3. Cynllunio a'r Iaith Gymraeg

3.1.
Cefnogir rôl cynllunio i gynnal y Gymraeg yn nogfennau Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel Polisi Cynllunio Cymru ac NCT 20. Caiff y rôl honno hefyd ei hadlewyrchu ym mholisïau’r cynllun datblygu yng Nghonwy. Ar hyn o bryd, Polisi Strategol 5 yng Nghynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisi CG6 yng Nghynllun Bwrdeistref Colwyn sy’n llywio penderfyniadau ar gynllunio yng Nghonwy (gweler Papur Cefndir 33 am fwy o wybodaeth). Yn y pen draw, bydd y cynlluniau hyn yn cael eu disodli gan CDLl Conwy (gweler adran 4 isod). 
3.2.

Gall effaith datblygiad newydd fod yn fuddiol neu’n niweidiol i’r Gymraeg. Gellir cael effeithiau buddiol os bydd datblygiad yn annog siaradwyr Cymraeg i aros yn eu cymunedau, neu os yw’n cefnogi dichonadwyedd cyfleusterau mewn pentref, fel yr ysgol. Gellir cael effeithiau niweidiol os bydd nifer anghymesur o bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yn symud i gymuned. Yn aml gall hyn gael effaith gronnol, er enghraifft, drwy leihau’r defnydd o’r Gymraeg ymysg siaradwyr Cymraeg. 

3.3.

Effaith datblygiad ar y gymuned, yn hytrach nag ar unigolion neilltuol, sy’n berthnasol i’r system gynllunio. Yn ôl NCT 20 ni ddylai polisïau geisio cyflwyno unrhyw elfen o wahaniaethu rhwng unigolion ar sail eu gallu ieithyddol.

« Back to contents page | Back to top