2. Y Gymraeg yn Nghonwy

2.1.
Mae’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithas a diwylliant Cymru. Fe’i siaredir gan 20.8% o’r boblogaeth, ac yng Nghonwy, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, gall 29.2% o’r boblogaeth siarad Cymraeg (ffynhonnell: Cyfrifiad 2001). Mae cyfran y siaradwyr yn amrywio’n fawr. O’r 33 o gymunedau yn y Fwrdeistref Sirol, siaredir y Gymraeg gan fwy na 70% o’r bobl mewn pedair cymuned, a chan fwy na 50% o’r bobl mewn 13 o gymunedau eraill. 
2.2.

Mae’r gyfran o siaradwyr Cymraeg ar ei hisaf ar hyd yr arfordir. Yn Nhywyn a Bae Cinmel, dim ond 10.7% sy’n siarad yr iaith. Serch hynny, yn y gymuned hon hyd yn oed, cofnodwyd 814 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r Gymraeg felly’n rhan annatod o hunaniaeth Conwy yn ei chyfanrwydd.

« Back to contents page | Back to top