2. POLISI CYNLLUNIO CFS/8 – DIOGELWCH BLAEN SIOP

2.1.

Bydd ceisiadau Cynllunio a cheisiadau Adeilad Rhestredig sy’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor yn cael eu penderfynu yn unol â pholisi canlynol y CDLl:

POLICY CFS/8 - DIOGELWCH BLAEN SIOP

“Ni fydd Caniatâd Cynllunio na Chaniatâd Adeilad Rhestredig yn cael ei roi ar gyfer gosod caeadau cadarn neu dyllog ar flaen siopau, neu ar eiddo eraill mewn strydoedd siopa. Bydd y Cyngor fel arfer yn rhoi caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig i osod rhwyllau rholio a rhwyllau symudol ar flaen siopau ac eiddo masnachol os yw’r rhwyllau wedi eu cynnwys o fewn dyluniad blaen y siop, yn cael cyn lleied o effaith gweledol a phosibl ac yn gweddu i weddill drychiad yr adeilad a’r strydwedd”

« Back to contents page | Back to top