6. GWEITHREDU’R SAFONAU PARCIO
Mae’r raddfa ddarpariaeth parcio yn amrywio trwy Gymru a bydd blaenoriaethau lleol yn pennu gweithredu’r safonau. Yr Awdurdod Lleol fydd yn dehongli a gweithredu’r safonau, ond mae hyblygrwydd yn y safonau sy’n caniatáu ystyried amgylchiadau lleol. Disgwylir y bydd llunio’r Cynlluniau Cludiant Rhanbarthol, Cynlluniau Datblygu Lleol, dynodi Ardaloedd Cadwraeth, Ardaloedd Gweithredu Tai, Ardaloedd gwella Cyffredinol, ac yn y blaen, i gyd yn effeithio ar ddehongli’r ddogfen hon.
- hygyrchedd y system gludiant cyhoeddus, a’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ganddi,
- argaeledd bysiau preifat neu ddefnyddio ceir ar y cyd,
- cyfrannau perthnasol gweithlu amser llawn / rhan amser / y dalgylch lleol,
- hygyrchedd cerdded a beicio,
- tagfeydd presennol a phosibl mewn strydoedd ger datblygiad,
- hygyrchedd lleoedd parcio cyhoeddus a/neu breifat yn yr ardal a’u hargaeledd.
Lle ni chydymffurfir â’r safonau hyn, efallai gellir trafod Cytundebau Adran 106 gyda’r datblygwyr. Mae’n bosibl y bydd y rhain yn cynnwys nifer o gamau dros dro i liniaru effaith posibl y datblygiad ac i ateb pryderon.
Dylid dylunio pob ardal barcio arall, ac eithrio ardal parcio preswyl, ffyrdd bychain ardaloedd preswyl, traffig isel, cyflymder isel, i ganiatáu cerbydau i fynd a dod o’r safle trwy yrru ymlaen. Lle cynigir cyfleusterau parcio newydd ar gyfer eiddo presennol, efallai gellir lliniaru’r gofyniad hwn i gynnwys priffyrdd Trefol Dosbarth 3, lle gellir gosod mynediad safonol llawn ac nid yw diogelwch yn cael ei beryglu.
Bydd angen cynlluniau teithio fel amod caniatâd cynllunio ar gyfer pob cais datblygu sy’n fwy na 1000m2 o gyfanswm ardal llawr, ac ar gyfer datblygiadau llai a fydd â goblygiadau sylweddol ar gludiant neu a fydd wedi ei lleoli lle byddai lleihau traffig cerbydau o fudd penodol. Efallai byddwn yn lliniaru gofynion parcio a nodwyd ar y tabl, yn dilyn derbyn manylion cynllun teithio, ond ar yr amod bod camau i orfodi cydymffurfiaeth â’r cynllun teithio wedi eu cynnwys mewn Cytundeb Adran 106. Bydd camau gorfodaeth addas yn cynnwys darparu targedau, cynllun monitro a phenodi cydlynydd cynllun teithio. Mae Canllawiau Arfer Gorau ar gyfer monitro cynlluniau teithiau ar gael yn nogfennau’r Adran Cludaint “Using the Planning Process to Secure Travel Plans”, “Making Residential Travel Plans Work” a’r ddogfen gysylltiedig “Good Practice Guidelines For New Development”. Bydd angen ystyried cyngor ychwanegol, fel y bydd yn cael ei gyhoeddi.
Dan rai amgylchiadau, e.e. ardaloedd cadwraeth, caniateir newid y safonau i ddiogelu sefyllfaoedd amgylcheddol.
Mae enghreifftiau o asesu gofynion parcio, gan ddefnyddio’r Safonau Parcio hyn, ar y dudalen nesaf.
Enghreifftiau o Ddefnyddio Safonau Parcio
Bydd y gofynion parcio yn cael eu hasesu fel a ganlyn:
DEFNYDD SIOPA -
Parcio Gweithredol = Lle i 2 gerbyd masnachol
Parcio heb fod yn Weithredol 1 lle/ 20metr² = 25 lle
DEFNYDD SWYDDFA
1 lle parcio anweithredol / 25metr² = 40 lle
CYFANSWM DARPARIAETH: Lle i 2 Gerbyd Masnachol + 65 lle parcio
Newid defnydd o ddiwydiant i warws adwerthu nad yw’n gwerthu bwyd (cymysg) (Ardal 2)
Cyfanswm arwynebedd llawr 1500metr² ar ystâd ddiwydiannol.
Y gofynion gweithredol ar gyfer adeilad diwydiannol 1500metr2 yw 175metr2 (gweler nodyn 5) o ofod iard ac 13 man parcio anweithredol (1 gofod / 120metr2).
Y gofynion ar gyfer warws adwerthu yw 3 man cerbydau masnachol (225metr2) a 50 lle parcio (1lle / 30metr2).
Felly, dylid darparu ardal weithredol ychwanegol o 50metr2 fel bod lle i o leiaf tri cherbyd masnachol, ynghyd â 37 lle parcio ychwanegol oni bai fod gan y safle eisoes le ar gyfer parcio 50 car.