7. DIFFINIADAU A NODIADAU
Lle Parcio Gweithredol
Mae’n rhaid cynnwys lle ar gyfer ceir staff, sydd eu hangen oherwydd natur y busnes, ac er mwyn ei weithredu o ddydd i ddydd.
Lle Parcio Anweithredol
- tymor hir (h.y. parcio cymudwyr) ar gyfer cerbydau staff/cleientiaid/cwsmeriaid sy’n debygol o fod yn yr adeilad am un amser hir,
- lle parcio tymor byr ar gyfer staff/cleientiaid/cwsmeriaid sydd yn defnyddio’r adeilad unwaith am amser byr.
Lle Parcio Preswyl
Yn cynnwys y lle gofynnol ar gyfer trigolion a lle ar gyfer ceir pobl yn ymweld â’r preswylwyr.
CYFANSWM Arwynebedd Llawr
Y safonau sy’n gysylltiedig ag ardaloedd llawr yw CYFANSWM ardal llawr, h.y. yn cynnwys y waliau allanol, ac eithrio lle bydd y testun yn nodi fel arall ar gyfer tafarndai, bwytai, caffis ac addoldai.
Estyniad neu Datblygu Adeiladau Presennol
Caniateir cynnydd o 20% ar gyfer eiddo diwydiannol, swyddfeydd masnachol a thafarnau cyn 1914, sydd â chyfanswm arwynebedd llawr llai na 235metr², heb angen parcio ychwanegol. Dim ond unwaith y caniateir y lwfans hwn a bydd rhaid adleoli unrhyw barcio sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun.
Hygyrchedd Cludiant Cyhoeddus
Mae darpariaeth cludiant cyhoeddus yn gallu lleihau defnyddio ceir. Lle bo hynny’n briodol dylid gwella lefel y ddarpariaeth hon fel mantais cynllunio trwy’r broses cynllunio ar draul y datblygwyr. Mae hygyrchedd cludiant cyhoeddus yn gysylltiedig â’r lefelau parcio gofynnol drwy’r system ardaloedd a gyflwynir gan y ddogfen hon a thrwy weithredu ystyriaethau cynaladwyedd a nodwyd yn Atodiad 6.
Dwysedd Cyflogaeth
Aseswyd y safonau ar normau dwysedd (adwerthu 19.5metr2 y gweithiwr, diwydiannol 35 - 45metr² y gweithiwr, swyddfeydd 16.5metr2 y gweithiwr). Gellir ymdrin ag amrywiadau mewn dwysedd yn ôl eu haeddiant.
Defnydd Tir
i bwrpas gweithredu’r safonau parcio mae’r tabl a ganlyn yn amlinellu’r defnydd tir a nodwyd yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987.
Sylwer: Nid yw rhai defnyddiau yn y ddogfen hon yn dod o dan Ddosbarth Defnydd penodol ac felly bydd rhaid ymdrin â nhw ar wahân (gweler defnydd cyffredinol) e.e. marchnad awyr agored.
Ni ddiffiniwyd y Safonau yn ôl Trefn Dosbarthiadau Defnydd 1987 oherwydd byddai hyn yn arwain at ystod eang o ddarpariaeth a argymhellir e.e. mae Dosbarth B1 busnes yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd swyddfa a diwydiant. Byddai safon a fyddai’n rhagweld y cyfnewid defnydd hwn yn eang iawn ac felly dim ond safonau ar gyfer defnydd tir penodol dan sylw sydd wedi’u cynnwys e.e. defnydd swyddfa neu ddiwydiant.
Oherwydd y cyfnewid defnydd, efallai bydd angen gosod cyfyngiadau ar ddatblygiad o fewn y dosbarthiadau ehangach hyn i gyd-fynd â gofynion parcio ceir.