5. Pryd i gyflwyno Datganiad Cymunedol a leithyddol neu Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol

5.1.
Bydd y safleoedd y cynigwyd eu datblygu o fewn y CDLl a safleoedd na ddyrannwyd yn amodol ar gwrdd â gofynion Polisi CTH/5 y CDLl diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd yn ystod y cam cais cynllunio er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg a diwylliant yn cael eu gwarchod, a lle bo’n bosibl, eu gwella.
5.2.

Natur, graddfa a lleoliad y cais sydd i benderfynu ai Datganiad Cymunedol a Ieithyddol ynteu Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol sydd ei angen. Ystyriwyd Gweledigaeth a Strategaeth y CDLl  wrth bennu’r trothwyon a’r mathau canlynol o ddatblygiadau. Mae’r rhestr yn dilyn yr un drefn â hierarchaeth aneddiadau’r CDLl (gweler adran 3 o’r CDLl a Phapur Cefndir 8 ar Hierarchaeth Aneddiadau). Sylwer ei bod hi’n bosibl y gofynnir ar adegau am Ddatganiad neu Asesiad Effaith er bod y cais yn is na throthwyon y gofyniad. Mewn achosion o’r fath, bydd y Cyngor yn hysbysu’r ymgeisydd yn fuan yn ystod y broses o wneud cais gan egluro pam bod angen y datganiad neu’r asesiad.

5.3.

Ym mhob achos, os bydd Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol yn ofynnol, ni fydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol hefyd.

5.4.

Ardaloedd Trefol: Abergele a Phensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo yn Rhos a Hen Golwyn), Bae Penrhyn ac Ochr y Penrhyn, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy a Llanrhos, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn a Bae Cinmel

Mewn Ardaloedd Trefol, mae Datganiad Cymunedol a Ieithyddol yn ofynnol ar gyfer:
  • Pob cais preswyl lle ceir cynnydd net o 10 neu fwy o unedau annedd (cynnydd net o 5 neu fwy o unedau annedd ar gyfer ceisiadau yn Llanfairfechan, Llanrwst a Phenmaenmawr);
  • Pob cais cyflogaeth lle caiff 25 o swyddi net neu fwy eu creu (lle caiff 10 o swyddi net neu fwy eu creu yn Llanfairfechan, Llanrwst a Phenmaenmawr);
  • Unrhyw gais datblygu sy’n debygol o arwain at golli cyfleusterau cynmunedol neu gyfleoedd am swyddi.
Mewn Ardaloedd Trefol, mae Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol yn ofynnol ar gyfer:
  • Pob cais preswyl lle ceir cynnydd net o 50 neu fwy o unedau annedd (cynnydd net o 25 neu fwy o unedau annedd ar gyfer ceisiadau yn Llanfairfechan, Llanrwst a Phenmaenmawr);
  • Pob cais cyflogaeth lle caiff 50 o swyddi net neu fwy eu creu (lle caiff 25 o swyddi net neu fwy eu creu yn Llanfairfechan, Llanrwst a Phenmaenmawr);
  • Unrhyw gais sydd y tu hwnt i anghenion a dyheadau’r gymuned leol, ac sy’n annhebygol o gyfrannu i’r gymuned/cymunedau mewn modd cynaliadwy.
5.5.

Prif Bentrefi

Haen 1: Dwygyfylchi, Glan Conwy, Llanddulas, Llysfaen, Mewn Prif Bentrefi, mae Datganiad Cymunedol a Ieithyddol yn ofynnol ar gyfer:

  • Pob cais preswyl lle ceir cynnydd net o 5 neu fwy o unedau annedd;
  • Pob cais sy’n creu cyflogaeth lle caiff 5 o swyddi neu fwy eu creu;
  • Unrhyw gais datblygu sy’n debygol o arwain at golli cyfleusterau cymunedol neu gyfleoedd am swyddi. 

Mewn Prif Bentrefi, mae Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol yn ofynnol ar gyfer:

  • Pob cais preswyl lle ceir cynnydd net o 10 neu fwy o unedau annedd;
  • Pob cais cyflogaeth lle caiff 10 o swyddi neu fwy eu creu;
  • Unrhyw gais sydd y tu hwnt i anghenion a dyheadau’r gymuned leol, ac sy’n annhebygol o gyfrannu i’r gymuned/cymunedau mewn modd cynaliadwy. Mae archfarchnadoedd neu ddatblygiadau i ymwelwyr yn enghreifftiau o hyn, ymysg eraill. 

Haen 2: Betws yn Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog, Eglwysbach, Llanfair Talhaiarn, Llangernyw, Llansannan, Trefriw a Thal y Bont / Castell

  • Yn unol â pholisi’r CDLl, bydd prif bentrefi haen 2 yn darparu tai fforddiadwy i ddiwallu angen lleol yn unig ar safleoedd wedi’u dyrannu yn ogystal ag ar hap-safleoedd llai. Ystyrir bod digon o ystyriaeth o anghenion a buddiannau’r Gymraeg mewn polisïau presennol ac arfaethedig ar dai fforddiadwy, felly ni ofynnir am drothwyon ar gyfer ceisiadau preswyl. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn gofyn am Ddatganiad Cymunedol a Ieithyddol os ystyrir y byddai hynny’n ddefnyddiol er mwyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais.
  • Bydd gofyn cyflwyno Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol ar gyfer pob cais sy’n creu cyflogaeth gyda chynnydd net mewn swyddi.
  • Bydd gofyn cyflwyno Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol ar gyfer unrhyw gais sydd y tu hwnt i anghenion a dyheadau’r gymuned leol, ac sy’n annhebygol o gyfrannu i’r gymuned/cymunedau mewn modd cynaliadwy. Mae archfarchnadoedd neu ddatblygiadau i ymwelwyr yn enghreifftiau o hyn, ymysg eraill.
5.6.

Pentrefi Llai

Pentrefi Llai: Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanelian, Llanddoged, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd y Foel, Rowen, Llansan Siôr, Tal y Cafn a Thyn y Groes

  • Yn unol â pholisi’r CDLl, ni fydd safleoedd tai ar gyfer y farchnad na safleoedd cyflogaeth yn cael eu dyrannu. Bydd stadau sengl neu fychan o dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol, oddi mewn neu ar fin pentrefi llai, ac ar hap-safleoedd, yn eithriadau derbyniol. Ystyrir bod digon o ystyriaeth o anghenion a buddiannau’r Gymraeg mewn polisïau presennol ac arfaethedig ar dai fforddiadwy, felly ni ofynnir am drothwyon ar gyfer ceisiadau preswyl. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn gofyn am Ddatganiad Cymunedol a Ieithyddol os ystyrir y byddai hynny’n ddefnyddiol er mwyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais.
  • Bydd unrhyw gais arall yn cael ei asesu fesul safle er mwyn penderfynu a oes angen Datganiad Cymunedol a Ieithyddol neu Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol.
5.7.

Pentrefannau

Pentrefannau: Bodtegwel, Bryn y Maen, Brymbo, Bryn Rhyd yr Arian, Bylchau, Capelulo, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel Glyn Myfyr, Maerdy, Melin y Coed, Nebo, Pandy Tudur, Pentrellyncymer, Pentre Isa, Pentre Tafarnyfedw, Rhydlydan a Than y Fron, a chefn gwlad agored
  • Yn unol â pholisi’r CDLl, ni chaniateir datblygiad preswyl ond mewn amgylchiadau eithriadol. Gellir cefnogi annedd unigol ar fin neu oddi mewn i’r anheddiad, neu lle bo hynny’n golygu trawsnewid adeilad nad yw’n un preswyl mewn ardal o gefn gwlad agored, a lle ceir cyfiawnhad dros hynny er mwyn darparu tai fforddiadwy i ddiwallu angen lleol. Unwaith eto, ystyrir bod digon o ystyriaeth o anghenion a buddiannau’r Gymraeg mewn polisïau ar safleoedd eithriedig gwledig a thai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, felly ni ofynnir am drothwyon ar gyfer ceisiadau preswyl. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn gofyn am Ddatganiad Cymunedol a Ieithyddol os ystyrir y byddai hynny’n ddefnyddiol er mwyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais.
  • Bydd unrhyw gais arall yn cael ei asesu fesul safle er mwyn penderfynu a oes angen Datganiad Cymunedol a Ieithyddol neu Asesiad Cymunedol a Ieithyddol.
5.8.

Gall arwyddion, hysbysebion ac enwau strydoedd oll gyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at atgyfnerthu cymeriad ieithyddol cymuned. Mae’r Cyngor wedi datblygu polisi dwyieithrwydd ac yn cefnogi defnyddio enwau lleoedd traddodiadol Cymraeg os ydynt yn briodol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei datblygu, a bydd yn ffafrio enwau sy’n adlewyrchu cymeriad yr ardal. Cynghorir ymgeiswyr i holi cymdeithasau hanes lleol cyn cyflwyno ceisiadau. Os bydd amgylchiadau arbennig yn codi, bydd y rhain yn cael eu hystyried gan y Cyngor. Gweler hefyd adran 12 am fanylion cynllun grant gan y Cyngor i annog darparu arwyddion dwyieithog. 

5.9.

Dylid cyflwyno Datganiadau Cymunedol a Ieithyddol ac Asesiadau Effaith Cymunedol a Ieithyddol gyda chais cynllunio. Gellid cyflwyno’r Datganiad Ieithyddol ar ffurf paragraff / adran ychwanegol yn y Datganiad Dylunio a Mynediad. Po gynharaf y caiff y datganiad/asesiad effaith ei ystyried wrth wneud cais cynllunio, y lleiaf o oedi a geir wrth asesu’r dogfen(nau). 

5.10.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gallai rhai fod yn ansicr ynghylch a oes angen datganiad/asesiad effaith. Gofynnwn felly i ymgeiswyr gysylltu â’r Cyngor os nad ydynt yn siŵr a yw cais yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau uchod (gweler y manylion cyswllt yn adran 12).

« Back to contents page | Back to top