1. Pwrpas y Canllaw Cynllunio Atodol hwn (SPG)
Mae hwn yn un o gyfres o ddogfennau Canllaw Cynllunio Atodol (SPG) sy’n rhoi mwy o gyngor ar bolisïau Cynllun Datblygu Lleol Conwy. Bwriad SPG ydi cynghori ymgeiswyr cynllunio, a bydd yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Mae’r SPG hwn yn tanseilio disgwyliadau’r Cyngor bod y cynigion mewn Datganiadau Gwerthusiad Cynaladwyedd (SAS) yn arwain at gyfraniad sylweddol i ddatblygiad cynaliadwy, a ddiffiniwyd fel ’Datblygiad sy’n cwrdd ag anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion eu hunain’ (diffiniad Adroddiad Brundtland, 1987). Mae’r LDP yn ceisio diogelu patrwm mwy cynaliadwy o ddatblygiad yn Ardal Cynllun Conwy, sydd yn rhan o’r Fwrdeistref sydd yn gorwedd tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn mynnu bod y Cyngor yn ymarfer ei swyddogaeth gynllunio lleol ‘gyda’r amcan o gyfrannu at gyflawni datblygiad cynaliadwy. Mae Llywodraeth y DU wedi amlygu gôl trosfwaol i symud tuag at fwy o ddatblygiadau cynaliadwy.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi hybu datblygu cynaliadwy wrth graidd gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru ac felly’r disgwyliad ydi y bydd LDP Cymru yn cyfrannu tuag at hyn. Diffinnir datblygiad cynaliadwy yng Nghymru fel:
‘Gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, cyflawni gwell ansawdd bywyd ar gyfer ein cenhedlaeth ni a rhai’r dyfodol mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, cyfle cyfartal, gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu ei derfynau - gan ddim ond defnyddio beth sydd raid o adnoddau’r ddaear a chynnal ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.’ (‘Un Gymru; Un Blaned’ 2009).