1. ADRAN UN - CYFLWYNIAD

1.1.

Crynodeb

1.1.1.

Mae Cynllun Datblygu Lleol Conwy (CDLl) yn ymwneud â’r rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy sydd y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri (a elwir yn Ardal y Cynllun).  Mae Ardal y Cynllun yn gyfoethog mewn asedau hanesyddol, mae iddi ddiwydiant twristiaeth ffyniannus, cysylltiadau cludiant rhagorol, ansawdd dŵr ac aer da ac amgylchedd naturiol o ansawdd uchel (gan gynnwys arfordir, cefn gwlad a Pharc Cenedlaethol).  Fodd bynnag, mae’r rhagolygon poblogaeth wedi dangos gallai poblogaeth Ardal y Cynllun gynyddu gan hyd at 7,850 o bobl erbyn 2022.  Prif nodweddion y newid poblogaeth hwn a’r pryderon cysylltiedig ydi:

  • Mae nifer o bobl yn grŵp oed 18-64 yn gostwng gan olygu gostyngiad yn y rheiny sydd yn gweithio ac felly yn effeithio ar berfformiad economaidd y Fwrdeistref Sirol;
  • Mae nifer y bobl oed 65+ yn cynyddu’n sylweddol gan olygu mwy o bwysau ar gyfleusterau gofal cymdeithasol ac iechyd a gwasanaethau a hynny ar draul perfformiad economaidd;
  • Rhagwelir gostyngiad sylweddol yn nifer plant ar draul perfformiad economaidd y dyfodol, lefelau disgyblion ysgol a hunaniaeth gymunedol;
  • Rhagwelir bydd y nifer o bobl yn byw gyda'i gilydd ar aelwydydd yn lleihau gan olygu angen am dai newydd i gefnogi’r boblogaeth gyfredol a gostyngiad mewn cartrefi o faint teuluol;
  • Mae nifer o bobl sydd yn symud i mewn i Ardal y Cynllun yn llawer mwy na’r rheiny sydd yn symud allan gan olygu mwy o angen am dai a chyfleoedd gwaith a;
  • Mae nifer y bobl sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol ac sy’n gweithio mewn lleoliadau y tu allan i’r Fwrdeistref Sirol yn anghynaladwy gan arwain at yr angen i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth.

1.1.2.

Mae effaith y newidiadau bwriedig hyn mewn poblogaeth wedi creu nifer o faterion blaenoriaeth i’r Cyngor.  Mae angen:

  • Lefel twf tai a chyflogaeth gynaliadwy y gellir ei ddarparu a’i gynnal ac sy’n adlewyrchu’r prif newid poblogaeth naturiol, y newid mewn meintiau aelwydydd a’r mewnlifiad net;
  • Cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol i gyfrannu at leihau’r lefelau sy’n teithio y tu allan i’r sir i weithio;
  • Annog strwythur oedran mwy cytbwys a hyrwyddo safle economaidd mwy cadarn trwy'r cynnig o dai a gwaith, datblygu sgiliau, creu swyddi a dylunio tai yn greadigol.  Tra ar yr un pryd, yn addasu i boblogaeth sy’n heneiddio o ran anghenion iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chyflogaeth;
  • Cyfrannu at ofynion cyfredol am Angen Lleol am Dai Fforddiadwy (AHLN) ac uchafu’r ddarpariaeth yn y dyfodol;
  • Diogelu amgylchedd naturiol ac adeiledig Conwy;
  • Diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a hunaniaeth gymunedol;
  • Annog datblygiad sy’n ceisio cyflawni amcanion blaenoriaeth y cynllun.

1.1.3.

Mae rhagolygon poblogaeth yn dynodi erbyn 2022 byddai angen tir i gartrefi o oddeutu:

  • rhwng 5,500 ac 8,150 o unedau tai newydd;
  • 3,330 o swyddi – 4,790 o swyddi.

1.1.4.

Mae tystiolaeth yn nodi y gellir lleihau lefelau cymudo allanol trwy ddarparu swyddi ychwanegol, heb gael effaith ar yr angen am ddatblygiadau tai pellach, sef tua:

  • 1,675 swydd

1.1.5.

Mae Asesiad Marchnad Dai Lleol Conwy yn dod i’r casgliad dros gyfnod y cynllun byddai angen darparu ar gyfer:

  • 8,640 o Unedau Tai Fforddiadwy

1.1.6.

Trwy lefel twf cynaliadwy mae’r Cyngor yn bwriadu cyfrannu’n bositif i’r sialensiau hyn.  Fodd bynnag, mae nifer o ddarnau tystiolaeth allweddol eraill hefyd wedi pennu'r lefel twf cynaliadwy bwriedig dros gyfnod y cynllun:

  • Gallu’r diwydiant adeiladu i ddarparu'r lefel twf bwriedig.
  • Argaeledd tir addas y gellir darparu arno i gartrefu’r twf.
  • Barn y gymuned a chyfranogion.
  • Effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

1.1.7.

Gan ystyried yr holl ffactorau hyn, mae’r Cyngor yn cynnig lefel twf cynaliadwy sydd yn cynnwys rhwng tua:

  • 5,500 a 6,800 o unedau tai newydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,900 o unedau tai newydd i adlewyrchu newidiadau poblogaeth naturiol, newidiadau mewn meintiau teuluoedd a mewnfudo net.
  • 3,300 a 3,690 o swyddi newydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 4,650 o swyddi newydd i adlewyrchu newidiadau poblogaeth naturiol, newidiadau mewn meintiau teuluoedd a mewnfudo net.
  • 1,675 swydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 1,925 o swyddi newydd i gyfrannu at leihau lefelau cymudo allanol.
  • 1,800 a 2,200 o unedau tai fforddiadwy newydd.

1.1.8.

O’r pwynt hwn ymlaen yn y Cynllun, cyfeirir at yr uchafswm lefel twf yn yr ystod yn unig (h.y. 6,800 annedd a 3,690 swydd) ac nid yr ystod isaf (h.y. 5,500 annedd a 3,300 swydd).

1.1.9.

Mae creu cymunedau cynaliadwy yn holl bwysig i lwyddiant y Cynllun a dyfodol y Fwrdeistref Sirol.  Felly, yn unol â’r meini prawf sydd yn tanseilio creu cymunedau cynaliadwy, mae’r Cyngor yn cynnig mai’r unig ateb gofodol boddhaol ydi cyfeirio’r mwyafrif o’r datblygiad newydd i unai o fewn  neu gyferbyn  anheddau trefol cyfredol trwy  Strategaeth Ddatblygu Trefol, a hynny yn bennaf ar y llain arfordirol.  Mae gwell mynediad at brif gyfleusterau'r gwasanaethau yn y lleoliadau hyn ac maent wedi eu cysylltu’n agos ac ardaloedd cyflogaeth ac wedi eu cefnogi gan y ffordd strategol a rhwydwaith y rheilffordd.  Cefnogir y Strategaeth Datblygu Trefol gan Strategaeth Datblygu Gwledig sy’n amlinellu’r dull o ddiwallu anghenion aneddiadau gwledig o fewn Ardal y Cynllun.

1.2.

Cynllun Datblygu Lleol Conwy (CDLl)

1.2.1.

Bwriad y broses CDLl yw cyflymu’r dasg o ddarparu’r cynlluniau datblygu.  Mae tair rhan bwysig yn y broses o wneud y cynllun - paratoi’r cynllun, cynhyrchu’r cynllun a chraffu’r cynllun.  Mae’r gwaith o baratoi’r cynllun eisoes wedi arwain at Gytundeb Cyflawni a gymeradwywyd (DA), sy’n amlinellu’r Cynllun Cynnwys y Gymuned (CIS) a’r amserlen ar gyfer paratoi’r CDLl.  Mae’r CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd bellach yn cynrychioli cam allweddol yn y broses o gynhyrchu’r cynllun ac mae’n ffrwyth ymgynghori helaeth gyda’r gymuned a chyfranogion.  Mae’n amlinelli’r prif heriau sy’n wynebu Conwy, yn nodi’r Weledigaeth, Amcanion a’r Strategaeth Ofodol ar gyfer datblygu'r ardal dros y cyfnod 2007 i 2022. 

1.2.2.

Bydd Cynllun Meistr Ardal Adfywio Strategol, Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) a briffiau Datblygu Safle yn cefnogi dull polisi'r CDLl.  Gyda'i gilydd, bydd y dogfennau hyn yn darparu’r fframwaith ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn Ardal y Cynllun a bydd yn darparu’r strategaeth gynllunio ofodol ar gyfer Conwy tan 2022.  Pan fabwysiadir yr CDLl bydd yn disodli’r Cynlluniau Fframwaith a’r Cynlluniau Lleol presennol.

1.3.

Ymgynghori Blaenorol ar yr LDP i'w archwilio gan y Cyhoedd

1.3.1.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad blaenorol ar y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd a’r Gwerthusiad Cynaladwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol (SA/SEA) rhwng Ebrill a Gorffennaf 2009 gan olygu cyflwyno 13,154 o sylwadau oddi wrth 3,161 o sefydliadau ac aelodau’r cyhoedd.

1.3.2.

Roedd y mwyafrif o’r gwrthwynebiadau i’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd yn ymwneud â safleoedd datblygu bwriedig.  Fodd bynnag, cododd gwrthwynebiad sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) mewn perthynas â’r sylfaen tystiolaeth a ddefnyddiwyd i gefnogi’r lefel twf bwriedig yn y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd yng ngoleuni sylfaen dystiolaeth newydd yn deillio o Ragolygon Poblogaeth ac Aelwydydd 2006.

1.3.3.

Roedd yn amlwg o’r ymgynghoriad nad oedd y strategaeth fwriedig yn taclo’r materion blaenoriaeth a oedd yn effeithio ar Gonwy ac yn benodol y newidiadau i’r strwythur poblogaeth, y gofynion a fydd yn ei greu a’r angen am dai fforddiadwy lleol. Mae’r Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd hwn yn cael ei lunio ar sail y sylwadau hyn, ymatebion ymgynghori eraill, polisi cynllunio cenedlaethol newydd a sylfaen dystiolaeth newydd.

1.3.4.

Hefyd sefydlodd yr CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd a’r Strategaeth a Ffafriwyd strategaeth ddosbarthu ofodol y Cynllun yn dilyn arfarniad o strategaethau dosbarthu gofodol eraill.  Roedd y rhain yn cynnwys pwyslais ar lefelau uwch o ddatblygu mewn aneddiadau newydd, mewn lleoliadau trefol a gwledig.  Daethpwyd i’r casgliad y dylid canolbwyntio datblygiadau o fewn lleoliadau ar y llain arfordirol drefol, yn arbennig o fewn cymunedau Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele.

1.3.5.

Mae fframwaith y cynllun yn dangos yn glir sut yr ymdrinnir â, ac y cyflawni’r anghenion a’r materion sy’n wynebu Conwy yn 2022.  

1.3.6.

Mae’r Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd wedi ei osod allan fel a ganlyn:

Rhan  2: Gweledigaeth ac Amcanion

Rhan  3: Y Strategaeth Ofodol a Ffafrir a’r Prif Ddiagram

Rhan  4: Bolisïau Gofodol a Pholisïau Rheoli Datblygu Ategol

Rhan 5: Fframwaith Gweithredu a Monitro

1.4.

Papurau Cefndir fel Tystiolaeth

1.4.1.

Mae amryw o bapurau cefndir a data technegol arall wedi darparu’r sail dystiolaeth ar gyfer y dull a gymerwyd yn y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd hwn.  Sef:

Rhif Papur CefndirTeitl Papur Cefndir
1.Cynlluniau a Strategaethau Cysylltiedig
2Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd
3Yr Adroddiad Opsiynau Lefel Twf
4Astudiaeth Cyflenwad Tir ar Gyfer Tai
5Astudiaeth Argaeledd Tir ar Gyfer Tai
6Amrywiaeth Tai
7Asesiad Marchnad Tai Lleol (Cam 1)
8Hierarchaeth Aneddiadau ac Asesiad Ffiniau Anheddiad
9.Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy
10Gwerthusiad Cynaladwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol
11Asesu Rheoliadau Cynefinoedd
12Asesiad Rhwystrau Gwyrdd
13Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth
14Astudiaeth Tir Cyflogaeth
15Astudiaeth Manwerthu
16Astudiaeth Hierarchaeth a Phrif Ardaloedd Manwerthu ac Eilaidd
17Asesiad Risg Llifogydd Strategol Conwy
18.Astudiaeth o’r Prif Ardaloedd Llety Gwyliau
19.Asesiad Mannau Agored
20.Rheoli Gwastraff
21.Asesiad o’r Safleoedd y Gellir eu Darparu
22.Asesiad Galw am Safleoedd ar Gyfer Sipsiwn a Theithwyr
23.Adroddiad Sail Prif Gynllun Bae Colwyn
24.Adroddiad Moderneiddio Ysgolion Cynradd Cyngor Sir Conwy
25.Adroddiad Galw a Chyflenwad Lotment
26.Astudiaeth Ymarferoldeb Tirlenwi
27Ardaloedd Cymeriad Tirwedd
28Yr Amgylchedd Hanesyddol
29Diogelu Adnoddau Agregau
30Cynllun fesul camau
31Gallu'r Diwydiant Adeiladu Tai
32Adroddiad Galw a Chyflenwad Tiroedd Claddu
33Yr Iaith Gymraeg
34Papur Rhagdybiaethau Hyfywdra Safleoedd
35Cyfiawnhad ar gyfer dileu safleoedd datblygu bwriedig a nodwyd yn y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd (Ebrill 2009)
36Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy
37Adroddiad Dewisiadau Dosbarthu Twf
38

Astudiaeth Trafnidiaeth Abergele: Gwerthusiad Trafnidiaeth o Gynigion Dyraniad CDLl yn Abergele.

1.4.2.

Mae’r sail dystiolaeth fwyaf diweddar wedi ei defnyddio mewn achosion lle na chwblheir rhai astudiaethau tan ar ôl ymgynghori ar ôl y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd.  Os yw papur cefndir (‘BP’ o bwynt hon ymlaen)  arbennig wedi darparu’r sail dystiolaeth i’r CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd neu bolisi unigol, caiff hyn ei gynnwys fel testun ategol i bob polisi.  Mae’r holl ddogfennau ar gael i’r cyhoedd naill trwy fynd i wefan y Cyngor (www.conwy.gov.uk/cdll), ym mhrif Swyddfeydd y Cyngor, Prif Lyfrgelloedd neu trwy ofyn am gopi o’r CD o’r CDLl gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a’r trefniadau ymgynghori a amlinellwyd yn yr ohebiaeth ategol.

1.5.

Gwerthusiad o Gynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

1.5.1.

Elfen bwysig o’r system CDLl newydd yw’r pwyslais ar nodi opsiynau realistig ar gyfer diwallu anghenion y gymuned a phrofi pob un o’r opsiynau trwy’r broses Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Arfarniad o Gynaladwyedd (SEA/SA).  Mae Arfarniad o Gynaladwyedd (SA) wedi ei gynnal ar y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.  Mae’r SA/SEA yn tynnu sylw at ardaloedd lle nad yw’r cynllun yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ac mae’n nodi lle gellir cynnwys newidiadau neu fesurau lliniaru sy’n gwneud y CDLl yn fwy cynaliadwy.  Cyflwynir canlyniadau’r SA/SEA yn BP/10.

1.6.

Asesiad Cyfarwyddeb Cynefinoedd

1.6.1.

Mae’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC) yn nodi'r angen i asesu cynlluniau neu brosiectau sy’n effeithio ar safleoedd Natura 2000.  Mae Erthygl 6(3) yn sefydlu’r angen am Asesiad Cyfarwyddeb Cynefinoedd (HDA) ac mae’n nodi: “ (3) Bydd unrhyw gynllun neu brosiect nad oes ganddo gysylltiad uniongyrchol neu sy’n angenrheidiol i reoli’r safle ond sy’n debygol o gael effaith sylweddol wedi hynny, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill yn destun Asesiad Priodol o’i oblygiadau i’r safle gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle…”

1.6.2.

O dan delerau Rholiadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ac ati) Diwygiad 2006  mae’n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gynnal asesiad priodol o’i gynlluniau datblygu defnydd tir.

1.6.3.

Mae Asesiad Priodol yn asesiad o effeithiau posibl Cynllun ar Safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchod Arbennig a Safleoedd Morol oddi ar yr Arfordir) a dylid ond cymeradwyo cynllun ar ôl penderfynu na fydd yn cael effaith andwyol ar natur y cyfryw safleoedd.  Mae Ymarferiad Sgrinio Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) cychwynnol ar gyfer y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd wedi ei gynnal er mwyn asesu ei effaith gyffredinol.  Fe’i paratowyd gan y Cyngor fel yr awdurdod ategol perthnasol ac mae’n amlinellu pwrpas yr asesiad priodol y fethodoleg a ddefnyddir, cynlluniau neu raglenni perthnasol ac mae’n rhoi trosolwg o’r safleoedd Natura 2000 perthnasol.

1.6.4.

Mae’r HRA ar gael fel papur cefndir BP/11 i’r CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd.  Yn dilyn ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor, daw’r ‘ymarfer sgrinio’ i’r casgliad nad oes unrhyw effeithiau sylweddol ar y safleoedd Natura 2000 yn sgil y safleoedd datblygu bwriedig yn y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd hwn.  I gloi, ni ystyrir bod angen Asesiad Priodol llawn. 

1.7.

Profion Cadernid

1.7.1.

Fel rhan annatod o’r system cynllunio datblygiadau newydd cyfrifoldeb yr archwilydd annibynnol yw ystyried cadernid y Cynllun Datblygu yn gyffredinol yn ystod y broses o Archwilio’r Cynllun.  Dehongliad syml o ‘cadarn’ yw bod yn ‘dangos barn dda’ ac ‘y gellir ymddiried ynddo’.  Mae Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru (Rhagfyr 2005)  yn darparu deg o feini prawf ar gyfer asesu cadernid.  Y meini prawf hyn i bob pwrpas yw cysondeb, cydlyniad ac effeithiolrwydd.  Bydd Archwilydd yn sgrinio’r CDLl yn gynnar er mwyn sicrhau ei bod wedi ei baratoi yn unol â’r Cytundeb Cyflawni gan gynnwys y Cynllun Cynnwys y Gymuned.  Mae hunan asesiad o safbwynt cadernid y CDLl wedi ei gynnal a gellir ei weld ar www.conwy.gov.uk/cdll

1.8.

Cydweithio â Chynghorau Cyfagos

1.8.1.

Wrth baratoi CDLl Conwy, bu cryn gydweithio ac ymgynghori â Pharc Cenedlaethol Eryri, Cynghorau Sir Ddinbych a Gwynedd, a gyda chyrff hanfodol eraill, er mwyn ystyried materion trawsffiniol a chyd-destun ehangach.

1.8.2.

Mae’r cydweithio rhwng Cynghorau wedi dylanwadu ar y dasg o baratoi’r CDLl yn y meysydd canlynol:

  • Cydlynu Polisi Cynllunio: Cyfarfodydd Cyswllt Swyddogion Polisi Rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud â’r newid yn y boblogaeth a’r ffurf aelwydydd yn cynnwys amcan estyniadau poblogaeth.  Bydd cyswllt rheolaidd pellach gyda Chynghorau cyfagos wrth baratoi dogfennau a bod yn rhan o gyfarfodydd rheolaidd:

  1. Cyfarfodydd Swyddogion rheolaidd
  2. Astudiaeth Is Ranbarthol Conwy/ Sir Ddinbych
  3. Asesiad o’r Farchnad Dai Rhanbarthol
  4. Digwyddiad Grŵp Ffocws CDLl Conwy yng Ngorffennaf 2005
  5. Strategaeth Wastraff Rhanbartho
  6. Grŵp Pathfinder Gogledd Cymru

  • cyfleoedd economaidd: Mae hyn wedi cynnwys lleoliad cyffredinol safleoedd cyflogaeth strategol mewn partneriaeth â Chynghorau cyfagos, sydd wedi arwain at nodi Harbwr y Foryd fel lleoliad Marina.  Bu cydweithio trawsffiniol pellach gyda Pharc Cenedlaethol Eryri i hybu Gwaith Alwminiwm Dolgarrog fel safle twristiaeth a hamdden cymysg sy’n rhoi ystyriaeth i’r amgylchedd naturiol.
  • cysylltiadau cludiant a hygyrchedd: Mae’r cynllun yn hybu integreiddio dulliau cludiant gan gynnwys Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Llwybrau Arfordirol a llwybrau SUSTRANS rhwng Conwy, Sir Ddinbych a Pharc Cenedlaethol Eryri.
  • newid gwledig:  Cytunwyd ar ddull er mwyn sicrhau bod aneddiadau gwledig a’u cyfleusterau a’u gwasanaethau yn cael eu diogelu.  Mae Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi gweithio’n glos i baratoi’r hierarchaeth aneddiadau er mwyn sicrhau bod amcanion yr aneddiadau a rennir yn gydnaws.
  • mesurau bras o ran anghenion a dosbarthiad tai:  Fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer darparu AHLN yn yr aneddiadau trawsffiniol gwledig rhwng Parc cenedlaethol Eryri a Chyngor Conwy.  Ffurfiwyd polisïau i sicrhau bod modd darparu AHLN mewn aneddiadau a rennir lle nad oes tir ar gael o ganlyniad i gyfyngiadau.
  • hyfywdra tai fforddiadwy: Mae cydweithio rhwng APCE a CBSC wedi bod yn hanfodol bwysig wrth lunio Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy Conwy.

1.9.

Statws y Ddogfen a Chanslo Cynlluniau

1.9.1.

Y Cynllun Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd hwn yw’r fersiwn mwyaf diweddar o Gynllun Datblygu Lleol Conwy ac mae’r Cyngor wedi penderfynu ei gymeradwyo i bwrpas ymgynghori cyhoeddus yn Ebrill 2009.

1.9.2.

Pan fabwysiadir y CDLl yn 2012, i bwrpas Adran 38(6) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 bydd y cynlluniau canlynol yn cael eu canslo:

Cynlluniau Fframwaith

Cynllun Fframwaith Gwynedd a Fabwysiadwyd (1993)

Cynllun Fframwaith Clwyd – Ail Addasiad (1999)

Cynlluniau Lleol

Cynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn  a Fabwysiadwyd (1999)

Cynllun Ardal Llandudno Conwy (1982/1994)

Cynllun Datblygu Unedol

Cynllun Datblygu Unedol Drafft Conwy (2001)

Datganiad

Datganiad Darparu Tai Fforddiadwy

1.10.

Fframwaith Polisi

1.10.1.

Paratowyd y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd hwn yng nghyd-destun polisi cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â strategaethau a rhaglenni lleol eraill fel y dangosir yn Niagram 1 isod.  Mae’r holl strategaethau a pholisïau hyn wedi dylanwadu ar y dasg o ddatblygu’r CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd a’r polisïau dilynol yn y ddogfen hon.  Crynhoi’r prif oblygiadau’r materion hyn ar y Cynllun ym mhapur cefndir BP/1 cynlluniau a strategaethau cysylltiedig.  Fodd bynnag, trwy gydol y CDLl hwn cyfeirir at y dogfennau perthnasol wrth resymu a chyfiawnhau’r dull polisi, lle bo’n briodol.

1.10.2.

Mae’n ofynnol yn ôl Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 y rheoliadau atodol bod y Cynllun yn rhoi sylw dyledus i’r materion canlynol:

  • Cynllun Gofodol Cymru
  • Polisïau cenedlaethol presennol (gan gynnwys, er enghraifft, Polisi Cynllunio Cymru, Nodiadau Cyngor Technegol a Chynllun Datblygu Lleol Cymru 2005)
  • Y Strategaeth Gymunedol
  • Yr adnoddau sy’n debygol o fod ar gael ar gyfer gweithredu’r cynllun
  • Cynlluniau a pholisïau cludiant lleol
  • Y nod o atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau’r cyfryw ddamweiniau
  • Polisïau cenedlaethol a rhanbarthol ar wastraff
  • Strategaethau tai lleol

 

1.11.

Cyd-destun Ardal y Cynllun

1.11.1.

Mae Bwrdeistref Sirol Conwy yn cwmpasu ardal o 1,130 km sgwâr ac amcangyfrifir bod poblogaeth breswyl o tua 111,700 o bobl.  Mae’r llain arfordirol gul yn cynnwys nifer o aneddiadau lle mae tua 80% o’r holl boblogaeth yn byw, tra bod tua 5% o’r boblogaeth yn byw ym Mharc Cenedlaethol Eryri, tu allan i Ardal y Cynllun.

1.11.2.

Mae Llandudno yn gyrchfan glan môr Fictoraidd draddodiadol, sy’n cyfuno ei rôl dwristaidd gyffrous gyda chanolfan fasnach ffyniannus ac yn gweithredu fel canolfan siopa is rhanbarthol ar gyfer yr ardal.  Un o’r aneddiadau mwyaf yw  Bae Colwyn ac mae ganddo rôl gynyddol bwysig yn y sector masnachol a busnes.  Mae Canol Tref Conwy o fewn safle Treftadaeth y Byd dynodedig ac mae’n bwysig o ran y cyfraniad a wna at yr economi twristaidd, tra bo Cyffordd Llandudno yn datblygu fel lleoliad pwysig i swyddfeydd a buddsoddiad o’r sector busnes.  Mae aneddiadau eraill yn cynnwys Llanfairfechan a Phenmaenmawr i’r gorllewin a threfi Abergele a Bae Cinmel i’r dwyrain.

1.11.3.

Mae Ardal y Cynllun yn ardal o dirwedd arbennig sy’n amrywio o draethau tywodlyd a phentiroedd i ddyffrynnoedd cysgodol, rhosydd agored a choetiroedd naturiol sy’n ffinio a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae sawl ardal o Dirwedd Hanesyddol yn ogystal â phum safle cadwraeth natur dynodedig o bwysigrwydd rhyngwladol.  Mae Ardal y Cynllun hefyd yn cynnwys nifer o safleoedd dynodedig lleol sy’n cyfrannu at gymeriad cyffredinol ac ansawdd yr amgylchedd naturiol.

1.11.4.

Yn gyffredinol, mae’r economi’n dibynnu’n drwm ar dwristiaeth a diwydiannau gwasanaethau a hynny’n bennaf yn yr aneddiadau arfordirol trefol ac atyniad yr ardal wledig.  Mae cyflogaeth ddiwydiannol er ei bod wedi ei leoli’n bennaf ac wedi ei chyfyngu i ryw raddau ger yr arfordir, yn cynnwys gwaith cynhyrchu ac ymchwil, ac mae i’w chanfod mewn lleoedd megis Bae Cinmel, Bae Colwyn a Chyffordd Llandudno.  Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn weithgareddau cyflogi pwysig yn yr ardaloedd gwledig lle siaredir Cymraeg yn bennaf.  Mae rhai o’r pentrefi gwledig yma naill ai yn rhannol neu’n gyfan gwbl o fewn y Parc Cenedlaethol.

1.11.5.

Mae Conwy yn wynebu’r her o wella  cyflyrau economaidd cymdeithasol mewn ardaloedd lle mae amddifadiad aml, fel Bae Colwyn.  Er mwyn cwrdd â’r her hon, dynodwyd Ardal Adfywio Strategol (SRA) i feithrin cymhelliant economaidd a chymdeithasol yng nghanol a dwyrain Conwy.  Mae’r SRA yn estyn ymhell ac mae’n crwydro i sir gyfagos Sir Ddinbych.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wario £38miliwn yn Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru o fewn pedair blynedd gan ddechrau yn 2009.

1.12.

Y Prif Faterion yng Nghonwy

1.12.1.

Er mwyn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer strategaeth ddatblygu’r cynllun, gwnaed arolwg o’r wybodaeth gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gael ar gyfer y materion oedd yn effeithio ar Ardal y Cynllun,  Mae trafodaeth fanwl ar y materion bras sy’n berthnasol i’r CDLl wedi ei llunio ar sail y ffynonellau canlynol:

  • Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Arfarniad o Gynaladwyedd: Adroddiad Cwmpasu Drafft;
  • Canlyniadau ymgynghori cyn i’w archwilio gan y cyhoedd gyda phrif gyfranogion gan gynnwys Digwyddiad Grŵp Ffocws a gynhaliwyd yng Ngorffennaf 2005;
  • Adolygiad o wybodaeth sylfaenol gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol;
  • Strategaeth Gymunedol a Gweithdai Cynllun Corfforaethol/Digwyddiadau Datblygu’r Weledigaeth CDLl a gynhaliwyd rhwng 2004 – 2009;
  • Ymgynghori â chyfranogion penodol rhwng 2005 - 2009;
  • Adolygiad o Strategaeth Twf CDLl Conwy (Mawrth 2010);
  • Ymgynghoriad gyda Phanel Ymgynghorol y CDLl (2005 - 2010.

1.12.2.

Ymdrinnir â’r materion hyn drwy’r CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd ac maent yn sail i’r weledigaeth, amcanion, strategaeth ofodol, polisïau gofodol a’r fframwaith gweithredu a monitro.  Mae mwy o fanylion am y materion hyn yn Adroddiad Ymgynghorol CDLl a phapur cefndir BP/1 ar gael ar wefan y Cyngor  ar www.conwy.gov.uk/cdll

1.13.

Y Materion sy'n wynebu Conwy

1.13.1.

Gan ystyried y dogfennau a’r digwyddiadau ymgynghori uchod, mae’n amlwg bod materion blaenoriaeth y mae angen ymdrin â hwy drwy’r CDLl.  Yn y tabl isod ceir rhestr o’r materion, eu ffynhonnell, amcan gofodol cysylltiedig â pholisïau perthnasol y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd hwn i ymdrin â’r mater. 

Related Map Links

Some sections of this text contain a 'globe with link' icon. Clicking on this icon will take you to the map that is relevant to this text.

Sometimes, there is no spatial component or map feature that is specific to the text. In this case the link will take you to the overview map of the relevant map.

If there is a specific area relevant to the text it will be shown as a red highlighted overlay on the map at a suitable viewing scale.

« Back to contents page | Back to top