10. Cynigion Asesu / Mesurau Lliniaru

10.1.

Yn y rhestr ganlynol ceir enghreifftiau o fesurau lliniaru posibl y gellid eu cynnwys mewn ceisiadau datblygol. Nid rhestr gynhwysfawr mohoni, ac fe gaiff nifer o’r enghreifftiau eu rheoli drwy Rwymedigaethau Cynllunio, tra gallai fod yn fwy priodol i’r gweddill fod ar ffurf amodau neu ymgymeriadau unochrog.

10.2.
Dylid darllen y rhestr isod ochr yn ochr â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar Rwymedigaethau Cynllunio. Mae’n hanfodol bod cyswllt uniongyrchol rhwng yr hyn a geisir a’r caniatâd cynllunio. Bydd yn bwysig sicrhau bod yr hyn a ofynnir yn rhesymol o’i gymharu â maint a natur y cais, ac nad yw’n peri i ddatblygiad fod yn annichonadwy.
10.3.

Hefyd, bydd angen cael tystiolaeth y byddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg. Caiff hyn ei benderfynu drwy gwblhau’r Datganiad neu’r Asesiad Effaith perthnasol a thrwy asesiad gan yr ACLl.

10.4.

Tai

  • Adeiladu’r tai ychydig ar y tro; 
  • Darparu cymysgedd briodol o dai, gan gynnwys tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol (yn seiliedig ar astudiaethau Anghenion Tai a’r Swyddog Galluogi Tai Gwledig, os ydynt ar gael); 
  • Cytundebau i ddarparu i bobl ar y gofrestr tai lleol; 
  • Ystyried y dreftadaeth ieithyddol leol wrth enwi strydoedd/datblygiadau.
10.5.

Cyflogaeth (gan gynnwys adwerthu)

  • Contractau llafur lleol  
  • Cefnogi mentrau hyfforddi sgiliau lleol 
  • Darparu ar gyfer arwyddion dwyieithog oddi mewn ac oddi allan i’r sefydliad.
10.6.

Addysg

  • Cefnogi ac ariannu cyrsiau cyflwyno iaith a gwersi iaith i aelodau o staff e.e. cyrsiau byr wedi’u targedau sy’n gysylltiedig ag anghenion y cyflogwr a’r cyflogeion/unigolion;
  • Cefnogi ariannu mentrau/prosiectau diwylliant ac iaith i annog pobl i ddefnyddio’r iaith mewn cymunedau;
  • Cefnogi darpariaeth lleoedd ysgol mewn ysgol(ion) cyfrwng Cymraeg lleol
  • Cefnogi ac ariannu cyrsiau ymwybyddiaeth iaith a diwylliant.
10.7.

Dylai ymgeiswyr gysylltu â sefydliadau lleol er mwyn canfod pa fentrau’n ymwneud â’r iaith sydd ar gael yng Nghonwy a’r ardal oddi amgylch ar hyn o bryd. Mae Menter Iaith Conwy’n rhestru newyddion diweddar a phrosiectau ar ei gwefan, ac fe geir rhestr o ‘gyrsiau yn y gymuned’ ar wefan y Cyngor. Gweler adran 12 am y cyfeiriadau llawn.

« Back to contents page | Back to top