4. Y Cynllun Datblygu Lleol a'r Gymraeg

4.1.

Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2009, ymgynghorodd y Cyngor ar y CDLl sydd i’w archwilio gan y cyhoedd. Yn dilyn sylwadau a gafwyd ar y cynllun drafft, mae polisi CTH/5 wedi cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

POLICY CTH/5 - YR IAITH GYMRAEG

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg, ac yn gwrthod datblygiadau a fydd, oherwydd ei faint, graddfa neu leoliad yn niweidio’n sylweddol gymeriad a chydbwysedd ieithyddol cymuned. Cyflawnir hyn drwy ei gwneud hi'n ofynnol i gyflwyno datganiad iaith ac/neu, mewn rhai achosion, asesiad o'r effaith ar iaith gyda cheisiadau sy'n debygol o gael effaith sylweddol (gan gynnwys effaith gronnol) ar y Gymraeg.

Bydd y frawddeg ganlynol yn cael ei chynnwys ar ddiwedd y testun sy’n cefnogi’r polisi, para 4.241: 

‘Bydd y Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol i hysbysu ymgeiswyr ynglŷn â’r gofynion. Darperir tystiolaeth i gefnogi’r ymagwedd hon ym Mhapur Cefndir 33.’  

Yn ôl strategaeth a pholisïau’r CDLl dim ond tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol a ganiateir mewn pentrefi bychain a phentrefannau (gweler polisïau DP/2, HOU/1 a HOU/2).

« Back to contents page | Back to top