3. Pryd i ddarparu Datganiad Gwerthusiad Cynaladwyedd
Mae Datganiadau Dylunio a Mynediad (DAS) yn ofyniad gorfodol i gefnogi ceisiadau cynllunio. Dylid cyflwyno SAS ochr yn ochr â DAS, neu dylai ddod efo’r DAS fel un ddogfen, ar gyfer yr holl geisiadau cynllunio. Gallai’r SAS groesgyfeirio gwybodaeth i’r DAS a mannau eraill yn y cais. Fodd bynnag, dylid darparu crynodeb o’r wybodaeth yma yn yr SAS i gynorthwyo efo asesu’r wybodaeth yn erbyn y rhestr wirio. Dylid cyflwyno SAS ar gyfer yr holl geisiadau cynllunio yn unol â gofynion cyflwyno DAS, ac eithrio:
- Gweithrediadau peirianneg neu gloddio
- Datblygiad preswylydd (h.y. datblygiad o anhedd-dy presennol neu ddatblygiad o fewn cwrtil ar gyfer unrhyw bwrpas sy’n cyd-fynd â’i fwynhad fel anhedd-dy) O.N. bydd yr holl anheddau newydd angen datganiad (oni bai ei fod yn deillio’n unig o newid defnydd))
- Newid materol mewn defnydd o dir neu adeiladau (ond lle bydd y newid mewn defnydd o dir neu adeiladau yn golygu mynediad gan weithiwr, neu ddarparu gwasanaethau (gan gynnwys nwyddau neu gyfleusterau) i’r cyhoedd, yna dim ond datganiad yn delio efo’r materion mynediad fydd ei angen.
- Rheoli hysbysebu
- Gorchmynion diogelu coed
- Storio sylweddau peryglus
Dylai ceisiadau am ganiatâd cynllunio llawn lenwi’r rhestr wirio gyfan (h.y. adrannau 1-16)
‘…egluro’n glir a chyfiawnhau’r amcanion a fydd yn cael eu defnyddio i gyfarwyddo’r cais manwl, gan ddangos dealltwriaeth o beth sy’n briodol ac ymarferol ar gyfer safle yn ei gyd-destun, hyd yn oed os yw’r holl faterion a gadwyd yn ôl i’w hystyried yn ddiweddarach.’ (TAN12, Paragraff A3.2). Yn achos yr SPG hwn, dylai ceisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellol lenwi adrannau 1-7 o’r rhestr wirio.