4. ADRAN PEDWAR - POLISÏAU GOFODOL, DIAGRAMAU ALLWEDDOL A PHOLISÏAU RHEOLI DATBLYGIAD CEFNOGOL

4.1.

Egwyddorion Datblygu

4.1.1.

Egwyddorion sy'n pennu Lleoliad Datblygiad

4.1.1.1.

Mae egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn greiddiol i Gynllun Datblygu Lleol  (CDLl) Conwy. Mae datblygiad cynaliadwy yn golygu cyflawni sefydlogrwydd economaidd a symud anghyfartaledd cymdeithasol ac ar yr un pryd amddiffyn a gwella'r amgylchedd. Nod Polisïau'r Egwyddor Datblygu yw sicrhau bod lleoliad, graddfa a'r math o ddatblygiad a ganiateir yn dilyn egwyddorion datblygiad cynaliadwy ac yn cyflawni enillion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghonwy.

4.1.1.2.

Cynigir lefelau uchel o ddatblygiadau newydd, yn enwedig, o fewn lleoliadau hygyrch Ardal Strategaeth Datblygu Trefol Conwy dros gyfnod y cynllun. Nid canlyniad uniongyrchol datblygiadau a gwblhawyd yn y gorffennol a thueddiadau o fewn ardal llain yr arfordir yw hyn, ond canlyniad ei chysylltiadau a'i phwysigrwydd ar gyfer cyflogaeth, ei hygyrchedd a'r galw  a’i natur atyniadol fel lle da i fyw ynddo. Cefnogir Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol yma gan Strategaeth Ardal Datblygu Gwledig sy'n pennu'r dull ar gyfer diwallu anghenion aneddiadau gwledig Conwy. Mae cymeriad gwledig yn bennaf, a dyluniad generig y gorffennol yn y Fwrdeistref Sirol yn ei gwneud yn arbennig o bwysig fod datblygiadau newydd yn cael eu lleoli mewn modd sensitif a'u dylunio i ansawdd uchel er mwyn cyfrannu at gwrdd â'r amcanion uchod.

4.1.1.3.

Ystyriwyd nifer o egwyddorion wrth ddyrannu tir yn y CDLl hwn. Mae angen ystyried yr egwyddorion hyn yn llawn mewn datblygiadau newydd arfaethedig, boed fawr neu fach ac ar gyfer pa ddiben bynnag, boed yn adeiladau newydd neu'n addasiadau i adeiladau presennol, fel bod rhinweddau arbennig ardal yn parhau. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn hyrwyddo mannau cynaliadwy ansawdd uchel lle mae pobl yn dymuno byw, gweithio ac ymlacio ynddynt. Mae'r bennod hon felly’n cynnwys polisïau egwyddor allweddol sy'n ymwneud â datblygiad cynaliadwy, ac yn amlinellu’r meini prawf blaenoriaeth y bydd angen i’r datblygiad newydd eu cyflawni, mewn egwyddor, o ran sicrhau datblygiad cynaliadwy wedi’i leoli’n briodol.

4.1.1.4.

Mae'n rhaid i bob cynnig ar gyfer datblygu a defnyddio tir fod yn gynaliadwy a chyfrannu at gwrdd ag anghenion y gymuned leol. Er mwyn cynaliadwyedd, lleolir twf yn y prif leoliadau trefol ar lain yr arfordir o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol fel y lleoliadau mwyaf hygyrch a chynaliadwy. Mae hyn hefyd yn cydymffurfio â'r Strategaeth Gofodol a DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol'. Wrth sicrhau datblygiad cynaliadwy, aseswyd y dyraniadau hyn yn erbyn y meini prawf datblygiad cynaliadwy yn DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygiad Cynaliadwy’ gan bennu'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygiad. Bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hyn.

4.1.1.5.

Bydd rôl swyddogaeth gwasanaeth y Prif Bentrefi i'r Pentrefi Bychain a Phentrefannau yn cael ei diogelu, ei chynnal a'i datblygu ymhellach. Bydd cymeriad a bywiogrwydd y Pentrefi Bychain a'r Pentrefannau yn cael eu hamddiffyn a bydd datblygiad ar raddfa fach yn dderbyniol ar yr amod ei fod yn 100% AHLN, gyda dyluniad cynhwysol cynaliadwy sy’n gydnaws â chymeriad yr ardal, arwahanrwydd y lle a’i fod yn ei wella.

4.1.1.6.

Bydd pob cynnig datblygu yn cael ei asesu yn nhermau'r anghenion a nodwyd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a'u heffaith posib ar gymunedau a'r amgylchedd. Disgwylir i gynigion datblygu wneud defnydd effeithlon o'r tir a mabwysiadu dull dilyniannol sy'n rhoi blaenoriaeth i leoliadau hygyrch a Thir a Ddatblygwyd o'r Blaen. Dylai cynigion yn Ardal y Cynllun geisio hyrwyddo cynaliadwyedd trwy arddangos bod y meini prawf canlynol a nodwyd ym Mholisi DP/1 ‘Datblygiad Cynaliadwy’ wedi cael eu hystyried:

POLICY DP/1 - EGWYDDORION DATBLYGIAD CYNALIADWY View Map of this site ?

  1. Caniateir datblygiad yn unig lle dangosir ei fod yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Mae'n ofynnol i bob datblygiad:
  1. Cydymffurfio ag arweiniad cenedlaethol yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Canllawiau Cenedlaethol’;
  2. Bod yn gyson â’r dull dilyniannol a nodir ym Mholisi Gofodol DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol’; >
  3. Gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o dir, adeiladau ac isadeiledd trwy roi blaenoriaeth i ddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes mewn lleoliadau hygyrch, cyflawni ffurfiau cryno o ddatblygiad trwy ddefnyddio dwyseddau uwch  y gellir eu haddasu yn y dyfodol; yn unol â Pholisi DP/2 a pholisïau cysylltiedig eraill yn y Cynllun;
  4. Cadw neu wella ansawdd adeiladau, safleoedd a mannau o bwysigrwydd hanesyddol, archeolegol neu bensaernïol yn unol â Pholisi Strategol CTH/1 – ‘Treftadaeth Ddiwylliannol’;
  5. Cadw neu wella ansawdd bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt, a diogelu rhywogaethau a warchodir yn unol â Pholisi  Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol' a Chanllawiau Cynllunio Atodol CDLL 5 – ‘Bioamrywiaeth a Chynllunio’;
  6. Ystyried ac ymdrin â pherygl llifogydd a llygredd sŵn, golau, dirgryniadau, arogl, allyriadau neu lwch yn unol â Pholisi DP/2 a DP/3 – ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Troseddau';
  7. Defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn effeithlon trwy ddefnyddio technegau adeiladu cynaliadwy sy’n cynnwys camau cadwraeth ynni a dŵr a, lle bynnag y mae hynny'n bosib, defnyddio ynni adnewyddadwy, yn unol â Pholisi DP/3 a Pholisi Strategol NTE/1.

  1. Lle mae hynny’n briodol dylai cynigion datblygu hefyd

  1. Ddarparu mynediad diogel a hwylus trwy gludiant cyhoeddus ar feic ac ar droed i leihau'r angen i deithio mewn ceir yn unol â Pholisi DP/2 a Pholisi Strategol STR/1- ‘'Cludiant Cynaliadwy';
  2. Cynnwys camau rheoli traffig a lleihau tagfeydd  yn unol â Pholisi Strategol STR/1;
  3. Darparu ar gyfer isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n ofynnol oherwydd y datblygiad, yn unol â Pholisïau DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu', DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd' a Monitro a Gweithredu'r Cynllun;
  4. Cael eu dylunio i safon uchel, gan fod yn ddeniadol, hwylus i'w haddasu, hygyrch, a diogel fel y nodir ym Mholisi DP/3;
  5. Hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy yn unol â Pholisi Strategol EMP/1 – ‘Cwrdd â’r Angen am Gyflogaeth’;
  6. Cadw neu wella ansawdd mannau agored gwerthfawr, cymeriad ac ansawdd tirweddau lleol a chefn gwlad ehangach yn unol â pholisïau strategol NTE/1 a CFS/1- ‘'Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol';
  7. Ystyried ac ymdrin ag effaith bosibl newid hinsawdd yn unol â Pholisi Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol’;
  8. Amddiffyn ansawdd adnoddau naturiol cynnwys dŵr, aer a phridd yn unol â NTE1;
  9. Lleihau cynhyrchu gwastraff a rheoli ailgylchu gwastraff yn unol â Pholisi Strategol MWS/1 – ‘Mwynau a Gwastraff’.

  1. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno Datganiad Cynaladwyedd i ddangos bod egwyddorion datblygiad cynaliadwy wedi cael eu gweithredu yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Ategol Datblygiad Cynaliadwy.
4.1.1.7.

Mae egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn sylfaenol i ymrwymiadau rhyngwladol ac i bolisïau cynllunio strategol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r egwyddorion hyn hefyd yn sail i'r strategaeth, a holl bolisïau a chynigion CDLl Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae o bwysigrwydd allweddol i lwyddiant parhaus y Fwrdeistref Sirol bod datblygiad yn gynaliadwy ac yn cyfrannu at gyflawni enillion amgylcheddol, economaidd a cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a'r dyfodol.

4.1.1.8.

Mae'r polisi allweddol yma yn dwyn ynghyd materion cynaliadwyedd i sicrhau bod egwyddorion sylfaenol datblygiad cynaliadwy yn sylfaen i bob cynnig datblygu. Trafodir y materion hyn yn fanylach mewn penodau dilynol. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at faterion cynaliadwyedd allweddol dulliau a deunyddiau adeiladu, a fydd yn rhan o ystyriaeth gyffredinol y cynnig datblygu, ond nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r system gynllunio.

4.1.1.9.

Mae'n ofynnol cyflwyno Datganiad Arfarniad Cynaladwyedd (DAC) gyda phob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau, i ddangos eu bod wedi ymdrin â materion cynaliadwyedd, yn eu cynigion datblygu. Nodwyd yr eithriadau i gyflwyno DAC yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Datblygiad Cynaliadwy. Gall y DAC groesgyfeirio’r wybodaeth yn y Datganiad Dylunio a Mynediad ac mewn rhannau eraill o’r cais. Ond, dylid darparu crynodeb o’r wybodaeth yn y Datganiad Cynaladwyedd i gynorthwyo i asesu’r wybodaeth yn erbyn y Rhestr Wirio Cynaladwyedd yn LDP 7 – CCA ‘Datblygiad Cynaliadwy’.

4.1.1.10.

Mae arweiniad pellach i helpu gyda llunio Datganiad Arfarniad Cynaladwyedd  yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Datblygiad Cynaliadwy.

4.1.2.

Dull Strategol Trosfwaol

4.1.2.1.

Amcanion Strategol

AG1.  Sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu, a diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig ar yr un pryd, drwy hyrwyddo lefelau datblygiad digonol a phriodol, gan leoli datblygiadau ar dir sydd wedi’i ddatblygu’n barod os yw hynny’n ymarferol ac yn yr aneddiadau mwy ar yr arfordir yn bennaf ac ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, gan ddynodi a diogelu asedau amgylcheddol allweddol, a sicrhau bod dwysedd datblygiad yn effeithlon ac yn cyd-fynd â’r amwynder lleol.

AG3. Darparu tir i alluogi cyflenwad digonol ac amrywiol o dai i gyfrannu at anghenion, yn cynnwys tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol ac i gwrdd â'r angen ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ar raddfa sy’n gyson â gallu ardaloedd a chymunedau gwahanol i dyfu.

AG4.  Nodi a diogelu digon o dir i ddiwallu anghenion y gymuned am ragor o swyddi, ffyniant economaidd uwch a lefelau cymudo allan o’r sir is, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyfleoedd cyflogaeth gwerth uwch a datblygu sgiliau o gwmpas ac yn agos at ganolfannau strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn, a chanolfannau strategol Y Rhyl, Llanelwy a Phrestatyn, yn cynnwys Bae Cinmel.

AG7. Canolbwyntio datblygiadau ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, ac yn benodol mewn lleoliadau sy'n hwylus i gerddwyr, beicwyr a chludiant cyhoeddus.

POLICY DP/2 - DULL STRATEGOL TROSFWAOL View Map of this site ?

Bydd y datblygiad yn cael ei leoli yn unol â’r dull strategol trosfwaol a nodir isod:

Ardaloedd Trefol

Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (yn cynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn, Conwy, Deganwy / Llanrhos, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Bae Penrhyn / Ochr Penrhyn a Thywyn / Bae Cinmel.

Bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yn digwydd o fewn ac ar gyrion yr ardaloedd trefol hyn. Dros gyfnod y cynllun bydd tua 85% o'r tai ac 80% o ddatblygiadau cyflogaeth (B1, B2 a B8) (trwy ddatblygiadau a gwblhawyd, ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd) yn cael eu lleoli'n bennaf, o fewn ac ar ymyl yr ardaloedd trefol er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau gofodol cyfrannu at greu cymunedau cynaliadwy.

Bydd Ardaloedd Trefol yn allweddol wrth ddarparu cyfuniad o'r farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol (AHLN) ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd.  Bydd ffiniau anheddiad yn cael eu haddasu i adlewyrchu'r datblygiad arfaethedig.  Caniateir AHLN hefyd ar safleoedd eithrio gerllaw Llanrwst.

Prif Bentrefi

Haen 1:

Llanddulas, Dwygyfylchi, Llysfaen, Glan Conwy

Haen 2:

Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Trefriw* a Thal-y-bont/Castell*

Bydd graddfa datblygiad arfaethedig y dyfodol yn adlewyrchu anghenion yr aneddiadau o safbwynt maint a swyddogaeth a'u perthynas ffisegol a swyddogaethol ag ardaloedd trefol. Mae Prif Bentrefi yn darparu gwasanaeth swyddogaethol ar gyfer y Pentrefi Bychain a Pentrefannau a bydd hyn yn cael ei gynnal a'u ddatblygu ymhellach i gwrdd ag anghenion y cymunedau. Dros gyfnod y cynllun bydd tua 15% o'r datblygiadau tai ac 20% o'r datblygiadau cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn cael eu lleoli o fewn Prif Bentrefi, Pentrefi Bychain a Pentrefannau, ond yn bennaf ym Mhrif Bentrefi Haen 1 a Haen 2 a'u cyflenwi trwy ddatblygiadau a gwblhawyd, ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd. Er mwyn adlewyrchu cyfyngiadau datblygu yn Nhal-y-bont a Threfriw, bydd datblygiad yn gyfyngedig ac yn cael ei hyrwyddo trwy ddatblygu o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o bris y farchnad a thai fforddiadwy ar gyfer angen lleol (AHLN).  Bydd Pentrefi  Haen 2 yn darparu ar gyfer AHLN yn unig ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd ar raddfa lai na'r hyn a ganiateir mewn Ardaloedd Trefol. Ni chaniateir datblygu pellach y tu allan i ffiniau anheddiad, ac eithrio AHLN graddfa lai 100% ar safleoedd eithrio i hyrwyddo cymunedau cynaliadwy yn unol â Pholisi HOU/5 – ‘Safleoedd Eithriad Gwledig Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol a than amgylchiadau eithriadol i ddiwallu anghenion cyflogaeth yn unol â Pholisi EMP/2 – ‘Datblygiadau Cyflogaeth Newydd B1, B2 a B8’

Pentrefi Bychain

Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-foel, Rowen*, Llan San Siôr, Tal-y-cafn a Thyn-y-groes

Bydd datblygiad cyfyngedig yn digwydd yn y Pentrefi Bychain er mwyn amddiffyn cymeriad yr ardal, cefnogi AHLN a chyfran at greu cymunedau cynaliadwy. Dros gyfnod y cynllun, ni ddyrennir unrhyw safleoedd tai'r farchnad neu safleoedd cyflogaeth, ac ni fydd ffiniau aneddiadau yn cael eu llunio o gwmpas y Pentrefi Bychain. Bydd AHLN unigol neu ystadau bach o AHLN o fewn, neu ar ymyl, Pentrefi Bychain, ar Hap-Safleoedd, yn dderbyniol fel eithriadau, ar yr amod bod y datblygiad arfaethedig yn cwrdd â Pholisi HOU/6

Pentrefannau

Bodtegwel, Bryn-y-maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanelian, Llanfihangel Glyn Myfyr, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre Isa, Pentrellyncymer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan a Than-y-Fron

Dros gyfnod y cynllun, ni roddir dyraniadau ar gyfer datblygiadau mewn Pentrefannau. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caniateir datblygiad. Un eithriad fyddai datblygiad sy’n darparu anghenion tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol unigol mewn lleoliadau derbyniol a chynaliadwy.

*Yn rhannol ym Mharc Cenedlaethol Eryri

4.1.2.2.

Mae'r Dull Strategol Trosfwaol yn diffinio'r fframwaith ar gyfer lleoli'r datblygiad. Mae hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod cefn gwlad yn cael ei warchod rhag datblygiadau ymwthiol graddol ar ymyl pentrefi a helpu i warchod rhag twf graddol mewn lleoliadau anghynaliadwy. Fodd bynnag, yn gyffredinol cefnogir ailddefnyddio effeithlon tir a ddatblygwyd yn barod o fewn fframweithiau datblygu, yn amodol ar fodloni'r polisïau perthnasol, er budd cynaliadwyedd. Diffiniwyd fframweithiau er mwyn ystyried maint presennol yr ardal adeiledig, datblygiadau yr ymrwymwyd iddynt gan ganiatâd cynllunio a chynigion eraill a gafodd eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. 

4.1.2.3.

Gweledigaeth y Strategaeth Gymunedol ar gyfer Conwy yw creu 'Sir o harddwch naturiol eithriadol, a fydd yn parchu, diogelu a hybu ei hamgylchedd a'i threftadaeth; cymuned sy'n gofalu am y rhai anghenus ac sy'n estyn croeso cynnes i'r ymwelwyr niferus a ddaw yno a phobl sy'n dathlu amrywiaeth ac sydd a'u holl fryd ar sicrhau dyfodol hyfyw a ffyniannus i bawb.

4.1.2.4.

Er mwyn cyfrannu at gyflawni’r materion blaenoriaeth o amddiffyn yr amgylched naturiol ac adeiledig a darparu tir i gwrdd ag AHLN, mae'r Cyngor yn hyrwyddo lefel o ddatblygiad dros gyfnod y cynllun sy'n ceisio chwarae rhan mewn cyflenwi'r materion blaenoriaeth hyn. Derbynnir mai dim ond hyrwyddo strwythur oed mwy cytbwys all y cynllun ei wneud. Fodd bynnag, i annog ein poblogaeth ifanc ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i aros a gweithio yn yr ardal, mae'r Cynllun yn hyrwyddo cynnig cyflogaeth amrywiol, safonau dyluniad uchel, a’r math a’r ddaliadaeth briodol o dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Wrth fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n wynebu Conwy, bydd datblygiadau yn cael eu canoli yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy, yn unol â pholisi DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol' yn Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol Abergele, Bae Colwyn, Llandudno a Chyffordd Llandudno. 

4.1.2.5.

Aseswyd addasrwydd safleoedd ar gyfer datblygiad preswyl, busnes neu ganol tref newydd trwy fabwysiadu dull cynllun, monitro, a chyflwyno fesul cam tuag at ddarparu. Mae hyn wedi cynnwys:

  • Adnabod gofynion strategol ar gyfer y ffurf hynny o ddatblygiad a chynnal asesiadau lleol o'r angen a'r cyflenwad posib.
  • Dyrannu safleoedd priodol ar gyfer datblygu i gwrdd â'r gofynion hynny trwy fabwysiadu dull dilyniannol, gan roi'r flaenoriaeth uchaf i dir ac adeiladau o fewn ardaloedd trefol. Lle nad oes modd cwrdd ag anghenion yn y ffordd yma, rhoddwyd ystyriaeth nesaf i safleoedd sy'n ymestyn yr aneddiadau hyn ac sy'n hygyrch i gludiant cyhoeddus o ansawdd da ac yn olaf, lle mae angen, i safleoedd o gwmpas nodau mewn coridorau cludiant cyhoeddus o ansawdd da; rhoi blaenoriaeth yn gyntaf i ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddatblygwyd o'r blaen cyn ystyried defnyddio tir glas addas; rhoi blaenoriaeth i safleoedd sy'n hygyrch i gludiant cyhoeddus, ar droed a beic a rheilffyrdd a dŵr ar gyfer  dibenion cynhyrchu symudiadau cludo nwyddau mawr; ac osgoi safleoedd sy'n cael effaith niweidiol ar asedau ac adnoddau amgylcheddol Conwy.
  • Cyflwyno'r dyraniadau a safleoedd wrth gefn dilynol yn unol â'r dull dilyniannol a nodwyd uchod ac yn y Cynllun Darparu Tai a Chyflwyno fesul Cam (adran 5) a rhoi blaenoriaeth i ryddhau safleoedd sy'n dod yng nghynt yn y drefn chwilio.

4.1.2.6.

Bydd y Cyngor yn amddiffyn ystadau diwydiannol cyflogaeth trefol presennol ym Mharc Busnes Mochdre, ac Ystâd Ddiwydiannol Tre Marl ac yn hyrwyddo twf pellach lle dangoswyd bod galw. Bydd y dull gweithredu yma yn amddiffyn ein pentrefi a chefn gwald trwy leihau nifer y datblygiadau sy'n digwydd ar dir glas.  Bydd hefyd yn helpu i wella cludiant yn y Fwrdeistref Sirol trwy leoli tai, cyflogaeth a gwasanaethau mewn lleoliadau hygyrch. Bydd hyn yn cyfrannu at leihau'r angen i deithio mewn ceir yn ogystal â gwneud defnydd da o isadeiledd presennol a Thir a Ddatblygwyd o'r Blaen.

4.1.2.7.

Er mwyn amddiffyn a lle mae hynny'n bosibl, gwella cymeriad y Prif Bentrefi a'r Pentrefi Bychain, Pentrefannau a chefn gwlad, bydd yno dwf cynaliadwy cyfyngedig sy'n darparu ar gyfer anghenion trigolion ac yn hyrwyddo cymunedau cynaliadwy. Bydd gweithredu safleoedd eithrio a safleoedd 100% a ddyrannwyd ar gyfer AHLN yn ffurfio sail ar gyfer cyflenwi'r AHLN yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Gwledig.

4.1.3.

Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Troseddau

4.1.3.1.

Amcanion Gofodol

AG10.  Sicrhau dylunio da, cynaliadwy a chynhwysol, sy’n hyrwyddo atal troseddau a chreu cymunedau cadarn, gwahanol i’w gilydd ac annog pobl ifanc i aros yn yr ardal neu ddychwelyd iddi.

AG11. Lleihau’r defnydd o ynni trwy leoli a dylunio adeiladau’n ofalus a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy lle mae posibilrwydd y byddant yn ddeniadol o safbwynt economaidd ac yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

AG14. Hyrwyddo’r defnydd darbodus o adnoddau trwy leihau gwastraff a chynorthwyo i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n gyson ag anghenion yr ardal a’r hierarchaeth wastraff.

POLICY DP/3 - HYRWYDDO ANSAWDD DYLUNIO A LLEIHAU TROSEDD View Map of this site ?

  1. Bydd pob datblygiad newydd o safon uchel a’u dyluniad yn gynaliadwy, ac sy’n darparu mannau y gellir eu defnyddio diogel, parhaol a derbyniol, ac yn amddiffyn cymeriad lleol a hynodrwydd amgylchedd adeiledig hanesyddol a naturiol Ardal y Cynllun. Bydd y Cyngor yn mynnu bod datblygiad:

  1. Yn addas ar gyfer ei gyffiniau ac yn eu gwella o ran ffurf, graddfa, crynswth, manylion edrychiad a’r defnydd o ddeunyddiau;
  2. Yn bodloni safonau cymeradwy’r Cyngor o ran darparu mannau agored a mannau parcio, ac ar yr un pryd yn darparu ar gyfer pob oedran, anghenion hygyrchedd, a phobl sydd ag anableddau;
  3. Yn talu sylw i’r effaith ar eiddo cyfagos, ardaloedd a chynefinoedd sy’n cynnal rhywogaethau a ddiogelir;
  4. Yn ystyried cyfeiriadedd priodol, effeithiolrwydd ynni a’r defnydd o ynni adnewyddadwy o ran dyluniad, gosodiad, deunyddiau a thechnoleg yn unol â NTE/7 – ‘Effeithlonrwydd Ynni a Thechnoleg Adnewyddadwy Mewn Datblygu;
  5. Yn darparu systemau draenio trefol cynaliadwy i gyfyngu ar ddŵr gwastraff a llygredd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd yn unol â chanllawiau cenedlaethol a Pholisi NTE/9 – ‘Systemau Draenio Cynaliadwy.

  1. Pan fo hynny’n briodol, bydd y Cyngor hefyd yn ceisio:

  1. Gwella cymeriad lleol adeiladau, treftadaeth a mannau agored;
  2. Darparu ar gyfer cymysgedd cydnaws o ddefnyddiau, yn arbennig yng nghanol trefi a phentrefi;
  3. Ymgorffori tirlunio o fewn ac o amgylch y datblygiad, yn briodol i raddfa ac effaith y datblygiad;
  4. Integreiddio a llwybrau presennol i ddarparu mannau cydgysylltiedig sy’n cysylltu â’r ardal ehangach, a chyfleusterau cyhoeddus a llwybrau cludiant gwyrdd yn enwedig;
  5. Darparu datblygiadau sy’n cynnig dewisiadau cludiant amgen ac yn hyrwyddo cerdded, beicio a’r defnydd o gludiant cyhoeddus;
  6. Creu mannau diogel trwy fabwysiadu egwyddorion dylunio i osgoi trosedd er mwyn darparu gwyliadwriaeth naturiol, gwelededd ac amgylcheddau wedi’u goleuo’n dda ac ardaloedd lle mae’r cyhoedd yn symud o gwmpas;
  7. Sicrhau bod nodweddion bioamrywiaeth yn cael eu cadw a’u gwella;
  8. Ymgorffori ardaloedd a chyfleusterau rheoli gwastraff, cronni/storio dŵr glaw, ailddefnyddio dŵr llwyd ac ailgylchu;
  9. Talu sylw i Ganllawiau Mabwysiadu Ffyrdd yr Awdurdod wrth gynllunio ffyrdd.

  1. Bydd y Cyngor yn gofyn am gyfraniad o ganran a gytunir arni o gyfanswm y costau datblygu i ddarparu neu gomisiynu gweithiau celf neu wella dylunio sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn unol â DP/5 Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’, pan fo hynny’n briodol i’w leoliad a’i hyfywedd.

4.1.3.2.

Bydd pob datblygiad newydd yn cael effaith ar ei gyffiniau ac mae felly’n hanfodol ei fod yn gweddu i gyd-destun ei leoliad er mwyn ymateb iddo ac amgyffred yr ardal. Mae’n rhaid i unrhyw ddatblygiad, boed yn estyniad trefol neu’n estyniad i gartrefi presennol, ymateb i’w cyd-destun. Mae hyn yn cynnwys adeiladau, mannau agored ac ymylon pentrefi, ac yn sicrhau cynllun integredig nad yw’n niweidio amwynder lleol ac sy’n dod â manteision i’r ardal, pryd bynnag y bo modd. Mae dyluniad o safon uchel yn fater y mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth iddo, i annog y boblogaeth ieuengach i aros yn yr ardal a dychwelyd iddi i weithio ac i fyw. Gellir cyflawni datblygiad cynaliadwy drwy greu lleoedd deniadol ac ymarferol sydd â manteision i’r datblygiad ei hun, y trigolion, yr amgylchedd a’r gymuned. Mae datblygiadau sydd wedi’u dylunio’n wael yn annerbyniol. Gallant leihau’r amgyffred o ddiogelwch, cynyddu troseddau, rhwystro ailgylchu, cynyddu’r defnydd o ynni a rhwystro trigolion rhag ymarfer a defnyddio mannau agored lleol.  Ni fydd datblygiadau a ddyluniwyd i safon isel yn cael eu derbyn ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Er mwyn cynorthwyo i sicrhau dyluniad da, paratowyd Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio Cartrefi, a bydd CCA Dylunio yn cael ei baratoi yn unol â’r adain fonitro  i gyd-fynd â Pholisi DP/3.

4.1.3.3.

Dylai pob adeilad newydd fod o safon uchel ac wedi’u dylunio i fod yn gynaliadwy.  Mae’n rhaid iddynt barchu a gwella’r ardal heb niweidio’r amwynder lleol. Dylent ddiogelu a gwella hynodrwydd a chymeriad lleol. Dylai eu graddfa, eu dyluniad a’u defnyddiau fod yn addas i’w lleoliad, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer tirlunio.  Gall celf gyhoeddus gyfrannu’n sylweddol at wella cymeriad a hunaniaeth leol, ac mewn achosion priodol caiff ei gefnogi yn unol â DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ a’r Canllawiau Cynllunio Atodol – Ymrwymiadau Cynllunio. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wella cymeriad naturiol a hanesyddol unigryw Conwy sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan drigolion ac sy’n hanfodol er mwyn denu ymwelwyr. Caiff adeiladau, safleoedd archeolegol, parcdiroedd, afonydd a nodweddion eraill sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad yr amgylchedd adeiledig eu hamddiffyn rhag cael eu dymchwel a rhag datblygiad anaddas.

4.1.4.

Meini Prawf Datblygu

4.1.4.1.

Amcanion Gofodol

AG1. Sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu, a diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig ar yr un pryd, drwy hyrwyddo lefelau datblygiad digonol a phriodol, gan leoli datblygiadau ar dir sydd wedi’i ddatblygu’n barod os yw hynny’n ymarferol ac yn yr aneddiadau mwy ar yr arfordir yn bennaf ac ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, gan ddynodi a diogelu asedau amgylcheddol allweddol, a sicrhau bod dwysedd datblygiad yn effeithlon ac yn cyd-fynd â’r amwynder lleol.

AG13. Gwneud gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol yn fwy hygyrch, gan gynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden.

POLICY DP/4 - MEINI PRAWF DATBLYGU View Map of this site ?

  1. Dylai cynigion datblygu, pan fod hynny’n briodol ac yn unol â pholisïau’r Cynllun a Safonau’r Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Ategol, ddarparu’r canlynol:

  1. Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol;
  2. Mynediad diogel o’r rhwydwaith priffyrdd, a gwella’r isadeiledd cludiant cyhoeddus, beicio a cherdded;
  3. Lle parcio ceir;
  4. Lle diogel i barcio beiciau;
  5. Man Agored;
  6. Mynediad diogel a hwylus i bob adeilad a gofod cyhoeddus, yn cynnwys y bobl hynny sy’n cael trafferth i symud o gwmpas neu sydd â namau eraill ar y synhwyrau, megis ar eu golwg neu eu clyw;
  7. Ardal wedi’i sgrinio ar gyfer gwastraff, yn cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu;
  8. Dyluniad a gosodiad sy’n lleihau’r cyfleoedd i droseddu;
  9. Cyfraniadau ariannol tuag at ddarparu a chynnal a chadw isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau sy’n angenrheidiol i’r datblygiad.

  1. Ni roddir caniatâd cynllunio pe byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol annerbyniol:

  1. Ar amwynder preswyl;
  2. Yn sgil traffig sy’n cael ei gynhyrchu;
  3. Ar fuddiannau archeolegol a’r ffurf adeiledig
  4. Ar yr iaith Gymraeg;
  5. Ar amodau amgylcheddol yn deillio o sŵn, golau, dirgryniad, arogl, allyriadau gwenwynig neu lwch;
  6. Ar fuddiannau ecolegol a bywyd gwyllt a chymeriad y dirwedd;
  7. Ar lifogydd a’r perygl o lifogydd;
  8. Ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlddefnydd;
  9. Ar ansawdd dŵr daear neu ddŵr wyneb;
  10. Ar gyfleusterau cymunedol hanfodol.

4.1.4.2.

Mae’n bwysig fod cynigion datblygu’n cynnwys darpariaeth briodol i gwrdd â’r anghenion a gynhyrchwyd. O’i ddarllen ar y cyd â Pholisïau DP/1 a DP/3 ar ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a ‘Hyrwyddo Ansawdd Dyluniad a Gostwng Trais’, mae’r polisi hwn yn darparu rhestr wirio ar gyfer datblygwyr i’w helpu i sicrhau eu bod yn bodloni’r holl ofynion. Er mwyn osgoi polisi rhy hir a chymhleth, mae llawer o’r meini prawf yn croesgyfeirio at bolisïau eraill yn y Cynllun, sy’n darparu’r manylion llawn.

4.1.5.

Isadeiledd a Datblygiad

4.1.5.1.

Amcan Gofodol

AG13. Gwella hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol, yn cynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden.

POLICY DP/5 - ISADEILEDD A DATBLYGIADAU NEWYDD View Map of this site ?

Bydd disgwyl i bob datblygiad newydd, os yw’n briodol ac yn unol â CCA CDLL4 – ‘Ymrwymiadau Cynllunio’, wneud cyfraniadau digonol tuag at isadeiledd newydd i ddiwallu gofynion isadeiledd cymdeithasol, economaidd, ffisegol ac / neu amgylcheddol ychwanegol sy’n deillio o’r datblygiad neu gynnal a chadw cyfleusterau i’r dyfodol. Ceisir cael cyfraniadau yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor.

4.1.5.2.

Bydd cynigion i ddatblygu yng Nghonwy yn cael eu cefnogi sydd wedi gwneud trefniadau addas i wella neu ddarparu isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ar y safle ac oddi ar y safle, sy’n angenrheidiol oherwydd y datblygiad, ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol.

4.1.5.3.

Mae’n bwysig darparu ar gyfer isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol sy’n deillio o ddatblygiad newydd ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol, yn ogystal â mynediad, parcio, draenio, dyluniad, ynni adnewyddu a thirlunio addas ar y safle.  Mae pob datblygiad newydd yn cyfrannu at alwadau ar isadeiledd, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus presennol. Felly bydd disgwyl i ddatblygwyr gyfrannu at y gwelliannau angenrheidiol neu ddarpariaeth newydd i wasanaethu’r anghenion sy’n deillio o’u datblygiad.  Ni ddylai datblygiad ddigwydd cyn gosod yr isadeiledd sydd ei angen gan y rhai fydd yn byw yno.  Dim ond ar ôl i’r partïon perthnasol ddod i gytundeb ynglŷn ag ariannu a rhaglen weithredu’r ddarpariaeth sydd ei hangen ar y safle ac oddi ar y safle y caiff datblygiad ei ganiatáu, fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Ymrwymiadau Cynllunio. Mae’n amlwg, fodd bynnag, fod cyfyngiadau sylweddol ar rai safleoedd a allai gael effaith ar y gallu i gwblhau safle o safbwynt ariannol.  Yn yr achosion hyn, caniateir rhywfaint o hyblygrwydd.

4.1.5.4.

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol Ymrwymiadau Cynllunio yn cefnogi’r polisi a pholisïau eraill yn y Cynllun ac yn darparu deunydd cyn trafod ar gyfer datblygwyr. Er hynny, o safbwynt hyfywedd ni fyddwn yn mynd ar ôl pob ymrwymiad yn unol â’r mecanweithiau blaenoriaeth a amlinellir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Ymrwymiadau Cynllunio.

4.1.5.5.

Y Doll Isadeiledd Cymunedol (CIL)

Mae’r Doll Isadeiledd Cymunedol (CIL) yn fecanwaith gwirfoddol sy’n caniatáu awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i godi tâl penodol ar y rhan fwyaf o fathau o ddatblygiadau newydd, i ariannu’r isadeiledd sydd ei angen i gefnogi datblygiad yn eu hardal.

4.1.5.6.

Mae’r gyfundrefn ar gyfer y newid hwn rŵan yn caniatáu awdurdodau lleol i osod taliadau ar y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd drwy CIL. Mae’r CIL wedi bod yn destun ymgynghoriadau hir. Yn ei hanfod, dyluniwyd CIL i gymryd lle’r system bresennol o ymrwymiadau cynllunio. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi amlinellu rheolau trawsnewid am gyfnod o 4 blynedd o 6 Ebrill 2010, ac wedi hynny ni all Awdurdodau Lleol ofyn am gyfraniadau tuag at adnoddau a rennir, er enghraifft cyfraniadau ar gyfer gofodau chwarae, drwy gytundebau Adran 106. Bwriad y Cynllun presennol yw sicrhau cyfraniadau drwy Gytundebau Adran 106 nes bod gwaith yn dechrau ar y CIL (dechrau 2013 o bosibl). Bydd y Polisi CDLl ac unrhyw CCA yn gysylltiedig a gyhoeddir yn y cyfamser yn cael ei fonitro bob blwyddyn drwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) a’i ddiwygio os oes angen.

4.1.6.

Canllawiau Cenedlaethol

4.1.6.1.

Amcanion Gofodol

Yn cynnwys yr holl Amcanion Gofodol - AG1 i AG16

POLICY DP/6 - POLISIAU A CHANLLAWIAU CYNLLUNIO CENEDLAETHOL View Map of this site ?

Mae’n rhaid i gynigion datblygu gydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.

4.1.6.2.
Mae polisïau cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad i’w gweld ym Mholisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru a chânt eu hategu gan Nodiadau Cyngor Technegol a Chylchlythyrau a chan Ddatganiadau Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog. Rhaid i awdurdodau Cymru ufuddhau i bolisi cenedlaethol, yn cynnwys Cynllun Gofodol Cymru, wrth baratoi CDLlau Elfen allweddol o’r system gynllunio newydd yw osgoi ailadrodd polisi cenedlaethol yn ddiangen mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Bwriedir i CDLlau fod yn ddogfennau byrrach a mwy penodol, nad ydynt yn ailadrodd polisi cenedlaethol yn ddiangen fel y digwyddodd gyda Chynlluniau Lleol a Chynlluniau Datblygu Unedol y gorffennol.
4.1.6.3.

Mae materion sy’n berthnasol i ardal wledig Conwy a thai yng nghefn gwlad, yn benodol, bellach yn faterion pwysig i gymunedau. Mae canllawiau cenedlaethol yn ymdrin â cheisiadau cynllunio ar gyfer ymestyn tai, codi tai i ddisodli eraill neu drosi tai yng nghefn gwlad, anheddau i gefnogi mentrau gwledig neu dai amaeth a choedwigaeth, ar ffurf paragraffau 7.6.7 i 7.6.10 Polisi Cynllunio Cymru, a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ (2000).  Yn ogystal â hyn, caiff safleoedd sy’n bwysig i fioamrywiaeth, o safbwynt daearegol neu hanesyddol, eu hamddiffyn gan ganllawiau Ewropeaidd a chenedlaethol.  Bydd NCT 15: ‘Datblygu a’r Perygl o Lifogydd’ hefyd yn berthnasol i bob cais cynllunio ac felly, ni chânt eu hailadrodd yn y CDLl hwn.  Cynhaliwyd ymarfer cwmpasu trwyadl o’r holl ganllawiau cenedlaethol fel y nodir yn BP1 ‘Cynlluniau a Strategaethau Cysylltiedig’ er mwyn deall meysydd sy’n cael eu hailadrodd. Er mwyn rhoi’r canllawiau cenedlaethol perthnasol sy’n berthnasol i rai ceisiadau cynllunio i’r sawl sy’n defnyddio fersiwn i’w Archwilio gan y Cyhoedd CDLl Diwygiedig Conwy, fodd bynnag, bydd y Cyngor yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y wefan gyhoeddus ac yn darparu nodiadau arweiniad.

4.1.6.4.
Mae Polisi DP/6 yn mynnu bod pob cais cynllunio yn destun canllawiau cynllunio diweddar er mwyn osgoi ailadrodd diangen drwy’r CDLl. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynnwys datganiadau clir ar bolisi rheoli datblygu cenedlaethol, na ddylid gorfod eu hailadrodd fel polisi lleol mewn CDLlau. Lle mae’r CDLl Diwygiedig i’w Archwilio gan y Cyhoedd hwn yn osgoi ailadrodd mae’n darparu’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf ar y pryd.
4.1.7.

Canllawiau Cynllunio Lleol

4.1.7.1.

Amcanion Gofodol

AG2    Hyrwyddo adfywiad cynhwysfawr Bae Colwyn, Abergele, Tywyn a Bae Cinmel er mwyn ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd drwy’r Fenter Ardal Adfywio Strategol.

AG5.   Annog yr economi wledig i gryfhau ac arallgyfeirio mewn modd sy’n gydnaws â’r economi, y gymuned a’r amgylchedd lleol.

AG10. Sicrhau cyflawni dylunio da a chynaliadwy sy’n arwain at lai o droseddau a datblygu cymunedau cryf a diogel sy’n wahanol i’w gilydd ac annog pobl ifanc i aros yn eu hardal neu i ddychwelyd iddi.

AG11. Lleihau’r defnydd o ynni trwy leoli a dylunio adeiladau yn ofalus a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy os yw’n debygol y byddant yn ddeniadol o safbwynt economaidd ac yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

AG12. Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad yr arfordir a chefn gwlad sydd heb eu datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirwedd/cadwraeth a nodweddion o ddiddordeb archeolegol, hanesyddol neu bensaernïol, a sicrhau bod bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir yn cael eu hamddiffyn.

AG13. Gwella hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol, yn cynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden.

POLICY DP/7 - CANLLAWIAU CYNLLUNIO LLEOL View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn paratoi canllawiau ychwanegol ar ffurf Canllawiau  Cynllunio Atodol (CCA), a Briffiau Datblygu Safle i ddarparu manylion pellach am bolisïau a chynigion y CDLl;
  2. Disgwylir i gynigion datblygu ystyried y dogfennau hyn fel a phryd y bydd y Cyngor yn eu mabwysiadu.
4.1.7.2.

Canllawiau anstatudol yw CCAau sy’n ategu polisïau’r CDLl.  Dim ond y polisïau’r CDLl sydd â’r statws arbennig a roddwyd dan A54a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990, wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio. Mae’r Llywodraeth yn cynghori y gellir ystyried CCA fel ystyriaeth berthnasol. Mae’r pwys a roddir iddo’n cynyddu os caiff y CCAau eu llunio trwy ymgynghori â’r cyhoedd ac os ydynt yn destun penderfyniad gan y Cyngor. Paratowyd y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a ganlyn sydd yn cefnogi CDLl Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd:

  • CDLl   1: CCA  Canllaw Dylunio i Berchnogion
  • CDLl   2: CCA  Safonau Parcio
  • CDLl   3: CCA  Diogelwch a Dyluniad Blaen Siopau
  • CDLl   4: CCA  Ymrwymiadau Cynllunio
  • CDLl   5: CCA  Bioamrywiaeth
  • CDLl   6: CCA  Yr Iaith Gymraeg
  • CDLl   7: CCA  Gwerthusiad Cynaladwyedd
  • CDLl   8: CCA  Adeiladau ac Adeileddau o Bwysigrwydd Lleol
  • CDLl   9: CCA  Dylunio (i’w gynhyrchu yn 2011)
  • CDLl 10: CCA  Prif Gynllun Bae Colwyn

4.1.7.3.

Bydd y Cyngor hefyd yn paratoi Briffiau Datblygu ar gyfer safleoedd tai (50 neu fwy o anheddau) a safleoedd cyflogaeth newydd mawr (5 hectar neu fwy).  Pwrpas briff datblygu yw hysbysu datblygwyr a rhai eraill sydd â diddordeb am y cyfyngiadau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â safle a’r math o ddatblygiad y mae polisïau cynllunio lleol yn ei ddisgwyl neu’n ei annog o fewn fersiwn i’w Archwilio gan y Cyhoedd ei Gynllun Datblygu Lleol.

4.1.8.

Menter yr Ardal Adfywio Strategol

4.1.8.1.

Amcanion Gofodol

AG2. Hyrwyddo adfywiad cynhwysfawr Bae Colwyn, Abergele, Tywyn a Bae Cinmel er mwyn ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd drwy’r Fenter Ardal Adfywio Strategol.

AG5. Annog yr economi wledig i gryfhau ac arallgyfeirio mewn modd sy’n gydnaws â’r economi, y gymuned a’r amgylchedd lleol.

AG6. Datblygu cyrchfannau canol tref bywiog ar gyfer siopa, busnes a masnach, diwylliant, adloniant a hamdden trwy wella bywiogrwydd, hyfywedd ac apêl Llandudno fel canolfan adwerthu isranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn a chanolfannau siopa allweddol eraill.

AG8. Cynorthwyo twristiaeth trwy ddiogelu a gwella atyniadau a llety twristaidd arfordirol a gwledig a manteisio ymhellach ar y potensial i ddatblygu, cryfhau ac annog diwydiant twristaidd drwy gydol y flwyddyn.

POLICY DP/8 - PRIF GYNLLUNIAU A GWERTHUSIADAU CYMUNEDOL View Map of this site ?

Bydd cynigion defnydd tir yn deillio o Brif Gynlluniau, Gwerthusiadau Cymunedol, neu debyg, yn cael eu cefnogi os ydynt yn:

  1. Ymwneud ag Amcanion Strategol y Cynllun;
  2. Ystyried polisi cenedlaethol, Cynllun Gyfodol Cymru a’r Strategaeth Gymunedol;
  3. Yn gallu cael eu datblygu a’u cefnogi gan sail tystiolaeth o’r angen;
  4. Yn cael eu cefnogi gan Asesiad Amgylcheddol Strategol/ Gwerthusiad Cynaladwyedd, lle bod hynny’n briodol;
  5. Yn realistig, hyfyw a gall ddangos bod modd ei ddarparu drwy dystiolaeth atodol;
  6. Yn cael eu paratoi gan ymgynghori â’r cyhoedd a chyfranogion perthnasol;
  7. Cydymffurfio â pholisïau eraill cysylltiedig y Cynllun.
4.1.8.2.

Nod cyffredinol Prif Gynlluniau yw creu lleoedd cynaliadwy.Mae’r broses hon yn dynodi’r angen i ystyried cynllunio safleoedd, integreiddiad cymunedol, cludiant cynaliadwy, ecoleg a thirlunio.Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i godi ansawdd dyluniad ar gyfer datblygiadau newydd yn ardal y cynllun, o safleoedd strategol ac ardaloedd o newid sylweddol i rai safleoedd unigol llai.

4.1.8.3.

Mae nifer o gynlluniau o’r fath ar waith gan gynnwys Prif Gynlluniau Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno a Llanrwst sydd wedi’u datblygu’n unol â briffiau penodol ac unigol ac mae pob un ar wahanol gyfnodau o’u datblygiad.Bydd y CDLl yn cefnogi agweddau’r prif gynlluniau sy’n cwrdd â Pholisi DP/8.

4.1.8.4.

Bydd y mwyafrif o’r prif gynlluniau’n cael eu harwain gan y Cyngor, er hynny, bydd datblygwyr a grwpiau cymunedol yn dymuno cyflawni ymarferion tebyg i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynigion datblygu ehangach.  Bydd dwy brif nod yn y ddau achos: “adfywio canol trefi a phentrefi ac adnewyddu ardaloedd sydd wedi dirywio neu sy’n cael eu tanddefnyddio" a “diogelu, cadw a gwella'r amgylchedd naturiol ac adeiledig”. Bydd unrhyw gynigion sydd angen caniatâd cynllunio yn ôl Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y cynllun.

POLICY DP/9 - PRIF GYNLLUN BAE COLWYN View Map of this site ?

Bydd cynigion adfywio ym Mae Colwyn yn canolbwyntio ar ardal Prif Gynllun Bae Colwyn (CBMP) fel y dangosir ar y map cynigion: Nod y cynigion hyn yw goresgyn dirywiad economaidd, amddifadedd a mynediad drwy ailddatblygu ymarferol a chynigion newydd.  Wrth ddiwallu’r anghenion datblygu a ddynodir ar gyfer Bae Colwyn, mae’r Cyngor yn cefnogi’r amcanion CBMP a ganlyn:

Darparu ar gyfer anheddau newydd yn unol â Pholisi Strategol HOU/1 – ‘Diwallu’r angen am gartrefi’;

Creu  gweithgaredd economaidd a chymdeithasol sy’n arwain at adfywio cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy;

Creu darpariaeth ar gyfer datblygiad adwerthu cyfleus yn unol â Pholisi Strategol CFS/1;

Ailfodelu cynllun Parc Eirias gan glystyru cyfleusterau chwaraeon ar y terfyn deheuol a gwella mynediad i gerddwyr ar draws Nant y Groes;

Cyfrannu at adeiladau ac adeileddau o bwysigrwydd lleol neu genedlaethol drwy welliannau sympathetig neu gynigion cadwraeth;

Integreiddio cynigion ar gyfer gwella a datblygu glan y môr, gan gynnwys gwaith ar yr amddiffynfeydd arfordirol a gwella’r ardal fel cyfleuster/ atyniad twristaidd a hamdden yn unol â Pholisi Strategol STR/1;

Ailfodelu a datblygu Canolfan Siopa Bay View i’w  integreiddio’n agosach â chanol y dref ac ardaloedd eraill, gyda darpariaeth adwerthu newydd yn unol â Pholisi Strategol CFS/1;

Gwelliannau i’r canolbwynt cludiant yn Sgwâr yr Orsaf gan gynnwys ailosod y priffyrdd a man cyhoeddus newydd yn unol â Pholisi Strategol STR/1.

4.1.8.5.

Yn 2008, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG) y Cynllun Ardal Adfywio Strategol (SRA) i adfywio cymunedau arfordirol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â WAG i hyrwyddo’r adfywiad cynhwysfawr cymunedau arfordirol, ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd.Fel rhan o’r cynllun adfywio hwn, penodwyd tîm amlddisgyblaeth o ymgynghorwyr i baratoi Prif Gynllun Bae Colwyn i hyrwyddo adfywiad cynaliadwy’r ardal tan 2025.

4.1.8.6.
Mae gan y cynllun amserlen 7 mlynedd a bydd yn nodi ardaloedd adfywio yn y lleoliadau hyn ar sail ei botensial i ailddatblygu tir a ddatblygwyd yn flaenorol, anghenion economaidd a chymdeithasol, a’i agosrwydd at gysylltiadau cludiant cynaliadwy. Amcanion allweddol y Cynllun yw hyrwyddo cymysgedd o ddefnyddiau cyflogaeth ac adwerthu yng nghanol y dref, gwella’r diwydiant twristiaeth a mynd i’r afael ag ardaloedd difreintiedig ym Mae Colwyn drwy adnewyddu cymdogaethau.Y prif broblemau defnydd tir yw gwell llety a’r angen i arallgyfeirio stoc tai er mwyn mynd i’r afael â thai o gyflwr gwael, cartrefi gwag a’r nifer o Dai Amlbreswyl ac mae wedi’i gysylltu â Pholisi HOU/10 – ‘Tai Amlbreswyl a Fflatiau Hunangynhwysol’.
4.1.8.7.

Bydd dyrannu tir yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol ac, yn enwedig, dyraniadau tai ym Mae Colwyn, yn gwella a chefnogi amcanion Prif Gynllun Bae Colwyn ac aneddiadau eraill yn yr ardal arfordirol sy’n cael eu cefnogi gan yr SRA.Mae Prif Gynllun Bae Colwyn yn ffurfio Canllawiau Cynllunio Atodol, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a gynhyrchwyd gan DPP Shape a’i gefnogi gan dystiolaeth a amlinellir yn BP23: - ‘Adroddiad Sail Prif Gynllun Bae Colwyn’.

4.2.

Y Strategaeth Tai

4.2.1.

Amcanion Gofodol

AG1:   Sicrhau fod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu, gan ddiogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig ar yr un pryd, drwy hyrwyddo lefelau digonol a phriodol o ddatblygu, lleoli datblygiad os yw hynny’n ymarferol ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol ac yn bennaf yn yr aneddiadau trefol mwy ar hyd yr arfordir ac ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, gan nodi a diogelu asedau amgylcheddol allweddol, a sicrhau dwysedd effeithlon o ddatblygiad sy’n gydnaws â’r amwynder lleol.

AG3.   Darparu tir i alluogi cyflenwad digonol ac amrywiol o dai i gyfrannu at anghenion, gan gynnwys tai fforddiadwy at anghenion lleol, a diwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr, ac ar raddfa sy’n cyd-fynd â gallu gwahanol ardaloedd a chymunedau i dyfu.

4.2.2.

Datganiad y Strategaeth Dai

4.2.2.1.

Mae materion tai’n parhau i fod yn destun pryder allweddol i nifer o gymunedau Ardal y Cynllun. Mae’r prinder tai fforddiadwy i’w rhentu neu eu prynu yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu nifer o gymunedau Conwy. Mae incymau lleol yn y Fwrdeistref Lleol yn isel ar y cyfan ac mae cyfleoedd i gael gwaith gyda chyflog uwch yn gyfyngedig. Mae’r cyfuniad hwn o ffactorau’n creu anawsterau i bobl leol gael mynediad i’r farchnad dai.  Mae mynediad a fforddiadwyedd tai’n ffactor hanfodol wrth ddiogelu cynaladwyedd tymor hir ein cymunedau. Mae maint cyfartalog aelwydydd Ardal y Cynllun wedi gostwng, gan adlewyrchu tuedd gref wrth i fwy o bobl fyw ar ben eu hunain, ac i bobl ifanc symud o’r ardal, a chael eu disodli gan bobl hŷn sy’n symud i mewn. Gallai'r newid i oed a strwythur cymdeithasol poblogaeth Conwy fygwth lles cymunedau a hyfywedd ysgolion, busnesau, gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol Conwy fod anghenion y newid poblogaeth a ragwelir yn cael eu diogelu a’n bod yn hyrwyddo poblogaeth fwy cytbwys. Rhaid felly, rhoi pwyslais mawr ar ddarparu cyfleoedd tai i ddiwallu anghenion y gymuned leol, yn enwedig pobl ifanc a’r henoed.

4.2.2.2.

Cynlluniwyd y polisi tai strategol i sicrhau bod cyflenwad tir tai ar gyfer adeiladu hyd ar uchafswm o 6,800 o dai (gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,900 o anheddau), dros weddill cyfnod y cynllun yn y llefydd cywir a’u bod o’r math cywir i sicrhau eu bod yn gwneud gymaint o gyfraniad â phosibl at ddiwallu anghenion lleol a ganfyddir.  Y brif flaenoriaeth yw sicrhau cynnydd yn y cyflenwad o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol (AHLN) a bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle drwy ei bolisïau ar niferoedd, dosbarthiad tai, a mathau o dai i sicrhau bod cymaint â phosibl AHLN yn cael eu darparu drwy gyfrannu at ddiwallu'r angen i ddarparu tua 2,200 o unedau tai fforddiadwy. Amlinellir dull cynllunio, monitro a rheoli yn y cynllun i sicrhau darpariaeth tai.

4.2.2.3.

Penderfynwyd ar y targedau ar gyfer y nifer o dai fforddiadwy i’w darparu dros gyfnod y cynllun drwy ystyried y risgiau i ddarpariaeth a’r lefel tebygol o gyllid sydd ar gael ar gyfer tai fforddiadwy, gan gynnwys cymhorthdal cyhoeddus fel y Grant Tai Cymdeithasol a lefel cyfraniad datblygwyr y byddai’n rhesymol ei ddiogelu.  Cafodd y trothwy ar gyfer capasiti safleoedd a thargedau safleoedd penodol a amlinellir yn y cynllun eu cydbwyso yn erbyn yr angen am dai fforddiadwy a hyfywedd safleoedd a’r dystiolaeth a ddangoswyd BP/9 – ‘Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy’ (AHVS). Darparwyd ar gyfer cyfraniadau i breswylwyr presennol ac i’r dyfodol yng Nghonwy, gan adeiladu ar dystiolaeth yn Asesiad Marchnad Tai Lleol (LHMA) Conwy.  Gan ddefnyddio gwybodaeth yr AHVS, gosodir targed sengl ar 30% o bob datblygiad tai yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol a Phrif Bentrefi Haen 1.  Cyfyngir datblygiad tai i AHLN yn unig yng ngweddill Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig.  Mae polisi safleoedd eithriedig yn cefnogi'r agwedd hon a chaniateir AHLN 100% yn Llanrwst, y Prif Bentrefi, y Pentrefi llai a’r Pentrefannau.

4.2.2.4.

Mae ymagwedd y polisi yn cydnabod y bydd gwella’r ddarpariaeth AHLN yn heriol.  I gynorthwyo ymhellach, gweithredir elfen o hyblygrwydd gydag ymagwedd y  polisi i sicrhau fod datblygiad dichonadwy yn cael ei ddatblygu.  Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu defnyddio ei ddaliadaeth tir ei hun a sefydlu cofrestr o safleoedd mewn perchnogaeth gyhoeddus i gyfrannu at gyflawni'r AHLN.

4.2.2.5.

Mae’r targed a amlinellir yma yn gyson â’r rhai a osodwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri, yn seiliedig ar asesiad hyfywedd a gyflawnwyd yn ddiweddar.

4.2.2.6.

Mae’r cynllun yn cynnwys polisi’n seiliedig ar feini prawf i gyfrannu at ddiwallu anghenion safleoedd a ddynodir ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ac wrth asesu ceisiadau i ganiatáu tai ar gyfer yr henoed.

4.2.2.7.

Mae’r adran hon yn cynnwys y polisïau manwl angenrheidiol, a gefnogir gan yr Adran Weithredu a Monitro, i sicrhau bod y strategaeth hon yn cael ei darparu.

POLICY HOU/1 - DIWALLU'R ANGEN TAI View Map of this site ?

  1. Dros y cyfnod 2007 i 2022 bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro a rheoli’r broses o ddarparu tua 6800 o anheddau newydd (ar gyfartaledd blynyddol o 453 annedd newydd) gan gynnwys cwblhau, ymrwymiadau, safleoedd ar hap, a dyraniadau newydd a lefel wrth gefn o hyd at tua  7900 annedd (1100 o anheddau)
  1. Rhoddir blaenoriaeth i leoli datblygiad newydd yn unol â Pholisi Strategol DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a’r hierarchaeth aneddiadau a amlinellir ym Mholisi DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol’. Bydd tua 85% (5,780 annedd) o’r datblygiadau tai wedi’u leoli yn Ardaloedd cyraeddadwy’r Strategaeth Ddatblygu Drefol, ac wedi’u dosbarthu fel yr amlinellir isod yn HOU1a:
ARDAL Y STRATEGAETH DDATBLYGU DREFOL
Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Tai
Safle 1, Ffordd Rhuddlan, Abergele Abergele 150 Annedd
Llanfair Road, Abergele Abergele 70 Annedd
Tir i’r De o Siambr Wen, Abergele Abergele 120 Annedd
Safle 2, Ffordd Rhuddlan, Abergele Abergele 150 Annedd
Fferm Tandderwen Abergele 300 Annedd
Parc Busnes Abergele (Defnydd Cymysg Tai/Hamdden a Chyflogaeth) Abergele 80 Annedd
Esgyryn, Cyffordd Llandudno (Defnydd Cymysg Tai a Chyflogaeth) Cyffordd Llandudno 120 Annedd
Clwb Cymdeithasol / Clwb Ieuenctid, Cyffordd Llandudno Cyffordd Llandudno 50 Annedd
Plas Penrhyn, Bae Penrhyn Bae Penrhyn 30 Annedd
Plas yn Dre, Llandudno Llandudno 40 Annedd
Bodlondeb, Conwy (Defnydd cymysg cyflogaeth a thai) Conwy 30 Annedd
Gerllaw Glanafon, Llanfairfechan Llanfairfechan 20 Annedd
I’r Gorllewin o Barc Penmaen, Llanfairfechan Llanfairfechan 75 Annedd
Gyferbyn â Bryn y Neuadd, Llanfairfechan Llanfairfechan 150 Annedd
Cwm Road, Penmaenmawr Penmaenmawr 60 Annedd
Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos Llandrillo-yn-Rhos 70 Annedd
Fferm Dinerth Hall, Llandrillo-yn-Rhos Llandrillo-yn-Rhos 90 Annedd
Cyfnewidfa BT, Bae Colwyn Bae Colwyn 70 Annedd
Lawson Road, Bae Colwyn (Safle Prif Gynllun Bae Colwyn) Bae Colwyn 35 Annedd
Douglas Road, Bae Colwyn (Safle Prif Gynllun Bae Colwyn) Bae Colwyn 20 Annedd
Lansdowne Road, Bae Colwyn (Safle Prif Gynllun Bae Colwyn) Bae Colwyn 30 Annedd
Ysgol y Graig, Hen Golwyn Hen Golwyn 30 Annedd
Bryn Hyfryd/ Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst Llanrwst 50 Annedd
I’r Gogledd Orllewin o Lanrwst, Llanrwst Llanrwst 55 Annedd
Oddi ar yr A470, Llanrwst Llanrwst 20 Annedd
I’r Dwyrain o Lanrwst, Llanrwst Llanrwst 25 Annedd

Tu allan i ffiniau'r aneddiadau trefol, ni fydd datblygiadau tai pellach yn cael eu caniatáu, ac eithrio diwallu AHLN ar safleoedd eithriedig yn gyfagos i Lanrwst â Pholisïau HOU/2 – ‘Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’ a HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriedig Gwledig i Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’. Caiff cynigion datblygu o fewn ffiniau anheddau ar safleoedd heb eu dyrannu eu hasesu yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu;

  1. Yn y Prif Bentrefi, bydd graddfa'r datblygiad bwriedig i’r dyfodol yn adlewyrchu maint a swyddogaeth yr anheddiad a’i berthnasau ffisegol a swyddogaethol gyda’r ardaloedd trefol. Dros gyfnod y cynllun, bydd oddeutu 15% (1020 Annedd) o’r gofynion tai yn cael ei darparu yn y Prif Bentrefi Haen 1 a Haen 2 a’u dosbarthu fel a ganlyn:

ARDAL Y STRATEGAETH DDATBLYGU WLEDIG
Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Tai
Prif Bentrefi Haen 1
Top Llan Road, Glan Conwy (Defnydd cymysg tai a chyfleusterau cymunedol) Glan Conwy 80 Annedd
Pencoed Road, Llanddulas Llanddulas 20 Annedd
I’r De o’r Felin, Llanddulas Llanddulas 20 Annedd
Tŷ Mawr, Llysfaen Llysfaen 255 Annedd
Ysgol Cynfran, Llysfaen Llysfaen 40 Annedd
Gerllaw'r hen Reithordy, Llysfaen Llysfaen 30 Annedd
Oddi ar Ffordd Ysguborwen, Dwygyfylchi Dwygyfylchi 15 Annedd
Gerllaw’r Faerdre, Dwygyfylchi Dwygyfylchi 20 Annedd
Prif Bentrefi Haen 2
Yr Efail, Llanfairtalhaiarn Llanfairtalhaiarn 15 Annedd
Oddi ar Heol Martin, Eglwysbach Eglwysbach 10 Annedd
I’r Dwyrain o Aled View, Llansannan Llansannan 15 Annedd
Coed Digain, Llangernyw Llangernyw 15 Annedd
Tir yn wynebu’r B5105, Cerrigydrudion Cerrigydrudion 10 Annedd
Tan y Ffordd, Dolgarrog Dolgarrog 30 Annedd
Gwydr Road, Dolgarrog Dolgarrog 10 Annedd
Ffordd Llanelwy, Betws-yn-Rhos Betws yn Rhos 5 Annedd
Minafon, Betws-yn-Rhos Betws yn Rhos 5 Annedd

Caniateir elfen o dai ar bris y farchnad ac AHLN yn y Prif Bentrefi Haen 1 a bydd y Prif Bentrefi Haen 2 yn cynnwys AHLN yn unig.  Tu allan i ffiniau aneddiadau, dim ond cynlluniau graddfa fach a gyfiawnheir (hyd at 5 annedd) yn darparu AHLN 100% ar safleoedd eithriedig ar ymyl aneddiadau, neu os yw’n rhan o Gynllun Menter Gwledig, neu Ddatblygiad Effaith Isel, a fydd yn cael ei ganiatáu yn unol â Pholisïau DP/6 – ‘Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’, HOU/2 – ‘Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’ a  HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriedig Gwledig i Dai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol’;

  1. Yn y Pentrefi Llai, dim ond datblygiadau cyfyngedig fydd yn cael eu caniatáu i adlewyrchu hyfywedd, cynaladwyedd a chymeriad yr aneddiadau. Dros gyfnod y cynllun, ni fydd angen unrhyw ddyraniadau tai na ffiniau aneddiadau. Dim ond datblygiadau graddfa fechan yn cynnwys cynigion AHLN fydd yn cael eu cefnogi o fewn ffiniau'r aneddiadau os yw’n rhan o ailddatblygu, trawsnewid adeiladau newydd, neu os mai dim ond tai sengl neu grwpiau bychain o stadau o anheddau newydd (hyd at 5 annedd) yn cynrychioli math o fewnlenwi ac yn ymwneud yn ffisegol ac yn weledol a’r anheddiad. Ar ymyl aneddiadau llai, dim ond cynlluniau graddfa fechan a gyfiawnheir (hyd at 2 annedd) yn darparu 100%, neu lle mae’n cynrychioli Cynllun Menter Wledig neu Datblygiad Effaith Isel, bydd yn cael ei ganiatáu yn unol â Pholisïau DP/6, HOU/2 a  HOU/6;
  2. Mewn Pentrefannau ac mewn cefn gwlad agored, bydd datblygiadau tai ond yn cael eu caniatáu dan amgylchiadau eithriadol.  Gellir cefnogi annedd sengl o fewn, neu ar ymyl, yr anheddiad, neu ble fod hyn yn rhan o drawsnewid adeilad nad yw’n un preswyl, mewn cefn gwlad agored, a ble mae cyfiawnhad iddo i ddiwallu AHLN neu Fenter Wledig ac/neu Datblygiad Effaith Isel fesul cais, yn unol â Pholisïau DP/6, HOU/2 a  HOU/6.
  1. Bydd y Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i dai ar dir wedi’i ddatblygu’n barod dros gyfnod y cynllun drwy ddatblygu fesul cam yn unol â Pholisi HOU/3 – ‘Darparu Tai Fesul Cyfnod’, y Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod a thabl HOU/1b. Drwy’r dull cynllunio, monitro a rheoli, bydd safleoedd wrth gefn yn cael eu gwireddu gan hynny, yn unol â’r Cynllun Monitro a’r Adroddiad Monitro Blynyddol.
  2. Bydd y Cyngor yn sicrhau fod datblygiadau tai’n gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o dir drwy gyflawni cymysgedd eang o fathau o dai ar ddwysedd priodol, sy’n adlewyrchu gwahanol anghenion trigolion yn unol â Pholisïau HOU/4 – ‘Dwysedd Tai’ a HOU/5 – ‘Cymysgedd Tai’
  3. Bydd y Cyngor yn delio ag anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn unol â Pholisi   HOU/9 – ‘Diwallu’r Angen am Safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr’
  4. Bydd y Cyngor yn rheoli datblygiad fflatiau hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl i gynorthwyo adfywio, a gwella ansawdd a’r dewis o dai,  a chyfrannu at well amgylched yn unol â Pholisi HOU/10 – ‘Tai Amlbreswyl a Fflatiau Hunangynhwysol’
  5. Bydd y Cyngor yn darparu ar gyfer anghenion tai pobl hŷn yn unol â Pholisi HOU/11 – ‘Cartrefi Gofal Preswyl a Thai Gofal Ychwanegol’

SAFLEOEDD WRTH GEFN

ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU TREFOL
Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Tai
Glyn Farm Bae Colwyn 130 Annedd
Dolwen Rd, Hen Colwyn Bae Colwyn 100 Annedd
Gyferbyn â Bryn Rodyn, Hen Golwyn Colwyn Bay 65 Annedd
Henryd Road, Gyffin Conwy 10 Annedd
Pentywyn Road Deganwy 120 Annedd
Nant-y-Gamar Road Llandudno 65 Annedd
The Woodland Cyffordd Llandudno 60 Annedd
Gyferbyn â safle 205/328 Llanfairfechan 90 Annedd
Safle A I’r Gogledd o Llanrwst Llanrwst 60 Annedd
Safle C I’r Gogledd Ddwyrain o Llanrwst Llanrwst 90 Annedd
Safle D I’r Dwyrain o Llanrwst Llanrwst 50 Annedd
Safle E gyferbyn â Bryn Hyfryd Llanrwst 43 Annedd
Conway Road Penmaenmawr 15 Annedd
Oddi ar Derwen Lane Bae Penrhyn 175 Annedd
ARDAL STRATEGAETH DATBLYGIAD GWLEDIG
Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Tai
I’r Gogledd o Groesffordd Dwygyfylchi 10 Annedd
Trem y Don Llysfaen 25 Annedd

 

 

4.2.3.

Anghenion Tai

4.2.3.1.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gorchymyn fod pob awdurdod cynllunio lleol ym mhob rhanbarth o Gymru yn gweithio gyda’i gilydd a gyda chyfranogion priodol i gyrraedd amcangyfrifon tai is-genedlaethol y Cynulliad, neu gytuno ar eu rhagolygon rhanbarthol eu hunain. Mae awdurdodau cynllunio lleol Gogledd Cymru wedi mynd ati i gyflawni rhagolygon tai diweddaraf Llywodraeth Cynulliad Cymru gan roi rhan i gyfranogion allweddol. Roedd y drefn ddosrannu yn rhoi disgwyliad ar Gonwy i ystyried dewisiadau ar gyfer datblygiadau tai’n seiliedig ar ffigwr o 5,325 annedd yn ystod cyfnod y cynllun (h.y. 355 annedd y flwyddyn).

4.2.3.2.

Rhyddhawyd rhagdybiaethau poblogaeth is-genedlaethol newydd (yn seiliedig ar ddata 2005) gan Gynulliad Cymru ym mis Mehefin 2008 sy’n gosod rhagdybiaethau uwch ar gyfer Conwy uwchlaw’r cytundeb dosbarthiad hwn. Yn seiliedig ar y rhagdybiaethau poblogaeth newydd, cynhaliodd Gwasanaeth Ymchwil yr Awdurdod ddadansoddiad (gweler BP/2 – ‘Rhagdybiaethau Poblogaeth a Chartrefi’) i benderfynu effaith y gofyniad anheddau gan asesu newid poblogaeth naturiol, lefelau mudo a newid i gartrefi dros gyfnod y cynllun.  Comisiynodd y Cyngor hefyd ymgynghorwyr i ddeall y materion sy’n effeithio ar Gonwy a beth ddylai lefel twf canrannol fod i’w goresgyn (gweler BP/3 – ‘Adroddiad Dewisiadau Lefel Twf’). Ystyrir argaeledd tir addas, anghenion cyflogaeth, gallu’r diwydiant adeiladu tai i ddarparu, amodau presennol y farchnad a chynaladwyedd wrth lunio'r lefel twf tai a ffafrir.  Mae gofynion tai'r Cynllun Datblygu Lleol yn adlewyrchu’r holl elfennau hyn o’r sail tystiolaeth.  Gan ystyried y ffactorau hyn, cyfrifwyd mai’r gofyniad am dai newydd yn ystod cyfnod y cynllun yw tua 6,800 (tua 453 annedd y flwyddyn) gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,900 annedd.

4.2.3.3.

Mae'r lefel hwn o dwf tai yn adlewyrchu'r prif newid poblogaeth naturiol, newid ym maint aelwydydd, mewnfudo net ac ar yr un pryd yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r angen allweddol i ddarparu AHLN, diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig a darparu tai addas ar gyfer y bobl ifanc presennol ac i’r dyfodol i barhau i fyw a gweithio yn yr ardal. Ar y cyfan, mae’r twf hwn yn ganlyniad i dueddiadau’r gorffennol o ran adeiladu dros y 5 mlynedd diwethaf (gweler BP/4 – ‘Cyflenwad Tir Tai’) ac yn adlewyrchu gallu’r diwydiant adeiladu i ddarparu tai a’u gallu i ddarparu dros gyfnod y cynllun (gweler BP/31 – ‘Capasiti’r Diwydiant Adeiladu Tai’).

4.2.3.4.

Caiff rhan fwyaf y gofyniad tai hwn ei ddarparu yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol sef y lleoliad mwyaf cynaliadwy fel y dangoswyd yn BP/37 – ‘Adroddiadau Dewisiadau Dosbarthiad Twf’ a BP/8 – ‘Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau’. 

4.2.3.5.

Mae’r Awdurdod yn cynnig y dylid cyflawni'r gofyniad hwn am 6,800 o dai, mewn datblygiadau fesul cyfnod trwy gydol cyfnod y cynllun, gan ei rannu i dri chyfnod (o fis Ebrill i fis Mawrth) fel y dangosir yn nhabl HOU1b, yr Adran Gyflwyno a Monitro a BP/30 – ‘Cynllun Datblygu Fesul Cyfnod’ a BP/4 – ‘Cyflenwad Tir ar gyfer Tai’

4.2.3.6.

Felly, mae angen dyrannu digon o dir yn y Cynllun Datblygu Lleol i ganiatáu ar gyfer tua 6800 o anheddau dros gyfnod y cynllun, gan gynnwys cyfraniad o’r rhai sydd eisoes wedi’u hadeiladu ers 2007, ymrwymiadau presennol a ffynonellau cyflenwad safleoedd ar hap (gweler BP/4). Cyflenwad tir wrth gefn pellach o safleoedd addas y gellir eu darparu gan roi cyfanswm o 1,100 o anheddau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun (6,800 + 1,100 = 7,900 Annedd). Bydd safleoedd wrth gefn yn cael eu gwireddu yn ôl trefn blaenoriaeth os yw’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) yn dangos yn glir nad yw’r cynllun yn diwallu ei ofyniad o ran cyflenwad tir parhaus dros 5 mlynedd.

4.2.3.7.

Yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol, ffafrir datblygiadau mewn lleoliadau cyraeddadwy ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol (PDL) dros safleoedd tir glas.  Wrth ddarparu anghenion tai yng Nghonwy, ni fydd yn ymarferol i ddarparu'r gofyniad anheddau llawn ar PDL, felly bydd rhaid colli rhywfaint o safleoedd tir glas a lletemau glas i sicrhau bod modd darparu'r cynllun. O fewn y CDLl hwn, nodir safleoedd tai strategol (safleoedd gyda dros 100 o anheddau) a safleoedd anstrategol (safleoedd dan 100 o anheddau) ar y Map Cynigion ac maent wedi’u hamlinellu yn adran Gweithredu a Monitro’r Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod.

4.2.4.

Ffynonellau Cyflenwad Tai

4.2.4.1.

Bydd CDLl Conwy yn dyrannu safleoedd lle gellir darparu 10 neu fwy o anheddau ar gyfer tai.  Fel y dangosir yn Astudiaeth Argaeledd Tir Tai 2009, (gweler BP/5), mae Conwy eisoes wedi darparu 737 o gartrefi newydd rhwng 2007 a 2009. Bydd yr ymrwymiadau sy’n weddill (rhai gyda chaniatâd cynllunio presennol ond heb eu hadeiladu eto) a safleoedd ar hap a ragwelir (datblygiadau sy’n debyg o fael eu cyflwyno ar safleoedd heb eu dyrannu) yn rhoi cyfanswm o 3,044 o gartrefi (gweler BP/4 – ‘ Cyflenwad Tir Tai’), sy’n debyg o gael eu hadeiladu dros gyfnod y cynllun.  Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys rhoi defnydd unwaith eto i amcangyfrif o 325 o gartrefi gwag dros gyfnod y cynllun a datblygu safleoedd gyda chyfanswm o 199 o anheddau ar gael yn sgil y Rhaglen Foderneiddio Ysgolion. Bydd y Cyngor yn ystyried cyflwyno rhybudd cwblhau i leihau'r ansicrwydd hwnnw a sicrhau bod anghenion cymunedau Conwy’n cael eu diwallu.

4.2.4.2.

Gan ystyried pob un o’r ffynonellau hyn o gyflenwad tai, dyrennir tir yn y Cynllun i ganiatáu ar gyfer tua 2,497 o dai a 1,100 pellach wrth gefn fel y dangosir isod:

4.2.5.

Dosbarthu twf tai newydd yn eang

4.2.5.1.

Fel rhan o’r broses o ymchwilio ble gallai tir ar gyfer tai fod ar gael i ddiwallu anghenion tai'r dyfodol, rydym wedi cynnal prawf cynaladwyedd ar bob anheddiad yn ardal y Cynllun i asesu eu gallu i ddarparu tai ac wrth ffurfio'r Hierarchaeth Aneddiadau (gweler BP/8 – ‘Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau’).  Fel y nodir yn y Strategaeth hon (adran 3), bwriedir cael datblygiad ar raddfa uwch yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol i adlewyrchu cynaladwyedd yr ardal o safbwynt cyfleusterau digonol a gallu’r amgylchedd lleol i ymdopi.  Mae gan y lleoliadau hyn ystod gref o gyfleusterau cymunedol gyda mynediad da i swyddi newydd a phresennol, gwasanaethau allweddol ac isadeiledd. Amlinellir y targed datblygiadau tai i bob haen o anheddiad rhwng 2007 a 2022 yn nhabl HOU1a.

4.2.6.

Tai mewn Cefn Gwlad

4.2.6.1.

Bydd rheolaeth gaeth ar ddatblygiadau tai mewn cefn gwlad agored oni bai bod modd ei gyfiawnhau’n llawn drwy gyfeirio at dystiolaeth ategol gadarn. Un o’r amgylchiadau prin y gellir cyfiawnhau datblygiadau preswyl unigol newydd mewn cefn gwlad agored yw pan bod angen y llety i alluogi gweithwyr mentrau gwledig i fyw yn, neu’n agos at, eu man gwaith. Yn unol â pholisi DP/6, mae anheddau mentrau gwledig yn cynnwys:

  • Annedd newydd ar gyfer menter wledig sefydledig (gan gynnwys ffermydd) lle mae angen ymarferol am weithiwr llawn amser a bod yr achos busnes yn profi fod cyflogaeth yn debygol o barhau i fod yn gynaliadwy’n ariannol.
  • Ail annedd ar fferm sefydledig sy’n gynaliadwy’n ariannol, hwyluso trosglwyddiad y busnes fferm i ffermwr ieuengach.
  • Ail annedd ar fferm sefydledig sy’n gynaliadwy’n ariannol, lle mae angen ymarferol am 0.5 neu fwy o weithwyr llawn amser ychwanegol ac o leiaf 50% o gyflog Gweithiwr Safonol Gradd 2, fel y diffinnir yn fersiwn diweddaraf y gorchymyn cyflogau amaethyddol, ar gael drwy’r busnes fferm
  • Annedd newydd ar gyfer menter wledig newydd lle mae angen ymarferol am weithiwr llawn amser.

4.2.6.2.

Mae menter wledig yn cynnwys busnes yn ymwneud â’r tir gan gynnwys amaeth, coedwigaeth a gweithgareddau eraill sy’n derbyn eu mewnbwn pennaf o’r safle, fel prosesu cynhyrchion amaethyddol, coedwigaeth a mwynau yn ogystal â gweithgareddau rheoli tir a gwasanaethau ategol (gan gynnwys contractio amaethyddol), twristiaeth a mentrau hamdden.

4.2.6.3.

Bydd anheddau parhaol newydd ond yn cael eu caniatáu i gefnogi mentrau gwledig sefydledig cyn belled fod y profion ymarferoldeb, amser ac ariannol gofynnol yn cael eu diwallu yn unol â pholisi PD/6 a’u harddangos drwy Werthusiad Annedd Menter Wledig.

4.2.6.4.

Yn gyffredinol, bydd ffafriaeth yn cael ei roi i ailddefnyddio neu ddisodli adeiladau presennol dros rai sy’n cynnig adeiladu annedd newydd er mwyn osgoi datblygiad pellach mewn cefn gwlad. Os oes bwriad i godi adeiladau newydd dylid eu lleoli a’u dylunio i leihau eu heffaith ar gefn gwlad, a’u grwpio o amgylch y datblygiad presennol os yw hynny’n bosibl gan ddiwallu Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill cysylltiedig yn y Cynllun. Ni fyddai cyfiawnhad dros godi adeilad pellach os yw annedd presennol sy’n gwasanaethu’r uned, neu wedi’i gysylltu yn agos ag o, naill ai wedi’i werthu’n ddiweddar neu ei wahanu ohono mewn unrhyw ffordd.

4.2.7.

Ail Anheddau ar Ffermydd Sefydledig

4.2.7.1.

Mae’r Cynllun yn annog pobl ieuengach i gynnal eu busnesau fferm a hyrwyddo arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig. I gefnogi’r amcan polisi hwn efallai y bydd yn briodol i ganiatáu anheddau ar ffermydd sefydledig sydd wedi cyflawni'r profion ariannol ac ymarferol fel yr amlinellir ym Mholisi DP/6. Y ddau eithriad i’r polisi yw:

  • Os oes trefniadau sicr a chyfreithiol rwymol mewn grym sy’n dangos fod rheolaeth y busnes fferm wedi’i drosglwyddo i unigolyn sy’n ieuengach na’r unigolyn sy’n gyfrifol am reoli ar hyn o bryd, neu, fod trosglwyddo rheolaeth yn amodol yn unig ar roi caniatâd cynllunio i’r annedd. Dylid profi bod gan yr unigolyn ieuengach rheolaeth fwyafrifol dros y busnes fferm ac yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar gyfer y busnes fferm; neu
  • Fod angen ymarferol presennol am 0.5 neu fwy o weithiwr llawn amser ychwanegol a bod yr unigolyn hwnnw yn derbyn o leiaf 50% o gyflog Gweithiwr Safon Gradd 2, (fel y’i diffinnir yn fersiwn ddiweddaraf y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol), o’r busnes fferm

4.2.8.

Aneddiadau newydd ar Fentrau Newydd

4.2.8.1.
Yn unol â Pholisi DP/6, caniateir annedd newydd os oes modd dangos tystiolaeth i brofi ei fod yn hanfodol i gefnogi menter wledig newydd. Bydd yn hanfodol i geisiadau ddangos tystiolaeth glir o fwriad cadarn a’r gallu i ddatblygu'r fenter wledig dan sylw, fod angen sefydlu’r fenter newydd yn y lleoliad bwriedig a’i fod yn diwallu'r profion ymarferol, amser ac ariannol. Dylid ategu’r mathau hyn o dystiolaeth drwy gyflwyno Gwerthusiad Annedd Menter Wledig wrth wneud cais yn unol â Pholisi DP/6.
4.2.9.

Estyniadau i Anheddau mewn Cefn Gwlad

4.2.9.1.

Mae angen ystyried estyniadau i aneddiadau yng nghefn gwlad cyffredinol agored Conwy yn ofalus iawn. Yn ogystal, mae anghenion tai'r Fwrdeistref Sirol yn ei gwneud yn bwysig i gyflwyno rhywfaint o gyfyngiad ar y cynnydd cyfrannol mewn maint anheddau o ganlyniad i unrhyw estyniad, gyda’r nod o atal gostyngiad graddol yn y stoc o anheddau maint llai a chanolig mewn ardaloedd gwledig. Caff ceisiadau am estyniadau i aneddiadau  mewn Cefn Gwlad eu hasesu yn erbyn Polisi DP/6 a pholisïau eraill cysylltiedig yn y Cynllun.

4.2.10.

Anheddau Disodli mewn Cefn Gwlad

4.2.10.1.

Os gellir dangos nad yw defnydd yr annedd wedi’i golli, mae’n bosibl y caniateir ei ddisodli ar sail un i un. Fel annedd newydd, mae’n debyg o gael mwy o effaith ar gefn gwlad na’r annedd mae’n cymryd ei le a bydd yn elwa o hawliau datblygiad a ganiateir pan fydd wedi'i gwblhau a phobl yn preswylio ynddo. Felly dylai anheddau disodli fod yn debyg o ran maint ag uchder i’r adeiladau gwreiddiol.  Gall y Cyngor reoli estyniad pellach i’r anheddau newydd drwy ddefnyddio amodau cynllunio i ddileu’r hawliau dan Gorchymyn Datblygiad a Ganiateir yn gyffredinol. Caiff ceisiadau am aneddiadau disodli mewn cefn gwlad eu hasesu yn erbyn Polisi DP/6 a pholisïau eraill cysylltiedig yn y Cynllun.

4.2.11.

Trawsnewid Adeiladau mewn Cefn Gwlad at Ddefnydd Preswyl

4.2.11.1.

Bu pwysau cynyddol i drawsnewid ysguboriau ac adeiladau gwledig gwag yn unedau preswyl yn y Fwrdeistref Sirol, ond mae hyn yn amlwg yn groes i’r polisi cyffredinol o gyfyngu ar gynigion tai tu allan i derfynau aneddiadau sefydledig.  Mae’r Cyngor yn cefnogi trawsnewid adeiladau priodol ar gyfer defnyddiau cyflogaeth, a dyma yn dal yw’r defnydd a ffafrir ar gyfer adeiladau o’r fath yn unol â Pholisi DP/6. Os na ellir cyflawni hyn, rhoddir ail ffafriaeth i uned breswyl wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â gweithrediad menter wledig, sy’n aml yn cael ei alw’n uned byw a gweithio. Byddai hyn yn fwy cynaliadwy na thrawsnewid at ddefnydd preswyl yn unig, yn sgil y goblygiadau llai ar gyfer cymudo.  Caiff trawsnewid ar gyfer defnydd preswyl yn unig ei ganiatáu fel dewis olaf, yn enwedig i sicrhau dyfodol adeiladau o ansawdd neu gymeriad pensaernïol penodol neu i ddiwallu AHLN yn unol â Pholisi DP/6 a pholisïau eraill cysylltiedig y Cynllun.

4.2.11.2.

Bydd trawsnewid defnydd preswyl, yn enwedig ar raddfa fawr sy’n cynnwys nifer o unedau preswyl, ond yn briodol mewn lleoliadau sy’n agos at wasanaethau a chyfleusterau lleol. Rhaid i ddatblygiad hefyd fod mewn lleoliad gyda, neu lle gellid darparu, safon ddigonol o fynediad i gynnig dewis priodol o deithio trwy ddulliau heblaw am geir, yn unol â Pholisi Strategol STR/1 – ‘Cludiant, Datblygiad a Mynediad Cynaliadwy’. Bydd ceisiadau ar gyfer trawsnewid adeiladau mewn cefn gwlad yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi DP/6 a pholisïau cysylltiedig eraill yn y Cynllun.

4.2.12.

Datblygiad Un Planed

4.2.12.1.

Datblygiad Un Planed yw datblygiad sydd, drwy ei effaith isel, naill ai’n gwella neu nad yw’n dirywio ansawdd yr amgylchedd yn sylweddol. Gallai Datblygiad Un Planed fod yn ddatblygiad cynaliadwy enghreifftiol a ddylai gyflawni ôl troed ecolegol o 2.4 hectar byd eang fesul unigolyn i ddechrau neu lai o safbwynt traul.  Dylent hefyd fod yn ddi-garbon o ran eu dulliau hadeiladu a’u defnydd.

4.2.12.2.

Gall Datblygiadau Un Planed fod ar sawl ffurf. Gallant naill ai fod yn gartrefi unigol, cymunedau cydweithredol neu aneddiadau mwy. Gellir eu lleoli o fewn neu’n agos at aneddiadau presennol, neu mewn cefn gwlad agored. Os yw Datblygiadau Un Planed yn cynnwys aelodau o fwy nag un teulu, dylid rheoli'r cynnig drwy ymddiriedolaeth, grŵp cydweithredol neu fecanwaith tebyg arall y byddai gan y preswylwyr gysylltiad ynddo. Dylai Datblygiadau Un Planed ar y tir mewn cefn gwlad agored ddarparu ar gyfer anghenion isafswm y preswylwyr o safbwynt incwm, bwyd, ynni a chymathiad gwastraff, dros gyfnod o amser rhesymol (dim mwy na 5 mlynedd). Os na ellir arddangos hyn, byddwn yn ystyried eu bod yn groes i bolisïau sy’n ceisio rheoli datblygu mewn cefn gwlad agored fel yr amlinellir yn y cynllun hwn.

4.2.12.3.

Mae angen tystiolaeth gadarn i gefnogi ceisiadau cynllunio am Ddatblygiadau Un Planed ar y tir mewn cefn gwlad agored. Yn unol â Pholisi DP/6 rhaid i geisiadau cynllunio ar gyfer y math hwn o ddatblygiad gynnwys cynllun rheoli.  Dylai’r cynllun rheoli amlinellu amcanion y cynnig, yr amserlen ar gyfer datblygu ar y safle a therfynau amser ar gyfer adolygu. Dylid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cytundeb cyfreithiol yn ymwneud â phreswyliad ar y safle pe bai caniatâd cynllunio’n cael ei roi. Dylai’r cynllun rheoli gynnwys cynllun busnes a gwella, dadansoddiad Ôl Troed Ecolegol y datblygiad, dadansoddiad Carbon o’r datblygiad, asesiad bioamrywiaeth a thirlun, asesiad effaith i nodi effeithiau posibl ar y gymuned sy’n eu croesawu, ac Asesiad Cludiant a chynllun teithio i ddangos anghenion cludiant y preswylwyr a chynnig atebion teithio cynaliadwy.

4.2.13.

Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol

POLICY HOU/2 - TAI FFORDDIADWY AR GYFER ANGHENION LLEOL View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn gorchymyn darparu AHLN mewn datblygiadau tai newydd fel y nodir yn yr Asesiad Marchnad Dai Lleol a Chofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf Conwy.  Bydd datblygiadau tai newydd yn cyfrannu tuag at ddarpariaeth drwy:
  1. Rhoi blaenoriaeth uchel i ddarparu AHLN gan drafod gyda datblygwyr i gynnwys isafswm o 30% o AHLN fel darpariaeth ar y safle ym mhob datblygiad tai. Dan amgylchiadau eithriadol, bydd darpariaeth is yn dderbyniol os gellir dangos cyfiawnhad clir a’i gefnogi drwy gyflwyno tystiolaeth. Bydd darpariaeth oddi ar safle neu daliadau gohiriedig yn dderbyniol ar gyfer cynigion datblygu sy’n cynnwys 3 neu lai o anheddau, a galli fod yn dderbyniol ar gyfer cynigion sy’n cynnwys 3 neu fwy o anheddau cyn belled fod cyfiawnhad digonol.  Disgwylir i unedau AHLN gael eu darparu heb gymhorthdal. Bydd darpariaeth AHLN yn cael eu harwain gan Dabl HOU2a, y Cynllun Darparu Tai a Darparu Fesul Cam a’r hierarchaeth a ganlyn:
i Mewn Ardaloedd Strategaeth Ddatblygu Drefol bydd cyfuniad o werth y farchnad a AHLN yn cael ei ddarparu ar safleoedd a ddyrannir a safleoedd ar hap Bydd AHLN yn cael ei ganiatáu ar safleoedd eithriad yn gyfagos i Lanrwst 
ii Mewn Prif Bentrefi Haen 1, bydd cyfuniad o dai ar y farchnad a AHLN ar safleoedd a ddyrannwyd a rhai ar hap. Mewn Prif Bentrefi Haen 2, dim ond AHLN fydd yn cael ei ddarparu ar safleoedd a ddyrannwyd, safleoedd ar hap a safleoedd eithriad Tu allan i ffiniau aneddiadau'r Prif Bentrefi, fel eithriad, bydd AHLN 100% ar raddfa fechan yn dderbyniol ar ymyl aneddiadau, gan roi’r flaenoriaeth gyntaf i Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol, i annog creu cymunedau cynaliadwy yn unol â Pholisïau DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol’, a HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriedig Gwledig i Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’. Ni fydd unrhyw anghenion AHLN yn cael eu caniatáu tu allan i ffin anheddiad Trefriw oherwydd cyfyngiadau ffisegol.  Bydd anghenion y dyfodol yn Nhrefriw yn cael eu darparu tu allan i Ardal y Cynllun ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. 
iii Yn y Pentrefi Llai, bydd anheddau sengl neu grwpiau bychan o anheddau’n cynnwys AHLN 100% yn unig yn cael eu caniatáu ar safleoedd eithriedig o fewn, neu’n uniongyrchol yn gyfagos, i’r anheddiad yn unol â Pholisi HOU/6. 
iv Mewn Pentrefannau, bydd datblygiadau ond yn cael eu caniatáu dan amgylchiadau eithriadol i ddarparu annedd AHLN unigol a gyfiawnheir mewn lleoliad derbyniol a chynaliadwy yn unol â Pholisi HOU/6. 
v Mewn cefn gwlad agored, bydd AHLN yn cael eu harwain yn unol â Pholisi DP/6. 
  1. Darparu cymysgedd priodol o safbwynt mathau o dai a meintiau tai AHLN mewn datblygiad, a bennir gan yr amgylchiadau lleol wrth gyflwyno cynnig datblygu yn unol â Pholisi HOU/4.
  1. Dylid integreiddio unedau AHLN yn llawn o fewn datblygiad a dylai fod yn amhosibl gwahaniaethu rhyngddynt a thai nad ydynt yn fforddiadwy yn unol â Pholisi DP/3.
  2. Bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni lefel uwch o AHLN ar safleoedd mae’r Cyngor yn berchen arnynt yn unol â Pholisi HOU/7.
  3. Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn ceisio sefydlu cofrestr ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan o ddaliadau tir mewn perchnogaeth gyhoeddus ar gyfer AHLN, yn unol â Pholisi HOU/8.

4.2.14.

Diwallu'r Angen am dai Fforddiadwy yng Nghonwy

4.2.14.1.

Asesiad o’r Farchnad Dai Leol

Prinder Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol (AHLN) yw un o’r materion blaenoriaeth pwysicaf sy’n wynebu’r Fwrdeistref Sirol. Mae’r awdurdod wedi bod yn gweithio ar y cyd  gydag Awdurdodau Tai a Chynllunio Parc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn, Gwynedd a Sir Ddinbych i ddatblygu gwell cyd-ddealltwriaeth o’r farchnad dai drwy gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (LHMA), gan gydnabod nad yw ardaloedd marchnad dai yn cydymffurfio â ffiniau gweinyddol. Mae LHMA Cam 1 (gweler BP/7) yn darparu arweiniad da i lefel cyffredinol yr anghenion ar draws Sir Conwy, sef 3080 o anheddau (661 y flwyddyn) i’w gyflawni dros gyfnod o bum mlynedd. Mae Cam 2 yr asesiad, a ddisgwylir yng nghanol 2010, yna’n dadansoddi’r angen hwn ymhellach o safbwynt daliadaeth, lleoliad, maint a math o AHLN.  Wrth gyflwyno'r angen hwn i gyfnod y Cynllun, mae angen ddiwallu gofyniad o 8460 (564 y flwyddyn) o anheddau fforddiadwy o fewn cyfnod o 15 mlynedd (gweler BP/36 – ‘Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy’). Dadansoddwyd dosbarthiad cyffredinol yr angen hwn ymhellach drwy Gofrestrau Tai Cymdeithasol a Chamau Cyntaf y Cyngor a’r Asesiadau Anghenion Lleol a gyflawnwyd gan y Galluogwyr Tai Gwledig, sy’n golygu angen o 7919 (85%) yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol a 541 (15%) yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig dros gyfnod y Cynllun. Mae’r gwahaniad hwn o anghenion yn golygu dosbarthiad twf fel yr amlinellir yn Adran 3 ‘Strategaeth Ofodol’. Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy i gyfrannu at ddiwallu anghenion lleol ond maent yn cydnabod mai dim ond un o’r mecanweithiau y gellir eu defnyddio i ddarparu tai fforddiadwy yw cynllunio defnydd tir.

4.2.14.2.

Nid oes modd cyflawni’r targed o geisio diwallu cyfran uchel o’r diffyg cyffredinol o 8460 o anheddau fforddiadwy drwy ddatblygu tai newydd oherwydd y cyfyngiadau sy’n bodoli yn y Fwrdeistref Sirol, a materion fel hyfywedd a lefel y newid poblogaeth a ragwelir. I ateb cyfanswm llawn y diffyg byddai’n rhaid rhyddhau symiau sylweddol o dir glas gan gynyddu’r gyfradd o ddatblygiad yn fawr gan achosi effaith amlwg ar y Fwrdeistref Sirol.

4.2.15.

Astudiaethau Galluogwyr Tai Gwledig

4.2.15.1.

Mae canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyflawni Asesiadau Marchnadoedd Tai Lleol yn nodi yng nghyd-destun aneddiadau gwledig fod arolwg atodol ar lefel cymunedol yn ddull ymarferol o fynd ati i asesu anghenion tai mewn ardaloedd gwledig gan y gall anghenion tai fod yn rhai lleol iawn mewn ardaloedd gwledig. Er mwyn gwella'r wybodaeth am anghenion tai lleol a helpu darparu tai fforddiadwy yng Nghonwy, mae'r Awdurdod yn ariannu Galluogwyr Tai Gwledig yn rhannol. Swyddogaeth y Galluogwyr Tai Gwledig yw gweithredu fel broceriaid annibynnol, diduedd sy’n gweithio ar ran cymunedau lleol i gynorthwyo eu cymunedau i benderfynu ar atebion wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion tai lleol a ddynodwyd a helpu cymunedau i gyflawni arolygon anghenion tai.

4.2.15.2.

Mae arolygon anghenion tai lleol a gyflawnir gan y Galluogwyr Tai Lleol yn gyson yn datgelu'r angen lleol am dai fforddiadwy. O’r Cynghorau Tref a Chymuned gwledig a arolygwyd hyd yn hyn mae angen diwallu anghenion tai fforddiadwy cyfanswm o 301 o aelwydydd o fewn 5 mlynedd yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig. Nid yw pob un o’r aneddiadau gwledig wedi’u harolygu hyd yn hyn. Er hynny, os rhagdybir fod yr arolygon a gyflawnir hyd yn hyn yn nodweddiadol o arolygon cymunedau gwledig Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri, bydd lefel yr angen yn cynyddu i 541 o bobl mewn angen fel y dangosir  yn BP/36 - ‘Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy’.

4.2.15.3.

Mae Astudiaethau’r Galluogwyr Tai Gwledig ond yn darparu arweiniad i lefel cyffredinol yr angen am dai fforddiadwy yng Nghonwy ac yn golygu ei bod yn eithriadol o anodd gwneud rhagolygon tymor hirach. Bydd graddfa'r angen yn cael ei adolygu drwy'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol ac Arolygon Anghenion Tai Lleol y Galluogwyr Tai Gwledig wrth i’r Cynllun fynd yn ei flaen.

4.2.16.

Tai Fforddiadwy

4.2.16.1.

Y diffiniad o dai fforddiadwy yn ‘Nodyn Cyngor Technegol 2’ Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer diffiniad yr Awdurdod sef: ‘Tai lle mae mecanweithiau diogel mewn grym i sicrhau ei fod ar gael i’r rhai na fedrant fforddio tai ar bris y farchnad, yn achos y preswylwyr cyntaf ac unrhyw breswylwyr dilynol.  Mae tai fforddiadwy’n cynnwys tai rhent cymdeithasol a thai canolradd’.

4.2.16.2.
Caiff y cysyniad o dai fforddiadwy ei ddiffinio’n gyffredinol fel gallu aelwydydd neu aelwydydd posibl i brynu neu rentu eiddo sy’n bodloni anghenion yr aelwyd heb gymhorthdal.  Diffiniwyd fforddiadwyedd yn Asesiad Marchnad Dai Leol Gogledd Orllewin Cymru perchnogaeth breswyl drwy weithredu'r cyfarwyddyd canlynol: ‘Defnyddio lluosrif o 3.5 gwaith yr incwm a rhagdybio blaendal o 10%’. Mae Conwy’n ardal  ble mae’r galw am dai’n uchel, a chynyddir hyn oherwydd y lefelau uchel o fewnfudo a newid mewn maint cartrefi.  Ar ddiwedd y cyfnod hwn (2008), pris cyfartalog tai yng Nghonwy oedd £155,850 ac incwm cyfartalog Conwy oedd £22,750 y flwyddyn, gan roi cymhareb pris/incwm o 6.9, sy’n llawer uwch nag argymhelliad y llywodraeth o sicrhau cymhareb fforddiadwyedd o 3.5.
4.2.16.3.

Er mwyn diffinio beth yw fforddiadwy mewn perthynas â’r sector rhentu preifat mae Asesiad Marchnad Dai Leol Gogledd Orllewin Cymru yn troi at ddiffiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef: ‘Dylid ystyried fod aelwyd yn gallu fforddio tai ar y farchnad mewn achosion lle nad yw’r rhent a delir yn uwch na 25% o incwm gros y teulu’.

4.2.16.4.

I gynorthwyo’r Cyngor i symud ymlaen â’r CDLl ac i ffurfio polisi yn y CDLl Diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd, darparwyd gwybodaeth ar gyfer y manylion o anghenion tai fforddiadwy ar lefel anheddiad a’r math a’r ddaliadaeth gan ddefnyddio ffynonellau eraill o’r wybodaeth a gasglwyd drwy Gofrestr Tai Cymdeithasol a Chamau Cyntaf y Cyngor ac Astudiaethau'r Galluogwr Tai Gwledig fel yr amlinellir yn BP/36 – ‘Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy’

4.2.17.

Hyfywedd

4.2.17.1.

Penododd CBS Conwy Ymgynghoriaeth y Three Dragons i baratoi Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy (AHVS) (gweler BP/9 – ‘Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy’) sy’n cydymffurfio â gofynion Nodyn Cyngor Technegol 2 (TAN2) Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n pwysleisio pwysigrwydd targedau polisi ar brofi hyfywedd. Mae’r astudiaeth yn cefnogi CDLl y Cyngor gan ddarparu darn hanfodol o dystiolaeth ar hyfywedd datblygiadau tai drwy osod targedau tai fforddiadwy y gellir eu darparu a drwy asesu trothwy priodol a ddylai sbarduno cyfraniadau tai fforddiadwy. Mae’r astudiaeth yn gadarn o fewn cyfnod y CDLl, er ei fod yn cydnabod y bydd y Cyngor yn monitro darpariaeth yn agos drwy'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) os bydd newid sylweddol yn y farchnad.

4.2.17.2.
Mae’r AHVS yn gosod targed o 30% o dai fforddiadwy ar gyfer pob datblygiad tai yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol a Prif Bentrefi Haen 1 a darpariaeth tai fforddiadwy o 100% yn y Prif Bentrefi Haen 2, y Pentrefi Llai a’r Pentrefannau.
4.2.18.

Targed Tai Fforddiadwy yng Nghonwy

4.2.18.1.

Rhaid i darged tai fforddiadwy’r Cynllun Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar asesiad realistig o’r hyn sy’n debyg o gael ei gyflawni yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r AHVS yn darparu targed hyfyw ar gyfer darparu tai fforddiadwy a’r lefelau trothwy y dylid ceisio eu sicrhau.

4.2.18.2.

Caiff y cyfraniad at y targed tai fforddiadwy ei ddarparu drwy ddatblygiadau a gwblhawyd ers 2007, ymrwymiadau (y rhai gyda chaniatâd cynllunio), a’r dyraniadau ar hap a newydd. Gwneir cyfraniad pellach at y ffynhonnell hon o gyflenwad tai fforddiadwy posibl hefyd drwy weithredu'r Strategaeth Cartrefi Gwag, adeiladu o’r newydd ar safleoedd eithriedig (gweler Polisi HOU/6) a thrawsnewid mewn cefn gwlad agored i greu anheddau gweithwyr amaethyddol.  Mae Tabl HOU2a yn rhoi manylion dosbarthiad y ffynonellau hyn o gyflenwad a’r targed darparu cyffredinol dros gyfnod y cynllun. Bydd gweithrediad y targedau hyn a’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn elfennau monitro allweddol yn yr AMR.

4.2.18.3.

Mae lefel cymharol uchel o eiddo gwag tymor hir yn parhau i fodoli yng Nghonwy fel y manylir yn Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor. O ganlyniad i ymdrechion presennol ac ymrwymiad Swyddog Cartrefi Gwag llawn amser yng Nghonwy, rhagwelir y bydd defnydd preswyl yn cael ei wneud o 325 (16 bobl blwyddyn) o anheddau gwag unwaith eto dros gyfnod y Cynllun ac mewn nifer o achosion byddant yn sicrhau manteision adfywio ehangach. Caiff rhywfaint o’r diffyg tai fforddiadwy a nodwyd yng Nghonwy ei ddiwallu drwy roi defnydd newydd i eiddo gwag. Paratowyd Protocol Symiau Gohiriedig sy’n amlinellu y gellir defnyddio taliadau symiau gohiriedig i ariannu'r gwaith i wneud defnydd o gartrefi gwag unwaith eto. Disgwylir y bydd y mecanwaith ychwanegol hwn yn cynnig rhagor o gymorth i gyrraedd y targed o 325 o anheddau. Mae’n bwysig fod Conwy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu rhoi defnydd preswyl parhaol unwaith eto i eiddo gwag tymor hir fel tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol. Mae polisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol yn cysylltu â Strategaethau Eiddo Gwag Awdurdodau Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri drwy hwyluso’r broses o roi defnydd unwaith eto i gartrefi sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir a thrawsnewid adeiladau gwag priodol eraill i ddefnydd preswyl parhaol fel tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol.

4.2.18.4.

Gellir gweld fod canran o’r tai fforddiadwy sydd eu hangen gan y Cynllun Datblygu Gwledig yn seiliedig ar yr AHVS. Er bod darparu hyn yn mynd i fod yn heriol, mae’n cynrychioli ymateb priodol i angen sydd wedi’i hen sefydlu ac yn flaenoriaeth gymunedol o bwys sydd wedi ei mynegi’n glir drwy gydol y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Y flaenoriaeth wrth ddarparu'r cyfraniad hwn fydd darparu tai fforddiadwy ar y safle. Bydd darpariaeth oddi ar y safle neu daliadau gohiriedig yn dderbyniol ar gyfer cynigion datblygu sy’n cynnwys 3 neu lai o anheddau, a gallant fod yn dderbyniol ar gyfer cynigion sy’n cynnwys 3 neu fwy o anheddau cyn belled fod cyfiawnhad digonol yn cael ei roi. Disgwylir i’r unedau tai fforddiadwy gael eu darparu heb gymhorthdal. I gynorthwyo datblygwyr, mae Ffurflen Asesu Oddi ar y Safle’n cefnogi Ymrwymiadau Cynllunio'r SPG y dylid eu cwblhau fel rhan o’r cais cynllunio os gofynnir am gyfraniad oddi ar y safle.

4.2.18.5.

Dylai'r tai fforddiadwy a ddarperir ddiwallu anghenion pobl leol. Mae’r paragraffau canlynol yn cynnig diffiniad ‘anghenion tai’ a ‘lleol’ ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy:

4.2.19.

Diffiniad o ‘Anghenion tai’

4.2.19.1.

Ni all y preswylwyr yn y dyfodol fforddio rhentu na phrynu llety ‘ar y farchnad agored’ yn yr ardal leol a rhaid iddynt gydymffurfio ag un o’r meini prawf canlynol:

  • Yn ddigartref ar hyn o bryd
  • Yn sefydlu aelwyd newydd am y tro cyntaf
  • Wedi bod yn byw mewn llety ar rentu ers o leiaf tair blynedd
  • Mae’r Awdurdod Tai yn ystyried bod eu cartref presennol mewn cyflwr sy’n is na’r safon a gellir profi nad oes modd trawsnewid y tŷ presennol na’i uwchraddio i ddiwallu eu hanghenion
  • Mae eu tŷ presennol yn rhy fach ar gyfer y teulu a gellir profi nad oes modd trawsnewid nac uwchraddio’u cartref presennol i ddiwallu eu hanghenion.
  • Mae’n hanfodol iddynt fyw’n agos at unigolyn arall sy’n diwallu Blaenoriaeth A, B neu C isod yn yr ardal gymwys
  • Gydag anghenion arbennig (pobl hŷn neu anabl)
  • Yn darparu gwaith neu wasanaeth allweddol ac wedi derbyn cynnig swydd barhaol llawn amser yn yr ardal gymwys
  • Yn gadael tai clwm ar ôl ymddeol

4.2.20.

Diffiniad o ‘Lleol’:

4.2.20.1.

Yn ogystal â bod ag anghenion tai, rhaid i breswylwyr bwriedig tai fforddiadwy newydd fodloni'r diffiniad o unigolyn lleol. Dyma ddiffiniad o unigolyn lleol mewn perthynas â’r Strategaeth Ddatblygu Drefol ac Ardaloedd y Strategaeth Ddatblygu Wledig:

  • Blaenoriaeth A: Mae unigolyn yn lleol os yw o neu hi wedi byw neu weithio mewn cyflogaeth barhaol llawn amser am gyfnod isafswm a pharhaus o bymtheg mlynedd yn ‘ardal yr anheddiad’.  Os nad yw unigolyn/unigolion yn diwallu’r maen prawf hwn, gweithredir y diffiniad Blaenoriaeth B.
  • Blaenoriaeth B: Os yw unigolyn wedi byw neu weithio mewn gwaith parhaol llawn amser am gyfnod isafswm a pharhaus o ddeng mlynedd o fewn ‘ardal anheddiad’. Os nad yw unigolyn/unigolion yn diwallu’r maen prawf hwn, gweithredir y diffiniad Blaenoriaeth C.
  • Blaenoriaeth C: Os yw unigolyn wedi byw neu weithio mewn gwaith parhaol llawn amser am gyfnod isafswm a pharhaus o bum mlynedd yn ‘ardal yr anheddiad’.

4.2.21.

Rhaeadru Preswyliad Cysylltiad Lleol:

4.2.21.1.

Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae’n bwysig sicrhau fod tai fforddiadwy’n cael eu darparu i bobl leol, gan sicrhau fod y tai’n diwallu’n effeithiol eu pwrpas o ddarparu ar gyfer angen lleol. Bydd diffiniad o angen lleol yn cael ei seilio i ddechrau ar y diffiniad uchod o leol.

4.2.21.2.

Pan fod eiddo, sy’n ddibynnol ar yr amod, yn cael ei hysbysebu ar werth byddai'r Awdurdod yn gorchymyn ei fod ar gael i breswylydd o fewn yr anheddiad sy’n diwallu'r meini prawf cymhwyso a nodir yn y caniatâd gwreiddiol. Os yw hynny’n wir rhaid hysbysebu'r eiddo am bris fforddiadwy am isafswm o ddeuddeg mis.

4.2.21.3.

Os ar ôl deuddeg mis bod yr eiddo, sydd wedi’i farchnata fel sy’n ofynnol uchod, yn dal heb ei werthu gall yr awdurdod, ar ôl derbyn ardystiad, lacio'r amodau sy’n ymwneud â phreswyliad yr eiddo a fydd yn caniatáu i’r eiddo gael ei gynnig i unigolion eraill gydag anghenion tai sy’n diwallu'r diffiniad ‘lleol’ uchod gan ddechrau gydag aneddiadau cyfagos a nodir.

4.2.21.4.

Os, ar ôl chwe mis pellach o hysbysebu, a bod yr eiddo yn dal heb ei werthu, gellir ei gynnig, ar ôl derbyn ardystiad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, i unigolyn gydag angen tai sydd wedi byw neu weithio mewn cyflogaeth barhaol llawn amser am isafswm cyfnod parhaus o ddeng mlynedd yn y Parc Cenedlaethol neu unrhyw Awdurdod Lleol cyfagos. Nid oedd amod preswyliaeth diwygiedig y Cyngor wedi’i gwblhau adeg llunio’r Cynllun. Adolygir y Cynllun ar ôl mabwysiadu amod preswyliaeth newydd y Cyngor.

4.2.22.

Hierarchaeth Aneddiadau a Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy

4.2.22.1.

Mae ffiniau datblygu tai wedi ei ddarparu ar gyfer pob anheddiad yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol ac yn y Prif Bentrefi Haen 1 a 2. Mae gan yr aneddiadau hyn well ddarpariaeth o wasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth i gefnogi tai newydd.  Ystyrir hefyd fod ganddynt y gallu i ymdopi a datblygiad heb niweidio sefyllfa'r iaith Gymraeg. Yn y Prif Bentrefi Haen 2, y Pentrefi Llai a’r Pentrefannau, bydd pob datblygiad tai wedi’i gyfyngu i dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol yn unig. Mae’r Awdurdod hefyd wedi dyrannu safleoedd ar gyfer tai fforddiadwy 100% yn y Prif Bentrefi Haen 2, tra bydd darpariaeth yn y Pentrefi Llai a’r Pentrefannau yn dibynnu ar safleoedd eithriedig yn unig. Bydd yn hanfodol monitro darpariaeth y targed uchelgeisiol hwn yn yr aneddiadau mwy gwledig o safbwynt y defnydd o safleoedd eithriedig.

4.2.22.2.

Yn unol â chanfyddiadau'r AHVS ac amcanion blaenoriaeth y cyngor i gyfrannu tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy, mae polisi HOU/2 yn ceisio cael cyfraniad hyfyw o 30% o AHLN ym mhob datblygiad tai yn Ardal y Strategaeth Datblygu Drefol a Phrif Bentrefi Haen 1, a thai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol yn unig yn y Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Llai a’r Pentrefannau.

4.2.22.3.

Fel eithriad i’r polisi, bydd tai fforddiadwy ar safleoedd eithriad sy’n ffinio’n uniongyrchol â therfynau datblygu tai yn Llanrwst a’r Prif Bentrefi Haen 1 a 2 yn cael eu caniatáu’n amodol ar bolisïau eraill y Cynllun. Yn y Pentrefi Llai a’r Pentrefannau, bydd safleoedd eithriedig yn cael eu hystyried yn briodol os ydynt yn ddatblygiad o fewn ffiniau'r anheddiad adeiledig neu’n cynrychioli elfen o dalgrynnu yn uniongyrchol yn gyfagos i’r anheddiad. Mewn cefn gwlad, bydd trawsnewid adeiladau traddodiadol addas yn dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol yn cael eu hystyried cyn belled eu bod yn cwrdd â meini prawf rheoli datblygu caeth. Caiff cynigion ar gyfer anheddau newydd mewn cefn gwlad agored eu hasesu yn erbyn y meini prawf a amlinellir yn y canllawiau cynllunio cenedlaethol.

4.2.23.

Hyblygrwydd

4.2.23.1.

Mae’r Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr brynu tir ar gyfer tai yn y dyfodol gan ystyried yr angen i ddarparu tai fforddiadwy ar y safle, yr ymrwymiadau cynllunio posibl ac unrhyw gostau anarferol (e.e. costau dadlygru). Bydd y newid cam hwn o ran prynu tir dros amser yn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy ymhellach gan y disgwylir y bydd y gostyngiad hwn mewn gwerth tir yn gwneud safleoedd o’r fath yn ddeniadol i Gymdeithasau Tai sy’n ceisio darparu tai fforddiadwy. Er hynny, mae’n anorfod y bydd newidiadau i’r hinsawdd economaidd, materion yn benodol i safleoedd a lefel yr angen yn newid dros gyfnod y Cynllun a allai golygu nad yw safleoedd yn hyfyw neu eu bod yn fwy hyfyw i geisio sicrhau darpariaeth uwch. Felly, gweithredir agwedd hyblyg i Bolisi HOU/2 ac mae pwyntiau sbarduno wedi’u cyflwyno i’r adran Fonitro a gweithredu ar gyfer achosion lle bydd angen gweithredu i ryddhau safleoedd wrth gefn neu gyfiawnhau adolygiad o’r Cynllun.

4.2.23.2.

Yn unol â Pholisi HOU/2 caniateir darpariaeth is o dai fforddiadwy ar safle lle gall y datblygwr ddangos yn glir fod angen hyn drwy ddefnyddio sail gwybodaeth ategol. Felly, dylai’r datblygwyr ddarparu ‘cyfiawnhad digonol’ lle na ellir cyflawni’r polisi, gan gyfeirio at y cyfyngiadau (risg llifogydd, gweddillion archeolegol, dyluniad, tai fforddiadwy, ac ati) ar y safle sy’n ei gwneud yn amhosibl cadw at y polisi.  I gynorthwyo datblygwyr, amlinellir Ffurflen Asesu Hyfywedd Ariannol yn yr SPG Ymrwymiadau Cynllunio, a dylid ei chyflwyno fel rhan o gais cynllunio i dangos cyfiawnhad dros beidio diwallu polisi HOU/2.

4.2.23.3.

Rhaid cydbwyso AHLN gyda gofynion eraill ar gyfer isadeiledd cludiant, cyfleusterau cymunedol, gofod agored ac adeiladu cynaliadwy. Mae hefyd angen cynnal hyfywedd darpariaeth tai. Bydd y Cyngor yn gwneud defnydd llawn o’r Pecyn Gwerthuso Three Dragons i asesu hyfywedd cynlluniau a chanran y ddarpariaeth AHLN.

4.2.23.4.

Penderfynir ar y gymysgedd briodol o ddaliadaethau tai a meintiau tai mewn datblygiad yn ôl amgylchiadau lleol pan roddir y caniatâd cynllunio, gan gynnwys anghenion tai, costau datblygu, argaeledd cymhorthdal, a chyflawni cymunedau cymysg a chytbwys. 

4.2.23.5.

Fel yr amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru a DP/3 –‘Hyrwyddo Ansawdd Dyluniad a Lleihau Troseddau’, gall dyluniad da ddiogelu’r amgylchedd a gwella ei ansawdd, helpu i ddenu busnes a buddsoddiad, hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd. Gweithredir yr amcanion hyn yn gyfartal i dai ar bris y farchnad ac i AHLN gyda’r egwyddor gyffredinol o sefydlu synnwyr o le a chymuned. Ar gyfer safleoedd bach bydd integreiddiad gweledol datblygiadau hen a newydd yn derbyn pwysigrwydd penodol. Dylai hefyd fod yn amhosibl gwahaniaethu rhwng tai fforddiadwy a thai ar bris y farchnad a ddarperir ar yr un safle, o safbwynt ansawdd dyluniad allanol a deunyddiau.

4.2.24.

Datblygiadau Tai Fesul Cyfnod

POLICY HOU/3 - DATBLYGIADAU TAI FESUL CYFNOD View Map of this site ?

Caiff dyraniadau tai eu rhyddhau yn unol â’r Cynllun Fesul Cyfnod fel y nodwyd yn y Fframwaith Gweithredu a Monitro.

4.2.24.1.

Yn sgil amgylchiadau lleol a chynaladwyedd, mae'r Cynllun yn gosod datblygiadau fesul cyfnod dros gyfnod y CDLl. Caiff y Camau a osodir eu cyfiawnhau gan ystyriaethau yn ymwneud ag isadeiledd ffisegol neu gymdeithasol, neu pa mor ddigonol yw gwasanaethau eraill, a allai nodi na ellir rhyddhau safle penodol ar gyfer datblygiad nes cyfnod penodol o gyfnod y cynllun (gweler BP/30 – ‘Cynllun Fesul Cyfnod’). Fel yr amlinellir yn BP/30, lle caiff cyfnodau eu cynnwys mewn CDLl dylai fod ar ffurf dangosydd eang o’r amserlen a ragwelir ar gyfer rhyddhau'r prif ardaloedd datblygu neu safleoedd a ddynodir, yn hytrach nag uchafswm rhifyddol mympwyol ar nifer y datblygiadau a ganiateir neu drefn bendant ar gyfer rhyddhau safleoedd mewn cyfnodau penodol.

4.2.24.2.

Dylai cynigion i osod cyfnodau ganiatáu graddau rhesymol o ddewis a hyblygrwydd, er enghraifft i sicrhau marchnad dai effeithlon ac effeithiol. Bydd angen hyblygrwydd mewn perthynas â safleoedd na ddynodwyd yn dod i’r fei, h.y. safleoedd na ddyrannwyd yn y CDLl ar gyfer math penodol o ddatblygiad a gyfeirir atynt fel rheol fel safleoedd ar hap. Dylai polisïau gosod cyfnodau gydnabod yr angen am addasiadau posibl i amseriad rhyddhau tir i’r graddau fod ymddangosiad safleoedd na amlinellwyd yn uwch neu yn is na rhagdybiaethau’r CDLl. Os gwneir rhagdybiaethau yn y CDLl am argaeledd safleoedd ar hap yn y dyfodol bydd angen gwirio'r rhagdybiaethau drwy fonitro caniatâd cynllunio a roddir yn gyson.

4.2.25.

Dwysedd Tai

POLICY HOU/4 - DWYSEDD TAI View Map of this site ?

Dylai datblygiadau preswyl wneud y defnydd gorau o dir drwy gyflawni dwysedd isafswm o 30-annedd yr hectar ar safleoedd a ddyrannir a safleoedd ar hap mawr. Ceisir sicrhau dwysedd uwch o hyd at 50 annedd yr hectar os yw’n ddefnydd cynaliadwy o dir ac adeiladau ac nad yw’n arwain at effaith annerbyniol. Ni fyddwn yn annog cynlluniau dwysedd uwch sy’n sicrhau gwerth gweddillol negyddol a nifer llai o dai fforddiadwy.

4.2.25.1.

Dylai cynigion preswyl gydymffurfio â’r polisïau yn yr Egwyddorion Datblygu a CDLl9: Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Dylunio’ er mwyn cyflawni amgylchedd byw o ansawdd. Er mwyn i gartrefi newydd gyfrannu at ddiwallu anghenion trigolion presennol a’r dyfodol, mae’n bwysig eu bod yn cael ei dylunio i ansawdd uchel, ac yn gynaliadwy a chynhwysol ac yn creu amgylchedd deniadol sy’n gweithredu’n dda, lle mae pobl eisiau byw, sy’n diwallu eu hanghenion ac yn creu ymdeimlad o le lle gellir datblygu hunaniaeth gymunedol.

4.2.25.2.

Yn unol â chanllawiau llywodraeth, anogir datblygiadau dwysedd uwch.  Cefnogir yr agwedd hon gan BP/9 – ‘Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy’ lle dangosir fod cynyddu dwysedd i 40 annedd yr hectar (dph) yn gwella gwerthoedd gweddillol a darpariaeth tai fforddiadwy cyffredinol. Er enghraifft, yn ardaloedd gwerth is y Fwrdeistref Sirol, bydd cynyddu dwysedd o 30dph i 40dph yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael cynllun gyda gwerth gweddillol negyddol i un lle mae’r gwerth gweddillol yn bositif a thai fforddiadwy’n cael eu darparu. Mae tystiolaeth fel y dangosir yn BP/9 yn dangos fod dwysedd tai ar 50dph ac uwch yn gostwng hyfywedd cynlluniau gan arwain at lai o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Y prif reswm dros y gostyngiad ymddangosol mewn hyfywedd yw bod cynllun 50dph ac uwch yn cynnwys cyfradd sylweddol uwch o unedau llai, a fflatiau’n benodol.  Mae unedau llai, mewn lleoliad fel Conwy, fel rheol yn cael effaith negyddol ar hyfywedd cyffredinol gan nad ydynt yn cynhyrchu gormodedd sylweddol o werth gwerthiant mewn perthynas â chostau. Pan fo tai fforddiadwy’n cael eu cynnwys yn y cynlluniau hyn, gall gwerth gweddillol yn sydyn ddod yn negyddol neu’n ymylol o ran hyfywedd. Mewn termau cyffredinol fodd bynnag, mae BP/9 yn dangos y bydd gwerth gweddillol ar ei uchaf rhwng 40dph a 50dph. Mae’r Cyngor, felly, wedi ceisio sicrhau datblygiadau o ddwysedd uwch o hyd at 50dph ar nifer o safleoedd yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol mewn lleoliadau cynaliadwy i sicrhau lefel uwch o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Bydd yn hanfodol profi hyfywedd cynllun tai wrth iddo gyrraedd y cam cynllunio yn unol â pholisi HOU/2 ond gallai'r Cyngor hefyd gydnabod y bydd dwyseddau is, o dan 30dph, yn angenrheidiol mewn achosion eithriadol i gyflawni dyluniad ac amwynder boddhaol. I gyd-fynd â hyn, cefnogir cynlluniau anheddau cost isel ar y farchnad a fydd yn cael eu hadeiladu am bris fforddiadwy i’r rhai mewn angen, a galluogi hynny trwy lefel y dwysedd a gynigwyd , dyluniad, gosodiad a defnyddiau, lle bo tai fforddiadwy yn cael eu darparu a’u cadw am byth. Mae’r Cynllun Darparu Tai a’r Cynllun Fesul Cam (adran 5) yn rhoi manylion y safleoedd hynny a fydd yn darparu ar gyfer dwysedd tai uwch.

4.2.25.3.

Mae adeiladu ar ddwysedd canolig i uchel hefyd yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o safleoedd datblygu, ac yn helpu diogelu cefn gwlad rhag datblygiadau diangen. Os yw adeiladu’n digwydd ar raddfa fawr, gall ffurfiau dwys o ddatblygiad hefyd gefnogi más critigol o bobl a allai fod angen i gefnogi cyfleusterau lleol.  Nid oes unrhyw reswm pan ddylai dwysedd uwch gyfyngu ar ansawdd y datblygiad newydd. 

4.2.26.

Cymysgedd Tai

POLICY HOU/5 - CYMYSGEDD TAI View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau darpariaeth o gymysgedd o dai ar y farchnad a AHLN sy’n adlewyrchu gofynion o ran daliadaeth, math o dai a meintiau tai fel yr amlinellir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a Chofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf Conwy. Dylai cynigion datblygu geisio darparu cymysgedd o eiddo 1, 2 a 3 ystafell wely yn bennaf oni bai y gellir dangos tystiolaeth fod amgylchiadau lleol anheddiad penodol neu leoliad yn awgrymu y byddai cymysgedd gwahanol o dai yn diwallu anghenion lleol yn well. Ni fyddwn yn annog cymysgedd bwriedig o anheddau sy’n arwain at werth gweddillol negyddol a llai o dai fforddiadwy. 

4.2.26.1.

Dylai pob datblygiad tai yng Nghonwy fod yn gymhwysol a darparu ar gyfer ystod amrywiol o feintiau cartrefi preswylwyr ac anghenion tai i greu cymunedau cymysg. Mae angen felly i bob datblygiad tai, ddarparu ystod fwy cytbwys o fathau tai i adlewyrchu anghenion a amlinellir yn y gymuned. Cafodd y rhaniad cyfartalog o gymysgiad tai ar draws y Fwrdeistref Sirol ei gasglu gan ddefnyddio'r rhagolygon poblogaeth diweddaraf a amlinellir yn BP/6 – ‘Cymysgedd Tai’. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hadolygu yn sgil rhagolygon yn y dyfodol ar gyfer Conwy a chwblhau'r Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy.

4.2.26.2.

Fel y nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru, mae’n ddymunol o safbwynt cynllunio bod datblygiadau tai newydd mewn ardaloedd trefol a gwledig yn cynnwys cymysgedd rhesymol a chydbwysedd o ran mathau a meintiau tai fforddiadwy i ddarparu ar gyfer ystod o anghenion tai a chyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy. Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn nodi ynglŷn â thai fforddiadwy ei bod yn bwysig i awdurdodau werthfawrogi'r galw am wahanol feintiau a mathau o anheddau tai (h.y. canolradd a rhent cymdeithasol) mewn perthynas â chyflenwad, fel bod ganddynt y wybodaeth orau wrth drafod y cymysgedd priodol sydd angen o anheddau ar gyfer datblygiadau newydd. Bydd y Cyngor yn gweithredu'r LHMA a’r Cofrestrau Tai Fforddiadwy drwy drafod y cymysgedd priodol o fathau o dai i ddiwallu anghenion y gymuned.  Mae hyn yn berthnasol yn enwedig gyda stadau tai sydd â’r potensial, oherwydd eu maint, i gyfrannu’n sylweddol at anghenion cymuned am ystod ehangach o feintiau o anheddau a mathau o anheddau. Fel gyda HOU/4, profir pob goblygiad polisi sy’n ymwneud â dwysedd a materion cymysgedd datblygiad ar lefel cynllun penodol gan ystyried hyfywedd y cynllun unol â HOU/2.

4.2.27.

Safleoedd Eithriedig Gwledig I Dai Fforddiadwy Ar Gyfer Anghenion Lleol

POLICY HOU/6 - SAFLEOEDD EITHRIEDIG GWLEDIG I DAI FFORDDIADWY AR GYFER ANGHENION LLEOL View Map of this site ?

Mae’n bosibl y caniateir cynlluniau tai sy’n darparu 100% AHLN fel eithriad i amgylchiadau polisi arferol yn unol â Pholisi Strategol HOU/1 a Pholisi HOU/2 cyn belled fod y meini prawf canlynol yn cael eu diwallu:

  1. Nad oes unrhyw safleoedd heb eu dyrannu yn dod ymlaen o fewn ffiniau datblygu neu derfynau’r anheddiad a allai ddiwallu'r angen hwn;
  2. Fod y cynnig yn gyfagos ac yn estyniad rhesymegol i’r ffin ddatblygu neu yn gyfagos i’r anheddiad presennol;
  3. Fod trefniadau diogel yn cael eu darparu i sicrhau fod pob annedd o fewn y cynllun yn darparu AHLN ac yn parhau felly am byth;
  4. Fod nifer, maint, math a daliadaeth yr anheddau yn cwrdd ag anghenion lleol a gyfiawnheir fel yr amlinellir yn yr arolwg anghenion tai lleol yn unol â Pholisi HOU/5;
  5. Fod yr unedau AHLN yn rhai o ansawdd uchel, wedi’u hadeiladu i Ofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth y Cynulliad – Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 yn unol â Pholisi HOU/2, Polisi Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ a’r Cod ar gyfer Tai Cynaliadwy;
  6. Fod y cais datblygu’n cwrdd â’r Meini Prawf Disgownt Gwerthu Tai Fforddiadwy'r Cyngor;
  7. Fod y cais datblygu’n diwallu'r gofynion a amlinellir yn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun.

4.2.27.1.

Mae polisi cenedlaethol yn caniatáu safleoedd eithriedig wrth ddiwallu anghenion tai fforddiadwy o fewn, neu’n gyfagos, at bentrefi dan amgylchiadau lle na fyddai caniatâd cynllunio’n cael ei roi fel arfer a lle dangosir fod angen lleol am dai fforddiadwy na ellir ei ddiwallu mewn unrhyw ffordd arall. Mae’r safleoedd ‘eithriedig gwledig’ hyn yn cynnig ffynhonnell fechan ond bwysig o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig ac yn cael eu hystyried fel rhai ychwanegol i’r ddarpariaeth dai i ddiwallu anghenion cyffredinol.  Mae angen y polisi uwchlaw’r hyn sydd wedi ei gynnwys mewn canllawiau cenedlaethol i ddarparu manylion ar y diffiniad o safleoedd eithriedig a dyraniadau 100% yn Llanrwst a’r aneddiadau yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig.

4.2.27.2.

Ym mhob achos mae anghenion pentref penodol yn cael ei harolygu a’u hasesu’n ofalus gan y Cyngor, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Galluogwyr Tai Gwledig cyn i gynllun fynd yn ei flaen. Gweithredir rheolaeth preswyliad i sicrhau fod manteision fforddiadwyedd (a sicrheir fel arfer gan fod sail eithriadol y cynllun yn golygu fod gwerth tir yn isel) yn cael eu diogelu am byth ar gyfer preswylwyr dilynol os diwallir meini prawf y Cyngor.

4.2.27.3.

Bydd safleoedd eithriedig yn cael eu hystyried os nad yw safleoedd a ddyrannwyd o fewn y ffin ddatblygu wedi dod ger bron. Rhaid cynhyrchu tystiolaeth i ddangos nad yw’r safle’n debygol o gael ei gyflwyno am beth amser neu nad yw pellach yn bosibl ei ddarparu oherwydd cyfyngiadau newydd.

4.2.28.

Safleoedd Dan Berchnogaeth y Cyngor A'r Llywodraeth yn Ardal y Cynllun

POLICY HOU/7 - SAFLEOEDD DAN BERCHNOGAETH Y CYNGOR A'R LLYWODRAETH YN ARDAL Y CYNLLUN View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni lefelau uwch o AHLN ar safleoedd dan berchnogaeth y Cyngor a’r Llywodraeth sydd uwchlaw'r safonau isafswm ar gyfer safleoedd preifat, os ydynt yn hyfyw, yn unol â Pholisi HOU/2 ac fel y dangosir yn Nhabl HOU2b a’r Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod.

4.2.28.1.

Bydd gwerthu tir dan berchnogaeth yr awdurdod lleol a’r Llywodraeth ar gyfer AHLN hefyd yn ychwanegu at y sicrwydd o ddarparu. O ganlyniad i lefel anghenion tai’r Fwrdeistref Sirol, a’r flaenoriaeth o ddiogelu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol, nodir tir dan berchnogaeth y Cyngor yn y Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod (adran 5). Os oes modd eu darparu a’u bod yn addas i gymeriad yr ardal, bydd y Cyngor yn ceisio caniatáu ar gyfer darpariaeth AHLN uwch ar y safle na’r safonau isafswm a osodir ar gyfer safleoedd mewn perchnogaeth breifat.

4.2.29.

Cofrestr Daliadaeth Tir

POLICY HOU/8 - COFRESTR DALIADAETH TIR View Map of this site ?

Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn ceisio sefydlu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tai Conwy, Parc Cenedlaethol Eryri ac asiantaethau cyhoeddus eraill, cofrestr daliadaethau tir ledled y Fwrdeistref Sirol mewn perchnogaeth gyhoeddus ar gyfer AHLN.

4.2.29.1.

I sicrhau cymaint â phosibl o ddefnydd a gallu i ddarparu ar gyfer safleoedd eithriedig a dyraniadau posibl o 100% o AHLN yn y dyfodol, bydd y Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i sefydlu cofrestr ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan, gyda’r Gwasanaeth Peirianneg a Dylunio, Gwasanaethau Tai, awdurdodau cyfagos lle mae materion trawsffiniol yn bodoli, a Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Bydd y tir yn cael ei werthuso’n rheolaidd i sicrhau fod banc tir o safleoedd a allai gael eu darparu a rhai addas ar gael i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy'r gymuned.

4.2.30.

Diwallu Anghenion Sipsiwn a Theithwyr am Safleoedd

POLICY HOU/9 - DIWALLU ANGHENION SIPSIWN A THEITHWYR AM SAFLEOEDD View Map of this site ?

Os dynodir angen am safle carafán sipsiwn a theithwyr, bydd cynigion yn cael eu caniatáu cyn belled fod y meini prawf canlynol yn cael eu diwallu:

  1. Rhaid i’r safle fod yn addas ar gyfer y math hwn o ddefnydd gyda thebygrwydd rhesymol y gellir datblygu'r safle yn ystod cyfnod y cynllun;
  2. Bydd tir wedi ei ddatblygu o’r blaen, neu dir gwag, ar ymyl ardaloedd trefol yn cael eu hystyried o flaen safleoedd mewn lleoliadau gwledig;
  3. Bydd safle wedi ei ddyrannu ar gyfer defnyddiau eraill ond yn cael ei ryddhau fel eithriad lle bod asesiad anghenion tai lleol wedi sefydlu bod angen safle i sipsiwn neu deithwyr, ac na ellir diwallu'r angen mewn unrhyw ffordd arall ac nad yw graddfa datblygiad yn uwch na lefel yr angen a ddynodwyd;
  4. Fod y safle o fewn cyrraedd i siopau, ysgolion a chyfleusterau iechyd ar gludiant cyhoeddus, ar droed neu ar feic;
  5. Fod mynediad da i’r brif rwydwaith gludiant ac na fydd y datblygiad fwriedig yn achosi tagfeydd traffig a phroblemau diogelwch ffordd;
  6. Fod y safle eisoes wedi’i sgrinio yn briodol neu fod modd ei sgrinio a’i dirlunio’n ddigonol;
  7. Y bydd gan y safle wasanaethau digonol ar y safle ar gyfer cyflenwad dŵr, ynni, draeniad, gwaredu carthffosiaeth a chyfleusterau gwaredu gwastraff;
  8. Na fyddai'r datblygiad yn niweidiol i amwynder preswylwyr cyfagos.

4.2.30.1.

Mae angen darpariaeth briodol i ddiwallu anghenion sipsiwn, teithwyr a phobl sioeau teithiol. Mae angen dealltwriaeth o’r anghenion hyn os bydd llety addas yn cael ei ddarparu a bod y nifer o wersylloedd heb eu hawdurdodi a datblygiadau yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu lleihau. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol asesu anghenion llety Sipsiwn a theithwyr. Mae bellach yn ofyniad statudol dan Adran 225 Deddf Tai 2004 i bob awdurdod cynllunio lleol asesu anghenion llety bob grŵp o Sipsiwn a theithwyr a mynd i’r afael â unrhyw anghenion a ddynodir drwy'r system gynllunio. Bydd yn ofynnol felly i awdurdodau cynllunio lleol gynnwys polisïau addas yn y CDLl i’w defnyddio wrth ystyried safleoedd bwriedig i Sipsiwn a Theithwyr ac i ddyrannu safleoedd os caiff angen clir ei ddynodi. Mae Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 30/2007 (‘Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafannau Sipsiwn a Theithwyr’) yn gorchymyn fod pob awdurdod cynllunio lleol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer safleoedd carafannau sipsiwn a theithwyr drwy ddyrannu safleoedd, lle dynodir bod angen yn bodoli, ynghyd â pholisïau’n seiliedig ar feini prawf.

4.2.30.2.

Yn seiliedig ar gyfrifiad carafannau sipsiwn a theithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru a gynhelir bob dwy flynedd a data gwersylloedd anghyfreithlon y Cyngor ei hun (gweler BP/22 – ‘Asesiad o’r Galw am Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’), nid yw’r Cyngor yn credu fod digon o alw i ddyrannu safle/safleoedd carafannau penodol yn ardal y cynllun. Er bod BP/22 yn dangos tystiolaeth o wersylloedd anghyfreithlon, mae lefel y data a gasglwyd ar bob gwersyll yn annigonol i benderfynu ar y math o safle sydd angen ei ddyrannu (e.e. dros dro, teithiol neu barhaol). Mae’n bwysig felly fod gan y  Cyngor bolisi ar gyfer darparu safleoedd sipsiwn a theithwyr  yn ei gynllun datblygu. Caiff y polisi, a’r angen am ddyrannu safle, ei adolygu ar ôl cwblhau Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) sy’n cael ei gynnal fel rhan o’r Asesiad o Farchnad Dai Leol Gogledd Orllewin Cymru (NWWLHMA). Yn amodol ar gytûn ar unrhyw ofynion yn y GTTAA, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd ragweithiol i sicrhau fod safleoedd yn cael eu darparu a chyflawni’r anghenion.  Byddwn yn adolygu’r Asesiad Chwilio am Safle Sipsiwn a Theithwyr i benderfynu ar leoliad safle yn unol â Pholisi HOU/9 – ‘Cwrdd â’r Angen am Safle Sipsiwn / Teithwyr’.

4.2.30.3.

Wrth gynllunio i ddarparu llety i Sipsiwn a Theithwyr, mae’n bwysig bod y safle/safleoedd yn gynaliadwy a bod ganddynt fynediad da i wasanaethau a chyfleusterau allweddol ac yn cynnal ac yn gwella'r amgylchedd naturiol.  Serch hynny, nid yw canlyniadau'r GTAA a’r NWWLHMA ar gael ar hyn o bryd.

4.2.31.

Tai Amlbreswyl a Fflatiau Hunangynhwysol

POLICY HOU/10 - TAI AMLBRESWYL A FFLATIAU HUNANGYNHWYSOL View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn rheoli datblygiad Tai Amlbreswyl i gynorthwyo i adfywio, gwella ansawdd a dewis tai, a chyfrannu at well amgylchedd yn Ardal y Cynllun. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wrthwynebu bob cynnig i greu Tai Amlbreswyl.
  2. Bydd rhannu eiddo preswyl yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol i fflatiau hunangynhwysol yn cael eu caniatáu cyn belled;

  1. Nad yw’r cynllun cadwraeth a newid yn creu Tŷ Amlbreswyl
  2. Os yw’n briodol, a bod y datblygiad yn cydymffurfio ag Egwyddorion datblygu, Safonau Parcio’r Cyngor a bod pob un o’r fflatiau hunangynhwysol wedi ei dylunio i ansawdd uchel yn unol â gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth y Cynulliad - Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 sy’n cynnwys gofod a safonau Cartref Gydol Oes a safonau isafswm i’w cyflawni mewn perthynas â’r Cod Cartrefi Cynaliadwy;
  3. Na fyddai'r lefel o weithgarwch preswyl a’r traffig a gynhyrchir yn cael effaith ddifrifol ar breifatrwydd ac amwynder preswylwyr eiddo cyfagos
  4. Fod y Datblygiad yn cael ei gefnogi gan angen a ddynodir fel yr amlinellir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (Cam 2).

4.2.31.1.

Mae creu fflatiau hunangynhwysol wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ardaloedd Bae Colwyn a Llandudno.  Cyflawnwyd hyn drwy godi adeiladau newydd a drwy drawsnewid tai mawr neu eiddo masnachol. Gall fflatiau hunangynhwysol helpu mynd i’r afael ag anghenion y rhai sy’n aros i brynu neu rentu unedau llety bach, yn ogystal â darparu dewis tai cymharol fforddiadwy i rai sy’n dymuno prynu eu heiddo cyntaf.

4.2.31.2.

Er fod creu fflatiau hunangynhwysol yn helpu diwallu angen tai, mewn rhai achosion gall eu darparu fod yn niweidiol i amwynder yr ardaloedd preswyl presennol. Er enghraifft gall niferoedd mawr o fflatiau arwain at broblemau fel diffyg llefydd parcio ar y stryd a phroblemau gyda storio biniau. Yn ogystal, mae ardaloedd gyda lefelau uchel o fflatiau yn aml yn cael eu cysylltu gyda lefelau isel o breswylwyr sy’n berchnogion a gall hyn mewn rhai achosion arwain at safonau is o ran cynnal a chadw a materion cysylltiedig yn ymwneud â dirywiad amgylcheddol (gan felly effeithio ar welliant amgylcheddol ac amcanion adfywio).  Yn ogystal, gall effaith gronnus trawsnewid anheddau mwy yn fflatiau gael effaith niweidiol ar y gwaith o greu cymunedau cymysg a chytbwys drwy ostwng y nifer o gartrefi teuluol sydd ar gael mewn ardal. Ar hyn o bryd mae crynodiadau uchel o fflatiau hunangynhwysol sy’n cael effaith ar gymeriad ac ymddangosiad ardal Bae Colwyn. I wella ymddangosiad yr ardal a chynorthwyo i adfywio Bae Colwyn, yn benodol, ac ardaloedd eraill ar hyd rhimyn yr arfordir, mae angen polisi HOU/10 i atal crynodiad rhy fawr o ddefnyddiau o’r fath a sicrhau fod datblygiadau’n diwallu anghenion dynodedig.  Bydd Polisi HOU/10 hefyd yn cefnogi'r agwedd a amlinellir ym Mhrif Gynllun Ardal Bae Colwyn i wella'r tai sydd ar gael, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd ym Mae Colwyn.

4.2.31.3.

Yn ogystal â fflatiau hunangynhwysol, mae darparu Tai Amlbreswyl (adeiladau lle mae rhai cyfleusterau’n cael eu rhannu gan nifer o bobl a fyddai fel arall yn byw’n annibynnol o’i gilydd) wedi bod yn broblem hanesyddol yng Nghonwy, yn benodol, ym Mae Colwyn. Mae Tai Amlbreswyl (HMOs) yn aml yn darparu amgylchedd byw cymharol wael ac nid ydynt yn aml yn gwneud cyfraniad positif tuag at ansawdd ardal. Er mwyn cefnogi amcanion adfywio cenedlaethol a lleol, yn ogystal â pholisïau eraill a fabwysiadir gan y Cyngor, byddwn yn gwrthwynebu’n gadarn sefydlu creu o dai amlbreswyl a phwysleisio’r angen i leihau eiddo fel hyn yng Nghonwy.

4.2.31.4.

Bydd y Cyngor yn llunio Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar Fflatiau Hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl i gefnogi’r polisi’n unol â Pholisi DP/7 – ‘Canllawiau Cynllunio Lleol’. Bydd yr SPG yn darparu canllawiau ategol i Bolisi HOU/10 gan roi manylion y diffiniadau o Fflatiau Hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl a’r safonau dylunio gofynnol ar gyfer trawsnewid fflatiau hunangynhwysol.

4.2.32.

Cartrefi Gofal Preswyl a Thai Gofal Ychwanegol

POLICY HOU/11 - CARTREFI GOFAL PRESWYL A THAI GOFAL YCHWANEGOL View Map of this site ?

O fewn Ardal y Cynllun bydd cynigion ar gyfer cartrefi gofal preswyl neu dai gofal ychwanegol ond yn cael eu caniatáu os bodlonir y meini prawf canlynol:

  1. Fod y llety gofal newydd wedi’i leoli naill ai o fewn ffiniau’r anheddiad a nodir yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol neu mewn Prif Bentref Haen 1;
  2. Ar gyngor gwasanaeth cymdeithasol y Cyngor ac/neu'r strategaeth tai  a gan ystyried graddfa'r sefydliadau preifat ac awdurdod iechyd lleol presennol na fydd y cynnig yn arwain at orddarpariaeth o lety gofal o’i gymharu ag anghenion yr ardal leol;
  3. Bod modd gwasanaethu'r llety gofal newydd yn ddigonol;
  4. Bod y llety wedi’i leoli o fewn pellter cerdded rhesymol i ganol tref neu bentref.
4.2.32.1.

Mae nifer sylweddol o sefydliadau gofal preswyl yn bodoli o fewn Ardal y Cynllun, yn enwedig yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol. Mae’r Awdurdod yn ystyried bod y ddarpariaeth bresennol yn ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol yr ardal leol, y dylid gwrthwynebu datblygiad pellach. Bydd agwedd o’r fath yn osgoi pwysau gormodol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol lleol a’r tir cyfyngedig o fewn aneddiadau presennol, a allai fod ei angen i bwrpasau eraill. Cyn gwneud penderfyniad ar gais i greu neu ymestyn cartref gofal, bydd yr Awdurdod yn ystyried cyngor y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Strategaeth Tai i weld a oes angen am sefydliadau o’r fath.

4.2.32.2.

O safbwynt datblygiad cynaliadwy, mae'r Awdurdod yn credu fod yr aneddiadau yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol a Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer cartrefi preswyl ar gyfer pobl hŷn. Mewn lleoliadau lle mae’r Awdurdod yn fodlon fod modd darparu cartref preswyl i’r henoed yn foddhaol, dylai fod wedi’i leoli o fewn pellter cerdded rhesymol i wasanaethau tref neu bentref ac mewn lleoliad a fydd yn lleihau effeithiau'r cais ar amwynder eiddo preswyl cyfagos.

4.2.32.3.

Yn yr un modd, bydd yr Awdurdod yn cefnogi ailddefnyddio adeiladau mawr ar gyfer pwrpasau gofal preswyl, yn amodol ar y gofynion lleoliad a amlinellir uchod.  Yn ogystal rhaid i’r awdurdod fod yn fodlon y gellir defnyddio a thrawsnewid yr adeilad heb niweidio cymeriad presennol yr ardal neu mewn modd sy’n debygol o niweidio amwynder eiddo cyfagos.

4.2.32.4.

Mae tai gofal ychwanegol yn gwneud cyfraniad pwysig at ddarpariaeth fforddiadwy.  Er nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr ystadegau fel tai fforddiadwy newydd, mae rhai trigolion sy’n symud i mewn i’r cartrefi hyn yn gadael tai gwag fforddiadwy ar gyfer pobl eraill.

4.3.

Y strategaeth Economaidd

4.3.1.

Amcanion Gofodol

AG1: Sicrhau fod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu, wrth ddiogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig, trwy hyrwyddo lefelau digonol a phriodol o ddatblygiad, lleoli datblygiad lle bo’n ymarferol ar dir a ddatblygwyd eisoes ac yn bennaf yn yr aneddiadau arfordirol trefol mwy ac ar hyd y rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, gan nodi a diogelu asedau amgylcheddol pwysig, a sicrhau dwysedd effeithlon o ddatblygiad sy’n cyd-fynd a mwynderau lleol.

AG4: Nodi a diogelu digon o dir i gwrdd ag angen y gymuned ar gyfer rhagor o swyddi, ffyniant economaidd uwch a llai o all gymudo, gan ganolbwyntio yn bennaf ar gyfle cyflogaeth gwerth uwch a datblygu sgiliau o fewn canolfannau strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn a chanolbwynt strategol y Rhyl a Phrestatyn gan gynnwys Bae Cinmel a Llanelwy.

AG5: Annog cryfhau ac arallgyfeirio'r economi wledig i gyd-fynd â’r economi leol, cymunedau ac amgylchedd.

4.3.2.

Datganiad Strategaeth Economaidd

4.3.2.1.

Dylai polisïau strategaeth economaidd y Cynllun hwn ymdrin â nifer o heriau sy’n ymwneud â chyflogaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys datblygu cyfleoedd gwerth uwch newydd lleol a datblygu economi yn seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth sy’n cael y gwerth gorau o adnoddau naturiol yr ardal, ei amgylchedd a’i ddiwylliant diwylliannol gan gymryd mantais lawn o safle strategol ffyrdd a rheilffyrdd y sir.  Dylai cynlluniau cyflogaeth, yn ddelfrydol darparu gyrfaoedd parhaol a fydd yn denu ac yn cadw pobl ifanc yn yr ardal.

4.3.2.2.

Lluniwyd y polisi cyflogaeth strategol i sicrhau fod y Cyngor, yn ystod cyfnod y Cynllun yn cydweithio â’i bartneriaid i gynllunio, monitro ac adolygu darpariaeth uchafswm o hyd at oddeutu 3650 o swyddi (32 hectar) o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 gyda lefel wrth gefn hyd at 4650 o swyddi (37 hectar). Yn ychwanegol, mae 1675 o swyddi (14 Hectar) gyda ffigwr wrth gefn hyd at1925 o swyddi (16 Hectar) ar gael ar gyfer cyfle datblygu cyflogaeth yn y Cynllun i gyfrannu at ostwng lefelau all gymudo yn ystod cyfnod y Cynllun. Mae’r polisi a luniwyd dan y Strategaeth Economaidd yn anelu at leoli’r gofyniad hwn mewn lleoliadau hygyrch i wneud y gorau o’r cyfraniad y mae’n ei wneud tuag at gwrdd ag amcanion newid poblogaeth yn yr aneddiadau trefol a gwledig ac ar gyfer cyflogaeth gwerth uwch a datblygu sgiliau.

4.3.2.3.

Nododd Cynllun Gofodol Cymru ddwy ardal canolbwynt strategol; yn gyntaf Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn ac yn ail Bae Cinmel, sy’n ffurfio rhan o ganolbwynt strategol y Rhyl, Prestatyn Bodelwyddan a Llanelwy.  Cydnabyddir yr ardaloedd hyn fel canolbwynt buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer cyflogaeth, tai, adwerthu, hamdden a gwasanaethau. Yn ogystal, mae dynodi’r ardal hon fel Ardal Adfywio Strategol yn rhoi rhagor o bwyslais ar gefnogi cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy. Cydnabuwyd hyn gan y Cyngor trwy ganolbwyntio datblygiad o fewn Ardal Strategaeth Ddatblygu Trefol a chyhoeddi Prif Gynllun Bae Colwyn fel dull pwysig i gyflawni hynny gan oresgyn amddifadedd, ac y mae creu swyddi yn brif gymhelliad. 

4.3.2.4.

Mae dyheadau allweddol pobl y Sir i annog twf busnesau presennol, cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gwerth uwch, datblygu sgiliau, entreprenerwyr a dechrau busnesau. Cydnabyddir yn y Cynllun fod y rhain yn elfennau pwysig i hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys a chadw pobl iau sy’n fwy gweithgar yn economaidd, yn y sir.

4.3.2.5.

Mae’n bwysig fod y strategaeth economaidd yn annog cyflogaeth ar raddfa fechan y tu allan i’r prif aneddiadau fel y gellir datblygu menter wledig a chyfrannu at ddatblygiad economaidd lleol. Ond ni ddylai mentrau fel hyn dynnu oddi wrth dirlun yr ardal na chael eu lleoli mewn ardaloedd a fydd yn achosi cynnydd sylweddol mewn traffig ar hyd ffyrdd anaddas. Mae hefyd yn bwysig gwella ansawdd a hygyrchedd yr isadeiledd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu cyflymder uchel, i hwyluso rhagor o gyfleoedd ar gyfer gweithio gartref mewn ardaloedd gwledig. Mae gweithio gartref yn cynnig manteision penodol, nid yn unig ar gyfer gweithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy, ond hefyd ar gyfer creu cyflogaeth newydd, ailddefnyddio adeiladau gwag a lleihau’r angen am deithio mewn cerbydau i’r gwaith.  Mae gweithio gartref hefyd yn gallu atal llif allfudo pobl leol o’r ardal a chryfhau bywyd cymunedol trwy alluogi pobl i fyw a gweithio yn eu pentref neu ddychwelyd iddynt.

4.3.2.6.

Wrth ystyried yr amcanion hyn, mae’r strategaeth economaidd yn cynnwys polisïau sy’n ceisio diogelu’r stoc bresennol eiddo cyflogaeth.

4.3.2.7.

Mae’r Strategaeth Economaidd yn nodi’r ymagwedd i gyfrannu tuag at y prif faterion hyn.

4.3.3.

Diwalllu Anghenion Cyflogaeth

POLICY EMP/1 - DIWALLLU ANGHENION CYFLOGAETH View Map of this site ?

Mae diwallu anghenion cyflogaeth y Sir wrth wraidd amcanion y Cyngor yn y dyfodol. Bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu cyflawni tua 32 hectar o dir cyflogaeth, gan gynnwys adeiladau a gwblhawyd (safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn hyd at 37 hectar o dir cyflogaeth, i ddiwallu anghenion y newid mewn poblogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu ymhellach darparu 14 hectar gyda chynllun wrth gefn hyd at 16 hectar o dir cyflogaeth i gyfrannu at yr amcan o leihau lefelau all gymudo yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd cyflogaeth gwerth uwch a datblygu sgiliau a hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys yn cael eu hannog. Cyflawnir hyn trwy:

  1. Cefnogi datblygiad cyflogaeth newydd yn yr Ardaloedd Datblygu Strategol Gwledig a Threfol trwy leoli cyflogaeth B1, B2 a B8 ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a’r hierarchaeth aneddiadau a nodwyd yn Polisi DP/2 – ‘Ymagwedd Strategol Gyffredinol’.  Yn ystod y cyfnod 2007 - 2022, bydd tua 80% (26 hectar) o’r gofynion am dir cyflogaeth B1, B2 a B8, a achoswyd gan y newid a rhagwelir yn y boblogaeth, yn cael eu lleoli o fewn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, a bydd tua 20% (6 hectar) yn Ardal Strategol Datblygu Gwledig, yn unol â Pholisi EMP/2 – ‘Datblygiad Cyflogaeth B1, B2 a B8 Newydd’.
  2. Cyfrannu at leihau lefelau all gymudo trwy gefnogi datblygiadau cyflogaeth newydd yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, trwy leoli tua 14 hectar, gyda lefel wrth gefn hyd at 16 hectar o dir cyflogaeth B1, B2 a B8 yn unol â Polisi EMP/2.
  3. Cefnogi datblygiad newydd ar safleoedd heb eu dyrannu yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Gwledig a Threfol yn unol â Polisi EMP/2.
  4. Gweithredu i ateb problemau presennol amddifadedd trwy gadw a datblygu deunyddiau creu cyflogaeth fel rhan o adfywio cynhwysfawr Bae Colwyn yn unol â Polisi DP/9 –‘Prif Gynllun bae Colwyn’, a chefnogi LDP10: ‘Canllawiau Cynllunio Atodol Prif Gynllun Bae Colwyn’.
  5. Diogelu tir ac adeiladu cyflogaeth rhag cael ei ddefnyddio at bwrpas arall yn unol â Pholisi EMP/3 – ‘Diogelu tir Cyflogaeth Presennol B1, B2 a B8’.
  6. Hyrwyddo ailddefnyddio tir neu adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio neu yn cael eu tan ddefnyddio ar gyfer pwrpas economaidd neu gyflogaeth o fewn yr Ardal strategol Datblygu Gwledig, yn unol â Polisi DP/6 – ‘Polisi Cynllunio Cenedlaethola Chanllawiau’ a Cynllun Asedau Busnes y Cyngor.
  7. Cefnogi’r sector amaethyddol a chyfle ar gyfer arall gyfeirio gwledig nad ydynt yn effeithio yn niweidiol ar ansawdd tirlun y Sir, yn unol â Pholisi  DP/6.
  8. Hyrwyddo datblygu sgiliau mewn ardaloedd o angen yn unol â Pholisïau DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’, DP5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’ a chefnogi CDLl4: Cynllunio Atodol Ymrwymiadau Cynllunio.
  9. Annog cynigion a fyddai’n darparu isadeileddau cefnogol priodol i gynnal ac i hyrwyddo’r economi leol, yn unol ag Egwyddorion Datblygu.
4.3.3.1.

Mae’r modd y mae’r Cynllun hwn yn gallu hwyluso gwella statws economaidd y Sir yn uniongyrchol yn gyfyngedig. Ei brif swyddogaeth yw sicrhau fod cyflenwad digonol o dir neu fannau gwaith addas ar gael, i alluogi ystod ehangach o gynlluniau newydd cyflogaeth heb andwyo’r asedau amgylcheddol a hanesyddol yng Nghonwy a hunaniaeth ddiwylliannol ardal y Cynllun.

4.3.3.2.

Mae rhan fwyaf o’r aneddiadau mwy a mwy cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol ar hyd coridor yr A55 a’r rheilffordd. Er bydd y lleoliadau trefol hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r gyflogaeth sydd ei angen yn ystod cyfnod y cynllun, mae’r cynllun yn cydnabod anghenion cymunedau gwledig ac yn dyrannu tir cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig, i gynorthwyo i hyrwyddo’r cymunedau gwledig cynaliadwy, a chyfrannu at leihau teithio mewn car preifat yn gyffredinol.

4.3.3.3.

Mae astudiaethau i’r gofynion am dir cyflogaeth (gweler BP/14 – ‘Adroddiad Astudiaeth Tir Cyflogaeth’ a’r BP/3 – ‘Adroddiad Dewisiadau Lefel Twf’) ac argaeledd safleoedd addas o’r cyflenwad presennol (gweler BP/13 – ‘Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth’) yng Nghonwy yn dangos bod digon o dir ar gael yn gyffredinol gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer cyflogaeth yn y Sir, yn bennaf o fewn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, i ddiwallu’r rhan fwyaf o anghenion tir cyflogaeth. Fel y dangoswyd yn atodiad A BP/13, mae digon o dir hefyd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o anghenion tymor byr a thymor canolig i dymor hir yr ardal.  Ond, mae tir newydd ar gyfer cyflogaeth wedi ei ddyrannu yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Gwledig a threfol, yn bennaf yn lleoliadau canolbwyntiau strategol Cyffordd Llandudno, i ddiwallu’r diffyg a nodwyd a’r gofynion ychwanegol i leihau lefelau all gymudo.

4.3.3.4.

Er bydd y rhan fwyaf o ddatblygiad cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Ddatblygu Trefol, ceir dyraniadau hefyd yn yr aneddiadau Ardal Strategol Datblygu Gwledig, sydd fwy hygyrch ac sy’n cael eu gwasanaethu yn bennaf yn y Prif Bentrefi Lefel 1 a 2, i gyfrannu at hyrwyddo cymunedau mwy cynaliadwy. Ond, mae’r Cyngor yn cydnabod fod lle i gefnogi busnesau sy’n galluogi cymunedau lleol i ffynnu, gan ddarparu sgiliau datblygu a helpu i leihau’r angen i bobl gymudo yn bell i weithio.

4.3.3.5.

Mae’n bwysig cadw'r stoc bresennol o eiddo cyflogaeth pan fo’u deunyddiau presennol yn dod i ben. Lle dadleir nad yw’r tir cyflogaeth bellach yn gynaliadwy, bydd yr Awdurdod yn gofyn am dystiolaeth bod posibiliadau cyflogaeth y safle wedi cael eu hysbysebu ar y farchnad am o leiaf 12 mis cyn ystyried defnydd arall.

4.3.4.

Datblygiad Cyflogaeth B1,B2 a B8 Newydd

POLICY EMP/2 - DATBLYGIAD CYFLOGAETH B1, B2 A B8 NEWYDD View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu darparu tua 32 hectar o dir cyflogaeth, (gan gynnwys safleoedd wedi eu cwblhau, safleoedd wedi ymrwymo a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn hyd at 37 hectar o dir cyflogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun i gwrdd â’r newid a ragwelir yn y boblogaeth.  Bydd gofynion tir ychwanegol o 14 hectar, gyda thir wrth gefn hyd at 16 hectar, yn cael ei gynnwys i gyfrannu at leihau lefelau cymudo o’r sir. Bydd cyflogaeth gwerth uwch, datblygu sgiliau a hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys yn cael eu hannog. Cyflawnir hyn drwy:
  1. Bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu darparu tua 32 hectar o dir cyflogaeth, (gan gynnwys safleoedd wedi eu cwblhau, safleoedd wedi ymrwymo a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn hyd at 37 hectar o dir cyflogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun i gwrdd â’r newid a ragwelir yn y boblogaeth.  Bydd gofynion tir ychwanegol o 14 hectar, gyda thir wrth gefn hyd at 16 hectar, yn cael ei gynnwys i gyfrannu at leihau lefelau cymudo o’r sir. Bydd cyflogaeth gwerth uwch, datblygu sgiliau a hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys yn cael eu hannog. Cyflawnir hyn drwy:
  2. Lleoli 14 hectar ychwanegol o dir cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol (gan gynnwys safleoedd a gwblhawyd, safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) a lefel wrth gefn hyd at 16 hectar i gyfrannu at leihau lefelau all gymudo. Mae’r dyraniadau safleoedd newydd wedi eu dosbarthu fel y nodwyd isod:
ARDAL STRATEGOL DATBLYGU TREFOL
Dyraniad Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Cyflogaeth
Esgyryn, Cyffordd Llandudno (Tai defnydd Cymysg a Safle Cyflogaeth Lleoliad Canolbwynt Strategol – Cyffordd Llandudno 6.2 Hectar o Gyflogaeth B1
Gogledd-ddwyrain y Cyn Iard Nwyddau Lleoliad Canolbwynt Strategol – Cyffordd Llandudno 0.4 Hectar o Gyflogaeth B1
Ger Bodlondeb, Conwy (Defnydd cymysg Tai a Chyflogaeth) Conwy 0.5 Hectar o Gyflogaeth B1
Y cyn Iard Nwyddau Llandudno 1.4 Hectar o Gyflogaeth B1
De-ddwyrain Abergele (Tai defnydd Cymysg a Safle Chyflogaeth) Abergele 3.5 Hectar o Gyflogaeth B1
Parc Busnes Abergele (Tai defnydd Cymysg a Safle Chyflogaeth) Abergele 5 Hectar o Gyflogaeth B1
  1. Lleoli 6 hectar o dir cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig (gan gynnwys safleoedd wedi eu cwblhau, safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn hyd at 7 hectar yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd y safleoedd yn cael eu dosbarthu fel y nodwyd isod:

ARDAL STRATEGOL DATBLYGU GWLEDIG
Dyraniad Safle Anheddiad Gwledig Dyraniad Cyflogaeth
Tir Gorsaf Betrol Orme View, Dwygyfylchi Prif Bentref Lefel 1, 2.7 Hectar Cyflogaeth B1/B2/B8
Tir wrth y Neuadd Goffa, Dolgarrog Prif Bentref Lefel 2, 0.3 Hectar Cyflogaeth BI/B2
Tir yn Llansannan Prif Bentref Lefel 2, 1.2 Hectar Cyflogaeth B1/B2
Tir yn Neuadd y Sgowtiaid, Llansannan Prif Bentref Lefel 2,  0.3 Hectar Cyflogaeth BI/B2 
Safle R44 Llangernyw Prif Bentref Lefel 2, 0.3 Hectar Cyflogaeth BI/B2
Tir oddi ar y B1505, Cerrigydrudion Prif Bentref Lefel 2, 1.2 Hectar Cyflogaeth BI/B2  
  1. Bydd safleoedd yn cael eu rhyddhau fel y nodwyd yn y Cynllun Gam wrth Gam.
  2. Cefnogir datblygiad cyflogaeth newydd yn yr Ardaloedd Datblygu Strategol Trefol a Gwledig ar safleoedd nad ydynt wedi cael eu dyrannu. Cefnogir datblygiad o fewn Prif Ardaloedd Adeiledig yr aneddiadau Datblygiad Strategol Trefol, Prif Bentrefi a Phentrefi Llai Lefel 1 a 2, yn amodol ar bolisïau eraill yn y cynllun a chyflawni’r meini prawf a ganlyn
  1. Mae’r cais yn briodol o ran graddfa a natur i’w leoliad.
  2. Mae ailddefnyddio adeiladau presennol, i ehangu cyfleuster presennol neu safleoedd a ddyrannwyd yn cael blaenoriaeth trwy brawf olynol cyn ystyried adeiladu newydd.
  3. Cefnogir y cynnig gan achos busnes priodol sy’n dangos y bydd yn cefnogi’r economi leol, datblygu sgiliau ac yn helpu i gynnal cymunedau lleol.
  1. Asesir addasu adeilad presennol ar gyfer pwrpas cyflogaeth ar raddfa fechan i gwrdd ag anghenion lleol mewn cefn gwlad agored yn unol â Pholisi DP/6.

SAFLEOEDD WRTH GEFN

ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU TREFOL
Dyraniad Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Cyflogaeth
De Ddwyrain Abergle Abergele 3.7 Hectar
Cae Triongl Llandudno Llandudno 2.3 Hectar
ARDAL STRATEGAETH DATBLYGIAD GWLEDIG
Dyraniad Safle Anheddiad Trefol Dyraniad Cyflogaeth
Gorsaf Lenwi Orme View Haen 1 Prif Bentref 1.0 Hectar
4.3.5.

Cwrdd â gofynion cyflogaeth o newidiadau a ragwelir i’r boblogaeth.

4.3.5.1.

I gwrdd â’r galw a achosir gan y newidiadau a ragwelir yn y boblogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun, mae angen i Gonwy gynllunio, monitro ac adolygu’r angen ar gyfer 32 hectar o dir cyflogaeth gyda lefel wrth gefn hyd at 37 hectar, yn ystod cyfnod y Cynllun (Gweler BP/3), gan gynnwys adeiladau cyflogaeth ers 2007, safleoedd heb eu datblygu gyda chaniatâd cynllunio, a dyraniadau newydd. (gweler Tabl 7)  Nodwyd sut i gyfrifo’r tir sydd ei angen ar gyfer swyddi yn BP/13.  Yn unol â BP/14 mae 80% o ofyniad tir cyflogaeth hwn (26 hectar) i’w leoli yn Ardal Strategol Datblygu Trefol a 20% (6 hectar) yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig.  Mae rhaniad y gofynion cyffredinol wedi eu rhannu rhwng y safleoedd argyfwng trwy Ardal y Cynllun.

4.3.6.

Cyfrannu at leihau lefelau cymudo allan o’r Sir

4.3.6.1.

Nododd yr asesiad diweddaraf o lefelau cymudo a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2009 bod 5,200 o bobl yn cymudo allan o Fwrdeistref Sirol Conwy yn gyffredinol. Un o amcanion y Cyngor yw lleihau’r lefel o gymudo allan o’r Sir trwy ddarparu twf economaidd. Gallai darparu mwy o swyddi na thai arwain at leihau cymudo yn y sir, ond yn gyffredinol nid yw’r lefel cymudo allan o sir yn debygol o leihau’n drawiadol, oherwydd natur fechan a mwy gwledig y Fwrdeistref Sirol.  Dim ond ardaloedd trefol mawr sydd â digon o boblogaeth a chyflogaeth i ddarparu’r amrywiaeth o swyddi sydd eu hangen i gefnogi bod yn hunangynhwysol.

4.3.6.2.

Fel y nodwyd yn BP/3, dylid sicrhau 1,675 rhagor o swyddi (gan gynnwys defnyddio 325 o dai gwag unwaith eto) yn y cynllun, i gyfrannu at leihau mudo allan o’r sir ac i ailddefnyddio eiddo gwag. Nid yw’r lefel hon o ofynion ychwanegol yn effeithio ar nifer y tai sydd eu hangen yn ystod cyfnod y Cynllun sef fod pobl sy’n cymudo allan o’r Fwrdeistref Sirol yn byw yn Ardal Cynllun Conwy.

4.3.6.3.

Dylid sicrhau 14 hectar ychwanegol gyda dau hectar arall i wneud cyfanswm o 16 hectar o dir cyflogaeth i’w cynnwys yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, yn bennaf yn Canolbwynt Strategol Cyffordd Llandudno. Mae angen cadw’r elfen hon o anghenion ychwanegol ar wahân i’r galw a grëwyd gan y newid a ragwelwyd yn y boblogaeth o ganlyniad i fod dim goblygiadau o ran tai gan drigolion sydd eisoes yn byw yn y Fwrdeistref Sirol.  Bydd yr elfen hon o anghenion ychwanegol yn cael ei lleoli yn y mannau mwyaf hygyrch a cynaliadwy yn ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, yn bennaf yng nghanolbwynt strategol Cyffordd Llandudno.

4.3.6.4.

Dylai dynodiadau fod yn hyblyg ond byddwn yn symud at ddynodiadau B1/B8 yn ystod cyfnod y Cynllun, fel y rhagwelwyd yn yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth. Mae Tabl 7 isod yn nodi’r fframwaith tir cyflogaeth dros gyfnod y cynllun. 

4.3.6.5.

Mae cyflawni a chynnal lefelau uchel o dwf economaidd B1, B2 a B8 a chyflogaeth yn fater cynllunio pwysig, gyda goblygiadau, nid yn unig ar gyfer creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy, ond hefyd ar gyfer materion cysylltiedig fel argaeledd tai ac isadeiledd. Y bwriad felly yw sicrhau fod safleoedd economaidd yn cael ei defnyddio i’w potensial llawn o fewn Ardal y Cynllun. Bydd pwyslais tuag at B1 (Busnes) a B8 (Storio/Warysau) yn y cyfnod tymor byr tymor canolig, a B2 (Diwydiannol Cyffredinol) yn y tymor hir.

4.3.7.

Tir Cyflogaeth ac Awdurdodau Cyfagos

4.3.7.1.

Mae’r Cynllun yn cydnabod nad oes modd ystyried cyflenwad tir cyflogaeth B1, B2 a B8 yng Nghonwy ar wahân i gyflenwad ardaloedd awdurdodau cyfagos, yn enwedig y lleoliadau hynny sydd wedi eu lleoli yn strategol ar hyd coridor yr A55.  Bydd angen i’r Cynllun Datblygu ystyried argaeledd tir cyflogaeth sydd ar gael, yn ogystal â dwysedd a math o weithgaredd cyflogaeth presennol. Yn Sir Ddinbych mae Parc Busnes Llanelwy yn ddatblygiad mawr 47 hectar sy’n cynnwys swyddfeydd ar raddfa fawr ac mae Ystâd Diwydiannol Parc Cinmel yn ystâd fawr 29 hectar sy’n cynnwys swyddfeydd ar gyfer datblygiadau diwydiannol a warysau.  Mae Parc Menai ac Ystâd Bryn Cegin yng Ngwynedd hefyd yn safleoedd cyflogaeth bwysig. Ond i gyflawni’r amcanion sy’n flaenoriaethau yn y Cynllun, ac yn enwedig i ostwng lefelau allgymudo, mae dyraniadau cyflogaeth newydd yn cael eu hyrwyddo yn Ardal Cynllun Conwy.

4.3.8.

Ffynonellau Cyflenwad Tir Cyflogaeth

4.3.8.1.

Wrth ddiwallu anghenion ar gyfer 32 hectar o dir cyflogaeth i gyfrannu at y newid mewn cyflogaeth a’r 17 hectar i gyfrannu tuag at leihau lefel cymudo allan o’r sir yn ystod cyfnod y Cynllun, mae’n bosibl i’r Cyngor hefyd ystyried tir a gwblhawyd a thir a ymrwymwyd ers 2007. Mae’r Cyngor eisoes wedi gwneud gwaith sylweddol i nodi a dosbarthu’r stoc bresennol hwn. Mae’r Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth (gweler BP/13) yn nodi bod eisoes banc tir sylweddol o dir cyflogaeth.  Mae Tabl 8 isod yn crynhoi sefyllfa bresennol cyflenwadau tir. Yn ei hanfod mae hyn yn rhoi syniad clir i’r Cyngor pa dir sydd ar gael ar gyfer datblygu, cyn ystyried dyraniadau cyflogaeth newydd. Oherwydd bod gan rai safleoedd a ymrwymwyd iddynt, ddynodiadau cymysg heb eu datblygu, yna bydd rhaid crynhoi’r diffiniad ar gyfer y dadansoddiad hwn. Yn ogystal mae’n bwysig sicrhau bod y math cywir a defnydd o dir (B1, B2 a B8) ar gael ar yr adeg gywir yn ystod cyfnod y Cynllun yn ôl gofynion BP/13. Yn gyffredinol o ystyried y tir a gwblhawyd ac a ymrwymwyd, dim ond tua 23.47 hectar o dir cyflogaeth sydd angen i’w cynnal i ddyrannu yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol a 6 hectar yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig, yn bennaf ar gyfer busnesau (B1), i gwrdd â’r newid a ragwelir mewn cyflogaeth a chyfrannu tuag at gymudo allan o’r Sir. Mae hyn yn ystyried bod 17.53 hectar eisoes wedi cael ei adeiladu ers 2007 ac mae caniatâd cynllunio ar 5.83 hectar, ond nid yw gwaith wedi ei ddechrau eto fel y dangosir yn Tabl 8 isod a BP/13.  Nid oes unrhyw dir y cyflenwad hwn yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig.

4.3.8.2.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd adegau pan na fydd y safleoedd a nodwyd yn Tabl 8, na lleoliadau newydd, ar gael yn ôl y cynllun. I wneud iawn am y posibilrwydd hwn mae’r Cynllun wedi nodi 6 hectar o dir yn yr ardal drefol ac 1 hectar o dir yn yr ardal wledig yn benodol ar gyfer cyflogaeth wrth gefn.  Cymerwyd pob cyfle i ddyrannu tir mewn lleoliadau Canolbwynt Strategol. Bydd rhyddhau tir wrth gefn ar gyfer cyflogaeth yn cyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu a Monitro, y Cynllun Gam wrth Gam a’r Adroddiad Monitro Blynyddol.

4.3.9.

Datblygiadau Cyflogaeth Newydd ar Safleoedd heb eu Dyrannu

4.3.9.1.

Yn ogystal â’r ffynonellau uchod o gyflenwadau a dyraniadau, bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried cynigion datblygu economaidd ar safleoedd heb eu dyrannu yn y prif ardaloedd adeiledig neu wrth eu hymyl, yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, yn amodol ar Bolisi EMP/2 a pholisïau eraill y Cynllun. Bydd y rhain yn benodol yn ceisio darparu cyfle cyflogaeth gwerth uwch, datblygu sgiliau ac ar yr amod bod y datblygiad yn ystyried amgylchiadau amgylcheddol sy’n bodoli ar hyn o bryd, a’u bod yn benodol yn osgoi andwyo amwynder yr ardal y bwriedir sefydlu’r gwaith ynddi. Bydd cynigion ar gyfer cyflogaeth ar raddfa fechan, sy’n cryfhau neu’n ychwanegu gwerth at gynnyrch y gwasanaethau lleol, yn enwedig os ydynt yn defnyddio cynnyrch o’r ardal, a’u bod yn hyrwyddo a/neu ddefnyddio sgiliau'r gweithlu lleol, hefyd yn cael eu caniatáu yn ymyl neu o fewn aneddiadau adeiledig sydd ar Lefel 1 a Lefel 2 Prif Bentrefi a Phentrefi Llai. Bydd y Cyngor yn manteisio yn llawn ar ei Gynllun Asedau Busnes Gwledig i ddod â thir gwag neu dir nad yw yn cael ei ddefnyddio ac adeiladau yn ôl ar gyfer defnydd cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig, cyn ystyried datblygiadau newydd ar dir glas.

4.3.10.

Addasu Adeiladau Gwledig ar gyfer Cyflogaeth

4.3.10.1.

Mae gan Ardal y Cynllun adnoddau adeiladau gwledig.  Lle nad oes angen yr adeiladau mwyach ar gyfer eu defnydd gwreiddiol, sef amaethu’n bennaf, gallant fod yn gyfle gwerthfawr i gynnig cyflogaeth a chefnogi’r economi gwledig a’r Diwylliant Cymreig.  Mae defnyddiau posibl yn cynnwys masnach, diwydiant, twristiaeth neu adloniant.

4.3.10.2.

Mae’n rhaid rheoli datblygiadau fel hyn yn ofalus oherwydd eu lleoliad.  Mae’n hanfodol bod y defnydd a’r dyluniad bwriedig yn cyd-fynd â chymeriad ac edrychiad yr adeilad presennol a’r ardal gyfagos.

4.3.10.3.

Dylai datblygiadau fod ar raddfa sy’n briodol i’w lleoliad, oherwydd bod datblygiadau cyflogaeth mawr yng nghefn gwlad yn gwrthdaro ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn arwain at symudiadau traffig anghynaladwy ac mae’n bosibl y byddant yn niweidio’r amgylchedd.  Dylid lleoli datblygiadau sy’n arwain at nifer fawr o weithwyr neu ymwelwyr mewn aneddiadau neu’n agos atynt, a dylent fod yn hawdd cyrraedd atynt ar gludiant cyhoeddus, beicio neu wrth gerdded.  Mewn ardaloedd heb fynegiad fel hyn iddynt, efallai bydd datblygiadau busnes ar raddfa fechan yn parhau i fod yn briodol petaent yn arwain at gynnydd cymedrol mewn symudiadau cerbydau. Efallai bydd angen llunio adroddiad effaith teithio a/neu liniaru effaith cludiant yn unol â Pholisi Strategol STR/1 – ‘Cludiant Cynaliadwy Datblygu a Hygyrchedd’. Bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi DP/6 a pholisïau cysylltiedig arall yn y Cynllun hwn.

4.3.11.

Disodli Hen Adeiladau gan Adeiladau Newydd yng Nghefn Gwlad

4.3.11.1.

Bydd y Cyngor yn cefnogi ailddatblygu adeiladau presennol yng nghefn gwlad ar gyfer ddatblygu economaidd, lle bo’r adeilad presennol mewn lleoliad addas a’i fod yn adeiladwaith parhaol, Dylai ei ailddatblygu hefyd arwain at wella’r amgylchedd, a datblygiad mwy cynaliadwy a’i fod yn cyfrannu at adfywio gwledig.

4.3.11.2.

Wrth ystyried ceisiadau ar gyfer disodli hen adeiladau gydag adeiladau newydd yng nghefn gwlad ar gyfer defnydd cyflogaeth, bydd unrhyw gynnydd yn arwynebedd y llawr yn cael ei rheoli’n gaeth. Dylai’r dyluniad integreiddio’r datblygiad gyda’i gyffiniau yn unol â Pholisi DP/6 a pholisïau cysylltiedig eraill yn y Cynllun hwn.

4.3.12.

Arallgyfeirio ar Ffermydd

4.3.12.1.

Mae ffermydd yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Conwy ond mae busnesau fferm yn gynyddol yn gorfod arallgyfeirio i ffurfiau eraill sy’n gysylltiedig â’r gweithgarwch ffermio er mwyn parhau i fod yn ddichonadwy. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys plannu coetir, siopau ffermydd a phrosesu a phecynnu bwyd ffermydd. Er mwyn diogelu’r ansawdd ac arwahanrwydd y tirlun lleol, mae’r Cyngor yn dymuno atal datblygiad heb ei gydlynu mewn ardaloedd gwledig ac ailddatblygu asedau ffermydd heb ystyried dichonolrwydd y daliad.

4.3.12.2.

Mae’n bwysig bod gan geisiadau arallgyfeirio economaidd sail dda iddynt a’u bod yn cyfrannu’n effeithiol at fusnes y fferm. Mae’n bwysig cefnogi’r economi wledig a bod gweithgarwch sy’n gysylltiedig â ffermio yn cael ei integreiddio i’r amgylchedd a’r tirlun gwledig. Bydd gofyn i ffermwyr gyflwyno cynllun busnes fferm gydag unrhyw gais cynllunio ar gyfer arallgyfeirio. Dylai hyn gynnwys manylion gweithgarwch presennol y fferm, yr angen am arallgyfeirio, manylion y cais a goblygiadau’r cais, er enghraifft, yr economi wledig a’r amgylchedd, yn unol â Pholisi DP/6 a pholisïau eraill cysylltiedig yn y Cynllun hwn.

4.3.13.

Diogelu Tir Cyflogaeth B1, B2 a B8 Presennol

POLICY EMP/3 - DIOGELU TIR CYFLOGAETH B1, B2 A B8 PRESENNOL View Map of this site ?

Bydd datblygiad a fyddai’n arwain at golli tir cyflogaeth presennol ac a ymrwymwyd iddo ar gyfer defnydd arall, yn cael ei ganiatáu dan yr amgylchiadau eithriadol a ganlyn yn unig:

  1. Nad yw’r defnydd presennol yn cyd-fynd â’r ardal gyfagos ac nad yw’r safle yn gallu cynnal cyflogaeth yn foddhaol;
  2. Gellir dangos na fyddai’n effeithio’n sylweddol ar gyflenwad cyffredinol tir nac adeiladau cyflogaeth.

4.3.13.1.

Mae tir sy’n addas ar gyfer datblygiad cyflogaeth oherwydd ei natur, ac effaith gweithgarwch diwydiannol masnachol, yn llawer anoddach i’w nodi a’i ddarparu na thir ar gyfer defnydd arall fel tai.  Mae pob safle cyflogaeth o fewn y cynllun ac wedi ei ddyrannu, yn gaeth i’r polisi hwn. Mae nifer sylweddol o safleoedd llai hefyd sy’n darparu eiddo cyflogaeth gwerthfawr ar gyfer busnesau lleol nad ydynt wedi cael eu dyrannu yn benodol ar gyfer defnydd cyflogaeth. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y safleoedd ac adeiladau cyflogaeth hyn yn cael eu trin fel adnodd gwerthfawr a phrin, a’u bod yn cael eu diogelu dan y polisi hwn.

4.3.13.2.

Cyfyngu’r eithriadau i’r polisi hwn i safleoedd diwydiannol/swyddfeydd presennol ac ni ragwelir y bydd llawer ohonynt ac ni fyddant yn cael eu hystyried os yw’r Cyngor o’r farn bod y safle neu’r adeilad yn anaddas ar gyfer cyflogaeth oherwydd ei leoliad a’i gyffiniau a’i effaith ar ddefnydd a mwynderau defnyddwyr tir cyfagos.

4.4.

Twristiaeth

4.4.1.

Amcanion Gofodol

AG5.   Annog cryfhau ac arallgyfeirio’r economi gwledig sy’n gydnaws â’r economi, y gymuned a’r amgylchedd lleol.

AG8.   Cynorthwyo twristiaeth trwy amddiffyn a gwella atyniadau a llety twristiaeth ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad ac ymelwa ymhellach ar y potensial i ddatblygu, gwella ac annog diwydiant ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.

4.4.2.

Datganiad Strategaeth Twristiaeth

4.4.2.1.

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Ardal y Cynllun. Mae'r Strategaeth Gymunedol yn cydnabod bod atyniadau i ymwelwyr gydol y flwyddyn yn hanfodol i ffyniant a lles yr ardal a'r economi lleol. Mae prif ffocws llety twristiaeth yng nghanolfannau gwyliau traddodiadol yr arfordir. Mae'r prif atyniadau yn cynnwys asedau unigryw amgylchedd naturiol ac adeiledig Ardal y Cynllun ac agosatrwydd Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae'n bwysig amddiffyn nid yn unig yr atyniadau a’r cyfleusterau traddodiadol yma, a gwella ansawdd cyffredinol y llety presennol, ond hefyd i hyrwyddo a chefnogi twristiaeth y tu allan i'r tymhorau brig gan sicrhau ansawdd amgylcheddol a threftadaeth. Mae'r  Adran hon yn ymgorffori’r polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau bod gweithgareddau fel beicio, cerdded a  thwristiaeth amgylcheddol a threftadaeth yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi fel rhan o'r strategaeth sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth a chymunedau lleol.

POLICY TOU/1 - TWRISTIAETH View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd trwy hyrwyddo twristiaeth gydol y flwyddyn gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael ei warchod a:

  1. Cheisio gwella cysylltiadau a budd traws ffiniau gydag awdurdodau cyfagos, yn unol â Pholisi TOU/2 – ‘Lleoliad Datblygiad Twristiaeth Newydd’;
  2. Gwrthwynebu cynigion a fyddai'n arwain at golli llety sy’n cael ei wasanaethu, yn unol â Pholisi TOU/3 – ‘Ardal Llety Gwyliau’
  3. Rheoli datblygiad safleoedd newydd ac estyniadau i safleoedd presennol ar gyfer chalets, carafannau statig a theithiol a champio o fewn Ardal y Cynllun, yn unol â Pholisïau TOU/4 – ‘Safleoedd Chalets, Carafanau a Champio yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol’ a TOU/5 – ‘Safleoedd Chalets, Carafanau a Champio yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig’;
  4. Cefnogi mewn egwyddor, cynigion ar gyfer datblygiad cysylltiedig â thwristiaeth sy'n arallgyfeirio’r economi twristiaeth y tu allan i'r cyfnod brig gan gynnal ansawdd amgylcheddol a threftadaeth fel y nodwyd ym Mholisi TOU/6 – ‘Estyn y Tymor Gwyliau’;
  5. Gwella cysylltedd trwy gefnogi cyflenwi gwell cysylltiadau yn Harbwr Foryd, y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru, yn unol â Pholisi Strategol STR/1– ‘Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygiad a Hygyrchedd’ a Pholisi TOU/6 – ‘Estyn y Tymor Gwyliau’.

4.4.2.2.

Mae'r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn ffactorau allweddol wrth ddenu ymwelwyr i'r ardal ac mae angen eu rheoli'n effeithiol. Fodd bynnag, mae twristiaeth yng Nghonwy ar hyn o bryd yn gweld newid yn y galw, gyda dirywiad mewn gwyliau haf teuluol traddodiadol a chynnydd yn y pwyslais ar ystod ehangach o weithgareddau, nad ydynt wedi eu cyfyngu'n unig i fisoedd traddodiadol yr haf. Y tair prif ardal twf yw twristiaeth busnes, gweithgareddau morol a gwyliau gweithgaredd a gwyliau arbenigol byr. Mae angen llety a chyfleusterau o ansawdd ar yr ardaloedd twf hyn er mwyn sicrhau bod twristiaeth yn parhau i chwarae rôl bwysig yn Ardal y Cynllun.

4.4.2.3.

Mae’r atyniadau a'r cyfleusterau arfordirol traddodiadol a gynigir gan leoedd fel Llandudno, Bae Colwyn, Conwy, Llandrillo-yn-Rhos, Tywyn a Bae Cinmel yn dal i wneud cyfraniad pwysig i'r economi ond mae tueddiadau diweddar yn awgrymu’r angen am sylfaen twristiaeth mwy amrywiol. Mae Venue Cymru yn Llandudno wedi cael ei ehangu ac mae'n cyfrannu at ystod ac ansawdd cyffredinol cyfleusterau twristiaeth sy’n seiliedig ar fusnes a gynigir  yn Ardal Twf Twristiaeth Strategol Llandudno, Deganwy a Chonwy. Mae cyfle i gadw a gwella’r gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn trwy ddarparu cyfleusterau newydd a gwella ansawdd cyfleusterau presennol. Byddai hyn yn cynnwys gwella ansawdd llety gwyliau a galluogi darparu ystod eang o weithgareddau awyr agored a dan do, gan ffafrio ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol.

4.4.2.4.

Mae lleoli Harbwr Foryd ar y ffin rhwng Bae Cinmel yng Nghonwy a Rhyl yn Sir Ddinbych wedi rhoi'r cyfrifoldeb am ei ddefnyddio yn y dyfodol yn nwylo’r ddau awdurdod. Diogelir y safle yma yn y Cynllun Datblygu ar gyfer datblygiadau twristiaeth a hamdden a bydd unrhyw ddatblygu yn y dyfodol yn cael ei reoli'n ofalus trwy ddull gweithredu mewn partneriaeth. Mae cynlluniau cychwynnol yn awgrymu iard storio cychod, marina gydag angorfeydd gwell, a chyswllt cerddwyr/beicwyr newydd ar draws afon Clwyd. 

4.4.2.5.

Efallai y bydd amgylchiadau eithriadol lle byddai llety ac atyniadau twristiaeth mwy yn briodol yng nghefn gwlad agored neu leoliadau eraill nad ydynt yn drefol os ydynt yn arwain at greu cyfleuster twristiaeth trwy’r flwyddyn a chreu rhagor o swyddi yng nghefn gwlad Fodd bynnag, ni ddylai datblygiad fod ar draul ystyriaethau amgylcheddol. Yn aml mae cynlluniau a ddyluniwyd yn dda yn gallu arwain at ddiogelu neu gynyddu bioamrywiaeth ac ansawdd y dirwedd ond cydnabyddir y bydd yn gallu effeithio’n negyddol ar gefn gwlad gan arwain at drefoli rhannol. Felly, mae Polisi EMP/1 – ‘Diwallu Anghenion Cyflogaeth’ yn darparu meini prawf caeth ar gyfer ystyried cynigion o'r fath. Mae enghreifftiau o gynlluniau yng nghefn gwlad agored yn gallu cynnwys eco-dwristiaeth, gweithgareddau marchogaeth, beicio mynydd, canŵio, pledu paent, a physgota fel rhan o safleoedd twristiaeth integredig. Un enghraifft o leoliad lle gallai cyfleusterau sylweddol fod yn briodol yng nghefn gwlad agored yw hen Waith Alwminiwm Dolgarrog.

4.4.3.

Lleoliad Datblygiad Twristiaeth Newydd

POLICY TOU/2 - LLEOLIAD DATBLYGIAD TWRISTIAETH NEWYDD View Map of this site ?

  1. Bydd datblygiadau twristiaeth newydd, gan gynnwys llety ac atyniadau yn cael eu lleoli'n bennaf yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol.
  2. Yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig caniateir datblygiad twristiaeth newydd yn unol â Pholisïau TOU/6 – ‘Estyn y Tymor Gwyliau’ a DP/6. – ‘Canllawiau a Pholisi Cynllunio Cenedlaethol’.
  3. Bydd pob cynnig yn cael ei ystyried yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y cynllun a luniwyd i amddiffyn yr amgylchedd a chymeriad y dirwedd.

4.4.3.1.

Mae'r galw am ystod eang o gyfleusterau twristiaeth trwy gydol y flwyddyn yn effeithio ar natur dymhorol y diwydiant. Mae gweithredu busnesau twristiaeth gwahanol ar adegau gwahanol yn gofyn am ddull mwy hyblyg. Bydd y Cyngor yn cefnogi datblygu ac addasu ystod o gyfleusterau twristiaeth i ddarparu ar gyfer y newid yma yn y galw lle mae hynny’n briodol.

4.4.3.2.

Mae ymweliadau traddodiadol yr haf am gyfnod o wythnos neu ddwy yn dirywio ac mae'r galw am wyliau byr yn cynyddu, fodd bynnag, ni ddylid gweld y newid yma fel cyfyngiad, yn wir mae disgwyl i lefelau twristiaeth gynyddu 6% y flwyddyn yn y DU, targed y mae Cymru yn ymrwymedig i'w gyflawni. Un ffordd o hyrwyddo hyn yw trwy ddarparu amrywiaeth ehangach o gyfleusterau trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliadau gweledig ac arfordirol fel: gweithgareddau dŵr, darparu gweithgareddau/cyfleusterau ar gyfer gwyliau byr, gwibdeithiau diwrnod, a gwella cysylltiadau gyda chyfleusterau awdurdodau cyfagos.

4.4.3.3.

Fe all twristiaeth hefyd ffynnu mewn ardaloedd gwledig, lle gelir defnyddio trefi marchnad, er enghraifft, i ddenu cyfran uwch o ymwelwyr. Mae gan ardaloedd gwledig hefyd y potensial i integreiddio arallgyfeirio busnesau gydag arallgyfeirio datblygiad sy'n seiliedig ar dwristiaeth a bydd y Cynllun yn cefnogi cynlluniau addas mewn lleoliadau priodol.

4.4.3.4.

Mae ffurfiau eraill o lety i ymwelwyr yn cynnwys, er enghraifft, sefydliadau gwely a brecwast, a bythynnod a fflatiau hunan arlwyo. Er bod y rhain yn darparu ffurf werthfawr o lety, mae angen asesu natur, graddfa a lleoliad llety newydd yn ofalus, er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwrthdaro gydag amcanion eraill y Cynllun ac egwyddorion cynaliadwyedd.

4.4.3.5.

Aneddiadau’r Ardal Datblygu Trefol Strategol yw’r lleoliadau a ffafrir ar gyfer datblygiad newydd, er mwyn i’r cyfleusterau newydd fod yn hygyrch i ymwelwyr a bod llety newydd yn cael ei ddarparu lle gall ymwelwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau trwy gael dewis o ddulliau teithio.

4.4.3.6.

Yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig dylai cynigion ystyried ailddefnyddio adeiladau presennol ac estyniadau i fusnesau presennol i ddechrau er mwyn amddiffyn cefn gwlad rhag datblygiadau anaddas, yn unol â Polisi Strategol TOU/1 a Polisi DP/6.  Fodd bynnag, fe ellid caniatáu adeiladu atyniadau a llety â gwasanaethau newydd mewn rhai rhannau o gefn gwlad os nad oes safleoedd neu adeiladau dilyniannol mwy ffafriol. Bydd hyn yn galluogi datblygiad penodol a allai helpu i estyn y tymor twristiaeth, darparu budd i'r gymuned leol a hyrwyddo rhagor o gysylltiadau â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, ni chaniateir adeiladu llety newydd nad yw’n cael ei wasanaethu, yng nghefn gwlad agored, er mwyn diogelu’r ardal rhag adeiladu tai gwyliau preifat ar draws Ardal y Cynllun.

4.4.3.7.

Mae pwysau ymwelwyr yn benodol yn gallu arwain at bryderon mewn lleoliadau sy'n amgylcheddol sensitif. Mae canllawiau cenedlaethol, strategaethau ac astudiaethau cysylltiedig yn cadarnhau bod angen i'r polisi gydnabod bod lleoliadau datblygu yn fwy cyfyngedig yn yr ardaloedd hyn.

4.4.4.

Addasu adeiladau i fod yn Llety Gwyliau

4.4.4.1.

Mae nifer o adeiladau presennol yn y trefi a’r pentrefi yn cynnig cyfle i’w haddasu i fod yn llety gwyliau, llety â gwasanaethau a llety hunan arlwyo. Ar ben hynny, ni ddefnyddir llawer o adeiladau gwledig bellach oherwydd arferion ffermio modern. Byddai addasu adeiladau addas fel hyn yn llety gwyliau yn cyfrannu tuag at arallgyfeirio’r economi gwledig ac at hyrwyddo’r Diwylliant Cymraeg, ac felly yn cael croeso cyffredinol, yn unol â Pholisi DP6 – ‘Polisiau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’ ac amodau defnyddio’r Cyngor.

4.4.5.

Ardal Llety Gwyliau

POLICY TOU/3 - ARDAL LLETY GWYLIAU View Map of this site ?

Dynodir Ardal Llety Gwyliau yn Llandudno ac fe’i dangosir ar y map cynigion. Er mwyn diogelu lefel briodol o lety â gwasanaeth ar gyfer twristiaeth, ni chaniateir cynigion ar gyfer ailddatblygu neu addasu llety â gwasanaeth â gwasanaethau presennol ar gyfer defnydd twristiaeth na defnydd nad yw'n ymwneud â thwristiaeth yn yr ardal hon.

4.4.5.1.

Bwriad yr Awdurdod Cynllunio yw sicrhau bod unrhyw ddirywiad yn lefel y llety gwyliau, trwy newid i ddefnydd amgen, yn cael ei reoli'n briodol. 

4.4.5.2.

Mae gwestai yn rhan bwysig o economi twristiaeth gynaliadwy. Fe all datblygu gwestai newydd fod o fudd lle maent yn gwella ansawdd y llety mewn lleoliad arbennig. Mae hefyd yn bwysig gwrthsefyll colli gwestai. Mae'n bwysig cadw llety gwestai yn ardal Llandudno a Deganwy lle mae hynny'n bosibl, er mwyn cadw bywiogrwydd a chymeriad unigryw’r ardal.

4.4.5.3.

Safle gwag allweddol sy’n rhannol o fewn y Parth Llety Gwyliau yw hen safle Pafiliwn y Lanfa ar North Parade. Bu hir ymaros am ailddatblygiad ar y safle hwn, ond mae cyfyngiadau technegol ar gyfer unrhyw gynigion newydd fel adeileddau/gweddillion rhestredig. Mae’r Cyngor yn cefnogi ailddatblygu’r safle ar gyfer defnydd sy’n gwella’r Parth Llety Gwyliau ac yn cadw pwysigrwydd hanesyddol y safle.

4.4.5.4.

Bydd lefel a dwysedd llety â gwasanaeth yn cael eu monitro yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr ardal gywir yn cael ei diogelu fel sydd wedi’i nodi yn yr adran Weithredu a Monitro.

4.4.6.

Safleoedd Cabannau Gwyliau, Carafannau a Gwersylla

POLICY TOU/4 - SAFLEOED CABANAU GWYLIAU, CARAFANNAU A GWERSYLLA YN YR ARDAL DDATBLYGU DREFOL STRATEGOL View Map of this site ?

  1. Caniateir cynigion ar gyfer gwella safleoedd presennol os:

  1. Yw’r datblygiad yn arwain at wella’r cyfleusterau, y gosodiad a’r  tirweddu’n gyffredinol;
  2. Nad yw'r datblygiad yn cynyddu nifer yr unedau carafannau sefydlog neu gabannau gwyliau ar y safle;
  3. Nad yw'r datblygiad yn arwain at gynnydd cyffredinol yn ardal y safle;
  4. Yw’r datblygiad yn cyd-fynd ag Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun;
  5. Mae Datganiad Bioamrywiaeth gyda’r cynnig yn nodi lle bydd enillion bioamrywiaeth yn cael eu cyflawni.

  1. Ni chaniateir safleoedd newydd ar gyfer safleoedd cabannau gwyliau, carafannau sefydlog, carafannau teithiol na gwersylla yn yr Ardal Datblygu Trefol.

POLICY TOU/5 - SAFLEOED CABANAU GWYLIAU, CARAFANNAU A GWERSYLLA YN YR ARDAL DDATBLYGU WLEDIG STRATEGOL View Map of this site ?

Dim ond os yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r meini prawf isod i gyd y caniateir safleoedd newydd yn yr ardal wledig ar gyfer cabannau pren, carafannau sefydlog neu feysydd gwersylla:

  1. Mae’r safle’n estyn cyfadeiladau twristiaeth bresennol;
  2. Mae graddfa’r safle’n fach ac nid yw’n cynnwys darparu mwy na 10 llain ychwanegol yn ystod cyfnod y cynllun;
  3. Ni fydd y datblygiad i’w weld yn ymwthio i’r tirlun a bod cynllun tirlunio manwl yn cael ei gyflwyno yn ogystal ag Asesiad Cymeriad Ardal LandMap;
  4. Nid fydd y cynllun yn arwain at grynhoi safleoedd na lleiniau’n annerbyniol mewn un lleoliad neu ardal;
  5. Bod Datganiad Bioamrywiaeth yn cael ei gyflwyno gyda’r cais i ddangos sut fydd bioamrywiaeth ar ei hennill;
  6. Bod modd cael mynedfa addas ac nid yw’r datblygiad yn creu risg annerbyniol i ddiogelwch priffyrdd.

4.4.6.1.

Mae safleoeddcarafannau sefydlog, carafannau teithiol yn ogystal â safleoedd cabannau gwyliau a meysydd gwersylla’n ffynhonnell llety gwyliau bwysig, sy'n gallu bod yn hanfodol i lwyddiant yr economi twristiaeth, er bod safleoedd o'r fath  yn cael eu gweld yn aml fel rhai sy'n weledol ymwthiol, ac yn enwedig felly ym mhrif ardaloedd canolfannau gwyliau Tywyn a Bae Cinmel, lle mae cyfres o safleoedd wedi uno a dod yn amlwg yn y tirlun. Yn yr un modd, mae dwysedd safleoedd yn y gorffennol wedi cael effaith weledol ar nifer fach o leoliadau gwledig. Mewn rhai ardaloedd gellir barnu bod effaith crynodol safleoedd presennol yn weledol ymwthiol ac yn tra-arglwyddiaethu ar y dirwedd, felly bydd y Cyngor yn annog cynlluniau tirweddu i wella a sgrinio safleoedd. Bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau bod datblygiad y dyfodol yn cael ei ganiatáu yn unig os nad yw'r datblygiad yn arwain at ormodedd o ddefnydd tebyg yn yr ardal leol a lle mae bioamrywiaeth yr ardal yn cael ei wella’n sylweddol.

4.4.6.2.

Mae gormod o dir yn cael ei roi i lety hunan arlwyo ar ffurf carafannau sefydlog a chabannau gwyliau yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol. Felly, bydd y Cyngor yn parhau gyda'r polisi a sefydlwyd ers tro o wrthwynebu cynigion i ddatblygu rhagor o dir i'w ddefnyddio yn yr ardaloedd hyn. Nid yw'r broblem yma o ormodedd yn berthnasol yn yr ardal fwyaf gwledig. Fodd bynnag, fe all datblygiad o'r fath, yn enwedig carafannau sefydlog, ymwthio ar y dirwedd a niweidio cymeriad yr ardal wledig oni bai ei fod wedi’i reoli'n gaeth. Er yn cydnabod y rheolaeth gaeth yma, mae'r Cyngor hefyd o'r farn o gael y lleoliad cywir y gall datblygu meysydd carafannau sefydlog ac unigol graddfa fach neu grwpiau bach o gabannau gwyliau ansawdd uchel, wedi’u hadeiladu’n bwrpasol fod yn dderbyniol yn yr ardal wledig y tu allan i'r ardaloedd trefol diffiniedig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ddatblygiad a ganiateir o dan y polisi yma ffurfio rhan o adeiladau gwesty/motel presennol, fferm weithredol neu atyniad twristiaeth presennol, gan y byddai hynny'n cynorthwyo i gadw'r fenter a sicrhau budd i'r economi gwledig.

4.4.6.3.

Caniateir disodli carafannau sefydlog â datblygiadau arddull cabannau coetir os yw hynny'n gwella’r effaith ar y dirwedd. Fodd bynnag, fel gyda phob datblygiad, caniateir cynigion ar gyfer unrhyw lety yn unig ar ôl dangos na fydd effaith niweidiol ar integriti’r amgylchedd naturiol gan gynnwys Safleoedd Natura 2000 ac ni fydd unrhyw golled net i fioamrywiaeth.

4.4.7.

Estyn y Tymor Gwyliau

POLICY TOU/6 - ESTYN Y TYMOR GWYLIAU View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn caniatáu estyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafannau, cabanau gwyliau a gwersylla presennol, cyn belled fod y safle yn addas ar gyfer defnydd estynedig o’r fath a dim ond yn cael ei ddefnyddio i bwrpas gwyliau.

4.4.7.1.

Mae Polisi TOU/6 wedi’i baratoi yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 13 ‘Twristiaeth’.

4.4.7.2.

Yn unol â Pholisi DP/6 a TAN15 ‘Datblygu a Risg Llifogydd’, byddwn yn gwrthod estyn y tymor gwyliau i safleoedd sy’n agored iawn i risg llifogydd, fel y parciau carafanau a chabanau gwyliau hunangynhwysol presennol yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, er mwyn sicrhau diogelwch a chyfyngu’r risg cyffredinnol. Bydd angen i’r Cyngor fodloni ei hun, ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, nad oes risg cynyddol o lifogydd ar safle’r cais cyn y bydd yn rhoi caniatâd cynllunio i estyn y tymor gwyliau. Yn gyntaf, rhaid i’r Cyngor fod yn argyhoeddedig na fydd presenoldeb poblogaeth ychwanegol mewn carafannau’n peryglu diogelwch trigolion parhaol, naill ai yn dilyn digwyddiad llifogydd sylweddol, neu os ceir rhybuddion i adael yr ardal ar fyr rybudd.

4.4.8.

Twristiaeth a Datblygiadau Hamdden

POLICY TOU/7 - TWRISTIAETH A DATBLYGIADAU HAMDDEN View Map of this site ?

  1. Bydd y Cyngor yn cefnogi cynigion cynaliadwy sy’n dangos y byddant yn hyrwyddo ffyniant lleol, cynnwys cymunedau, cysylltedd a diogelu a gwella’r amgylchedd naturiol. Bydd y Cyngor hefyd yn cefnogi cynlluniau sy’n ceisio diogelu a gwella cyfleusterau twristiaeth a hamdden presennol.
  2. Bydd tir cyn waith alwminiwm Dolgarrog yn cael ei ddiogelu ar gyfer defnydd twristiaeth a hamdden.  Bydd unrhyw gais yn cael ei asesu yn unol â’r polisïau Egwyddor Datblygu a Chyflogaeth.

4.4.8.1.

Mae twristiaeth a hamdden yn hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd a chreu swyddi ledled Conwy, gyda chysylltiadau ehangach ag ardaloedd cyfagos, yn enwedig Parc Cenedlaethol Eryri. Maent yn ffynhonnell cyflogaeth a buddsoddiad yng nghefn gwlad.  Mae’r tymhorau’n effeithio ar y galw am ystod eang o gyfleusterau a gweithgareddau hamdden i ymwelwyr.  Bydd y Cyngor yn cefnogi datblygu ac addasu nifer o gyfleusterau i ateb y galw hwn, os yw’n cydymffurfio â pholisïau  eraill y CDLl. 

4.4.8.2.

Mae cyfleusterau a mannau chwaraeon a hamdden yn cyfrannu at iechyd ac ansawdd byw trigolion Conwy.  Mae’r Cyngor yn cefnogi datblygiadau sy’n darparu ystod eang o weithgareddau hamdden ac sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol.  Bydd yr isadeiledd cysylltiedig yn cael ei asesu yn unol â’r polisi uchod, Polisïau Cyfleusterau Cymunedol 1-15 a’r polisïau Egwyddorion Datblygu.

4.5.

Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol

4.5.1.

Amcanion Gofodol

AG6. Datblygu cyrchfannau canol tref bywiog ar gyfer siopa, busnes a masnach, diwylliant, adloniant, a hamdden trwy ddiogelu a gwella bywiogrwydd, hyfywedd a chymeriad atyniadol Llandudno fel canolfan adwerthu is ranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn a chanolfannau siopa allweddol eraill.

AG13. Gwella mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden.

4.5.2.

Datganiad Strategol Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol

4.5.2.1.

Mae darparu cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol yn hanfodol wrth ystyried cynigion datblygu newydd. Mae angen i gymunedau gael mynediad da at ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau megis addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, mannau agored, cyfleusterau hamdden a siopa er mwyn bod yn gynaliadwy. Dylid rheoli darparu cyfleusterau o'r fath yn gywir a’i ymgorffori mewn polisïau cynllunio a chynlluniau adfywio. 

4.5.2.2.

Cynhaliwyd asesiad o’r gofynion isadeiledd cymunedol yng Nghonwy er mwyn canfod yr angen am rai mathau o gyfleusterau dros gyfnod y Cynllun - nodir y sail tystiolaeth hwn ar Bapurau Cefndir perthnasol 15, 16, 19, 24 a 25 ar ddarparu safleoedd adwerthu, cyfleusterau addysg mewn mannau agored a darparu lotments. Aseswyd tir a lluniwyd polisïau er mwyn gallu cwrdd â'r anghenion hyn. Mae'r Adran hon o'r CDLl felly yn cynnwys y polisïau a'r dyraniadau tir y bernir eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol presennol yn cael eu hamddiffyn, a bod anghenion ychwanegol cymunedau yn gallu cael eu cyflawni dros gyfnod y Cynllun.

POLICY CFS/1 - CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn amddiffyn a, lle mae hynny’n bosib, gwella cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol trwy:

  1. Warchod a gwella bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y canolfannau adwerthu yn Ardal y Cynllun trwy leoli datblygiad adwerthu priodol yn unol â Pholisi CFS/2 – ‘Hierarchaeth Adwerthu’;
  2. Defnyddio dull gweithredu dilynol wrth benderfynu ar gynigion ar gyfer datblygiad adwerthu newydd yn Ardal y Cynllun yn nhermau dewis safle a sicrhau bod safleoedd amgen addas ar gael yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Canllawiau a Pholisi Cynllunio Cenedlaethol’;
  3. Gwarchod y cynnig adwerthu yn Llandudno a’r canol trefi trwy ddynodi prif ardaloedd siopa a / neu barthau siopa yn unol â Pholisïau CFS/3 - ‘Prif Ardaloedd Siopa’ a CFS/4 – ‘Parthau Siopa’;
  4. Gwarchod cynnig adwerthu Llandudno trwy ddynodi Parc Llandudno a Mostyn Champney fel parciau adwerthu lle bydd adwerthu graddfa fawr yn cael ei ganoli a’i ddiogelu yn unol â Pholisi CFS/5 – ‘Parciau Adwerthu‘.
  5. Diogelu siopau hanfodol sy'n gwerthu nwyddau cyfleus y tu allan i Landudno, Bae Colwyn a’r Canolfannau Ardal yn unol â Pholisi CFS/6 – ‘Diogelu Siopau sy’n gwerthu Nwyddau Cyfleus y tu allan i’r Ganolfan Isranbarthol a Chanol Trefi’;
  6. Gwarchod a gwella cymeriad atyniadol canolfannau siopa trwy ganiatáu blaen siop priodol a mesurau diogelwch blaen siop priodol yn unig yn unol â Pholisïau CFS/7 – ‘Dylunio Blaen Siopau’, CFS/8 –‘Diogelwch Blaen Siopau’ a DP/7 – ‘Canllawiau Cynllunio Lleol’;
  7. Cwrdd ag angen y gymuned am Lotments a diogelu Lotments presennol yn unol â Pholisïau CFS/9 – ‘Diogelu Lotments’ a CFS/10 – ‘Lotments Newydd’;
  8. Sicrhau bod datblygiad tai newydd yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer anghenion mannau agored y trigolion, a diogelu mannau agored presennol yn unol â Pholisïau CFS/11 – ‘Datblygu a Mannau Agored’ a CFS/12 – ‘Diogelu Mannau Agored;
  9. Dyrannu caeau chwarae newydd a darnau newydd o dir ar gyfer mannau agored yn Abergele, Glan Conwy a Llanrwst yn unol â Pholisi CFS/13 – ‘Dyrannu Mannau Agored Newydd’;
  10. Dyrannu tir ar gyfer ymestyn y fynwent yn Llanrwst yn unol â Pholisi CFS/14 – ‘Dyrannu Tir Claddu Newydd’;
  11. Datblygu cynigion datblygu ar gyfer cyfleusterau addysg yn unol â Pholisi CFS/13 – ‘Cyfleusterau Addysg’.
4.5.3.

Adwerthu

POLICY CFS/2 - HIERARCHAETH ADWERTHU View Map of this site ?

Mae'r cynllun yn sefydlu hierarchaeth adwerthu ar gyfer canolfannau siopa o fewn ardal y cynllun yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Bydd safle canolfan siopa yn yr hierarchaeth adwerthu yn gyffredinol yn pennu lefel y ddarpariaeth siopa newydd. Y mwyaf yw'r ganolfan, y mwyaf tebygol yw hi gellir cefnogi datblygiad newydd. Darlunnir yr hierarchaeth adwerthu (isod) ar y Diagram CFS/ 2a.

Canolfan Is Ranbarthol

Llandudno

Canol Tref

Bae Colwyn

Abergele

Conwy

Penmaenmawr

Cyffordd Llandudno

Llanfairfechan

Llanrwst

Canolfannau Ardal

West End Bae Colwyn

Craig y Don

Bae Cinmel

Hen Golwyn

Llandrillo-yn-Rhos

Canolfannau Pentref

Betws-yn-Rhos

Cerrigydrudion

Deganwy

Dolgarrog

Dwygyfylchi

Eglwysbach

Glan Conwy

Groes

Gyffin

Llanddulas

Llanfairtalhaiarn

Llangernyw

Llanrhos

Llansannan

Llysfaen

Mochdre

Bae Penrhyn

Pensarn

Pentrefoelas

Tal-y-Bont

Tal-y-Cafn

Towyn

Trefriw

Bae Colwyn Uchaf

4.5.3.1.

Mae’r PPW ym mharagraff 10.2.1 yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol adnabod hierarchaeth bresennol o ganolfannau, ac amlygu unrhyw rai sy’n cyflawni swyddogaethau arbenigol.

4.5.3.2.

Mae'r categorïau o fewn yr hierarchaeth adwerthu yn seiliedig ar y rhai sydd wedi eu cynnwys o fewn y PPW ym mharagraff 10.1.1. Lluniwyd meini prawf manwl ynglŷn â safle pob canolfan o fewn yr hierarchaeth ac fe’u nodir yn BP/16 – ‘Ardaloedd Adwerthu Cynradd ac Eilaidd ac Astudiaeth Hierarchaeth.

4.5.3.3.

Dylai datblygiadau newydd fod yn gydnaws â graddfa a swyddogaeth y canolfannau presennol er mwyn creu patrymau o ddatblygiad cynaliadwy ac i osgoi unrhyw effaith niweidiol ar y canolfannau eraill. Mae rhoi ystyriaeth i safle'r ganolfan o fewn yr hierarchaeth gyffredinol yn hanfodol.

4.5.3.4.

Bydd ceisiadau cynllunio unigol sy'n ymwneud ag adwerthu yn cael eu hasesu yn ôl eu rhinwedd eu hunain, yn unol â Pholisi DP/6 ac ar sail paragraffau 10.2.11 ac Adran 10.3 y PPW. Rhoddir ffafriaeth yn gyntaf i ddatblygu safleoedd o fewn canolfannau isranbarthol a threfi presennol, yna i safleoedd ar ymyl canolfannau, ac yna canolfannau ardal, lleol a phentref.

4.5.3.5.

Mae rôl Llandudno fel y ganolfan siopa isranbarthol yn denu nifer fawr o siopwyr o'r Fwrdeistref Sirol ac awdurdodau cyfagos. Mae’r Cynllun yn cydnabod yr angen i hyrwyddo’r swyddogaeth adwerthu o fewn Llandudno a Bae Colwyn gan gefnogi ar yr un pryd ddatblygiadau adwerthu priodol yng nghanolfannau eraill yr hierarchaeth.

4.5.3.6.

Bwriedir gwella Bae Colwyn, y ganolfan adwerthu ail fwyaf yn yr hierarchaeth, yn unol â Phrif Gynllun Bae Colwyn a chynigion adfywio cysylltiedig eraill. Er mwyn ymateb i’r dirywiad mewn amodau economaidd, mae'r Cyngor yn weithgar wrth geisio adfywio canol y dref a'r ardaloedd cyfagos yn unol â Pholisi DP/9.  Bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn adnabod ardaloedd adfywio yn ardal drefol Bae Colwyn ar sail eu potensial ar gyfer ailddatblygu tir llwyd, angen cymdeithasol ac economaidd, ac agosrwydd i Ganol y Dref a chysylltiadau cludiant cynaliadwy. Mae'r ardal yn cynnig rhinweddau, cyfleoedd a sialensiau unigryw, a ddisgrifir yn fanylach ym Mhrif Gynllun Bae Colwyn.

4.5.3.7.

Mae Astudiaeth Adwerthu Conwy (Papur Cefndir 15) yn dod i'r casgliad bod tref Conwy ar hyn o bryd yn gorfasnachu o safbwynt adwerthu nwyddau cyfleus, sydd o bosib yn niweidiol i ddewis ac ansawdd profiad adwerthu'r trigolion.  Mae'r Astudiaeth yn awgrymu y byddai'n fuddiol datblygu adnodd adwerthu sy'n darparu cyfleusterau siopa atodol i'r trigolion ar sail dydd i ddydd yng nghanol y dref. Fodd bynnag, oherwydd natur hanesyddol Conwy, mae hyn yn fwy tebygol o gael ei leoli o fewn  adeiledd presennol y dref, a dylai cadw'r amgylchedd hanesyddol gael blaenoriaeth ar gyflawni’r angen a nodwyd am nwyddau cyfleus.

4.5.3.8.

Mae casgliadau Astudiaeth Adwerthu Conwy, 2007 yn nodi nad oes angen dyrannu safleoedd ar gyfer adwerthu o fewn cyfnod y Cynllun. Er nad yw’r Astudiaeth Adwerthu yn argymell dyraniadau adwerthu yn y CDLl er hynny mae’n nodi elfen o angen am arwynebedd llawr cymhariaeth ychwanegol yn ardal Llandudno/Cyffordd Llandudno erbyn 2015. Ond, diwallir yr angen eisoes gan nifer o ymrwymiadau presennol ar gyfer adwerthu nwyddau cymhariaeth ar y parciau adwerthu yn Llandudno ac ar safle’r hen Gwaith Brics yng Nghyffordd Llandudno fel sydd wedi’i nodi ar y map cynigion. Adolygir y sefyllfa fel rhan o’r astudiaeth adwerthu nesaf fydd yn dechrau yn 2011/12.

4.5.4.

Prif Ardaloedd Siopa

POLICY CFS/3 - PRIF ARDALOEDD SIOPA View Map of this site ?

Dynodir y Prif Ardaloedd Siopa yn Llandudno a Bae Colwyn fel y’u dangosir ar y map cynigion. Caniateir newid defnydd llawr gwaelod eiddo yn yr ardaloedd hyn o siopau dosbarth A1 i ddefnydd arall yn unig lle:

  1. Gellir dangos nad oes angen yr eiddo mwyach ar gyfer defnydd A1 ac mae cadw defnydd A1 i’r eiddo wedi’i archwilio yn llawn, heb lwyddiant, trwy farchnata ar raddfa resymol ar y farchnad am o leiaf chwe mis a;
  2. Nad yw'r newid arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar y swyddogaeth adwerthu neu gymeriad atyniadol y brif ardal siopa.

4.5.4.1.

Mae siopa yn cyfrannu nid yn unig at fywiogrwydd, cymeriad deniadol a hyfywedd canol trefi, ond mae hefyd yn rhoi budd i'r economi lleol ac fe all gydweddu ag amcanion hamdden a thwristiaeth y Cynllun hwn. Mae'n hanfodol felly gwarchod craidd adwerthu'r prif ganolfannau siopa a gwrthwynebu datblygiadau sy'n niweidio neu'n tanseilio'r swyddogaeth yma.

4.5.4.2.

Mae archwiliad o'r cymysgedd o ddefnydd o fewn papur cefndir 16 yn awgrymu bod tua 70% o unedau ym mhrif ardaloedd siopa Llandudno a Bae Colwyn ar hyn o bryd yn rhai dosbarth defnydd A1. Felly mae'r prif ardaloedd siopa wedi’u bwriadu'n bennaf ar gyfer defnydd  A1, er y bydd defnydd arall yn cael ei ganiatáu lle mae’n cydymffurfio â’r polisi.

4.5.4.3.

Tra ei bod yn angenrheidiol diogelu’r swyddogaeth adwerthu o fewn canol trefi, mae hefyd yn bwysig ystyried sut gellir osgoi neu leihau graddfeydd gwagleoedd tymor hir. Mae’r nifer o wagleoedd o fewn canol trefi wedi cynyddu yn gyflym oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol. Mae hyn hefyd yn wir am y ganolfan isranbarthol, Llandudno, sydd wedi profi cynnydd yn y nifer o unedau gwag dros y blynyddoedd diweddar.

4.5.4.4.

Un ffordd gall y system gynllunio gynorthwyo i adfer canol trefi yw galluogi mwy o hyblygrwydd lle mae gwagleoedd tymor hir yn datblygu i fod yn broblem.  Mewn achosion o’r fath, pan ofynnir am newid defnydd o A1, byddai’r ymgeisydd angen darparu tystiolaeth o farchnata’r eiddo am gyfnod o chwe mis ar raddfa resymol ar y farchnad i ddangos nad oes galw mwyach am ddefnydd dosbarth A1 yn y lleoliad hwnnw. Fel arfer, pan ddefnyddir maen prawf o’r fath, gofynnir am gyfnod marchnata o 12 mis, ond mae’r Cyngor yn cydnabod yr effaith negyddol mae blaenau siop gwag yn ei gael mewn canol trefi ac mae’n ceisio helpu i leihau gwagleoedd lle bynnag bo hynny’n bosibl.

4.5.4.5.

Hefyd, bydd angen bodloni’r Cyngor bydd y defnydd newydd bwriedig yn cydymffurfio â Maen Prawf b) polisi CFS/3, ac yn cydbwyso’r angen am leihau’r nifer o unedau gwag wrth ddiogelu cyfanrwydd y brif ardal siopa. Yn benodol, rhaid cymryd gofal arbennig i atal clystyru defnyddiau sy’n gallu bod yn niweidiol i apêl y ganolfan.

4.5.4.6.

Bydd Polisi CFS/3 yn destun monitro ac adolygu blynyddol i atal crynhoi defnyddiau yn ormodol sy’n niweidio’r ganolfan. Bydd y lefel gyffredinol o wagleoedd o fewn canolfannau yn cael ei monitro yn flynyddol i bennu a oes angen addasu maen prawf y polisi o 6 mis i 12 mis.

4.5.5.

Parthau Siopa

POLICY CFS/4 - PARTHAU SIOPA View Map of this site ?

Dynodir Parthau Siopa yn Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Conwy, Llanfairfechan, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, a Phenmaenmawr, fel dangosir ar y map cynigion. Caniateir newid defnydd llawr gwaelod mangre yn yr ardaloedd hyn o siopau ddosbarth A1 i ddefnydd arall yn unig lle mae'r newid defnydd arfaethedig yn cadw neu'n gwella bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y ganolfan siopa; ac yn cydymffurfio â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.5.1.

Adolygwyd dynodiadau adwerthu mewn cynlluniau blaenorol a fabwysiadwyd yng ngoleuni’r data a gasglwyd dros y deng mlynedd blaenorol yn ymwneud â newidiadau mewn defnydd a lefelau eiddo gwag o fewn parthau siopa.  Cynigir ardaloedd dynodedig i amddiffyn craidd adwerthu'r ardaloedd hyn.

4.5.5.2.

O fewn y parthau siopa, mae yno ragdybiaeth o blaid cadw defnydd dosbarth A1, ond cydnabyddir y gall defnydd arall, yn enwedig defnydd dosbarth A3 (megis caffis/tai bwyta), neu ddefnydd sector masnachol neu sector gwasanaethau fod yn dderbyniol lle nad yw hynny'n niweidio bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfyweddy canolfannau. Yn wir mae PPW ym mharagraff 10.2.4 yn nodi dylai polisïau cynllunio annog amrywiaeth o ddefnyddiau mewn canolfannau.  Ond, dylid rhoi sylw arbennig felly i osgoi clystyru rhai defnyddiau sy’n gallu bod yn niweidiol i apêl y ganolfan. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae problemau wedi codi gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol rhai trefi, ac mae hyn yn cael ei gysylltu yn y rhan fwyaf o achosion gyda’r crynodiad uchel o eiddo trwyddedig fel tafarndai, clybiau, bariau a siopau bwyd poeth i’w fwyta allan mewn rhan benodol o’r dref, er enghraifft Mostyn Street uchaf, Llandudno, ardal sy’n cynnwys eiddo trwyddedig a phreswyl. Yma, mae’r nifer o eiddo sydd wedi’u trwyddedu i werthu alcohol wedi cynyddu o 7 eiddo yn 2005 i 13 eiddo yn 2011.

4.5.5.3.

Bydd angen ystyried ceisiadau cynllunio i newid defnydd i ddosbarth A3 mewn ardaloedd o’r fath yn ofalus yn ôl polisi CFS/4 a’r Egwyddorion Datblygu (yn benodol, polisïau DP/3 a DP/4). Bydd angen i’r ACLl fod yn fodlon na fydd y cynigion yn cael effaith negyddol o ran pa mor ddeniadol yw canol y dref yn sgil crynodiad rhy uchel o ddefnyddiau A3, ac/neu gael effaith niweidiol ac annerbyniol ar amwynder preswyl, diogelwch y cyhoedd, sŵn a throseddau. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i dystiolaeth berthnasol a ddarperir gan adrannau eraill y Cyngor a chyrff allanol fel yr Heddlu os yw’n ystyriaeth gynllunio berthnasol.

4.5.6.

Parciau Adwerthu

POLICY CFS/5 - PARCIAU ADWERTHU View Map of this site ?

Bydd Parc Adwerthu Mostyn Champney a Pharc Adwerthu Parc Llandudno fel dangosir ar y map cynigion yn cael eu diogelu i gadw eu cymeriad graddfa fawr er mwyn cydweddu â Phrif Ardal Siopa hanesyddol Llandudno. Bydd Parc Adwerthu Mostyn Champney yn cael ei ddiogelu ar gyfer siopau graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp. Parc Adwerthu Parc Llandudno yn cael ei ddiogelu ar gyfer siopau graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn swmpus.

4.5.6.1.

Mae Parc AdwerthuMostyn Champney a Pharc Llandudno wedi’u lleoli ar ymyl canol tref Llandudno ac yn cyflawni swyddogaethau adwerthu gwahanol i’r rhai a welir fel rheol mewn canol trefi. Mae Parciau Siopa Mostyn Champney a Pharc Llandudno yn cynnwys siopau adwerthu graddfa fawr sydd fel rheol yn 929m sg (10,000 tr sg) neu fwy mewn maint gyda maes parcio cysylltiedig. Yn achos Parc AdwerthuMostyn Champney, mae adwerthu yn canolbwyntio ar werthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp, lle mae Parc Llandudno yn cynnwys adwerthwyr graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddaunad ydynt yn swmpus. Fel nodwyd ym mharagraff 10.3.12 y PPW, ni ddylai graddfa, math a lleoliad datblygiadau adwerthu o'r fath danseilio bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfyweddcanol trefi. Mae cytundebau cyfreithiol yn eu lle i gyfyngu ar y newid defnydd ac isrannu unedau yn y lleoliadau hyn.

4.5.7.

Diogelu Siopau sy’n Gwerthu Nwyddau Cyfleus y tu Alan i'r Ganolfan Isranbarthol a Chanol Trefi

POLICY CFS/6 - DIOGELU SIOPA SY'N GERTHU NWYDDAU CYFLEUS Y TU ALLAN I'R GANOLFAN ISRANBARTHOL A CHANOL TREFI View Map of this site ?

Lle nad oes cyfleusterau tebyg yn bodoli y tu allan i Landudno, Bae Colwyn, Abergele, Conwy, Llanfairfechan, Cyffordd Llandudno, Llanrwst a Phenmaenmawr, caniateir datblygiad a fyddai'n arwain at golli siop sy'n gwerthu nwyddau cyfleus yn unig lle dangoswyd yn glir nad yw'r adeilad bellach yn hyfyw ar gyfer ei ddefnydd presennol, ac nad oes unrhyw angen cymunedol mwyach am y siop.

4.5.7.1.

Mae siopau lleol, pentref a gwledig yn chwarae rhan hanfodol mewn cynnal canolfannau llai a lleihau'r angen i drigolion deithio i gwrdd ag anghenion dydd i ddydd. Mewn pentrefi llai maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned, trwy gefnogi’r rhai sy'n cael anhawster teithio yn bellach i ffwrdd, gan roi ffocws i fywyd pentref.

4.5.7.2.

Bydd y Cyngor yn annog cadw cyfleusterau siopa pentref lle maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r lleoliad, ac yn hyfyw yn economaidd. Wrth ystyried y cynigion sy’n golygu colli cyfleusterau o'r fath, bydd y Cyngor yn ystyried effaith y golled ar y gymuned leol, o safbwynt y cyfleusterau sydd ar gael, mynediad at gyfleusterau amgen a'r goblygiadau cymdeithasol, yn cynnwys yr effaith ar hyfywedd y pentref yn gyffredinol. Lle derbynnir cynigion o'r fath, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos nad yw'r siop yn hyfyw bellach trwy ddarparu’r wybodaeth ariannol berthnasol i gefnogir; achos, ynghyd a thystiolaeth bod yr eiddo'n cael ei farchnata am o leiaf 12 mis am bris realistig.

4.5.8.

Blaen Siopau

POLICY CFS/7 - DYLUNIAD BLAEN SIOP View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio i gynigion ar gyfer blaen siop newydd neu newidiadau i flaen siop presennol yn unig lle maent yn gydnaws â'r adeilad a’r ardal gyfagos.

POLICY CFS/8 - DIOGELWCH BLAEN SIOP View Map of this site ?

Ni roddir caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod caeadau solet neu gaeadau rholeri tyllog ar du blaen siop, neu ar eiddo arall mewn ffryntiadau stryd siopa. Fel arfer, bydd y Cyngor ond yn rhoi caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer rhwyllau rholeri allanol a rhwyllau y gellir eu tynnu ar du blaen siop ac eiddo masnachol lle mae'r rhwyllau wedi’u hintegreiddio yn nyluniad y tu blaen siop, yn cael effaith weledol fach iawn ac yn gydnaws â gweddill trychiad yr adeilad a golygfa stryd.

4.5.8.1.

Mae blaen siop yn hanfodol wrth ffurfio cymeriad ac edrychiad ffryntiadau. Mae'r Cyngor yn rhoi pwys mawr ar blaen siop wedi’i dylunio'n briodol, nid yn unig gadw cymeriad yr adeiladau, ond hefyd i gadw cymeriad atyniadol cyffredinol strydoedd ac i gynnal eu hyfywedd masnachol. Fe all datblygiadau anaddas gael effaith niweidiol iawn nid yn unig ar yr adeilad ond hefyd ar yr olygfa stryd, a photensial masnachu'r stryd.

4.5.8.2.

Mae cwsmeriaid a pherchnogion siopau yn elwa os yw amgylchedd golygfa stryd yn cael ei hybu gan flaen siop a ddyluniwyd yn dda ac sy'n cael ei gadw mewn cyflwr da. Mewn pentrefi bydd yn bwysig parchu cymeriad presennol y stryd a’r pentref, tra mewn prif ganolfannau siopa o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol bydd y pwyslais ar greu a chynnal amgylchedd bywiog o ansawdd. Dylid cydnabod y bydd llawer o du blaen siopau wedi’u lleoli o fewn ardaloedd cadwraeth.  Mewn achosion o'r fath dylid cyfeirio at Bolisi Polisi CTH/2 – ‘Datblygiad sy’n Effeithio ar Asedau Treftadaeth’.

4.5.9.

Lotments

POLICY CFS/9 - DIOGELU LOTMENTS View Map of this site ?

Ni roddir Caniatâd Cynllunio i ddatblygiad sy'n arwain at golli tir a ddefnyddir ar gyfer Lotments, ac eithrio;

  1. Lle mae hynny’n addas, gwneir darpariaeth amgen sydd o leiaf yn gyfwerth o ran maint ac ansawdd i'r hyn a gollir, neu;
  2. Lle gellir dangos nad oes angen cymunedol mwyach am y Lotments.

4.5.9.1.

Gall gerddi Lotments gyfrannu at fan agored o fewn Ardal y Cynllun. Maent yn rhoi budd cadarnhaol nid yn unig ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol; ond hefyd ar gyfer cynhyrchu bwyd, bywyd gwyllt a gwerth amwynder cyffredinol. Mae Lotments yn adnodd cymunedol pwysig.

4.5.9.2.

Ni roddir Caniatâd Cynllunio ar gyfer ailddatblygu Lotments yn unig oherwydd nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers tro a chael eu hesgeuluso. Caniateir datblygiad a fyddai'n dileu'r Lotments yn llwyr yn unig os dangosir nad oes angen am y  Lotments neu lle gwnaed darpariaeth amgen.

POLICY CFS/10 - LOTMENTS NEWYDD View Map of this site ?

  1. Dyrennir tir i gwrdd â'r galw am Lotments newydd yn y lleoliadau canlynol:

  1. Princess Green, oddi ar Garden Drive, Bae Penrhyn
  2. Tan y Bryn, Llandrillo yn Rhos
  3. Quiet Garden, Towyn
  4. Oddi ar Ffordd Pari, Llanrwst
  5. Yn gyfagos i Vadre, Dwygyfylchi
  6. Gyferbyn â CPD Conwy United, Penmaen Road, Conwy

  1. Gellir adnabod tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.9.3.

Fel nodwyd yn BP/25 – ‘Adroddiad Galw a Chyflenwi Safleoedd Lotments’, mae yno dros 11 o safleoedd presennol sy'n darparu cyfanswm o 166 o leiniau Lotment yng Nghonwy.

4.5.9.4.

Mewn lleoliadau lle nad oes tir mewn perchnogaeth gyhoeddus i gwrdd ag anghenion y gymuned, dyrannwyd y lleoliad nesaf gorau o safbwynt cynaliadwyedd. Yn deillio o gyfyngiadau uchel yn Nhrefriw, darperir ar gyfer y trigolion hynny sydd mewn angen yn rhannol trwy ddyraniad yng Nghonwy a thrwy gyflenwi tir heb gyfyngiadau yn ardal cynllun Parc Cenedlaethol Eryri.  Yn yr un modd, i'r trigolion hynny sydd mewn angen ym Mae Colwyn, darperir lleiniau Lotment ar eu cyfer yn Llandrillo-yn-Rhos a dod â safleoedd segur yn ôl i ddefnydd.

4.5.9.5.

Cydnabyddir bod angen lotments mewn ardaloedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol ac mae’r Cyngor yn weithredol yn chwilio am safleoedd addas i gwrdd ag anghenion cymunedau Abergele a Chonwy.  Bydd addasrwydd safleoedd o'r fath yn cael ei ystyried yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.10.

Mannau Agored

POLICY CFS/11 - DATBLYGU A MANNAU AGORED View Map of this site ?

  1. Bydd datblygiad tai o 30 neu fwy o anheddau yn gwneud darpariaeth ar y safle ar gyfer anghenion hamdden eu preswylwyr, yn unol â safonau'r Cyngor ar gyfer mannau agored o 3.6 hectar am bob 1000 o’r boblogaeth, a fydd yn cynnwys:

  • 1.2 hectar ar gyfer caeau chwarae
  • 1.6 hectar ar gyfer chwaraeon awyr agored
  • 0.8 hectar ar gyfer mannau chwarae i blant

  1. Mewn amgylchiadau eithriadol a chyfiawnhad iddynt, rhoddir ystyriaeth i ddarparu swm gohiriedig fel cam amgen i ddarparu ar y safle, yn unol â Pholisi Strategol DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a pholisïau DP4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ a DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’.
  2. Dylai datblygiadau tai sy’n cynnwys llai na 30 annedd ddarparu swm gohiriedig yn hytrach na darpariaeth ar y safle, yn unol â safon y Cyngor ar gyfer mannau agored o 3.6 hectar ar gyfer 1000 o’r boblogaeth.

4.5.10.1.

Yn y rhan fwyaf o achosion dylai datblygiadau tai ymgorffori mannau chwarae mewn cynllun, neu lle nad yw hynny'n ymarferol, dylid gwneud cyfraniad ariannol wedi’i sicrhau drwy ymrwymiad cynllunio o dan Adran 106 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Derbynnir cyfraniadau ariannol ar gyfer datblygiadau preswyl sy’n cynnwys llai na 30 annedd. Ar gyfer datblygiadau preswyl sy’n cynnwys 30 neu fwy o anheddau, bydd y Cyngor yn gofyn am ddarparu cyfleusterau chwarae i blant ar y safle a chyfraniad ariannol at fannau chwaraeon awyr agored oddi ar y safle. Fel arfer, disgwylir bydd datblygiad o 200 neu fwy o anheddau preswyl yn darparu’r holl fannau chwaraeon awyr agored a mannau chwarae i blant ar y safle. Rhoddir mwy o fanylion ynghylch darparu mannau agored a symiau gohiriedig o fewn SPG CDLl4 – ‘Ymrwymiadau Cynllunio’.

4.5.10.2.

Mae hamdden a mannau agored yn gyfrannwr allweddol i ansawdd bywyd cyffredinol pobl leol. Mae asesiad diweddar o ddarpariaeth mannau agored yn amlygu’r prinder gofod chwaraeon a mannau chwarae ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn golygu bod prinder tir ar gyfer chwaraeon awyr agored, a mannau chwarae i blant.

4.5.10.3.

Fel sy'n cael ei gydnabod yn Strategaeth Conwy Iach 2008 -2011, mae'r budd i iechyd a lles cymunedau a ddaw yn sgîl parciau a mannau agored yn cynnwys cynnydd yn lefel ymarfer corff, rhyngweithio cymdeithasol a mwy o gyfleoedd i blant chwarae. Un o nodau Cynllun Plant a Phobl Ifanc Conwy yw annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio ardaloedd fel parciau, mannau agored, cyfleusterau hamdden a chwaraeon awyr agored. Fodd bynnag, fe allai prinder mannau agored cyhoeddus osod rhwystr rhag cyflawni nodau o'r fath.

4.5.10.4.

Gan gydnabod y diffyg, yn 2003 mabwysiadodd y Cyngor Safon ar gyfer  darparu mannau agored (yn seiliedig ar Safon flaenorol yr NPFA). Cafodd y safonau hyn eu hadolygu yn 2008 gan Fields in Trust (FIT) a’u hychwanegu at y TAN 16 diwygiedig ar Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored yn gynnar yn 2009. Y safonau diwygiedig hyn sydd wedi’u hymgorffori yn y polisi.Yn ychwanegol i’r polisi, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi SPG ar Ymrwymiadau Cynllunio yn unol â pholisi DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ er mwyn darparu arweiniad i ddatblygwyr ynghylch sut y bydd y safon man agored yn cael ei gymhwyso i ddatblygiadau newydd.

4.5.10.5.

Cynhelir arolygon Mannau Agored gan y Cyngor bob dwy flynedd gan ddarparu gwybodaeth ar ddigonolrwydd darpariaeth mannau agored o fewn yr aneddiadau mawr. Dengys yr arolwg mwyaf diweddar a gynhaliwyd yn 2010 bod yno ddiffygion o ran y ddarpariaeth caeau chwarae, chwaraeon awyr agored a / neu fannau chwarae yn yr ardaloedd canlynol; Abergele Deganwy, Glan Conwy, Colwyn Fwyaf, Bae Cinmel, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Llysfaen, Penmaenmawr, Bae Penrhyn, Ochr Penrhyn, a Thywyn.

4.5.10.6.

Mae TAN 16 Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored yn awgrymu safonau gofod ar gyfer caeau chwarae a chwaraeon awyr agored fel y cefnogir gan FIT.  Mae’r safonau hyn wedi’u defnyddio yn yr Asesiad Gofod Agored diweddaraf.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod fod cyfraddau TAN 16 yn ymwneud â mathau eraill o ofod agored fel coridorau glas, gofodau agored a gofodau amwynder glas ond oherwydd amseriad cyhoeddi’r TAN yma a bod cymaint o waith wedi’i wneud ar y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd a’r sail tystiolaeth gefnogol, bernir ei bod yn briodol adolygu'r sefyllfa unwaith y mae'r cynllun wedi’i gyhoeddi ar gyfer i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn unol â chyngor TAN 16 (mae paragraff 2.29 yn cyfeirio at beidio oedi gwaith ar y CDLl yn absenoldeb Archwiliad ac Asesiad Mannau Agored newydd).

4.5.10.7.

Felly cynigir y dylid cynnal Archwiliad ac Asesiad o Fannau Agored er mwyn adnabod anghenion lleol, asesu darpariaeth leol a safonau darpariaeth ar gyfer hygyrchedd ac ansawdd, ac adnabod prinder/gormodedd o fannau agored yn unol â’r fersiwn diweddaraf o’r TAN 16 ar Chwaraeon a Hamdden. Ar ôl eu cwblhau bydd yr Archwiliad ac Asesiad yn ffurfio rhan o sail tystiolaeth y CDLl ac adolygir polisïau yn unol â hynny trwy fecanweithiau ym mhroses mabwysiadu/neu adolygu'r CDLl.

POLICY CFS/12 - DIOGELU MANNAU AGORED PRESENNOL View Map of this site ?

Ni roddir caniatâd cynllunio i ddatblygiad sy'n arwain at golli man agored ac eithrio lle ceir gorddarpariaeth o fannau agored yn y gymuned dan sylw, a lle mae'r cynnig yn arddangos budd sylweddol i'r gymuned sy'n deillio o'r datblygiad, neu, lle caiff ei disodli gan ddarpariaeth amgen derbyniol yng nghyffiniau’r; datblygiad neu o fewn yr un gymuned.

4.5.10.8.

Mae’r term ‘man agored’ fel y cyfeirir ato ym mholisi CFS/12 yn cynnwys y mathau canlynol fel maent wedi’u disgrifio yn TAN 16: parciau a gerddi cyhoeddus, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, mannau gwyrdd amwynder a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ardaloedd o'r fath o arwyddocâd mawr i gymunedau lleol yn Ardal y Cynllun. Mae hyn nid yn unig oherwydd y cyfleoedd chwaraeon a hamdden y maent yn eu cynnig ond hefyd effaith y man agored ar gymeriad atyniadol yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Felly, ni ddylid colli mannau agored presennol oni bai bod yr asesiad mannau agored yn arddangos yn glir bod yno orddarpariaeth o fannau agored ar gyfer anghenion y gymuned. Mewn achosion o'r fath, bydd angen i ddatblygwyr hefyd  arddangos sut y bydd eu cynigion yn dod â manteision sylweddol i'r cymunedau hynny a fydd yn colli eu man agored, megis darparu lefel foddhaol o dai fforddiadwy, siopau cymdogol neu gyfleusterau hamdden eraill fel a lle mae hynny'n briodol.

4.5.10.9.

Os oes tan-ddarpariaeth o fannau agored yn y gymuned, bydd angen i'r datblygwr ddarparu safle amgen dderbyniol yng nghyffiniau'r datblygiad neu o fewn yr ardal Cyngor tref neu gymuned.

POLICY CFS/13 - DRYANNU MANNAU AGORED NEWYDD View Map of this site ?

  1. Mae tir yn cael ei ddyrannu i ateb y galw am fannau agored yn y lleoliadau canlynol:

  1. Oddi ar Ffordd Llan Sain Siôr, Tua’r De o Gaeau Chwarae Abergele
  2. Top Llan Road / Llanrwst Road, Glan Conwy
  3. Gyferbyn â Gwesty'r Dolydd, Tua’r Gorllewin i Lanrwst

  1. Gellir nodi tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.10.10.

Dengys yr Asesiad Mannau Agored, a wnaethpwyd ym mis Rhagfyr 2010, ddiffygion mewn darparu mannau agored ar draws y Fwrdeistref Sirol. Dyrannwyd y safleoedd uchod i ddelio â diffygion yn y ddarpariaeth bresennol ac yn adlewyrchu cytundeb a thrafodaethau darparu parhaus gyda thirfeddianwyr a datblygwyr. Nid yw ymestyn y cae chwarae yn Abergele yn ddarpariaeth ychwanegol, ond yn ddarpariaeth yn lle’r darn o gae chwarae fydd yn cael ei ddyrannu ar gyfer y dyraniad tai. Darperir tir ychwanegol ar gyfer mannau agored yn Abergele fel rhan o gyfanswm y dyraniad tir ar gyfer tai.

4.5.11.

Dyraniadau Tir Claddu Newydd

POLICY CFS/14 - DRYANIADAU TIR CLADDU NEWYDD View Map of this site ?

Mae tir yn cael ei ddyrannu i ddiwallu’r angen am dir claddu newydd yn Llanrwst yn gyfagos i’r fynwent bresennol. Gellir nodi tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.11.1.

I ddiwallu’r angen am le claddu yn ardaloedd Llanrwst ac Abergele, mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith i nodi lleoliadau addas ar gyfer naill ai ymestyn mynwentydd presennol, neu diroedd claddu newydd.  Mae BP/32 – ‘Adroddiad Galw a Chyflenwad Tiroedd Claddu’ yn cynnwys mwy o fanylion ar waith a wnaethpwyd hyd yn hyn. Mewn perthynas â Llanrwst, bydd y cyfleuster presennol ym Mynwent Cae Melwr yn llawn erbyn diwedd 2011, felly argymhellir ymestyn y fynwent bresennol.  Mae angen yn bodoli yn Abergele hefyd ac mae’r Cyngor yn weithredol yn chwilio am dir addas i ddiwallu’r angen hwn.

4.5.12.

Cyfleusterau Addysg

POLICY CFS/15 - CYFLEUSTERAU ADDYSG View Map of this site ?

Bydd Cynigion Datblygu ar gyfer ysgolion newydd yn ystod cyfnod y Cynllun yn cael eu cefnogi os ydynt yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.12.1.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn cydnabod yr angen am fuddsoddi mewn ysgolion ar gyfer y dyfodol, ac mae’n gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sefydlu strategaeth glir ar draws pob ysgol gynradd.  Sefydlodd yr ALl y Prosiect Moderneiddio Ysgolion Cynradd (PMYC) 3 blynedd yn ôl. Mabwysiadwyd y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu yn ffurfiol gan y Cyngor ym mis Hydref 2010.

4.5.12.2.

Cynhelir mwy o gyfarfodydd ymgynghori rŵan o fewn y cwmpas a nodir yn y cynllun gweithredu. Cynhelir y cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol hyn dros nifer o flynyddoedd. Cyflwynir yr ymatebion o bob cyfarfod ymgynghori ffurfiol i’r Cyngor fydd yn eu hystyried wrth benderfynu pa ddewis i’w ddatblygu a’i weithredu ar gyfer ardal/ysgol. Ni ellir penderfynu ar unrhyw ddyraniadau newydd ar gyfer Sefydliadau Addysgol nes bydd y broses hon wedi’i chwblhau ar gyfer ysgolion neu ardaloedd unigol.

4.5.12.3.

Nid ydym yn gwybod canlyniadau cam nesaf y PMYC ar hyn o bryd, felly, mae pob dewis yn dal ar agor, a allai olygu dim newid, cyfuno, ysgol ardal ar safle presennol, ysgol ardal ar safle newydd, ysgol ardal ar wahanol safleoedd, neu adnewyddu ysgol bresennol. Ond, bydd y Cyngor yn adolygu ei ddull ar ôl cwblhau Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy yn unol â Phapur Cefndir 24 – ‘Adroddiad Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy’.  Bydd ysgolion newydd yn cael cefnogaeth yn amodol ar gwrdd â pholisïau perthnasol eraill o fewn y Cynllun.

4.6.

Yr Amgylchedd Naturiol

4.6.1.

Amcanion Gofodol

SO11.Lleihau'r defnydd a wneir o ynni drwy leoli a dylunio adeiladau'n ofalus a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy lle gallent fod yn ddeniadol o safbwynt economaidd ac yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol.

SO12.Diogelu a gwella cymeriad ac edrychiad yr arfordir ac ardaloedd o gefn gwlad sydd heb eu datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirweddol / cadwraethol, nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol a sicrhau bod bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir yn cael eu cadw.

SO14.Hyrwyddo defnydd darbodus o adnoddau drwy leihau gwastraff cymaint a bo modd a chynorthwyo i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy'n cyfateb ag anghenion yr ardal a'r hierarchaeth wastraff.

4.6.2.

Datganiad Strategaeth yr Amgylchedd Naturiol

4.6.2.1.

Mae Ardal y Cynllun yn elwa ar brydferthwch gwledig ac arfordirol sy'n cefnogi diwydiant twristiaeth ffyniannus ac yn darparu adnoddau hamdden gwerthfawr i'r trigolion. Nod y polisïau yn yr adran hon yw diogelu a gwella cymeriad cefn gwlad, y dirwedd, yr amgylchedd adeiledig, y cyfoeth o fioamrywiaeth a'r asedau daearegol.

4.6.2.2.

Mae’r ardal o gefn gwlad hefyd yn cynnal economi amaethyddol iachus ac yn ôl polisi'r Llywodraeth dylid ystyried lleoliad y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ochr yn ochr ag ystyriaethau cynaliadwyedd eraill wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio.

4.6.2.3.

Yn ogystal â diogelu'r amgylchedd lleol, rhaid i ddatblygiadau newydd hefyd geisio cyfyngu ar yreffaith ar amgylchedd y byd drwy ddefnyddio cyn lleied ag sy'n bosibl o adnoddau, cynyddu effeithlonrwydd ynni a gostwng allyriadau carbon. Mae'r Strategaeth Ofodol yn lleoli datblygiadau mewn aneddiadau sy'n darparu ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gan leihau'r angen i deithio (a thrwy hynny allyriadau carbon). Mae polisïau eraill yn yr adran hon yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a chynyddu'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu. Yn ogystal â hyn, mae angen sicrhau nad yw datblygiadau'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd bywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu colli yn sgil newid yn yr hinsawdd, ac y gallant addasu i gyfateb â newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodol.

4.6.2.4.

Mae risg llifogydd ar hyd llawer o’r arfordir, yn enwedig Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, ac mae angen atal datblygu amhriodol mewn ardaloedd lle ceir risg.  Mae'r risg yn debygol o gynyddu yn y dyfodol o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd a  lefelau’r môr yn codi.  Gan hynny, defnyddir ymagwedd gyfyngol ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardaloedd lle ceir risg, yn unol â Pholisi DP/6 – Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol. Bydd angen trefniadau draenio dŵr wyneb priodol, fel Systemau Draenio Cynaliadwy, i helpu i reoli llifogydd dŵr wyneb, fel y nodir yn yr adran hon.

POLICY NTE/1 - YR AMGYLCHEDD NATURIOL View Map of this site ?

Er mwyn ceisio cefnogi anghenion economaidd a chymdeithasol ehangach yn Ardal y Cynllun, bydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ceisio rheoleiddio datblygu i gadw, a lle bo modd, gwella amgylchedd naturiol, cefn gwlad ac arfordir Ardal y Cynllun.  Cyflawnir hyn drwy:

  1. Ddiogelu bioamrywiaeth, daeareg, cynefinoedd, hanes a thirweddau Ardal y Cynllun drwy ddiogelu a gwella safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Canllawiau Cenedlaethol’.
  2. Dynodi ardaloedd o Letem Las a ddewisir sy'n agos at Ardaloedd y Strategaeth Datblygu Trefol i gynnwys datblygiadau i ddiwallu anghenion tai’r gymuned ond gan reoli twf pellach, yn unol â Pholisi NTE/2 – ‘Lletemau Glas a Diwallu Anghenion Datblygu Cymunedau’ a Thabl NTE/2a. Bydd Lletemau Glas newydd yn cael eu dynodi rhwng Craigside ac Ochr y Penrhyn, ac yn Hen Golwyn (rhwng Coed Coch Road a Peulwys Lane) i atal yr aneddiadau rhag ymgyfuno a chadw cymeriad agored yr ardaloedd hynny, yn unol â Pholisi NTE/3. – ‘Lletemau Glas Newydd’.
  3. Cadw a rheoli hunaniaeth aneddiadau unigol a chefn gwlad agored drwy ddefnyddio terfynau aneddiadau i reoli datblygu.
  4. Lle bo'n briodol ac yn angenrheidiol, defnyddio cytundebau rheoli i wella ansawdd tirweddau statudol ac anstatudol, ac ardaloedd gwerthfawr o safbwynt bioamrywiaeth yr effeithir arnynt gan ddatblygu, gan gynnwys: Manylebau plannu, tirweddu a chynnal gwell, yn unol â'r Polisïau Egwyddor Datblygu a Pholisi NTE/4 – ‘Bioamrywiaeth’.
  5. Cydweithio â datblygwyr i ddiogelu rhywogaethau a warchodir a gwella'u cynefinoedd yn unol â Pholisïau DP/6 a NTE/4 a LDP5 – ‘Bioamrywiaeth mewn Cynllunio’ SPG.
  6. Ceisio sicrhau bod cyn lleied ag sy'n bosibl o dir amaethyddol Gradd 2 a 3a yn cael ei golli ar gyfer datblygiadau newydd, yn enwedig yn nwyrain Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, yn unol â Pholisi DP/6.
  7. Parchu, cadw neu wella cymeriad lleol a nodweddion unigryw pob Ardal Tirwedd Cymeriad, yn unol â Pholisi NTE/5 – ‘Ardaloedd Cymeriad Tirwedd’ ac fel y dangosir ar Fap y Cynigion.
  8. Diogelu’r Parth Arfordirol yn unol â Pholisi NTE/6 – ‘Y Parth Arfordirol’
  9. Hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn datblygiadau yn unol â Pholisi NTE/7 – ‘Effeithlonrwydd Ynni a Thechnolegau Adnewyddadwy mewn Datblygiadau Newydd’.
  10. Atal, gostwng neu adfer pob ffurf ar lygredd gan gynnwys aer, golau, sŵn, pridd a dŵr, yn unol â Pholisi DP/6.

4.6.2.5.

Mae cefn gwlad agored yn cynnwys yr holl ardaloedd hynny y tu allan i'r terfynau anheddiad a ddiffiniwyd. Mae canllawiau cenedlaethol yn ceisio cadw ac, os yw hynny'n bosibl, gwella cefn gwlad er mwyn diogelu ei werth ecolegol, daearegol, ffisiographig, hanesyddol, archeolegol ac amaethyddol. Mae'r morlin agored yn bwysig o ran harddwch, bywyd gwyllt a hamdden. Mae'r Gogarth wedi'i ddynodi'n Arfordir Treftadaeth gan fod ei glogwyni carreg galch a'i laswelltir yn cael eu hystyried ymysg golygfeydd gwychaf arfordir Cymru. Mae'r diwydiant hamdden yn ogystal â’r gwaith ar yr amddiffynfeydd môr yn rhoi pwysau ar yr arfordir. Rhaid i ddatblygiadau o'r fath fod yn gydnaws ag ecoleg ac ymddangosiad yr arfordir.  Yn yr un modd, mae rhai ardaloedd yn debygol o gael llifogydd ac mae angen peidio lleoli datblygiadau ar ardaloedd risg uchel.

4.6.2.6.

Tir Amaethyddol o Ansawdd Uchel

Mae Paragraff 4.9.1. Polisi Cynllunio Cymru yn diogelu tir amaethyddol o'r ansawdd gorau lle bo modd, gan ei fod yn adnodd y mae terfyn iddo. Nid oes tir amaethyddol Gradd 1 yn Ardal y Cynllun, ond ceir ardaloedd o dir Gradd 2 a Gradd 3a ar yr arfordir. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod cyn lleied o dir Gradd 2 a Gradd 3a yn cael eu colli i ddatblygiadau newydd, ond efallai y bydd angen colli rhai ardaloedd o'r tir hwn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau o ran tai.  Bydd yn rhaid i geisiadau cynllunio sy'n effeithio ar y mater hwn fodloni gofynion Polisi DP/6.

4.6.2.7.

Diogelu Tirweddau a Chynefinoedd

Mae nifer y safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol a chenedlaethol yn adlewyrchu ansawdd ac amrywiaeth yr amgylchedd yn Ardal y Cynllun. Mae polisïau cenedlaethol yn ceisio diogelu, ac, mewn rhai amgylchiadau, gwella ardaloedd sydd wedi'u dynodi, cefn gwlad a'r arfordir, bioamrywiaeth, cynefinoedd, tir amaethyddol a'r amgylchedd trefol[i]. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar yr ardaloedd hyn yn amodol ar bolisi DP/6.

4.6.2.8.

Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys tirweddau amrywiol o ansawdd uchel ac ardaloedd prydferth, o rostir agored Hiraethog i fannau ac iddynt bwysigrwydd lleol o amgylch trefi a phentrefi. Mae terfyn gorllewinol Ardal y Cynllun yn gyfagos â Pharc Cenedlaethol Eryri. Er mai Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy'n penderfynu ar geisiadau yn ei ardal, CBSC yw'r awdurdod cynllunio ar ardaloedd cyfagos a fyddai’n gallu effeithio ar osodiad y Parc. Yn yr ardaloedd hyn, mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor ystyried y pwrpas y dynodwyd y Parc Cenedlaethol ar ei gyfer.

4.6.2.9.

Mae Paragraff 5.2.8 Polisi Cynllunio Cymru'n hyrwyddo ymagweddau tuag at ddatblygu sy'n gwella bioamrywiaeth, yn diogelu rhag colli bioamrywiaeth, neu'n lliniaru unrhyw ddifrod na ellir ei osgoi.

4.6.2.10.

Dwy Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPAs), sydd wedi'u lleoli yn Ardal y Cynllun, sy'n adnabyddus oherwydd yr adar sy'n byw yno, yw Traeth Lafan ac  Afon Menai yn y gogledd orllewin yn Ardal y Cynllun a Migneint yn y de ddwyrain yn Ardal y Cynllun. Mae'r safleoedd hyn hefyd wedi'u dynodi'n rhyngwladol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs).  Yn ogystal â hyn, ceir tair SAC arall. Mae dwy ohonynt  ar Benrhyn y Creuddyn, ar y Gogarth ac yng Nghoedwig Penrhyn Creuddyn, ac mae'r drydedd, sef Coedwig Dyffryn Elwy, yn ffinio Conwy/Sir Ddinbych. Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o bwysigrwydd rhyngwladol, ac o ganlyniad i hynny maent wedi'u diogelu ar lefel uchel iawn drwy'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a thrwy bolisïau cenedlaethol.  Gweler Diagram 8.

4.6.2.11.

Mae paragraffau 5.3.8 a 5.3.11 ym Mholisi Cynllunio Cymru hefyd yn gwarchod bioamrywiaeth ar safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a lleol (er enghraifft, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig). Nid yw polisïau cenedlaethol yn diogelu Gwarchodfeydd Natur Lleol, ond fe'u cydnabyddir yn y Cynllun Datblygu Lleol, oherwydd eu pwysigrwydd lleol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol CDLl 5: Bioamrywiaeth a Chynllunio’.

4.6.2.12.

Mae ardaloedd trefol hefyd yn cyfrannu tuag at fioamrywiaeth. Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys mwy na 400 hectar o ofodau gwyrdd trefol, fel parciau, caeau chwaraeon ac ymylon ffyrdd. Mae'r safleoedd hyn yn darparu cynefinoedd a all hefyd fod yn goridorau bywyd gwyllt sy'n galluogi rhywogaethau i deithio rhwng y naill safle a'r llall. Maent hefyd yn bwysig o ran amwynder, hamdden a lles.

4.6.2.13.

Mae'r Awdurdod Cynllunio, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi dynodi rhwydwaith o safleoedd o bwysigrwydd lleol oherwydd bioamrywiaeth, sy’n cael eu hystyried yn ddarpar 'Safleoedd Bywyd Gwyllt'. Ffurfir rhwydwaith o gynefinoedd gan y safleoedd hyn, ynghyd â'r safleoedd a warchodir ar raddfa genedlaethol, sy'n sail ar gyfer yr adnodd bioamrywiaeth yn Ardal y Cynllun. Gan nad yw gwerthusiad llawn o'r holl ddarpar Safleoedd Bywyd Gwyllt wedi cael eu cynnal hyd yma, bydd eu gwerth o safbwynt bioamrywiaeth yn cael ei werthuso fesul safle wrth i geisiadau datblygu gael eu cyflwyno ar gyfer y lleoliadau hynny.

4.6.2.14.

Mae a wnelo geoamrywiaeth â nodweddion daearegol a geomorffaidd.  Mae enghreifftiau'n cynnwys Trwyn y Fuwch, lle ceir palmant carreg galch ac ogofâu Llanddulas. Mae rhai nodweddion wedi'u diogelu'n statudol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn ogystal â hyn, caiff Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol eu dynodi gan grwpiau rhanbarthol ar sail eu gwerth gwyddonol, addysgol, hanesyddol ac esthetig. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar yr ardaloedd hyn yn amodol ar bolisi DP/6.

4.6.2.15.

Gyda'i gilydd, mae'r safleoedd hyn yn cynrychioli fframwaith strategol er mwyn cadw bioamrywiaeth a geoamrywiaeth. Maent yn cynnwys y safleoedd sydd wedi'u diogelu'n statudol yn rhyngwladol (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig) ac yn genedlaethol (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a'r rhai sydd wedi'u diogelu'n anstatudol, sef Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Bywyd Gwyllt y Sir a Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol. 

4.6.2.16.

Mae coedwigoedd a choetiroedd yn creu a chysylltu cynefinoedd â'i gilydd, yn cyfrannu tuag at gymeriad y dirwedd, ac yn cael eu rheoli'n gynyddol fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni. Y DU yw un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop. Nid yw tir coediog ond yn gorchuddio 12 y cant o'r DU a 14 y cant o Gymru, o'i gymharu â chyfartaledd o 44 y cant yn rhannau eraill o Ewrop. Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn enwedig wedi'u diogelu drwy Bolisi Cynllunio Cymru fel cynefinoedd na ellir eu hadfer. Mae coed sy'n bodoli eisoes a phlannu a chynnal coed newydd mewn datblygiadau newydd yn cyfrannu tuag at harddwch a bioamrywiaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio ar ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ a fydd yn darparu gwybodaeth ynghylch plannu, cynnal, deddfwriaeth a gofynion datblygu. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar goed neu goetiroedd yn amodol ar i bolisi DP/6.

4.6.2.17.

Mae'r amgylchedd yn cynnwys yr amgylchedd naturiol ac arddull yr ardal adeiledig, aer, pridd ac ansawdd y dŵr. Yn anochel, mae'r drefn gynllunio’n effeithio ar bob un o'r agweddau hyn. Felly, rhaid cymryd pob cam ymarferol i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol a byd-eang, gan gofio bod y penderfyniadau a wneir heddiw yn aml yn arwain at effeithiau tymor hirach.

4.6.2.18.

Hefyd dylid cyfeirio at y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer ystyried unrhyw ddatblygiad a allai effeithio ar afon, llyn neu foryd. Dylid cynnwys yr asesiad hwn yn y DAS neu’r Datganiad Bioamrywiaeth.

4.6.2.19.

Rhywogaethau a Warchodir

Mae Adran 40 o'r Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn ei gwneud hi'n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol ac awdurdod cyhoeddus arall yng Nghymru a Lloegr i ystyried cadw bioamrywiaeth wrth gyflawni'u swyddogaethau (dyletswydd bioamrywiaeth).

4.6.2.20.

Yn ôl canllawiau LlCC ynghylch sut y dylai ALlau gydymffurfio â'r ddyletswydd bioamrywiaeth drwy'r broses rheoli datblygu, yr hyn sy'n allweddol yw archwilio ceisiadau datblygu er mwyn canfod effeithiau posibl ar fioamrywiaeth a cheisio gosod amodau a rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau y cedwir bioamrywiaeth.  Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn LDP5 – ‘Bioamrywiaeth mewn Cynllunio’ SPG.

4.6.2.21.

Mae Paragraff 5.5.11 ym Mholisi Cynllunio Cymru'n mynd i'r afael â'r materion cynllunio ac, mewn rhai achosion, gellid bod angen i ddatblygwyr gael trwyddedau gan yr awdurdodau perthnasol. Bydd y Cyngor yn cydweithio â datblygwyr i ddiogelu a gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau a warchodir ac yn ystyried ceisiadau cynllunio ar sail Polisi DP/6 – ‘Canllawiau Cenedlaethol’.

4.6.3.

Lletemau Glas a Diwallu Anghenion Datblygu’r Gymuned

POLICY NTE/2 - LLETEMAU GLAS A DIWALLU ANGHENION DATBLYGU'R GYMUNED View Map of this site ?

  1. I atal aneddiadau rhag ymgyfuno ac i gadw cymeriad agored yr ardal, ail-ddynodwyd y Lletemau Glas a ganlyn, fel y dangosir ar fap y cynigion:
  1. Lletem Las 1 rhwng Dwygyfylchi a Phenmaenmawr
  2. Lletem Las 2 rhwng Deganwy, Llandudno a Llanrhos
  3. Lletem Las 3 rhwng Llandudno a Craigside
  4. Lletem Las 4 rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo-yn-Rhos
  5. Lletem Las 5 rhwng Mochdre a Bae Colwyn
  6. Lletem Las 6 rhwng Cyffordd Llandudno a Mochdre
  7. Lletem Las 7 rhwng Bryn y Maen a Bae Colwyn
  8. Lletem Las 8 rhwng Llaneilian a Bae Colwyn
  9. Lletem Las 9  rhwng Coed Coch Road a Peulwys Lane
  10. Lletem Las 10 rhwng Hen Golwyn a Llysfaen
  11. Lletem Las 11 rhwng Rhyd y Foel, Llanddulas ac Abergele
  12. Lletem Las 12 rhwng Tywyn a Belgrano
  1. Er mwyn diwallu'r angen am dai yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol newidiwyd terfynau'r Lletemau Glas a ganlyn fel bo modd datblygu, yn unol â Thabl NTE/2a ac fel y dangosir ar fap y cynigion:
    1. Lletem las rhwng Dwygyfylchi a Phenmaenmawr
    2. Lletem Las 4 rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo-yn-Rhos
    3. Lletem Las 11 rhwng Rhyd y Foel, Llanddulas ac Abergele.

4.6.3.1.

Yn Ardal y Cynllun, mae lletemau glas yn diogelu'r arfordir a chefn gwlad sydd heb ei ddatblygu ac yn atal aneddiadau rhag ymdoddi i'w gilydd. Adolygwyd y tiroedd a ddynodwyd yn lletemau glas i fod yn sail i’r Cynllun Archwilio hwn. Mae'r adolygiad i'w gael ym BP/12 – ‘Asesiad Lletemau Glas’. Dangosir y lletemau/rhwystrau glas cyfredol ar fap y cynigion.

4.6.3.2.

Er mwyn sicrhau digon o waith datblygu i ddiwallu anghenion y gymuned a mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n effeithio ar Gonwy, mae angen i CBS Conwy asesu pa ardaloedd o dir sydd fwyaf addas i'w datblygu. Gan nad oes gan Gonwy lawer o dir llwyd, mae'n anochel y bydd angen i'r Cyngor ddyrannu datblygiadau newydd ar gyrion aneddiadau, gan olygu y bydd rhywfaint o dir Lletem Las yn cael ei ddefnyddio. Yn yr adolygiad o'r Lletemau Glas aseswyd pa ardaloedd fyddai'n achosi'r lleiaf o ddifrod i gefn gwlad agored, yr anheddiad presennol a'r dirwedd.

4.6.4.

Lletemau Glas Newydd

POLICY NTE/3 - LLETMAU GLAS NEWYDD View Map of this site ?

I atal yr aneddiadau rhag ymgyfuno a chadw cymeriad agored yr ardal, dynodir Lletemau Glas newydd rhwng, rhwng Craigside ac Ochr y Penrhyn (estyniad i GW3), ac yn Hen Golwyn Coed Coch Road a Peulwys Lane (GW9)).

4.6.4.1.

Nod Polisi NTE/3 yw atal aneddiadau rhag ymgyfuno a diogelu ardaloedd o dir agored sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Cynigir y Lletemau Glas ychwanegoli reoli datblygu ymhellach yn yr ardaloedd hyn.

4.6.5.

Bioamrywiaeth

POLICY NTE/4 - BIOAMRYWIAETH View Map of this site ?

  1. Dylai datblygiadau newydd anelu i gadw a, lle bo'n bosibl, gwella bioamrywiaeth trwy:

  1. Leoli sensitif, gan osgoi safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u diogelu neu’r rhai o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol.
  2. Cynllunio a dylunio sensitif sy’n osgoi neu’n lliniaru unrhyw effeithiau anffafriol ar fioamrywiaeth sydd wedi’u nodi.
  3. Llunio rhaglen ddatblygu sy'n lliniaru effeithiau anffafriol ar fioamrywiaeth a rhywogaethau.
  4. Creu, gwella a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a thirweddau naturiol.
  5. Integreiddio camau bioamrywiaeth i'r amgylchedd adeiledig.
  6. Cyfrannu tuag at gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP).
  7. Darparu ar gyfer cytundeb rheoli gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleoli sicrhau cadwraeth a dyfodol buddiannau bioamrywiaeth yn y tymor hir.

  1. Dylai pob cynnig gynnwys Datganiad Bioamrywiaeth sy’n cydymffurfio â’r canllawiau a nodwyd yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol CDLl5: - ‘Bioamrywiaeth a Chynllunio’.
  2. Bydd y Cyngor yn gwrthod cynigion fydd yn cael effaith sylweddol ar Safle Ewropeaidd, rhywogaethau a warchodir neu sydd â blaenoriaeth neu eu cynefin, oni bai fod yr effaith honno wedi'i lliniaru'n ddigonol, a bod camau adfer a gwella priodol yn cael eu cynnig a'u sicrhau trwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio.
  3. Mewn sefyllfaoedd eithriadol, lle bo budd economaidd neu gymdeithasol yn bwysicach na’r niwed i safle neu rywogaeth bwysig, y dull gweithredu fydd ceisio osgoi neu leihau’r niwed i ddechrau ac yna ceisio lliniaru’r effaith i sicrhau na fydd unrhyw golled net i fioamrywiaeth. Defnyddir amodau ac ymrwymiadau cynllunio i sicrhau hyn.

4.6.5.1.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, a bydd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau ymagwedd ragweithiol tuag at ddiogelu, gwella a rheoli bioamrywiaeth gan gefnogi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP). Bydd yr angen i ddatblygu'n cael ei ystyried yn ofalus ochr yn ochr â'i effaith ar fioamrywiaeth, ond gall cyfleoedd godi drwy ddatblygiadau sydd wedi'u lleoli'n sensitif a'u dylunio'n ofalus. Gall newid ddod â chyfleoedd newydd yn ei sgil lle gellir defnyddio amodau a chytundebau Adran 106 i greu cynefinoedd newydd a rheoli cynefinoedd sy'n bodoli eisoes.

4.6.5.2.

Mae polisi NTE/4 hefyd yn berthnasol i effaith bosibl y dyraniadau datblygu a wneir yn y cynllun archwilio diwygiedig y CDLl hwn a'r datblygiad arfaethedig ar safleoedd Natura 2000.  BP/11 – ‘Cyfarwyddyd ac Asesiad Priodol Cynefinoedd’ yn nodi na fydd pob dyraniad yn y cynllun yn debygol o gael effaith sylweddol ar safleoedd Natura 2000, ond bydd angen cytundebau rheoli ar gyfer rhai ohonynt yn unol â chyfarwyddyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Awdurdod Cynllunio. Bydd datblygu'n cael ei ganiatáu os yw'n gwella ymddangosiad, bioamrywiaeth a thirwedd y safle. Dim ond ar ôl dangos na fydd hygrededd Safleoedd Natura 2000 yn cael ei niweidio, yn unol â DP/6 – ‘Canllawiau Cenedlaethol’, y caniateir cynigion datblygu. Mae integreiddio bioamrywiaeth â datblygiadau newydd yn rhan bwysig o ddatblygu cynaliadwy.

4.6.5.3.

‘Rhywogaethau a warchodir’ yw'r rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid hynny a warchodir dan y gyfraith, er enghraifft, o dan Gyfarwyddeb Adar a Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd (rhaid rhoi'r brif flaenoriaeth i'r rhywogaethau hyn a warchodir ar raddfa Ewropeaidd), neu yn Atodlenni 1, 5 ac 8  Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y cafodd ei diwygio) a Deddf Gwarchod Moch Daear 1992. Rhywogaethau neu gynefinoedd â blaenoriaeth yw'r rhai hynny a ddiffinnir yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU neu Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy.

4.6.5.4.

Mae polisi NTE/4 yn cyd-fynd â deddfwriaeth ar warchod rhywogaethau a thargedau'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol, ac mae’n sicrhau bod unrhyw niwed i rywogaeth neu gynefin yn cael ei ystyried yn erbyn manteision y cais datblygu. Gwneir dyfarniadau'n seiliedig ar yr effaith a ddisgwylir ar y rhywogaethau, pwysigrwydd poblogaeth y rhywogaeth yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol, ei hamlder, y raddfa ddirywio neu faint y bygythiad.

4.6.5.5.

Fel y nodir yn yr adran Egwyddorion Datblygu, ac yn arbennig ym mholisi DP/3 – ‘Hyrwyddo Dylunio o Ansawdd a lleihau Troseddu’, wrth ystyried ceisiadau datblygu, mae'n bwysig rhoi blaenoriaeth i ddechrau i gynnal ac i wella cynefinoedd a rhywogaethau sy'n bodoli eisoes. Dim ond os daw hi i’r pen y dylid ystyried trawsleoli rhywogaethau neu gynefinoedd. Dylai camau lliniaru neu ddigolledu ei gwneud hi'n haws i boblogaeth y rhywogaethau oroesi, sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ag sy'n bosibl a darparu cynefinoedd digonol i o leiaf gynnal lefel bresennol y boblogaeth.  Fodd bynnag, os yw'r angen am ddatblygiad yn golygu mai trawsleoli yw'r canlyniad gorau ar gyfer  bioamrywiaeth, mae'n bosibl y bydd hyn yn cael ei ffafrio yn hytrach na dewisiadau lliniaru eraill.

4.6.5.6.

Efallai bydd y dulliau lliniaru’n cynnwys camau penodol i leihau aflonyddu, niwed neu effeithiau posibl, darparu cynefinoedd digonol eraill i gynnal a, lle bo modd, cynyddu niferoedd y rhywogaeth y mae'r gwaith yn effeithio arni, neu alluogi aelodau unigol o'r rhywogaeth i oroesi. Efallai bydd angen camau fel hyn trwy ymrwymo i gytundebau Adran 106 neu Amodau Cynllunio.

4.6.5.7.

Mae polisi NTE/4 hefyd yn berthnasol i effeithiau'r datblygiad ar gyfle pobl i fwynhau a phrofi natur ar safle; gall datblygu ar, neu'n gyfagos â safle pwysig amharu ar fwynhad pobl o fioamrywiaeth a thirwedd y safle, er enghraifft yn sgil nodweddion gweledol ymwthiol, cyfyngiadau ar fynediad neu gynnydd sylweddol mewn lefelau sŵn.

4.6.5.8.

Dylid manteisio ar gyfleoedd i elwa ar ffurf a dyluniad datblygiadau. Lle bo'n briodol, gall camau gynnwys creu, gwella neu reoli cynefinoedd bywyd gwyllt a'r dirwedd naturiol a allai fod yn sail ar gyfer cytundeb rheoli gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r Awdurdod Lleol. Dylid ystyried yr amgylchedd adeiledig yn gyfle i arloesi er mwyn integreiddio bioamrywiaeth yn llawn mewn datblygiadau newydd. Dylid rhoi blaenoriaeth i safleoedd eraill sy’n cynnig creu cynefinoedd neu gysylltu cynefinoedd â'i gilydd ar safleoedd, a fydd yn cynorthwyo i gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP).

4.6.6.

Ardaloedd Tirwedd Cymeriad

POLICY NTE/5 - ARDALOEDD TIRWEDD CYMERIAD View Map of this site ?

Caniateir datblygiad:

  1. Os yw'n parchu ac yn diogelu neu’n gwella cymeriad lleol a natur unigryw'r Ardal Cymeriad Tirwedd (fel y dangosir ar Fap y Cynigion) y mae o ynddi, fel y dangosir ar Fap y Cynigion;
  2. Os yw dyluniad yr holl adeiladau a'r adeileddau, a'r deunyddiau a gynigir, yn cydweddu'n agos â ffurf adeiledig yr ardal leol;
  3. Mewn achosion priodol, os yw cynllun tirweddu'n cael ei gyflwyno i gyd-fynd â'r datblygiad arfaethedig, sy'n ystyried effaith ac effaith weledol y datblygiad;
  4. Ystyrir pob cynnig yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y Cynllun sydd wedi’u llunio i ddiogelu’r amgylchedd a chymeriad y dirwedd.

4.6.6.1.

Mae cymeriad gweledol y tirweddau, morluniau a’r trefluniau yn Ardal y Cynllun, ac arwahanrwydd aneddiadau, oddi mewn ac oddi allan i ardaloedd dynodedig yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion ac ymwelwyr. Rhoddir blaenoriaeth uchel i ddiogelu, cadw a gwella'r cymeriad hwn yn y dirwedd, a dylai datblygiadau newydd fod wedi'u dylunio'n dda a helpu i gynnal ac/neu greu tirweddau a threfluniau a chanddynt ymdeimlad cryf o naws am le a hunaniaeth leol.

4.6.6.2.

Pwrpas y dynodiad yw sicrhau nad yw cymeriad lleol yr ardaloedd hyn yn cael ei newid gan ffurfiau amhriodol o ddatblygu, ac y cedwir y nodweddion sy'n cyfrannu at yr arbenigrwydd lleol. Felly, gwrthwynebir ffurfiau gwael o ddatblygu nad ydynt yn perthyn i’r ardal, o ran ffurf neu ddefnydd. Dylai'r dyluniad a'r defnyddiau a ddefnyddir yn y gwaith adeiladu a ganiateir, fod yn gydnaws a'r arddull leol, a dylai lleoliad a ffurf y datblygiad integreiddio i'r dirwedd mewn modd sy'n gyson â'r datblygiadau sy'n bodoli eisoes.

4.6.6.3.

Bydd angen Datganiad Cymeriad Tirwedd ar gyfer pob datblygiad y tu allan i derfynau’r anheddiad fel sydd wedi’u nodi ar fapiau’r cynigion a phob datblygiad dros 15 annedd neu 0.5 hectar o fewn terfynau’r anheddiad. Gellir ymgorffori hyn yn y Datganiad Dylunio a Mynediad neu mewn dogfen ar wahân. Bydd SPG Amgylchedd Naturiol arall yn cael ei lunio i ddarparu rhagor o ganllawiau ar gwblhau Datganiad Cymeriad Tirwedd.

4.6.6.4.

Wrth integreiddio'r datblygiad i'r dirwedd, dylid ystyried elfennau'r dirwedd hefyd, fel waliau, coed neu gloddiau sy'n bwysig i gymeriad y dirwedd ac y dylid eu cadw. Ni chaniateir datblygu na ellir ei integreiddio i'r dirwedd yn sensitif ac yn hawdd, ac a fyddai'n amharu ar gymeriad y dirwedd. Mewn rhai achosion, gall y datblygiad arfaethedig fod ar ei ennill o'i dirweddu mewn dull sy'n gydnaws a'r ardal, er mwyn lleihau ei effaith.

4.6.6.5.

Mae Asesiad o Gymeriad y Dirwedd neu ‘Fap Tir’ yn cael ei lunio sy'n dangos a disgrifio Ardaloedd Tirwedd Cymeriad nodedig a'r mathau ohonynt yn holl Ardal y Cynllun ac sy'n cynnwys manylion am fioamrywiaeth a nodweddion tirwedd hanesyddol. Dylid defnyddio'r wybodaeth hon, ynghyd ag astudiaethau eraill sy'n cyfrannu tuag at y dystiolaeth ynglŷn â'r dirwedd a chymeriad y trefi a'r pentrefi yn Ardal y Cynllun, er mwyn sicrhau bod ceisiadau datblygu'n adlewyrchu natur unigryw, rhinweddau a natur sensitif yr ardal. Fodd bynnag, ni fydd astudiaeth y Map Tir wedi'i chwblhau tan i Ddrafft Adneuo'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei gwblhau.  Bydd Ardaloedd Tirwedd Cymeriad yn cael eu hadolygu a'u diwygio i adlewyrchu canlyniad yr astudiaeth, a'u defnyddio'n sylfaen o dystiolaeth wrth asesu ceisiadau cynllunio.

4.6.7.

Yr Ardal Arfordirol

POLICY NTE/6 - YR ARDAL ARFORDIROL View Map of this site ?

Diffiniwyd yr Ardal Arfordirol ar Fap y Cynigion.  Caniateir datblygiad y tu allan i derfynau anheddiad yr Ardal Arfordirol os:

  1. Oes angen lleoliad arfordirol yn benodol ; ac os nad yw’n
  2. Effeithio’n andwyol ar gymeriad agored yr ardal
  3. Effeithio’n andwyol ar werth cadwraeth natur yr ardal a bod unrhyw effaith wedi’i liniaru yn unol â CDLl5 – Canllawiau Cynllunio Atodol “Bioamrywiaeth a Chynllunio
  4. Lleihau gwerth twristiaeth neu gyfleusterau
  5. Aflonyddu ar brosesau arfordirol naturiol
  6. Amharu ar unrhyw adeiledd amddiffyn yr arfordir
  7. Yn unol ag Egwyddorion Datblygu’r Cynllun
4.6.7.1.

Mae rhesymau amgylcheddol ac economaidd dros reoli datblygiadau ar hyd arfordiroedd. Mae angen camau arbennig i ddiogelu arfordiroedd oherwydd eu bod yn sensitif i ddatblygiadau oherwydd eu natur. Maent hefyd yn darparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau planhigion, mamaliaid ac adar penodol.  Ni ddylai datblygiad ychwaith amharu ar brosesau arfordirol naturiol fel erydiad a gwaddodiad. Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 14 yn nodi “Dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried a diffinio’r ardal arfordirol fwyaf addas yn ei ardal”. Mae’r arfordir yn gallu bod yn atyniad pwysig i ymwelwyr ac ar gyfer hamdden o safbwynt economaidd. Mae modd darparu cyfleoedd cyflogaeth o weithgareddau arfordirol eraill fel pysgota a marinas. Mae ardaloedd arfordirol hefyd yn dueddol o ddioddef llifogydd ac felly, efallai bydd angen cyflawni gwaith amddiffyn i ddiogelu ardaloedd rhag peryglon fel hyn.

4.6.7.2.

Diogelir rhan helaeth o arfordir Conwy rhag perygl llifogydd, ond mae perygl bob amser i’r môr eu bylchu. Bylchwyd ardaloedd helaeth yn nwyrain y Sir yn y gorffennol a thanseiliwyd canol glan y môr Bae Colwyn ac fe’u difrodwyd gan stormydd, er bydd gwaith amddiffyn ychwanegol yn dechrau yn 2011. I’r gorllewin dioddefodd glan y môr Llanfairfechan gyda llifogydd yn dod dros yr amddiffynfeydd. Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 14 yn nodi “Dylai Awdurdodau Cynllunio ystyried materion arfordirol ar ddwy lefel; y safle ei hun a’r cyffiniau ac o ran yr ardal ehangach”.   

4.6.7.3.

Diogelir yr arfordir sydd heb ei ddatblygu oherwydd o’r braidd y bydd yr ardaloedd hyn yn addas ar gyfer datblygiad. Ond mae cyfle efallai i ad-drefnu ac adnewyddu ardaloedd trefol presennol yr arfordir a ddatblygwyd. Os oes angen lleoliad arfordirol ar ddatblygiad newydd, yr arfordir datblygedig fyddai’r dewis gorau fel arfer, ar yr amod bod  peryglon llifogydd, erydiad neu ansefydlogrwydd y tir, wedi’u hystyried yn briodol. Bydd y CDLl hefyd yn cynnig cyfle i ddiogelu tir llwybrau ar gyfer Cynllunio ar gyfer Argyfwng.

4.6.7.4.

Datblygwyd llawer ar adnodd tir arfordirol Ardal y Cynllun eisoes, gyda phrif ganolfannau poblogaeth ar yr arfordir. Ystyrir bod gweddill yr arfordir sydd heb ei ddatblygu ymysg asedau amgylcheddol mwyaf Conwy.

4.6.7.5.

Mae arfordir Conwy yn ffactor bwysig i ddenu ymwelwyr i’r ardal. Oherwydd pwysigrwydd twristiaeth a hamdden i’r economi leol, mae’n bwysig cynnal a gwella apêl yr ardal trwy wella cyfleusterau.

4.6.8.

Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Adnewyddadwy

4.6.8.1.

Mae'r Strategaeth Ofodol, wedi'i llunio i leiafu'r angen i deithio ar leoliadau datblygiadau newydd, yn enwedig mewn car, gan leihau allyriadau carbon. Mae dyluniad datblygiadau newydd hefyd yn bwysig, gan fod bron i hanner  allyriadau carbon deuocsid y DU yn 2004 yn deillio o'r defnydd o ynni mewn adeiladau, ac roedd mwy na chwarter yr allyriadau hyn yn deillio o ynni a ddefnyddiwyd i gynhesu, goleuo a chyflenwi trydan i gartrefi.

4.6.8.2.

Daw'r newid yn yr hinsawdd â goblygiadau mawr i amgylchedd y  DU a gallai arwain at dywydd mwy eithafol, gan gynnwys hafau poethach a sychach, llifogydd, a chodiad yn lefel y môr gan arwain at adlinio'r arfordir. Mae canlyniadau hyn yn ddifrifol yn Ardal y Cynllun, lle ceir ardaloedd mawr ac iddynt risg o lifogydd.

4.6.8.3.

Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu tuag at egwyddorion cynaliadwy ac yn lleihau neu'n lleihau allyriadau carbon, yn gadarn yn erbyn goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ac yn diogelu trigolion rhag effeithiau tlodi tanwydd. Mae'n debygol mai anheddau newydd fydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau newydd yn Ardal y Cynllun ac mae'r Cod Cartrefi Cynaliadwy'n safon genedlaethol a ddefnyddir i asesu cynaliadwyedd anheddau newydd. Dylid bodloni graddfeydd neilltuol y Cod Cartrefi Cynaliadwy er mwyn sicrhau y darperir tai sydd eu hangen mewn modd cynaliadwy.  Mae'r Cod yn ystyried anheddau mewn modd cyfannol ac mae angen bodloni safonau penodol o ran y defnydd o ddŵr, effaith y deunyddiau a ddefnyddir ar yr amgylchedd, darparu mannau awyr agored, a diogelu nodweddion ecolegol presennol er mwyn cyrraedd 'lefel' neilltuol.

4.6.8.4.

Mae'r polisïau yn yr adran hon yn ceisio sicrhau y defnyddir adnoddau naturiol yn fwy effeithlon, gostwng y galw am ynni cymaint a bo modd a chynyddu'r defnydd o adnoddau adnewyddadwy. Dylai hyn ostwng costau cynnal adeiladau a chreu mannau deniadol ac iach i bobl fyw a gweithio ynddynt drwy ddefnyddio systemau awyru a golau naturiol. Wrth ystyried ailddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes, dylai datblygwyr geisio adnewyddu adeiladau presennol lle bo'n briodol yn hytrach na'u dymchwel ac adeiladu o'r newydd. Dylid defnyddio deunyddiau adeiladu wedi'u hadfer hefyd lle bo modd.  Bydd hyn yn gostwng yr ynni a ddefnyddir i adeiladu a hefyd yn cyfrannu tuag at ddiogelu'r dreftadaeth adeiledig.

POLICY NTE/7 - EFFEITHLONRWYDD YNNI A THECHNOLEGAU ADNEWYDDADWY MEWN DATBLYGIADAU NEWYDD View Map of this site ?

Mae gwneud defnydd effeithlon o adnoddau naturiol a'u cadw yn hanfodol i sicrhau ansawdd bywyd cyffredinol yn Ardal y Cynllun ac i gefnogi amcanion cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd ehangach.  Bydd y Cyngor yn:

  1. Hyrwyddo lefelau uwch o effeithlonrwydd ynni drwy ddefnyddio technegau adeiladu a dylunio cynaliadwy gan sicrhau bod pob annedd breswyl newydd (fel y nodwyd yn y Polisi Strategol yn HOU/1 – ‘Diwallu'r Angen am Dai’) yn cael ei hadeiladu i gyrraedd o leiaf Lefel 3 y Cod (6 chredyd ychwanegol) i ddechrau gan symud ymlaen i Lefel 6 y Cod  (o dan gynllun y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy) a bod pob datblygiad amhreswyl newydd yn cyflawni gradd cynaliadwyedd o 'da iawn' (o dan Gynllun BREEAM) ac yn unol â Thabl 10 NTE6g.  Disgwylir bydd adroddiadau cyn asesu yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynigion ceisiadau cynllunio.
  2. Hyrwyddo ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn ceisiadau cynllunio sy'n cefnogi cynhyrchu ynni o ffynonellau biomas, morol, gwastraff, solar a gwynt, gan gynnwys microgynhyrchu os yw hynny'n dderbyniol o ran effaith ar ansawdd bywyd, amwynder, dichonolrwydd a bioamrywiaeth yn unol â Pholisïau DP/6 a NTE/8.
  3. Sicrhau bod pob cynllun tai sy'n cynnwys mwy na 10 o anheddau a chynlluniau datblygu cyflogaeth dros 1000m2 yn cynnwys camau i gynhyrchu 10-25% o'r ynni gofynnol o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle, yn unol â Thabl 10 NTE/6g.
  4. Sicrhau bod egwyddorion dylunio cynaliadwy wedi'u hymgorffori ym mhob datblygiad newydd, ee: cynllun, dwysedd a defnyddio deunyddiau priodol, casglu dŵr glaw, defnyddio ynni'n effeithlon, draenio cynaliadwy a llecynnau/storfeydd ailgylchu gwastraff yn unol â'r Polisïau Egwyddorion Dylunio ac NTE/9 i NTE/11.
  5. Darparu Canllawiau Cynllunio Atodol ar ynni adnewyddadwy mewn perthynas â chanllawiau cenedlaethol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn unol â Pholisi DP/7 – ‘Canllawiau Cynllunio Lleol’.
  6. Cefnogi ceisiadau sy'n lleihau'r defnydd o ddeunyddiau newydd wrth adeiladu, sy'n defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu ac sy'n sicrhau cymaint ag sy'n bosibl o gyfleoedd i ailddefnyddio deunyddiau'n unol â'r Egwyddorion Dylunio a Pholisi Strategol MWS/1 – ‘Mwynau a Gwastraff’.
4.6.8.5.

Mae Datblygu Cynaliadwy'n ganolog i Gynllun Datblygu Lleol Conwy, ac mae'r Cyngor yn ceisio creu cymunedau sy'n defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Defnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon, yn enwedig llosgi tanwydd ffosil yw un o'r prif ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd. Mae'r system gynllunio'n effeithio ar y defnydd o adnoddau naturiol, gan gynnwys ynni a mwynau, a'r modd yr ydym yn rheoli gwastraff. Drwy eu defnyddio'n gyfrifol ac effeithlon, gallwn leiafu'r effaith ar yr amgylchedd gan sicrhau cynaliadwyedd i genedlaethau'r dyfodol.

4.6.8.6.

Mae Polisi Cynllunio Cymru'n ceisiocael awdurdodau cynllunio lleolintegreiddio amcanion effeithlonrwydd ynni a chadwraeth i'rgwaith cynllunio a dylunio datblygiadau newydd yn eu hardaloedd. Ceir angen cynyddol i leihau'r carbon sy'n cael ei ryddhau. Bydd deunyddiau lleol sy'n ymgorffori lefel isel o ynni'n cael eu ffafrio. Bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy'n cael eu hannog lle bo'n briodol, ond y ffordd orau o gyrraedd y targedau uchelgeisiol hyn yn y Fwrdeistref  hon yw drwy annog y defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle. O ystyried y raddfa debygol o ddatblygiadau newydd yng Nghonwy oddi mewn i ardaloedd trefol y llain arfordirol, ceir potensial am gyfraniad sylweddol o'r ffynhonnell hon. Gallai fod ar amryw o ffurfiau gan gynnwys generaduron gwynt , paneli solar neu gelloedd ffotofoltäig lleol wedi'u cynnwys yn yr adeiladau. Gall datblygiadau sy'n cael eu dylunio a'u hadeiladu mewn modd cynaliadwy ddarparu ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol, defnyddio llai o ynni, gostwng cymaint a bo modd ar y gwres a gollir, defnyddio llai o ddŵr, gwneud y defnydd gorau o olau naturiol, hwyluso ailgylchu gwell, darparu systemau draenio cynaliadwy a defnyddio deunyddiau adeiladu wedi'u hailgylchu.

4.6.8.7.

Deddf Cynllunio ac Ynni 2008

Mae Deddf 2008 yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr i osod gofynion ar gyfer y defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni yn eu cynlluniau datblygu. Mae'n rhoi grym i awdurdodau lleol gynnwys polisïau yn eu cynllun datblygu sy'n gorfodi gofynion rhesymol canlynol:

  • Bod cyfran o'r ynni a ddefnyddir wrth ddatblygu yn eu hardal yn ynni o ffynonellau  adnewyddadwy yn ardal leol y datblygiad
  • Bod cyfran o'r ynni a ddefnyddir wrth ddatblygu yn eu hardal yn ynni carbon isel o ffynonellau yn ardal leol y datblygiad; a
  • Bod datblygu yn eu hardal yn cydymffurfio â safonau effeithlonni ynni sy'n uwch na gofynion ynni rheoliadau adeiladu

4.6.8.8.

Ym mis Gorffennaf 2008 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bapur ymgynghori 'Cynllunio ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd’ a ofynnai am sylwadau ynghylch newidiadau posibl i'r polisi cynllunio cenedlaethol, gan gynnwys y meysydd canlynol:

  • Defnyddio safonau adeiladu cynaliadwy i gynyddu cynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru
  • Gofyniad y dylai datblygiadau mawr yn y dyfodol yng Nghymru gynnwys offer ynni adnewyddadwy neu garbon isel ar y safle ac/neu’n gyfagos â’r safle sy'n cyfrannu o leiaf 10% o ostyngiad ychwanegol mewn allyriadau CO2, ac
  • Galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol osod safonau uwch yn y meysydd uchod ar gyfer ardaloedd strategol yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.
4.6.8.9.

Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a BREEAM

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu'r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy i gefnogi ei ddyheadau di-garbon. Mae'r cod yn disodli'r safon cartrefi eco, ac yn berthnasol i'r holl dai newydd a gaiff eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLCau). Disgwylir bydd asesiadau o ddatblygiadau bwriedig yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynigion ceisiadau cynllunio.

4.6.8.10.

Mae'r Cod yn mesur cynaliadwyedd cartref newydd ochr yn ochr â chategorïau dylunio cynaliadwy, gan ddynodi gradd i'r ‘cartref cyfan’ fel cyfanwaith. Mae'r Cod yn defnyddio system raddio 1 i 6 seren er mwyn cyfleu perfformiad cyffredinol cartref newydd o safbwynt cynaliadwyedd. Mae'r Cod yn gosod safonau sylfaenol ar gyfer yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar bob lefel.

4.6.8.11.

Mae'r Cod hefyd yn rhoi gwell gwybodaeth i rai sy'n prynu cartrefi newydd ynghylch effaith eu cartref newydd ar yr amgylchedd a'i gostau cynnal posibl, ac yn ddull i adeiladwyr ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt ac adeiladwyr eraill o ran cynaliadwyedd.

4.6.8.12.

O 1 Mai 2008 bydd yn ofynnol i'r holl dai newydd sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad gyrraedd o leiaf lefel 3 y Cod, p'un ai a ydynt:

  • wedi'u prynu'n uniongyrchol;
  • wedi derbyn cymorth ariannol;
  • yn fentrau ar y cyd; neu'n;
  • brosiectau ar dir a werthwyd, a roddwyd ar les neu a waredwyd mewn unrhyw ffordd arall i'w ddatblygu.
4.6.8.13.

Mae hefyd yn berthnasol ar gyfer yr holl dai newydd ar dir wedi'i wella neu wedi'i adfer gyda nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru neu CNLC sydd yn dal dan reolaeth adfachu ariannol.

4.6.8.14.

Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd wedi cael eu gwahodd i ganfod cynlluniau oddi mewn i'w rhaglenni gwaith.  Mae hyn yn rhan o beilot sy'n anelu i ddatblygu prosiectau sy'n bodloni gofynion lefelau uwch yn y Cod, sef lefelau 4 a 5. Bydd datblygiadau tai sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru'n dilyn yr ymagwedd hon.

4.6.8.15.

Mae Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) yn dal yn ofyniad ar gyfer datblygiadau amhreswyl sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.6.8.16.

Mae'r targed cychwynnol, a nodir yn nhabl NTE/6g, o 10% erbyn 2012 yn gost effeithiol ac yn un y gellir ei gyflawni. Er mwyn datrys yr heriau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd a'r risg ddifrifol o lifogydd yn y Sir, mae'r Cyngor yn ceisio cyrraedd ei darged uchelgeisiol o 20% erbyn 2022 o ddatblygiadau newydd ac felly'n cyfrannu'n gadarnhaol tuag at ddyfodol Conwy ac yn helpu i sbarduno economi ffyniannus a strwythur mwy cytbwys i'r boblogaeth. Mae'r targed cychwynnol o Lefel Cod 3, gan symud ymlaen i o leiaf Lefel Cod 6 ar gyfer datblygu preswyl, a safon ‘Da Iawn’ BREEAM ar gyfer datblygiadau amhreswyl hefyd yn gost effeithiol ac yn un y gellir ei gyflawni. Bydd yn ofynnol felly i ddatblygiadau gynnwys ynni adnewyddadwy i gyflenwi cyfran o'r ynni sydd ei angen arnynt.

4.6.8.17.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ymrwymedig i gyflawni rhaglen ynni i ostwng allyriadau carbon.  Bydd ei tharged o 1,120 MW o drydan wedi'i gynhyrchu gan y gwynt yn cael ei gynhyrchu'n bennaf ar ffermydd gwynt mawr, wedi'u lleoli mewn Saith Ardal Chwilio Strategol (SSAs).  Gallai un o'r ardaloedd hyn, yng Nghoedwig Clocaenog yn pontio terfyn Ardal y Cynllun a Sir Ddinbych gynhyrchu o bosibl oddeutu 280MW (yn ôl Datganiad Polisi Ynni LlCC 2010). Bydd union derfyn yr SSA wedi'i ddangos ar Fap y Cynigion.   Mae'r Polisi mewn perthynas ag SSA Clocaenog wedi cael ei gydlynu â Chyngor Sir Ddinbych drwy Ganllawiau Cynllunio Atodol ar ffurf drafft a fydd yn cael ei ddatblygu a’i adolygu bob blwyddyn ar ôl iddo gael ei fabwysiadu. Mae TAN 8 a PPW yn cael eu hadolygu yn bresennol allai olygu newidiadau i derfyn y SSA a thargedau cysylltiol.  Ond hyd nes newidir terfyn y SSA bydd y Cyngor yn ystyried bod y byffer 5km y tu allan i’r SSA, canllawiau TAN ac yn asesu datblygiadau yn erbyn NTE/8.

4.6.8.18.

Mae polisïau cenedlaethol hefyd yn annog cynlluniau fferm wynt cymunedol llai, sydd fel arfer yn llai na 5MW, yn ogystal â mathau eraill o ynni adnewyddadwy, fel biomas, geothermol a gwres a phŵer cyfunedig os ystyrir bod eu heffeithiau'n dderbyniol. Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau ymgorffori ynni adnewyddadwy gyflenwi cyfran o'r ynni sydd angen arnynt. Bydd prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n cydymdeimlo â chymeriad y dirwedd a'r amwynder lleol hefyd yn cael eu cefnogi.

4.6.8.19.

Asesiad Ynni Adnewyddadwy

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn bod awdurdodau cynllunio lleol yn cynnal Asesiadau Ynni Adnewyddadwy (REA) lleol i sefydlu lefelau defnyddio ynni, archwilio opsiynau ar gyfer ynni adnewyddadwy ac yn nodi safleoedd strategol a’u potensial o fewn Ardal Cynllun y CDLl. Cyhoeddwyd dogfennau canllaw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth i’r CDLl Diwygiedig gael ei orffen ar gyfer ymgynghori.  Ond, mae gan y Cyngor ymrwymiad i gynhyrchu REA ac ymgorffori’r canlyniadau yn y CDLl yn ystod cyfleoedd adolygu yn y dyfodol.  Hefyd, mae’r Cyngor wedi ymuno â Chyfamod y Meiri Ewrop a’r prosiect Llwybrau at Ddim Carbon (PTOC). Bydd casglu gwybodaeth ddechreuol yn goleuo’r prosiect PTOC a’r REA.  Bydd y tîm sy’n cynhyrchu’r REA yn gweithio ar y cyd gyda’r tîm sy’n cynhyrchu’r PTOC, a bydd y goblygiadau defnyddio tir sy’n codi yn cael eu hymgorffori yn y CDLl trwy adolygiad buan.

4.6.8.20.

Bydd yr ymagwedd a gymerwyd ym Mholisi NTE/7 yn cael ei adolygu yn sgil canllawiau newydd gan y Llywodraeth yn unol â Pholisi DP/6.

4.6.9.

Datblygiadau Tyrbinau Gwynt At y Tir

POLICY NTE/8 - DATBLYGIADAU TYRBINAU GWYNT AT Y TIR View Map of this site ?

  1. Bydd datblygiad tyrbinau gwynt mawr (yn uwch na 5MW) yn cael eu crynhoi yn SSA Clocaenog ar yr amod :

  1. yr ystyrir ei fod yn dderbyniol o ran polisïau eraill y Cynllun Datblygu Lleol
  2. bod holl fanylion y datblygiadau atodol hefyd yn cael eu cyflwyno gyda’r cais cynllunio fel rhan hanfodol y cynllun
  3. yr ystyrir yr effaith gynyddol ar gymunedau cyfagos a’r tirlun ehangach.  Os credir y bydd datblygu fferm wynt yn cael effaith gynyddol annerbyniol, fe’i gwrthodir
  4. na fydd y datblygiad yn arwain at lefelau sŵn sy’n andwyol i amwynder preswyl y cyffiniau
  5. y cytunir ar elfen o fudd i’r gymuned wrth gyflwyno’r cais neu cyn hynny
  6. bod cynefinoedd sy’n cael eu creu neu waith adfer yn cydymffurfio â Datganiad Prif Egwyddorion Cynllunio Amgylcheddol Clocaenog (SEMP) a Chanllawiau Cynllunio Atodol CDLL5: Bioamrywiaeth a Chynllunio
  7. y cyflwynir asesiad effaith amgylcheddol fel rhan o’r cais

  1. Caniateir datblygiadau tyrbinau gwynt mawr y tu allan i’r SSA dim ond

  1. os gellir dangos fod angen hollbwysig neu fater gallu cynhyrchu nad oes modd ei ddiwallu yn yr Ardal Chwilio Strategol
  2. os ydynt mewn ardal lle profwyd bod cyflymder gwynt addas yno
  3. os yw’n ateb maen prawf (1.) a – g uchod

  1. Cefnogir datblygiadau tyrbinau gwynt graddfa fechan hyd at 5MW os

  1. ydynt ar raddfa gymharol o ran cynhyrchu ynni i wasanaethau’r anheddau y mae’n darparu ar eu cyfer
  2. nad yw’r tyrbinau’n uwch na15 metr
  3. Nid yw’n atal yr Ardal Chwilio Strategol rhan cyflawni ei tharged cynhyrchu ynni a ragwelwyd
  4. os yw’n ateb maen prawf (1.) a – g uchod

4.6.9.1.

Cynlluniwyd y polisi hwn i hyrwyddo datblygiadau tyrbinau gwynt yn y mannau cywir ac ar raddfa briodol wrth gyflawni’r targedau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni ar y tir. Dylid crynhoi datblygiadau yn Ardal Chwilio Strategol Clocaenog SSA fel y nodwyd yn TAN8 (dan ailasesu 2010). Mae’r Cyngor hefyd yn  dymuno hyrwyddo defnyddio’r Datganiad Prif Egwyddorion Cynllunio Amgylcheddol Clocaenog (SEMP), a luniwyd gan y RSPB ar y cyd gydag awdurdodau cynllunio lleol  Sir Ddinbych a Chonwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae hyn yn sefydlu ymagwedd draws ffiniol tuag at reoli tir, er mwyn cynnal, gwella neu greu cynefinoedd yr effeithir arnynt gan ddatblygiadau tyrbinau gwynt ar raddfa fawr.

4.6.9.2.

Mae budd i’r gymuned yn gyfraniad ewyllys da, naill ai’n arian neu’n wasanaethau, y mae datblygwr / gweithredwr yn ei roi’n wirfoddol er budd cymunedau sy’n cael eu heffeithio arnynt gan ddatblygiadau tyrbinau gwynt. Nid oes hawl i osod datblygiad fferm wynt mewn man penodol nac i elwa ar ddatblygwr sy’n gwneud hynny.

4.6.9.3.

Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol na gofynion cynllunio ar ddatblygwr i ddarparu budd i’r gymuned, ond trwy wneud hynny, ystyrir bod y datblygwyr:

  1. Yn gymdogion da
  2. Yn cynnig iawndal
  3. Yn rhannu’r elw gyda chymunedau lleol
4.6.9.4.

Ystyrir y budd posibl a ganlyn:

  1. Cronfa Gymunedol: un cyfraniad neu gyfraniadau rheolaidd i gronfa gymunedol y cytunir arni yn ystod y cam cyflwyno cais neu cyn hynny
  2. Budd gwasanaethau: isadeiledd, amgylchedd, addysg neu wella cyfleusterau y cytunwyd arnynt gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r Gymuned yn ystod y cam cyflwyno cais neu cyn hynny
  3. Perchnogaeth Leol: cynnig cyfranddaliadau yn y prosiect neu yn y cwmni gweithredu i drigolion lleol gan ddefnyddio naill ai eu buddsoddiad nhw eu hunain, rhannu’r elw neu gynlluniau rhan berchnogaeth a luniwyd i gysylltu’r budd i’r gymuned a pherfformiad y fferm wynt
  4. Contractio a rheoli’n lleol:  Defnyddio gweithwyr lleol wrth adeiladu a gweithredu’r fferm wynt

 Dylai datblygwyr ddelio â Buddion Cymunedol mewn perthynas â phob un o’r meysydd canlynol:

  1. Economaidd-gymdeithasol
  2. Amgylchedd/Bywyd gwyllt
  3. Addysgol

4.6.9.5.

Mae TAN 8 a maint yr Ardal Chwilio Strategol yn cael eu hadolygu  adeg llunio’r canllawiau hyn. Cyflwynir Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ynni Adnewyddadwy unwaith y bydd y canllawiau cenedlaethol wedi’u diweddaru. 

4.6.9.6.

Mae angen ystyried effaith ffermydd gwynt, ac yn enwedig yr effaith gynyddol,  ar gymunedau lleol, wrth benderfynu ar safleoedd priodol, gan ffafrio safleoedd yr Ardal Chwilio Arbennig.

4.6.9.7.

Er bod asesiad effaith amgylcheddol yn ystyried effaith cais ar boblogaethau, maent yn tueddu i ganolbwyntio ar yr effaith amgylcheddol a’r effaith ar rywogaethau anifeiliaid yn hytrach na’r effaith ar gymunedau o bobl. Er mwyn penderfynu a fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gymuned, dylai’r datblygwyr gyflwyno dogfen ‘Asesu’r Effaith ar Iechyd’ fel rhan o’u cais.  Dylai’r asesiad gynnwys ymgynghori â’r gymuned yr effeithir arni a nodi camau i ddatrys unrhyw effaith negyddol, gan gynnwys effaith gynyddol os yw’ hynny’n berthnasol.

4.6.10.

Systemau Draenio Cynaliadwy

POLICY NTE/9 - SYSTEMAU DRAENIO CYNALIADWY View Map of this site ?

Bydd yn ofynnol defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy lle bo hynny'n rhesymol ymarferol a bydd gwaredu ar y safle'n cael ei ffafrio. Os na chynigir hyn, bydd angen i ddatblygwr gyfiawnhau bod y gollyngiad yn angenrheidiol ac wedi'i reoli'n ddigonol.

4.6.10.1.

Gall defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) i reoli llif dŵr fod yn ddull pwysig o leiafu'r risg o lifogydd drwy gynyddu arwynebeddau athraidd ar lecyn o dir sy'n caniatáu i ddŵr dreiddio drwyddynt i'r ddaear yn hytrach na llifo i'r system ddraenio, ac sy'n lleihau effaith llygredd tryledol a achosir gan ddŵr ffo a llifogydd. Dylid cynnwys defnydd effeithiol o arwynebeddau athraidd, suddfannau dŵr a storfeydd dŵr ym mhob datblygiad newydd os yw hynny'n dechnegol bosibl. Mae'n ofynnol ystyried SuDS yn fuan fel bo modd ystyried ystod o dechnegau ac anogir datblygwyr i gychwyn trafodaethau buan â'r Cyngor.

4.6.10.2.

Mae'n well rheoli dŵr ffo drwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) gan eu bod yn fanteisiol i'r amgylchedd, i fioamrywiaeth ac o ran estheteg. Gall SuDS fod ar ffurf pantiau, lagwnau, palmentydd athraidd, toeau gwyrdd a gwelyau cyrs neu sianeli wedi'u hail-beiriannu mewn modd sensitif, yn dibynnu ar natur y datblygiad a'r ardal.

4.6.10.3.

Mae'r Cyngor yn cefnogi Asiantaeth yr Amgylchedd drwy hyrwyddo systemau draenio cynaliadwy sy'n cynnal neu'n lleihau'r cyfraddau o ddŵr ffo cyn datblygu ac yn gofyn am gyngor yr asiantaeth ynghylch cyfraddau derbyniol o ddŵr ffo. Bydd gofyn i ddatblygwyr ariannu'r cynllun a bydd cytundebau cyfreithiol yn sicrhau bod y lefelau hynny o ddŵr ffo yn cael eu cynnal a'u rheoli am byth yn unol â'r egwyddorion datblygu.

4.6.11.

Draenio Dwr Budr

POLICY NTE/10 - DRAENIO DWR BUDR View Map of this site ?

  1. Dylai dŵr budr ddraenio i garthffos gyhoeddus os yw hynny’n bosibl. Ni chaniateir datblygu safleoedd lle nad yw draenio i garthffos gyhoeddus yn ddichonadwy ond os ystyrir bod y cyfleusterau a gynigir yn lle hynny yn ddigonol, ac na fyddent yn peri risg annerbyniol i, ansawdd na maint dŵr daear neu ddŵr wyneb nac yn llygru cyrsiau dŵr neu safleoedd sy'n bwysig oherwydd bioamrywiaeth. Dylid darparu uned trin carthion. Ni fydd system sy'n cynnwys tanc(iau) septig ond yn cael ei hystyried os gellir dangos yn glir nad yw'r naill na'r llall o'r dewisiadau hyn yn ddichonadwy, ar sail tystiolaeth sy'n profi bod y capasiti suddo dŵr yn ddigonol ac nad yw'n niweidio buddiannau materol.
  2. Rhaid i geisiadau datblygu, sy'n cynnwys mannau parcio i gerbydau ac arwynebeddau  caled eraill a ddefnyddir gan gerbydau, gynnwys camau fel:  gylïau caeedig a rhyng-gipwyr petrol / olew neu ddulliau addas eraill i reoli llygredd er mwyn sicrhau nad yw'r amgylchedd dŵr yn cael ei lygru
4.6.11.1.

Gall datblygu yng nghefn gwlad, sydd fel arfer yn ddatblygu at ddibenion amaethyddol, gan gynnwys biswail o weithfeydd amaethyddol mawr, fod yn annerbyniol pe gallai dŵr tail heb ei drin, lifo i gyrsiau dŵr lleol a'r amgylchedd dŵr ehangach. Bydd hi felly'n hanfodol i ddatblygiadau o'r fath ddarparu peiriant a fydd yn trin eu dŵr tail os nad yw'n ddichonadwy i wyro'r dŵr i garthffos gyhoeddus . Mae'r polisi'n nodi'n glir na fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad pe gallai amharu ar ansawdd dŵr daear neu ddŵr tir, cyrsiau dŵr neu safleoedd sy'n bwysig oherwydd bioamrywiaeth oni weithredir camau i liniaru'r niwed.

4.6.11.2.

Os yw tanciau neu unrhyw gyfleusterau petrol, cemegol neu olew eraill yn rhan o ddatblygiad arfaethedig, bydd yn ofynnol fel arfer gan y Cyngor iddynt gael eu cynnwys mewn waliau bwnd o faint digonol er mwyn atal hylif rhag gorlifo neu ollwng.

4.6.12.

Cadwraeth Dwr

POLICY NTE/11 - CADWRAETH DWR View Map of this site ?

Dylai pob datblygiad gynnwys camau cadw dŵr os yw hynny'n ymarferol. Dylid cyflwyno Strategaeth Cadwraeth Dŵr i gyd-fynd â cheisiadau datblygu mwy na 1,000m2 neu sy'n cynnwys mwy na 10 annedd.

4.6.12.1.

Mae nifer o ffydd o gadw dŵr, fwl dyfeisiau arbed dŵr, casglu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd, ac mae'r polisi'n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn â'r union ddulliau a ddefnyddir. Gallai datblygiadau mawr, neu gyfanswm yr effaith a achosir gan ddatblygiadau bach sy'n cynnwys camau o'r fath leihau lefelau cyrsiau dŵr a lefelau trwythiad drwy ostwng dŵr ffo, a thrwy hynny effeithio ar fioamrywiaeth. Rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng rheoli ailgylchu dŵr a sicrhau na cheir unrhyw effaith niweidiol ar yr amgylchedd dŵr a bioamrywiaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i gefnogi'r polisi a hysbysu darpar ddatblygwyr ynglŷn â dulliau cadw dwr.

4.7.

Treftadaeth Ddiwylliannol

4.7.1.

Amcanion Gofodol

AG6.   Datblygu cyrchfannau canol tref hyfyw ar gyfer siopa, busnes a masnach, diwylliant, adloniant a hamdden drwy warchod a gwella hyfywdra, a pha mor fywiog, dichonadwy a deniadol yw Llandudno fel y ganolfan adwerthu isranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn ac ardaloedd siopa allweddol eraill.

AG10. Sicrhau bod dylunio da, cynaliadwy, cynwysedig yn cael ei ddarparu sy’n cynnwys cyfleoedd i ddylunio i atal troseddu er mwyn datblygu cymunedau cryf, diogel ac sy’n nodedig yn lleol ac annog y boblogaeth iau i aros a dychwelyd i’r ardal.

AG12.Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad yr arfordir a chefn gwlad sydd heb eu datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirweddol/ cadwraethol,  nodweddion o ddiddordeb archeolegol, hanesyddol neu bensaernïol, a sicrhau bod bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir yn cael eu cadw

AG13.Gwella hygyrchedd at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden.

AG16.Sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg a chymeriad a chydbwysedd ieithyddol cymunedau o fewn y Fwrdeistref Sirol.

4.7.2.

Datganiad Strategol ynghylch Treftadaeth Ddiwylliannol

4.7.2.1.

Mae i ardaloedd hanesyddol ran allweddol wrth gyflawni amcanion y Cynllun Datblygu Lleol, p’un ai a yw’r amcanion hynny ar ffurf canolfannau masnachol neu siopa, atyniadau i ymwelwyr neu lefydd deniadol a diddorol i fyw ynddynt. Mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod asedau o'r fath yn cael eu diogelu rhag datblygu amhriodol, a bydd yn manteisio ar y cyfle i wella ardaloedd ac adeiladau hanesyddol pan fo angen.

4.7.2.2.

Mae cyfreithiau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol manwl sy'n trafod diogelu'r amgylchedd hanesyddol a safleoedd o bwysigrwydd archaeolegol yn berthnasol. Serch hynny, dylid cofio pa mor bwysig yw hi i fabwysiadu agwedd gyfannol tuag at ddiogelu asedau treftadaeth. Nid yw asedau treftadol fel tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol nac adeiladau nac adeileddau o bwysigrwydd lleol yn elwa ar ddynodiad statudol, er bod y rhain yn cyfrannu'n sylweddol tuag at ddiddordeb a chymeriad unigryw lle arbennig.

4.7.2.3.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol hwn felly'n cynnwys polisïau lefel strategol ynghylch datblygu ac asedau hanesyddol, a darperir manylion a chynigion rheoli i gydweddu â nodweddion a chyflawni'r heriau ym mhob ardal unigol mewn canllawiau cynllunio atodol.

4.7.2.4.

Mae'r Gymraeg yn elfen bwysig o wead cymunedau lleol. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu hyn ac annog datblygiad nad yw'n cael effaith negyddol.

4.7.2.5.

Lluniwyd papurau cefndir BP/28 – ‘Amgylchedd Hanesyddol’ a BP/33 – ‘Iaith Gymraeg’ sy’n darparu mwy o wybodaeth ar y materion pennaf.

POLICY CTH/1 - TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL View Map of this site ?

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a, lle bo’n briodol, gwella’i asedau diwylliannol a threftadol. Cyflawnir hyn drwy:

  1. Sicrhau nad yw lleoliad datblygiadau newydd ar safleoedd a neilltuwyd yn ogystal â hap-safleoedd yn Ardal y Cynllun yn cael effaith niweidiol sylweddol ar asedau treftadaeth yn unol â Pholisïau CTH/2 – ‘Datblygiadau’n Effeithio ar Asedau Treftadaeth’, DP/3 – ‘Hybu Ansawdd Dylunio a Gostwng Trosedd’ a DP/6 – ‘Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’.
  2. Cydnabod a pharchu gwerth a chymeriad asedau treftadaeth yn Ardal y Cynllun a chyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol i roi cyfarwyddyd ynghylch ceisiadau datblygu yn unol â Pholisi DP/7 – ‘Canllaw Cynllunio Lleol’.
  3. Ceisio cadw a, lle bo'n briodol, gwella ardaloedd cadwraeth, Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy, tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol, adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig ac ardaloedd eraill o bwysigrwydd pensaernïol yn unol â Pholisïau DP/6 a DP/7.
  4. Diogelu adeiladau ac adeileddau o bwysigrwydd lleol yn unol â pholisi CTH/3 – ‘Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol’ a chanllawiau cynllunio atodol.
  5. Gwella asedau treftadol drwy gynlluniau treftadaeth ac adfywio.
  6. Cynnal a sicrhau dyfodol asedau treftadaeth drwy ganiatáu datblygiadau galluogol priodol yn unig yn unol â pholisi CTH/4 – ‘Galluogi Datblygu’.
  7. Sicrhau bod datblygu mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gydnaws â dichonadwyedd y Gymraeg dros y tymor hir yn unol â Pholisi CTH/5 – ‘Yr Iaith Gymraeg’.

4.7.3.

Datblygu sy’n effeithio ar Asedau Treftadol

POLICY CTH/2 - DATBLYGU SY'N EFFEITHIO AR ASEDAU TREFTADOL View Map of this site ?

Bydd ceisiadau datblygu sy'n effeithio ar ased treftadol a restrir isod (a-f) a/neu ei leoliad, yn cadw neu'n gwella'r ased hwnnw os yw’n briodol.  Bydd ceisiadau datblygu'n cael eu hystyried yn unol â Pholisi DP/6 lle bo'n berthnasol, Polisi DP/3 – ‘Hybu Ansawdd Dylunio a Gostwng Trosedd’ a Chanllawiau Cynllunio Atodol.

  1. Ardaloedd Cadwraeth
  2. Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy
  3. Tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol
  4. Adeiladau Rhestredig
  5. Henebion Cofrestredig
  6. Safleoedd o bwysigrwydd archeolegol
4.7.3.1.

Ceir 25 o ardaloedd cadwraeth yn Ardal y Cynllun.  Mae'r ardaloedd wedi cael eu dynodi ar raddfa leol, ac mae i bob ardal gadwraeth gymeriad unigryw. Yn y gorffennol, byddai cyfres o bolisïau tros-fwaol a oedd yn berthnasol i bob ardal gadwraeth, yn cael eu defnyddio i'w rheoli. Yr ymagwedd a fabwysiadwyd yn y cynllun hwn ydi llunio Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer themâu neu faterion penodol sy’n gyffredin ar gyfer y rhan fwyaf, od nad y cyfan, o’r ardaloedd cadwraeth a hefyd ffurfio Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer pob ardal gadwraeth unigol (yn seiliedig ar Werthusiadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Rheoli) i reoli ac arwain cynigion datblygu yn rhagweithiol.

4.7.3.2.

Mae'r pwysau am newid o fewn y mwyafrif o ardaloedd cadwraeth yn ardal y cynllun wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae mân newidiadau i nifer o adeiladau ac addasiadau mwy wedi niweidio cymeriad arbennig a natur unigryw llawer o ardaloedd yn sylweddol.Yn benodol, mae gosod ffenestri UPVC, drysau, ffasgais a nwyddau dŵr glaw wedi cael effaith negyddol ar nifer o ardaloedd cadwraeth. Mae hyn yn enghraifft o faterion problematig sy’n gyffredin i ran fwyaf o ardaloedd cadwraeth lle bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu darparu trwy Ganllaw Cynllunio Atodol. 

4.7.3.3.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwysau am ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth dwysedd isel wedi arwain at nifer gynyddol o geisiadau i ddymchwel, ailddatblygu, mewnlenwi a datblygu tir cefn.  Er bod polisi cynllunio cenedlaethol yn annog defnydd darbodus o dir, gan ffafrio datblygu tir llwyd oddi mewn i aneddiadau presennol, ni ddylid difetha cymeriad ardaloedd cadwraeth dwysedd isel, er enghraifft Pen y Cae, Penmaenmawr a Phwllycrochan, Bae Colwyn.  Mae datblygiadau dwysedd uchel nad ydynt yn gyson â ffurf adeiledig ardaloedd o'r fath yn niweidio'u cymeriad, a bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu o'r fath.

4.7.3.4.

Lle mae ceisiadau datblygu neu ddymchwel yn effeithio ar adeiladau neu strwythurau sy’n cyfrannu mewn modd niwtral neu gadarnhaol tuag at gymeriad pensaernïol a hanesyddol arbennig ardal gadwraeth, bydd rhagdybiaeth o blaid y cynigion hynny sy’n cynnal neu os yn bosibl wella cymeriad yr ardal ddynodedig yn unig. Lle ceir effaith negyddol ar gymeriad ardal gadwraeth gan newidiadau a datblygiadau amhriodol a gynigir, bydd y Cyngor yn ceisio gwella yn hytrach na chynnal cymeriad, trwy er enghraifft adfer datblygiad a nodweddion hanesyddol.

4.7.3.5.

Mae Castell Conwy (gan gynnwys waliau’r dref) yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r dynodiad hwn yn amlygu pwysigrwydd rhyngwladol y safle. Bydd y Cynllun yn symud cynigion a chanllawiau ymlaen sy’n adlewyrchu goruchafiaeth y dynodiad ynghyd ag ardal gadwraeth y dref. Ceir gofyniad gan UNESCO i baratoi cynllun rheoli i roi cyfarwyddyd ar ddatblygu sy'n effeithio ar Safleoedd Treftadaeth y Byd.  Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried lleoliad ehangach Safle Treftadaeth y Byd sy’n ymestyn y tu hwnt i’r lleoliad a ddangosir ar y map cynigion, yn unol â Pholisi CTH/2. Yn ogystal â'r cynllun rheoli hwn, bydd y Cyngor yn paratoi cynigion i ddynodi tref Conwy'n ardal gadwraeth a fydd wedi'u llunio oddi mewn i Gynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd ac Ardal Gadwraeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael ei ffurfio o’r dogfennau hyn.

4.7.3.6.

Nid yw cynnwys parciau a gerddi ar Gofrestr Cadw/ICOMOS wedi arwain at unrhyw reolaethau statudol ychwanegol. Ni ddylai datblygiadau newydd a gynigir oddi mewn i derfynau neu'r lleoliadau hanfodol a ddiffiniwyd ar eu cyfer amharu ar ddiddordeb arbennig y parciau a'r gerddi. Dylid cynnal asesiad systematig o geisiadau hwyluso datblygu mewn tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol er mwyn sicrhau bod cymeriad arbennig yr asedau hyn yn cael eu diogelu'n ddigonol. Bydd cynigion datblygu sy’n syrthio o fewn tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi CTH/2, y Canllaw ar Arfer Da ar gyfer defnyddio’r Gofrestr Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru, SPG Amgylchedd Naturiol a Pholisi CTH/4 a’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Alluogi Datblygu lle bo’n berthnasol.

4.7.3.7.

Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyngor cyn i geisiadau gael eu gwneud er mwyn sicrhau fod dewisiadau priodol ar gyfer newidiadau i adeiladau rhestredig yn cael eu hystyried yn llawn i ddiogelu eu cymeriad cyn cyflwyno cais ffurfiol. Rhaid i unrhyw gais i wneud gwaith ar adeiladau rhestredig gael ei gyfiawnhau’n llawn o safbwynt sicrhau fod cymeriad hanesyddol a phensaernïol arbennig a nodweddion pwysicaf yr adeiladau a’u lleoliad yn cael eu diogelu. Byddwn ond yn caniatáu dymchwel adeiladau rhestredig yn llawn neu’n rhannol, neu rannau sylweddol o adeileddau sydd wedi’u diogelu mewn amgylchiadau prin, os profir cyfiawnhad pwysicach. Mae hefyd angen ystyried Polisi NTE/1 mewn perthynas â rhywogaethau gwarchodedig statudol, eu cynefinoedd a mannau gorffwys wrth asesu ceisiadau am waith ar adeiladau rhestredig. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio ar adeiladau rhestredig i ddarparu gwybodaeth a chanllaw i ymgeiswyr.

4.7.3.8.

Bydd goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd cynyddol effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau'n arwain at gynnydd yn y gwrthdaro ag amcanion cadwraeth. Dylid mynd ar drywydd datrysiadau cynaliadwy os na fyddant yn difrodi buddiannau hanesyddol yn sylweddol neu'n ddi-droi'n-ôl. Cyhoeddodd CADW ganllawiau ar ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd hanesyddol yn 2010. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio a  fydd yn amlinellu’r egwyddorion a’r polisïau ar gyfer cadwraeth ynni a chynigion ynni adnewyddadwy sy’n effeithio ar adeiladau, ardaloedd a pharciau hanesyddol, gerddi a thirweddau.

4.7.3.9.

Dylai datblygiadau fod yn sensitif i gadwraeth gweddillion archeolegol ac mae polisïau cenedlaethol yn pwysleisio'r angen i werthuso safleoedd, eu cofnodi a chadw'r rhai pwysicaf. Mae ymgynghoriadau ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd - Powys ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi datgelu y gellid bod angen cynnal asesiadau neu werthusiadau archeolegol ar rai o'r dyraniadau strategol a gynigiwyd cyn gwneud unrhyw waith datblygu. Bydd ymatebion fel hyn i ymgynghoriadau'n cael eu hystyried wrth lunio briffiau datblygu ar gyfer y safleoedd hyn neu wrth asesu ceisiadau'r datblygwr.

4.7.3.10.

Dim ond darn bach o gyfanswm y nifer o safleoedd archeolegol a hanesyddol mae henebion hynafol cofrestredig yn cyfrif amdano. Wrth ystyried cynigion ar safleoedd archeolegol anghofrestredig, bydd y Cyngor yn cysylltu ag Ymddiriedolaethau Archeolegol Powys/ Gwynedd, ac yn cadw mewn cof les a phwysigrwydd lleoliad y safleoedd. Os oes angen, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i asesu a gwerthuso’r safleoedd cyn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio. Bydd caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod os nad yw’r safle archeolegol o ddiddordeb digonol i gyfiawnhau diogelwch cyfan gwbl  rhag aflonyddwch. Gellir hefyd cadw a chofnodi safleoedd trwy ddefnyddio amodau a chytundebau cynllunio.

4.7.4.

Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol

POLICY CTH/3 - ADEILADAU AC ADEILEDDAU O BWYSIGRWYDD LLEOL View Map of this site ?

Ni fydd ceisiadau datblygu sy'n effeithio ar adeiladau neu adeileddau sy'n gwneud cyfraniad pwysig tuag at gymeriad a diddordeb yr ardal leol ond yn cael eu caniatáu os na fydd ymddangosiad unigryw, hygrededd pensaernïol na lleoliad yr adeilad yn cael eu niweidio'n sylweddol.

4.7.4.1.

Ceir nifer sylweddol o adeiladau a strwythurau sy'n rhan annatod o gymeriad a hunaniaeth eu hardal leol oherwydd eu dyluniad, eu deunyddiau a'u cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol. Dylid cadw'r adeiladau a strwythurau hyn, a cheisio sicrhau defnydd priodol er mwyn cadw'u cymeriad hanfodol. Bydd rhestr leol o adeiladau o'r fath yn cael ei llunio o arolygon gweledol ac ymgynghoriadau â grwpiau o randdeiliaid lleol.  Mae CDLl8 – Canllaw Cynllunio Atodol Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol yn amlinellu’r fethodoleg ar gyfer rhestr o'r fath ynghyd â meini prawf a rheolaethau ychwanegol, er enghraifft cyfarwyddiadau Erthygl 4.

4.7.5.

Hwyluso Datblygu

POLICY CTH/4 - HWYLUSO DATBLYGU View Map of this site ?

Byddwn ond yn caniatáu hwyluso datblygu sy’n ceisio sicrhau dyfodol ac/ neu ddefnydd arall addas i adeilad rhestredig neu adeilad sy’n gwneud cyfraniad positif sylweddol i gymeriad ardal gadwraeth, tirwedd hanesyddol neu barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig os:

  1. Yw’n angenrheidiol i sicrhau dyfodol tymor hir yr adeilad neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol
  2. Nad yw'n achosi niwed sylweddol i’r adeilad y mae'n ceisio'i gynorthwyo neu ei leoliad neu’r ardal gadwraeth, tirwedd hanesyddol, neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol y mae’n rhan ohono
  3. Y cyflawnir cyn lleied o waith ag sydd ei angen i sicrhau dyfodol yr adeilad a’r defnydd priodol o’r adeilad neu’r parc neu’r gerddi hanesyddol
  4. Nad oes cymhorthdal digonol ar gael o unrhyw ffynhonnell arall
4.7.5.1.

Mae hwyluso datblygu sy’n gwrthdaro â pholisïau cynllunio neu egwyddorion cadwraeth cadarn yn aml yn cael ei gyflwyno fel cam a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl i gadw adeilad rhestredig neu adeilad o bwysigrwydd lleol a'i achub rhag troi'n adfail ac/neu'n segur. Mae'r adeiladau hyn yn aml yn wag, heb eu defnyddio ac yn cynnwys tir helaeth o'u hamgylch, gan gynnwys parciau a gerddi neu dirweddau sydd eu hunain o ddiddordeb arbennig. Dylid ystyried a llunio ceisiadau datblygu gyda dealltwriaeth o ddyluniad ac arwyddocâd adeiladau a’u lleoliadau, parciau a gerddi, a'u perthynas â'r adeiladau hanesyddol sydd wedi'u lleoli ynddynt neu'n gyfagos â hwy. Er enghraifft, bydd cadw’r golygfeydd allweddol a welir wrth edrych ar yr adeilad,  a'r golygfeydd o'r adeilad o'r hyn sydd o'i amgylch yn ystyriaeth benderfynu bwysig. Bydd canllawiau Cynllunio Atodol ar Hwyluso Datblygu yn darparu mwy o fanylion ar faterion o’r fath.

4.7.6.

Y Iaith Gymraeg

POLICY CTH/5 - YR IAITH GYMRAEG View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg, ac yn gwrthod datblygiadau a fydd, oherwydd ei faint, graddfa neu leoliad yn niweidio’n sylweddol gymeriad a chydbwysedd ieithyddol cymuned.Cyflawnir hyn drwy ei gwneud hi'n ofynnol i gyflwyno datganiad iaith ac/neu, mewn rhai achosion, asesiad o'r effaith ar iaith gyda cheisiadau sy'n debygol o gael effaith sylweddol (gan gynnwys effaith gronnol) ar y Gymraeg.

4.7.6.1.

Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o gymunedau lleol a’u treftadaeth.  Mae Conwy'n ymrwymedig i ddiogelu’r agwedd hon ar y gymuned ac annog datblygu nad yw'n amharu arni.  Yn ôl cyfrifiad 2001, cafwyd bod mwy na 70% o siaradwyr Cymraeg ymysg y boblogaeth mewn tair ardal cyngor cymuned, a rhwng 60% a 70% ohonynt mewn saith cyngor cymuned arall. Bydd CBS Conwy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg, drwy sicrhau bod digon o gyfleoedd o ran cyflogaeth a thai i gadw siaradwyr Cymraeg ledled y Fwrdeistref a chyfyngu ar ddatblygu yn y Pentrefi a'r Pentrefannau. Dylid cyflwyno datganiad ieithyddol gyda cheisiadau sy'n debygol o newid cymeriad ieithyddol yr ardal dan sylw.  Mewn achosion eithriadol, mae'n bosibl y bydd gofyn cynnal asesiad mwy trylwyr o'r effaith ar iaith. Mae’r Cyngor wedi paratoi CDLl6 – Canllaw Cynllunio Atodol Yr Iaith Gymraeg i gyfarwyddo ymgeiswyr ynglŷn â’r gofynion. Mae papur Cefndir 33 – ‘Yr Iaith Gymraeg’ yn darparu tystiolaeth i gefnogi’r agwedd hon.

4.8.

Strategaeth Cludiant Cynaliadwy

4.8.1.

Amcanion Gofodol

AG1.   Sicrhau fod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu a diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig trwy hyrwyddo lefelau datblygiad digonol a phriodol, lleoli datblygiadau ar dir a ddefnyddiwyd eisoes os yw hynny'n ymarferol, yn ardaloedd trefol mawr yr arfordir yn bennaf, ac ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, gan ganfod a diogelu asedau amgylcheddol allweddol a sicrhau dwysedd datblygu effeithlon sy'n gydnaws ag amwynder lleol.

AG7.   Canolbwyntio datblygiad ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol ac arfaethedig, ac yn enwedig mewn lleoliadau sy'n gyfleus i gerddwyr, seiclwyr ac ar gyfer cludiant cyhoeddus.

AG9.   Annog patrymau symud effeithlon a chydnabod rôl strategol yr A55 a choridorau rheilffordd wrth ddiwallu anghenion datblygu'r Fwrdeistref, a rhoi sylw arbennig i leoliadau datblygu sy'n gyfleus ar gyfer cerdded a seiclo yng Nghonwy er mwyn helpu i leihau allyriadau CO2 sy'n deillio o gludiant.

AG13.Gwella hygyrchedd at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden.

4.8.2.

Datganiad y Strategaeth Cludiant Cynaliadwy

4.8.2.1.

Mae'n ofynnol i ddatblygiadau newydd fynd i'r afael â goblygiadau'r datblygiad hwnnw o ran cludiant, ac mae'n ofynnol i gynlluniau mawr lunio asesiadau cludiant er mwyn dangos sut y darperir ar gyfer nifer y teithiau a gynhyrchir a'r modd y sicrheir hygyrchedd i'r safle ac oddi yno drwy'r holl ddulliau cludiant. Ar gyfer ceisiadau amhreswyl sy'n debygol o achosi goblygiadau cludiant sylweddol, mae'r Llywodraeth hefyd yn gofyn am gyflwyno cynlluniau teithio, a'u diben yw hyrwyddo ffurfiau mwy cynaliadwy ar gludiant i gyfateb â gweithgarwch datblygiad neilltuol. (er enghraifft, annog defnyddio ceir yn llai aml a chynyddu'r defnydd o gludiant cyhoeddus, cerdded a seiclo).

4.8.2.2.

Er mwyn cyflawni'r amcanion teithio bydd gofyn gweithredu mewn dwy ffordd. I ddechrau mae angen gweithredu'n gadarnhaol drwy'r Strategaeth Cludiant Rhanbarthol er mwyn darparu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer cludiant integredig yn y Sir. Yn ail, mae angen i'r Cynllun Datblygu Lleol ddarparu polisïau cryf i sicrhau bod lleoliad datblygiadau newydd yn cefnogi'r amcanion uchod. Mae gwaith partneriaeth yn hanfodol i sicrhau llwyddiant yr amcanion hyn. Mae'r adran hon yn cynnwys y polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau bod y strategaeth cludiant cynaliadwy yn cael ei chyflawni.

POLICY STR/1 - CLUDIANT CYNALIADWY, DATBLYGU A HYGYRCHEDD View Map of this site ?

Bydd datblygiadau'n cael eu lleoli fel bod angen teithio cyn lleied ag sy'n bosibl. Dylai mynediad cyfleus ar hyd llwybrau, isadeiledd seiclo a chludiant cyhoeddus fodoli eisoes. Fel arall, dylid eu darparu lle bo'n briodol, a thrwy hynny annog pobl i ddefnyddio'r mathau hyn o gludiant ar gyfer teithiau lleol, a lleihau'r angen i deithio mewn car preifat a gwella hygyrchedd gwasanaethau i rai nad oes ganddynt fynediad rhwydd at gludiant. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i wella hygyrchedd a cheisio newid ymddygiad teithwyr.  Cyflawnir hyn drwy gydweithio â'n partneriaid i;

  1. Ganolbwyntio ar ddatblygu mewn lleoliadau hygyrch iawn yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol, yn bennaf ar hyd yr A55 a'r rhwydwaith rheilffordd ac oddi mewn ac ar ffin yr Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol oddi mewn i lain yr arfordir ac yn unol â Pholisi DP/2 ‘Ymagwedd Strategol Drosfwaol’.  Bydd pob cais datblygu'n cael ei asesu ochr yn ochr â Safonau Parcio'r Cyngor a nodir ym Mholisi STR/2 – SPG ‘Safonau Parcio’, lliniaru teithio yn unol â Pholisi STR/3 – ‘Lliniaru Effaith Teithio’ a hyrwyddo dulliau cynaliadwy yn unol â Pholisi STR/4 – ‘Teithio Heb Fodur’;
  2. Diogelu tir i hyrwyddo cymunedau hygyrch sy'n annog dulliau teithio cynaliadwy ac integredig yn unol â Pholisïau STR/5 – ‘System Cludiant Cynaliadwy Integredig’ ac STR/6 – ‘Rheilffyrdd’. Bydd y Cyngor yn gwella cludiant cyhoeddus ymhellach ac yn cynyddu newid moddol tuag at ddulliau cynaliadwy drwy hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus mwy mynych a dibynadwy. Ceisir sicrhau gwelliannau i orsafoedd rheilffordd a gorsafoedd bws er mwyn cynorthwyo i newid rhwng dulliau cludiant amrywiol a hyrwyddo ymddygiad cynaliadwy wrth deithio. Bydd datblygiadau'n cyfrannu tuag at y gwelliannau hyn lle bo angen hynny'n unol â Pholisïau DP/1 i DP/7. Bydd llwybrau gwella a ddynodwyd yng Nghynllun Cludiant Rhanbarthol Conwy yn cael eu diogelu;
  3. Hyrwyddo cerdded a seiclo ledled y Fwrdeistref Sirol yn rhan o ddull integredig a chynaliadwy iawn o deithio'n unol â Pholisi DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’. Bydd dyluniad ac adeiladwaith cyfleusterau ac isadeiledd yn cael eu gwella i wneud cerdded yn fwy deniadol, uniongyrchol a diogel, yn unol â Pholisi DP/3 – ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd’. Bydd croesfannau cyfleus o ansawdd i gerddwyr yn cael eu hyrwyddo i'w gwneud hi'n haws croesi'n syth a diogel dros ffyrdd prysur. Bydd datblygiadau'n cyfrannu tuag at y cysylltiadau hyn, a thuag at fannau parcio beiciau o ansawdd lle bo'n briodol, yn unol â'r Egwyddorion Datblygu a Safonau Parcio'r Cyngor, fel y nodir ym Mholisi STR/2;
  4. Nodir Cynlluniau Cludiant Strategol Allweddol ar y Map Cynigion a’r Diagram Allweddol. Bydd cynlluniau cludiant sy'n arwain at wella hygyrchedd yn cael eu cefnogi mewn egwyddor. Wrth ystyried ceisiadau datblygu, rhaid ystyried y posibilirwydd am ddulliau teithio mwy cynaliadwy sy'n gysylltiedig â defnyddwyr a'r defnydd a wneir o'r datblygiad, gan gynnwys paratoi Cynlluniau Teithio.

4.8.2.3.

Mae hygyrchedd da yn golygu y gall y gymuned gael mynediad at bethau y maent eu hangen (er enghraifft, siopa, addysg a chyflogaeth) yn hawdd heb fod angen mynd yn y car drwy'r amser. Gellir gwella hygyrchedd drwy osod datblygiadau mewn lleoliadau priodol a thrwy wella cludiant cyhoeddus a chyfleusterau a gwasanaethau cerdded a seiclo. Bydd angen y gymuned am ddatblygu yn cael ei ddiwallu drwy leoli'r rhan fwyaf o ddatblygiadau yn y lleoliadau hygyrch, yn bennaf ar hyd yr A55 a choridor y Rhwydwaith Trenau, oddi mewn i Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol  lle ceir cysylltiadau allweddol â gwasanaethau a chludiant.  Gall sicrhau hygyrchedd da wyro ymddygiad pobl tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o deithio. Serch hynny, mae cynllunio teithiau, addysg a rheoli'r galw yn rhannau annatod o'r strategaeth gludiant gyffredinol. Mae gwella hygyrchedd a lleihau'r ddibyniaeth ar geir yn helpu i wella cydraddoldeb, yn lleihau tagfeydd ac yn ymateb i heriau'r newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol.  Er mwyn gwella'r dulliau teithio cynaliadwy sydd ar gael, iechyd y gymuned a'r amgylchedd, bydd y Cyngor yn neilltuo tir ar gyfer cyfleuster rhyngnewid yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno.

4.8.2.4.

Ar gyfer teithiau cymharol fyr mae cerdded yn ogystal â seiclo'n ddulliau teithio dymunol iawn sydd hefyd yn cefnogi arfer byw iachus. Yn ôl data'r cyfrifiad (2001), mae mwyafrif (66%) trigolion Conwy sy'n economaidd weithgar yn defnyddio'u car i deithio i'r gwaith. Tra bo 14% o'r trigolion yn cerdded i'r gwaith, dim ond 1.7% ohonynt sy'n seiclo. Yn anffodus, mae pobl yn cael eu hatal rhag cerdded a seiclo i rai ardaloedd gan fod prif ffyrdd a chylchfannau'n peri rhwystr i gerddwyr a seiclwyr.  Mae cerdded yn rhan o bron bob taith, ac mae pobl yn llai tebygol o gerdded i siop leol neu orsaf bws os yw'r amgylchedd i gerddwyr yn wael neu'n ymddangos yn fygythiol. Mae rhai ffyrdd, strydoedd a chyffyrdd wedi cael eu dylunio mewn modd sy'n rhoi'r flaenoriaeth i sicrhau llif barhaus y traffig ar draul cerddwyr a seiclwyr. Bydd gwelliannau cerdded a seiclo'n cael eu targedu ym mhob anheddiad, yn bennaf lle mae angen cael mynediad at gyflogaeth ac adwerthu yn Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele ac i ddibenion hamdden a thwristiaeth ar hyd coridorau'r arfordir a'r afon.  Enghreifftiau o hyn fyddai gweithredu rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy.  Bydd angen i bob datblygiad newydd ddarparu cyfleusterau cerdded a seiclo o ansawdd a chyfrannu tuag at welliannau cynaliadwyedd yn y gymuned o'i amgylch, fel bo'n briodol.

4.8.2.5.

Mae cerdded a seiclo'n arbennig o bwysig mewn canolfannau lle mae nifer o bobl yn siopa, yn gweithio, yn byw neu'n chwarae o fewn ardal gyfagos. Gall y canolfannau gynnwys nifer fawr iawn o gerddwyr a seiclwyr heb broblemau tagfeydd, sŵn a llygredd a achosir gan nifer cymharol fach o gerbydau modur. Er mwyn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy, cyfrannu tuag at welliannau iechyd a diogelu'r amgylchedd, bydd y Cyngor yn ceisio agor cysylltiadau pont droed newydd yn rheilffordd Cyffordd Llandudno ac ym Mae Colwyn rhwng canol y dref a glan y môr.

4.8.2.6.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol felly'n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i gludiant cynaliadwy er mwyn gwella cyfleusterau cerdded a seiclo a chysylltiadau â mathau eraill o ddulliau teithio cynaliadwy yn Ardal y Cynllun ac, yn enwedig ag Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol. Mae gan y dulliau teithio cynaliadwy hyn botensial i wella hygyrchedd, yr amgylchedd ac iechyd y Fwrdeistref Sirol.  Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Cyngor yn cydweithio â phartneriaid ac yn sicrhau cyfraniadau gan ddatblygwyr, ac yn ceisio cael nawdd ar gyfer gwelliannau cerdded a seiclo, lle bo'r angen, ac yn ehangu Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5 SUSTRANS drwy adeiladu pont gerdded/seiclo yn Harbwr y Foryd  er mwyn creu rhwydwaith llawnach i gysylltu Conwy â Sir Ddinbych. Mae'r gwaith i gwblhau Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5 yn Llandudno hefyd yn symud yn ei flaen.

4.8.2.7.

Yn unol â Deddf Cludiant Cymru 2006, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n gofyn i gonsortiwm Taith, sef partneriaeth o Awdurdodau Lleol a chanddynt gyfrifoldebau cludiant yng Ngogledd Cymru greu Cynllun Cludiant Rhanbarthol (RTP). Strategaeth i ganfod a darparu gwelliannau i'n system gludiant dros y 25 mlynedd nesaf yw’r RTP. Mae RTP Gogledd Cymru wedi cael ei greu, a daeth i rym ym mis Ebrill 2010.

4.8.3.

Safonau Parcio

POLICY STR/2 - CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL AR SAFONAU PARCIO View Map of this site ?

  1. Dylid darparu mannau parcio ceir yn unol â'r safonau uchaf a osodwyd yn CDLl 2 – ‘SPG Safonau Parcio’, i leihau gorddibyniaeth ar y car a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy.
  2. Mewn rhai lleoliadau, megis lleoliadau â mynediad da at gyfleusterau a gwasanaethau a wasanaethir gan gludiant cyhoeddus o safon uchel, bydd y Cyngor yn ceisio lleihau nifer y mannau parcio a ddarperir, yn unol â Safonau Parcio Conwy. Os bydd cyfleoedd yn codi, er enghraifft ar safleoedd defnydd cymysg, anogir i bobl rannu llefydd parcio a cheir i leiafu'r ddarpariaeth
  3. Dylid darparu mannau parcio beiciau yn unol â'r safonau a osodir yn CDLl 2 - Canllawiau Cynllunio Atodol Safonau Parcio i sicrhau y darperir mannau digonol a diogel.

4.8.3.1.

Gall nifer y mannau parcio sydd ar gael effeithio'n sylweddol ar y math o gludiant y bydd pobl yn ei ddewis. Yn unol â hynny, mae polisi'r Llywodraeth yn anelu i gyfyngu ar y lefelau parcio sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd er mwyn lleihau'r defnydd o geir a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy. Yn ogystal â hyn, gall mannau parcio orchuddio llecyn helaeth o dir, gan effeithio ar ymddangosiad y datblygiad a'r defnydd effeithlon o dir. Yn ôl TAN18, Adran 4, ‘gall rheolaethau dros barcio, codi taliadau a chyfyngiadau ar ddarpariaeth neu amser fod yn briodol os ydynt yn gydnaws â pholisïau defnydd tir, yn cyfrannu tuag at leihau tagfeydd ac yn diogelu amwynder’. Diben y polisi hwn yw rheoli'r galw am fathau penodol o barcio, er mwyn hyrwyddo nodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynllun. Bydd y Cyngor yn adolygu ei safonau parcio'n seiliedig ar y Cynllun Cludiant Rhanbarthol.

4.8.4.

Lliniaru Effaith Teithio

POLICY STR/3 - LLINIARU EFFAITH TEITHIO View Map of this site ?

  1. Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau newydd liniaru drwgeffeithiau teithio, fel sŵn, llygredd, yr effaith ar amwynder ac iechyd, ac effeithiau eraill amgylcheddol.
  2. Os yw datblygiad bwriedig yn debygol o gael goblygiadau cludiant sylweddol, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno Asesiad Cludiant a Chynllun Cludiant gyda’r cais cynllunio. Efallai y bydd angen Archwiliad Diogelwch hefyd.
  3. Lle credir bod y datblygiad bwriedig yn cael goblygiadau cludiant sylweddol ar ardal ehangach, bydd angen cyfraniadau ariannol tuag at welliannau isadeiledd cludiant, yn enwedig i gludiant cyhoeddus, beicio a cherdded, yn unol ag egwyddorion datblygu yn Adran 4 – Polisïau Gofodol, Diagramau Allweddol a Chefnogi Polisïau Rheoli Datblygu.
  4. Efallai y bydd y Cyngor hefyd yn ei gwneud yn ofodol i ddatblygwyr gyflwyno Datganiad Cludiant ar gyfer cynigion datblygu eraill lle mae angen deall effaith y cynnig ar gludiant. 
4.8.4.1.

Mae sicrhau cyswllt addas rhwng ceisiadau datblygu â'r briffordd sy'n ddiogel i gerddwyr, seiclwyr, gyrwyr a theithwyr mewn cerbydau ac unrhyw defnyddiwr arall o'r ffordd yn brif ystyriaeth gynllunio. Mae'r angen sicrhau na amherir ar ddiogelwch ffyrdd drwy ganiatáu ceisiadau a fyddai'n creu lefelau traffig y tu hwnt i gapasiti'r rhwydwaith ffordd o'u hamgylch. 

4.8.4.2.

Mae'n bwysig bod pob datblygiad yn lliniaru'i effaith ar o ran cludiant. Bydd yn ofynnol i geisiadau 'Datblygu graddfa fawr' neu geisiadau datblygu a chanddynt 'oblygiadau cludiant sylweddol', fel y nodir yn NCT18, lunio Asesiad Cludiant a Chynllun Teithio (fel y nodir ym Mholisi STR/3). Dylid cyflwyno Datganiad Cludiant ochr yn ochr â phob cais datblygu arall er mwyn galluogi'r ymgeisydd i ddangos i'r Cyngor ei fod wedi rhoi ystyriaeth briodol i effaith y cais ar gludiant ac wedi ystyried sut i'w lliniaru. Bydd manylder y Datganiad Cludiant yn amrywio'n unol â graddfa a chymhlethdod y cais yn unol â chanllawiau cenedlaethol a pholisi DP/6 – ‘Polisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’.

4.8.5.

Teithio Heb Fodur

POLICY STR/4 - TEITHIO HEB FODUR View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn cefnogi cynnydd yn y defnydd o ddulliau teithio heb fodur, gan gynnwys seiclo a cherdded, drwy sicrhau bod datblygiadau sy'n creu'r angen i deithio wedi'u lleoli a'u dylunio i hwyluso teithiau byr rhwng y cartref, y gwaith, ysgolion a cholegau, cyrchfannau eraill addas a hamdden. Yn ogystal â lleiafu'r pellter rhwng mannau cychwyn a chyrchfannau, dylai ceisiadau datblygu sicrhau:

  1. Bod digon o fannau i barcio beiciau'n ddiogel yn unol â'r safonau ym Mholisi  STR/2;
  2. Bod dyluniadau a chynlluniau manwl yn annog pobl i ddefnyddio beiciau a cherdded.
4.8.5.1.

Mae'r hierarchaeth uchod yn nodi'r flaenoriaeth i ddarparu isadeiledd ar gyfer dulliau heb fodur o deithio drwy'r broses gynllunio, er enghraifft drwy gyfraniadau Adran 106. Er eu bod wedi'u rhestru yn ôl blaenoriaeth, ni ddylid hyrwyddo unrhyw flaenoriaeth unigol ac anwybyddu'r gweddill. Y flaenoriaeth gyntaf yw cysylltu â chanolfannau atyniadol mwy, yn gyfagos â'r sir ac oddi mewn iddi, gan gynnwys Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol a'r Prif Bentrefi. Mae gan y canolfannau hyn ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys ysgolion ac ardaloedd cyflogaeth. Mae hyn yn cynnig gwell gwerth am arian o ran ystod y boblogaeth a allai ddefnyddio'r llwybrau. Yn ogystal â hyn, mae Llwybrau Diogelach i'r Ysgol, gan gyfrannu tuag at y nod cyffredinol o wella isadeiledd, eisoes yn cael ei ddarparu o ffynhonnell ariannu ar wahân. Mae'r llwybrau hamdden hefyd yn adnodd pwysig, yn enwedig i wella mynediad i'r ardal o gefn gwlad gyfagos yn rhan o arfer byw iachus.

4.8.5.2.

Mae’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn cynnwys strategaethau ar wahân ar gerdded a seiclo ac yn cydnabod eu pwysigrwydd a'r angen i sicrhau gwelliannau i gapasiti, ansawdd a diogelwch y rhwydwaith.  Ar yr un pryd, mae angen diogelu hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli eisoes. Mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol, drwy ei Awdurdod Priffyrdd lleol, yn gyfrifol am ddiweddaru mapiau hawliau tramwy cyhoeddus swyddogol ac am greu cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy. Mae llwybrau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig (llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd) yn adnodd pwysig i gerddwyr ac, mewn achosion priodol, i seiclwyr a marchogion.

4.8.6.

Systemau Cludiant Cynaliadwy Integredig

POLICY STR/5 - SYSTEM CLUDIANT CYNALIADWY INTEGREDIG View Map of this site ?

Er mwyn gwella’r system cludiant, darparu ar gyfer anghenion datblygu a gwella cymunedau, bydd y cynlluniau canlynol yn cael eu hyrwyddo fel y nodwyd ar y Map Cynigion.

  1. Gorsaf Reilffordd Llandudno – Darparu cyfleuster rhyngnewid cludiant cynaliadwy o ansawdd uchel yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno;
  2. Cyffordd Llandudno – Gwella integreiddio a mynediad i'r ardaloedd adwerthu, hamdden, adloniant a busnes Cyffordd Llandudno drwy greu pont droed newydd o Orsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno;
  3. Abergele – Cynllun Gwella Trafnidiaeth Canol Tref i’n galluogi i ddiwallu anghenion datblygu, gwella hygyrchedd a lleihau'r pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos, yn unol â Pholisi DP/5 ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’;
  4. Harbwr y Foryd – Darparu Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5 a phont gyswllt newydd i gerddwyr/seiclwyr yn Harbwr y Foryd ym Mae Cinmel;
  5. Bae Cinmel – Ei gwneud hi'n bosibl i greu ffordd gyswllt rhwng Parc Hanes ac Ogwen Avenue i wella mynediad cyffredinol yn yr ardal;
  6. Hen Reilffordd Dyffryn Clwyd ym Mae Cinmel – Diogelu fel llwybr i hyrwyddo mynediad gwell i'r gymuned;
  7. Rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a Chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy – I wella mynediad cymunedau lleol ac ymwelwyr i'r arfordir ac i gefn gwlad;
  8. Bae Colwyn – Gwell mynediad rhwng y dref a glan y môr fel rhan o Gynllun Bae Colwyn a phrosiect amddiffyn yr arfordir.

4.8.6.1.

Mae argaeledd a'r defnydd o gludiant cyhoeddus yn elfen bwysig iawn wrth bennu polisïau cynllunio wedi'u dylunio i leihau'r angen i deithio mewn car. I'r perwyl hwn, mae'r polisi cenedlaethol yn gofyn bod awdurdodau cynllunio lleol yn archwilio'r posibilrwydd, ac yn dynodi unrhyw geisiadau, i wella cludiant cyhoeddus drwy ddefnyddio rheilffyrdd, yn enwedig drwy ailagor llinellau rheilffordd. Gallai llwybrau o'r fath hefyd gael eu defnyddio fel llwybrau cerdded a seiclo dros dro cyn cyflwyno gwasanaethau rheilffordd.

4.8.6.2.

Bydd Abergele yn darparu lefel o ddatblygiadau tai a chyflogaeth i ddiwallu anghenion y gymuned. I sicrhau fod dyraniadau yn Ardal Abergele yn cael eu darparu, bydd Cynllun Gwella Trafnidiaeth Canol Tref yn cael ei hyrwyddo fel y nodwyd ar y Map Cynigion. Bydd y cynllun gwella yn cael ei gyflwyno yn unol â’r Cynllun Monitro a Gweithredu ac yn cael ei ariannu trwy gyfraniadau gan ddatblygwyr.

4.8.7.

Rheilffyrdd

POLICY STR/6 - RHEILFFYRDD View Map of this site ?

Mae'r Cyngor yn cefnogi cludo nwyddau ar drenau ac mae'r cyfleusterau rheilffordd presennol yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr wedi'u diogelu i'r diben hwn.

4.8.7.1.

Am flynyddoedd lawer, bu gostyngiad yn y nwyddau sy'n cael eu cludo ar drenau, yn bennaf o ganlyniad i'r gystadleuaeth gan gludiant ar y ffordd. Fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd diweddar, cafwyd adfywiad yn y defnydd o drenau i gludo nwyddau ar raddfa genedlaethol, ond nid yw hyn wedi cael ei adlewyrchu'n lleol.  Mae nifer o'r hen gyfleusterau cludo nwyddau ar drenau fu'n bodoli gynt yn Ardal y Cynllun naill ai wedi dod i ben neu wedi cael eu hailddatblygu ac eithrio'r cyfleusterau sydd ar ôl yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys (i) seidins ar hyd Gorsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno, (ii) y derfynell trenau nwyddau cyfagos yng Nghyffordd Llandudno a (iii) y cyfleuster llwytho balastau ym Mhenmaenmawr. Nid yw'r derfynell trenau nwyddau yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, ac mae gan ran o'r safle ganiatâd cynllunio dros dro fel storfa. 

4.8.7.2.

Mae'r cyngor yn cefnogi trosglwyddo nwyddau o'r ffordd i'r rheilffordd ac yn ystyried bod posibilrwydd i symud nwyddau ar drenau. Prin iawn yw'r cyfleoedd i greu cyfleusterau trenau nwyddau eraill yn Ardal y Cynllun. Mae Bwrdd Cludiant Gogledd Cymru ar y Cyd (TAITH) wedi comisiynu astudiaeth strategol ar botensial rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru mewn cysylltiad â datblygiad y Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad fod potensial yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer symud nwyddau archfarchnad ar y rheilffordd, a symud gwastraff ar y rheilffordd fel rhan o gynllun ehangach yng Ngogledd Cymru. Mae TAITH yn cefnogi cadw cyfleusterau rheilffordd ac mae’r Cyngor yn ofalus i ddiogelu cyfleusterau o’r fath yn y Sir, gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio’r cyfleusterau hyn ymhellach i bwrpasau cludo ar y rheilffordd.

4.9.

Strategaeth Mwynau a Gwastraff

4.9.1.

Amcanion Gofodol

AG14.Hyrwyddo a defnyddio adnoddau yn ddoeth trwy leihau gwastraff a chynorthwyo i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n cyd-fynd ag anghenion yr ardal a’r hierarchaeth wastraff.

AG15.Cyfrannu at anghenion rhanbarthol a lleol mewn modd cynaliadwy.

4.9.2.

Datganiad Strategol Mwynau a Gwastraff

4.9.2.1.

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod angen ymagwedd strategol i sicrhau cyflenwad agregau yn y tymor hir. Defnyddiwyd y Datganiad Technegol Rhanbarthol (RTS), (a gyhoeddwyd yn 2008) fel canllaw ar gyfer y CDLl ar faterion fel hyn, ac mae’r ddogfen hon o’r farn nad oes angen dynodi unrhyw dir ar gyfer craig galed yng Nghonwy ar hyn o bryd, oni bai fod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau hynny. 1Mae’r Cyngor o’r farn nad oes unrhyw amgylchiadau a fyddai’n cyfiawnhau dynodiad yn Ardal y Cynllun. Yn ogystal â chwareli craig galed sylweddol, bydd adnoddau graean a thywod sylweddol yn cael eu diogelu hefyd.

4.9.2.2.

Cynigir lleiniau diogelu o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder trigolion a defnyddwyr tir sensitif eraill, ac i sicrhau bod cloddwyr mwynau yn cynnal eu gweithgareddau arferol heb eu cyfyngu gan bresenoldeb gormod o dirfeddianwyr sensitif.

4.9.2.3.

Yn unol â Strategaeth Gwastraff Cenedlaethol a Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRWP), bydd y Cyngor yn hyrwyddo lleihau’r defnydd o ddeunyddiau, eu hailddefnyddio, a’i hailgylchu i leihau’r defnyddio tirlenwi ar gyfer gwastraff.

4.9.2.4.

Mae sawl peth yn cymell newid o ran sut rydym yn rheoli ein gwastraff yn well.  Mae'r rhain yn cynnwys Cyfarwyddebau Ewropeaidd a Chanllawiau Cenedlaethol, yn ogystal â gweithio ar lefel rhanbarthol, yn creu newid sylweddol mewn rheoli gwastraff.  Mae’r cynnydd mewn technoleg hefyd, ynghyd â chyflwyno polisïau ac arferion, yn golygu nad yw llawer o gyfleusterau rheoli gwastraff yn edrych ddim gwahanol ar y tu allan i unrhyw adeilad diwydiannol arall, ac maent yn ymwneud â’r prosesau diwydiannol neu weithgaredd cynhyrchu ynni nad ydynt yn wahanol i lawer o brosesau diwydiannol eraill o ran eu heffaith neu’r ffordd maent yn cael eu gweithredu.

4.9.2.5.

Swyddogaeth yr awdurdod cynllunio lleol yw sicrhau fod digon o dir ar gael mewn lleoliadau addas ar gyfer cyfleusterau rhanbarthol (lle bo angen hynny) a chyfleusterau lleol. Dylai chyfleusterau gwastraff, fel y nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru, ddilyn egwyddor agosatrwydd (h.y. dylai lleoliad y cyfleuster fod mor agos a bo modd i ffynhonnell y gwastraff). Bydd canlyniad Prosiect Trin Gwastraff Gogledd Cymru hefyd yn chwarae rhan mewn penderfynu ar leoliad a’r math o dechnoleg a ddefnyddir ar lefel rhanbarthol.

POLICY MWS/1 - MWYNAU A GWASTRAFF View Map of this site ?

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod darpariaeth ddigonol o adnoddau mwynol a chyfleusterau rheoli gwastraff, wrth ddiogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig trwy:

  1. Ddiogelu tir cae glas drwy beidio â chaniatáu chwareli craig galed newydd neu estyn y chwareli presennol;
  2. Ddiogelu cronfeydd a ganiateir o graig galed ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen), Llanddulas a Llan San Siôr ac adnoddau ychwanegol o graig galed sy’n ymestyn tua’r dwyrain o Hen Golwyn hyd at y ffin gyda Sir Ddinbych;
  3. Ddynodi ardaloedd diogelu o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder a sicrhau nad yw gweithgareddau mwynau wedi’u cyfyngu yn ormodol gan ddefnyddwyr tir eraill;
  4. Ddiogelu adnoddau graean a thywod yn Nhal y Cafn;
  5. Nodi Llanddulas a Gofer (a ddangosir ar y Prif Ddiagram) fel lleoliadau ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn unol â Pholisi MWS/7 – ‘Lleoliadau ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff’;
  6. Ystyried addasrwydd tir diwydiannol presennol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd, sy’n cyd-fynd â defnydd cyfagos, yn unol â Pholisi MWS/8 – ‘Defnyddio Tir Diwydiannol ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff’;
  7. Ddiogelu cyfleusterau rheoli gwastraff cyhoeddus a phreifat presennol, oni bai fod rhesymau eithriadol ar gyfer cyflogaeth amgylcheddol neu amwynderau a fyddai’n cyfiawnhau eu colli yn unol â Pholisi MWS/9. – ‘Diogelu Cyfleusterau Gwastraff Presennol;
  8. Gwrdd â’r angen ychwanegol yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn unol â Pholisi MWS/6;
  9. Ddynodi llain ddiogelu tirlenwi o gwmpas safle tirlenwi Llanddulas er mwyn sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol gaiff eu caniatáu yn y safle hwn;
  10. Sicrhau bod datblygiad yn ymdrin â’r posibiliadau ar gyfer lleihau gwastraff trwy annog ailddefnyddio gwastraff dymchwel adeiladau neu wastraff adeiladu,  lle bo hynny’n briodol, yn unol â Pholisi DP/3 a MWS/11 – ‘Gwastraff Adeiladu neu Wastraff Dymchwel’.
4.9.3.

Mwynau

POLICY MWS/2 - MWYNAU View Map of this site ?

Bydd y chwareli presennol ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llan San Siôr yn darparu cyfraniad y Sir i gyflenwad craig galed ranbarthol. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer:

  1. Chwareli craig galed newydd
  2. Estyniadau i’r chwareli presennol
  3. Ceisiadau i weithio chwareli nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio dilys ar hyn o bryd

4.9.3.1.

Darperir Polisi Cenedlaethol gan Bolisi Cynllunio Mwynau Cymru (MPPW) a Nodyn Cynghori Technegol 1 Mwynau: Agregau (MTAN1). Cyhoeddwyd Datganiad Technegol Rhanbarthol Drafft (RTS) yn 2008 fel canllaw ar gyfer CDLl ynglŷn â chyflenwi agregau yn y tymor hir. Mae’r RTS wedi’i fabwysiadu rŵan.

4.9.3.2.

Mae tri chwarel gweithredol yng Nghonwy, ac mae bob un ohonynt yn cynhyrchu deunyddiau adeiladu (o’r enw agregau). Mae Chwarel Penmaenmawr yn cynhyrchu craig igneaidd, sydd hynod o addas fel balast rheilffyrdd ac ar gyfer deunyddiau eraill. Mae Chwareli Raynes ger Llysfaen a Llan San Siôr ger Abergele yn cynhyrchu calchfaen, sy’n cael ei ddefnyddio, er enghraifft, wrth wneud concrit. Mae Chwareli Raynes a Llan San Siôr wedi eu cyfyngu o ran maint eu hestyniadau ffisegol, ond mae gan y tair chwarel ganiatâd cynllunio sy’n estyn heibio cyfnod y cynllun.

4.9.3.3.

Yn ogystal â’r chwareli gweithredol, mae Chwarel Llanddulas yn cynnwys adnoddau calchfaen o ansawdd uchel. Mae’r rhan fwyaf o’r chwarel yn safle tirlenwi, tra bo cytundeb cyfreithiol yn gwahardd cloddio i ddibenion agregau cyffredinol.

4.9.3.4.

Mae’r datganiad technegol rhanbarthol o’r farn nad oes angen dynodi tir ar gyfer craig galed yng Nghonwy ar hyn o bryd, oni bai fod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau hynny. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes amgylchiadau a fyddai’n cyfiawnhau dyrannu tir yn Ardal y Cynllun.

4.9.3.5.

Mae’r MPPW yn cefnogi datblygu tyllau benthyg, a fyddai’n gwasanaethu prosiectau adeiladu penodol mewn lleoliadau priodol. Mae hefyd yn cydnabod yr angen am chwareli ar raddfa fechan i ddarparu cerrig lleol, lle byddai’r rhain yn cadw cymeriad yr amgylchedd adeiledig lleol.  Mae tyllau benthyg a chwareli cerrig ar raddfa fechan felly  tu allan i bwrpas Polisi MWS/2.

4.9.3.6.

Hefyd, mae MTAN1 yn cynnwys canllawiau ar ddelio ag effeithiau penodol fel sŵn, llwch a ffrwydro, adfer a defnyddio defnyddiau eilradd, fel gwastraff o ddymchwel adeiladau.

4.9.3.7.

Mae MTAN1 yn mynnu hefyd bod awdurdodau cynllunio’n asesu ac adolygu tebygolrwydd cloddio yn y dyfodol ar safleoedd sy’n segur erstalwm ac nad ydynt wedi cael eu defnyddio am 10 mlynedd. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw safle yng Nghonwy gyda defnyddiau wrth gefn a ganiateir sydd wedi bod yn segur yn ystod y cyfnod hwn. Petai cyfnod unrhyw safle yn hwy na deng mlynedd a bod yr Awdurdod Cynllunio’n credu ei fod yn annhebygol y bydd rhagor o gloddio yno, bydd yn ystyried cyflwyno gorchymyn gwahardd. Pwrpas gorchymyn gwahardd yw sefydlu’n ddiamheuaeth fod y datblygiad mwynau wedi darfod ac ni ellir ailddechrau cloddio heb roi caniatâd cynllunio newydd, ac i sicrhau fod y tir yn cael ei adfer.

4.9.4.

Diogelu Creigiau Caled Wrth Gefn

POLICY MWS/3 - DIOGELU CREIGIAU CALED WRTH GEFN View Map of this site ?

  1. Mae’r adnoddau a chyfleusterau perthnasol canlynol wedi’u cynnwys o fewn y dynodiad Craig Galed wedi’i Diogelu:

  1. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Penmaenmawr, gan gynnwys mannau prosesu, rheilffordd a dolen gludo;
  2. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Raynes, gan gynnwys mannau prosesu a’r mannau lle leolir y jeti a’r ddolen gludo;
  3. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llanddulas (y tu allan i’r safle tirlenwi), gan gynnwys y mannau lle lleolir y jeti a’r hen ddolen gludo;
  4. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llan San Siôr, gan gynnwys mannau prosesu;
  5. Creigiau caled wrth gefn ychwanegol sy’n ymestyn tua’r dwyrain o Hen Golwyn hyd at y ffin gyda Sir Ddinbych,, wedi’u nodi ar y Map Cynigion.

  1. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o fewn y dynodiad Craig Galed wedi’i diogelu a allai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol niweidio hyfywdra gweithio’r adnoddau hyn yn y tymor hir.

4.9.4.1.

Mae’r Ddatganiad Technegol Rhanbarthol yn argymell polisi diogelu penodol ar gyfer Conwy. Mae’r polisi hwn yn gweithredu’r argymhelliad hwnnw ac yn diogelu’r adnoddau mwynau a nodwyd ar gyfleusterau cludiant a phrosesu cysylltiedig i sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael. Mae Papur Cefndir 29 – ‘Diogelu Adnoddau Agreg’ yn darparu cyfiawnhad llawn ar gyfer y dull diogelu.  Pwysleisir bod y polisi hwn yn syml yn diogelu’r asedau hynny ar gyfer y tymor hir, ac nid yw’n sefydlu rhagdybiaeth o blaid rhoi caniatâd cynllunio.

4.9.4.2.

Byddai rhai mathau o ddatblygiadau yn cael dim neu ychydig iawn o effaith ar yr adnodd wedi’i ddiogelu, nail ai oherwydd eu bod yn berthnasol i ddefnydd dros dro wedi’i gyfyngu gan amser neu oherwydd eu bod yn cynnwys graddfa gymharol isel o fuddsoddiad cyfalaf (fel traciau fferm), neu oherwydd bod datblygiadau presennol yn yr un lleoliad yn golygu'r un faint o gyfyngiadau neu fwy o gyfyngiadau ar y posibilrwydd o waith mwynau.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. datblygiad deiliad tŷ sy’n gysylltiedig â’r mwynhad o anedd-dŷ presennol
  2. datblygiad tai mewnlenwi rhwng anheddau presennol
  3. anheddau newydd, pan fo’r annedd presennol yn cadw hawl defnydd preswyl
  4. adeiladau amaethyddol newydd (gan gynnwys pyllau slyri ayb) ac estyniadau ar adeiladau amaethyddol presennol o fewn buarth presennol, neu pan fyddai adeilad amaethyddol newydd yn cymryd lle adeilad amaethyddol presennol ar yr un safle
  5. traciau mynediad amaethyddol
  6. cynigion ar gyfer y defnydd dros dro o dir (e.e. safleoedd carafannau, cyfleusterau compostio) pan fo amod yn gosod dyddiad terfyn penodol ar y defnydd hwnnw, a phan ceir gwared ag unrhyw ddatblygiad gweithredol perthnasol ar ôl darfod y defnydd hwnnw

4.9.4.3.

Mewn achosion lle nad yw ansawdd a dyfnder wedi’u profi mewn perthynas ag adnoddau craig galed, gall mathau eraill o ddatblygiad fod yn gyson â’r dull diogelu os yw’r ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth fel samplau twll turio, sy’n dangos na fydd unrhyw adnoddau craig galed masnachol ddichonadwy yn cael eu heffeithio.

4.9.5.

Lleiniau Diogelwch Chwareli

POLICY MWS/4 - LLEINIAU DIOGELWCH CHWARELI View Map of this site ?

Diogelir y tir a ddynodwyd fel lleiniau a ddiogelir ar y Map Cynigion rhag datblygiad anaddas, er mwyn cynnal digon o bellter rhwng y chwareli a defnyddiau arall y tir.

4.9.5.1.

Mae dau bwrpas i lain ddiogelu. Un yw diogelu amwynder trigolion a defnyddwyr tir sensitif eraill; a’r llall yw sicrhau fod gweithredwyr mwynau’n gallu gweithio’n arferol heb gyfyngu arnynt gan bresenoldeb defnyddwyr tir sensitif. Yn y polisi hwn, mae ‘datblygu anaddas’ yn cynnwys gweithio mwynau (o fewn y llain ddiogelu) a defnydd tir y gellir effeithio arnynt gan hyn (fel tai). Mae MTAN1 yn argymell y dylai’r lleiniau diogelu fel arfer fod o leiaf yn 200m o amgylch pob ardal weithredol, ar gyfer tywod a graean y pellter a argymhellir yw 100m. Yng Nghonwy, nid yw bob amser yn bosibl cyflawni’r pellter hwn, oherwydd agosatrwydd terfynau aneddiadau presennol.  Dangosir hyd a lled y lleiniau diogelu ar Fap y Cynigion.

4.9.5.2.

Gan nad yw mapio daearegol a geomorffolegol yn wyddor fanwl gywir, nid yw’r Map Cynigion yn nodi llain ddiogelu ar wahân o amgylch yr Ardal Diogelu Tywod a Graean neu o amgylch yr adnoddau yn y dynodiad Craig Galed wedi’i Diogelu nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio cyfredol ar gyfer gwaith mwynau.  Ond, bydd yr egwyddor o ddarparu lleiniau priodol yn yr ardaloedd hyn yn berthnasol o hyd. Felly, byddai angen i unrhyw geisiadau cynllunio yn yr ardaloedd hyn ystyried yr angen am ystyried effeithiau uniongyrchol diheintio mwynau wrth gefn o dan safle’r cais, ac effeithiau anuniongyrchol ar y posibilrwydd o waith mwynau gerllaw.

4.9.6.

Diogelu Tywod a Graean

POLICY MWS/5 - DIOGELU TYWOD A GRAEAN View Map of this site ?

Mae’r ardal o adnoddau tywod a graean i’r de orllewin o Dal y Cafn fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi ei ddiogelu o ddulliau eraill o ddatblygu. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o fewn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean, a allai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol niweidio hyfywdra gweithio’r adnoddau hyn yn y tymor hir.

4.9.6.1.

Nid yw tywod na graean yn cael ei gloddio yn Ardal y Cynllun ar hyn o bryd. Ond, dangosodd astudiaeth mapio geomorffolegol gan Brifysgol Lerpwl fod adnoddau yn Nyffryn Conwy, y rhan fwyaf ohonynt wedi dangos ar Map y Cynigion fel Ardal Diogelu Tywod a Graean. Pwysleisiwyd bod y polisi hwn dim ond yn diogelu’r asedau hynny yn y tymor hir ac nid yw’n sefydlu rhagdybiaeth o roi plaid tuag at ganiatâd cynllunio. Mae cyfyngiadau amgylcheddol sensitif yn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean, a byddai unrhyw gloddio yn yr ardal honno angen asesiadau sensitif iawn a rheolaethau.

4.9.6.2.

Ni fwriadwyd y polisi hwn i fod yn waharddiad llwyr ar ddatblygu yn yr Ardal Diogelu Tywod a Graean. Bydd Ceisiadau o fewn yr Ardal Ddiogelu Tywod a Graean yn cael eu hasesu ar sail yr un meini prawf diogelu â’r rhai yn y dynodiad Craig Galed wedi’i Diogelu.

4.9.7.

Cynigion Ar Gyfer Rheoli Gwastraff

POLICY MWS/6 - CYNIGION AR GYFER RHEOLI GWASTRAFF View Map of this site ?

Caniateir cynigion ar gyfer ddatblygu rheoli gwastraff, gan gynnwys newid ac estyn cyfleusterau presennol, dim ond lle:

  1. Bod y cais yn ateb angen a nodwyd yng Nghynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru, neu fod angen ar lefel lleol;
  2. Ni ellir ateb yr angen drwy gyfleusterau rheoli gwastraff presennol neu gyfleusterau a gymeradwywyd;
  3. Lle bo’n bosibl, bod y cais yn adennill gwerth o’r gwastraff
  4. Fod y cais yn cyd-fynd â Pholisïau Strategol NTE/1 –‘Yr Amgylchedd Naturiol’, CTH/1 – ‘Treftadaeth Ddiwylliannol a’r egwyddorion datblygu.
4.9.8.

Lleoliadau Ar Gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

POLICY MWS/7 - LLEOLIADAU AR GYFER CYFLEUSTERAU RHEOLI GWASTRAFF View Map of this site ?

  1. Mae’r Cynllun yn nodi’r safleoedd a ganlyn ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff, fel y dangosir ar Map y Cynigion:
  1. Chwarel Llanddulas
  2. Gofer, Ffordd Rhuddlan, Abergele
  1. Yn amodol ar asesiad manwl, efallai bod y gwaith a ganlyn yn addas yn y lleoliadau hyn:
  1. Ailgylchu Deunyddiau
  2. Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff
  3. Prosesu Deunyddiau i’w Hailgylchu
  4. Treulio Anaerobig
  5. Compostio’n Fewnol
  6. Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
  7. Triniaeth Biolegol Mecanyddol
  8. Adennill Ynni

Ond, nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr ac ystyrir ceisiadau eraill ar gyfer rheoli gwastraff ar ei haeddiannau yn unol â’r meini prawf ym mholisi MWS/6.

4.9.8.1.

Mae Adolygiad Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru (2008) yn argymell y dylid nodi 21.75 hectar o dir yng Nghonwy ar gyfer darparu cyfleusterau rheoli gwastraff, gan gynnwys cyfleusterau lleol a chyfleusterau sy’n gallu gwasanaethu mwy nag un awdurdod yn rhanbarth Gogledd Cymru.  (gweler BP/20 – ‘Rheoli Gwastraff’) Ers Cyhoeddi Adolygiad Cyntaf y NWRWP, cytunwyd nad oes angen i Awdurdodau Cynllunio Lleol wneud rhagor na 20% o orddarpariaeth, gyda’r canlyniad bod angen cyfanswm o 17.4 hectar o dir yng Nghonwy. Dyrannwyd 22 hectar o dir yng Nghonwy. Bydd y defnydd tir yn cael ei fonitro yn unol â pholisi MWS/6 o ran ateb y galw am gyfleusterau fel hyn.

4.9.8.2.

Mae Chwarel Llanddulas yn ganolog i ardal Conwy a Rhanbarth Gogledd Cymru. Mae’r safle tirlenwi presennol yn un o’r cyfleusterau rheoli gwastraff fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mewn lleoliad strategol, ger yr A547 a mynediad da i brif gefnffordd (yr A55). Mae’r brif chwarel eisoes yn cael budd o ganiatâd cynllunio ar gyfer tirlenwi a chompostio.

4.9.8.3.

Mae perchnogion preifat y gwaith rheoli gwastraff presennol yn Llanddulas wedi awgrymu nifer o gyfleusterau rheoli gwastraff posibl yn y dyfodol yn y lleoliad hwn, gan gynnwys cyfleuster rheoli gwastraff integredig a fyddai’n gallu cynnwys amrywiaeth o ddulliau technolegol a thrin gwastraff fel compostio, ailgylchu deunyddiau neu drosglwyddo gwastraff.

4.9.8.4.

Mae Gofer ar safle tirlenwi blaenorol ond ar hyn o bryd mae’n cynnwys gorsaf swmpio, gorsaf drosglwyddo a chyfleuster gwastraff y cartref. Mae’r ardal ger yr A547, gyda mynediad da i’r A55. Mae mapiau llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi nad yw’r safle mewn perygl oherwydd llifogydd.

4.9.8.5.

Mae adolygiad cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn nodi ardaloedd chwilio a ystyrir yn addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn y dyfodol. Ond nodir yn bendant yn adolygiad cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Cymru nad yw’r ardaloedd ar y mapiau i’w defnyddio naill ai ar gyfer rheoli datblygu neu fel canllawiau diffiniol er mwyn dewis safle i’w gynnwys yn y CDLl. Mae’r  rhesymau llawn dros ddewis Llanddulas a Gofer fel lleoliadau gwastraff strategol ar gyfer rheoli gwastraff i’w cael yn y Papur Cefndir ar Ddarparu Safleoedd.

4.9.8.6.

Ni ddylid ystyried y rhestr o gyfleusterau rheoli gwastraff ym mholisi MWS/7 fel rhestr ddiffiniol. Bydd ceisiadau ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn amodol ar asesiad manwl i benderfynu a ydynt yn addas, fel y nodwyd ym Mholisi MWS/6. Efallai bydd angen Trwyddedau Amgylcheddol ar adnoddau fel hyn gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Dylid nodi nad yw’r Cyngor yn bwriadu tirlenwi gwastraff nad yw’n anweithredol yn y lleoedd hyn.

4.9.9.

Defnyddio Tir Diwydiannol Ar Gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

POLICY MWS/8 - DEFNYDDIO TIR DIWYDIANNOL AR GYFER CYFLEUSTERAU RHEOLI GWASTRAFF View Map of this site ?

Caniateir cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ar safleoedd    diwydiannol presennol, lle bo'r datblygiad bwriedig yn cwrdd â gofynion Polisi MWS/6.

4.9.9.1.

Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn argymell y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol asesu tir diwydiannol sydd ar gael ar gyfer gwaith rheoli gwastraff addas. Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff mewn safleoedd o’r fath yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau eu hunain.  Sefydlwyd angen am ofynion tir B2 yn ystod cyfnod y Cynllun lle bydd lefel uchel o dir wedi’i ymrwymo ond heb ei ddatblygu ar gael ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff fel hyn, ar yr amod eu bod yn ateb gofynion Polisi MWS/6 a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun.

4.9.10.

Diogelu Cyfleusterau Gwastraff Presennol

POLICY MWS/9 - DIOGELU CYFLEUSTERAU GWASTRAFF PRESENNOL View Map of this site ?

Mae tir a nodwyd ar Fap y Cynigion yn:

  1. Bron y Nant Road, Mochdre
  2. Chwarel Llanddulas
  3. Gofer, Abergele
  4. Plas yn Dre, Llanrwst

Wedi eu diogelu ar gyfer rheoli gwastraff oni bai fod safleoedd addas eraill wedi eu darparu, yn unol â Pholisi MWS/6.

4.9.10.1.

Bydd y Cynllun yn diogelu tir yng nghyn chwarel Llanddulas ar gyfer gwaith compostio a thirlenwi presennol, ac fel estyniad ar gyfer tirlenwi gwastraff anadweithiol pan fo angen yn ystod cyfnod y cynllun. Bydd y safleoedd eraill a nodwyd uchod yn cael eu diogelu fel safleoedd ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff.

4.9.10.2.

Disgwylir y bydd y lle a ganiateir ar gyfer tirlenwi yn chwarel Llanddulas yn llawn erbyn 2015.  Hyd yn oed gyda dulliau trin gwastraff eraill, bydd angen lle ar gyfer tirlenwi ychwanegol yn ystod cyfnod y cynllun i gael gwared â gwastraff gweddillol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwrthwynebu’n chwyrn anfon unrhyw wastraff i’w dirlenwi (heblaw gwastraff anadweithiol) yn Llanddulas.  Mae felly’n ddoeth chwilio am dir addas ar gyfer tirlenwi gwastraff gweddillol, petai angen hynny. Comisiynodd y Cyngor ymgynghorwyr i chwilio am safleoedd fel hyn, a fyddai’n addas ar gyfer tirlenwi neu godi lefel y tir.  Casgliad yr astudiaeth yw na ddylai’r Cyngor ddynodi ardaloedd a nodwyd yn yr astudiaeth oherwydd bod angen gwaith pellach i benderfynu a fyddai’r safleoedd hyn yn ddichonadwy, a bod modd eu cyflawni o bersbectif mynediad o’r briffordd a thirweddu. Mae mynediad o’r briffordd yn broblem neilltuol i’r ddau faes chwilio oherwydd bod angen i gerbydau nwyddau trwm fynd trwy furiau tref Conwy, ac effeithiau mwy o drafnidiaeth ar gyffordd pont Tal y Cafn ar yr A470 allai fod yn niweidiol i ddiogelwch y briffordd ym maes chwilio 1, a thopograffeg serth ym maes chwilio 2 gan fwyaf, ond nid yma’n unig. Gall problemau o’r fath olygu bod datblygu safle tirlenwi yn y lleoliadau hyn nid yn unig yn anymarferol ond yn annichonadwy’n ariannol hefyd, felly ni fyddai’n ddoeth cynnwys yr ardaloedd hyn o fewn y CDLl.

4.9.10.3.

Ers cwblhau’r astudiaeth hon ym mis Ebrill 2009, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) wedi cwblhau’r data LANDMAP ar gyfer yr holl Fwrdeistref Sirol.  O edrych ar y ddau faes chwilio, mae maes chwilio 1 o fewn ardal sydd wedi’i dynodi yn dirwedd ddiwylliannol eithriadol.  Hefyd, mae maes chwilio 2 o fewn ardal sydd wedi’i dynodi yn dirwedd ddiwylliannol eithriadol, ac yn rhannol o fewn tirwedd ddaearegol sydd wedi’i dynodi yn un o ansawdd eithriadol. Felly gellir dod i’r casgliad o’r asesiad lefel strategol bod y ddau faes chwilio wedi’u cyfyngu yn arwyddocaol ac nid yw’n ymddangos bod yr un ohonynt yn addas ar gyfer dyraniad o’r math hwn. Mae awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn cyd-drafod i geisio canfod ateb rhanbarthol ar gyfer rheoli gwastraff gweddilliol.

4.9.10.4.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Astudiaeth Dichonoldeb Tirlenwi ym Mhapur Cefndir 26 – ‘Astudiaeth Dichonolrwydd Tirlenwi’.

4.9.11.

Llain Ddiogelwch Tirlenwi

POLICY MWS/10 - LLAIN DDIOGELWCH TIRLENWI View Map of this site ?

Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad bregus o fewn y llain ddiogelwch tirlenwi.

4.9.11.1.

Ar y cyfan, maeAsiantaeth yr Amgylchedd yn cynghori dylai datblygiadau fod o leiaf 250 metr oddi wrth safleoedd tirlenwi. Y perygl mwyaf i ddatblygiadau ger safleoedd tirlenwi yw’r un a gynigir gan nwy tirlenwi symudol yn teithio trwy’r graig waelodol ac yn mynd i mewn i eiddo o’r ddaear. Hefyd, ceir problemau o dro i dro mewn perthynas ag arogl, llwch, sŵn a phlâu. Felly, mae llain ddiogelwch 250 metr o amgylch y safle tirlenwi wedi cael ei dynodi i sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol sydd wedi eu lleoli yn yr ardal yma. Dylid dwyn pob cais am ddatblygiad preswyl (heblaw deilydd tŷ), cyflogaeth, twristiaeth a chyfleusterau cymunedol i sylw Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd sylwadau gan y ddwy ochr yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu a ddylid caniatáu’r datblygiad.

4.9.11.2.

Mae dau safle wedi’u dyrannu ar gyfer datblygu tai sy’n syrthio ar ymyl y llain ddiogelwch tirlenwi. Fodd bynnag, does gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor nac Asiantaeth yr Amgylchedd unrhyw wrthwynebiad i ddatblygu tai yn y lleoliad penodol hwn.

4.9.12.

Wastraff Adeiladau neu Ddymchwel Adeiladau

POLICY MWS/11 - GWASTRAFF ADEILADU NEU WASTRAFF DYMCHWEL ADEILADAU View Map of this site ?

Lle bo cais ar gyfer datblygiad yn cynnwys dymchwel adeilad neu adeiladau presennol neu dyllu a chael gwared ar ddefnydd ychwanegol, bydd y Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr gyflwyno datganiad dull i nodi sut fyddent yn ailddefnyddio deunyddiau i’r eithaf.

4.9.12.1.
Mae lleihau neu ailddefnyddio gwastraff o ddatblygu safleoedd, (gan gynnwys gwastraff dymchwel adeiladau) yn lleihau’r gwastraff y mae’n rhaid ei reoli a chael gwared ohono yn y pen draw. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu tuag at leihau nwyon tŷ gwydr a faint o ddeunyddiau adeiladu newydd neu sy’n cael eu cloddio, eu tynnu, eu prosesu a’u cludo. Mae hyn yn gryn arbediad ariannol i ddatblygwyr, oherwydd eu bod yn osgoi taliadau tirlenwi a’i fod yn atal gorfod talu treth agregau ar gyfer defnyddiau craig. Defnyddir amodau cynllunio fel modd i wella rheoli gwastraff y broses datblygu yn unol ag Egwyddorion Datblygu.

Related Map Links

Some sections of this text contain a 'globe with link' icon. Clicking on this icon will take you to the map that is relevant to this text.

Sometimes, there is no spatial component or map feature that is specific to the text. In this case the link will take you to the overview map of the relevant map.

If there is a specific area relevant to the text it will be shown as a red highlighted overlay on the map at a suitable viewing scale.

« Back to contents page | Back to top