7. BOCSYS LARYMAU ALLANOL, SYNWYRYDDION A TCC
7.1.
Nid oes angen caniatâd cynllunio i osod bocs larwm maint safonol. Bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig os yw’r adeilad yn un Rhestredig.
7.2.
Gellir cysylltu synwyryddion ffenestr i larwm neu gamera TCC ac mae’n annhebygol y bydd angen Caniatâd Cynllunio na Chaniatâd Adeilad Rhestredig os yw’r adeilad yn un Rhestredig. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio i osod camerâu TCC a bydd bob amser angen Caniatâd Adeilad Rhestredig.