4. Cynnwys Datganiad Gwerthuso Cynaladwyedd

4.1.

Dylai’r SAS fod yn adroddiad efo’r cynlluniau a’r darluniadau i ddangos ac ymestyn ar y wybodaeth sydd yn y Rhestr Wirio SAS a gwblhawyd.  Cynghorwyd ymgeiswyr i:

  • Strwythuro’r adroddiad yn yr un drefn ac efo’r un penawdau â’r Rhestr Wirio SAS;
  • Ei gwneud hi’n glir yn y cyflwyniad sut mae’r effeithiau cynaladwyedd yn cael eu meintioli a’u hasesu (h.y. pa erfyn/safon sy’n cael ei ddefnyddio);
  • Bod yn gryno wrth ddisgrifio natur technolegaethau neu fesurau y cynigir eu cynnwys yn y datblygiad;
  • Canolbwyntio ar ddangos a meintioli pa effaith fyddai gweithredu’r mesurau bwriedig yn debygol o gael ar effaith cyffredinol y datblygiad;
4.2.

Sylwer bod angen darparu manylion ar brawf gweithredu’r mesurau bwriedig, a chytuno arnynt, er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol roi caniatâd.

4.3.

Mae’n hanfodol i’r wybodaeth yma gael ei gyflwyno efo’ch cais.  Nid yw ceisiadau yn debygol o gael eu cofrestru pe na chyflwynir Datganiad Cynaladwyedd a Rhestr Wirio.  Fodd bynnag, os yw’r wybodaeth sydd ei angen ar gyfer penderfynu ar y cais ar goll o’r Datganiad neu’r Rhestr Wirio, bydd angen darparu’r wybodaeth yma cyn y gellir gwneud penderfyniad.

« Back to contents page | Back to top