5. Defnyddio'r Rhestr Wirio

5.1.

Mae’r Cyngor yn disgwyl i’r holl SAS cael ei gwblhau i safon uchel.  Dylai pob datganiad weithio’n systematig trwy’r rhestr wirio (yn rhannol neu’n llawn, fel diffiniwyd yn ‘Pryd i ddarparu Datganiad Gwerthusiad Cynaladwyedd) yn yr SPG hwn.

5.2.

Enghraifft o’r ffordd mae’r cwestiynau yn y rhestr wirio cynaladwyedd wedi eu geirio ydi; 

‘Ydi’r cais yn gwella tir gwag neu dir llwyd sy’n adfeilio?’ 

Mae’r Cyngor yn edrych am yr ateb ‘Ydi’, oherwydd bydd gwella tir gwag neu dir sy’n adfeilio yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy.

5.3.

Mae’r rhestr wirio yn fwy na rhestr ticio Ie/Na.  Disgwylir i ymgeiswyr asesu eu cynigion yn ofalus iawn yn erbyn y rhestr wirio a darparu gwybodaeth ddigonol i alluogi’r Cyngor i feirniadu effaith llawn y cais datblygu.

5.4.

Enghraifft arall o gwestiwn ydi:

‘Ydi gosodiad, lleoliad a dyluniad y cynllun yn gwneud y mwyaf o’r potensial ar gyfer (ar y safle a cyffiniol) golau dydd, cynnydd goddefol solar ac awyru naturiol?’ 

Gallai’r ateb fod yn ‘Ydi’ ac yn yr achos hwn mae angen i’r Cyngor gael eglurhad o sut fydd y cais yn gwneud y mwyaf o’r golau dydd, cynnydd goddefol solar ac awyru naturiol.  Fel arall efallai mai ‘Na’ yw’r ateb.  Yn yr achos hwn mae’r Cyngor yn disgwyl;

  • Cyfiawnhad llawn o pam na wneir y mwyaf o olau dydd, cynnydd goddefol solar ac awyru naturiol a;
  • Datganiad yn dangos faint o olau dydd, cynnydd goddefol solar ac awyru naturiol y gellir ei gyflawni. 

Os mai ‘Na’ yw’r ateb, ni fydd y cais yn gwneud cyfraniad llawn i gyflawni datblygiad cynaliadwy.

« Back to contents page | Back to top