1. CYFLWYNIAD

1.1.

Mae blaen siopau’n hanfodol wrth sefydlu cymeriad ac ymddangosiad strydoedd siopa.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi cryn bwyslais ar ba mor addas yw dyluniad blaen siopau, nid yn unig i ddiogelu cymeriad yr adeiladau, ond hefyd i gynnal strydoedd sy’n ddeniadol ar y cyfan a chynnal ei Chynaladwyedd masnachol.  Gall datblygiadau amhriodol gael effaith niweidiol Ddifrifol nid yn unig ar yr adeilad, ond hefyd ar y strydwedd, a photensial masnachu’r stryd.

1.2.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r angen am ddiogelwch blaen siop wedi dod yn gynyddol bwysig.  I ddelio a’r bygythiad cynyddol o ddwyn a fandaliaeth, mae nifer o fesurau wedi eu cyflwyno i flaen siopau presennol a rhai newydd.  Yn anffodus, mae’r defnydd o rai mesurau diogelwch, yn benodol, caeadau rholio cadarn, yn cael effaith niweidiol ddifrifol ar ymddangosiad adeiladau a chymeriad rhai strydoedd yn nhrefi a phentrefi Conwy.

1.3.

Gan fod blaen stryd deniadol yn dod a manteision o ran masnach a’r economi leol, mae’n hanfodol fod perchnogion eiddo’n defnyddio mesurau diogelwch priodol sy’n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y strydwedd. Mae’r canllaw hwn yn amlinellu'r mathau o ddiogelwch blaen siop fydd yn dderbyniol i’r Cyngor a’r rhai na fydd yn dderbyniol.

« Back to contents page | Back to top