5. ARDALOEDD PARCIO
Ardal 1 – Canol y Ddinas.
Wedi ei gyfyngu i ganol y trefi mwyaf. Fel arfer bydd dewis eang o wasanaethau cludiant cyhoeddus, bysiau a rheilffordd. Ychydig iawn o le parcio fydd o fewn adeiladau unigol a bydd y parcio sydd ar gael yn cael ei reoli gan weithredwyr. Mae’r ardal yn debygol o fod yn ganolbwynt masnachol ardal eang. Mae parcio ar y stryd i gyd wedi ei reoli ac mae’n rhaid talu am barcio cyhoeddus oddi ar y stryd.
Ardal 2 – Canol Tref neu Cyrion Canol Ddinas.
Mae canol trefi, y mae pobl leol yn meddwl amdanynt fel eu cyrchfan ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau nad ydynt yn cael eu cynnig yn eu cymuned leol eu hunain, neu ardal yn union y tu allan i Ganol y Ddinas (Ardal 1). Mae gan yr ardal ystod lawn o weithgarwch adwerthu a nifer o fusnesau i gyd o fewn taith gerdded. Mae’r ardal yn ganolbwynt ar gyfer y rhwydwaith bysiau lleol ac mae’n debygol fod gorsaf rheilffordd yno. Mae dwysedd yr adeiladu’n uchel gydag ychydig o le parcio preifat. Mae cyfyngiadau parcio sylweddol a llawer o barcio oddi ar y stryd ar gael i’r cyhoedd.
Ardal 3 - Trefol.
Mae rhan hanfodol o’r ardal drefol gyda nifer o gyfleusterau lleol sylfaenol o fewn 400 metr ar droed. Mae nifer o lwybrau bysiau yn cynnig hyd at 6 bws yr awr; nifer o leoedd yn cynnig mynediad ymarferol i’r rhan fwyaf o bobl, ond nid i bob un o’r cyfleusterau hanfodol. Mae cwrtil y safle’n cyfyngu, i raddau, ar faint o barcio gellir ei ddarparu. Mae’n debygol y bydd rhywfaint o gyfyngu ar barcio ar y stryd ac mae parcio oddi ar y stryd fel arall yn gyfyngedig iawn neu nid oes parcio o gwb yno.
Ardal 4 – Maestrefi neu Bron a bod yn Drefol.
Cyrion y trefi mwyaf, maestrefi trefi, aneddiadau llai i gyd, pob un ohonynt yn cynnig ystod o gyfleusterau lleol. Mae gwasanaeth bws o leiaf unwaith yr awr i ganol y dref ac efallai bod gorsaf rheilffordd hefyd yn y dref. Mae’r cyfleusterau lleol yn cynnwys canolfan leol o fewn 400 metr ar droed. Mae rhai o’r amwynderau sylfaenol eraill fel meddygfa hefyd ar gael gyda’r un pellter cerdded iddynt.
Ardal 5 – Cefn Gwlad.
Ardaloedd, gan gynnwys pentrefi bychan, gydag ychydig o gyfleusterau lleol o fewn taith gerdded. Mae angen cerbydau ar gyfer rhan fwyaf o deithiau, er bod rhywfaint o waith lleol. Gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn llai na phob awr ac yna i ddim ond un canolfan leol. Nid oes prinder tir ar gyfer darpariaeth parcio yn y safle ond mae’r system briffyrdd gerllaw yn cynnig cyfle cyfyngedig i barcio ceir arni.
Ardal 6 – Cefn Gwlad Eithaf.
Adeiladau unigol gwasgaredig. Ardaloedd heb gyfleusterau lleol y gellir cerdded atynt. Mae rhaid cael cerbydau ar gyfer pob taith ar wahân i’r rhai mwyaf lleol. Gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn anaml iawn neu tu hwnt i bellter cerdded. Nid oes prinder tir ar gyfer darpariaeth parcio ar y safle ond nid yw’r system priffyrdd gerllaw yn cynnig unrhyw gyfle i barcio ceir oherwydd ei bod mor gul.
Nodiadau ynglyn ag Ardaloedd parcio
- Dylai’r cyfeiriadau uchod at ‘gludiant gyhoeddus’ olygu bws neu wasanaethau trên.
- Mae’n rhaid i amlder y gwasanaeth bws uchod fod yn weithredol yn gyson rhwng 7 a.m a 7 pm i fod yn gymwys.
- i gael gwybodaeth am y pellteroedd cerdded derbyniol, cyfeiriwch at y ddogfen IHT Guidelines for Journeys on Foot a nodyn cynghori technegol DETR Encouraging Walking.