1. CYFLWYNIAD

1.1.

Wrth sefydlu fframwaith cynllun datblygu ar gyfer Ardal Cynllun Conwy, Mae’r Cyngor wedi llunio nifer o ganllawiau cynllunio atodol (CCA) sy’n ceisio darparu canllawiau manylach ar bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd (CDLl).  Cyhoeddir y CCA Safonau Parcio fel rhan o’r ymgynghori ynglŷn â CDLl i’r Cyhoedd ei archwilio drafft Conwy.

1.2.

Lluniwyd y CCA Safonau Parcio i sicrhau fod pawb sydd â diddordeb mewn datblygu – swyddogion y Cyngor, dylunwyr, yr heddlu, swyddogion cysylltu pensaernïol, datblygwyr, asiantaethau’r llywodraeth a thirfeddianwyr, yn cydnabod bod angen sicrhau fod parcio ar gyfer ceir a beiciau yn rhan hanfodol o ddatblygiad newydd, ond mae’n rhaid iddynt hefyd fod yn addas i’w pwrpas ac wedi eu dylunio’n dda.

1.3.
Mae gofynion parcio yn y CCA Safonau Parcio hwn wedi’u rhestru yn ôl defnydd tir a lleoliad.  Rhestrir gofynion ar gyfer cerbydau masnachol, ceir, beiciau modur a beiciau, ac mae’n ymwneud hefyd â defnyddio cynlluniau teithio a chynaladwyedd datblygiad newydd.  Bydd y CCA Safonau Parcio yn cael ei ddefnyddio fel dogfen gyfeiriol dechnegol sy’n berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio unigol.

« Back to contents page | Back to top