8. A OES ANGEN CANIATAD CYNLLUNIO ARNOCH?
8.1.
Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw newid i eiddo masnachol sy’n cael effaith sylweddol ar ei ymddangosiad allanol, gan gynnwys gosod caeadau neu rwyllau diogelwch allanol parhaol. Fel arfer nid oes angen caniatâd i osod rhwyllau a chaeadau mewnol, ffilmiau a gwydr wedi ei atgyfnerthu. Mae’n bosibl y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig hefyd i’w gosod ar Adeiladau Rhestredig o bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol arbennig.