4. FFRAMWAITH STRATEGOL

4.1.
Mae’r ddogfen hon yn nodi gofynion parcio manwl yn unol â’r defnydd tir a’r math o ddatblygiad.  Cafodd ei lunio gan CSS Cymru ar ran 22 Awdurdod Unedol Cymru a’r pedwar consortia cludiant rhanbarthol, Sewta, SWWITCH, Taith a Trac.  Ei nod yw:  
  1. cynorthwyo datblygwyr, dylunwyr ac adeiladwyr i lunio a chyflwyno ceisiadau cynllunio.
  2. sicrhau dull cyffredin i ddarparu cyfleusterau parcio cerbydau yn gysylltiedig â datblygiadau newydd a newid defnydd.
4.2.

Y rheswm sylfaenol dros Argraffiad Diwygiedig Canllawiau Parcio De Cymru 1993 a luniwyd gan y Gynhadledd Sefydlog ar Bolisi Rhanbarthol a’r dogfennau cyfatebol sy’n berthnasol i Ogledd Cymru oedd darparu digon o leoedd parcio i osgoi’r angen i gerbydau barcio ar y stryd, gan achosi tagfeydd, perygl ac amharu ar yr edrychiad gweledol.

4.3.

Ers 1993, bu newidiadau sylfaenol yn y fframwaith cynllunio cenedlaethol a’r polisi cludiant, gyda chyhoeddi PPG 13 (yn Lloegr) yn 1994, a Deddf yr Amgylchedd 1995, Deddfau Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 a 1998, Dêl Newydd ar gyfer Cludiant: Yn well i Bawb a Chludo Cymru i’r Dyfodol (1998), Polisi Cynllunio Cymru 2002, Nodyn Cynghori Technegol 18 (TAN 18) yn 2007 a Llawlyfr Strydoedd yn 2007. Mae paragraff 8.4.2 yn benodol yn nodi bod ‘Darpariaeth Parcio yn ddylanwad mawr ar ddewis dull cludiant a phatrwm datblygiad.  Dylai Awdurdodau Lleol sicrhau fod datblygiadau newydd yn darparu lefelau is o barcio nag yn y gorffennol.  Nid yw lleiafswm safonau parcio bellach yn briodol.  Dylai awdurdodau lleol lunio strategaeth integredig ar barcio i gynorthwyo polisïau cludiant a lleoliad cyffredinol y Cynllun Datblygu Unedol.’ Mae TAN 18 yn atodol i Bolisi Cynllunio Cymru ac mae’n nodi ‘Dylid defnyddio’r uchafswm safonau parcio ar lefel ranbarthol a lleol fel ffurf o reoli’r galw’ a dylid ystyried dulliau cludiant eraill ar gyfer datblygiadau newydd, amcanion economaidd a threfniadau parcio cyhoeddus ac ar y cyd.

4.4.
Newid sylfaenol o arfer blaenorol yw’r gofyniad yn y ddogfen hon i Awdurdodau Lleol gyflwyno system o ardaloedd ar gyfer parcio yn eu Cynllunio Datblygu Lleol.  Mae’r ddogfen hon yn nodi chwe ardal fel hyn, pob un ohonynt a lefelau gwahanol o ofynion parcio ar gyfer rheoli datblygiad.  Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol unigol yw penderfynu pa un o’r ardaloedd hyn sy’n berthnasol a ble mae eu ffiniau yn eu hardal.
4.5.

Mae’r ymagwedd newydd hon tuag at gludiant, gan newid o ddarogan a darparu ar gyfer ceir, i reoli traffig a lleihau dibynadwyedd ar geir, yn newid swyddogaeth darparu parcio a rheoli, ac mae’r adolygiad hwn yn ceisio ateb hynny.  Y nod, fel o’r blaen, yw sicrhau fod datblygiad newydd neu newid defnydd yn cynnwys digon o le parcio ar gyfer ceir preifat a cherbydau gwasanaethau i osgoi’r angen i gerbydau barcio ar y stryd ac felly achosi tagfeydd, perygl ac ymwthiad gweledol.

4.6.
Bwriad y canllaw hwn felly yw ymdrin â phob ardal drefol a gwledig i hwyluso gweithredu lefelau priodol a digonol o barcio dan bob amgylchiadau.
4.7.

Mae canllawiau cyffredinol ar bob agwedd o barcio, gan gynnwys parcio ar y stryd ac oddi arni ac anghenion pobl anabl, ar gael yng nghyhoeddiad ‘Parking Strategies and Management’, IHT (2005).  Cofiwch fod rhywfaint o gynnwys y cyhoeddiad hwn yn cyfeirio yn benodol at PPG13, nad yw’n berthnasol yng Nghymru.  Comisiynodd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ddogfen Parcio Ceir Preswyl.  Mae’r ymchwil yn darparu canllawiau manylach, er ei fod wedi ei seilio ar lefelau cyfartaledd perchnogaeth ceir yn Lloegr yn unig ac nid yw yn ystyried demograffeg o gwbl. Dylai dylunio ardaloedd parcio hefyd ystyried y canllawiau wrth asesu cynllun parcio diogelach Park Mark Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu, yn ogystal â gofynion gweithredol Nodyn Cynghori Technegol 12: Dylunio (TAN12) Polisi Cynllunio Cymru. 

« Back to contents page | Back to top