1. Cyflwyniad
Mae’r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol ddrafft hon wedi’i pharatoi i roi arweiniad i ymgeiswyr ar sut fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn asesu effeithiau posibl datblygiadau ar agweddau o’r Iaith Gymraeg o fewn cymunedau. Mae’n nodi pa wybodaeth ategol fydd ei hangen ar gyfer rhai datblygiadau ar draws ardal y CDLl.
Mae’r Canllawiau wedi’u paratoi gan ystyried polisïau sy’n datblygu yng Nghynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd 2007 – 2022 rhifyn diwygiedig 2010 (CDLl). Mae’n ystyried polisïau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gofodol Cymru (2008), Polisi Cynllunio Cymru (PPW 2010), Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 – Yr Iaith Gymraeg (2000) a pholisïau cynllunio perthnasol yr ACLl (gweler adran 3). Mae wedi’i seilio ar ganllawiau yn y ddogfen ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – y ffordd ymlaen’ (2005).
Aeth y Cyngor ati i lunio’r Canllawiau hyn drwy ymgynghori â Chynghorau Môn a Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a chydag arweiniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Swyddog Datblygu Iaith Gymraeg y Cyngor.
Mae’r ddogfen hon yn berthnasol i ardal ACLl Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, h.y. y rhan o’r sir sydd y tu allan i derfyn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gan y Parc ei ACLl a’i bolisïau cynllunio lleol ei hun, gan gynnwys Canllawiau Cynllunio Atodol ar Gynllunio a’r Iaith Gymraeg (2007).