4. GWYDR
- Gwydr fflôt yw'r un mwyaf sylfaenol a’r rhataf ond nid yw’n cynnig fawr o ddiogelwch, yn dibynnu ar ei drwch.
- Gwydr wedi’i lamineiddio, a gynhyrchir drwy gyfuno dwy haen neu fwy o wydr fflôt, gydag un haen neu fwy o bolyfinyl bwtryal (PVB), a dyma’r gwydr mwyaf derbyniol yn weledol ac nid yw’n hawdd ei dorri.
- Mae gwydr wedi’i atgyfnerthu wedi’i drin gan wres a gall fod hyd at 5 gwaith cryfach na gwydr arferol – ond nid yw’n bosibl ei dorri na’i ddrilio ar y safle. Dyma’r math mwyaf effeithiol a chostus o wydr ar gyfer diogelu ffenestri blaen siopau.
Defnyddio gwydr wedi’i lamineiddio neu ei gryfhau yw’r ateb cyntaf i’w ystyried, yn enwedig ar flaen siopau hanesyddol, sy’n dal i gynnwys y gwydr gwreiddiol, a allai dorri’n gymharol hawdd, heb fawr o ergyd. Nid oes angen gosodiadau ychwanegol ac nid oes angen caniatâd cynllunio i osod gwydr wedi’i atgyfnerthu.
Mae ffilm atal chwalu’n gadarn, tryloyw, ac yn gymharol hawdd i’w osod ar wydr presennol ac yn rhatach na gosod ffenestri newydd gyda gwydr wedi’i lamineiddio neu ei atgyfnerthu. Ei brif fantais yw dal darnau o wydr gyda'i gilydd pan mae ffenestr wedi ei thorri. Mae hefyd yn ei wneud yn gryfach, a gallai helpu rhwystro ymosodiadau torri a dwyn. Fodd bynnag, nid yw ffilm atal chwalu mor effeithiol â gwydr wedi’i lamineiddio.
Mae’n bosibl y bydd blaen siopau gyda nwyddau risg uchel, er enghraifft, gemwaith ac eitemau trydanol, angen gwydr wedi’i lamineiddio o drwch mwy neu wydr lamineiddio wedi’i atgyfnerthu. Mantais arall gwydr o’r fath yw ei fod yn amsugno golau uwch fioled, all niweidio nwyddau sy’n cael eu harddangos.