3. Adran 2
Cyflwyno eich cais cynllunio
Mae gan eich Cyngor ofynion safonol ar gyfer cyflwyno cais cynllunio. Amlinellir manylion amdanynt yn y nodiadau cyfarwyddyd sy’n dod gyda ffurflenni cais.
Mae’n syniad da i gyflwyno datganiad dylunio ysgrifenedig gyda’ch pecyn cais cynllunio sy’n rhoi crynodeb o sut rydych wedi ymateb i’r cyfarwyddyd a ddarparwyd gan y ddogfen hon, yn enwedig os yw eich cais yn ymwneud ag adeilad rhestredig neu os yw o fewn ardal gadwraeth. Er nad yw yn orfodol ar hyn o bryd, efallai y bydd yn ofynnol i gyflwyno datganiadau dylunio yn y dyfodol. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol ar 01492 575247 i wirio'r sefyllfa bresennol.
Gofynion arferol ar gyfer cais cynllunio
Dylai'r holl wybodaeth a gyflwynir ar gyfer cais cynllunio gynnwys cyfeirif prosiect; fel cyfeiriad yr eiddo, cyfeirif a dyddiad.
Cynllun lleoliad
- Graddfa 1:1250 os yw’n bosibl ond dim llai na 1:2500
- Gan gynnwys pwynt Gogleddol
- Amlinellu safle’r cais gyda llinell goch, gan ddynodi unrhyw dir cyfagos y mae’r ymgeisydd yn berchen arno neu’n ei reoli gyda llinell las
- Dangoswch eiddo’r cais mewn perthynas â phob eiddo cyfagos a’r ardal uniongyrchol o’i gwmpas, gan gynnwys ffyrdd
- Dangoswch fynedfa gerbydau i briffordd os nad yw'r safle yn gyfagos i briffordd
Manylion cynllun presennol y safle – cynllun blociau
- Graddfa, fel rheol 1:200 neu raddfa briodol er mwyn canfod y lefel ofynnol o fanylion
- Pwynt gogleddol, dyddiad a nifer o gynlluniau
- Dangoswch yr holl eiddo, gan gynnwys pob adeilad, gardd, gofod agored a lle parcio
- Os yw’n bosibl: arolwg coed – Cadwraeth natur, bioamrywiaeth, draeniad a nodweddion naturiol eraill. – Gwasanaethau presennol
- Dynodwch bob terfyn a safle'r adeiladau agosaf
- Lefelau presennol y safle (mewn perthynas â datwm allanol)
Manylion y cynllun safle bwriedig
- Graddfa, fel rheol 1:200
- Pwynt gogleddol, dyddiad a rhifau ar y cynlluniau
- Dangoswch osodiad unrhyw adeilad neu estyniad newydd, mynedfa i gerbydau/cerddwyr, newidiadau i lefelau, cynigion tirlunio, gan gynnwys y coed i’w torri i lawr, plannu o’r newydd, waliau a ffensys newydd neu rai wedi’u haddasu, a gofodau agored newydd gydag arwyneb caled
- Dangoswch y cynigion yng nghyd-destun adeiladau cyfagos
- Lefelau bwriedig safleoedd/ slabiau (mewn perthynas â’r datwm allanol ar gyfer y cynlluniau safle presennol)
Cynlluniau llawr
- Graddfa 1:50 neu 1:100
- Gydag estyniadau, dangoswch gynllun llawr yr adeilad presennol i ddangos y berthynas rhwng y ddau, gan nodi gwaith newydd yn glir
- Dangoswch gynlluniau llawr yng nghyd-destun adeiladau cyfagos, os yw’n briodol
- Yn achos mân geisiadau efallai y bydd yn briodol cyfuno'r cynllun a’r cynllun llawr (oni bai fod unrhyw ddymchwel yn digwydd)
- Dylech gynnwys cynllun to os oes angen i ddangos to cymhleth neu addasiad i un
Drychiadau
- Drychiadau presennol wedi’u labelu’n unigol gan nodi’r cyfeiriad
- Graddfa 1:50 neu 1:100 (i gyd-fynd â’r cynlluniau llawr)
- Dangoswch bob drychiad yr adeilad neu’r estyniad newydd
- Yn achos estyniadau neu addasiad, gwahaniaethwch yn glir rhwng y drychiadau presennol a’r rhai bwriedig
- Dylech gynnwys manylion deunyddiau ac ymddangosiad allanol
- Dangoswch drychiadau yng nghyd-destun adeiladau cyfagos, os yw’n briodol
- Dangoswch y drychiadau presennol/ bwriedig gyda’r ffasadau presennol
Croes Doriadau
- Graddfa 1:50 / 1:100 (i gyd-fynd â’r cynlluniau llawr), os yw’n briodol.
Gwybodaeth Ategol
- Defnyddiwch fontage o luniau, dehongliad arlunydd ac/neu ddarluniadau CAD i ddangos y cynlluniau
- Mae modelau 3D wedi’u hadeiladu’n werthfawr ar gynlluniau mawr i helpu dangos pentyrru a’r berthynas rhwng adeiladau.
Darllen pellach
- Llywodraeth Cynulliad Cymru 2010, Polisi Cynllunio Cymru
- Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005, TAN 8 Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy
- Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009, TAN 5 Cadwraeth Natur
- Llywodraeth Cynulliad Cymru 2002, TAN 12 Dyluniad
- Llywodraeth Cynulliad Cymru 2003, Cyfarwyddyd i Berchnogion Tai
- Llywodraeth Cynulliad Cymru 2004, Cynllun Gweithredu Datblygiad Cynaliadwy
- Rheoliadau Adeiladu – Llyfryn esboniadol
- Caniatâd Cynllunio – Canllaw ar gyfer Busnes
- Canllaw Cynllunio i Berchnogion Tai ar gyfer Gosod Dysglau Teledu Lloeren
- Cynlluniau Lleol a Cynlluniau Datblygu Unedol
- Hysbysebion ac Arwyddion Awyr Agored – Canllaw ar gyfer Hysbysebwyr
- Deddf Waliau Cydrannol Etc. 1996: llyfryn esboniadol
- Coed a Ddiogelwyd - Canllaw i Drefnau Diogelu Coed
Efallai y bydd y cyhoeddiadau mwy manwl hyn yn ddefnyddiol i rai darllenwyr:
- SPG Bioamrywiaeth, 2010, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- BRE 2000, The Green Guide to Housing Specification
- Building Research Establishment "Site Layout Planning for Daylight and Sunlight" 1991
- BREEAM (BRE Environmental Assessment Method), www.breeam.org
- British Standards Institute BS8300, 'Access for Disabled People'
- CABE/DCfW 2004, Creating Excellent Buildings
- Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, Adran 17
- Gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Considerate Constructors Scheme, www.ccscheme.org.uk
- DETR 2000, By Design
- DETR GPG287, The Design Team's Guide to Environmentally Smart Buildings
- Comisiwn Hawliau Anabledd www.drc.org.uk, Designing for Accessibility,
- Centre for Accessible Environments www.cae.org.uk
- DoE/Countryside Commission, "Lighting in the Countryside: Towards good practice"
- DTLR/CABE, 2001, Better Places to Live
- Evans et al mis Tachwedd 1998 - The Long Term Costs of Owning and Using Buildings,
- Yr Academi Beirianneg Frenhinol
- ODPM 2004, Safer Places - The Planning System and Crime Prevention
- Sustainable Buildings: Benefits for occupiers, BRE Information paper
- Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 16/94, 'Cynllunio i Atal Troseddu’
- Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96, 'Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth’.
Cysylltiadau
Architecture Centre Network
Mae’r Architecture Centre Network (ACN) yn cydlynu, cefnogi ac yn arloesi mewn gwaith pensaernïol a chanolfannau tebyg. Mae ACN yn ceisio sicrhau rhagor o wybodaeth, mynediad a chyfranogiad a dylanwad, ar bobl lefel, wrth greu amgylchedd adeiledig ardderchog i bawb www.architecturecentre.net/
Building for Life
Mae Building for Life yn tynnu ynghyd y dylunwyr gorau a’r meddylwyr creadigol i gefnogi dyluniad o ansawdd ar dai newydd.www.buildingforlife.org
CADW
Cadw yw’r asiantaeth amgylcheddol hanesyddol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am ddiogelu, cadw, a hyrwyddo gwerthfawrogiad o’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.
Plas Carew Uned 5/7, Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ
Ffôn: 01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001
Y Ganolfan Technoleg Amgen
Elusen amgylcheddol sy’n ceisio ‘ysbrydoli, rhoi gwybod, a galluogi’ pobl i fyw yn fwy cynaliadwy. Rhai o’r meysydd gwaith allweddol yw ynni adnewyddadwy, adeiladu amgylcheddol, effeithlonrwydd ynni, tyfu organig a systemau carthffosiaeth amgen.
Canolfan Technoleg Amgen, Machynlleth, Powys, SY20 9AZ, UK
Ffôn: +44 (0)1654 705950
Sefydliad Siartredig y Technolegwyr Pensaernïol
397 City Road, London, EC1V 1NH
Ffôn: +44 (0)20 7278 2206
www.ciat.org.ukCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth arall a allai eich helpu i baratoi a chyflwyno eich cais cynllunio ar gael ar wefan y Cyngor: www.conwy.gov.uk
Gwasanaethau Rheoleiddio, Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn LL29 8AR. Ffôn: (01492) 574000
Rheoli Adeiladu, Swyddfeydd Ddinesig, Bae Colwyn, LL29 8AR. Ffôn: (01492) 574000
Priffyrdd, Yr Heath, Penmaenmawr Road, Llanfairfechan, LL33 0PF. Ffôn: (01492) 574000
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru yn hyrwyddo balchder dinesig fel modd o wella ansawdd bywyd i bawb yn y llefydd maent yn byw a gweithio ynddynt, ac yn annog gweithredu cymunedol, dyluniad da, datblygiad cynaliadwy a pharch tuag at yr amgylchedd adeiledig ymysg pobl o bob oed.
3ydd Llawr Empire House, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FN.
Ffôn: 02920 484606
Ffacs: 02920 464239
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ymgynghorydd statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a’r cyfle i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru a’r dyfroedd mewndirol.
Maes-y-Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2DW
Am unrhyw ymholiad cyffredinol ffoniwch linell Ymholiadau CCGC ar 0845 1306229 neu
e-bost: ymholiadau@ccgc.gov.uk
Comisiwn Dylunio Cymru
Nod DCFW yw cefnogi safonau uchel o bensaernïaeth, tirlun a dyluniad trefol yng Nghymru gan hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o bwysigrwydd ansawdd da yn yr amgylchedd adeiledig, cefnogi cynyddu sgiliau, annog cynhwysiad cymdeithasol a datblygiad cynaliadwy.
DCfW, Llawr 4, Building Two, Caspian Point, Caspian Way, Bae Caerdydd CF10 4DQ.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Sefydliad nid am elw, wedi’i ariannu gan y llywodraeth a’r sector preifat. Sefydlwyd ar ôl Uwch Gynhadledd y Byd yn Rio 1992, nod y sefydliad yw cyflawni defnydd cynaliadwy o ynni a gostwng allyriadau carbon deuocsid.
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru, Wales Albion House, Oxford Street, Nantgarw, Caerdydd CF15 7TR
Ffôn: 01443 845930
Ffacs: 01443 845940
Gwybodaeth ar effeithlonrwydd ynni i berchnogion cartrefi
Ffôn: 0845 727 7200
Y Sefydliad Tirlun
Y Sefydliad Tirlun yw’r Sefydliad Siartredig yn y DU ar gyfer Penseiri Tirlunio, gan gynnwys dylunwyr, rheolwr a gwyddonwyr, sy’n ymwneud â gwella a chadw'r amgylchedd.
33 Great Portland Street, London W1W 8QG
Ffôn: 020 7299 4500
Ffacs: 020 7299 4501
e-bost: mail@l-i.org.uk
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Gwybodaeth swyddogol ar y Cynulliad Cenedlaethol, ei aelodau a’i swyddogaethau gan gynnwys cynllunio a dylunio.
Cymunedau a Llywodraeth Leol
Gwefan defnyddiol ar gyfer gwybodaeth cynllunio llywodraeth y DU
Y Porth Cynllunio
Porth y llywodraeth i wybodaeth gynllunio ar draws Prydain. Mae’n darparu gwybodaeth ar gynlluniau, apeliadau, ceisiadau, manylion cyswllt, meysydd ymchwil.
RSAW
Cyfansoddwyd Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru (RSAW) yn sefydliad rhanbarthol o’r Sefydliad Brenhinol o Penseiri Prydeinig (RIBA) yng Nghymru.
Adeilad Bute, King Edward VII Avenue, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NB
Ffôn: 029 2087 4753
Ffacs: 029 2087 4926
RICS Cymru
Ffôn: + 44 (0)870 333 1600 neu
e-bost contactrics@rics.org.uk
RTPI
Royal Town Planning Institutem, 41 Botolph Lane, London, EC3R 8DL
020 7929 9494
Rhif Elusen Cofrestredig 262865
Sefydliad Cadwraeth Adeiladu Hanesyddol
3, Stafford Road, Tunbridge Wells, Kent,TN2 4QZ