensial ar gyfer ailddatblygu tir llwyd, angen cymdeithasol ac economaidd, ac agosrwydd i Ganol y Dref a chysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy. Mae'r ardal yn cynnig cyfleoedd a sialensiau unigryw, y bydd Prif Gynllun Adfywio Bae Colwyn yn ymdrin â hwynt.

4.143.

Mae Astudiaeth Adwerthu Conwy (BP/15) yn dod i'r casgliad bod tref Conwy ar hyn o bryd yn gorfasnachu o safbwynt adwerthu nwyddau cyfleus, sydd o bosib yn niweidiol i ddewis ac ansawdd profiad adwerthu'r trigolion. Mae'r Astudiaeth yn awgrymu y byddai'n fuddiol datblygu adnodd adwerthu sy'n darparu cyfleusterau siopa atodol i'r trigolion ar sail dydd i ddydd yng nghanol y dref. Fodd bynnag, oherwydd natur hanesyddol Conwy, mae hyn yn fwy tebygol o gael ei leoli o fewn adeiledd presennol y dref, a dylai cadw yr amgylchedd hanesyddol gael blaenoriaeth ar gyflawni’r angen a nodwyd am nwyddau cyfleus. Dylid nodi hefyd bod gan yr Hen Waith Briciau yng Nghyffordd Llandudno y potensial i gael ei ddatblygu ar gyfer amrywiaeth o ddibenion yn gysylltiedig â chyflogaeth B1, B2 a B8 a/neu Adwerthu. Ymdrinnir â hyn ym Mholisi EMP/3.

4.144.

Mae casgliadau Astudiaeth Adwerthu Conwy, 2006 yn nodi nad oes angen dyrannu safleoedd ar gyfer adwerthu hyd at 2015, er y bydd adolygiad o'r sefyllfa yma'n cael ei gynnal yn 2011.

POLISI CF/3 - PRIF ARDALOEDD SIOPA View Map of this site ?

Dynodir y Prif Ardaloedd Siopa yn Llandudno a Bae Colwyn fel y’u dangosir ar y map cynigion. Caniateir newid defnydd llawr gwaelod mangre yn yr ardaloedd hyn o siopau dosbarth A1 i ddefnydd arall yn unig lle:

  1. Nad yw'r newid arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar y swyddogaeth adwerthu neu gymeriad atyniadol y brif ardal siopa a lle;
  2. Nad yw'r newid defnydd arfaethedig yn creu mwy nag un uned nad yw'n A1 mewn unrhyw floc o dair uned mewn ffryntiad parhaus o fewn y Brif Ardal Siopa.
4.145.

Mae siopa yn cyfrannu nid yn unig at fywiogrwydd, cymeriad deniadol a hyfywedd canol trefi, ond mae hefyd yn rhoi budd i'r economi lleol ac fe all gydweddu ag amcanion hamdden a thwristiaeth y Cynllun hwn. Mae'n hanfodol felly gwarchod craidd adwerthu'r prif ganolfannau siopa a gwrthwynebu datblygiadau sy'n niweidio neu'n tanseilio'r swyddogaeth yma.

4.146.

Mae archwiliad o'r cymysgedd o ddefnydd o fewn papur cefndir Hierarchaeth Adwerthu a Pharthau Siopa, yn awgrymu bod canran uchel (rhwng 65% a 70%) o unedau ym mhrif ardaloedd siopa Llandudno a Bae Colwyn ar hyn o bryd yn rhai dosbarth defnydd A1. Felly mae'r prif ardaloedd siopa wedi’u bwriadu'n bennaf ar gyfer defnydd A1, er y bydd defnydd arall yn cael ei ganiatáu lle nad yw hynny'n golygu bod mwy nag un uned nad yw'n uned A1 mewn bloc o dri.

POLISI CFS/4 - PARTHAU SIOPA View Map of this site ?

Dynodir Parthau Siopa yn Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Conwy, Bae Cinmel, Llanfairfechan, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Hen Golwyn, Penmaenmawr, a Llandrillo-yn-Rhos, fel dangosir ar y map cynigion. Caniateir newid defnydd llawr gwaelod mangre yn yr ardaloedd hyn o siopau ddosbarth A1 i ddefnydd arall yn unig lle mae'r newid defnydd arfaethedig yn cadw neu'n gwella bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y ganolfan siopa; ac yn cydymffurfio â’r Egwyddorion Datblygu.

4.147.

Adolygwyd dynodiadau adwerthu mewn cynlluniau blaenorol a fabwysiadwyd yn Llandudno, Bae Colwyn a’r Canolfannau Ardal yng ngoleuni’r data a gasglwyd dros y deng mlynedd blaenorol yn ymwneud â newidiadau mewn defnydd a lefelau eiddo gwag o fewn parthau siopa. Cynigir ardaloedd dynodedig i amddiffyn craidd adwerthu yr ardaloedd hyn.

4.148.

O fewn y parthau siopa, mae yno ragdybiaeth o blaid cadw defnydd dosbarth A1, ond cydnabyddir y gall defnydd arall, yn enwedig defnydd dosbarth A3 (megis caffis / tai bwyta), neu ddefnydd sector masnachol neu sector gwasanaethau fod yn dderbyniol lle nad yw hynny'n niweidio bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y canolfannau. Yn wir, mewn rhai achosion fe all fod yn ffafriol cynyddu’r amrywiaeth defnydd o fewn parthau siopa fel cefnogir ym mharagraff 10.2.4 y MIPPS 02/2005, ond bydd angen penderfynu ar bob cais yn ôl ei rinwedd ei hun.

POLISI CFS/5 - PARCIAU ADWERTHU View Map of this site ?

Bydd Parc Adwerthu Mostyn Champney a Pharc Adwerthu Parc Llandudno fel dangosir ar y map cynigion yn cael eu diogelu i gadw eu cymeriad graddfa fawr er mwyn cydweddu â Phrif Ardal Siopa hanesyddol Llandudno. Bydd Parc Adwerthu Mostyn Champney yn cael ei ddiogelu ar gyfer siopau graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp. Parc Adwerthu Parc Llandudno yn cael ei ddiogelu ar gyfer siopau graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn swmpus.

4.149.

Mae Parc Adwerthu Mostyn Champney a Pharc Llandudno wedi’u lleoli ar ymyl canol tref Llandudno ac yn cyflawni swyddogaethau adwerthu gwahanol i’r rhai a welir fel rheol mewn canol trefi. Mae Parciau Siopa Mostyn Champney a Pharc Llandudno yn cynnwys siopau adwerthu graddfa fawr sydd fel rheol yn 929m sg (10,000 tr sg) neu fwy mewn maint gyda maes parcio cysylltiedig. Yn achos Parc Adwerthu Mostyn Champney, mae adwerthu yn canolbwyntio ar werthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp, lle mae Parc Llandudno yn cynnwys adwerthwyr graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn swmpus. Fel nodwyd ym mharagraff 10.3.12 y MIPPS, ni ddylai graddfa, math a lleoliad datblygiadau adwerthu o'r fath danseilio bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd canol trefi. Mae cytundebau cyfreithiol yn eu lle i gyfyngu ar y newid defnydd ac isrannu unedau yn y lleoliadau hyn.

POLISI CFS/6 - DIOGELU SIOPAU SY'N GWERTHU NWYDDAU CYFLEUS Y TU ALLAN I LANDUDNO, BAE COLWYN A CHANOLFANNAU ARDAL View Map of this site ?

Lle nad oes cyfleusterau tebyg yn bodoli y tu allan i Landudno, Bae Colwyn a’r Canolfannau Ardal, caniateir datblygiad a fyddai'n arwain at golli siop sy'n gwerthu nwyddau cyfleus yn unig lle dangoswyd yn glir nad yw'r adeilad bellach yn hyfyw ar gyfer ei ddefnydd presennol, ac nad oes unrhyw angen cymunedol mwyach am y siop.

4.150.

Mae siopau cymdogol, pentref a gwledig yn chwarae rhan hanfodol mewn cynnal canolfannau llai a lleihau'r angen i drigolion deithio i gwrdd ag anghenion dydd i ddydd. Mewn pentrefi llai maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned, trwy gefnogi’r rhai sy'n cael anhawster teithio yn bellach i ffwrdd, gan roi ffocws i fywyd pentref.

4.151.

Bydd y Cyngor yn annog cadw cyfleusterau siopa pentref lle maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r lleoliad, ac yn hyfyw yn economaidd. Wrth ystyried y cynigion sy’n golygu colli cyfleusterau o'r fath, bydd y Cyngor yn ystyried effaith y golled ar y gymuned leol, o safbwynt y cyfleusterau sydd ar gael, mynediad at gyfleusterau amgen a'r goblygiadau cymdeithasol, yn cynnwys yr effaith ar hyfywedd y pentref yn gyffredinol. Lle derbynnir cynigion o'r fath, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos nad yw'r siop yn hyfyw bellach trwy ddarparu’r wybodaeth ariannol berthnasol i gefnogir; achos, ynghyd a thystiolaeth bod y fangre'n cael ei marchnata am o leiaf 12 mis am bris realistig.

POLISI CFS/7 - DYLUNIAD BLAEN SIOP View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio i gynigion ar gyfer blaen siop newydd neu newidiadau i flaen siop presennol yn unig lle maent yn gydnaws â'r adeilad a’r ardal gyfagos.

POLISI CFS/8 - DIOGELWCH BLAEN SIOP View Map of this site ?

Ni roddir caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod caeadau solet neu gaeadau rholeri tyllog ar du blaen siop, neu ar eiddo arall mewn ffryntiadau stryd siopa. Fel arfer, bydd y Cyngor ond yn rhoi caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer rhwyllau rholeri allanol a rhwyllau y gellir eu tynnu ar du blaen siop ac eiddo masnachol lle mae'r rhwyllau wedi’u hintegreiddio yn nyluniad y tu blaen siop, yn cael effaith weledol bach iawn ac yn gydnaws â gweddill trychiad yr adeilad a golygfa stryd.

 

4.152.

Mae blaen siop yn hanfodol wrth ffurfio cymeriad ac edrychiad ffryntiadau. Mae'r Cyngor yn rhoi pwys mawr ar blaen siop wedi’i dylunio'n briodol, nid yn unig gadw cymeriad yr adeiladau, ond hefyd i gadw cymeriad atyniadol cyffredinol strydoedd ac i gynnal eu hyfywedd masnachol. Fe all datblygiadau anaddas gael effaith niweidiol iawn nid yn unig ar yr adeilad ond hefyd ar yr olygfa stryd, a photensial masnachu'r stryd.

4.153.

Mae cwsmeriaid a pherchnogion siopau yn elwa os yw amgylchedd golygfa stryd yn cael ei hybu gan flaen siop a ddyluniwyd yn dda ac sy'n cael ei gadw mewn cyflwr da. Mewn pentrefi bydd yn bwysig parchu cymeriad presennol y stryd a’r pentref, tra mewn prif ganolfannau siopa o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol bydd y pwyslais ar greu a chynnal amgylchedd bywiog o ansawdd. Dylid cydnabod y bydd llawer o du blaen siopau wedi’u lleoli o fewn ardaloedd cadwraeth. Mewn achosion o'r fath dylid cyfeirio at Bolisi Polisi CTH/2 – Treftadaeth Diwylliannol.

POLISI CFS/9 - DIOGELU RHANDIROEDD View Map of this site ?

Ni roddir Caniatâd Cynllunio i ddatblygiad sy'n arwain at golli tir a ddefnyddir ar gyfer rhandiroedd, ac eithrio;

  1. Lle mae hynny’n addas, gwneir darpariaeth amgen sydd o leiaf yn gyfwerth o ran maint ac ansawdd i'r hyn a gollir, neu;
  2. Lle gellir dangos nad oes angen cymunedol mwyach am y rhandiroedd.
4.154.

Gall gerddi rhandiroedd gyfrannu at fan agored o fewn Ardal y Cynllun. Maent yn rhoi budd cadarnhaol nid yn unig ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol; ond hefyd ar gyfer cynhyrchu bwyd, bywyd gwyllt a gwerth amwynder cyffredinol. Mae rhandiroedd yn adnodd cymunedol pwysig.

4.155.

Ni roddir Caniatâd Cynllunio ar gyfer ailddatblygu rhandiroedd yn unig oherwydd nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers tro a mynd yn ddiffaith. Caniateir datblygiad a fyddai'n dileu'r rhandiroedd yn llwyr yn unig os dangosir nad oes angen am y rhandiroedd neu lle gwnaed darpariaeth amgen.

POLISI CFS/10 - RHANDIROEDD NEWYDD View Map of this site ?

Dyrennir tir i gwrdd â'r galw am randiroedd newydd yn y lleoliadau canlynol:

  1. Ffordd Penmaen, Conwy
  2. Plas Penrhyn, Bae Penrhyn
  3. Gyferbyn â’r cae chwarae, ger y cae pêl-droed, Penmaenmawr
  4. Bron Vardre, Deganwy 
Gellir adnabod tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.
4.156.

Fel nodwyd yn BP/25, mae yno dros 11 o safleoedd presennol sy'n darparu cyfanswm o 166 o leiniau rhandir yng Nghonwy.

4.157.

Mewn lleoliadau lle nad oes tir mewn perchnogaeth gyhoeddus i gwrdd ag anghenion y gymuned, dyrannwyd y lleoliad nesaf gorau o safbwynt cynaliadwyedd. Yn deillio o gyfyngiadau uchel yn Nhrefriw, darperir ar gyfer y trigolion hynny sydd mewn angen yn rhannol trwy ddyraniad yng Nghonwy a thrwy gyflenwi tir heb gyfyngiadau yn ardal cynllun Parc Cenedlaethol Eryri. Yn yr un modd, i'r trigolion hynny sydd mewn angen ym Mae Colwyn, darperir lleiniau rhandir ar eu cyfer yn Llandrillo-yn-Rhos a dod â safleoedd segur yn ôl i ddefnydd.

4.158.

Cydnabyddir bod angen rhandiroedd yn nwyrain Ardal y Cynllun. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn chwilio am safleoedd addas i gwrdd ag anghenion cymunedau Abergele a Phensarn, a Thywyn a Bae Cinmel. Bydd addasrwydd safleoedd o'r fath yn cael ei ystyried yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

POLISI CFS/11 - DATBLYGU A MANNAU AGORED View Map of this site ?

  1. Bydd datblygiad tai o bump neu fwy o anheddau yn gwneud darpariaeth ar y safle ar gyfer anghenion hamdden eu preswylwyr, yn unol â safonau'r Cyngor ar gyfer prif fannau agored a mannau agored cymdogol o 3.0 hectar am bob 1000 o’r boblogaeth, a fydd yn cynnwys:
  • 1.7 hectar ar gyfer chwaraeon awyr agored a 0.3 hectar ar gyfer dibenion amwynderau; a
  • 0.7 hectar ar gyfer gofod chwarae (anffurfiol a chydag offer) a 0.3 hectar ar gyfer dibenion amwynderau.
  1. Mewn amgylchiadau eithriadol a chyfiawnhad iddynt, rhoddir ystyriaeth i ddarparu swm gohiriedig fel cam amgen i ddarparu ar y safle, yn unol â Pholisïau DP /1, DP/4, a DP/5. .

POLISI CFS/12 - DATBLYGU A MANNAU AGORED View Map of this site ?

  1. Bydd datblygiad tai gyd phump neu lai o anheddau yn gwneud darpariaeth ar y safle ar gyfer anghenion hamdden eu preswylwyr, yn unol â safonau'r Cyngor ar gyfer prif fannau agored a mannau agored cymdogol o 1.0 hectar am bob 1000 o’r boblogaeth, a fydd yn cynnwys:
  • 0.7 hectar ar gyfer gofod chwarae (anffurfiol a gydag offer) a 0.3 hectar ar gyfer dibenion amwynder.
  1. Mewn amgylchiadau eithriadol a chyfiawnhad iddynt, rhoddir ystyriaeth i ddarparu swm gohiriedig yn hytrach na’u darparu ar y safle, yn unol â Pholisïau DP /1, DP/4, a DP/5.

 

4.159.

Yn y rhan fwyaf o achosion dylai datblygiadau tai ymgorffori mannau chwarae mewn cynllun, neu lle nad yw hynny'n ymarferol, dylid gwneud cyfraniad ariannol wedi’i sicrhau drwy ymrwymiad cynllunio o dan Adran 106 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Rhoddir mwy o fanylion ynghylch darparu mannau agored a symiau gohiriedig yn y SPG.

4.160.

Mae hamdden a mannau agored yn gyfrannwr allweddol i ansawdd bywyd cyffredinol pobl leol. Mae asesiad diweddar o ddarpariaeth mannau agored yn amlygu’r prinder gofod chwaraeon a mannau chwarae ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn gyfystyr â diffyg o of 67 hectar o dir ar gyfer chwaraeon awyr agored, a 27 hectar ar gyfer mannau chwarae i blant3.

3Arolwg Mannau Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2008 - Yn seiliedig ar safonau Cymdeithas Genedlaethol Caeau Chwarae, sy'n cael ei hadnabod fel Fields in Trust (FIT).

4.161.

Fel sy'n cael ei gydnabod yn Strategaeth Conwy Iach 2008 -2011, mae'r budd i iechyd a lles cymunedau a ddaw yn sgîl parciau a mannau agored yn cynnwys cynnydd yn lefel ymarfer corff, rhyngweithio cymdeithasol a mwy o gyfleoedd i blant chwarae. Un o nodau Cynllun Plant a Phobl Ifanc Conwy yw annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio ardaloedd fel parciau, mannau agored, cyfleusterau hamdden a chwaraeon awyr agored. Fodd bynnag, fe allai prinder mannau agored cyhoeddus osod rhwystr rhag cyflawni nodau o'r fath.

4.162.

Gan gydnabod y diffyg, yn 2003 mabwysiadodd y Cyngor Safon ar gyfer darparu mannau agored (yn seiliedig ar Fields in Trust, Safon blaenorol yr NPFA). Bwriedir i'r Cynllun ddarparu'r fframwaith polisi angenrheidiol i roi ‘pwysau’ i'r Safon yma a galluogi ei gymhwyso ar draws y Fwrdeistref Sirol. Ar ben hynny, bydd y Cyngor yn cyhoeddi SPG ar Ofod Agored yn unol â pholisi DP/4 ‘Meini Prawf Datblygu’ er mwyn darparu arweiniad i ddatblygwyr ynghylch sut y bydd y safon man agored yn cael ei gymhwyso i ddatblygiadau newydd.

4.163.

Cynhelir arolygon Mannau Agored gan y Cyngor bob dwy flynedd gan ddarparu gwybodaeth ar ddigonolrwydd darpariaeth mannau agored o fewn yr aneddiadau mawr. Dengys yr arolwg mwyaf diweddar a gynhaliwyd yn 2008 bod yno ddiffygion o ran y ddarpariaeth chwaraeon awyr agored a / neu mannau chwarae yn yr ardaloedd canlynol; Abergele Deganwy, Glan Conwy, Colwyn Fwyaf, Bae Cinmel, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Llysfaen, Penmaenmawr, Bae Penrhyn, Ochr Penrhyn, a Thywyn,

4.164.

Cydnabyddir ers yr asesiad mwyaf diweddar o ddarpariaeth mannau agored yn Ardal y Cynllun, cyhoeddwyd TAN 16 Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored diwygiedig. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys awgrymiadau ynghylch safonau newydd ar gyfer gofod caeau chwarae a chwaraeon awyr agored (fel y’u diwygiwyd yn ddiweddar gan FIT). Fodd bynnag, oherwydd amseriad cyhoeddi’r TAN yma a bod cymaint o waith wedi’i wneud ar y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd a’r sail tystiolaeth gefnogol, bernir ei bod yn briodol adolygu'r sefyllfa unwaith y mae'r cynllun wedi’i gyhoeddi ar gyfer i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn unol â chyngor TAN 16 (mae paragraff 2.29 yn cyfeirio at beidio oedi gwaith ar y CDLl yn absenoldeb Asesiad Mannau Agored newydd).

4.165.

Felly cynigir y dylid cynnal Archwiliad ac Asesiad o Fannau Agored er mwyn adnabod anghenion lleol, asesu darpariaeth leol a safonau darpariaeth ar gyfer hygyrchedd ac ansawdd, ac adnabod prinder/gormodedd o fannau agored yn unol â’r TAN 16 diwygiedig ar Chwaraeon a Hamdden. Ar ôl eu cwblhau bydd yr Archwiliad ac Asesiad yn ffurfio rhan o sail tystiolaeth y CDLl ac adolygir polisïau yn unol â hynny trwy fecanweithiau ym mhroses mabwysiadu/neu adolygu'r CDLl.

POLISI CFS/13 - DIOGELU MANNAU AGORED PRESENNOL View Map of this site ?

Ni roddir caniatâd cynllunio i ddatblygiad sy'n arwain at golli man agored ac eithrio lle ceir gorddarpariaeth o fannau agored yn y gymuned dan sylw, a lle mae'r cynnig yn arddangos budd sylweddol i'r gymuned sy'n deillio o'r datblygiad, neu, lle caiff ei disodli gan ddarpariaeth amgen derbyniol yng nghyffiniau’r; datblygiad neu o fewn yr un gymuned.

4.166.

Diffinnir y term ‘man agored’ yn y canllawiau cynllunio atodol ar fannau agored ac mae'n cynnwys y canlynol; prif amwynder, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae a chaeau chwarae ysgol. Mae ardaloedd o'r fath o arwyddocâd mawr i gymunedau lleol yn Ardal y Cynllun. Mae hyn nid yn unig oherwydd y cyfleoedd chwaraeon a hamdden y maent yn eu cynnig ond hefyd effaith y man agored ar gymeriad atyniadol yr amgylchedd adeiledig a naturiol.. Felly, ni ddylid colli mannau agored presennol oni bai bod yr asesiad mannau agored yn arddangos yn glir bod yno orddarpariaeth o fannau agored ar gyfer anghenion y gymuned. Mewn achosion o'r fath, bydd angen i ddatblygwyr hefyd arddangos sut y bydd eu cynigion yn dod â manteision sylweddol i'r cymunedau hynny a fydd yn colli eu man agored, megis darparu lefel foddhaol o dai fforddiadwy, siopau cymdogol neu gyfleusterau hamdden eraill fel a lle mae hynny'n briodol.

4.167.

Os oes tan-ddarpariaeth o fannau agored yn y gymuned, bydd angen i'r datblygwr ddarparu safle amgen dderbyniol yng nghyffiniau'r datblygiad neu o fewn yr ardal Cyngor tref neu gymuned.

YR AMGYLCHEDD NATURIOL

Amcanion Gofodol

SO11. Lleihau'r defnydd a wneir o ynni drwy leoli a dylunio adeiladau'n ofalus a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy lle gallent fod yn ddeniadol o safbwynt economaidd ac yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

SO12. Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad yr arfordir ac ardaloedd o gefn gwlad sydd heb eu datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirweddol/cadwraethol a nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol gan sicrhau bod bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir yn cael eu cadw.

SO14. Hyrwyddo defnydd darbodus o adnoddau drwy leiafu gwastraff a chynorthwyo i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy'n cyfateb ag anghenion yr ardal a'r hierarchaeth wastraff.

4.168.

Datganiad Strategaeth yr Amgylchedd Naturiol

Mae Ardal y Cynllun yn elwa ar brydferthwch gwledig ac arfordirol sy'n cefnogi diwydiant twristiaeth ffyniannus ac yn darparu adnodd hamdden gwerthfawr i'r trigolion. Nod y polisïau yn yr adran hon yw diogelu a gwella cymeriad cefn gwlad, y dirwedd, yr amgylchedd adeiledig, y cyfoeth o fioamrywiaeth a'r asedau daearegol.

4.169.

Mae’r ardal o gefn gwlad hefyd yn cynnal economi amaethyddol iachus ac yn ôl polisi'r Llywodraeth dylid ystyried lleoliad y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ochr yn ochr ag ystyriaethau cynaliadwyedd eraill wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio.

4.170.

Yn ogystal â diogelu'r amgylchedd lleol, rhaid i ddatblygiadau newydd hefyd geisio cyfyngu ar yr effaith ar amgylchedd y byd drwy ddefnyddio cyn lleied ag sy'n bosibl o adnoddau, cynyddu effeithlonrwydd ynni a gostwng allyriadau carbon. Mae'r Strategaeth Ofodol yn lleoli datblygiadau mewn aneddiadau sy'n darparu ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gan leihau'r angen i deithio (a thrwy hynny allyriadau carbon). Mae polisïau eraill yn yr adran hon yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a chynyddu'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu. Yn ogystal â hyn, mae angen sicrhau nad yw datblygiadau'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd bywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu colli yn sgil newid yn yr hinsawdd, ac y gallant addasu i gyfateb â newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodol.

4.171.

Ceir risg o lifogydd yn rhan helaeth o'r arfordir, yn enwedig Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, ac mae angen atal datblygu amhriodol mewn ardaloedd lle ceir risg. Mae'r risg yn debygol o gynyddu yn y dyfodol o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd a chodiad yn lefel y môr. Gan hynny, defnyddir ymagwedd gyfyngol ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardaloedd lle ceir risg yn unol â Pholisi DP/6. Bydd trefniadau draenio dŵr wyneb priodol, fel Systemau Draenio Cynaliadwy yn ofynnol er mwyn helpu i reoli llifogydd dŵr wyneb fel y nodir yn yr adran hon.

POLISI NTE/1 - YR AMGYLCHEDD NATURIOL View Map of this site ?

Er mwyn ceisio cefnogi anghenion economaidd a chymdeithasol ehangach Ardal y Cynllun, bydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ceisio rheoleiddio datblygu i gadw, a lle bo modd, gwella amgylchedd naturiol, cefn gwlad ac arfordir Ardal y Cynllun. Cyflawnir hyn drwy:

  1. Ddiogelu bioamrywiaeth, daeareg, cynefinoedd, hanes a thirweddau Ardal y Cynllun drwy ddiogelu a gwella safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’.
  2. Dynodi ardaloedd o Letem Las a ddewisir sy'n agos at Ardaloedd y Strategaeth Datblygu Trefol i gynnwys datblygiadau i ddiwallu anghenion tai’r gymuned ond gan reoli twf pellach, yn unol â Pholisi NTE/2 a Thabl NTE/2a. Bydd Lletemau Glas newydd yn cael eu dynodi rhwng Craigside ac Ochr y Penrhyn, Llanrwst a Melin y Coed, ac yn Hen Golwyn (rhwng Coed Coch Road a Peulwys Lane) i atal yr aneddiadau rhag ymgyfuno a chadw cymeriad agored yr ardaloedd hynny, yn unol â Pholisi NTE/3.
  3. Cadw a rheoli hunaniaeth aneddiadau unigol a chefn gwlad agored drwy ddefnyddio terfynau aneddiadau i reoli datblygu.
  4. Lle bo'n briodol ac yn angenrheidiol, defnyddio cytundebau rheoli i wella ansawdd tirweddau statudol ac anstatudol, ac ardaloedd gwerthfawr o safbwynt bioamrywiaeth yr effeithir arnynt gan ddatblygu, gan gynnwys: Manylebau plannu, tirweddu a chynnal gwell, yn unol â'r Polisïau Egwyddorion Datblygu a Pholisi NTE/4;.
  5. Cydweithio â datblygwyr i ddiogelu rhywogaethau a warchodir a gwella'u cynefinoedd yn unol â Pholisi DP/6 ac NTE/4.
  6. Ceisio sicrhau bod cyn lleied ag sy'n bosibl o dir amaethyddol Gradd 2 a 3a yn cael ei golli ar gyfer datblygiadau newydd, yn enwedig yn nwyrain Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, yn unol â Pholisi DP/6
  7. Parchu, cadw neu wella cymeriad lleol a nodweddion unigryw pob Ardal Tirwedd Cymeriad, yn unol â Pholisi NTE/5 ac fel y dangosir ar Fap y Cynigion.
  8. Atal, gostwng neu adfer pob ffurf ar lygredd gan gynnwys aer, sŵn, pridd a dŵr, yn unol â Pholisi DP/6.
4.172.

Mae cefn gwlad agored yn cynnwys yr holl ardaloedd hynny y tu allan i'r terfynau anheddiad a ddiffiniwyd. Mae canllawiau cenedlaethol yn ceisio cadw ac, os yw hynny'n bosibl, gwella cefn gwlad er mwyn diogelu ei werth ecolegol, daearegol, ffisiographig, hanesyddol, archeolegol ac amaethyddol. Mae'r forlin agored yn bwysig o ran harddwch, bywyd gwyllt a hamdden. Mae'r Gogarth wedi'i ddynodi'n Arfordir Treftadaeth gan fod ei glogwyni carreg galch a'i laswelltir yn cael eu hystyried ymysg golygfeydd gwychaf arfordir Cymru. Mae'r diwydiant hamdden yn ogystal â’r gwaith ar yr amddiffynfeydd môr yn rhoi pwysau ar yr arfordir. Rhaid i ddatblygiadau o'r fath fod yn gynaws ag ecoleg ac ymddangosiad yr arfordir. Yn yr un modd, mae rhai ardaloedd yn debygol o gael llifogydd ac mae angen peidio lleoli datblygiadau ar ardaloedd risg uchel.

4.173.

Tir Amaethyddol o Ansawdd Uchel

Mae Paragraff 2.8.1 ym Mholisi Cynllunio Cymru yn diogelu tir amaethyddol o'r ansawdd gorau lle bo modd, gan ei fod yn adnodd y mae terfyn iddo. Nid oes tir amaethyddol Gradd 1 yn Ardal y Cynllun, ond ceir ardaloedd o dir Gradd 2 a Gradd 3a ar yr arfordir. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod cyn lleied o dir Gradd 2 a Gradd 3a yn cael eu colli i ddatblygiadau newydd, ond efallai y bydd angen colli rhai ardaloedd o'r tir hwn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau o ran tai. Bydd yn rhaid i geisiadau cynllunio sy'n effeithio ar y mater hwn fodloni gofynion Polisi DP/6.

4.174.

Diogelu tirweddau a chynefinoedd

Mae nifer y safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol a chenedlaethol yn adlewyrchu ansawdd ac amrywiaeth yr amgylchedd yn Ardal y Cynllun. Mae polisïau cenedlaethol yn ceisio diogelu ac, mewn rhai amgylchiadau, gwella ardaloedd sydd wedi'u dynodi, cefn gwlad a'r arfordir, bioamrywiaeth, cynefinoedd, tir amaethyddol a'r amgylchedd trefol . Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar yr ardaloedd hyn yn ddarostyngedig i bolisi DP/6.

4.175.

Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys tirweddau amrywiol o ansawdd uchel ac ardaloedd prydferth, o rostir agored Hiraethog i fannau ac iddynt bwysigrwydd lleol o amgylch trefi a phentrefi. Mae terfyn gorllewinol Ardal y Cynllun yn gyfagos â Pharc Cenedlaethol Eryri. Er mai Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy'n penderfynu ar geisiadau yn ei ardal, CBSC yw'r awdurdod cynllunio ar ardaloedd cyfagos sy'n effeithio ar osodiad y Parc. Yn yr ardaloedd hyn, mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor ystyried dynodiad y Parc Cenedlaethol.

4.176.

Mae Paragraff 5.2.7 Polisi Cynllunio Cymru'n hyrwyddo ymagweddau tuag at ddatblygu sy'n gwella bioamrywiaeth, yn diogelu rhag colli bioamrywiaeth, neu'n lliniaru unrhyw ddifrod na ellir ei osgoi.

4.177.

Dwy Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPAs), sydd wedi'u lleoli yn Ardal y Cynllun, sy'n adnabyddus oherwydd yr adar sy'n byw yno, yw Traeth Lafan ac Afon Menai yn y gogledd orllewin yn Ardal y Cynllun a Migneint yn y de ddwyrain yn Ardal y Cynllun. Mae'r safleoedd hyn hefyd wedi'u dynodi'n rhyngwladol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs). Yn ogystal â hyn, ceir tair SAC arall. Mae dwy ohonynt wedi'u lleoli ar Benrhyn y Creuddyn, ar y Gogarth ac yng Nghoedwig Penrhyn Creuddyn, ac mae'r drydedd, sef Coedwig Dyffryn Elwy, yn pontio terfyn Conwy/Sir Ddinbych. Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o bwysigrwydd rhyngwladol, ac o ganlyniad i hynny maent wedi'u diogelu ar lefel uchel iawn drwy'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a thrwy bolisïau cenedlaethol. Gweler Diagram 1.

4.178.

Mae paragraffau 5.3.8 a 5.3.11 ym Mholisi Cynllunio Cymru hefyd yn gwarchod bioamrywiaeth ar safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a lleol (er enghraifft, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig). Nid yw polisïau cenedlaethol yn diogelu Gwarchodfeydd Natur Lleol, ond fe'u cydnabyddir yn y Cynllun Datblygu Lleol, oherwydd eu pwysigrwydd lleol . Ceir mwy o wybodaeth am hyn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar Fioamrywiaeth Leol.

4.179.

Mae ardaloedd trefol hefyd yn cyfrannu tuag at fioamrywiaeth. Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys mwy na 400 hectar o ofodau gwyrdd trefol, fel parciau, caeau chwaraeon ac ymylon ffyrdd. Mae'r safleoedd hyn yn darparu cynefinoedd a all hefyd fod yn goridorau bywyd gwyllt sy'n galluogi rhywogaethau i deithio rhwng y naill safle a'r llall. Maent hefyd yn bwysig o ran amwynder, hamdden a lles. Yn gysylltiedig â hyn bydd Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fannau Agored mewn Datblygiadau Newydd.

4.180.

Mae'r Awdurdod Cynllunio, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi dynodi rhwydwaith o safleoedd o bwysigrwydd lleol oherwydd bioamrywiaeth, ac fe'u hystyrir yn ddarpar 'Safleoedd Bywyd Gwyllt'. Ffurfir rhwydwaith o gynefinoedd gan y safleoedd hyn, ynghyd â'r safleoedd a warchodir ar raddfa genedlaethol, sy'n sail ar gyfer yr adnodd bioamrywiaeth yn Ardal y Cynllun. Gan nad yw gwerthusiad llawn o'r holl ddarpar Safleoedd Bywyd Gwyllt wedi cael eu cynnal hyd yma, bydd eu gwerth o safbwynt bioamrywiaeth yn cael ei werthuso fesul safle wrth i geisiadau datblygu gael eu cyflwyno ar gyfer y lleoliadau hynny.

4.181.

Mae a wnelo geoamrywiaeth â nodweddion daearegol a geomorffaidd. Mae enghreifftiau'n cynnwys Trwyn y Fuwch, lle ceir palmant carreg galch ac ogofâu Llanddulas. Mae rhai nodweddion wedi'u diogelu'n statudol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn ogystal â hyn, caiff Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol eu dynodi gan grwpiau rhanbarthol ar sail eu gwerth gwyddonol, addysgol, hanesyddol ac esthetig. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar yr ardaloedd hyn yn ddarostyngedig i bolisi DP/6.

4.182.

Gyda'i gilydd, mae'r safleoedd hyn yn cynrychioli fframwaith strategol er mwyn cadw bioamrywiaeth a geoamrywiaeth. Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys y safleoedd sydd wedi'u diogelu'n statudol ar raddfa ryngwladol (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig) a chenedlaethol (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a'r rhai sydd wedi'u diogelu'n anstatudol, sef Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Bywyd Gwyllt y Sir a Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol.

4.183.

Mae coedwigoedd a choetiroedd yn creu a chysylltu cynefinoedd â'i gilydd, yn cyfrannu tuag at gymeriad y dirwedd, ac yn cael eu rheoli'n gynyddol fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni. Y DU yw un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop. Nid yw tir coediog ond yn gorchuddio 12 y cant o'r DU a 14 y cant o Gymru, o'i gymharu â chyfartaledd o 44 y cant yn rhannau eraill o Ewrop. Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn enwedig wedi'u diogelu drwy Bolisi Cynllunio Cymru fel cynefinoedd na ellir eu hadfer. Mae coed sy'n bodoli eisoes a phlannu a chynnal coed newydd mewn datblygiadau newydd yn cyfrannu tuag at harddwch a bioamrywiaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio ar ‘Goed a Thirweddu’ a fydd yn darparu gwybodaeth ynghylch plannu, cynnal, deddfwriaeth a gofynion datblygu. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar goed neu goetiroedd yn ddarostyngedig i bolisi DP/6.

4.184.

Mae'r amgylchedd nid yn unig yn cynnwys yr amgylchedd naturiol ond hefyd yr amgylchedd adeiledig, aer, pridd ac ansawdd y dŵr. Yn anochel, mae'r drefn gynllunio’n effeithio ar bob un o'r agweddau hyn. Felly, rhaid cymryd pob cam ymarferol i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol a byd-eang, gan gofio bod y penderfyniadau a wneir heddiw yn aml yn arwain at effeithiau tymor hirach.

4.185.

Rhywogaethau a Warchodir

Mae Adran 40 o'r Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn ei gwneud hi'n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol ac awdurdod cyhoeddus arall yng Nghymru a Lloegr i ystyried cadw bioamrywiaeth wrth gyflawni'u swyddogaethau (dyletswydd bioamrywiaeth).

4.186.

Yn ôl canllawiau LlCC ynghylch sut y dylai ALlau gydymffurfio â'r ddyletswydd bioamrywiaeth drwy'r broses rheoli datblygu, yr hyn sy'n allweddol yw archwilio ceisiadau datblygu er mwyn canfod effeithiau posibl ar fioamrywiaeth a cheisio gosod amodau a rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau y cedwir bioamrywiaeth.

4.187.

Mae Paragraff 5.5.11 ym Mholisi Cynllunio Cymru'n mynd i'r afael â'r materion cynllunio ac, mewn rhai achosion, gellid bod angen i ddatblygwyr gael trwyddedau gan yr awdurdodau perthnasol. Bydd y Cyngor yn cydweithio â datblygwyr i ddiogelu a gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau a warchodir ac yn ystyried ceisiadau cynllunio ar sail Polisi DP/6.

POLISI NTE/2 - LLETEMAU GLAS A DIWALLU ANGHENION DATBLYGU'R GYMUNED View Map of this site ?

  1. Er mwyn atal aneddiadau rhag ymgyfuno a chadw cymeriad agored yr ardal, mae'r Lletemau Glas canlynol wedi'u hail-ddynodi, fel y dangosir ar fap y cynigion:
  • Lletem Las 2 rhwng Deganwy, Llandudno a Llanrhos
  • Lletem Las 3 rhwng Llandudno a Craigside
  • Lletem Las 4 rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo yn Rhos
  • Lletem Las 5 rhwng Mochdre a Bae Colwyn
  • Lletem Las 6 rhwng Cyffordd Llandudno a Mochdre
  • Lletem Las 7 rhwng Bryn y Maen a Bae Colwyn
  • Lletem Las 8 rhwng Llanelian a Bae Colwyn
  • Lletem Las 10 rhwng Hen Golwyn a Llysfaen
  • Lletem Las 11 rhwng Rhyd y Foel, Llanddulas ac Abergele
  • Lletem Las 12 rhwng Tywyn a Belgrano
  1.  2. Er mwyn diwallu'r angen am dai yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefi'r Arfordir, mae terfynau'r Lletemau Glas canlynol yn cael eu diwygio fel bo modd datblygu, yn unol â Thabl NTE/2a ac fel y dangosir ar fap y cynigion:
  1. Lletem Las 4 rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo yn Rhos.
  2. Lletem Las 11 rhwng Rhyd y Foel, Llanddulas ac Abergele.
Tabl 10: NTE/2a – Lletemau Glas
Lletem LasLefel arfaethedig o newid (arwynebedd)Rheswm
GW4 rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo yn Rhos Safleoedd 71/384 a 213 Newidiadau fel bo modd gwastatáu ymylon yr anheddiad yn ogystal â darparu datblygiad tai i ddiwallu'r angen lleol
GW11 Rhyd y Foel, Llanddulas ac Abergele Safleoedd 403 a 406 Newidiadau er mwyn caniatáu diwygiadau a datblygiadau tai newydd i ddiwallu'r angen amdanynt.
4.188.

Oddi mewn i Ardal y Cynllun, mae lletemau glas yn diogelu'r arfordir a chefn gwlad sydd heb ei ddatblygu ac yn atal aneddiadau rhag ymdoddi i'w gilydd. Mae adolygiad wedi cael ei gynnal o diroedd a ddynodwyd yn lletemau glas er mwyn goleuo'r Cynllun Adneuo hwn. Mae'r adolygiad i'w gael yn BP 13 ‘Adolygiad o'r Polisi ar Letemau Glas ym Mwrdeistref Sirol Conwy’. Mae'r lletemau/rhwystrau glas cyfredol wedi'u dangos ar fap y cynigion.

4.189.

Er mwyn sicrhau digon o waith datblygu i ddiwallu anghenion y gymuned a mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n effeithio ar Gonwy, mae angen i CBS Conwy asesu pa ardaloedd o dir sydd fwyaf addas i'w datblygu. Gan nad oes gan Gonwy lawer o dir llwyd, mae'n anochel y bydd angen i'r Cyngor ddyrannu datblygiadau newydd ar gyrion aneddiadau, gan olygu y bydd rhywfaint o dir Lletem Las yn cael ei ddefnyddio. Yn yr adolygiad o'r Lletemau Glas aseswyd pa ardaloedd fyddai'n achosi'r lleiaf o ddifrod i gefn gwlad agored, yr anheddiad presennol a'r dirwedd.

POLISI NTE/3 - ‘LLETEMAU GLAS NEWYDD’ View Map of this site ?

  1. I atal yr aneddiadau rhag ymgyfuno a chadw cymeriad agored yr ardal, dynodir y Lletemau Glas newydd canlynol rhwng Dwygyfylchi a Phenmaenmawr (GW1), rhwng Craigside ac Ochr y Penrhyn (estyniad i GW3), Hen Golwyn (Coed Coch Road a Peulwys Lane (GW9) a Llanrwst a Melin y Coed (GW13).
4.190.

Nod Polisi NTE/3 yw atal aneddiadau rhag ymgyfuno a diogelu ardaloedd o dir agored sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Cynigir y Lletemau Glas ychwanegol i reoli datblygu yn yr ardaloedd hyn.

POLISI NTE/4 - BIOAMRYWIAETH View Map of this site ?

  1. Dylai datblygiadau newydd anelu i gadw a, lle bo'n bosibl, gwella bioamrywiaeth drwy:
  1. Leoli sensitif a chynllun a dyluniad sy'n lliniaru'r effaith,
  2. Llunio rhaglen ddatblygu sy'n lliniaru'r effaith ar fioamrywiaeth a rhywogaethau,
  3. Creu, gwella a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a thirweddau naturiol,
  4. Integreiddio mesurau bioamrywiaeth i'r amgylchedd adeiledig,
  5. Cyfrannu tuag at gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP),
  6. Darparu ar gyfer cytundeb rheoli gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r awdurdod lleol i sicrhau cadwraeth a dyfodol buddiannau bioamrywiaeth yn y tymor hir.
  1. Bydd y Cyngor yn gwrthod cynigion a fyddai'n cael effaith sylweddol ar rywogaethau a warchodir neu rywogaethau â blaenoriaeth neu eu cynefin, oni bai fod yr effaith honno wedi'i lliniaru'n ddigonol, a bod mesurau adfer a gwella priodol yn cael eu cynnig a'u sicrhau drwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio.
  2. Mewn amgylchiadau eithriadol, os bydd manteision economaidd neu gymdeithasol y cynnig yn drech na'r niwed i safle neu rywogaethau pwysig, yr ymagwedd a ddefnyddir fydd osgoi neu leiafu'r niwed hwnnw i ddechrau, ac yna ceisio lliniaru'r effaith er mwyn sicrhau na cheir gwir golled mewn bioamrywiaeth. Defnyddir amodau a rhwymedigaethau cynllunio fel bo'n briodol er mwyn sicrhau hyn.
4.191.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, a bydd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau ymagwedd ragweithiol tuag at ddiogelu, gwella a rheoli bioamrywiaeth gan gefnogi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP). Bydd yr angen i ddatblygu'n cael ei ystyried yn ofalus ochr yn ochr â'i effaith ar fioamrywiaeth, ond gall cyfleoedd godi drwy ddatblygiadau sydd wedi'u lleoli'n sensitif a'u dylunio'n ofalus. Gall newid ddod â chyfleoedd newydd yn ei sgil lle gellir defnyddio amodau a chytundebau Adran 106 i greu cynefinoedd newydd a rheoli cynefinoedd sy'n bodoli eisoes. Mae polisi NTE/4 hefyd yn berthnasol i effaith bosibl y dyraniadau datblygu a wneir yn y Cynllun Adneuo hwn a'r datblygiad arfaethedig ar safleoedd Natura 2000. Yn yr Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd (Papur Cefndir 12) nodir nad yw'r holl ddyraniadau yn y cynllun yn debygol o gael effaith sylweddol ar safleoedd Natura 2000, ond bydd angen cytundebau rheoli ar gyfer rhai ohonynt yn unol â chyfarwyddyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Awdurdod Cynllunio. Bydd datblygu'n cael ei ganiatáu os yw'n gwella ymddangosiad, bioamrywiaeth a thirwedd y safle. Ni fydd ceisiadau datblygu ond yn cael eu caniatáu ar ôl dangos na fydd hygrededd Safleoedd Natura 2000 yn cael ei niweidio mewn unrhyw ffordd, yn unol â DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’. Mae integreiddio bioamrywiaeth â datblygiadau newydd yn rhan bwysig o ddatblygu cynaliadwy.

4.192.

‘Rhywogaethau a warchodir’ yw'r rhywogaethau hynny o blanhigion ac anifeiliaid a warchodir gan y gyfraith, er enghraifft, o dan Gyfarwyddeb Adar a Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd (rhaid rhoi'r brif flaenoriaeth i'r rhywogaethau hyn a warchodir ar raddfa Ewropeaidd), neu yn Atodlenni 1, 5 ac 8 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y cafodd ei diwygio) a Deddf Gwarchod Moch Daear 1992. Rhywogaethau neu gynefinoedd â blaenoriaeth yw'r rhai hynny a ddiffinnir yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU neu Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP).

4.193.

Mae polisi NTE/4 yn cyd-fynd â deddfwriaeth ar warchod rhywogaethau a thargedau'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol, ac yn sicrhau bod unrhyw niwed i rywogaeth neu gynefin yn cael ei bwysoli yn erbyn manteision cais datblygu. Gwneir dyfarniadau'n seiliedig ar yr effaith a ddisgwylir ar y rhywogaethau, pwysigrwydd poblogaeth y rhywogaeth yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol, ei hamlder, y raddfa ddirywio neu faint y bygythiad.

4.194.

Fel y nodir yn yr adran Egwyddorion Datblygu, ac yn arbennig ym mholisi DP/3 ‘Hyrwyddo Dylunio o Ansawdd a Dylunio i Atal Troseddu’, wrth ystyried ceisiadau datblygu, mae'n bwysig rhoi blaenoriaeth i ddechrau i gynnal a gwella cynefinoedd a rhywogaethau sy'n bodoli eisoes. Ni ddylid ond ystyried trawsleoli rhywogaethau neu gynefinoedd fel dewis olaf. Dylai mesurau lliniaru neu ddigolledu ei gwneud hi'n haws i boblogaeth y rhywogaethau oroesi, sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ag sy'n bosibl a darparu cynefinoedd digonol i gynnal lefel bresennol y boblogaeth o leiaf. Fodd bynnag, os yw'r angen am ddatblygiad yn golygu mai trawsleoli yw'r canlyniad gorau i sicrhau bioamrywiaeth, mae'n bosibl y bydd hyn yn cael ei ffafrio yn hytrach nag opsiynau lliniaru eraill.

4.195.

Gall lliniaru gynnwys darparu mesurau penodol i leihau aflonyddwch niwed neu effeithiau posibl, darparu cynefinoedd eraill sy'n ddigonol i gynnal a, lle bo modd, gwella'r boblogaeth y mae'r gwaith yn effeithio arni, neu alluogi aelodau unigol o'r rhywogaeth i oroesi. Mae'n bosibl y bydd mesurau o'r fath yn ofynnol drwy gytundebau Adran 106 neu Amodau Cynllunio.

4.196.

Mae polisi NTE/4 hefyd yn berthnasol i effeithiau'r datblygiad ar gyfle pobl i fwynhau a phrofi natur ar safle; gall datblygu ar, neu'n gyfagos â safle pwysig amharu ar fwynhad pobl o fioamrywiaeth a thirwedd y safle, er enghraifft yn sgil nodweddion gweledol ymwthiol, cyfyngiadau ar fynediad neu gynnydd sylweddol mewn lefelau sŵn.

4.197.

Dylid manteisio ar gyfleoedd i elwa ar ffurf a dyluniad datblygiadau. Lle bo'n briodol, gall mesurau gynnwys creu, gwella neu reoli cynefinoedd bywyd gwyllt a'r dirwedd naturiol a allai fod yn sail ar gyfer cytundeb rheoli gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r Awdurdod Lleol. Dylid ystyried yr amgylchedd adeiledig yn gyfle i arloesi er mwyn integreiddio bioamrywiaeth yn llawn mewn datblygiadau newydd. Dylid rhoi blaenoriaeth i greu cynefinoedd neu gysylltu cynefinoedd â'i gilydd ar safleoedd sy'n cynorthwyo i gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP).

POLISI NTE/5 - ARDALOEDD TIRWEDD CYMERIAD View Map of this site ?

Ni chaniateir datblygu ond yn yr amgylchiadau canlynol:

  1. Os yw'n parchu ac yn cadw neu wella cymeriad lleol a natur unigryw'r Ardal Cymeriad Tirwedd (fel y dangosir ar Fap y Cynigion) y mae’r datblygiad wedi'i leoli ynddi, fel y dangosir ar Fap y Cynigion:
  2. Os yw dyluniad yr holl adeiladau a'r adeileddau, a'r deunyddiau a gynigir, yn cydweddu'n agos â ffurf adeiledig yr ardal leol,
  3. Mewn achosion priodol, bod cynllun tirweddu'n cael ei gyflwyno i gyd-fynd â'r datblygiad arfaethedig sy'n ystyried effaith ac effaith weledol y datblygiad.
4.198.

Mae cymeriad gweledol tirweddau, morluniau, trefluniau ac arwahanrwydd yr aneddiadau yn Ardal y Cynllun, oddi mewn ac oddi allan i ardaloedd dynodedig yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion ac ymwelwyr. Rhoddir blaenoriaeth uchel i ddiogelu, cadw a gwella'r cymeriad hwn yn y dirwedd, a dylai datblygiadau newydd fod wedi'u dylunio'n dda a helpu i gynnal ac/neu greu tirweddau a threfluniau a chanddynt ymdeimlad cryf o naws am le a hunaniaeth leol.

4.199.

Diben y dynodiad yw sicrhau nad yw cymeriad lleol yr ardaloedd hyn yn cael ei newid gan ffurfiau amhriodol o ddatblygu, ac y cedwir y nodweddion sy'n cyfrannu at yr arbenigrwydd lleol. Felly, gwrthwynebir ffurfiau gwael o ddatblygu nad ydynt yn perthyn i’r ardal, o ran ffurf neu ddefnydd. Dylai'r dyluniad a'r defnyddiau a ddefnyddir yn y gwaith adeiladu a ganiateir, fod yn gydnaws a'r arddull leol, a dylai lleoliad a ffurf y datblygiad integreiddio i'r dirwedd mewn modd sy'n gyson â'r datblygiadau sy'n bodoli eisoes.

4.200.

Wrth integreiddio'r datblygiad i'r dirwedd, dylid ystyried elfennau'r dirwedd hefyd, fel waliau, coed neu gloddiau sy'n bwysig i gymeriad y dirwedd ac y dylid eu cadw. Ni chaniateir datblygu na ellir ei integreiddio i'r dirwedd yn sensitif ac yn hawdd, ac a fyddai'n amharu ar gymeriad y dirwedd. Mewn rhai achosion, gall y datblygiad arfaethedig fod ar ei ennill o'i dirweddu mewn dull sy'n gydnaws a'r ardal, er mwyn lleiafu ei effaith.

4.201.

Mae Asesiad o Gymeriad y Dirwedd neu ‘Fap Tir’ yn cael ei lunio sy'n dangos a disgrifio Ardaloedd Tirwedd Cymeriad nodedig a'r mathau ohonynt yn holl Ardal y Cynllun ac sy'n cynnwys manylion am fioamrywiaeth a nodweddion tirwedd hanesyddol. Dylid defnyddio'r wybodaeth hon, ynghyd ag astudiaethau eraill sy'n cyfrannu tuag at y dystiolaeth ynglŷn â'r dirwedd a chymeriad y trefi a'r pentrefi yn Ardal y Cynllun, er mwyn sicrhau bod ceisiadau datblygu'n adlewyrchu natur unigryw, rhinweddau a natur sensitif yr ardal. Fodd bynnag, ni fydd astudiaeth y Map Tir wedi'i chwblhau tan i Ddrafft Adneuo'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei gwblhau. Bydd Ardaloedd Tirwedd Cymeriad yn cael eu hadolygu a'u diwygio i adlewyrchu canlyniad yr astudiaeth, a'u defnyddio'n sylfaen o dystiolaeth wrth asesu ceisiadau cynllunio.

4.202.

YNNI ADNEWYDDADWY A THECHNOLEGAU ADNEWYDDADWY

Mae'r Strategaeth Ofodol, wedi'i llunio i leiafu'r angen i deithio ar leoliadau datblygiadau newydd, yn enwedig mewn car, gan leihau allyriadau carbon. Mae dyluniad datblygiadau newydd hefyd yn bwysig, gan fod bron i hanner allyriadau carbon deuocsid y DU yn 2004 yn deillio o'r defnydd o ynni mewn adeiladau, ac roedd mwy na chwarter yr allyriadau hyn yn deillio o ynni a ddefnyddiwyd i gynhesu, goleuo a chyflenwi trydan i gartrefi.

4.203.

Daw'r newid yn yr hinsawdd â goblygiadau mawr i amgylchedd y DU a gallai arwain at dywydd mwy eithafol, gan gynnwys hafau poethach a sychach, llifogydd, a chodiad yn lefel y môr gan arwain at adlinio'r arfordir. Mae canlyniadau hyn yn ddifrifol yn Ardal y Cynllun, lle ceir ardaloedd mawr ac iddynt risg o lifogydd.

4.204.

Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu tuag at egwyddorion cynaliadwy ac yn lleihau neu'n lleiafu allyriadau carbon, yn gadarn yn erbyn goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ac yn diogelu trigolion rhag effeithiau tlodi tanwydd. Mae'n debygol mai anheddau newydd fydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau newydd yn Ardal y Cynllun ac mae'r Côd Cartrefi Cynaliadwy'n safon genedlaethol a ddefnyddir i asesu cynaliadwyedd anheddau newydd. Dylid bodloni graddfeydd neilltuol y Côd Cartrefi Cynaliadwy er mwyn sicrhau y darperir tai sydd eu hangen mewn modd cynaliadwy. Mae'r Côd yn ystyried anheddau mewn modd cyfannol ac mae angen bodloni safonau penodol o ran y defnydd o ddŵr, effaith y deunyddiau a ddefnyddir ar yr amgylchedd, darparu mannau awyr agored, a diogelu nodweddion ecolegol presennol er mwyn cyrraedd 'lefel' neilltuol.

4.205.

Mae'r polisïau yn yr adran hon yn ceisio sicrhau y defnyddir adnoddau naturiol yn fwy effeithlon, lleiafu'r galw am ynni a chynyddu'r defnydd o adnoddau adnewyddadwy. Dylai hyn ostwng costau cynnal adeiladau a chreu llefydd deniadol ac iach i bobl fyw a gweithio ynddynt drwy ddefnyddio systemau awyru a golau naturiol. Wrth ystyried ailddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes, dylai datblygwyr geisio adnewyddu adeiladau presennol lle bo'n briodol yn hytrach na'u dymchwel ac adeiladu o'r newydd. Dylid defnyddio deunyddiau adeiladu wedi'u hadfer hefyd lle bo modd. Bydd hyn yn gostwng yr ynni a ddefnyddir i adeiladu a hefyd yn cyfrannu tuag at ddiogelu'r dreftadaeth adeiledig.

POLISI NTE/6 - EFFEITHLONRWYDD YNNI A THECHNOLEGAU ADNEWYDDADWY MEWN DATBLYGIADAU NEWYDD View Map of this site ?

Mae gwneud defnydd effeithlon o adnoddau naturiol a'u cadw yn hanfodol i sicrhau ansawdd bywyd cyffredinol yn Ardal y Cynllun ac i gefnogi amcanion cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd ehangach. Bydd y Cyngor yn:

  1. Hyrwyddo lefelau uwch o effeithlonrwydd ynni drwy ddefnyddio technegau adeiladu a dylunio cynaliadwy gan sicrhau bod pob annedd breswyl newydd (fel y nodir yn HOU/1 ‘Diwallu'r Angen am Dai’) yn cael ei hadeiladu i gyrraedd o leiaf Lefel 3 y Cod i ddechrau gan symud ymlaen i Lefel 6 y Cod (o dan gynllun y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy) a bod pob datblygiad amhreswyl newydd yn cyrraedd gradd cynaliadwyedd o 'da iawn' (o dan Gynllun BREEAM) ac yn unol â thabl NTE6g.
  2. Hyrwyddo ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn ceisiadau cynllunio sy'n cefnogi cynhyrchu ynni o ffynonellau biomas, morol, gwastraff, solar a gwynt, gan gynnwys microgynhyrchu os yw hynny'n dderbyniol o ran effaith ar ansawdd bywyd, amwynder, dichonolrwydd a bioamrywiaeth yn unol â DP/6.
  3. Sicrhau bod pob cynllun tai sy'n cynnwys mwy na 10 o anheddau a chynlluniau datblygu cyflogaeth dros 1000m2 yn cynnwys mesurau i gynhyrchu 10-25% o'r ynni gofynnol o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle, yn unol â Thabl NTE/6g.
  4. Sicrhau bod egwyddorion dylunio cynaliadwy wedi'u hymgorffori ym mhob datblygiad newydd, ee: cynllun, dwysedd a defnyddio deunyddiau priodol, casglu dŵr glaw, defnyddio ynni'n effeithlon, draenio cynaliadwy a llecynnau/storfeydd ailgylchu gwastraff yn unol â'r Polisïau Egwyddorion Dylunio ac NTE/7 i NTE/9.
  5. Darparu Canllawiau Cynllunio Atodol ar ynni'r gwynt ar y môr mewn perthynas â chanllawiau cenedlaethol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn unol â Pholisi DP/7 ‘Ystyriaeth Berthnasol’.
  6. Cefnogi ceisiadau sy'n lleihau'r defnydd o ddeunyddiau newydd wrth adeiladu, sy'n defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu ac sy'n sicrhau cymaint ag sy'n bosibl o gyfleoedd i ailddefnyddio deunyddiau'n unol â'r Egwyddorion Dylunio a Pholisi MWS/1.

Tabl 11: NTE/6a Targedau Adeiladu a chynhyrchu cynaliadwy

 Pre 20122012 – 20172017 -2022Ar ôl 2022
Targedau Ynni Adnewyddadwy Lleol 10% 15% 20% 25%
Cod Cartrefi Cynaliadwy 3 Seren 4 Seren 5 Seren 6 Seren
BREEAM Da Iawn Ardderchog Ardderchog Ardderchog
4.206.

Mae Datblygu Cynaliadwy'n ganolog i Gynllun Datblygu Lleol Conwy, ac mae'r Cyngor yn ceisio creu cymunedau sy'n defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Defnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon, yn enwedig llosgi tanwydd ffosil yw un o'r prif ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd. Mae'r system gynllunio'n effeithio ar y defnydd o adnoddau naturiol, gan gynnwys ynni a mwynau, a'r modd yr ydym yn rheoli gwastraff. Drwy eu defnyddio'n gyfrifol ac effeithlon, gallwn leiafu'r effaith ar yr amgylchedd gan sicrhau cynaliadwyedd i genedlaethau'r dyfodol.

4.207.

Mae paragraff 2.9.2 ym Mholisi Cynllunio Cymru'n ceisio integreiddio amcanion effeithlonni ynni a chadwraeth i'r gwaith o gynllunio a dylunio datblygiadau newydd yn eu hardaloedd. Ceir angen cynyddol i leihau'r carbon sy'n cael ei ryddhau. Bydd deunyddiau lleol sy'n ymgorffori lefel isel o ynni'n cael eu ffafrio. Bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy'n cael eu hannog lle bo'n briodol, ond y ffordd orau o gyrraedd y targedau uchelgeisiol hyn yn y Fwrdeistref hon yw drwy annog y defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle. O ystyried y raddfa debygol o ddatblygiadau newydd yng Nghonwy oddi mewn i ardaloedd trefol y llain arfordirol, ceir potensial am gyfraniad sylweddol o'r ffynhonnell hon. Gallai fod ar amryw o ffurfiau gan gynnwys generaduron gwynt , paneli solar neu gelloedd ffotofoltäig lleol wedi'u cynnwys yn yr adeiladau. Gall datblygiadau sy'n cael eu dylunio a'u hadeiladu mewn modd cynaliadwy ddarparu ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol, defnyddio llai o ynni, lleiafu'r gwres a gollir, defnyddio llai o ddŵr, mwyafu golau naturiol, hwyluso ailgylchu gwell, darparu systemau draenio cynaliadwy a defnyddio deunyddiau adeiladu wedi'u hailgylchu.

4.208.

Deddf Cynllunio ac Ynni 2008

Mae Deddf 2008 yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr i osod gofynion ar gyfer y defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni yn eu cynlluniau datblygu. Mae'n rhoi grym i awdurdodau lleol gynnwys polisïau yn eu cynllun datblygu sy'n gorfodi gofynion rhesymol canlynol:

  • Bod cyfran o'r ynni a ddefnyddir wrth ddatblygu yn eu hardal yn ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn ardal leol y datblygiad;
  • Bod cyfran o'r ynni a ddefnyddir wrth ddatblygu yn eu hardal yn ynni carbon isel o ffynonellau yn ardal leol y datblygiad; a
  • Bod datblygu yn eu hardal yn cydymffurfio â safonau effeithlonni ynni sy'n uwch na gofynion ynni rheoliadau adeiladu
4.209.

Ym mis Gorffennaf 2008 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bapur ymgynghori 'Cynllunio ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd’ a ofynnai am sylwadau ynghylch newidiadau posibl i'r polisi cynllunio cenedlaethol, gan gynnwys y meysydd canlynol:

  • Defnyddio safonau adeiladu cynaliadwy i gynyddu cynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru;
  • Gofyniad y dylai datblygiadau mawr yn y dyfodol yng Nghymru gynnwys offer ynni adnewyddadwy neu garbon isel ar y safle ac/neu’n gyfagos â’r safle sy'n cyfrannu o leiaf 10% o ostyngiad ychwanegol mewn allyriadau CO2, ac;
  • Y gallu i Awdurdodau Cynllunio Lleol osod safonau uwch yn y meysydd uchod ar gyfer ardaloedd strategol yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.
4.210.

Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a BREEAM

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu'r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy i gefnogi ei ddyheadau di-garbon. Mae'r cod yn disodli'r safon cartrefi eco, ac yn berthnasol i'r holl dai newydd a gaiff eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLCau).

4.211.

Mae'r Cod yn mesur cynaliadwyedd cartref newydd ochr yn ochr â chategorïau dylunio cynaliadwy, gan ddynodi gradd i'r ‘cartref cyfan’ fel cyfanwaith. Mae'r Cod yn defnyddio system raddio 1 i 6 seren er mwyn cyfleu perfformiad cyffredinol cartref newydd o safbwynt cynaliadwyedd. Mae'r Cod yn gosod safonau sylfaenol ar gyfer yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar bob lefel.

4.212.

Mae'r Cod hefyd yn rhoi gwell gwybodaeth i rai sy'n prynu cartrefi newydd ynghylch effaith eu cartref newydd ar yr amgylchedd a'i gostau cynnal posibl, ac yn ddull i adeiladwyr ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt ac adeiladwyr eraill o ran cynaliadwyedd.

4.213.

O 1 Mai 2008 bydd yn ofynnol i'r holl dai newydd sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad gyrraedd o leiaf lefel 3 y Cod, p'un ai a ydynt:

  • wedi'u prynu'n uniongyrchol;
  • wedi derbyn cymorth ariannol;
  • yn fentrau ar y cyd; neu'n
  • brosiectau ar dir a werthwyd, a roddwyd ar les neu a waredwyd mewn unrhyw ffordd arall i'w ddatblygu.
4.214.

Mae hefyd yn berthnasol ar gyfer yr holl dai newydd ar dir wedi'i wella neu wedi'i adfer gyda nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru neu CNLC sydd yn dal dan reolaeth adfachu ariannol.

4.215.

Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd wedi cael eu gwahodd i ganfod cynlluniau oddi mewn i'w rhaglenni gwaith. Mae hyn yn rhan o beilot sy'n anelu i ddatblygu prosiectau sy'n bodlonni gofynion lefelau uwch yn y Côd, sef lefelau 4 a 5. Bydd datblygiadau tai sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru'n dilyn yr ymagwedd hon.

4.216.

Mae Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) yn dal yn ofyniad ar gyfer datblygiadau amhreswyl sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.217.

Mae'r targed cychwynnol, a nodir yn nhabl NTE/6a, o 10% erbyn 2011 yn gost effeithiol ac yn un y gellir ei gyflawni. Er mwyn datrys yr heriau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd a'r risg ddifrifol o lifogydd yn y Sir, mae'r Cyngor yn ceisio cyrraedd ei darged uchelgeisiol o 20% erbyn 2022 o ddatblygiadau newydd ac felly'n cyfrannu'n gadarnhaol tuag at ddyfodol Conwy ac yn helpu i sbarduno economi ffyniannus a strwythur mwy cytbwys i'r boblogaeth. Mae'r targed cychwynnol o Lefel Côd 3, gan symud ymlaen i o leiaf Lefel Côd 6 ar gyfer datblygu preswyl, a safon ‘Da Iawn’ BREEAM ar gyfer datblygiadau amhreswyl hefyd yn gost effeithiol ac yn un y gellir ei gyflawni. Bydd yn ofynnol felly i ddatblygiadau gynnwys ynni adnewyddadwy i gyflenwi cyfran o'r ynni sydd ei angen arnynt.

4.218.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ymrwymedig i ddarparu rhaglen ynni i ostwng allyriadau carbon. Bydd ei tharged o 1,120 MW o drydan wedi'i gynhyrchu gan y gwynt yn cael ei gynhyrchu'n bennaf ar ffermydd gwynt mawr, wedi'u lleoli mewn Saith Ardal Chwilio Strategol (SSAs). Gallai un o'r ardaloedd hyn, yng Nghoedwig Clocaenog sy'n pontio terfyn Ardal y Cynllun a Sir Ddinbych gynhyrchu oddeutu 140MW. Bydd union derfyn yr SSA wedi'i ddangos ar Fap y Cynigion. Mae'r Polisi mewn perthynas ag SSA Clocaenog wedi cael ei gydlynu â Chyngor Sir Ddinbych drwy Ganllawiau Cynllunio Atodol ar ffurf drafft a fydd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ar ôl iddo gael ei fabwysiadu. Bydd prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n cydymdeimlo â chymeriad y dirwedd a'r amwynder lleol hefyd yn cael eu cefnogi.

4.219.

Mae polisïau cenedlaethol hefyd yn annog cynlluniau fferm wynt cymunedol llai, sydd fel arfer yn llai na 5MW, yn ogystal â mathau eraill o ynni adnewyddadwy, fel biomas, geothermol a gwres a phŵer cyfunedig os ystyrir bod eu heffeithiau'n dderbyniol. Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau ymgorffori ynni adnewyddadwy gyflenwi cyfran o'r ynni sydd angen arnynt. Bydd prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n cydymdeimlo â chymeriad y dirwedd a'r amwynder lleol hefyd yn cael eu cefnogi.

4.220.

Bydd yr ymagwedd a gymerwyd ym Mholisi NTE/7 yn cael ei adolygu yn sgil canllawiau newydd gan y Llywodraeth yn unol â Pholisi DP/6.

POLISI NTE/7 - SYSTEMAU DRAENIO CYNALIADWY View Map of this site ?

  1. Bydd yn ofynnol defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy lle bo hynny'n rhesymol ymarferol a bydd gwaredu ar y safle'n cael ei ffafrio. Os na chynigir hyn, bydd angen i ddatblygwr gyfiawnhau bod y gollyngiad yn angenrheidiol ac wedi'i reoli'n ddigonol.

 

 

4.221.

Gall defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) i reoli llif dŵr fod yn ddull pwysig o leiafu'r risg o lifogydd drwy gynyddu arwynebeddau athraidd ar lecyn o dir sy'n caniatáu i ddŵr dreiddio drwyddynt i'r ddaear yn hytrach na llifo i'r system ddraenio, ac sy'n lleihau effaith llygredd tryledol a achosir gan ddŵr ffo a llifogydd. Dylid cynnwys defnydd effeithiol o arwynebeddau athraidd, suddfannau dŵr a storfeydd dŵr ym mhob datblygiad newydd os yw hynny'n dechnegol bosibl. Mae'n ofynnol ystyried SuDS yn fuan fel bo modd ystyried ystod o dechnegau ac anogir datblygwyr i gychwyn trafodaethau buan â'r Cyngor.

4.222.

Mae'n well rheoli dŵr ffo drwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) gan eu bod yn fanteisiol i'r amgylchedd, i fioamrywiaeth ac o ran estheteg. Gall SuDS fod ar ffurf pantiau, lagwnau, palmentydd athraidd, toeau gwyrdd a gwelyau cyrs neu sianeli wedi'u hail-beiriannu mewn modd sensitif, yn dibynnu ar natur y datblygiad a'r ardal.

4.223.

Mae'r Cyngor yn cefnogi Asiantaeth yr Amgylchedd drwy hyrwyddo systemau draenio cynaliadwy sy'n cynnal neu'n lleihau'r cyfraddau o ddŵr ffo cyn datblygu ac yn gofyn am gyngor yr asiantaeth ynghylch cyfraddau derbyniol o ddŵr ffo. Bydd gofyn i ddatblygwyr ariannu'r cynllun a bydd cytundebau cyfreithiol yn sicrhau bod y lefelau hynny o ddŵr ffo yn cael eu cynnal a'u rheoli am byth yn unol â'r egwyddorion datblygu.

POLISI NTE/8 - DRAENIO DWR BUDR View Map of this site ?

  1. Dylid cysylltu draeniad dŵr budr i garthffos gyhoeddus os yw hynny’n bosibl. Ni chaniateir datblygu safleoedd lle nad yw draenio i garthffos gyhoeddus yn ddichonadwy ond os ystyrir bod y cyfleusterau a gynigir yn lle hynny yn ddigonol, ac na fyddent yn peri risg annerbyniol i iechyd cyhoeddus, ansawdd na maint dŵr daear neu ddŵr wyneb nac yn llygru ffosydd lleol, cyrsiau dŵr neu safleoedd sy'n bwysig oherwydd bioamrywiaeth. Dylid darparu uned trin carthion. Ni fydd system sy'n cynnwys tanc(iau) septig ond yn cael ei hystyried os gellir dangos yn glir nad yw'r naill na'r llall o'r opsiynau hyn yn ddichonadwy, ar sail tystiolaeth sy'n profi bod y capasiti suddo dŵr yn ddigonol ac nad yw'n niweidio buddiannau materol.
  2. Rhaid i geisiadau datblygu sy'n cynnwys mannau parcio i gerbydau ac arwynebeddau eraill caled a ddefnyddir gan gerbydau gynnwys mesurau fel: gylïau caeedig a rhyng-gipwyr petrol / olew neu ddulliau eraill addas i reoli llygredd er mwyn sicrhau nad yw'r amgylchedd dŵr yn cael ei lygru.
  3. Development proposals which include the Commercial preparation of food must include measures, such as interceptors, which will safeguard the water environment from the ingress of grease, oil, or fats.
4.224.

Gall datblygu yng nghefn gwlad, sydd fel arfer yn datblygu i ddibenion amaethyddol, gan gynnwys slyri o weithfeydd amaethyddol mawr, fod yn annerbyniol pe gallai dŵr tail heb ei drin lifo i gyrsiau dŵr lleol a'r amgylchedd dŵr ehangach. Bydd hi felly'n hanfodol i ddatblygiadau o'r fath ddarparu peiriant a fydd yn trin eu dŵr tail os nad yw'n ddichonadwy i wyro'r dŵr i garthffos gyhoeddus . Mae'r polisi'n nodi'n glir na fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad pe gallai amharu ar ansawdd dŵr daear neu ddŵr tir, cyrsiau dŵr neu safleoedd sy'n bwysig oherwydd bioamrywiaeth oni weithredir mesurau i liniaru'r niwed.

4.225.

Os yw tanciau neu unrhyw gyfleusterau petrol, cemegol neu olew eraill yn rhan o ddatblygiad arfaethedig, bydd yn ofynnol fel arfer gan y Cyngor iddynt gael eu cynnwys mewn waliau bwnd o faint digonol er mwyn atal hylif rhag gorlifo neu ollwng.

POLISI NTE/9 - CADWRAETH DWR View Map of this site ?

  1. Dylai pob datblygiad gynnwys mesurau cadw dŵr os yw hynny'n ymarferol. Dylid cyflwyno Strategaeth Cadwraeth Dŵr i gyd-fynd â cheisiadau datblygu mwy na 1,000m2 neu sy'n cynnwys mwy na 10 annedd.
4.226.

Gellir cadw dŵr mewn amryw o ffyrdd, megis dyfeisiau arbed dŵr, casglu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd, ac mae'r polisi'n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn â'r union ddulliau a ddefnyddir. Gallai datblygiadau mawr, neu gyfanswm yr effaith a achosir gan ddatblygiadau bach sy'n cynnwys mesurau o'r fath leihau lefelau cyrsiau dŵr a lefelau trwythiad drwy ostwng dŵr ffo, a thrwy hynny effeithio ar fioamrywiaeth. Rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng rheoli ailgylchu dŵr a sicrhau na cheir unrhyw effaith niweidiol ar yr amgylchedd dŵr a bioamrywiaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i gefnogi'r polisi a hysbysu darpar ddatblygwyr ynglŷn â dulliau cadw dwr.

TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL

Amcanion Gofodol

SO6. Datblygu cyrchfannau canol tref hyfyw ar gyfer siopa, diwylliant, adloniant a hamdden drwy fywiogi a gwneud Llandudno'n fwy dichonadwy a deniadol fel y ganolfan adwerthu isranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn.

SO10. Gwella dyluniad adeiladau, gan gynnwys cyfleoedd i ddylunio i atal troseddu er mwyn datblygu cymunedau cryf a diogel.

SO12. Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad yr arfordir a chefn gwlad sydd heb eu datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirweddol/cadwraethol a nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol, gan sicrhau bod bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir yn cael eu cadw.

SO13. Gwella hygyrchedd at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden.

SO16. Sicrhau bod datblygiadau mewn cymunedau Cymraeg yn gydnaws â dichonadwyedd y Gymraeg dros y tymor hir.

4.227.

Datganiad Strategol ynghylch Treftadaeth Ddiwylliannol

Mae i ardaloedd hanesyddol ran allweddol wrth gyflawni amcanion y Cynllun Datblygu Lleol, p’un ai a yw’r amcanion hynny ar ffurf canolfannau masnachol neu siopa, atyniadau i ymwelwyr neu lefydd deniadol a diddorol i fyw ynddynt. Mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod asedau o'r fath yn cael eu diogelu rhag datblygu amhriodol, a bydd yn manteisio ar y cyfle i wella ardaloedd ac adeiladau hanesyddol pan fo angen.

4.228.

Mae cyfreithiau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol manwl sy'n trafod diogelu'r amgylchedd hanesyddol yn berthnasol. Serch hynny dylid cofio pa mor bwysig yw hi i fabwysiadu agwedd gyfannol tuag at ddiogelu asedau treftadaeth. Nid yw asedau treftadol fel tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol nac adeiladau nac adeileddau o bwysigrwydd lleol yn elwa ar ddynodiad statudol, er bod y rhain yn cyfrannu'n sylweddol tuag at ddiddordeb a chymeriad unigryw lle arbennig.

4.229.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol hwn felly'n cynnwys polisïau lefel strategol ynghylch datblygu ac asedau hanesyddol, a darperir manylion a chynigion rheoli i gydweddu â nodweddion a chyflawni'r heriau ym mhob ardal unigol mewn canllawiau cynllunio atodol.

4.230.

Mae'r Gymraeg yn elfen bwysig o wead cymunedau lleol. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu'r agwedd hon ar y gymuned ac annog datblygiad nad yw'n ei niweidio.

POLISI CTH/1 - TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL View Map of this site ?

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a, lle bo'n briodol, gwella'i asedau diwylliannol a threftadol. Cyflawnir hyn drwy:

  1. Sicrhau nad yw lleoliad datblygiadau newydd ar safleoedd a neilltuwyd yn ogystal â hap-safleoedd yn Ardal y Cynllun yn cael effaith niweidiol sylweddol ar asedau treftadaeth yn unol â Pholisïau CTH/2, DP/3 a DP/6.
  2. Cydnabod a pharchu gwerth a chymeriad asedau treftadaeth yn Ardal y Cynllun a chyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol i roi cyfarwyddyd ynghylch ceisiadau datblygu yn unol â Pholisi DP/7.
  3. Ceisio cadw a, lle bo'n briodol, gwella ardaloedd cadwraeth, Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy, tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol, adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig ac ardaloedd eraill o bwysigrwydd pensaernïol yn unol â Pholisïau DP/6 a DP/7;
  4. Diogelu adeiladau ac adeileddau o bwysigrwydd lleol yn unol â pholisi CTH/3 a chanllawiau cynllunio atodol.
  5. Gwella asedau treftadol drwy gynlluniau treftadaeth ac adfywio
  6. Cynnal a sicrhau dyfodol asedau treftadaeth drwy ganiatau datblygiadau galluogol priodol yn unig yn unol â pholisi CTH/4.
  7. Sicrhau bod datblygu mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gydnaws â dichonadwyedd y Gymraeg dros y tymor hir yn unol â Pholisi CTH/5.

POLISI CTH/2 - DATBLYGU SY'N EFFEITHIO AR ASEDAU TREFTADOL View Map of this site ?

Bydd ceisiadau datblygu sy'n effeithio ar ased treftadol a restrir isod (af) neu ei leoliad, yn cadw neu'n gwella'r ased hwnnw os yw’n briodol. Bydd ceisiadau datblygu'n cael eu hystyried yn unol â Pholisi DP/6 lle bo'n berthnasol, Polisi DP/3 a Chanllawiau Cynllunio Atodol.

  1. Ardaloedd Cadwraeth
  2. Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy
  3. Tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol
  4. Adeiladau Rhestredig
  5. Henebion Cofrestredig
  6. Safleoedd o bwysigrwydd archeolegol
4.231.

Ceir 24 o ardaloedd cadwraeth yn Ardal y Cynllun. Mae'r ardaloedd wedi cael eu dynodi ar raddfa leol, ac mae i bob ardal gadwraeth gymeriad unigryw. Mae'r rhain yn ddynodiadau cynllunio pwysig a bydd eu rheoli yn y dyfodol yn un o'r prif ystyriaethau mewn Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae'r pwysau am newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae mân newidiadau i nifer o adeiladau ac addasiadau mwy wedi niweidio cymeriad arbennig a natur unigryw llawer o ardaloedd yn sylweddol.

4.232.

Bydd goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd cynyddol effeithlonni ynni mewn adeiladau'n arwain at gynnydd yn y gwrthdaro ag amcanion cadwraeth. Dylid mynd ar drywydd datrysiadau cynaliadwy os na fyddant yn difrodi buddiannau hanesyddol yn sylweddol neu'n ddi-droi'n-ôl.

4.233.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwysau am ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth dwysedd isel wedi arwain at nifer gynyddol o geisiadau i ddymchwel, ailddatblygu, mewnlenwi a datblygu tir cefn. Er bod polisi cynllunio cenedlaethol yn annog defnydd darbodus o dir, gan ffafrio datblygu tir llwyd oddi mewn i aneddiadau presennol, ni ddylid difetha cymeriad ardaloedd cadwraeth dwysedd isel, er enghraifft Pen y Cae, Penmaenmawr a Phwllycrochan, Bae Colwyn. Mae datblygiadau dwysedd uchel nad ydynt yn gyson â ffurf adeiledig ardaloedd o'r fath yn niweidio'u cymeriad, a bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu o'r fath.

4.234.

Yn y gorffennol, byddai cyfres o bolisïau tros-fwaol a oedd yn berthnasol i bob ardal gadwraeth, yn cael eu defnyddio i'w rheoli. Yr ymagwedd a fabwysiadwyd yn y cynllun hwn oedd gweithredu i reoli a rhoi cyfarwyddyd ar ddatblygu drwy bennu nodweddion a heriau pob ardal unigol mewn Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth, a chreu datrysiadau mewn cynlluniau rheoli. Lle mae cynigion datblygu yn ymwneud ag adeiladau neu strwythurau sydd ag effaith niwtral neu negyddol ar gymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth, rhagdybir o blaid datblygiadau a fydd yn gwella’r ardal honno yn unol â Pholisi CTH/2. Bydd y Cyngor yn mabwysiadu Gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraeth fel Canllawiau Cynllunio Atodol yn unol â Pholisi DP/7.

4.235.

Mae Castell Conwy a waliau’r dref yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r dynodiad hwn yn amlygu pwysigrwydd rhyngwladol y safle. Bydd y Cynllun yn symud cynigion a chanllawiau ymlaen sy’n adlewyrchu goruchafiaeth y safle ynghyd â’i ardal gadwraeth. Ceir gofyniad gan UNESCO i baratoi cynllun rheoli i roi cyfarwyddyd ar ddatblygu sy'n effeithio ar Safleoedd Treftadaeth y Byd. Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried lleoliad ehangach Safle Treftadaeth y Byd sy’n ymestyn y tu hwnt i’r lleoliad a ddangosir ar y map cynigion, yn unol â Pholisi CTH/2. Yn ogystal â'r cynllun rheoli hwn, bydd y Cyngor yn paratoi cynigion i ddynodi tref Conwy'n ardal gadwraeth a fydd wedi'u llunio oddi mewn i Gynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd ac Ardal Gadwraeth.

4.236.

Nid yw cynnwys parciau a gerddi ar Gofrestr Cadw/ICOMOS wedi arwain at unrhyw reolaethau statudol ychwanegol. Ni ddylai datblygiadau newydd a gynigir oddi mewn i derfynau neu'r lleoliadau hanfodol a ddiffiniwyd ar eu cyfer amharu ar ddiddordeb arbennig y parciau a'r gerddi. Dylid cynnal asesiad systematig o geisiadau hwyluso datblygu mewn parciau a gerddi hanesyddol er mwyn sicrhau bod yr asedau hyn yn cael eu diogelu'n ddigonol.

4.237.

Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyngor cyn i geisiadau gael eu gwneud er mwyn sicrhau fod dewisiadau eraill ar gyfer newidiadau i adeiladau rhestredig yn cael eu hystyried yn llawn i ddiogelu eu cymeriad cyn cyflwyno cais ffurfiol. Rhaid i unrhyw gais i wneud gwaith ar adeiladau rhestredig gael ei gyfiawnhau’n llawn o safbwynt sicrhau fod cymeriad hanesyddol a phensaernïol arbennig a nodweddion pwysicaf yr adeilad a’i leoliad yn cael eu diogelu. Byddwn ond yn caniatáu dymchwel adeiladau rhestredig yn llawn neu’n rhannol, neu rannau sylweddol o adeileddau sydd wedi’u diogelu mewn amgylchiadau prin, os profir cyfiawnhad pwysicach.

4.238.

Dylai datblygiadau fod yn sensitif i gadwraeth gweddillion archeolegol ac mae polisïau cenedlaethol yn pwysleisio'r angen i werthuso safleoedd, eu cofnodi a chadw'r rhai pwysicaf. Mae ymgynghoriadau ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi datgelu y gellid bod angen cynnal asesiadau neu werthusiadau archeolegol ar rai o'r lleoliadau strategol a gynigiwyd i'w datblygu cyn gwneud unrhyw waith datblygu. Bydd ymatebion fel hyn i ymgynghoriadau'n cael eu hystyried wrth lunio briffiau datblygu ar gyfer y safleoedd hyn neu wrth asesu ceisiadau'r datblygwr.

POLISI CTH/3 - ADEILADAU AC ADEILEDDAU O BWYSIGRWYDD LLEOL View Map of this site ?

Ni fydd ceisiadau datblygu sy'n effeithio ar adeiladau neu adeileddau sy'n gwneud cyfraniad pwysig tuag at gymeriad a diddordeb yr ardal leol ond yn cael eu caniatáu os na fydd ymddangosiad unigryw, hygrededd pensaernïol na lleoliad yr adeilad yn cael eu niweidio'n sylweddol.

4.239.

Ceir nifer sylweddol o adeiladau sy'n rhan annatod o gymeriad a hunaniaeth eu hardal leol oherwydd eu dyluniad, eu deunyddiau a'u cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol. Dylid cadw'r adeiladau hyn, a cheisio sicrhau defnydd priodol er mwyn cadw'u cymeriad hanfodol. Bydd rhestr leol o adeiladau o'r fath yn cael ei llunio o arolygon gweledol ac ymgynghoriadau â grwpiau o randdeiliaid lleol. Nodir y fethodoleg ar gyfer rhestr o'r fath ynghyd â meini prawf a rheolaethau ychwanegol, er enghraifft cyfarwyddiadau Erthygl 4, yn y Canllawiau Cynllunio Atodol.

POLISI CTH/4 - HWYLUSO DATBLYGU View Map of this site ?

Byddwn ond yn caniatáu hwyluso datblygu i sicrhau dyfodol ac/ neu ddefnydd arall addas i adeilad rhestredig neu adeilad sy’n gwneud cyfraniad positif sylweddol i gymeriad ardal gadwraeth, neu barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig os:

  1. Yw’n angenrheidiol i sicrhau dyfodol tymor hir yr adeilad neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol
  2. Nad yw'n achosi niwed sylweddol i’r adeilad y mae'n ceisio'i gynorthwyo neu ei leoliad neu’r ardal gadwraeth neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol y mae’n rhan ohono.
  3. Y cyflawnir cyn lleied o waith ag sydd ei angen i sicrhau dyfodol yr adeilad a’r defnydd priodol o’r adeilad neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol.
  4. Nad oes cymhorthdal digonol ar gael o unrhyw ffynhonnell arall .
4.240.

Er mwyn hwyluso datblygu a allai wrthdaro â pholisïau cynllunio neu egwyddorion cadwraeth cadarn ac a gyflwynir yn aml fel cam i'w gwneud hi'n bosibl i gadw adeilad rhestredig neu adeilad o bwysigrwydd lleol a'i achub rhag troi'n adfail ac/neu'n segur. Mae'r adeiladau hyn yn aml yn wag, heb eu defnyddio ac yn cynnwys tir helaeth o'u hamgylch, gan gynnwys parciau a gerddi neu dirweddau sydd eu hunain o ddiddordeb arbennig. Dylid ystyried a llunio ceisiadau datblygu gyda dealltwriaeth o ddyluniad ac arwyddocâd parciau a gerddi, a'u perthynas â'r adeiladau hanesyddol sydd wedi'u lleoli ynddynt neu'n gyfagos â hwy. Er enghraifft, cadw’r golygfeydd allweddol a welir wrth edrych ar yr adeilad, a'r golygfeydd o'r adeilad o'r hyn sydd o'i amgylch.

POLISI CTH/5 - GYMRAEG View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod datblygiadau yn gydnaws â dichonadwyedd y Gymraeg dros y tymor hir. Cyflawnir hyn drwy ei gwneud hi'n ofynnol i gyflwyno datganiad iaith ac, mewn rhai achosion, asesiad o'r effaith ar iaith gyda cheisiadau sy'n debygol o gael effaith sylweddol (gan gynnwys effaith gronnol) ar y Gymraeg.

4.241.

Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o gymunedau lleol a’u treftadaeth. Mae Conwy'n ymrwymedig i ddiogelu’r agwedd hon ar y gymuned ac annog datblygu nad yw'n amharu arni. Yn ôl cyfrifiad 2001, cafwyd bod mwy na 70% o siaradwyr Cymraeg ymysg y boblogaeth mewn tair ardal cyngor cymuned, a rhwng 60% a 70% ohonynt mewn saith cyngor cymuned arall. Bydd CBS Conwy'n cefnogi ac yn hyrwyddo ffyniant y Gymraeg, drwy sicrhau bod digon o gyfleoedd o ran cyflogaeth a thai i gadw siaradwyr Cymraeg ledled y Fwrdeistref a thrwy gyfyngu ar ddatblygu yn y Prif Bentrefi, y Pentrefi Llai a'r Pentrefannau. Dylid cyflwyno datganiad iaith gyda cheisiadau sy'n debygol o newid cymeriad ieithyddol yr ardal dan sylw. Mewn achosion eithriadol, mae'n bosibl y bydd gofyn cynnal asesiad mwy trylwyr o'r effaith ar iaith.

STRATEGAETH CLUDIANT CYNALIADWY

Amcanion Gofodol

SO1. Hyrwyddo lefelau datblygu sy'n cyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig ac sy'n diwallu anghenion y gymuned drwy leoli datblygiadau ar dir a ddefnyddiwyd eisoes os yw hynny'n ymarferol, yn ardaloedd trefol yr arfordir yn bennaf, ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol neu arfaethedig, a thrwy sicrhau dwysedd datblygu effeithlon sy'n gydnaws ag amwynder lleol.

SO7. Canolbwyntio datblygiad ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, ac yn enwedig mewn lleoliadau sy'n gyfleus i gerddwyr, seiclwyr ac ar gyfer cludiant cyhoeddus.

SO9. Annog patrymau symud effeithlon a chydnabod rôl strategol yr A55 a'r coridorau rheilffordd wrth ddiwallu anghenion datblygu'r Fwrdeistref, a rhoi sylw arbennig i leoliadau datblygu sy'n gyfleus ar gyfer cerdded a seiclo yng Nghonwy er mwyn helpu i leihau allyriadau CO2 sy'n deillio o gludiant.

SO13. Gwella hygyrchedd at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden.

4.242.

Datganiad y Strategaeth Cludiant Cynaliadwy

Mae'n ofynnol i ddatblygiadau newydd fynd i'r afael â goblygiadau'r datblygiad hwnnw o ran cludiant, ac mae'n ofynnol i gynlluniau mawr lunio asesiadau cludiant er mwyn dangos sut y darperir ar gyfer nifer y teithiau a gynhyrchir a'r modd y sicrheir hygyrchedd i'r safle ac oddi yno drwy'r holl ddulliau cludiant. Ar gyfer ceisiadau amhreswyl sy'n debygol o achosi goblygiadau cludiant sylweddol, mae'r Llywodraeth hefyd yn gofyn am gyflwyno cynlluniau teithio, a'u diben yw hyrwyddo ffurfiau mwy cynaliadwy ar gludiant i gyfateb â gweithgarwch datblygiad neilltuol. (e.e. annog defnyddio ceir yn llai aml a chynyddu'r defnydd o gludiant cyhoeddus, cerdded a seiclo).

4.243.

Er mwyn cyflawni'r amcanion teithio bydd gofyn gweithredu mewn dwy ffordd. I ddechrau mae angen gweithredu'n gadarnhaol drwy'r Strategaeth Cludiant Rhanbarthol er mwyn darparu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer cludiant integredig yn y Sir. Yn ail, mae angen i'r Cynllun Datblygu Lleol ddarparu polisïau cryf i sicrhau bod lleoliad datblygiadau newydd yn cefnogi'r amcanion uchod. Mae gwaith partneriaeth yn hanfodol i sicrhau llwyddiant yr amcanion hyn. Mae'r adran hon yn cynnwys y polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau bod y strategaeth cludiant cynaliadwy yn cael ei chyflawni.

POLISI STR/1 - CLUDIANT CYNALIADWY, DATBLYGU A HYGYRCHEDD View Map of this site ?

Bydd datblygiadau'n cael eu lleoli fel bod angen teithio cyn lleied ag sy'n bosibl. Dylai mynediad cyfleus ar hyd llwybrau, isadeiledd seiclo a chludiant cyhoeddus fodoli eisoes. Fel arall, dylid eu darparu lle bo'n briodol, a thrwy hynny annog pobl i ddefnyddio'r mathau hyn o gludiant ar gyfer teithiau lleol, a lleihau'r angen i deithio mewn car preifat a gwella hygyrchedd gwasanaethau i rai nad oes ganddynt fynediad rhwydd at gludiant. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i wella hygyrchedd a cheisio newid ymddygiad teithwyr. Cyflawnir hyn drwy gydweithio â'n partneriaid i;

  1. Ganolbwyntio ar ddatblygu mewn lleoliadau hygyrch iawn yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol, yn bennaf ar hyd yr A55 a'r rhwydwaith rheilffordd ac oddi mewn ac ar fin Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol oddi mewn i lain yr arfordir ac yn unol â DP/2 ‘Ymagwedd Strategol Drosfwaol’. Bydd pob cais datblygu'n cael ei asesu ochr yn ochr â Safonau Parcio'r Cyngor a nodir yn STR/2, lliniaru teithio yn unol ag STR/3 a hyrwyddo dulliau cynaliadwy'n unol ag STR/4.
  2. Diogelu tir i hyrwyddo cymunedau hygyrch sy'n annog dulliau teithio cynaliadwy ac integredig yn unol â Pholisi STR/5 a STR/6. Bydd y Cyngor yn gwella cludiant cyhoeddus ymhellach ac yn cynyddu newid moddol tuag at ddulliau cynaliadwy drwy hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus mwy mynych a dibynadwy. Ceisir sicrhau gwelliannau i orsafoedd rheilffordd a gorsafoedd bws er mwyn cynorthwyo i newid rhwng dulliau cludiant amrywiol a hyrwyddo ymddygiad cynaliadwy wrth deithio. Bydd datblygiadau'n cyfrannu tuag at y gwelliannau hyn lle bo angen hynny'n unol â DP/1 i DP/7. Bydd llwybrau gwella a ddynodwyd yng Nghynllun Cludiant Rhanbarthol Conwy yn cael eu diogelu.
  3. Hyrwyddo cerdded a seiclo ledled y Fwrdeistref Sirol yn rhan o ddull integredig a chynaliadwy iawn o deithio'n unol â DP/4. Bydd dyluniad ac adeiladwaith cyfleusterau ac isadeiledd yn cael eu gwella i wneud cerdded yn fwy deniadol, uniongyrchol a diogel, yn unol â DP/3. Bydd croesfannau cyfleus o ansawdd i gerddwyr yn cael eu hyrwyddo i'w gwneud hi'n haws croesi'n syth a diogel dros ffyrdd prysur. Bydd datblygiadau'n cyfrannu tuag at y cysylltiadau hyn, a thuag at fannau parcio beiciau o ansawdd lle bo'n briodol, yn unol â'r Egwyddorion Datblygu a Safonau Parcio'r Cyngor, fel y nodir yn STR/2.
  4. O dan gyfarwyddyd Diagram Allweddol y Strategaeth Cludiant (Ffigur STR/1a) bydd cynlluniau cludiant sy'n arwain at wella hygyrchedd yn cael eu cefnogi mewn egwyddor. Wrth ystyried ceisiadau datblygu, rhaid ystyried y posibilirwydd am ddulliau teithio mwy cynaliadwy sy'n gysylltiedig â defnyddwyr a'r defnydd a wneir o'r datblygiad, gan gynnwys paratoi Cynlluniau Teithio.

 Niagram_9

4.244.

Mae hygyrchedd da yn golygu y gall y gymuned gael mynediad at angenrheidiau (e.e. siopa, addysg, cyflogaeth) yn hawdd heb fod angen mynd yn y car drwy'r amser. Gellir gwella hygyrchedd drwy osod datblygiadau mewn lleoliadau priodol a thrwy wella cludiant cyhoeddus a chyfleusterau a gwasanaethau cerdded a seiclo. Bydd angen y gymuned am ddatblygu yn cael ei ddiwallu drwy leoli'r rhan fwyaf o ddatblygiadau yn y lleoliadau hygyrch, yn bennaf ar hyd yr A55 a choridor y Rhwydwaith Trenau, oddi mewn i Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol lle ceir cysylltiadau allweddol â gwasanaethau a chludiant. Gall sicrhau hygyrchedd da wyro ymddygiad pobl tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o deithio. Serch hynny, mae cynllunio teithiau, addysg a rheoli'r galw yn rhannau annatod o'r strategaeth gludiant gyffredinol. Mae gwella hygyrchedd a lleihau'r ddibyniaeth ar geir yn helpu i wella cydraddoldeb, yn lleihau tagfeydd ac yn ymateb i heriau'r newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Er mwyn gwella'r dulliau teithio cynaliadwy sydd ar gael, iechyd y gymuned a'r amgylchedd, bydd y Cyngor yn neilltuo tir ar gyfer cyfleuster rhyngnewid yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno.

4.245.

Ar gyfer teithiau cymharol fyr mae cerdded yn ogystal â seiclo'n ddulliau teithio dymunol iawn sydd hefyd yn cefnogi arfer byw iachus. Yn ôl data'r cyfrifiad (2001), mae mwyafrif trigolion Conwy sy'n economaidd weithgar yn defnyddio'u car i deithio i'r gwaith (66%). Tra bo 14% o'r trigolion yn cerdded i'r gwaith, dim ond 1.7% ohonynt sy'n seiclo. Yn anffodus, mae pobl yn cael eu hatal rhag cerdded a seiclo i rai ardaloedd gan fod prif ffyrdd a chylchfannau'n peri rhwystr i gerddwyr a seiclwyr. Mae cerdded yn rhan o bron bob taith, ac mae pobl yn llai tebygol o gerdded i siop leol neu orsaf bws os yw'r amgylchedd i gerddwyr yn wael neu'n ymddangos yn fygythiol. Mae rhai ffyrdd, strydoedd a chyffyrdd wedi cael eu dylunio mewn modd sy'n rhoi'r flaenoriaeth i sicrhau llif barhaus y traffig ar draul cerddwyr a seiclwyr. Bydd gwelliannau cerdded a seiclo'n cael eu targedu ym mhob anheddiad, yn bennaf lle mae angen cael mynediad at gyflogaeth ac adwerthu yn Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele ac i ddibenion hamdden a thwristiaeth ar hyd coridorau'r arfordir a'r afon. Enghreifftiau o hyn fyddai gweithredu rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy. Bydd angen i bob datblygiad newydd ddarparu cyfleusterau cerdded a seiclo o ansawdd a chyfrannu tuag at welliannau cynaliadwyedd yn y gymuned o'i amgylch, fel bo'n briodol.

4.246.

Mae cerdded a seiclo'n arbennig o bwysig mewn Canolfannau lle mae nifer o bobl yn siopa, yn gweithio, yn byw neu'n chwarae o fewn ardal gyfagos. Gall y Canolfannau gynnwys nifer fawr iawn o gerddwyr a seiclwyr heb broblemau tagfeydd, sŵn a llygredd a achosir gan nifer cymharol fach o gerbydau modur. Er mwyn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy, cyfrannu tuag at welliannau iechyd a diogelu'r amgylchedd, bydd y Cyngor yn ceisio agor pont droed newydd rhwng rheilffordd Cyffordd Llandudno a'r ardal hamdden, adloniant, busnes ac adwerthu.

4.247.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol felly'n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i gludiant cynaliadwy er mwyn gwella cyfleusterau cerdded a seiclo a chysylltiadau â mathau eraill o ddulliau teithio cynaliadwy yn Ardal y Cynllun ac, yn enwedig ag Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol. Mae gan y dulliau teithio cynaliadwy hyn botensial i wella hygyrchedd, yr amgylchedd ac iechyd y Fwrdeistref Sirol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Cyngor yn cydweithio â phartneriaid ac yn sicrhau cyfraniadau gan ddatblygwyr, ac yn ceisio cael nawdd ar gyfer gwelliannau cerdded a seiclo, lle bo'r angen, ac yn ehangu Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5 SUSTRANS drwy adeiladu pont gerdded/seiclo yn Harbwr y Foryd er mwyn creu rhwydwaith llawnach i gysylltu Conwy â Sir Ddinbych. Mae'r gwaith i gwblhau Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5 yn Llandudno hefyd yn symud yn ei flaen.

4.248.

Yn unol â Deddf Cludiant Cymru 2006, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n gofyn i gonsortiwm Taith, sef partneriaeth o Awdurdodau Lleol a chanddynt gyfrifoldebau cludiant yng Ngogledd Cymru greu Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Strategaeth i ganfod a darparu gwelliannau i'n system gludiant yng Ngogledd Cymru dros y 25 mlynedd nesaf yw Cynllun Cludiant Rhanbarthol Dros Dro Gogledd Cymru (2009). Mae'r Cynllun wedi cael ei greu, ac fe ddaw i rym o fis Ebrill 2010.

POLISI STR/2 - CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL AR SAFONAU PARCIO View Map of this site ?

  1. Dylid darparu mannau parcio ceir yn unol â'r safonau uchaf a osodwyd yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol ar Safonau Parcio Conwy, i leihau gorddibyniaeth ar y car a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy.
  2. Mewn rhai lleoliadau, megis lleoliadau â mynediad da at gyfleusterau a gwasanaethau a wasanaethir gan gludiant cyhoeddus o safon uchel, bydd y Cyngor yn ceisio lleihau nifer y mannau parcio a ddarperir, yn unol â Safonau Parcio Conwy. Os bydd cyfleoedd yn codi, er enghraifft ar safleoedd defnydd cymysg, anogir i bobl rannu llefydd parcio a cheir i leiafu'r ddarpariaeth.
  3. Dylid darparu mannau parcio beiciau yn unol â'r safonau a osodir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Safonau Parcio Conwy i sicrhau y darperir mannau digonol a diogel.
4.249.

Gall nifer y mannau parcio sydd ar gael effeithio'n sylweddol ar y math o gludiant y bydd pobl yn ei ddewis. Yn unol â hynny, mae polisi'r Llywodraeth yn anelu i gyfyngu ar y lefelau parcio sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd er mwyn lleihau'r defnydd o geir a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy. Yn ogystal â hyn, gall mannau parcio orchuddio llecyn helaeth o dir, gan effeithio ar ymddangosiad y datblygiad a'r defnydd effeithlon o dir. Yn ôl paragraff NCT18, paragraff 30, ‘gall rheolaethau dros barcio, codi taliadau a chyfyngiadau ar ddarpariaeth neu amser fod yn briodol os ydynt yn gydnaws â pholisïau defnydd tir, yn cyfrannu tuag at leihau tagfeydd ac yn diogelu amwynder’ Diben y polisi hwn yw rheoli'r galw am fathau penodol o barcio, er mwyn hyrwyddo nodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynllun. Bydd y Cyngor yn adolygu ei safonau parcio'n seiliedig ar y Cynllun Cludiant Rhanbarthol.

POLISI STR/3 - LLINIARU EFFAITH TEITHIO View Map of this site ?

  1. Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau newydd liniaru drwgeffeithiau teithio, fel sŵn, llygredd, yr effaith ar amwynder ac iechyd, ac effeithiau eraill amgylcheddol.
  2. Bydd cyfraniadau ariannol yn ofynnol tuag at welliannau i'r isadeiledd cludiant, yn enwedig i gefnogi cludiant cyhoeddus, seiclo a cherdded, lle tybir bod i'r datblygiad oblygiadau cludiant sylweddol ar ardal ehangach yn unol ag Egwyddorion Datblygu. Os yw'n debygol y bydda gan ddatblygiad arfaethedig 'oblygiadau cludiant sylweddol, bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwyr gyflwyno'r wybodaeth ganlynol gyda cheisiadau cynllunio:
  1. Asesiad Cludiant;
  2. Cynllun Teithio.
  1. Mae'n bosibl y bydd gofyn cyflwyno Datganiad Cludiant ar gyfer ceisiadau datblygu eraill
  2. Dylai Cynllun Teithio ddangos sut y bydd y datblygiad yn bodlonni gofynion STR/3, Pwynt 1 uchod.
4.250.

Mae sicrhau cyswllt addas rhwng ceisiadau datblygu â'r briffordd sy'n ddiogel i gerddwyr, seiclwyr, gyrwyr a theithwyr mewn cerbydau ac unrhyw ddefnydd arall o'r ffordd yn brif ystyriaeth gynllunio. Mae'r angen sicrhau na amherir ar ddiogelwch ffyrdd drwy ganiatáu ceisiadau a fyddai'n creu lefelau traffig y tu hwnt i gapasiti'r rhwydwaith ffordd o'u hamgylch.

4.251.

Mae'n ofynnol i bob datblygiad newydd fynd i'r afael â goblygiadau cludiant y datblygiad hwnnw ac i gynlluniau mwy lunio asesiadau cludiant i ddangos sut y gellir darparu ar gyfer nifer y teithiau sy'n cael eu creu a'r modd y sicrheir hygyrchedd i'r safle drwy'r holl ddulliau teithio. Gallai hefyd fod yn ofynnol iddynt lunio Archwiliad o Ddiogelwch Ffyrdd.

4.252.

Mae'n bwysig bod pob datblygiad yn lliniaru'i effaith ar o ran cludiant. Bydd yn ofynnol i geisiadau 'datblygu graddfa fawr' neu geisiadau datblygu a chanddynt 'oblygiadau cludiant sylweddol', fel y nodir yn NCT18, lunio Asesiad Cludiant a Chynllun Teithio (fel y nodir ym Mholisi STR/3). Dylid cyflwyno Datganiad Cludiant ochr yn ochr â phob cais datblygu arall er mwyn galluogi'r ymgeisydd i ddangos i'r Cyngor ei fod wedi rhoi ystyriaeth briodol i effaith y cais ar gludiant ac wedi ystyried sut i'w lliniaru. Bydd manylder y Datganiad Cludiant yn amrywio'n unol â graddfa a chymhlethdod y cais yn unol â chanllawiau cenedlaethol a pholisi DP/6.

POLISI STR/4 - TEITHIO HEB FODUR View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn cefnogi cynnydd yn y defnydd o ddulliau teithio heb fodur, gan gynnwys seiclo a cherdded, drwy sicrhau bod datblygiadau sy'n creu'r angen i deithio wedi'u lleoli a'u dylunio i hwyluso teithiau byr rhwng y cartref, y gwaith, ysgolion a cholegau, cyrchfannau eraill addas a hamdden. Yn ogystal â lleiafu'r pellter rhwng mannau cychwyn a chyrchfannau, dylai ceisiadau datblygu sicrhau:
  1. Bod digon o fannau i barcio beiciau'n ddiogel yn unol â'r safonau ym Mholisi STR/2;
  2. Bod dyluniadau a chynlluniau manwl yn annog pobl i ddefnyddio beiciau a cherdded,
4.253.

Mae'r hierarchaeth uchod yn nodi'r flaenoriaeth i ddarparu isadeiledd ar gyfer dulliau heb fodur o deithio drwy'r broses gynllunio, er enghraifft drwy gyfraniadau Adran 106. Er eu bod wedi'u rhestru yn ôl blaenoriaeth, ni ddylid hyrwyddo unrhyw flaenoriaeth unigol ac anwybyddu'r gweddill. Y flaenoriaeth gyntaf yw cysylltu â chanolfannau atyniadol mwy, yn gyfagos â'r sir ac oddi mewn iddi, gan gynnwys Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol a'r Prif Bentrefi. Mae gan y canolfannau hyn ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys ysgolion ac ardaloedd cyflogaeth. Mae hyn yn cynnig gwell gwerth am arian o ran ystod y boblogaeth a allai ddefnyddio'r llwybrau. Yn ogystal â hyn, mae Llwybrau Diogelach i'r Ysgol, gan gyfrannu tuag at y nod cyffredinol o wella isadeiledd, eisoes yn cael ei ddarparu o ffynhonnell ariannu ar wahân. Mae'r llwybrau hamdden hefyd yn adnodd pwysig, yn enwedig i wella mynediad i'r ardal o gefn gwlad gyfagos yn rhan o arfer byw iachus.

4.254.

Mae drafft y Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn cynnwys strategaethau ar wahân ar gerdded a seiclo ac yn cydnabod eu pwysigrwydd a'r angen i sicrhau gwelliannau i gapasiti, ansawdd a diogelwch y rhwydwaith. Ar yr un pryd, mae angen diogelu hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli eisoes. Mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol, drwy ei Awdurdod Priffyrdd lleol, yn gyfrifol am ddiweddaru mapiau hawliau tramwy cyhoeddus swyddogol ac am greu cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy. Mae llwybrau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig (llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd) yn adnodd pwysig i gerddwyr ac, mewn achosion priodol, i seiclwyr a marchogion.

POLISI STR/5 - SYSTEM CLUDIANT CYNALIADWY INTEGREDIG View Map of this site ?

  1. Mae tir wedi'i ddiogelu yn y lleoliadau canlynol er mwyn gwella'r system gludiant a gwella mynediad cynaliadwy i gymunedau fel y dangosir ar fap y cynigion.
  1. Gorsaf Reilffordd Llandudno - Darparu cyfleuster rhyngnewid cludiant cynaliadwy o ansawdd uchel yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno;
  2. Cyffordd Llandudno - Gwella integreiddio a mynediad i'r ardaloedd adwerthu, hamdden, adloniant a busnes Cyffordd Llandudno drwy greu pont droed newydd o Orsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno.
  3. I'r dwyrain o Abergele - Ffordd osgoi i leihau traffig, galluogi'r ddarpariaeth o dai angenrheidiol, gwella hygyrchedd a lleihau'r pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos, yn unol â DP/4 ‘Isadeiledd a Datblygu’.
  4. Harbwr y Foryd - Darparu Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5 a phont gyswllt newydd i gerddwyr/seiclwyr yn Harbwr y Foryd ym Mae Cinmel
  5. Bae Cinmel – Ei gwneud hi'n bosibl i greu ffordd gyswllt rhwng Parc Hanes ac Ogwen Avenue i wella mynediad cyffredinol yn yr ardal
  6. Hen Reilffordd Dyffryn Clwyd ym Mae Cinmel - Diogelu fel llwybr i hyrwyddo mynediad gwell i'r gymuned
  7. Rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a Chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy – i wella mynediad cymunedau lleol ac ymwelwyr i'r arfordir ac i gefn gwlad
4.255.

Mae argaeledd a'r defnydd o gludiant cyhoeddus yn elfen bwysig iawn wrth bennu polisïau cynllunio wedi'u dylunio i leihau'r angen i deithio mewn car. I'r perwyl hwn, mae'r polisi cenedlaethol yn gofyn bod awdurdodau cynllunio lleol yn archwilio'r posibilrwydd, ac yn dynodi unrhyw geisiadau, i wella cludiant cyhoeddus drwy ddefnyddio rheilffyrdd, yn enwedig drwy ailagor llinellau rheilffordd. Gallai llwybrau o'r fath hefyd gael eu defnyddio fel llwybrau cerdded a seiclo dros dro cyn cyflwyno gwasanaethau rheilffordd.

POLISI STR/6 - CLUDO NWYDDAU AR DRENAU View Map of this site ?

Mae'r Cyngor yn cefnogi cludo nwyddau ar drenau ac mae'r cyfleusterau cludo nwyddau ar drenau yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr wedi'u diogelu i'r diben hwn

4.256.

Am flynyddoedd lawer, bu gostyngiad yn y nwyddau sy'n cael eu cludo ar drenau, yn bennaf o ganlyniad i'r gystadleuaeth gan gludiant ar y ffordd. Fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd diweddar, cafwyd adfywiad yn y defnydd o drenau i gludo nwyddau ar raddfa genedlaethol, ond nid yw hyn wedi cael ei adlewyrchu'n lleol. Mae nifer o'r hen gyfleusterau cludo nwyddau ar drenau fu'n bodoli gynt yn Ardal y Cynllun naill ai wedi dod i ben neu wedi cael eu hailddatblygu ac eithrio'r cyfleusterau sydd ar ôl yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys (i) seidins ar hyd Gorsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno, (ii) y derfynell trenau nwyddau cyfagos a (iii) y cyfleuster llwytho balastau ym Mhenmaenmawr. Nid yw'r derfynell trenau nwyddau na'r cyfleuster balastau'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac mae gan ran o'r derfynell trenau nwyddau ganiatâd cynllunio dros dro fel storfa.

4.257.

Mae'r cyngor yn cefnogi trosglwyddo nwyddau o'r ffordd i'r rheilffordd ac yn ystyried bod posibilrwydd i symud nwyddau ar drenau. Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y Cynllun Cludiant Rhanbarthol ar hyn o bryd ac mae Grŵp Cludiant Gogledd Cymru (TAITH) yn cynnal astudiaeth strategol o'r posibilrwydd o gludo nwyddau ar drenau. Ceir hefyd gynnig i ddefnyddio trenau i gludo gwastraff. Prin iawn yw'r cyfleoedd i greu cyfleusterau trenau nwyddau eraill yn Ardal y Cynllun. Gan hyn, mae'r Cyngor yn dymuno diogelu'r cyfleusterau presennol hyd nes bo canlyniad pob un o'r gweithrediadau hyn yn hysbys. Bryd hynny, bydd y Cyngor yn adolygu ei sefyllfa.

STRATEGAETH MWYNAU A GWASTRAFF

Amcanion Gofodol –

SO14. Hyrwyddo a defnyddio adnoddau yn ddoeth trwy leihau gwastraff a chynorthwyo i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n cyd-fynd ag anghenion yr ardal a’r hierarchaeth wastraff.

SO15. Cyfrannu at anghenion rhanbarthol a lleol mewn modd cynaliadwy.

4.258.

Datganiad Strategol MWYNAU a Gwastraff

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod angen ymagwedd strategol i sicrhau cyflenwad agregau yn y tymor hir. Defnyddiwyd y Datganiad Technegol Rhanbarthol (RTS), (a gyhoeddwyd yn 2008) fel canllaw ar gyfer y CDLl ar faterion fel hyn, ac mae’r ddogfen hon o’r farn nad oes angen dynodi unrhyw dir ar gyfer craig galed yng Nghonwy ar hyn o bryd, oni bai fod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau hynny. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes unrhyw amgylchiadau a fyddai’n cyfiawnhau dynodiad yn Ardal y Cynllun. Yn ogystal â chwareli craig galed sylweddol, bydd adnoddau graean a thywod sylweddol yn cael eu diogelu hefyd.

4.259.

Cynigir lleiniau diogelu o amgylch chwareli i ddiogelu ffurfiau eraill o ddatblygiad a fyddai’n sensitif i effeithiau amgylcheddol gwaith mwynau.

4.260.

Yn unol â Strategaeth Gwastraff Cenedlaethol a Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRWP), bydd y Cyngor yn hyrwyddo lleihau’r defnydd o ddeunyddiau, eu hailddefnyddio, a’i hailgylchu i leihau’r defnyddio tirlenwi ar gyfer gwastraff.

4.261.

Mae sawl peth yn cymell newid o ran sut rydym yn rheoli ein gwastraff yn well. Mae cyfarwyddebau Ewropeaidd a chanllawiau cenedlaethol, yn ogystal â gweithio ar lefel rhanbarthol, yn creu newid sylweddol mewn rheoli gwastraff. Mae’r cynnydd mewn technoleg hefyd, ynghyd â chyflwyno polisïau ac arferion, yn golygu nad yw llawer o gyfleusterau rheoli gwastraff yn edrych ddim gwahanol ar y tu allan i unrhyw adeilad diwydiannol arall, ac maent yn ymwneud â’r prosesau diwydiannol neu weithgaredd cynhyrchu ynni nad ydynt yn wahanol i lawer o brosesau diwydiannol eraill o ran eu heffaith neu’r ffordd maent yn cael eu gweithredu.

4.262.

Swyddogaeth yr awdurdod cynllunio lleol yw sicrhau fod digon o dir ar gael mewn lleoliadau addas ar gyfer cyfleusterau rhanbarthol (lle bo angen hynny) a chyfleusterau lleol. Dylai chyfleusterau gwastraff, fel y nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru, ddilyn egwyddor agosatrwydd (h.y. dylai lleoliad y cyfleuster fod mor agos a bo modd i ffynhonnell y gwastraff). Bydd canlyniad Prosiect Trin Gwastraff Gogledd Cymru hefyd yn chwarae rhan mewn penderfynu ar leoliad a’r math o dechnoleg a ddefnyddir ar lefel rhanbarthol.

POLISI MWS/1 - POLISI STRATEGOL AR FWYNAU A GWASTRAFF View Map of this site ?

  1. Diogelu’r tirlun a’r amgylchedd drwy beidio â chaniatáu chwareli craig galed newydd neu estyn y chwareli presennol
  2. Diogelu cyflenwadau o graig galed ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llan San Siôr
  3. Diogelu ffurfiau eraill o ddatblygu trwy ddynodi ardal ddiogelu o amgylch chwareli presennol
  4. Diogelu adnoddau graean a thywod yn Nhal y Cafn
  5. Nodi Llanddulas a Gofer (a ddangosir ar y Prif Ddiagram) fel lleoliadau ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn unol â Pholisi MWS/7
  6. Ystyried addasrwydd tir amaethyddol presennol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd, sy’n cyd-fynd â defnydd cyfagos, yn unol â Pholisi MSW/6.
  7. Diogelu cyfleusterau rheoli gwastraff cyhoeddus a phreifat presennol, oni bai fod rhesymau eithriadol ar gyfer cyflogaeth amgylcheddol neu amwynderau a fyddai’n cyfiawnhau eu colli yn unol â Pholisi MWS/6 ac EMP/4;
  8. Cwrdd â’r angen ychwanegol yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn unol â Pholisi MWS/6
  9. Sicrhau bod datblygiad yn ymdrin â’r posibiliadau ar gyfer lleihau gwastraff trwy annog ailddefnyddio gwastraff dymchwel adeiladau neu wastraff adeiladu, lle bo hynny’n briodol, yn unol â Pholisi DP/3 a MWS/10.

POLISI MWS/2 - MWYNAU View Map of this site ?

Bydd y chwareli presennol ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llan San Siôr yn darparu cyfraniad y Sir i gyflenwad craig galed ranbarthol. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer:

  • Chwareli craig galed newydd,
  • Estyniadau i’r chwareli presennol,
  • Ceisiadau i weithio chwareli nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio dilys ar hyn o bryd.

 

4.263.

Darperir Polisi Cenedlaethol gan Bolisi Cynllunio Mwynau Cymru (MPPW) a Nodyn Cynghori Technegol 1 Mwynau: Agregau (MTAN1). Cyhoeddwyd Datganiad Technegol Rhanbarthol Drafft yn 2008 fel canllaw ar gyfer CDLl ynglŷn â chyflenwi agregau yn y tymor hir.

4.264.

Mae tri chwarel gweithredol yng Nghonwy, ac mae bob un ohonynt yn cynhyrchu deunyddiau adeiladu (o’r enw agregau). Mae Chwarel Penmaenmawr yn cynhyrchu craig igneaidd, sydd hynod o addas fel balast rheilffyrdd ac ar gyfer deunyddiau eraill. Mae Chwareli Raynes ger Llysfaen a Llan San Siôr ger Abergele yn cynhyrchu calchfaen, sy’n cael ei ddefnyddio, er enghraifft, wrth wneud concrit. Mae Chwareli Raynes a Llan San Siôr wedi eu cyfyngu o ran maint eu hestyniadau ffisegol, ond mae gan y tair chwarel ganiatâd cynllunio sy’n estyn heibio cyfnod y cynllun.

4.265.

Mae’r datganiad technegol rhanbarthol o’r farn nad oes angen dynodi tir ar gyfer craig galed yng Nghonwy ar hyn o bryd, oni bai fod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau hynny. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes amgylchiadau a fyddai’n cyfiawnhau dyrannu tir yn Ardal y Cynllun.

4.266.

Mae’r MPPW yn cefnogi datblygu tyllau benthyg, a fyddai’n gwasanaethu prosiectau adeiladu penodol mewn lleoliadau priodol. Mae hefyd yn cydnabod yr angen am chwareli ar raddfa fechan i ddarparu cerrig lleol, lle byddai’r rhain yn cadw cymeriad yr amgylchedd adeiledig lleol. Mae tyllau benthyg a chwareli cerrig ar raddfa fechan felly tu allan i bwrpas Polisi MWS/2.

POLISI MWS/3 - DIOGELU CREIGIAU CALED WRTH GEFN View Map of this site ?

Mae’r creigiau caled wrth gefn a ganiateir, a’r prosesu cysylltiedig â chyfleusterau cludiant ym Mhenmaenmawr, Raynes a Llan San Siôr wedi eu diogelu oddi wrth ddulliau eraill o ddatblygu. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad a fyddai’n atal gweithio’r chwareli ar hyn o bryd nac yn y dyfodol ar gyfer gwaith mwynau, prosesu neu gludiant.

4.267.

Mae’r Ddatganiad Technegol Rhanbarthol yn argymell polisi diogelu penodol ar gyfer Conwy. Mae’r polisi hwn yn gweithredu’r argymhelliad hwnnw ac yn diogelu’r adnoddau mwynau a nodwyd ar gyfleusterau cludiant a phrosesu cysylltiedig (fel man llwytho’r rheilffordd ym Mhenmaenmawr a’r lanfa yn Raynes) i sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael.

POLISI MWS/4 - LLAIN DDIOGELWCH CHWARELI View Map of this site ?

Bydd tir a ddynodwyd fel llain ddiogelu ar Fap y Cynigion yn cael ei ddiogelu rhag datblygiad anaddas, er mwyn cynnal digon o bellter rhwng y chwareli a defnydd arall y tir.

4.268.

Mae dau bwrpas i lain ddiogelu. Un yw diogelu amwynder trigolion a defnyddwyr tir sensitif eraill; a’r llall yw sicrhau fod gweithredwyr mwynau’n gallu gweithio’n arferol heb gyfyngu arnynt gan bresenoldeb defnyddwyr tir sensitif. Yn y polisi hwn, mae ‘datblygu anaddas’ yn cynnwys gweithio mwynau (o fewn y llain ddiogelu) a defnydd tir y gellir effeithio arnynt gan hyn (fel tai). Mae MTAN1 yn argymell y dylai’r lleiniau diogelu fel arfer fod o leiaf yn 200m o amgylch pob ardal weithredol. Yng Nghonwy, nid yw bob amser yn bosibl cyflawni’r pellter hwn, oherwydd agosatrwydd terfynau aneddiadau presennol. Dangosir hyd a lled y lleiniau diogelu ar Fap y Cynigion.

POLISI MWS/5 - DIOGELU TYWOD A GRAEAN View Map of this site ?

Mae’r ardal o adnoddau tywod a graean i’r de orllewin o Dal y Cafn fel y dangosir ar y Map Cynigion hwn, wedi ei ddiogelu o ddulliau eraill o ddatblygu. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar unrhyw ddatblygiad o fewn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean, oni bai fod yr ymgeisydd yn gallu dangos na fyddai datblygiad yn andwyo yn uniongyrchol neu anuniongyrchol hyfywedd tymor hir gweithio’r adnoddau hynny.

4.269.

Nid yw tywod na graean yn cael ei gloddio yn Ardal y Cynllun ar hyn o bryd. Ond, dangosodd astudiaeth mapio geomorffolegol gan Brifysgol Lerpwl fod adnoddau yn Nyffryn Conwy, y rhan fwyaf ohonynt wedi dangos ar Map y Cynigion fel Ardal Diogelu Tywod a Graean. Pwysleisiwyd bod y polisi hwn dim ond yn diogelu’r asedau hynny yn y tymor hir ac nid yw’n sefydlu rhagdybiaeth o roi plaid tuag at ganiatâd cynllunio. Mae cyfyngiadau amgylcheddol sensitif yn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean, a byddai unrhyw gloddio yn yr ardal honno angen asesiadau sensitif iawn a rheolaethau. Oherwydd nad yw mapio geomorffolegol yn wyddoniaeth fanwl gywir, nid yw Map y Cynigion yn nodi Llain ddiogelwch ar wahân o amgylch yr Ardal Diogelu Tywod a Graean.

4.270.

Ond mae’r egwyddor o fynnu cael pellter gwahanu digonol rhwng gwaith tywod a graean, ac unrhyw ddatblygiad arall yn parhau’n berthnasol. Yn achos gweithio tywod a graean, bydd hwn yn llain ddiogelwch 100 metr. Byddai’n rhaid i unrhyw geisiadau cynllunio yn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean, felly ystyried effaith uniongyrchol sterileiddio adnoddau tywod a graean o dan safle’r cais, ac effaith anuniongyrchol ar y posibiliadau o weithio tywod a graean gerllaw.

4.271.

Ni fwriadwyd y polisi hwn i fod yn waharddiad llwyr ar ddatblygu yn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean. Efallai byddai cynnig am ddefnyddio tir dros dro yn ddefnyddiol, petaent yn ateb meini prawf cynllunio eraill. Byddai angen i geisiadau i adeiladu adeiladau newydd gynnwys tystiolaeth fel samplau, i ddangos na effeithir ar adnoddau tywod a graean posibl.

4.272.

Mae MTAN1 hefyd yn cynnwys canllawiau ac yn mynd i’r afael ag effeithiau penodol fel sŵn, llwch a chwythu, ac adfer ar ddefnyddio deunyddiau eilaidd fel gwastraff adeiladu a deunyddiau ac adeiladau wedi’u dymchwel.

POLISI MWS/6 - CYNIGION AR GYFER RHEOLI GWASTRAFF View Map of this site ?

  1. Caniateir cynigion ar gyfer ddatblygu rheoli gwastraff, gan gynnwys newid ac estyn cyfleusterau presennol, dim ond lle :
  1. Bod y cais yn ateb angen a nodwyd yng Nghynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru, neu fod angen ar lefel lleol.
  2. Ni ellir ateb yr angen drwy gyfleusterau rheoli gwastraff presennol neu gyfleusterau a gymeradwywyd.
  3. Lle bo’n bosibl, fod y cais yn adennill gwerth o’r gwastraff.
  4. Fod y cais yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu.

POLISI MWS/7 - LLEOLIADAU AR GYFER CYFLEUSTERAU RHEOLI GWASTRAFF View Map of this site ?

  1. Mae’r Cynllun yn nodi’r safleoedd a ganlyn ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff, fel y dangosir ar Map y Cynigion:
  1. Chwarel Llanddulas
  2. Gofer, Ffordd Rhuddlan, Abergele.
  1. Yn amodol ar asesiad manwl, efallai bod y gwaith a ganlyn addas yn y lleoliadau hyn:
  1. Ailgylchu Deunyddiau
  2. Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff
  3. Prosesu Deunyddiau i’w Hailgylchu
  4. Treulio Anaerobig
  5. Compostio’n Fewnol
  6. Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
  7. Triniaeth Biolegol Mecanyddol
  8. Adennill Ynni
Ond, nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr ac ystyrir ceisiadau eraill ar gyfer rheoli gwastraff ar ei haeddiannau yn unol â’r meini prawf yn bolisi MWS/6.
4.273.

Mae Adolygiad Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru (2008) yn argymell y dylid nodi 21.75 hectar o dir yng Nghonwy ar gyfer darparu cyfleusterau rheoli gwastraff (gan gynnwys cyfleusterau lleol a chyfleusterau sy’n gallu gwasanaethu mwy nag un awdurdod yn rhanbarth Gogledd Cymru). Er bod cyfanswm ardal y dyraniadau tua 30 hectar, oherwydd rhesymau yn ymwneud â’r tir, risg llifogydd a’r ffaith fod un o’r safleoedd mewn chwarel, mae hyn yn debygol na fydd y tir i gyd yn addas i’w ddatblygu. Bydd y defnydd tir yn cael ei fonitro yn unol â pholisi MWS/6 o ran ateb y galw am gyfleusterau fel hyn.

4.274.

Mae chwarel Llanddulas yn ganolog i ardal Conwy a Rhanbarth Gogledd Cymru. Mae’r safle tirlenwi presennol yn un o’r cyfleusterau rheoli gwastraff fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mewn lleoliad strategol, ger yr A547 a mynediad da i brif gefnffordd (yr A55). Mae’r brif chwarel eisoes yn cael budd o ganiatâd cynllunio ar gyfer tirlenwi a chompostio.

4.275.

Mae perchnogion preifat y gwaith rheoli gwastraff presennol yn Llanddulas wedi awgrymu nifer o gyfleusterau rheoli gwastraff posibl yn y dyfodol yn y lleoliad hwn, gan gynnwys cyfleuster rheoli gwastraff integredig a fyddai’n gallu cynnwys amrywiaeth o ddulliau technolegol a thrin gwastraff fel compostio, ailgylchu deunyddiau neu drosglwyddo gwastraff.

4.276.

Mae Gofer ar safle tirlenwi blaenorol ond ar hyn o bryd mae’n cynnwys gorsaf swmpio, gorsaf drosglwyddo a chyfleuster gwastraff y cartref. Mae’r ardal ger yr A547, gyda mynediad da i’r A55. Mae mapiau llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi mai risg fechan o lifogydd sydd ar ran ogleddol y safle. Mae Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor wedi canfod fod llain gul o dir yng ngogledd safle 3 yn agored i lifogydd, tua’r de i’r Afon Gele, ond nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i leoli cyfleusterau rheoli gwastraff ar weddill y safle.

4.277.

Mae adolygiad cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn nodi ardaloedd chwilio a ystyrir yn addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn y dyfodol. Ond nodir yn bendant yn adolygiad cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Cymru nad yw’r ardaloedd ar y mapiau i’w defnyddio naill ai ar gyfer rheoli datblygu neu fel canllawiau diffiniol er mwyn dewis safle i’w gynnwys yn y CDLl. Mae’r rhesymau llawn dros ddewis Llanddulas a Gofer fel lleoliadau gwastraff strategol ar gyfer rheoli gwastraff i’w cael yn y Papur Cefndir ar Ddarparu Safleoedd.

4.278.

Ni ddylid ystyried y rhestr o gyfleusterau rheoli gwastraff ym mholisi MWS/7 fel rhestr ddiffiniol. Bydd ceisiadau ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn amodol ar asesiad manwl i benderfynu a ydynt yn addas, fel y nodwyd ym Mholisi MWS/6. Efallai bydd angen Trwyddedau Amgylcheddol ar adnoddau fel hyn gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Dylid nodi nad yw’r Cyngor yn bwriadu tirlenwi gwastraff nad yw’n anweithredol yn y lleoedd hyn.

POLISI MWS/8 - DEFNYDDIO TIR DIWYDIANNOL AR GYFER CYFLEUSTERAU RHEOLI GWASTRAFF View Map of this site ?

Caniateir cynigion ar gyfer cyfleusterau o reoli gwastraff ar safleoedd diwydiannol presennol, lle bo'r datblygiad bwriedig yn cwrdd â gofynion Polisi MWS/6.

4.279.

Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn argymell y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol asesu tir diwydiannol sydd ar gael ar gyfer gwaith rheoli gwastraff addas. Dangosodd asesiad diweddar o dir cyflogaeth, bod gan Tir Llwyd le ar gyfer gwaith diwydiannol pellach. Ni ddynodwyd un ardal benodol er mwyn sicrhau hyblygrwydd a chyd-fynd â deunyddiau presennol a dyfodol ar y safle, ond ystyrir cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn y safle hwn yn ôl ei haeddiannau unigol.

POLISI MWS/9 - DIOGELU CYFLEUSTERAU GWASTRAFF PRESENNOL View Map of this site ?

  1. Mae tir a nodwyd ar Fap y Cynigion yn:
  1. Bron y Nant Road, Mochdre
  2. Chwarel Llanddulas
  3. Gofer, Abergele
  4. Plas yn Dre, Llanrwst,
Wedi eu diogelu ar gyfer rheoli gwastraff oni bai fod safleoedd addas eraill wedi eu darparu, yn unol â Polisi MWS/6.
4.280.

Bydd y Cynllun yn diogelu tir yng nghyn chwarel Llanddulas ar gyfer gwaith compostio a thirlenwi presennol, ac fel estyniad ar gyfer tirlenwi gwastraff anadweithiol pan fo angen yn ystod cyfnod y cynllun. Bydd y safleoedd eraill a nodwyd uchod yn cael eu diogelu fel safleoedd ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff.

4.281.

Disgwylir y bydd y lle a ganiateir ar gyfer tirlenwi yn chwarel Llanddulas yn llawn erbyn 2015. Hyd yn oed gyda dulliau trin gwastraff eraill, bydd angen lle ar gyfer tirlenwi ychwanegol yn ystod cyfnod y cynllun i gael gwared â gwastraff gweddillol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwrthwynebu’n chwyrn anfon unrhyw wastraff i’w dirlenwi (heblaw gwastraff anadweithiol) yn Llanddulas. Mae felly’n ddoeth chwilio am dir addas ar gyfer tirlenwi gwastraff gweddillol, petai angen hynny. Comisiynodd y Cyngor ymgynghorwyr i chwilio am safleoedd fel hyn, a fyddai’n addas ar gyfer tirlenwi neu godi lefel y tir. Casgliad yr astudiaeth yw na ddylai’r Cyngor ddynodi ardaloedd a nodwyd yn yr astudiaeth oherwydd bod angen gwaith pellach i benderfynu a fyddai’r safleoedd hyn yn ddichonadwy, a bod modd eu cyflawni. Felly bydd angen rhagor o waith ymchwil cyn adolygiad cyntaf y CDLl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr ymateb hwn ar Bapur Cefndir 26 – crynodeb o Astudiaeth Ymarferoldeb Tirlenwi Conwy.

POLISI MWS/10 - WASTRAFF ADEILADU NEU DDYMCHWEL ADEILADAU View Map of this site ?

Lle bo cais ar gyfer datblygiad yn cynnwys dymchwel adeilad neu adeiladau presennol neu dyllu a chael gwared ar ddefnydd yn ychwanegol, bydd y Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr gyflwyno'r datganiad dull i nodi sut fyddent yn ailddefnyddio deunyddiau i’r eithaf .

4.282.

Mae lleihau neu ailddefnyddio gwastraff o ddatblygu safleoedd, (gan gynnwys gwastraff dymchwel adeiladau) yn lleihau’r gwastraff y mae’n rhaid ei reoli a chael gwared ohono yn y pen draw. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu tuag at leihau nwyon tŷ gwydr a faint o ddeunyddiau adeiladu newydd neu sy’n cael eu cloddio, eu tynnu, eu prosesu a’u cludo. Mae hyn yn gryn arbediad ariannol i ddatblygwyr, oherwydd eu bod yn osgoi taliadau tirlenwi a’i fod yn atal gorfod talu treth agregau ar gyfer defnyddiau craig. Defnyddir amodau cynllunio fel modd i wella rheoli gwastraff y broses datblygu yn unol ag Egwyddorion Datblygu.

Related Map Links

Some sections of this text contain a 'globe with link' icon. Clicking on this icon will take you to the map that is relevant to this text.

Sometimes, there is no spatial component or map feature that is specific to the text. In this case the link will take you to the overview map of the relevant map.

If there is a specific area relevant to the text it will be shown as a red highlighted overlay on the map at a suitable viewing scale.

« Back to contents page | Back to top