3. ADRAN TRI - Y STRATEGAETH OFODOL A DIAGRAM ALLWEDDOL

3.1.

Datganiad Crynodeb y Strategaeth Ofodol

3.1.1.

Nodwedd amlwg o’r system CDLl yw’r angen i ystyried gwahanol ddewisiadau datblygu a gofodol wrth ffurfio’r strategaeth.  Cafodd nifer o ddewisiadau datblygu eu hystyried mewn perthynas â’r lefelau o ddatblygiad tai a chyflogaeth (gweler BP/3 – ‘Adroddiad Opsiynau Lefel Twf’) a’r dosbarthiad gofodol cyffredinol (gweler BP/37 – ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthu Twf’).  Asesir y dewisiadau hyn mewn perthynas â’u heffaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Paratowyd Hierarchaeth Aneddiadau hefyd i gynorthwyo i ffurfio strategaeth (gweler BP/8 – ‘Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau’).  Caiff y dewis gofodol a ffafrir ei hyrwyddo drwy'r ‘Ardal Strategaeth Datblygu Trefol’ sy’n cyfeirio tua 85% o ddatblygiad newydd i naill ai o fewn neu’n gyfagos i aneddiadau trefol presennol ar hyd y belt arfordirol a thref farchnad Llanrwst i mewn yn y tir.  Mae gan y lleoliadau hyn fynediad i gyfleusterau allweddol a gwasanaethau, maent wedi'u cysylltu'n agos ag ardaloedd cyflogaeth, yn cael eu cefnogi gan rwydwaith ffyrdd a rhwydwaith drenau strategol, maent yn ardaloedd allweddol yn yr AHLN, ac yn gwneud defnydd llawn o ganolbwyntiau strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn a chanolbwynt strategol y Rhyl, Llanelwy, Bodelwyddan a Phrestatyn, gan gynnwys Bae Cinmel.  Dyma hefyd y lleoliadau mwyaf cynaliadwy o safbwynt eu mynediad at wasanaethau fel Coleg Llandrillo, y prif ysbytai a chanolfannau siopa mwy Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele.

3.1.2.

Hyrwyddir yr anghenion datblygu sy’n weddill trwy’r ‘Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig’ a gaiff eu cyfeirio at ddiwallu anghenion y Prif Bentrefi, y Pentrefi Llai a Phentrefannau.  At ei gilydd, mae’r ‘Ardal Strategaeth Datblygu Trefol’ a’r Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig’ yn ffurfio Strategaeth Ofodol ar gyfer Conwy fel y nodir yn Niagram 2.Mae’r agwedd hon yn sicrhau fod mynediad i dai, cyflogaeth, cyfleusterau a gwasanaethau allweddol ym mhob cymuned, drwy ddarparu twf cynaliadwy priodol ym mhob cymuned, ond gan gyfrannu ar yr un pryd at gadw'r arfordir a’r tirlun deniadol a’r nod o gynnal y diwylliant a’r iaith Gymraeg. Ynghyd â chwmpasu'r math cywir o dai a chyflogaeth a’r dyluniad adeiladu gwyrdd arloesol, mae’n darparu fframwaith ar gyfer cyfrannu tuag at strwythur oed mwy cytbwys a gweithlu sy’n weithredol yn economaidd.

3.2.

Strategaeth Ofodol

3.2.1.

Mae’r Strategaeth Ofodol yn amlinellu'r ymagwedd gyffredinol ar gyfer darparu cartrefi, swyddi, isadeiledd a chyfleusterau cymunedol newydd dros gyfnod y cynllun ar gyfer Ardal y Cynllun.  Mae’n gosod y cyd-destun ar gyfer polisïau’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd Diwygiedig hwn ac yn amlinellu sut y bydd y Weledigaeth a’r amcanion yn cael eu cyflawni.  Lluniwyd y strategaeth gan roi ystyriaeth i’r cyd-destun polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, pa mor gynhwysfawr y mae’n mynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol allweddol sy’n effeithio ar Gonwy, fel yr amlinellir yn Adran 1, SEA/SA ac argaeledd a gallu i ddarparu tir dros gyfnod y cynllun.

3.2.2.

Bydd y Strategaeth ar gyfer Conwy felly’n cyfrannu at fynd i’r afael â’r materion blaenoriaeth a wynebir gan gymunedau. Bydd cymunedau cynaliadwy’n cael eu hyrwyddo drwy ddatblygiadau wedi’u lleoli’n briodol, yn bennaf trwy ddefnyddio'r lleoliadau o fewn y cyrraedd hawsaf ar y rhimyn arfordirol yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a’r datblygiad cyfyngedig yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig. 

3.3.

Anghenion Blaenoriaeth Conwy

3.3.1.

Fel manylwyd yn y cyflwyniad a Thabl 1, mae dogfennau sylfaen dystiolaeth gefndir wedi amlygu nifer o feysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cynllun. Rhagwelir bydd y lefel twf bwriedig yn cyfrannu at y rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd yn y dyfodol ac yn gostwng lefelau allgymudo anghynaladwy. Mae’r Strategaeth yn amlinellu’r mecanweithiau i hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys a sefyllfa economaidd sefydlog trwy’r cyfleoedd tai a gwaith a gyniga, trwy ddatblygu sgiliau, creu swyddi a dylunio creadigol. Gyda’u gilydd mae sefydlu mecanweithiau ar gyfer darparu gwell tai fforddiadwy, diogelu a gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn llunio elfennau hanfodol y Strategaeth hon.

3.4.

Ffactorau Allweddol sy'n Pennu Lefel Twf Cynaliadwy

3.4.1.

Mae gallu’r diwydiant adeiladu tai (gweler BP/31 – ‘Gallu’r Diwydiant Adeiladu Tai’), argaeledd tir addas y gellir darparu arno (gweler BP21 – ‘Asesiad Darparu Safle’), barn y gymuned a chyfranogion (gweler yr Adroddiad Ymgynghori) a’r effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol (gweler BP/10 – ‘Gwerthusiad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol’) i gyd wedi chwarae rhannau hanfodol mewn penderfynu’r lefel twf a amlinellwyd yn y Strategaeth hon.

3.4.2.

Ar ôl asesu'r prif ffactorau sy’n penderfynu ar y lefel priodol o dwf cynaliadwy, bydd y strategaeth yn cyfrannu at gyflawni’r meysydd    blaenoriaeth gan ddarparu hyd at tua:

  • 6,800 o unedau tai newydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,900 o unedau tai newydd i gyd-fynd â’r newid naturiol yn y boblogaeth , maint teuluoedd a mewnfudo net
  • 3,690 o swyddi newydd gyda lefel wrth gefn ŷd at 4,650 o swyddi newydd i gyd-fynd â’r newid naturiol yn y boblogaeth y newid mewn maint teuluoedd a mewnfudo net
  • 1,675 o swyddi gyda lefel wrth gefn o hyd at 1,925 o swyddi newydd i helpu i leihau lefelau cymudo allan o’r sir
  • 2,200 o unedau tai fforddiadwy newydd

3.4.3.

Yn ogystal, mae’r Strategaeth yn gwneud darpariaeth i ganiatáu ar gyfer datblygu:

  • Gerddi ar osod
  • Tiroedd Claddu
  • Gofod agored
  • Diogelu Mwynau
  • Cyfleusterau Gwastraff
  • Isadeiledd cludiant

3.5.

Anghenion Tai

3.5.1.

Lluniwyd y polisi tai strategol i sicrhau, dros weddill cyfnod y cynllun, y bydd digon o dai’n cael eu hadeiladau yn y mannau cywir ac o’r math cywir i sicrhau cymaint o gyfraniad â phosibl tuag at ddiwallu’r anghenion a ddynodir. Bydd y Cyngor yn cymryd pob cyfle drwy ei bolisïau ar niferoedd tai, dosbarthiad a mathau o dai i sicrhau cymaint â phosibl o ddarpariaeth tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol (AHLN).

3.5.2.

O ganlyniad i ostyngiad mewn maint cartrefi a’r mewnfudo net a ragwelir, mae angen mwy am dai newydd ac, yn benodol, gofyniad AHLN cynyddol dros gyfnod y cynllun. Mae rhagolygon poblogaeth yn nodi y bydd y farchnad dai angen tir i ddarparu rhwng tua 5,500 a 8,150 o unedau tai newydd erbyn 2022 a’r galw am AHLN o tua 8,460 o unedau dros gyfnod y Cynllun. Ar ôl asesu'r ffactorau uchod wrth benderfynu ar y lefel priodol o dai i gyfrannu at y materion allweddol, yn benodol gallu'r diwydiant adeiladu tai (gweler BP/31 – ‘Gallu'r Diwydiant Adeiladu Tai i Ddarparu’), mae angen i’r Cyngor ddarparu oddeutu tua 6,800 o anheddau newydd erbyn 2022 gyda lefel wrth gefn o hyd at 7900 o anheddau. Gall y Cyngor roi ystyriaeth i ffynonellau eraill o gyflenwad tai wrth ddarparu'r angen hwn fel y nodir yn BP/4 – ‘Cyflenwad Tir ar gyfer Tai’. Mae'r rhain yn cynnwys anheddau sydd eisoes wedi’u hadeiladu ers 2007 (a elwir yn anheddau a gwblhawyd), y rhai sydd â chaniatâd cynllunio ar hyn o bryd (sy’n cael eu galw yn ddatblygiadau wedi’u hymrwymo) a rhai sy’n debygol o gael eu hadeiladu dros gyfnod y CDLl nad ydynt wedi eu dyrannu o fewn y Cynllun (a elwir yn ddatblygiadau annisgwyl). Wrth ystyried y ffynonellau hyn o gyflenwad tai, mae angen i’r Cyngor ddyrannu tir i ganiatáu oddeutu 2,500 o anheddau newydd gyda lefel wrth gefn o 1,100 o anheddau newydd hyd at 2022. Bydd y lefel hwn o ddatblygiad tai’n cyfrannu’n sylweddol at yr AHLN sy’n cynrychioli darparu oddeutu2,200 o anheddau newydd fforddiadwy yn yr ystod twf uwch, gan gynnwys anheddau a gwblhawyd ac a ymrwymwyd iddynt.

3.6.

Y Math o Dai a’u Dyluniad

3.6.1.

Annog y boblogaeth ifanc bresennol ac i’r dyfodol i aros a gweithio yn yr ardal a hyrwyddo gweithlu sy’n economaidd weithgar bydd y Cyngor yn mynnu fod pob tai o’r math, maent ar ddaliadaeth gywir ac yn cael eu hadeiladu i ansawdd dyluniad uchel sydd yn cynnwys technolegau ynni adnewyddadwy.  Ar yr un pryd, bydd y Cyngor yn addasu i boblogaeth sy’n heneiddio o safbwynt y math o dai.  Yn ychwanegol, i sicrhau fod modd ei ddarparu ac i gyfrannu at yr AHLN, bydd y Cyngor yn gweithredu datblygiad ar safleoedd addas y mae’r Cyngor yn berchen arnynt i gyflawni, os yw’n bosibl, lefel uwch o AHLN ar y safle.

3.7.

Gallu'r Diwydiant Adeiladu Tai

3.7.1.

Mae gallu'r diwydiant adeiladu tai a hyfywedd y safleoedd bwriedig yn ffactorau allweddol wrth benderfynu ar lefel priodol a gellir ei ddarparu o ran twf yng Nghonwy. Er bod BP/2 – ‘Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd’ yn nodi yn glir fod y lefel bwriedig o dwf yn ystyried newid poblogaeth naturiol, newid mewn aelwydydd a mewnfudo dros gyfnod y cynllun, mae’n hanfodol fod modd i’r lefel hwn gael ei darparu. Mae BP/31 yn nodi'r lefel twf bwriedig gan y Cyngor o 6,800 o anheddau (453 annedd y flwyddyn) sy’n unol â’r hyn y gallai'r diwydiant adeiladu tai ei ddarparu. Byddai unrhyw dwf uwch na’r lefel hwn yn tanseilio'r gallu i ddarparu’r Cynllun yn sylweddol.

3.8.

Anghenion Cyflogaeth

3.8.1.

Mae angen i’r Cyngor sicrhau fod tir cyflogaeth wedi’i wasanaethu ar gael i ddiwallu'r lefel o dwf a ragwelir o hyd at 3,690 swydd, gyda lefel wrth gefn hyd at 4,650 o swyddi.

3.8.2.

Nid yw’r nifer o bobl sy’n cymudo allan o’r sir i weithio yn gynaliadwy.  Mae tystiolaeth yn dangos y gellir gostwng lefelau cymudo allan o’r sir trwy greu rhagor o swyddi. Fel y nodwyd yn PB/3 – ‘Adroddiad Dewisiadau Lefel Twf’, dylid creu 1,800 o swyddi ychwanegol gyda lefel wrth gefn hyd at 2,070 swydd, yn y cynllun, i ostwng lefelau cymudo allan o’r sir.  Nid yw hyn yn effeithio ar yr angen am ragor o dai, oherwydd bod y rhai hynny sy’n cymudo allan o’r sir yn byw ynddi.

3.8.3.

I annog poblogaeth sy’n fwy gweithgar redol yn economaidd a goresgyn y dirywiad a ragwelir mewn gweithlu sy’n economaidd weithgar, bydd y Cyngor yn hyrwyddo cynnig o swyddi gwerth uwch a datblygiad sgiliau o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r math o swyddi sydd ar gael a’r sgiliau a ddatblygir yn hanfodol i ddenu gweithlu iachach, strwythur oed mwy cytbwys a chyfrannu tuag at boblogaeth ieuengach ar y cyfan. I sicrhau agwedd strategol a holistig tuag at ddatblygu a chefnogi'r strategaeth tai, bydd y tir cyflogaeth sy’n cael ei ddyrannu yn bennaf yn y lleoliadau canolbwynt strategol yn yr ardal Strategaeth Datblygu Trefol cyraeddadwy.

3.8.4.

Yn gyffredinol, mae’r strategaeth yn hyrwyddo lefel cynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth. Cefnogir hyn drwy hyrwyddo darpariaeth cyflogau o werth uwch, datblygu sgiliau, mathau priodol o dai a dyluniad tai creadigol, gan ddarparu'r mecanweithiau angenrheidiol i annog strwythur oed mwy cytbwys a gweithredol yn economaidd.

3.8.5.

Bydd yr agwedd hon yn cyfrannu at hyrwyddo system gludiant gynaliadwy, integredig a chyraeddadwy, amgylchedd naturiol a hanesyddol wedi ei ddiogelu, mwy o ffocws ar greu ynni ac effeithlonrwydd a gwella darpariaeth adeiladau o ansawdd wedi’u dylunio’n dda.

3.9.

Strategaeth Twf Tai a Chyflogaeth Gyson a Chytbwys

3.9.1.

Caiff ei chydnabod y bydd twf economaidd newydd yn golygu bod angen lefel cymharol o gartrefi i gefnogi twf poblogaeth, yn benodol twf trigolion sy’n weithredol yn economaidd (cyflenwad llafur). Fel y nodir yn BP/2, BP/3 a BP/37, mae’r Cynllun yn hyrwyddo strategaeth dwf cyson a rhesymegol sy’n sicrhau agwedd holistig at dwf cyflogaeth a thai. Cefnogir hyn gan nifer o safleoedd cyflogaeth defnydd cymysg a thai i’w datblygu fesul cam i sicrhau'r gallu i’w darparu.

3.10.

Darparu Hyblygrwydd - Safleoedd Tai a Chyflogaeth Wrth Gefn

3.10.1.

Mae’r cynllun yn gwneud rhagdybiaethau y bydd graddfa uchel o ddatblygiad tai a chyflogaeth yn cael eu cyflwyno drwy dderbyn caniatâd, yn annisgwyl a drwy ddyraniadau fel ffynhonnell o gyflenwad dros gyfnod y Cynllun. Er hynny, er y bydd y safleoedd hyn wedi’u gwerthuso’n drylwyr i asesu'r gallu i’w darparu, mae’n bosibl na fydd rhai’n dod ymlaen dros gyfnod y cynllun am sawl rheswm.  I ganiatáu ar gyfer y posibilrwydd hwn, mae lefel atodol o dir tai a chyflogaeth wedi ei werthuso ac wedi’i gynnwys yn y Cynllun wrth gefn.  Caiff y ddarpariaeth wrth gefn ei rhyddhau hefyd lle bod Adroddiadau Monitro Blynyddol (AMR) yn dangos fod y strategaeth wedi’i chyfaddawdu a bod angen gweithredu er mwyn ail gydbwyso’r ddarpariaeth mewn modd sy’n cyd-fynd ag amcanion y Cynllun.  Felly, bydd safleoedd wrth gefn yn cael eu rhyddhau lle mae’r AMR yn dangos:

Rhyddhau Safleoedd Wrth Gefn A: bod targedau cyflogaeth a thai a  ragwelir fel yr amlinellir yn yr adran gweithredu a monitro’n cael eu tanseilio mewn modd sy’n cael effaith negyddol ar strategaeth y Cynllun.

Rhyddhau Safleoedd Wrth Gefn B: nad yw amcanion a thargedau cysylltiedig yn y Cynllun (e.e. darparu tai fforddiadwy, hyrwyddo poblogaeth   ieuengach, cyflogaeth o werth uwch) yn cael eu darparu.

3.10.2.

Lle bod yr AMR yn dangos bod angen rhyddhau safleoedd wrth gefn, caiff y flaenoriaeth ar gyfer ryddhau ei gweithredu yn ôl hierarchaeth aneddiadau a phrawf dilyniannol fel yr amlinellir ym Mholisi DP/2 a Pholisi Strategol HOU/1 yn y Cynllun. Bydd yn hanfodol i sicrhau fod safleoedd sy’n cael eu rhyddhau dan ‘Rhyddhau Wrth Gefn B’ yn diwallu anghenion blaenoriaeth y Cynllun yn foddhaol.

3.11.

Darparu'r Anghenion - Dosbarthiad Gofodol

3.11.1.

Caiff nifer sylweddol o’r anghenion hyn eu diwallu drwy’r datblygiadau a gwblhawyd a chaniatâd presennol. Mae'r Strategaeth Ofodol yn amlinellu lleoliad datblygiad ar ddarpariaeth o wasanaethau ac isadeiledd i gyflawni'r weledigaeth a’r amcanion, sydd yna’n cael eu darparu drwy bolisïau yn yr Adran nesaf.

3.11.2.

Gyda chefnogaeth a chyfarwyddyd Polisi Strategol DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygiad Cynaliadwy’ a DP/2 – ‘Agwedd Strategol Cyffredinol’, mae’r Cynllun yn cyfeirio datblygiad at y lleoliadau mwyaf cynaliadwy yn yr Ardal Strategaeth Ddatblygu Trefol, fel yr amlinellir yn i Diagram Allweddol, gyda manylion ym Mholisïau Strategol HOU/1 – ‘Diwallu’r Angen Tai’ a EMP/1 – ‘Diwallu’r Angen Cyflogaeth. Mae’r lleoliadau hyn o fewn cyrraedd i’r cyfleusterau a’r gwasanaethau allweddol, wedi'u cysylltu'n agos ag ardaloedd cyflogaeth, wedi’u cefnogi gan rwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd strategol ac ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer anghenion tai fforddiadwy.  Cefnogir yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol gan Ardal Strategol Ddatblygu Gwledig su’n amlinellu’r dull o ddiwallu anghenion aneddiadau gwledig Conwy. Yn gyffredinol, nid ydym yn rhagweld y bydd maint cymharol aneddiadau’n newid yn sylweddol ond, mewn rhai achosion, mae angen cynyddu eu swyddogaethau neu eu cryfhau’n benodol lle bod hyn yn caniatáu diwallu anghenion yn lleol, gan arwain at greu cymunedau mwy cynaliadwy.  

3.12.

Datblygu Fesul Camau

3.12.1.

Mewn rhai ardaloedd, ni fydd lefel y datblygiad yn bosibl heb welliannau i isadeiledd, yn enwedig darpariaeth gwasanaethau, ac felly mae’n bosibl y bydd angen oedi cyn datblygu nes bod y gwelliannau wedi’u gwneud. Hefyd, mae’n hanfodol y darperir cyflenwad tir o 5 mlynedd o fewn y Cynllun. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnig nifer o safleoedd cyflogaeth a thai defnydd cymysg sydd angen eu gosod fesul cam.  Mae’r Adran Gweithredu a Monitro yn rhoi manylion lle bydd angen datblygiad penodol fesul cam er mwyn sicrhau darpariaeth. Caiff hyn ei gefnogi gan Bolisïau Strategol HOU/1, EMP/1 a  ‘Chynllun Datblygu fesul Camau’ BP/30.

3.13.

Mathau o Safleoedd

3.13.1.

Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae’r Strategaeth yn ceisio sicrhau fod datblygiad yn digwydd ar Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol (PDL), lle bo hynny’n bosibl, er mwyn cyfrannu at ddiogelu amgylchedd naturiol ac adeiledig Conwy.  Lle bod safleoedd PDL ar gael ac nad yw eu datblygu’n rhagfarnu ar amcanion strategol eraill (fel cynnal cyflenwad digonol o dir cyflogaeth) bydd y Cyngor yn ffafrio canfod safleoedd PDL cyn datblygu ar dir glas. Er hynny, o fewn yr ardaloedd trefol arfordirol cyraeddadwy, nid oes safleoedd PDL ar gael ar raddfa eang ac felly bydd angen rhyddhau tir glas ar ymyl rhai o’r aneddiadau trefol er mwyn cyfrannu at gyflawni amcanion y Cynllun ac, yn benodol, ar gyfer darparu AHLN.

3.13.2.

Mae’r Cyngor yn credu y bydd y gyfran o AHLN a ddarperir ar leoliadau tir glas yn debygol o fod yn uwch nac ar PDL, lle gallai costau datblygu uwch ostwng cynaladwyedd darparu AHLN. I gyfrannu ymhellach at ddiwallu'r AHLN, bydd y Cyngor yn dyrannu safleoedd addas y mae’r Cyngor yn berchen arnynt i sicrhau darpariaeth uwch lle bo hynny’n bosibl.

3.13.3.

Trwy sicrhau fod digon o safleoedd yn cael eu dyrannu i ganiatáu deg neu fwy o anheddau, bydd y strategaeth yn sicrhau fod cyfran uwch o ddatblygiadau newydd yn cyfrannu at ddarparu AHLN a chyfleusterau hanfodol (gweler Polisi DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’) gan effeithio llai ar asedau naturiol ac adeiledig yr ardal.

3.14.

Ardal Strategaeth Datblygu Trefol

3.14.1.

Yr ardaloedd trefol sy’n cynnig yr ystod fwyaf o gyflogaeth, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae gan yr ardaloedd hyn raddfa uchel o fynediad i gludiant cyhoeddus a dulliau cynaliadwy eraill, ac mae ganddynt yr angen uchaf am AHLN.  Maent yn elwa o goridor rheilffyrdd a ffyrdd strategol sy’n mynd ar hyd Gogledd Cymru ac yn cysylltu'r prif ganolfannau sy’n cael eu cydnabod yng Nghynllun Gofodol Cymru, sy’n chwarae rôl bwysig wrth gynnal yr economi leol. I wellau eu rolau a mynd i’r afael ag anghenion a materion cymunedol, bydd y Cyngor yn canolbwyntio'r mwyafrif o gyflogaeth a rhai i’r dyfodol ar gyfuniad o dir sydd wedi’i ddatblygu’n barod (PDL) a thir glas yn y lleoliadau hyn, yn benodol drwy gymunedau presennol, datblygiad annisgwyl a dyraniadau newydd.  I ganiatáu dyraniadau newydd ar gyfer tai, mae ‘terfynau aneddiadau’ wedi’u hymestyn. Ni fydd datblygiadau tu allan i derfynau aneddiadau newydd yn cael eu caniatáu yn y lleoliadau hyn er mwyn diogelu'r amgylchedd naturiol a hanesyddol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol ar gyfer datblygiadau cyflogaeth ac ar gyfer angen AHLN ar safleoedd eithriad yn gyfagos i Lanrwst.

3.14.2.

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio y rhan fwyaf o ddatblygiad y dyfodol yng nghanolbwynt strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn a’r aneddiadau trefol o’u cwmpas. Er hynny, mae’n hanfodol fod datblygiad wedi’i ddylunio’n dda, yn cyfrannu at effeithlonrwydd ynni ac yn cael ei gefnogi gydag isadeiledd, cludiant a gwasanaethau, gofod agored a chyfleusterau cymunedol. Fel canolfan adwerthu strategol isranbarthol, bydd hyfywedd, cynaladwyedd a pha mor ddeniadol yw Llandudno yn cael ei ddiogelu a’i wella.  Drwy’r Cynllun Adfywio Strategol, bydd Prif Gynllun Bae Colwyn yn cyfrannu at adfywio ffisegol drwy wella'r ddarpariaeth tai, rheoli Tai Amlbreswyl (HMO), cynnig mwy o swyddi, mynediad at wasanaethau a’r amgylchedd cyffredinol. Drwy Brif Gynllun Cyffordd Llandudno, bydd Cyffordd Llandudno’n gweld gwelliannau datblygu i greu defnyddiau cymysg cynaliadwy a chymdogaethau preswyl gyda chymysgedd o fathau o dai a gweithleoedd.  Bydd y Cyngor yn cydweithredu ac yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddarparu isadeiledd a’r cyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi'r datblygiad hwn.

3.14.3.

Dros gyfnod y Cynllun, bydd yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol yn gartref i tua 85% o’r gofynion tai hyd at 2022. Bydd oddeutu 80% o’r gofynion cyflogaeth (B1, B2 & B8) hefyd yn cael eu darparu gan yr ardaloedd trefol o fewn cyrraedd hyn yn bennaf drwy gyfnerthiad a darparu ymrwymiadau a dyraniadau presennol yn ardal Cyffordd Llandudno.

3.14.4.

Er bod gan bob un o’r Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol eu nodweddion eu hunain, mae nifer o’r lleoliadau trefol yn profi cysylltiadau agos a swyddogaethau.

3.14.5.

Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy

Mae Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy’n darparu swyddogaeth ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd bwysig i Ardal y Cynllun ac wedi’i lleoli ar hyd coridor rheilffyrdd a ffyrdd strategol cryf. Dros gyfnod y cynllun rhagwelir y bydd oddeutu 2,040 (30%) o anheddau newydd yn cael eu darparu ar dir PDL a thir glas ac ar ymyl Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy i ddiwallu'r angen am farchnad ac AHLN. Mae hyn yn cynnwys cartrefi newydd sydd eisoes wedi eu cwblhau neu wedi derbyn caniatâd. Dyrannwyd tua 10 hectar o dir gyflogaeth yng Nghyffordd Llandudno, Conwy a Llandudno, i ddiwallu anghenion cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn rhannol yn Ardal y Cynllun. Bydd canolbwyntio datblygiad ar y lleoliadau hyn yn cyfrannu at hyrwyddo ffyrdd o fyw cynaliadwy ac yn annog ymhellach y boblogaeth ifanc bresennol ac i’r dyfodol i aros a gweithio yn yr ardal.

3.14.6.

Ni fydd Canol Tref Llandudno yn darparu ar gyfer unrhyw adwerthu cyfleustra na nwyddau cymharol o bwys pellach hyd at 2011, ond bydd yn cael ei ddiogelu a’i wella, lle bo hynny’n bosibl, i sicrhau cymysgedd cytbwys o ddefnyddiau sy’n cynnal gweithgaredd drwy’r dydd a gyda’r nos.  I wella mynediad a lleihau tagfeydd, bydd cyfleuster cyfnewid yn cael ei ddarparu yng Ngorsaf Drenau Llandudno. Bydd y llety twristiaeth wedi’i wasanaethu sydd ar gael yn Llandudno’n cael ei ddiogelu, a lle bo’n bosibl, yn cael ei wella i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw, ond bydd yn arallgyfeirio ymhellach tuag at dwristiaeth drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys twristiaeth busnes, a manteisio ar ein cysylltiadau strategol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.

3.14.7.

Mae Cyffordd Llandudno yn cael ei hyrwyddo fel canolbwynt economaidd allweddol yng nghalon Gogledd Cymru. Bydd cwblhau adleoliad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r ardal a gwireddu’r safleoedd defnydd cymysg bwriedig yn gwella’r dref ymhellach fel porth ar gyfer y dyfodol. Bydd y cyswllt rhwng elfen breswyl a chanol tref Cyffordd Llandudno i’r gogledd o’r rheilffordd a’r defnyddiau tir cyflogaeth ac adwerthu i’r de yn cael eu gwella, yn benodol drwy godi pont droed newydd o’r orsaf rheilffordd i’r ardal hamdden ac adloniant.

3.14.8.

Yn Nhref Conwy, mae siopau cyfleustra’n gorfasnachu a gallai hyn fod yn niweidiol i ddewis lleol ac ansawdd y profiad adwerthu. Er y byddai mantais ansoddol i ddatblygu cyfleuster adwerthu sy’n darparu siopa ‘ail-lenwi’ o ddydd i ddydd, mae’r Cynllun yn cydnabod nad oes unrhyw safleoedd priodol o fewn muriau’r dref ac y bydd diogelu'r amgylchedd hanesyddol yncael blaenoriaeth dros ddiwallu'r angen adwerthu.

3.14.9.

Bae Colwyn, Mochdre, Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn

Mae Bae Colwyn yn gwasanaethu anghenion adwerthu, preswyl ac economaidd y dalgylch o’i chwmpas ac wedi’i leoli ar hyd coridor ffyrdd a rheilffyrdd strategol. I wella ei rôl strategol, mynd i’r afael ag amddifadedd a chyflawni'r amcanion gofodol cyffredinol dros gyfnod y cynllun, rhagwelir y bydd oddeutu 1,700 (25%) o anheddau newydd yn cael eu darparu ar dir a ddatblygwyd eisoes a thir glas yn yr ardaloedd allweddol hyn, gan gynnwys  anheddau newydd sydd eisoes wedi'u cwblhau neu wedi derbyn caniatâd.  Bydd canolbwyntio ar ddatblygu tai yn y lleoliad cyraeddadwy hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gyflawni'r weledigaeth a’r amcanion.

3.14.10.

Bydd tref Bae Colwyn wedi gwireddu ei photensial llawn ar ôl gweithredu Prif Gynllun Bae Colwyn. Bydd yr ardal wedi’i hadfywio, ei diogelu a’i gwella i sicrhau cymysged cytbwys o ddefnyddiau i greu canol tref ffyniannus ac amgylchedd deniadol sy’n cynnal y dydd a’r nos. 

3.14.11.

Abergele, Tywyn a Bae Cinmel (gan gynnwys Pensarn)

Mae Abergele, Tywyn a Bae Cinmel yn ardaloedd allweddol sy’n gwasanaethu anghenion gwasanaeth hanfodol y dalgylch o’u cwmpas.  Gan eu bod wedi’u lleoli ar hyd coridor ffyrdd strategol a’i gefnogi gan gyfleusterau a gwasanaethau presennol, bydd datblygiadau tai a chyflogaeth yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion y gymuned a gwella swyddogaeth yr ardal.  Dros gyfnod y Cynllun rydym yn rhagweld y caiff oddeutu 1,360 (20%) o anheddau newydd eu darparu ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol a thir glas yn yr ardaloedd allweddol hyn gan gynnwys cartrefi newydd sydd eisoes wedi'u cwblhau neu wedi derbyn caniatâd. Mae’r lefel twf a’r dyraniadau adeiladu newydd yn yr ardal yn adlewyrchiad clir o’r datblygiadau annisgwyl gwael yn y gorffennol yn dod i’r amlwg, ymrwymiadau isel, gofynion tai fforddiadwy uchel a chyfyngiadau i’r dwyrain o’r Sir yn Nhowyn a Bae Cinmel. I gyfrannu at anghenion cyflogaeth Ardal y Cynllun, gan ystyried pa mor ychydig o dir a ddefnyddir ar gyfer cyflogaeth ym Mharc Busnes Abergele, cyfrannu at ostyngiad mewn lefelau allgymudo a goresgyn ardaloedd mawr o dir cyfyngedig, bydd tua 8 hectar o dir cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn cael ei ddyrannu yn yr ardal hon. Bydd Abergele, Bae Cinmel a Thywyn hefyd yn elwa o welliannau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Ardal Adfywio Strategol.

3.14.12.

I wireddu potensial datblygu yn Abergele a lleihau’r effaith ar ganol y dref, bydd gwaith adeiladu Cynllun Gwella Traffig yn dechrau i leihau llif traffig, tagfeydd a lleihau pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd o gwmpas. Bydd rhagor o gysylltiadau cynaliadwy a diogelach yn cael ei gwireddu drwy gwblhau Llwybr Cenedlaethol 6 SUSTRANS a phont feics/ cerddwyr newydd yn natblygiad Harbwr y Foryd ym Mae Cinmel. 

3.14.13.

Mae Tywyn a Bae Cinmel yn wynebu lefelau risg llifogydd uchel a fydd yn golygu cyfleoedd datblygu cyfyngedig i’r dyfodol. Mae’r Cynllun yn cydnabod y bydd diffyg datblygiad o’r fath yn debygol o fod yn niweidiol i’r ardal oherwydd bod posibilrwydd y bydd nifer o safleoedd tir llwyd yn dod yn wag ac yn parhau’n wag yn y lleoliadau hyn. I helpu atal dirywiad pellach, mae’r Cynllun yn dynodi ardaloedd gwella tirlun/amgylcheddol er mwyn cyflawni gwelliannau i’r amgylchedd naturiol/adeiledig, gan gynnwys creu cynefinoedd bywyd gwyllt.  Mae’r ardaloedd a ddynodwyd yn canolbwyntio ar brif gysylltiadau, pyrth a thirluniau sydd yn denu rhagor o sylw gan drigolion a thwristiaid.

3.14.14.

Llanfairfechan a Phenmaenmawr

Mae Llanfairfechan a Phenmaenmawr yn aneddiadau trefol hunangynhwysol llai gydag ystod o gyfleusterau a gwasanaethau hanfodol. Dros gyfnod y Cynllun bydd 340 (5%) o anghenion tai’n cael eu dyrannu yn y lleoliadau hyn, yn bennaf i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy.

3.14.15.

Llanrwst

Mae Llanrwst yn cael ei ystyried yn ardal drefol ac yn rhan o’r Ardal Strategaeth Datblygu Trefol o ganlyniad i’w faint. Y cyfleusterau a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig a’r gefnogaeth mae’n eu darparu i’r Prif Bentrefi a’r Pentrefi Llai. Mae Llanrwst hefyd mewn lleoliad gwledig tua 13 milltir i’r de o dref Conwy. Nid yw mor gyraeddadwy o safbwynt ei safle a’i fynediad at y rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd strategol nac at gyfleoedd gwaith.  Am y rhesymau hyn, bydd ardal drefol Llanrwst yn caniatáu elfen o ddatblygiad marchnad, AHLN a chyflogaeth i gyfrannu at y galw, ond bydd graddfa’r datblygiad is na’r hyn a gynigir yn y lleoliadau arfordirol trefol i ddiogelu ei gymeriad gwledig, a’i amgylchedd naturiol ac adeiledig. Er mwyn adlewyrchu’r rôl wasanaeth allweddol mae Llanrwst yn ei chwarae i’r aneddiadau gwledig sydd o’i hamgylch, defnyddiwyd lefel uchel o dai wrth gefn. Bydd safleoedd tai wrth gefn yn cael eu dwyn ymlaen i ddarparu gofynion tai yn Llanrwst ac i ddelio ag unrhyw faterion gyda darparu yn yr aneddiadau gwledig yn unol â’r Cynllun Monitro a Gweithredu.

3.15.

Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig

3.15.1.

Nod y strategaeth ar gyfer yr ardal wledig yw hyrwyddo economi wledig gynaliadwy a chyfrannu at ddiwallu'r AHLN yn y Prif Bentrefi, y Pentrefi Llai a’r Pentrefannau, i ddileu unrhyw anfanteision cymdeithasol tra ar yr un pryd cadw eu cymeriad naturiol ac adeiledig.  Mae nifer o’r aneddiadau gwledig yn yr Hierarchaeth Aneddiadau (gweler Polisi DP/2) yn cyflawni swyddogaethau unigol gwahanol, ond ar yr un pryd yn cefnogi ac yn darparu cysylltiadau hanfodol i gymunedau eraill.

3.15.2.

Mae ffermio’n parhau i fod yn rhan hanfodol o'r economi wledig ac yn bwysig i ddiogelu cymeriad ac ymddangosiad tirlun. Dros y blynyddoedd mae rhywfaint o arallgyfeirio wedi bod o weithgareddau gwledig traddodiadol yn bennaf trwy ailddefnyddio'r fferm ac adeiladau eraill i bwrpasau busnes. Nid yn unig mae hyn wedi helpu cynnal cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig ond mae hefyd wedi galluogi rhai ffermydd i barhau yn weithredol gan fod y gweithgaredd a arallgyfeiriwyd yn cefnogi'r busnes ffermio. Drwy ganiatáu trawsnewidiadau addas i adeiladau ar gyfer defnydd busnes neu fentrau gwaith byw, gan gynnwys twristiaeth, nod y Cyngor yw cefnogi'r economi wledig. Er hynny, mae’n bosibl y bydd trawsnewidiadau preswyl yn fwy priodol mewn rhai lleoliadau ac ar gyfer rhai mathau o adeiladau i gefnogi busnes ac AHLN.

3.15.3.

Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi agwedd gytbwys tuag at arallgyfeirio drwy drawsnewid adeiladau gwledig cyn belled nad yw’n arwain at effeithiau amgylcheddol annerbyniol ac nad yw’n cael effaith negyddol ar gymeriad cefn gwlad.

3.15.4.

Mae Ardal y Cynllun yn ardal bwysig ar gyfer twristiaeth. Mae’r cefn gwlad ei hun yn atyniad gyda digonedd o gyfleoedd hamdden. Bydd y strategaeth yn cefnogi gwell mynediad at, a mwynhad o, gefn gwlad drwy gydol yr Ardal Cynllun gwledig.

3.15.5.

Prif Bentrefi

Ystyrir Dwygyfylchi, Glan Conwy, Llanddulas a Llysfaen yn Brif Bentrefi Haen 1. Ystyrir Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Tal-y-Bont / Castell*, Trefriw* yn Brif Bentrefi Haen 2.  Maent yn darparu ystod bwysig o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys siopau, i’r aneddiadau gwledig o’u cwmpas.  Mae'r Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu lefel uwch o gyfleusterau a gwasanaethau na Phrif Bentrefi Haen 2 ac mae ganddynt fynediad cynaliadwy uwch at ardaloedd trefol uwch. Mae’n bwysig bod y lefel presennol o gyfleusterau a gwasanaethau yn cael eu diogelu lle bo hynny’n bosibl. Bydd y Cynllun yn chwarae ei ran trwy wrthsefyll colli siopau pentref a swyddfeydd post a diogelu gofod agored presennol. Bydd y Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o werth y farchnad ac AHLN o ymrwymiadau presennol, ar safleoedd a ddyrennir ac o ddatblygiad annisgwyl, i wireddu amcanion gofodol ar gyfer darparu AHLN a diogelu'r amgylchedd naturiol a hanesyddol.  O fewn y Prif Bentrefi Haen 2, bydd AHLN ond yn cael eu darparu ar safleoedd a ddyrannir i gynrychioli'r lefel o gyfleusterau a gwasanaethau ac i ddiogelu'r iaith Gymraeg.  Ar y cyfan bydd cynlluniau o’r fath yn llai na’r rhai a ganiateir yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol, a byddant yn cael eu cyflwyno fesul cam yn unol â darpariaeth isadeiledd. Bydd AHLN 100% ar raddfa fechan yn cael eu caniatáu ar ymyl yr anheddiad os yw’n diwallu anghenion lleol. Bydd datblygiadau adwerthu, masnachol a hamdden llai yn cael eu caniatáu ar raddfa sy’n briodol i swyddogaeth yr anheddiad a lle ei fod yn gwella cynaladwyedd.

3.15.6.

Dros gyfnod y cynllun, bydd oddeutu 680(10%)o’r gofynion tai yn cael eu dosbarthiadau rhwng yr aneddiadau hyn (gan gynnwys y Pentrefi Llai a Phentrefannau) drwy ymrwymiadau presennol, safleoedd annisgwyl a dyraniadau newydd yn bennaf yn yr aneddiadau Haen 1.  Bydd oddeutu 20% o’r gofyniad cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn cael eu dyrannu a’u caniatáu yn y lleoliadau hyn i gefnogi datblygiad cynaliadwy. Er hynny, mae’r cynllun yn cydnabod fod y cyfyngiadau datblygu yn Nolgarrog, Tal y Bont a Threfriw a’r cysylltiadau gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Yn Nolgarrog, bydd y safle cyflogaeth presennol yn yr hen Waith Alwminiwm yn cael ei ddiogelu ar gyfer defnydd cymysg (cyflogaeth/hamdden/twristiaeth). Ni fydd unrhyw ddatblygiad pellach tu allan i derfyn anheddiad Trefriw dros gyfnod y cynllun o ganlyniad i lifogydd a chyfyngiadau topograffeg.

*Yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri

3.15.7.

Pentrefi Llai

Mae Pentrefi Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanelian, Llanddoged, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Llan San Siôr, Tal-y-Cafn, Tyn-y-Groes yn aneddiadau llai lle caniateir datblygiad cyfyngedig i ddiwallu anghenion y gymuned, diogelu'r cyfleusterau a’r gwasanaethau presennol a diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Nid oes terfynau anheddiad ar gyfer Pentrefi Llai ac ni ddyrannwyd tir ar gyfer y farchnad dai a chyflogaeth. Er hynny, caniateir stadau bach sy’n 100% tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol 100% i ddiwallu anghenion y gymuned, fel eithriadau o fewn yr anheddiad, neu ar ei derfynau. Bydd datblygiadau adwerthu, masnachol a hamdden yn cael eu caniatáu ar raddfa sy’n gymesur â swyddogaeth yr anheddiad hefyd yn cael ei ystyried lle maent yn gwella cynaladwyedd.

* yn rhannol ym Mharc Cenedlaethol Eryri

3.15.8.

Pentrefannau

Mae Pentrefannau Bod Tegwal, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel Glyn Myfyr, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron yn llai o faint na’r pentrefi llai ac ychydig iawn o gyfleusterau a gwasanaethau sydd ganddynt.  Ychydig iawn o ddatblygiad fydd yn y Pentrefannau yn ystod cyfnod y cynllun.  Bydd cynigion datblygu graddfa fechan sy’n helpu arallgyfeirio'r economi wledig, creu gwell cysylltiadau â’r Parc Cenedlaethol a darparu cyfleusterau cymunedol allweddol yn cael eu hannog.  Gallai Pentrefannau fod yn briodol ar gyfer aneddiadau gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth, trawsnewid anheddau ar gyfer AHLN, darparu AHLN unigol, cynlluniau arallgyfeirio ffermydd a datblygiadau eraill gydag anghenion lleoliad penodol.

*Yn rhannol ym Mharc Cenedlaethol Eryri

3.15.9.

Cefn Gwlad Agored

O fewn cefn gwlad agored, bydd anheddau gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth, trawsnewid anheddau ar gyfer AHLN a chynlluniau amrywio ffermydd yn cael eu hystyried lle’u bod yn diwallu anghenion a ddynodwyd yn lleol, yn cefnogi'r economi ac yn diogelu cefn gwlad agored.

3.16.

Diagram Allweddol

3.16.1.

Mae’r Diagram Allweddol yn darparu dehongliad ar ffurf diagram o’r Strategaeth CDLl, sy’n amlinellu'r Strategaeth CDLl ar raddfa'r Fwrdeistref Sirol gyfan. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ddiagram strategol allweddol ychwanegol ar y strategaeth cludiant, yr hierarchaeth adwerthu a’r Map Cynigion.  Mae’r diagram hwn, wedi ei gefnogi gan y diagramau uchod, yn amlinellu'r egwyddorion gofodol eang yn y Strategaeth ac nid yw’n fwriad iddo fod yn fanwl neu’n benodol i safleoedd. Mae’r cyfeiriadau polisi a ffafrir yn cael eu hadlewyrchu yn y diagramau, i hwyluso ymgynghoriad cymunedol a gwerthusiad cynaladwyedd. 

Related Map Links

Some sections of this text contain a 'globe with link' icon. Clicking on this icon will take you to the map that is relevant to this text.

Sometimes, there is no spatial component or map feature that is specific to the text. In this case the link will take you to the overview map of the relevant map.

If there is a specific area relevant to the text it will be shown as a red highlighted overlay on the map at a suitable viewing scale.

« Back to contents page | Back to top