2. Adran 1

2.1.

Paratoi eich dyluniad

Nid oes rhaid iddi fod yn anodd cyflawni dyluniad da. Drwy ddilyn y 4 cam ar y tudalennau canlynol byddwch yn mynd i’r afael â'r rhan fwyaf o faterion dylunio pwysig cyn i chi gyflwyno eich cais cynllunio.

2.2.

Cam 1

Siaradwch â’r awdurdod cynllunio lleol

Gall yr adran rheoli datblygu eich cynghori a ydych angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd arbennig arall drwy ein gwasanaeth ymholiadau.  Ar ôl i chi benderfynu pa waith rydych yn bwriadu ei wneud ar yr estyniad neu’r addasiad, dylech ddefnyddio'r cyfarwyddyd hwn i asesu a fyddai eich cais yn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd arfer da sydd wedi’i gynnwys ynddo.  Os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd o’r cyfarwyddyd hwn dylech gysylltu â’r adran rheoli datblygiad i gael rhagor o gyngor.
2.2.1.

Pa ganiatâd ydw i angen?

Mae’n bosibl y bydd rhai mân newidiadau i’ch tŷ a gwaith adeiladau bach yn yr ardd yn cael eu caniatáu heb gais cynllunio.  Yr enw am hyn yw ‘datblygiad a ganiateir’.  Gall yr adran rheoli datblygu roi copi o Gyfarwyddyd Perchnogion Tai Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n egluro pryd fydd angen caniatâd cynllunio.  Ar gyfer newidiadau eraill mae’n bosibl y byddwch angen caniatâd cynllunio.  Mae hefyd yn bosibl y byddwch angen caniatâd neu gydsyniad arbennig fel y rhestrir isod:

2.2.1.1.

Adeiladau Rhestredig

Os oes gan eich eiddo gymeriad hanesyddol neu bensaernïol arbennig mae’n bosibl ei fod yn Adeilad Rhestredig sy’n rhoi diogelwch arbennig iddo dan ddeddfau cynllunio.  Mae hyn yn golygu, cyn cyflawni unrhyw waith, y byddwch angen caniatâd Adeilad Rhestredig  gennym ar gyfer y mwyafrif o addasiadau, estyniadau a gwaith arall sy’n effeithio ar gymeriad yr Adeilad Rhestredig yn fewnol ac yn allanol.

2.2.1.2.

Ardaloedd Cadwraeth

Os yw eich eiddo mewn ardal gadwraeth mae’n bosibl y bydd eich hawliau datblygiad a ganiateir wedi’u cyfyngu.  Mewn rhai ardaloedd cadwraeth, mae Cyfarwyddebau Erthygl 4 mewn grym sy’n cyfyngu hawliau datblygiad a ganiateir.  Pwrpas hyn yw sicrhau bod nodweddion ansawdd uchel adeiladau yn cael eu cadw, gan wella'r amgylchedd y maent yn perthyn iddo.  Mae hyn yn golygu y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer mân addasiadau i du allan eich eiddo hyd yn oed ac mae’n bosibl y bydd coed o amgylch eich eiddo wedi’u diogelu.  Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd ar gyfer dymchwel o fewn Ardaloedd Cadwraeth (gweler tudalen 15 i gael rhagor o wybodaeth).

2.2.1.3.

Gorchmynion Diogelu Coed

Mae rhai coed sy’n bwysig i’r ardal leol wedi’u diogelu gan Orchmynion Diogelu Coed (TPO) a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Os yw eich gwaith yn effeithio ar TPO mae’n bosibl y byddwch angen caniatâd arbennig gennym ni.

2.2.1.4.

Rheoliadau Adeiladu

Mae’n bosibl y bydd angen i’ch gwaith gyflawni Rheoliadau Adeiladu. Mae’n bosibl y bydd angen cyflwyno cais neu rybudd Adeiladu i adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor.
2.2.1.5.

Rhywogaethau Wedi’u Diogelu

Mae’n bosibl fod rhai tai’n darparu safleoedd nythu i ystlumod sydd wedi’u diogelu gan y gyfraith.  Rhaid i chi ddweud wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) am unrhyw gamau a gynlluniwyd sy’n debygol o ymyrryd ar ystlumod neu eu safleoedd nythu.  Os ydych yn credu bod eich eiddo yn cael ei ddefnyddio fel man nythu ar gyfer ystlumod dylech gysylltu â CCGC i gael eu cyngor ar sut i symud ymlaen.  Mae manylion cyswllt ar ddiwedd y ddogfen hon.  Nodwch hefyd fod pob aderyn wedi’i ddiogelu tra’u bod yn nythu ac ni ddylid amharu arnynt yn ystod y cyfnod hwn.  I gael rhagor o wybodaeth gweler y cyfarwyddyd yn yr SPG Bioamrywiaeth.

2.2.2.

Os ydych yn gwneud unrhyw waith (gan gynnwys adeiladu estyniad neu addasiadau sydd angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd arall) heb gael y caniatâd angenrheidiol mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi unioni pethau’n ddiweddarach gan achosi anghyfleustra a chost sylweddol.

2.3.

Cam 2

Ystyried cyngor dylunio proffesiynol

Gall ymgynghorydd proffesiynol eich helpu i baratoi cynlluniau sy’n diwallu gofynion y Cyngor.

2.3.1.

Dod o Hyd i Gyngor Proffesiynol: Mae Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru (RSAW) yn cynnig cyfarwyddyd ar ddewis a phenodi pensaer.  Gall Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol, (RTPI), Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a Sefydliad Prydeinig y Technolegwyr Pensaernïol (BIAT) hefyd roi cyngor i chi.  Mae manylion cyswllt wedi’u darparu ar ddiwedd y ddogfen hon.  Fel arall efallai eich bod yn gwybod am rywun sydd wedi gwneud gwaith tebyg ac efallai y gallant awgrymu rhywun allai eich helpu chi.  Mae’n syniad da i gael geirda gan gleientiaid blaenorol a gweld prosiectau a gwblhawyd ganddynt os yw’n bosibl.

2.3.2.

Paratoi briff: Mae’n fuddiol i chi ysgrifennu eich gofynion dylunio, faint rydych eisiau ei wario a pha ddarluniau rydych angen i gyd-fynd â’ch cais cynllunio fel briff i’r dylunydd.  Rhan bwysig o’r briff yw’r gofynion yn y cyfarwyddyd hwn.

2.4.

Cam 3

2.4.1.

Siaradwch â’ch cymdogion

Ar ôl i chi wneud cais cynllunio byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’ch cais gyda rhybudd safle ac ymgynghori â’ch cymdogion.  Os yw eich cymdogion neu drydydd parti’n gwrthwynebu’n ysgrifenedig i ni, gallai olygu oedi yn eich cais neu efallai y bydd angen i chi newid eich cynlluniau.

2.4.2.

Dylech siarad â’ch cymdogion i egluro’ch cynigion cyn cwblhau eich cynlluniau.  Os yw eich cynigion yn effeithio ar wal gydrannol bydd angen i chi gydymffurfio gyda Deddf Waliau Cydrannol 1996.  Cysylltwch â’ch ymgynghorydd cyfreithiol os nad ydych yn sicr os yw hyn yn berthnasol i chi.

2.5.

Cam 4

2.5.1.

Dilyn y cyfarwyddyd dylunio

Dylech wirio gyda'r adran rheoli datblygu pa ddarluniau a chynlluniau sydd eu hangen gyda’ch cais.  Gall cyflwyno darluniau anghyflawn neu annigonol arafu eich cais cynllunio. Rhoddir cyngor ar y gofynion arferol ar ddiwedd y ddogfen hon.

2.5.2.

Dylech ddilyn y cyfarwyddyd a amlinellir yn y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i sicrhau dyluniad da. Bydd y Cyngor yn gwirio os yw eich cynlluniau’n dilyn y cyfarwyddyd hwn.  Os nad ydynt yn gwneud hynny, mae’n bosibl y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod.

2.6.

Nodyn cyfarwyddyd 1

2.6.1.

Deall eich ty a’ch ardal

Un o amcanion y system gynllunio yw diogelu nodweddion presennol adeiladau a strydoedd. Dylid dylunio estyniadau ac addasiadau i gyd-fynd â chymeriad eich eiddo a’ch stryd neu eich ardal. I gyflawni hyn bydd angen i chi ddeall cymeriad eich eiddo a’ch ardal. Yn benodol dylech ystyried sut bydd eich cynigion yn cyd-fynd â'r nodweddion a ddangosir ar y darluniau isod.

Uchod: drychiad stryd nodweddiadol gyda thai pâr. Lle mae hyn yn bodoli gall y llinell adeiladu bennaf fod yn rhan allweddol o gymeriad yr yn aml.

Isod: golygfa o gefn stryd nodweddiadol o dai teras

2.7.

Nodyn cyfarwyddyd 2

2.7.1.

Estyniadau ac ystafelloedd gwydr

Codi estyniad neu ystafell wydr yw’r newid mwyaf sylweddol rydych yn debyg o ddymuno’i wneud i’ch eiddo.  Os yw’r dyluniad yn wael, gall effeithio ar eich eiddo, eich cymdogion a’ch stryd.

2.7.2.

Maint, siâp a safle

Amlinellir rhai o’r prif egwyddorion i’w cofio wrth ystyried maint, siâp a safle’ch estyniad. Ni fydd estyniadau i’r blaen fel arfer yn dderbyniol ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Mae’n bwysig ystyried sut mae’ch estyniad neu eich ystafell wydr yn darparu mynediad a llefydd parcio fel yr amlinellir yn nodyn cyfarwyddyd 7.

Ni ddylai'r estyniad neu'r ystafell wydr ddominyddu eich tŷ.  Oni bai eich bod yn bwriadu adeiladu porth ar flaen eich tŷ, fel rheol dylai estyniadau ac ystafelloedd gwydr fod gryn dipyn yn llai na maint y tŷ ac wedi’u gosod i’r ochr neu i’r cefn;

Dylai fod gan yr estyniad neu'r ystafell wydr gymesuredd x a y tebyg (i’r rhai a ddangosir yn y diagram isod) a dylai’r ongl ar y toeau fod yr un fath a’ch tŷ chi;

Os yw’n bosibl dylai'r estyniad neu'r ystafell wydr adael gofod rhesymol o amgylch y tŷ ac arwynebedd digonol o ran gardd;

Rhaid i estyniadau neu ystafelloedd gwydr ar dai cornel barchu'r strydwedd a chael triniaethau terfyn addas;

Weithiau gall cymdogion gyfuno estyniadau i rannu’r manteision. Fel y dangosir dros y dudalen

2.7.3.

Osgoi cysgodi eiddo cyfagos

Ni ddylai estyniadau ac ystafelloedd gwydr i’r cefn daflu cysgodion mawr dros dai na gerddi cymdogion. Yn gyffredinol, gellir osgoi hyn drwy gadw o fewn llinell ar 45° o ganol ffenestr llawr isaf agosaf unrhyw brif ystafell mewn eiddo cyfagos, fel y dangosir uchod. Bydd graddau’r cysgod a daflir yn dibynnu ar y cyfeiriad mae eich tŷ’n ei wynebu.

2.7.4.

Preifatrwydd ac edrych drosodd

Ni ddylai estyniadau edrych dros dai na gerddi cyffiniol.  Os oes bwriad i gael ystafelloedd anheddu fel ystafelloedd gwely, ystafelloedd byw, stydis neu geginau ar y llawr cyntaf neu’n uwch, dylid bod yn ofalus i osgoi edrych drosodd yn uniongyrchol o ffenestri a balconïau yn benodol os yw'r estyniad yn agos at y terfyn. Mewn rhai achosion fel safleoedd ar lethrau, dylid bod yn ofalus eich bod yn osgoi edrych drosodd o estyniadau llawr gwaelod.  Mae’r esiamplau canlynol yn rhoi rhyw awgrym cyffredinol o’r hyn sy’n dderbyniol.

 Gellir osgoi edrych dros ardd cymydog drwy sicrhau fod y pellter gwahanu yn ddigonol.

Gall codi wal neu ffens 2 fetr gynnig sgrin breifatrwydd rhwng estyniad un llawr neu ystafell wydr a gardd y cymdogion.

Ni ddylai ystafelloedd gwydr edrych dros ardd y cymdogion. Mae hyn yn fater o bwys uwch os yw’r ystafell wydr yn uwch i fyny.  Dylid defnyddio gwydr aneglur ar unrhyw ddrychiadau ochr, yn enwedig o fewn 2 fetr i eiddo cyfagos.

2.7.5.

Estyniadau deulawr mewn sefyllfa cefn wrth gefn

  • Os yw ffenestr fwriedig i ystafell fyw, ystafell fwyta, cegin neu ystafell wely yn wynebu ffenestr debyg yn uniongyrchol ar eiddo cyfagos fel rheol dylai'r pellter rhyngddynt fod yn o leiaf 21 metr mewn sefyllfa cefn wrth gefn. (diagram a isod)

Os gellir osgoi edrych yn uniongyrchol dros ystafell fwyta, ystafell fyw, ystafell wely neu gegin drwy osod y ffenestri o leiaf 18 metr o’i gilydd. (diagram b isod)

  • Os yw wal sy’n cynnwys ffenestri ystafell fyw, ystafell fwyta, ystafell wely neu gegin yn edrych dros  wal heb unrhyw ffenestri ar eiddo cyfagos dylai pellter fod yn 15 metr. (diagram c isod)Os yw adeiladau ar uchder gwahanol, mae’n bosibl y bydd angen cynyddu'r pellter i sicrhau preifatrwydd digonol. (diagram d isod):

Os yw adeiladau ar uchder gwahanol, mae’n bosibl y bydd angen cynyddu'r pellter i sicrhau preifatrwydd digonol. (diagram d isod):

2.7.6.

Estyniadau un llawr

Mae’n bosibl y bydd pellter is yn dderbyniol ar gyfer byngalos, estyniadau un llawr ac ystafelloedd gwydr gan ddibynnu ar drefniant y ffenestri a ffensys terfyn neu wrychoedd a blannwyd.  Bydd yr adran rheoli datblygu yn rhoi cyngor i chi ar yr hyn sy’n dderbyniol yn eich amgylchiadau penodol chi.

2.7.7.

Osgoi effeithiau ‘gormesol’

Ni ddylai estyniadau ac ystafelloedd gwydr fod yn ormesol ar eich cymdogion.  Fel rheol, ni ddylai estyniadau deulawr fod yn agos iawn at derfyn cyfagos eiddo cymdogion.  Bydd yr adran rheoli datblygu yn dweud wrthych os ydynt yn credu y bydd eich cynigion yn ormesol.

Estyniad mawr newydd gydag effaith ormesolar yr eiddo llai o faint cyfagos.

2.7.8.

Cadw bwlch digonol rhwng eiddo sydd y drws nesaf at ei gilydd

Dylai estyniadau ochr ac ystafelloedd gwydr adael bwlch digonol rhwng yr eiddo.  Mae hyn yn bwysig yn benodol ar gyfer strydoedd gyda thai sengl a thai pâr lle gall estyniadau ochr a garejys lenwi’r bylchau a chreu ymddangosiad o deras. Bydd y Cyngor yn cyfeirio at hyn fel ‘effaith terasu'.Dylai estyniadau ochr ac ystafelloedd gwydr fod yn ddigon pell yn ôl o flaen yr eiddo a dylai fod ganddynt uchder crib is na’r tŷ i osgoi’r effaith terasu.

Estyniad ochr yn ôl o flaen y tŷ ac 1 metr o’r terfyn ochr.

2.7.9.

Ffenestri a drysau

Dylai maint, siâp, dyluniad a chyfrannedd ffenestri a drysau ar estyniadau fod yn debyg i rai’r tŷ.  Dylent hefyd adlewyrchu patrwm a threfniant  ffenestri’r tŷ.

Dylid cadw drws ffrynt a phrif fynedfa bresennol y tŷ oni bai fod yr adran rheoli datblygu yn dweud wrthych fod mynediad arall i’r estyniad yn dderbyniol

Estyniad ochr: gormod o ffenestriEnghraifft wael: ffenestri yn gwbl wahanol i’r tŷ gwreiddiol

2.7.10.

Steil pensaernïol:

Yn gyffredinol, dylai steil pensaernïol eich estyniad gyd-fynd â’ch tŷ presennol gyda manylion tebyg ar y to, ffenestri, drysau a deunyddiau allanol.Os ydych chi’n credu fod agwedd mwy cyfoes tuag at y dyluniad yn briodol, dylech drafod hyn gyda ni ar unrhyw  adeg.  Yn naill achos neu’r llall byddwn eisiau bod yn siŵr y bydd eich cynigion yn cyfrannu tuag at ansawdd yr ardal leol.

2.7.11.

Defnyddio’r deunyddiau cywir

Dylech osgoi deunyddiau allanol sy’n gwrthdaro â’r eiddo presennol a’r ardal o’i amgylch.  Mae hyn yn bwysig yn enwedig ar gyfer addasiadau i’r estyniadau blaen ac ochr gan fod y rhain fel arfer yn haws i’w gweld o’r stryd.

Dan y rhan fwyaf o amgylchiadau dylai’r deunyddiau rydych yn defnyddio ar gyfer eich estyniad, garej neu dŷ allan orfod cyfateb i’r rhai a ddefnyddir yn y tŷ;

Er nad yw efallai’n bosibl dod o hyd i ddeunyddiau sy’n cyfateb, yn enwedig ar gyfer tai hŷn,  bydd yn parhau i fod disgwyl i’ch cynigion ddefnyddio deunyddiau sy’n gweddu i liwiau, naws a graen eich tŷ ac eiddo cyfagos os yw’n briodol.

2.7.11.1.

Deunyddiau Traddodiadol a ddefnyddir mewn eiddo hyn

Mae’r deunyddiau traddodiadol a ddefnyddir ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn cynnwys y pethau canlynol a all fod yn sail i ddewis deunyddiau ar gyfer datblygiadau newydd:

Waliau

  • Rendrad, byrddau tywydd, cladin llechi ar dalcennau yn y golwg.
  • Gwaith bric – briciau peiriannu coch yn bennaf a rhai briciau stoc gwladaidd.
  • Gwaith carreg - carreg galch a gwenithfaen, wedi gorchuddio fel arfer, defnyddir rhywfaint o galchfaen du mewn datblygiadau mwy newydd.   

To

  • Llechi lleol naturiol – defnyddir ar draws yr ardal.  Mae teils clai sydd wedi’u defnyddio  ar nifer o ddatblygiadau newydd yn llai ffafriol.
  • Gwellt – yn wreiddiol defnyddiwyd gwellt hir, bellach nid yw brwyn y dŵr yn cael eu defnyddio’n aml.
  • Led, Copr a Sinc - a ddefnyddir ar doeau fflat, goledd ysgafn yn ogystal â dyffrynnoedd, ffosydd parapet, dyffrynnoedd, cribau ac ymylau.
2.7.11.2.

Defnydd Priodol o Ddeunyddiau mewn Datblygiadau Newydd

Fel rheol mae deunyddiau lleol naturiol yn cael eu ffafrio.  I ddiogelu a gwella hunaniaeth a chymeriad lleol bydd y Cyngor fel arfer yn disgwyl i’r deunyddiau hyn gael eu defnyddio ar ddatblygiadau newydd.

Dyma rai eithriadau posibl;

  • Estyniadau i adeiladau presennol sydd eisoes wedi’u creu o ddeunyddiau llai traddodiadol
  • Cynlluniau mewnlenwi bach mewn ardaloedd lle nad oes hunaniaeth leol gryf a lle mae’r rhan fwyaf o adeiladau cyfagos heb eu hadeiladu gyda deunyddiau o’r ystod draddodiadol.
  • Adeiladau neu grwpiau o adeiladau o bensaernïaeth arloesol, cyfoes lle nad yw eu dyluniad na’r gwaith adeiladu’n gweddu i’r defnydd o ddeunyddiau traddodiadol.

Mewn Ardaloedd Cadwraeth, dylai deunyddiau bob amser gael eu dewis o’r ystod draddodiadol leol o gynhyrchion a wnaed â llaw a rhai naturiol.  Dim ond mewn eithriadau fydd deunyddiau llai traddodiadol yn dderbyniol.

2.7.12.

Ardaloedd Cadwraeth

Gall y Cyngor ddynodi ardaloedd cadwraeth mewn rhannau o drefi a phentrefi sydd â gwerth pensaernïol neu hanesyddol arbennig.  Ar hyn o bryd mae 23 ardal gadwraeth yn yr ardal gynllunio yn:

Abergele (canol y dref)Llandudno (canol y dref a glan y môr)Llansannan
Betws-yn-RhosLlanelian yn RhosHen Golwyn
CerrigydrudionLlanfairfechan (canol y dref)Penmaenmawr (canol y dref)
Bae Colwyn (Pwllycrochan)Llanfairfechan (The Close)Penmaenmawr (Penmaenan)
Bae Colwyn (canol y dref)LlanfairtalhaiarnPenmaenmawr (St. David’s Rd./Bell Cottages)
Conwy (canol y dref)LlangernywPentrefoelas
GwytherinLlangwmLlan San Siôr
Llandrillo yn RhosLlanrwst (canol y dref) 

Rhaid i gynigion datblygu yn yr ardaloedd hyn barchu eu cymeriad arbennig.  Yn ogystal, mae pwerau rheoli cryfach yn bodoli er mwyn cynnal neu wella'r amgylchedd.  I grynhoi, mae hawliau datblygiad a ganiateir yn fwy cyfyngol nac mewn llefydd eraill neu efallai nad ydynt yn berthnasol o gwbl; mae angen ‘Caniatâd Ardal Gadwraeth’ ar gyfer y rhan fwyaf o waith dymchwel, a rhaid rhoi rhybudd o chwe wythnos am unrhyw fwriad i dorri, tocio neu docio rhan uchaf coeden.

Gellir archwilio cynlluniau manwl yn dangos terfynau'r ardaloedd cadwraeth yn yr Adran Gynllunio.  Gall yr Adran hefyd roi cyngor i chi am unrhyw waith rydych yn bwriadu ei wneud, y gymeradwyaeth ffurfiol y byddwch efallai ei angen, a grantiau a allai fod ar gael. Ar ôl eu cwblhau, gall Gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth ddarparu gwybodaeth werthfawr ar gymeriad arbennig ardal.

2.7.13.

Cyfarwyddebau Erthygl 4

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r rheolau cynllunio ychwanegol a elwir yn Gyfarwyddeb Erthygl 4 yn Ardaloedd Cadwraeth Conwy, Llandudno, Llanrwst a Phenmaenmawr.  Cawsant eu cyflwyno pan ddaeth i’r amlwg fod cymeriad ac ymddangosiad canol y trefi hyn yn cael eu heffeithio gan addasiadau amhriodol a digydymdeimlad ynghyd â’r defnydd o ddeunyddiau anaddas.

Mae Cyfarwyddeb Erthygl 4.2 yn cael gwared ar hawliau datblygiad a ganiateir. Mae hyn yn golygu bod angen cael cymeradwyaeth gan yr Awdurdod Cynllunio i gyflawni gwaith addasu penodol a datblygiadau eraill yng nghwrtil yr eiddo.  Ni fydd angen talu unrhyw ffi ar gyfer ceisiadau cynllunio o’r fath.

2.8.

Nodyn cyfarwyddyd 3

2.8.1.

Garejis a thai allan

Y prif egwyddorion i’w ystyried wrth ystyried maint, siâp a safle eich garej neu dŷ allan yw:

  • Ni ddylai garejis a thai allan gymryd gormod o’r lle o amgylch adeiladau. Dylid eu dylunio gan ystyried mynediad a pharcio (gweler Nodyn Cyfarwyddyd 7).
  • Ni ddylent arwain at golli coed neu nodweddion eraill sy’n bwysig i’r ardal.
  • Rhaid i dŷ allan fod gryn dipyn yn llai o ran graddfa na’r tŷ.
  • Fel rheol, dylai garejis a thai allan beidio bod o flaen eiddo domestig ac ni ddylent ddominyddu eiddo presennol o’u cwmpas.
  • Dylai drysau garejis fod mor gul ag sy’n ymarferol.  Mae dau ddrws garej sengl yn well nag un drws dwbl.

2.9.

Nodyn cyfarwyddyd 4

2.9.1.

Ffenestri dormer a ffenestri yn y to

Nid ydym fel arfer yn caniatáu ffenestri dormer ar flaen eich tŷ, oni bai eu bod yn nodwedd leol bresennol.

Mae ffenestri to yn llai ymwthiol na ffenestri dormer a gallant leihau’r problemau o edrych drosodd a newid siâp cyffredinol y to.  Bydd cynyddu uchder to annedd drwy addasu uchder y bondo neu'r goledd yn anodd iawn i’w gyflawni’n foddhaol ac ni fydd yn dderbyniol mewn teras neu stryd lle mae uchder a goledd to'r un fath.

Y prif egwyddorion yw:

  • Ni ddylai ffenestri dormer ddominyddu'r prif do ond dylent ddefnyddio'r un goledd a manylion to a’r prif do;
  • Ni ddylai ffenestri dormer orchuddio mwy nac uchafswm o 20% o arwynebedd y to lle mae wedi’i osod;
  • Dylai ffenestri dormer fel arfer fod yn bell yn ôl o’r bondo, i lawr o’r ymyl ac i mewn o’r ymyl/ llinell y gwter;
  • Dylai ffenestri dormer newydd adlewyrchu dyluniad y ffenestri blaenorol sy’n nodwedd wreiddiol o adeiladau yn eich ardal neu stryd;
  • Dylid gosod ffenestri dormer i gyfateb â phatrwm ffenestri gweddill eich tŷ;Yn aml mae dwy ffenestr ddormer lai’n cael eu ffafrio dros un ffenestr fawr;

Gan ddibynnu ar safle trawslath y to (y strwythur gorweddol sy’n cefnogi llwyth y to) a lefel y llawr, dylid gosod ffenestri to o fewn traean canol goledd y to i ffwrdd o dalcenni neu ymyl y to a simneiau os yw’n bosibl;

Os oes mwy nac un ffenestr yn y to dylent fod ar yr un lefel, gyda bwlch cyfartal, a dylent fod yr un fath o ran maint, siâp a dyluniad;

Yn yr ardaloedd cadwraeth ac ar adeiladau rhestredig, mae'r defnydd o ffenestri yn y to arbennig ar gyfer cadwraeth yn cael eu ffafrio, gan fod eu proffil yn is a bod eu steil yn fwy traddodiadol.

Mewn ardaloedd cadwraeth, bydd siâp, dyluniad, manylion a deunyddiau toeon yn ffactor bwysig wrth sefydlu cymeriad yr ardal. Mae angen mwy o ofal a chyngor i osod unrhyw adeileddau fel ffenestri dormer neu ffenestri to neu newid prif siâp y to, gan gynnwys cael gwared ar simneiau.

2.10.

Nodyn cyfarwyddyd 5

2.10.1.

Triniaethau terfyn

Mae waliau, rheiliau a gatiau ar flaen eich tŷ’n cyfrannu tuag at ansawdd y stryd ac yn darparu diogelwch.  Maent hefyd yn helpu amgáu strydoedd a’u gwneud yn fwy deniadol i gerddwyr. Gall strydoedd fod yn llai deniadol os yw triniaethau terfyn ar y blaen yn amrywio neu ar goll .

Egwyddorion allweddol:

  • Dylai uchder triniaethau terfyn blaen fod yr un fath ac yr un maint â thriniaethau terfyn yr eiddo bob ochr iddynt.  Mae hyn yn hynod bwysig os ydynt yr un fath yn gyffredinol ar draws y stryd, neu os yw’n nodwedd o’r ardal leol
  • Ni ddylai triniaethau terfyn newydd ar y blaen rwystro golygfeydd o’r tŷ o’r stryd, na’r olygfa o'r stryd o’r tŷ, am resymau yn ymwneud ag estheteg a diogelwch.

2.11.

Nodyn cyfarwyddyd 6

2.11.1.

Plannu

Mae coed a phlanhigion presennol yn helpu gwneud ardaloedd yn fwy deniadol ac yn ychwanegu at werth eich cartref.  Er hynny mae’n hawdd niweidio coed a phlanhigion wrth wneud gwaith naill ai drwy effeithio ar y tir o amgylch ardal y gwreiddiau neu drwy dorri gwreiddiau.

Ni ddylid gwneud gwaith adeiladu dan ganopïau coed neu o fewn radiws o ddau fetr i goed llai gyda chrib ei ddatblygu;

Diogelir rhai coed dan y gyfraith drwy Orchmynion Diogelu Coed.  Mae’n anghyfreithlon i gyflawni gwaith ar, neu dynnu'r coed hyn i lawr heb ganiatâd.  Os oes amheuaeth holwch y Cyngor i weld a oes unrhyw goed yn eich eiddo wedi’u diogelu gan orchmynion diogelu coed.

Hefyd, os yw eich eiddo mewn Ardal gadwraeth dylech holi Adran Rheoli Datblygu'r Cyngor cyn gwneud unrhyw waith a allai effeithio ar unrhyw goed gan fod cyfreithiau diogelu arbennig yn berthnasol.

Rhaid diogelu gwreiddiau coed mwy fel rheol o fewn ardal sy’n cyd-fynd gyda'r canopi uwchben.  Yn y parth hwn ni ddylid storio deunyddiau adeiladu ac ni ddylid torri nac amharu ar wreiddiau.

2.12.

Nodyn cyfarwyddyd 7

2.12.1.

Darparu ar gyfer mynediad a pharcio

Mae’n bosibl y byddwch angen cymeradwyaeth ar wahân gan Adran Priffyrdd y Cyngor os bydd eich estyniad neu addasiad bwriedig yn arwain at newid mewn mynediad i’ch cerbyd, mwy o lefydd parcio, dreif newydd, croesfan newydd i’r palmant neu ymyl y ffordd neu os oes angen cwrb is newydd.  Bydd hefyd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os ydych eisiau creu mynedfa newydd neu fwy llydan ar gyfer eich dreif tuag at gefnffordd neu ffordd arall wedi’i dosbarthu.  Gall adran briffyrdd y Cyngor ddweud wrthych chi os yw’r ffordd yn perthyn i’r categori hwn.

Egwyddorion allweddol:

  • cadwch y lefydd parcio presennol oddi ar y ffordd;
  • holwch y Cyngor os ydych chi angen rhagor o lefydd parcio o ganlyniad i’ch estyniad. Gall hyn fod yn wir os yw’n cynnwys ystafelloedd gwely ychwanegol;
  • dylai’r fynedfa fod yn ddiogel a bydd yr adran briffyrdd yn dweud wrthych beth yw eu safonau diogelwch a sut i’w cyflawni;
  • ni fydd gatiau’n cael eu caniatáu os ydynt yn agor allan i’r palmant neu i’r briffordd;
  • mae’n bosibl y bydd angen ardal droi cerbydau oddi ar brif ffordd neu ffordd brysur iawn ar eich plot os byddwch yn creu mynedfa newydd er mwyn sicrhau nad oes rhaid i gerbydau fagio allan i’r ffordd;
  • dylai lle parcio arferol fesur 2.4metr wrth 4.8metr neu fwy ar gyfer mynediad pobl anabl (hyd at 3.8 wrth 6metr o hyd).  Mewn garej dylid cynyddu lled gofod parcio arferol i led o 2.8metr er mwyn caniadau drysau’r car i gael eu hagor;
  • ni fyddai unrhyw garej newydd sydd ei angen i ddarparu lle parcio gael effaith niweidiol ar ddiogelwch defnyddwyr y briffordd;
  • os yw’n bosibl dylid parcio cerbydau mewn man lle gellir profi eu bod yn lleihau cyfleoedd ar gyfer troseddwyr.
  • mewn rhai ardaloedd nid yw cael gwared ar erddi ffrynt yn cael ei annog gan fod hyn yn aml yn gallu bod yn niweidiol i amwynder y strydwedd.

Dylai drws garej fod o leiaf 6 metr yn ôl o’r terfyn blaen i ganiatáu cerbyd i barcio o’i flaen. Garej/tŷ allan yn rhy agos i’r gornel ar gyfer gwelededd, o flaen llinell yr adeilad ac nid yw’r dreif yn ddigon hir. 
2.13.

Nodyn cyfarwyddyd 8

2.13.1.

Decin uwch a balconïau

Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai dyluniadau decin a balconïau.  Os ydych yn ystyried adeiladu decin neu falconi dylech sicrhau na fydd yn dominyddu cymeriad yr eiddo, na’i ymddangosiad fel y gwelir o’r stryd.  Bydd hefyd angen i chi ystyried y graddau mae'r decin neu’r balconi yn edrych dros eiddo eich cymydog a lleihau hyn os yw’n bosibl.

2.14.

Nodyn cyfarwyddyd 9

2.14.1.

Effeithlonrwydd adnoddau

Mae adeiladau ym Mhrydain yn gyfrifol am hanner y llygredd ‘nwyon tŷ gwydr’ CO2.  Mae effeithlonrwydd adnoddau yn golygu lleihau'r ynni mae eich tŷ angen ar gyfer gwresogi, goleuo a defnyddiau ynni eraill.  Mae hefyd yn golygu defnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu nad oes angen llawer o ynni naill i’w cynhyrchu neu eu hadeiladu.

Amlinellir y gofynion isafswm i gyflawni effeithlonrwydd adnoddau mewn gwaith adeiladu newydd yn y Rheoliadau Adeiladu.  Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddarparu llyfryn am ddim i chi, ‘Rheoliadau Adeiladu’, sy’n amlinellu safonau mae’n rhaid i chi eu cyflawni.

Rydym yn annog cynigion ar gyfer addasiadau ac estyniadau sydd yn cyflawni lefelau uchel o effeithlonrwydd o ran adnoddau.

Egwyddorion allweddol:

  • Defnyddiwch lefelau uchel o insiwleiddio. 250mm o insiwleiddio llofft a tua 100mm o insiwleiddio wag geudod a 100mm o insiwleiddio dan lawr gwaelod cadarn yw’r argymhellion arferol;
  • Dylai gwydr fod yn wydr dwbl wedi’i selio gyda 12mm o ofod aer a ‘gwydr E isel’ i leihau colledion gwres;
  • Os yw’n bosibl defnyddiwch ddeunyddiau wedi’u cynhyrchu’n lleol ac sy’n dod o ffynhonnell y gellir ei adnewyddu heb niwed i’r amgylchedd.  Gall deunyddiau wedi’u hadfer o ansawdd uchel arbed adnoddau a gallant hefyd ddarparu cyfatebiaeth well gyda'r adeilad presennol;
  • Dylech osgoi defnyddio pren caled trofannol ac edrych am bren sydd wedi’i ardystio ei fod yn dod o ffynonellau cynaliadwy;
  • Wrth ddylunio eich addasiad neu estyniad ystyriwch a oes modd cynnwys nodweddion i gynhyrchu ynni. Gall hyn gynnwys paneli solar neu dyrbinau gwynt domestig.
  • Gall paneli gwresogi dŵr solar ddarparu 50% o’ch gofynion dŵr poeth, a gall paneli ffotofoltaidd a thyrbinau gwynt gynhyrchu rhywfaint o’ch trydan. Er ein bod yn annog nodweddion arbed ynni, os ydynt wedi’u lleoli’n wael gallant dynnu oddi ar gymeriad eich tŷ neu eich cymdogaeth, yn enwedig os yw’r adeilad yn rhestredig neu o fewn ardal sensitif fel Ardal gadwraeth. Os ydych yn bwriadu ymgorffori unrhyw un o’r nodweddion hyn dylech wirio a ydynt angen caniatâd cynllunio;
  • Gallwch hefyd arbed ynni a gwres yn eich cartref drwy wneud y defnydd gorau o wres yr haul, os yw eich estyniad yn wynebu'r de ddwyrain neu'r de orllewin. Fel rheol dylai ffenestri ar ochr ddeheuol yr adeilad fod yn fwy na’r rhai ar yr ochr ogleddol;
  • Trefnu gosodiad mewnol yr estyniad er mwyn i’r prif ystafelloedd y byddwch yn byw ynddynt fod ar y wyneb deheuol yr adeilad os nad yw hynny’n achosi problemau gydag edrych drosodd;
  • Yn yr haf gallwch osgoi'r angen am oeri neu systemau awyru drwy sicrhau fod y ffenestri sy’n wynebu’r de wedi’u cysgodi, er enghraifft gyda gordo neu goed neu fleindiau sy’n adlewyrchu;
  • Er y gall ystafelloedd gwydr ddarparu ystafell olau ychwanegol yn ystod misoedd y gaeaf gallant fod yn gostus iawn i’w gwresogi ac yn y gaeaf gallant wastraffu ynni.  Dylid gwahanu ystafelloedd gwydr oddi wrth y prif dŷ gan wal wedi’i hinsiwleiddio a drysau y gellir eu cau a ffenestri i atal colledion gwres;
  • Os yw’n briodol, dylid defnyddio technegau draenio cynaliadwy (SUDS) fel palmant athraidd, cynaeafu dŵr glaw (casglu dŵr sy’n rhedeg oddi ar eich eiddo mewn casgenni dŵr) a dylid ystyried toeau ‘gwyrdd’ fel rhan o ddatblygiadau perchnogion tai;
  • Mewn glaw trwm, gall dŵr sy’n rhedeg oddi ar arwynebau caled fod yn ormod i ddraeniau gan achosi llifogydd a llygredd.  Gallwch osgoi hyn drwy ddefnyddio to ‘gwyrdd’, sydd â gwair neu blanhigion ar ben croen gwrth ddŵr a rhaid i’w oledd fod yn llai na 15 gradd.  Mae arwynebau palmant  athraidd fel blociau neu briciau yn y ddaear, yn caniatáu dŵr glaw i ddraenio i ffwrdd yn raddol.  Gall casgenni dŵr glaw fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o ddŵr ar gyfer dyfrio'r ardd neu olchi'r car mewn cyfnodau sychach;
  • Os yw eich cynigion yn cynnwys dymchwel, ailddefnyddiwch cymaint â phosibl o wastraff dymchwel ar y safle; a,
  • Darparwch fynedfeydd i’r tŷ i ffwrdd o’r gwyntoedd cryfaf a’u diogelu gyda phorth neu lobi.

Mae nifer o fanylion cyswllt i gael gwybodaeth ar ynni adnewyddadwy wedi eu cynnwys ar ddiwedd y ddogfen hon.

2.15.

Nodyn cyfarwyddyd 10

2.15.1.

Atal troseddau

Mae ymrwymiad ar y cyngor i annog dyluniad sy’n lleihau troseddau dan adran 17 y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.  Rydym felly’n gofyn i chi ystyried y mesurau syml canlynol sy’n aml yn rhad i leihau'r posibilrwydd o ddioddef trais.

Rhowch eich hun yn esgidiau'r byrgler. Yw eich tŷ’n darged hawdd? Beth fedrwch chi ei wneud i wneud eich cartref yn fwy diogel?

Os yw byrgler neu leidr yn credu byddant yn cael eu gweld maent yn llai tebygol o gyflawni trosedd felly darparwch oruchwyliaeth naturiol da o’ch tŷ i’r stryd, eich gerddi a’ch dreif. Gellir cyflawni hyn drwy osod ffenestri’n ofalus;

Os yw’n bosibl gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gweld eich lle parcio o’ch tŷ;

Mae terfynau isel i’r blaen yn sicrhau cymaint o welededd â phosibl ond mae waliau uchel a ffensys o 1.8metr yn darparu diogelwch da i’r cefn.  Dylech fedru cloi mynedfeydd ochr;

Ystyriaethau diogelwch allweddol: lleihau gwelededd o’r ardd gefn o’r stryd, oruchwyliaeth o’r dreif a’r stryd; golygfa glir o flaen y stryd; ffens ddiogel i’r cefn.

Bydd gweithredu golau o amgylch eich cartref rhwng cyfnos a gwawr yn atal byrgleriaid;

Dylech sicrhau fod pob clo wedi’i osod yn ddiogel ac yn cyflawni Safonau Diogelwch Prydeinig ar gyfer cloeon (BS3621), ffenestri (BS7950) a drysau (PAS 24-1).

Ystyriwch osod larwm lladron o ansawdd uchel, sydd wedi profi i fod yn ataliwr.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi dogfennau cynhwysfawr, “A guide to home security” www.crimereduction.gov.uk/cpghs.htm ac "An introduction to domestic surveying” www.crimereduction.gov.uk/learningzone/homesurvey.htm?fp sydd ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.

« Back to contents page | Back to top