7. Beth i'w gynnwys mewn Asesiad Cymunedol a Ieithyddol
Ar adegau, fel yr eglurir yn adran 5, mae’n bosibl yr ystyrir nad yw Datganiad Cymunedol a Ieithyddol yn ddigon er mwyn asesu effaith bosibl datblygiad arfaethedig ar ardal ac/neu gymuned. Mae’n bosibl y bydd datblygiadau o’r fath yn sylweddol o ran maint a’u heffaith debygol. Os felly, bydd yr ACLl yn gofyn am Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol er mwyn asesu’n fanylach unrhyw effeithiau posibl ar gymuned a’i chymeriad diwylliannol a ieithyddol.
Bydd angen i’r ymgeiswyr chwilio am ystadegau perthnasol sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn cynnal asesiad clir o’r ffynonellau data ar gyfer y pum agwedd gymunedol. Mae’r Cyngor wedi paratoi ffeithiau a dangosyddion perthnasol (gweler adran 9.1 isod am ddolen gyswllt i’r we), ond dim ond peth o’r wybodaeth sydd ar gael sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr.
Mae methodoleg yr Asesiad Effaith Cymunedol a Ieithyddol yn broses oddrychol a’i nod yw sefydlu’r effeithiau tebygol sy’n deillio o bolisi neu gais datblygu. Pan fydd ymgeiswyr a swyddogion yn defnyddio’r rhestr wirio, dylid ateb pob cwestiwn gyda sgôr gadarnhaol, negyddol neu niwtral i adlewyrchu effaith dybiedig y datblygiad yn erbyn y pum agwedd. Rhaid rhoi sgôr rifol yn ateb i bob cwestiwn ar y rhestr wirio, gyda +1 yn cynrychioli effaith gadarnhaol dybiedig, -1 yn golygu effaith negyddol dybiedig, a 0 yn golygu effaith niwtral dybiedig.
Yn raddol, bydd sgorau o +1, -1 a 0 yn cael eu rhoi yn atebion i bob cwestiwn ar y rhestr wirio ar gyfer pob un o’r pum agwedd ar fywyd cymunedol. Os na ellir ateb unrhyw gwestiwn, awgrymir y bydd angen i’r aseswyr greu data a thystiolaeth newydd er mwyn canfod ateb. Yn y broses asesu, bydd methiant i ateb cwestiwn (h.y. lle na roddir ateb o gwbl) yn cael ei ddileu o’r sgôr gyffredinol. Bydd matrics terfynol y Mynegai Asesu Effaith Gyffredinol (gweler isod) yn nodi pa opsiynau sy’n cael effeithiau mwy niweidiol neu, i’r gwrthwyneb, yn cyfrannu’n fuddiol.
Bydd matrics sy’n canfod effeithiau sylweddol cymharol gadarnhaol neu negyddol, ac sy’n cynnwys sylwadau, yn helpu penderfynwyr i ddewis yr opsiwn mwyaf cynaliadwy. Bydd y pwysigrwydd neu’r pwysau a roddir i gwestiwn rhestr wirio yn amrywio ar gyfer gwahanol bolisïau a chynigion datblygu, a mater i’r aseswyr yw dyfarnu hynny. Er enghraifft, bydd angen i’r datblygwr a’r awdurdod cynllunio lleol farnu faint o bwysau i’w rhoi i’r atebion rhestr wirio hynny sy’n ymwneud â’r tymor byr neu hir.
Y rhan olaf o’r fethodoleg asesu yw’r Mynegai Asesu Effaith Gyffredinol. Mae hwn yn cynnwys tabl cryno mesuredig fel bo’r asesydd yn gallu cyfrifo sgôr gadarnhaol, negyddol neu niwtral ar gyfer yr effeithiau tybiedig sy’n debygol o ddigwydd. Bydd y sgôr yna’n dod yn ystyriaeth berthnasol wrth asesu cais am ganiatâd cynllunio yng nghyswllt rheoli datblygu, neu’n ddangosydd ar gyfer asesu a ddylid mabwysiadu polisi neu gais datblygu neu beidio.
Yna, gellir defnyddio’r Sgôr Mynegai Sylfaenol Gyffredinol i gyfrifo Sgorau Effaith ar Iaith. Rhennir y sgorau hyn yn dri amrywiad - i gynrychioli pa mor bwysig yw’r iaith yn y lleoliad arbennig hwnnw. Mater i’r awdurdod cynllunio lleol fydd defnyddio arwyddocâd ‘uchel’, ‘canolig’ neu ‘isel’ i nodi pwysigrwydd iaith, a phenderfynir hyn ar sail lleoliad arfaethedig y datblygiad ac ar sail canlyniadau’r ymarfer Proffil Ieithyddol.