6. Beth i'w gynnwys mewn Datganiad Cymunedol a Ieithyddol
6.1.
Dylai Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol ddarparu manylion sy’n cyfateb i’r cwestiynau isod ar y math perthnasol o ddatblygiad. Dylai’r datganiad geisio ateb cynifer o’r cwestiynau perthnasol ag sy’n bosibl, a dylid ei gyflwyno yn ystod y broses o wneud cais er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth asesu. Os oes tystiolaeth, dylid ei chyflwyno wrth ateb y cwestiynau isod. Mae’r Cyngor wedi llunio tudalen we sy’n cynnwys gwybodaeth ystadegol berthnasol (gweler adran 9.1)
6.2.
Cyffredinol
- A oes gwasanaethau lleol priodol fel siopau, cyfleusterau preswyl / cymunedol i wasanaethu’r datblygiad?
- A fydd y datblygiad yn creu cyfleoedd newydd i hybu’r iaith a mentrau lleol yn y gymuned?
- Sut fydd y datblygiad yn hybu’r defnydd o’r iaith yn y gymuned?
- Beth yw’r mesurau lliniaru arfaethedig?
6.3.
Cyflogaeth
- A yw’r datblygiad cyflogaeth yn diwallu anghenion lleol yn bennaf?
- A yw’r datblygiad yn cydymffurfio â strategaethau lleol a chenedlaethol?
- Faint o swyddi fydd yn cael eu creu a faint fydd yn cael eu recriwtio’n lleol?
- A yw’r sgiliau llafur gofynnol ar gael yn lleol?
- Ai rhai tymor byr (e.e tymhorol) ynteu dymor hirach yw’r swyddi a gynigir?
- Ar gyfer datblygiadau twristiaeth, beth yw’r dalgylch disgwyliedig? A fyddent yn manteisio ar dreftadaeth Gymraeg yr ardal?
- A oes datblygiadau tebyg eraill gyda chaniatâd cynllunio yn yr ardal?
- A yw’r datblygiad yn debygol o arwain at fuddsoddiad pellach tebyg?
- Pa hyfforddiant sydd ei angen i ddysgu sgiliau newydd i’r gweithlu lleol, ac a fydd hyn yn cynnwys Hyfforddiant Iaith Gymraeg i’w ddarparu gan y datblygwr?
- Sut fydd y cyflogau newydd yn cymharu â chyflogau cyfartalog yn yr ardal?
- A fydd y datblygiad yn cystadlu yn erbyn atyniadau twristiaeth presennol neu’n cyd-fynd â hwy?
6.4.
Tai
- Beth yw’r pris marchnad disgwyliedig ar gyfer y tai a sut mae hyn yn cymharu ag incwm aelwydydd yn lleol?
- A oes datblygiadau tebyg o ran maint wedi eu cwblhau yn y 5 mlynedd diwethaf? Os oes, a ydynt wedi diwallu anghenion lleol yn bennaf?
- A yw’r datblygiad yn cynnwys elfen briodol o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol?
- Mewn sawl cam y cyflwynir y datblygiad?
- A yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r math o dai, a’r galw am dai, sydd wedi ei ddarogan yn y Cynllun Datblygu Lleol?
- Beth oedd cyflymder y twf preswyl yn y gymuned yn y 5 mlynedd diwethaf?
- Beth yw canran meddiannaeth pobl leol o dai newydd a gwblhawyd yn y 5 mlynedd diwethaf?
- A fyddai’r cais yn cynnwys adeiladu unrhyw ail gartrefi? A fyddent yn cael eu rhoi ar y farchnad yn lleol? Os nad yn lleol, ymhle?
6.5.
Addysg
- A yw’r datblygiad yn debygol o arwain at fod angen mwy o leoedd ysgol? Os ydyw, a oes digon o le mewn ysgolion lleol, a sut y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio ar batrymau’r Gymraeg mewn ysgolion lleol?
6.6.
Isadeiledd
- A fyddai’r datblygiad yn gwella hygyrchedd yn sylweddol i’r Ardal Ieithyddol Sensitif ac yn lleihau amserau teithio o drefi cyfagos mwy?