2. Cyd-destun Polisi
Canllaw Cynllunio Cenedlaethol
Cydnabyddir ar lefel genedlaethol y gall cynllunio wneud cyfraniad pwysig i daclo newid hinsawdd a gwella cynaladwyedd datblygiadau.
Ym Mholisi Cynllunio Cymru (PPW) (Diweddariad 2010) yr adrannau mwyaf perthnasol ydi ‘Cynllunio ar gyfer Cynaladwyedd’ (Adran 4) a ‘Lleihau a Rheoli Risgiau a Llygredd Amgylcheddol’ (Adran 13). Yn atodol i’r ddau brif adran yma, dylid ystyried cyngor ar anghenion dylunio ochr yn ochr â’r ddau faes yma. Prif rannau o adran 4 sydd angen eu hystyried ydi:
- Dylai ceisiadau am 5 annedd neu fwy a gafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 gwrdd â’r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy Lefel 3 a chael 6 credyd o dan faterion Ene 1 – Cyfradd gollyngiadau annedd;
- Dylai ceisiadau am 1 annedd neu fwy a gafwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 gwrdd â’r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy Lefel 3 a chael 6 credyd o dan faterion Ene1 – Cyfradd gollyngiadau annedd;
- Dylai ceisiadau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ar gyfer datblygiad dibreswyl a fydd ag un ai 1000m2, o ofod llawr neu ar safle o 1Ha neu fwy, gwrdd â safon BREEAM ‘Da Iawn’ a chyflawni credydau gorfodol ar gyfer rhagorol o dan Ene1 – gostwng gollyngiadau CO2.
Cefnogir PPW gan amrywiaeth o Nodiadau Cyngor Technegol (TANs), y ddau TAN mwyaf pwysig i’w hystyried ydi TAN 12: Dylunio (2009) a TAN 22: Dylunio ar gyfer Adeilad Cynaliadwy (2010)
TAN 22: Mae cynllunio ar gyfer ‘Adeiladau Cynaliadwy’ yn darparu canllaw ar:
- Safonau adeiladu cynaliadwy (gan gynnwys y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy, Ymchwil Adeiladu BREEAM, camau asesu a thystysgrif perfformiad ynni);
- Gostwng gollyngiadau carbon (gofynion polisi a chyfyngiadau, hierarchaeth ynni a DAS);
- Paratoi cynigion datblygu (egwyddorion allweddol);
- Map gweithredu polisi;
- Amodau a thrafodaethau cynllunio (y defnydd o amodau i ddarparu safonau adeiladu cynaliadwy ac eithriadau);
Mae’r TAN yn darparu cynnwys trefniadol a thechnegol a bydd yn ystyriaeth faterol i ddibenion rheoli datblygu.
Mae’r SPG Safonau Parcio yn ceisio darparu canllaw mwy manwl ar Bolisi STR/2 sydd wedi’i gynnwys yn yr LDP i’w Archwilio gan y Cyhoedd;
POLISI DP/1 - EGWYDDORION DATBLYGIAD CYNALIADWY
POLICY DP/1 - EGWYDDORION DATBLYGIAD CYNALIADWY
-
Caniateir datblygiad yn unig lle dangosir ei fod yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Mae'n ofynnol i bob datblygiad:
- Cydymffurfio ag arweiniad cenedlaethol yn unol â Pholisi DP/6 ‘Canllawiau Cenedlaethol’;
- Bod yn gyson â’r dull dilyniannol a nodir ym Mholisi Gofodol DP/2 ‘Dull Strategol Trosfwaol’;
- Gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o dir, adeiladau ac isadeiledd trwy roi blaenoriaeth i'r defnydd o dir a ddatblygwyd yn barod mewn lleoliadau hygyrch, cyflawni ffurfiau o ddatblygiad cywasgedig trwy ddefnyddio dwyseddau uwch ac y gellir eu haddasu yn y dyfodol; yn unol â DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun;
- Cadw neu wella ansawdd adeiladau, safleoedd a mannau o bwysigrwydd hanesyddol, archeolegol neu bensaernïol yn unol â pholisi CTH/1 'Yr Amgylchedd Hanesyddol';
- Cadw neu wella ansawdd bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt, a diogelu rhywogaethau a warchodir yn unol â pholisi NTE/1 'Yr Amgylchedd Naturiol' ;
- Rhoi ystyriaeth ac ymdrin â'r perygl o lifogydd a llygredd ar ffurf sŵn, golau, dirgryniadau, arogl, allyriadau neu lwch yn unol â DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' a DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd';
- Gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau trwy ddefnyddio technegau adeiladu cynaliadwy, ymgorffori mesurau cadwraeth ynni a dŵr a, lle bynnag y mae hynny'n bosib, defnyddio ynni adnewyddadwy, yn unol â DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd' a NTE/1 'Yr Amgylchedd Naturiol;
- Lle mae hynny’n briodol dylai cynigion datblygu hefyd
- darparu mynediad diogel a hwylus trwy drafnidiaeth cyhoeddus, neic ac ar droed i leihau'r angen i deithio mewn ceir yn unol â Pholisi DP/2 'Dull Strategol Trosfwaol' a STR/1 'Trafnidiaeth Cynaliadwy';
- cynnwys mesurau i reoli traffig a lleihau tagfeydd sy'n codi yn unol â STR/1 ''Trafnidiaeth Cynaliadwy';
- darparu ar gyfer isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n ofynnol oherwydd y datblygiad, yn unol â Pholisïau DP/4 'Meini Prawf Datblygu', DP/5 'Datblygiad ac Isadeiledd' a Monitro a Gweithredu'r Cynllun;
- cael eu dylunio i safon uchel, gan fod yn ddeniadol, hwylus i'w haddasu, hygyrch, a diogel fel nodir yn DP/3 'Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd;
- hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy yn unol â EMP/1 ‘Cwrdd ag Anghenion Cyflogaeth’;
- Cadw neu wella ansawdd mannau agored gwerthfawr, cymeriad ac ansawdd tirweddau lleol a chefn gwlad ehangach yn unol â pholisi NTE/1 ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ a CFS/1 'Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol';
- rhoi ystyriaeth ac ymdrin ag effaith posib ar newid hinsawdd yn unol â pholisi NTE/1 ‘Yr Amgylchedd Naturiol’;
- amddiffyn ansawdd adnoddau naturiol cynnwys dŵr, aer a phridd yn unol â NTE1 ‘Yr Amgylchedd Naturiol’;
- lleihau cynhyrchu gwastraff a rheoli ailgylchu gwastraff yn unol â MWS/1 ‘Rheoli Gwastraff’.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno Datganiad Cynaladwyedd i arddangos bod egwyddorion datblygiad cynaliadwy wedi’u defnyddio yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Datganiad Gwerthuso Cynaladwyedd.