3. CYD-DESTUN POLISI

3.1.

Mae’r CCA Parcio yn ceisio cyflwyno canllawiau manylach ar bolisi STR/2 yn y CDLl i’r Cyhoedd i’w Archwilio.

POLICY STR/2 - CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL AR SAFONAU PARCIO

  1. Dylid darparu mannau parcio ceir yn unol â'r safonau uchaf a osodwyd yn CDLl 2 – ‘SPG Safonau Parcio’, i leihau gorddibyniaeth ar y car a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy. 
  2. Mewn rhai mannau, fel y rhai hynny gyda mynediad da i gyfleusterau a gwasanaethau, ac sy’n cael eu gwasanaethu gan gludiant gyhoeddus safon uchel, bydd y Cyngor yn ceisio gostwng maint y parcio sy’n cael ei ddarparu, yn unol â Safonau Parcio Conwy.  Er enghraifft, lle bo cyfle i wneud hynny, ar safleoedd defnydd cymysg, byddwn yn annog rhannu mannau parcio a cheir i leihau’r ddarpariaeth. 
  3. Dylid darparu mannau parcio beiciau yn unol â'r safonau a osodir yn CDLl 2 - Canllawiau Cynllunio Atodol Safonau Parcio i sicrhau y darperir mannau digonol a diogel.

« Back to contents page | Back to top