5. ADRAN 5 - FFRAMWAITH GWEITHREDU A MONITRO

5.1.

Fframwaith Gweithredu a Monitro

5.1.1.

O dan y system gynllunio newydd bwriedir i’r Cynllun Datblygu Lleol fod yn ddogfen ymatebol, ddeinamig sydd yn canolbwyntio ar weithredu a chyflawni wrth siapio lle.  Felly, mae’r fframwaith ar gyfer gweithredu polisïau a chynigion a mecanweithiau ar gyfer moni tro llwyddiant yn allweddol i lwyddiant LDP Conwy.

5.1.2.
Mae’r adran hon yn amlinellu sut bydd polisïau LDP yn cael ei gweithredu yng nghyd-destun cyfyngiadau isadeiledd a sut bydd y nodau ac amcanion yn cael eu monitro.  Bydd llawer o’r polisïau yn yr LDP yn cael eu gweithredu trwy Ddogfennau Cynllun Datblygu eraill fel Prif Gynllun Bae Colwyn. Bydd Strategaeth Gymunedol Conwy (CS), y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (LSB) a phartneriaid allweddol hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn darparu polisïau yn yr LDP. Mae’r asiantaethau a’r partneriaethau allweddol sy’n debygol o fod â rôl mewn darparu’r polisïau wedi eu hamlygu yn Nhabl 15.
5.1.3.
Mae presenoldeb mecanweithiau clir ar gyfer gweithredu a monitro yn ffurfio rhan o’r prawf cadernid yr LDP.  Mae monitro yn helpu ateb sawl cwestiwn allweddol:
  • Ydi polisïau yn cyflawni eu hamcanion?
  • Oes canlyniadau na ragwelwyd i’r polisïau?
  • Ydi’r tybiaethau a’r amcanion tu ôl i’r polisïau dal yn berthnasol?
  • Ydi’r deilliannau a ddymunir yn cael eu cyflawni?

5.1.4.
Er mwyn asesu effeithlonrwydd y polisïau wrth ddarparu ar gyfer datblygu a diogelu’r amgylchedd, mae’n bwysig bod polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu monitro a’u hadolygu yn barhaus trwy gyfnod y Cynllun. Bydd monitro ac adolygu yn digwydd bob blwyddyn trwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR). Os, o ganlyniad i fonitro ac adolygu, yr ymddengys nad yw’r polisïau a’r dyraniadau yn cael eu cwrdd ac nad yw’r datblygiad yn symud ymlaen mewn modd cynaliadwy neu amserol, bydd y Cyngor yn rhagweithiol wrth ddefnyddio ei bwerau i ymateb i amgylchiadau newidiol.  Gellir dechrau’r mecanweithiau canlynol:
  • Camau i ddwyn ymlaen safleoedd i ddatblygu, lle bo’n bosibl, mewn partneriaeth gyda thirfeddianwyr a datblygwyr
  • Camau i ddwyn ymlaen safleoedd datblygu ar dir a ddatblygwyd eisoes
  • Defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol i ddatgloi safleoedd
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddwyn ymlaen buddsoddiad mewn isadeiledd
  • Adolygu dyraniadau tir neu bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol

5.1.5.
Wrth weithredu’r polisïau fesul camau, i alluogi’r cynllun, bydd agwedd monitro ac adolygu  yn cael ei defnyddio fel canllaw i roi’r datblygiad ar waith fesul camau a pherfformiad yn erbyn y targed tir a ddatblygwyd eisoes. Lle mae monitro’n dangos nad yw’r safleoedd yn dod ymlaen fel y rhagwelwyd, bydd safleoedd eraill yn cael eu dwyn ymlaen yn y rhaglen, gan ystyried yn bennaf y flaenoriaeth ar gyfer tir a ddatblygwyd eisoes. Os ydi’r cyflenwad tir yn llawer uwch na’r cyfraddau manteisio a ragwelwyd efallai bydd angen gwrthod ceisiadau nes bydd y cynllun yn cael ei adolygu. Bydd hefyd angen rhoi canllaw i ddatblygiadau annisgwyl, yn enwedig lle mae angen clir ar gyfer tai fforddiadwy, i aneddiadau mewn angen dros gyfnod y Cynllun.
5.2.

Ymatebion i Faterion Darparu

5.2.1.
Pe bai’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn amlygu problemau darparu mewn perthynas â’r strategaeth ddatblygu, lle nad yw targedau polisi allweddol yn cael eu cwrdd, byddai angen mynd i’r afael a rhain fel rhan o’r broses Adroddiad Monitro Blynyddol a dod i benderfyniad ynglŷn ag a fyddai angen unrhyw newid i’r LDP, neu trwy fecanweithiau eraill.
5.2.2.
Agwedd allweddol o fonitro LDP Conwy ydi’r nifer o gartrefi sydd yn cael eu hadeiladu. Bydd angen asesu’r nifer o gartrefi sydd yn dod ymlaen yng Nghonwy, yn y lleoliadau hygyrch trefol, yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Bydd polisïau eraill hefyd yn cael eu monitro ar lefelau gofodol perthnasol yn yr hierarchaeth aneddiadau, neu fel bo’n briodol i bolisïau penodol.
5.2.3.

Mae canlyniadau’r arolwg o BP/31 – ‘Gallu'r Diwydiant Adeiladu Tai’ yn dynodi gallai datblygwyr adeiladu uchafswm o 75 annedd yn ystod fesul blwyddyn yn ystod cyfnod y Cynllun ar unrhyw un safle ac yn amodol ar y nifer o ddatblygwyr yn adeiladu ar safle. Mae canlyniadau’r arolwg hwn wedi cyfarwyddo camau’r safleoedd yn Nhabl 11.

5.2.4.

Er na ragwelir hyn, pe bai’r sefyllfa yn codi lle na ellid darparu yn yr ardaloedd datblygiad trefol blaenoriaeth i gwrdd â’r anghenion tai'r ardal, byddai hyn yn sbarduno llinariad, fel amlygwyd yn y cynllun gweithredu (Tabl 15), gyda safleoedd wrth gefn yn cael eu hamlygu gan ganiatáu dwyn ymlaen safleoedd wrth gefn pe bai angen.

5.2.5.

Lle amlygwyd problemau gallu isadeiledd, bydd cyfraniadau datblygwyr a nawdd yn sicrhau darparu’r safleoedd fel y manylwyd yn y darn nesaf.

5.3.

Cyfyngiadau ar Ddatblygu

5.3.1.
Ffactor allweddol mewn gweithredu’r LDP yn llwyddiannus ydi’r isadeiledd sydd ei angen i ddwyn y datblygiad yn ei flaen. Mae yna gydnabyddiaeth eang bod tanfuddsoddiad cyhoeddus yn y gorffennol wedi arwain at roi pwysau ar ystod o gyfleusterau cyhoeddus ar draws y wlad. Yng Nghonwy, mae cyfyngiadau isadeiledd allweddol yn cynnwys cludiant cyhoeddus gwael mewn rhai lleoliadau, gallu gwaith trin carthffosiaeth cyfyngedig a chyflenwad ynni mewn ardaloedd gwledig a diffyg mannau agored. Mae hyn yn dilyn ymgynghori gyda darparwyr isadeiledd wrth ddatblygu’r LDP.
5.3.2.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn mae’n amlwg does dim problemau gallu ar gyfer darparu addysg ac iechyd. Mae’r problemau a godwyd gan ddarparwyr isadeiledd wedi cael ei ystyried wrth ddatblygu’r LDP, fodd bynnag, mae problemau eraill sy’n arwain at ofyniad i osod y datblygiad newydd fesul camau er mwyn sicrhau nad yw datblygiad a phobl yn byw ynddo/ynddo nes bod yr isadeiledd ar gael.
5.3.3.

Lle mae problemau yn amlwg gyda gallu, bydd angen i ddatblygwyr ddiwallu’r problemau gallu hynny trwy gyfraniadau datblygwyr yn unol â Pholisïau DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ a DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau newydd’.  Mae’r prif gyfyngiadau yn effeithio ar ddarparu safleoedd wedi eu hamlinellu isod.

5.3.4.

Cyfyngiadau ar fynediad

Bydd yr holl safleoedd angen ychydig o waith ar fynediad a’r ffurf adeiladu ffyrdd i ystadau neu gyffyrdd ar briffyrdd presennol. Mae rhai safleoedd angen gwaith mwy sylweddol, sydd yn rhaid ei ystyried wrth osod y datblygiad fesul camau.  Gallai hyn fod ar ffurf lledu ffyrdd, gwella gwelededd mewn cyffordd neu newidiadau i lefelau ar dir mwy serth.  Mae safleoedd sydd â mynediad fel ystyriaeth a’r cyfyngiad hwn wedi ei liwio’n goch yn nhabl 11.
5.3.5.

Cyfyngiadau ar wasanaethau i safle

Bydd diffyg gwasanaethau i safle datblygu, yn enwedig ar ffurf cyfyngiadau gallu ar rwydweithiau carthffosiaeth neu waith trin dŵr gwastraff yn oedi datblygiad. Os yw’r datblygiad yn mynd rhagddo, ond nad yw gwelliannau wedi eu gosod o fewn Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Dwr Cymru, yna bydd rhaid i’r datblygwr dalu cost y gwelliannau angenrheidiol. Mae’r cyfyngiadau hyn wedi ei lliwio mewn glas.
5.3.6.

Cyfyngiadau ar reoli risg

Os yw safle mewn perygl o lifogydd, yn aml bydd yn golygu na all y datblygiad ddigwydd, neu bydd wedi ei gyfyngu i’r rhannau hynny o’r safle sydd tu allan i barth risg llifogydd. Ar rai safleoedd, efallai caiff datblygiad ei ganiatáu pe bai dulliau lliniaru yn cael eu gweithredu, fel codi lefel y tir tu allan i’r parth risg llifogydd. Gellir dod o hyd i fanylion pellach ar y risg llifogydd o fewn ardaloedd Afon Conwy ac Afon Clwyd yn BP/17 – ‘Asesiad Risg Llifogydd Strategol’. Mae safleoedd lle gallai risg llifogydd effeithio eu datblygiad wedi ei lliwio mewn piws.
5.3.7.

Cyfyngiadau ar argaeledd safle

Mae rhai safleoedd yn addas i’w datblygu, fodd bynnag, nid ydynt ar gael ar unwaith oherwydd y defnydd cyfredol ar y safle. Os yw’r preswylwyr presennol a therfyn amser ar gyfer gadael y safle, er enghraifft os yw prydles ar fin dod i ben o fewn y cyfnod Cynllun, yna mae hyn wedi’i liwio mewn oren yn nhabl 11.

5.3.8.

O dan rhai amgylchiadau, efallai bydd angen gorchymyn prynu gorfodol (CPO) i alluogi datblygiad i symud ymlaen. Mewn sefyllfa fel hon, dylid caniatáu o leiaf chwe mis, neu ar gyfer datblygiadau mwy cymhleth, a chyda gwrthwynebiadau yn arwain at ymchwiliad cyhoeddus, mae rhwng 12 a 18 mis yn raddfa amser mwy priodol.

5.4.

Cynllun Darparu Tai a Datblygu Conwy

5.4.1.

Mae darparu tai, yn enwedig AHLN yn flaenoriaeth allweddol o’r Cynllun hwn. Fel dangoswyd yn BP/9 – ‘Astudiaeth Ymarferoldeb Tai Fforddiadwy’ ac a amlinellwyd yn HOU/2 – ‘Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol’, bydd angen i’r holl ddyraniadau tai a cheisiadau newydd ddarparu uchafswm o 30% o dai fforddiadwy yn Ardal Strategaeth datblygu Trefol a Haen 1 Pentrefi a 100% o fewn yr aneddiadau sy’n weddill ac yn syrthio o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig. Mae Polisi HOU/2 yn ddigon hyblyg i annog datblygwyr i gyflwyno tystiolaeth lle maent yn teimlo nad yw’r uchafswm o 30% yn ymarferol.

5.4.2.

Y flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor ydi gwneud darpariaeth tai fforddiadwy ar safle.  Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd taliad o swm gymudol yn dderbyniol fel manylwyd ym Mholisi HOU/2.  Er mwyn sicrhau darparu tai fforddiadwy mewn ardaloedd o angen, bydd symiau cymudol yn cael eu darparu ledled Bwrdeistref y Sir fel manylwyd ym ‘Mhrotocol Symiau Cymudol’ a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

5.4.3.

Er mwyn sicrhau bod oddeutu 6,800 (450 o anheddau’r flwyddyn) yn cael eu hadeiladu yn y Sir erbyn 2022 mae angen amlygu’r gwahanol ffynonellau o dai ychwanegol a llunio polisïau a chynigion a fydd yn hwyluso ei ddarpariaeth. Mae cynllun darparu a datblygu tai wedi cael ei lunio ar gyfer yr LDP sy’n amlygu asesiad dynodol o’r cyfraddau adeiladu blynyddol ar gyfer y cyfnod hyd at 2022 i ddangos cyflenwad 15 mlynedd ar gyfer Conwy. Mae’r cynllun wedi cael ei baratoi i gefnogi’r polisïau tai o fewn yr LDP hwn ond byddant hefyd yn cael eu diweddaru trwy baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol Conwy (AMR). Mae elfen o gyflenwad wrth gefn (15% - sef 1100 o anheddau) wedi cael ei gysylltu â’r Cynllun i ystyried datblygiadau tai na allai ddigwydd dros gyfnod y Cynllun (Tabl 12).

5.4.4.

Mae cyflawniadau diweddar a chyfraddau cyflawni a ragwelir ar gyfer safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol yn darparu cyfraniad pwysig i’r cyflenwad tai. Mae’r rhain wedi eu dangos yn BP/5 – ‘Astudiaeth Argaeledd Tir Tai’, BP/21 – ‘Asesiad Darparu Safleoedd’ a BP/30 – ‘Cynllun Datblygu’.

5.4.5.

Mae’r Cynllun datblygu isod yn dangos sut bydd y cyflenwad tai a ddyrannwyd yn cyfrannu at ddarparu a pryd ddisgwylir i’r datblygiad ddechrau gan roi blaenoriaeth i Dir a Ddatblygwyd eisoes mewn anheddiad. Mae adolygiadau blynyddol yn caniatáu’r Cyngor i fonitro’r cynnydd ac amlygu unrhyw angen i ymyrryd. Mae’r Adain Gweithredu a Monitro yn manylu ar y pwyntiau sbarduno ar gyfer ymyriad o’r fath ar gyfer datblygiad tai a’r holl bolisïau eraill.

5.5.

Rhoi’r Datblygiad Fesul Camau

5.5.1.

O ganlyniad i’r cyfyngiadau gallu uchod mewn rhai ardaloedd, mae’r flaenoriaeth ar gyfer Tir a Ddatblygwyd Eisoes a darparu AHLN, mae angen gosod datblygiadau preswyl fesul camau er mwyn sicrhau bod yr isadeiledd cefnogol ar gael. Fodd bynnag, os yw sefyllfa yn newid efallai y bydd cyfle i ddod a datblygiad ymlaen ynghynt na ragwelwyd.  Hefyd, efallai bydd enghreifftiau lle bydd y datblygwr yn gallu mynd i’r afael a diffygion i oresgyn y broblem. Mae gwaith fesul camau manylach sy’n benodol i safleoedd wedi’i nodi yn BP/30 – ‘Cynllun Datblygu’.

5.5.2.

Mae’r cynllun darparu tai a datblygu isod yn dangos yr agwedd i’w chymryd i osod datblygiadau preswyl newydd fesul camau. Mae’r cynllun yn cymryd am y rhan cyntaf o gyfnod y Cynllun, bydd cyflawniadau anheddau yn cynnwys yn bennaf y datblygiad sydd eisoes a chaniatâd cynllunio. Mae eglurhad o’r ffigyrau cyflawniadau tai ac ymrwymiad ar gael yn BP/4 – ‘Cyflenwad Tir Tai’ a BP/21. Rhagwelir bydd y ddarpariaeth AHLN yn llai yn y tymor hir o’r Cynllun o ganlyniad i ymrwymiadau ac yn fwy yn y tymor canolig i hir pan fydd dyraniadau annisgwyl a newydd yn dod i’r amlwg.

5.5.3.

Yn ogystal â sicrhau bod gofynion safle hanfodol yn dod i’r amlwg fel blaenoriaeth, mae’r cynllun datblygu hefyd wedi’i lunio i sicrhau cyflenwad tir tai cyson am 5 mlynedd.

 

 

 

5.6.

Datblygiadau Cyflogaeth a Darpariaeth

5.6.1.

Mae Polisi EMP/2 – ‘Datblygiadau Cyflogaeth Newydd B1, B2 a B8’ yn nodi bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu'r ddarpariaeth rhwng oddeutu 32 hectar o dir cyflogaeth (26 hectar yn yr Ardal Strategaeth Ddatblygu Trefol a 6 hectar yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig) gyda lefel wrth gefn o hyd at 4 hectar yn yr ardal Strategaeth Datblygu Trefol ac 1 hectar yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig dros gyfnod y Cynllun i gwrdd â’r newid a ragwelir mewn poblogaeth.

5.6.2.

Bydd gofyniad tir ychwanegol pellach o 14 hectar, gyda 2 hectar wrth gefn yn ychwanegol, yn cael ei ymgartrefu yn yr Ardal strategaeth Datblygu Trefol er mwyn cyfrannu at y gostyngiad mewn lefelau all gymudo ac i ystyried ail ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto.

5.6.3.

Mae’n bwysig nodi’r gwahaniaeth rhwng y ddarpariaeth o hyd at 37 hectar yn seiliedig ar y galw a gynhyrchwyd gan y newid a ragwelir mewn poblogaeth a hyd at 16 hectar yn seiliedig ar y galw a gynhyrchwyd i ostwng lefelau all gymudo.  Darperir eglurhad pellach o’r ffigyrau hyn yn adran 4.3 ‘Y Strategaeth Economaidd’ (a pholisïau cysylltiedig) yn ogystal â Phapurau Cefndir 13 – ‘Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth’ ac 14 – ‘Astudiaeth Tir Cyflogaeth.’

5.6.4.

Mae tabl 13 yn nodi’r cynllun fesul camau ar gyfer darparu tir cyflogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun. Fel eglurwyd yn BP/14, bydd yna fwy o alw a’r newid tuag at ddefnyddiau B1 a B8 yn y tymor byr i ganolig o gyfnod y Cynllun a B2 yn y tymor hirach. Mae gosod tir cyflogaeth fesul camau wedi ystyried y ffactor hwn, fodd bynnag, mae yna hefyd faterion cysylltiedig ynglŷn ag argaeledd tai ac isadeiledd.  Mae datblygu cyflogaeth yn amodol ar yr un cyfyngiadau a amlinellwyd yn yr adran datblygu tai (heblaw am Addysg), fodd bynnag, mae gofynion cyflenwad ynni yn llawer anoddach i’w rhagweld heb wybod union fanylion anghenion busnes.

5.6.5.

Mae Conwy, yn benodol yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol, a lefel uchel o safleoedd cyflogaeth ymrwymedig.  Mae’r safleoedd ymrwymedig i gyd wedi cael eu datblygu ar gyfer y cyfnod byr i ganolig gan fod egwyddor y datblygiad wedi cael ei sefydlu, ac mewn rhai achosion, wedi dechrau eisoes. Mae safleoedd newydd wedi cael u rhannu yn unol â’r galw B1/B8 a B2 yn seiliedig ar BP/14 a’r cyfyngiadau darparu a amlygwyd yn BP/21 - ‘Asesiad Darparu Safleoedd.

5.6.6.

Fel gyda darparu safleoedd tai, mae safleoedd wrth gefn cyflogaeth hefyd wedi cael eu hamlinellu yn nhabl 14 isod. Nid yw’r safleoedd hyn wedi ei dyrannu yn yr LDP, fodd bynnag, maent wedi’i hamlygu yn BP/21 fel safleoedd y gellir eu datblygu pe bai unrhyw safle yn nhabl 13 yn peidio dwyn ffrwyth fel cafod ei gynllunio.  Bydd rhyddhau naill o’r safleoedd hyn yn unol â’r pwyntiau sbarduno a amlinellwyd yn y fframwaith monitro, y gellir ei gynnwys yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol.  Mae hyn yn golygu fod y lefel sbarduno ar gyfer adolygu darparu tir cyflogaeth wedi cael ei amlygu ac, yn amodol ar y materion a’r lleoliad, gellid dwyn un o’r safleoedd yn nhabl 14 isod ymlaen yn ystod cyfnod y Cynllun.

 

5.7.

Cynllun Gweithredu

5.7.1.

Mae’r Cynllun gweithredu yn dangos sut bydd polisïau penodol yn cael eu gweithredu a pha asiantaethau fydd yn cyfrannu tuag at hyn. Mewn sawl achos bydd gweithrediad manwl y polisïau trwy ddyraniadau a pholisïau fel dangoswyd yn Nhabl 15 isod. Mewn enghreifftiau eraill, bydd SPG, fel LDP4: SPG Goblygiadau Cynllunio, Briffiau Datblygu, a Prif Gynllun Bae Colwyn, yn darparu gweithrediad mwy manwl o’r polisïau.  Fodd bynnag mewn sawl achos arall mae’r ddarpariaeth yn dibynnu ar weithio integredig gydag asiantaethau a phartneriaethau eraill.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhan weithredol o sawl partneriaeth datblygu fel y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (LSB), sy’n dwyn ynghyd darparwyr gwasanaeth i weithio mewn ffordd gydlynol.

5.7.2.

Ffactor allweddol i ddarparu polisïau Adnau LDP ydi darparu isadeiledd hanfodol gofynnol ar gyfer datblygiad newydd.  Mae darparwyr isadeiledd wedi dynodi ystod o gyfyngiadau yng Nghonwy (manylwyd yn Adran 5.3 ac yn BP/21) ac mae datblygiad wedi ei osod fesul camau yn unol â’r nawdd tebygol a’r rhaglen waith a ragwelir ar yr adeg hon (gweler tablau 11 a 12 yn yr adran flaenorol). Os gellir darparu isadeiledd cyn y terfynau amser a ragwelir, neu gellir darparu cyflenwad amgen fel ynni adnewyddadwy, yna efallai gellir darparu datblygiad ynghynt na ddangosir yn y taflwybr tai.

5.7.3.

Mae’r polisïau ar Feini Prawf Datblygu (DP/4) ac Isadeiledd a Ddatblygiadau Newydd (DP/5) yn allweddol i ddarparu isadeiledd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau gyflawni rhaglen o uwchraddio cyfleusterau cyn gellir dechrau ar ddatblygiad. Ar hyn o bryd mae’r protocol goblygiadau cynllunio a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu nawdd ar gyfer addysg, llyfrgelloedd, tan hydrantau a darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol. Caiff gwelliannau isadeiledd y cludiant eu trafod yn unigol yn seiliedig ar effeithiau cludiant y datblygiad.  Mae’r Llywodraeth hefyd yn ystyried cyflwyno Ardoll Isadeiledd Cymunedol a fyddai’n golygu codi gwerth mewn tir ar gael caniatad cynllunio i’w defnyddio ar gyfer manteision cymunedol. Ar hyn o bryd nid yw manylion sut gallai cynllun o’r fath weithio yn ymarferol yn glir. Fodd bynnag, mae’r LDP yn cydnabod bod y ffordd y darperir goblygiadau cynllunio, manteision cymunedol a gwelliannau isadeiledd yn debygol o newid yn ystod hyd oes y cynllun. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn diweddariadau i’r SPG a’r Oblygiadau Cynllunio, a fydd yn cynnwys cyfraniadau AHLN. Gallai hyn gael effaith mewn perthynas ag amseru a rhaglenni uwchraddio isadeiledd ar raddfa fawr.

5.7.4.

Mae Tabl 15 ‘Cynllun Gweithredu’ yn dangos sut bydd y polisïau penodol yn cael eu gweithredu a pha asiantaethau fydd yn cyfrannu tuag at hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

5.8.

Fframwaith Monitro

5.8.1.

Ni ddylid edrych ar baratoi unrhyw gynllun fel gweithgaredd unwaith ac am byth.  Mae’n hanfodol gwirio bod y cynllun yn cael ei gweithredu yn gywir, asesu deilliannau’r canlyniad hwnnw, a gwirio os yw'r rhain dal yn bodoli fel y bwriadwyd ac fel y dymunir ar hyn o bryd. Mae hyn angen proses o fonitro parhaus, a’r potensial i adolygu polisïau a chynigion y Cynllun pan a phryd y bo angen.

5.8.2.

Mae’r system gynllunio newydd yn rhoi pwysigrwydd mawr ar y broses o adolygu'r Cynllun yn barhaus. Mae cyfansoddion yr LDP yn golygu gellir adolygu bob rhan a’i newid yn unigol gan arwain at system gynllunio fwy cyflym ac ymatebol.  Cyfansawdd allweddol o’r broses hon ydi’r gofyniad i lunio Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR).  Bob blwyddyn bydd angen cyflwyno hwn i’r Llywodraeth ag anfon gwybodaeth ddiweddaraf hyd at ddiwedd mis Mawrth o’r flwyddyn honno.  Bydd yn asesu i ba stent mae polisïau mewn dogfennau datblygu lleol yn cael eu cyflawni. Mae Rheol 37 LDP angen i’r AMR amlygu unrhyw bolisi sydd ddim yn cael ei weithredu a rhoi rhesymau ynghyd ac unrhyw gamau mae’r awdurdod yn bwriadu ei gymryd i ddiogelu'r gweithrediad o’r polisi ac unrhyw fwriad i adolygu’r LDP ac amnewid neu newid y polisi.

5.9.

Dangosyddion Monitro

5.9.1.

Mae Rhifyn e Polisi Cynllunio Cymru yn nodi dylid diweddaru polisïau cynllun datblygu trwy fonitro ac adolygu rheolaidd. Hyd yma, ni chafwyd unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â monitro LDP. Fel cymhariaeth defnyddir canllaw a ddefnyddir yn Lloegr, a elwir yn ‘Fframwaith datblygu Lleol – Canllaw Monitro’ i ffurfio fframwaith monitro gadarn ar gyfer LDP Conwy. 

5.9.2.

Dylid mesur unrhyw gynnydd tuag at weledigaeth cynlluniau yn erbyn y nifer o Ddangosyddion Perfformiad (PI). Mae’r canllaw monitro a gyhoeddwyd yn Lloegr yn cynghori y dylid cymryd agwedd strwythuredig tuag at ddatblygu dangosyddion, gan gydnabod ei gwahanol deipiau a’u pwrpasau. Mae hyn adlewyrchu’r agwedd a gymhellir ar gyfer sefydlu amcanion, diffinio polisïau, pennu targedau a dangosyddion mesur. Dylid monitro dangosyddion cyd-destunol i ddisgrifio’r cefndir cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a darparu sylfaen ar gyfer gwirio perthnasedd parhaus ac agwedd. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys o fewn yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Dylid dangosyddion canlyniadau i fesur perfformiad polisïau, trwy fesur gweithgareddau ffisegol mesuradwy sydd yn uniongyrchol berthnasol i, ac yn ganlyniad i, weithredu polisïau cynllunio. Dylid arwain eu detholiad gan amcanion gofodol a chynaladwyedd allweddol. Mae’r rhain o dri math:  dangosyddion canlyniad craidd - sydd wedi ei amlygu gan y Llywodraeth, ac sydd yn rhaid eu casglu er mwyn darparu set ddata rhanbarthol a chenedlaethol cynhwysfawr; dangosyddion canlyniadau lleol  - sy’n mynd i’r afael â materion sydd heb eu trin gan y dangosyddion craidd, ond sydd â phwysigrwydd lleol; a dangosyddion effaith sylweddol - sy’n delio ag effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sylweddol polisïau, ac sy’n gysylltiedig â’r gwerthusiad cynaladwyedd, ac a fydd yn cael ei datblygu trwy ddadansoddi.

5.9.3.

Bydd datblygu fframwaith fonitro yn raddol ac yn esblygiadol, fel rhoddir LDP Conwy i’w le, ac fel mae’r agwedd ofodol tuag at gynllunio yn cael ei datblygu.   Dylid cadw set o ddangosyddion a gesglir, gyda’r targedau cysylltiedig, yn fyr, er mwyn galluogi eu casglu a’u darparu fel set gadarn syml o fesuryddion perfformiad y cynllun. Bydd dangosyddion monitro yn feini prawf sylfaen ar gyfer mesur gweithrediad polisïau a dyraniadau. Yn ogystal â hyn, bydd cyfres o dargedau a phwyntiau sbarduno yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â dangosyddion monitro i amlygu perfformiad polisïau. Bydd y nodweddion canlynol yn ffurfio’r fframwaith monitro ac yn sicrhau gyda’i gilydd weithrediad priodol polisi yn y tablau isod.

5.9.4.

Amcan Monitro

Mae’r amcan monitro a manylion pwrpas y polisi a phe bai’n cael ei weithredu fel rhagwelir dros gyfnod y cynllun. Mae wedi ei alinio yn agos â’r amcanion gofodol trosfwaol o’r LDP er mwyn sicrhau y cedwir at yr amcanion hyn.

5.9.5.

Data Ffynhonnell

Mae hyn yn amlygu o ble daw'r data er mwyn mesur perfformiad a gweithrediad polisi. Mae M3 y Cyngor yn system geisiadau cynllunio electronig sy’n darparu dulliau i gofnodi data ceisiadau cynllunio hanfodol sy’n berthnasol i elfennau o’r Cynllun a’r Adran Fonitro. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Rheoli Datblygu i sicrhau bod data sy’n berthnasol i’r Adain Fonitro yn cael ei gofnodi trwy bob cais cynllunio a gyflwynir.

5.9.6.

Ardal

Mae’n bwysig diffinio’r ardal y mae’r dangosydd monitro yn perthyn iddo gan fod rhai polisïau yn benodol i ardaloedd arbennig. Gallai asesu’r polisïau hyn fel sir ystumio canfyddiadau a chymylu mesuriad y polisi hwnnw.

5.9.7.

Targed

Bydd y targed yn cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd y polisi yn erbyn y dangosyddion monitro. Bydd y manylion o beth ddylai’r polisi gyflawni os yw’n cael ei weithredu fel y disgwylir.

5.9.8.

Lefel Sylfaen

Dyma’r lefel y dylai’r polisi fod yn gweithio arno os yw’n cael ei weithredu fel y rhagwelwyd. Gallai unrhyw wyro o’r lefel sylfaen yma ddynodi nad yw’r polisi yn cael ei weithredu’n briodol.

5.9.9.

Lefel Sbarduno

Mae cyfres o lefelau sbarduno wedi cael ei dylunio i amlygu’r polisïau sydd ddim yn cael ei gweithredu yn llawn. Bydd gwyro o’r lefel sylfaen yn amlinellu’r lefelau sbarduno hyn.  Unwaith bydd polisi wedi gweithredu ei lefel sbarduno bydd yn cael ei asesu trwy’r broses AMR i bennu’r ffactorau a allai fod yn effeithio ar weithrediad y polisi hwnnw. Bydd y pwyntiau sbarduno yma yn sicrhau fod camau cyflym ac ymatebol yn cael eu cymryd i unrhyw faterion gweithredu polisi fel y gellir ei newid yn briodol. Lle mae dyraniadau tai a chyflogaeth yn methu dwyn ffrwyth i’w ddatblygu yn unol â’r cynllun datblygu fesul camau, bydd pwyntiau sbarduno yn procio adolygiad o’r safleoedd wrth gefn er mwyn sicrhau rhyddhad parhaus o’r tir ar gyfer datblygiad tai a chyflogaeth.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Related Map Links

Some sections of this text contain a 'globe with link' icon. Clicking on this icon will take you to the map that is relevant to this text.

Sometimes, there is no spatial component or map feature that is specific to the text. In this case the link will take you to the overview map of the relevant map.

If there is a specific area relevant to the text it will be shown as a red highlighted overlay on the map at a suitable viewing scale.

« Back to contents page | Back to top