1. Cyflwyniad

1.1.

Mae system gynllunio Cymru yn gorchymyn fod pob datblygiad newydd, ac estyniadau ac addasiadau i eiddo presennol yn cael eu dylunio’n dda.

Gall addasiadau ac estyniadau wedi’u dylunio a’u hadeiladu’n dda helpu perchnogion cartrefi i ddiwallu eu hanghenion newidiol, ychwanegu gwerth i eiddo a gwella’r ardal leol.  Gyda dyluniad da, mae hefyd yn bosibl lleihau biliau ynni ac osgoi gwastraffu adnoddau naturiol.

Bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth i’r SPG hwn wrth wneud penderfyniadau cynllunio ar unwaith. Gellir ei ystyried fel math o gyfarwyddyd cynllunio ategol (SPG) ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG) yn cynghori y gellir ei defnyddio fel modd o amlinellu cyfarwyddyd mwy manwl ar weithredu polisïau'r UDP. Er bod y cyfarwyddyd hwn yn ategol i bolisïau presennol, mae hefyd yn adlewyrchu'r cyd-destun polisi cenedlaethol diweddaraf, a bydd yn cael ei gynnwys a’i ddiweddaru yn y CDLl: am y rheswm hwn mae wedi’i labelu’n gyfarwyddyd ‘dros dro’. Yn y cyfamser, naill ochr i SPG eraill perthnasol, bydd y ddogfen hon yn ystyriaeth o bwys mewn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio unigol.

Mae Adran 1 y ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddyd ar ddylunio i berchnogion tai sy’n bwriadu cyflwyno addasiadau neu estyniadau i’w heiddo.  Mae’n egluro'r materion dylunio y bydd adran rheoli datblygu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau i chi eu hystyried.

Er hynny rydych hefyd yn cael eich argymell i ddilyn y cyfarwyddyd ar gyfer newidiadau nad oes angen caniatâd cynllunio.

Mae Adran 2 yn amlinellu'r wybodaeth y dylech ei chyflwyno gyda’ch cais cynllunio.

Cydnabyddiaeth

Mae’r ddogfen gyfarwyddyd hon yn seiliedig ar y cyfarwyddyd dylunio model a gynhyrchwyd gan LDA DESIGN ar gyfer Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

« Back to contents page | Back to top