5. RHWYLLAU A CHAEADAU

5.1.

Dylid ystyried diogelwch wrth ddylunio blaen siop neu ei adnewyddu er mwyn i fesurau diogelwch gyd-fynd yn llwyddiannus gyda’r dyluniad.  Wrth ystyried unrhyw ateb o’r fath, yn enwedig rhwyllau  a chaeadau, mae’n bwysig i ystyried eu heffaith ar ymddangosiad blaen y siop, yr adeilad cyfan, a'r strydwedd cyffredinol.  Dylai'r mesur diogelwch a ddewisir, gael cyn lleied o effaith niweidiol â phosibl gan gyflawni’r lefel angenrheidiol o ddiogelwch.  Mae rhwyllau mewnol ac allanol, yn caniatáu pobl i weld tu mewn i’r siop a chadw gwyliadwraeth oddefol ar yr eiddo o’r stryd.  Gall gadael goleuadau ymlaen yn y siop fod yn rhwystr diogelwch pellach. Os oes angen caeadau yna, os yw hynny’n bosibl, dylent fod yn rhai mewnol yn hytrach nag allanol. 

5.2.

Rhwyllau latis a ‘Brick-Bond’ mewnol

Os oes angen rhwystr corfforol o fewn blaen siop, y dewis mwyaf priodol yw rhwyllau latis neu ‘brick-bond’.  Ychydig o effaith mae rhwyllau mewnol yn eu cael ar ymddangosiad blaen y siop ac fel arfer nid oes angen Caniatâd Cynllunio. Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod rhwyllau neu gaeadau mewnol, ac ni fyddant yn dderbyniol os yw’r addasiadau’n cael effaith niweidiol ar gymeriad yr adeilad.

5.3.

Bydd maint y ffenestr yn dylanwadu ar faint a lleoliad y rhwyllau. Bydd modd eu symud yn ystod oriau agor i focsys, sydd fel arfer y tu ôl i fondo’r ffenestr.

5.4.

Y dull mae’r Cyngor yn ei ffafrio yw darparu'r diogelwch sydd ei angen drwy ddefnyddio rhwyllau mewnol.  Gall rhwyllau mewnol ganiatáu pobl i weld tu mewn i'r siop o’r tu allan ac ni fydd angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer.  Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig.

5.5.

Rhwyllau Allanol Latis, ‘Brick-Bond’ a dolenni cadwyn Agored

Mae’r rhwyllau hyn yn rhoi rheolaeth weledol dros flaen siop tu ôl y caeadau / rhwyllau.  Er bod angen caniatâd cynllunio i osod rhwyllau latis neu ‘brick bond’ allanol, mewn egwyddor, maent yn debygol o gydymffurfio â pholisi’r Cyngor.  Gallant helpu ddiogelu ffenestri crwm ar flaen siopau traddodiadol.  Fodd bynnag, bydd angen bod yn ofalus i sicrhau bod eu manylion yn dderbyniol, yn benodol trwch y rhwyllau.  Byddai’n ddefnyddiol cyfuno golau lefel isel priodol gyda’r dull hwn.

 

5.6.

Caeadau Allanol

Gall caeadau rholio allanol gael effaith sylweddol ar ymddangosiad yr adeilad a’r strydwedd gan ddibynnu ar :
  • y math  – mae effaith caeadau cadarn yn llawer mwy na rhwyllau, a gallant ddenu graffiti.
  • y lliw a’r deunydd -  dur galfanedig a lliwiau llachar sy’n cael yr effaith mwyaf niweidiol.
  • Y gofod ar gyfer cadw'r rhwyllau mewn bocs ar flaen y siop.
  • Y canllawiau metel bob ochr i flaen y siop sy’n cynnal y caeadau rholio i gynnig diogelwch.
5.7.

Caeadau Rholio Cadarn

Ar ôl eu cau, mae caeadau cadarn yn niweidio ymddangosiad gweledol adeiladau unigol.  Mae caeadau rholio cadarn, y fersiwn rhataf fel arfer yw dur galfanedig, yn gwneud blaen y siop yn hollol blaen a dinodwedd, yn creu ‘wyneb gwag’ ar y strydwedd ac yn gwneud i’r ardal edrych fel caer fygythiol.  Mae'r defnyddio caeadau allanol cadarn hefyd yn agored i bosteri anghyfreithlon a graffiti, sy’n gwneud y ganolfan siopa hyd yn oed yn llai deniadol.  Mae gosod caeadau rholio cadarn yn groes i bolisi cynllunio'r cyngor, ac felly bydd caniatâd fel arfer yn cael ei wrthod. 

 

5.8.

Caeadau tyllog

Caeadau gyda thyllau ynddynt sy’n gadael i chi weld rhywfaint o’r siop drwy’r caead.  Mae maint y tyllau’n amrywio, rhwng 2mm a 8mm fel arfer i roi rheolaeth weledol drwy’r caead mewn mannau strategol.  

5.9.

Bocsys Caeadau

Mae bocsys caeadau yn cael effaith niweidiol ar agwedd weledol ac ansawdd dyluniad blaen siop ac yn niweidio cymeriad ac ymddangosiad y strydwedd.  Maent yn ymestyn ymlaen oddi wrth blaen y siop ac yn edrych fel ychwanegiad i wyneb blaen y siop. Dylid cuddio blychau i’w dal a sianeli cyfeirio yng nghynllun blaen y siop os yw hynny’n ymarferol. 

Mae gosod caeadau rholio cadarn a thyllog yn groes i bolisi cynllunio’r Cyngor ac o ganlyniad, bydd caniatâd yn cael ei wrthod.

« Back to contents page | Back to top