8. Y Rhestr Wirio

8.1.
Mae’r Rhestr Wirio SAS yn elfen hanfodol o asesu effaith posibl cynigion datblygu a’u lliniaru.  Rhaid cwblhau pob adran a darparu gwybodaeth ychwanegol i egluro’r rheswm tu ôl pob ateb.  Gellid cyflwyno’r rhestr wirio fel ffurflen wedi ei chwblhau, neu fel dogfen SAS wedi ei ysgrifennu yn annibynnol.  Mae’n rhaid i SAS gynnwys, fel isafswm, yr un wybodaeth sy’n ofynnol gan y rhestr wirio isod.  Pe na ellir darparu gwybodaeth yn ystod y cam ymgeisio, bydd amodau cynllunio yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y manylion angenrheidiol yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach
8.2.
Mae angen i bob datblygiad:
  1. Gydymffurfio efo canllaw cenedlaethol

  1. Fod yn gyson efo’r agwedd ddilyniannol ym Mholisi DP/2 o’r LDP

  1. Gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o dir, adeiladau ac isadeiledd trwy ddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes mewn lleoliadau hygyrch fel blaenoriaeth, gan gyflawni ffurfiau datblygu cryno trwy ddefnyddio dwyseddau uwch

  1. Cadw neu wella ansawdd adeiladau, safleoedd a mannau o bwysigrwydd hanesyddol, archeolegol neu bensaernïol

  1. Cadw neu wella ansawdd bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt, a diogelu rhywogaethau a warchodir (cyfeiriwch at y Canllawiau Cynllunio Bioamrywiaeth Atodol i gael rhagor o gyfarwyddiadau).

  1. Ystyried a delio efo’r risg llifogydd a llygredd ar ffurf sŵn, golau, dirgrynu, arogl, gollyngiadau neu lwch

  1. Gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau trwy gyflogi technegau adeiladu cynaliadwy, gan gynnwys mesurau cadwraeth ynni a dŵr a, lle bo’n bosibl, y defnydd o ynni adnewyddadwy (cyfeiriwch at y Canllawiau Cynllunio Dylunio Atodol i gael rhagor o gyfarwyddiadau).

Dylai ceisiadau datblygu hefyd, lle bo’n briodol;
  1. Ddarparu mynediad diogel a chyfleus gan gludiant cyhoeddus, beiciau ac ar droed gan leihau’r angen i deithio efo car (cyfeiriwch at y Canllawiau Cynllunio Safonau Parcio Atodol i gael rhagor o gyfarwyddiadau).

  1. Cynnwys mesurau i reoli traffig a lleihau tagfeydd

  1. Darparu ar gyfer isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus eraill trwy’r datblygiad

  1. Wedi ei ddylunio i safon uchel, yn ddeniadol, yn addasadwy, yn hygyrch, yn ddiogel a saff (cyfeiriwch at y Canllawiau Cynllunio Dylunio Atodol i gael rhagor o gyfarwyddiadau).

  1. Hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy

  1. Cadw neu wella ansawdd mannau agored gwerthfawr, cymeriad ac ansawdd tirweddau lleol a’r cefn gwlad ehangach

  1. Ystyried a delio ag effaith potensial newid hinsawdd

  1. Gwarchod ansawdd adnoddau naturiol gan gynnwys dŵr, aer a phridd

  1. Lleihau cynhyrchu gwastraff a rheoli ailgylchu gwastraff

« Back to contents page | Back to top