9. SAFONAU PARCIO FESUL DEFNYDD TIR

9.1.

PRESWYL: ADEILADAU NEWYDD AC ADDASIADAU

9.1.1.

ARDAL 1

9.1.2.

ARDAL 2 - 6

9.1.3.

Nodiadau perthnasol i safonau parcio preswyl ar gyfer pob ardal

  1. Mae’n rhaid darparu parcio ar y cwrtil lle bynnag fo’n hynny’n bosibl.  Os yw parcio cymunedol yn cael ei ddarparu, mae’n rhaid i’w leoliad yn gyfleus ac mewn lle sydd hefyd yn cael ei wylio a fydd felly yn gwella ei ddiogelwch.  Ni chaiff unrhyw faes parcio fod â lle i fwy na 12 o gerbydau ac, yn dibynnu ar y cyd-destun lleol, dylai parcio penodedig gael ei ddiogelu gan folard y gellir ei gloi neu efallai bydd angen dulliau eraill.  Mae’n rhaid darparu mynediad diogel i gerddwyr rhwng bob uned annedd a’i lle parcio.
  2. Dylid darparu garejys fel y dewis parcio mwyaf diogel lle bynnag fo’n bosibl, gorau oll os oes modd eu lleoli wrth ochr yr annedd.  Mae’n rhaid osgoi blociau garejys oddi wrth yr aneddiadau.
  3. Dim ond os oes gan y garejys maint mewnol fel yr argymhellir gan Llawlyfr y Strydoedd, ar gyfer garej sengl o 6metr x 3metr y gellir eu cyfrif fel lleoedd parcio.  Os oes angen mynediad i bobl anabl mae’n rhaid cynyddu’r meintiau hyn i 6metr x 3.8 metr.  Dylai pob eiddo gyda garej hefyd gael lôn ddynesu 6metr o hyd a lled heb fod yn gulach na 3.6metr.
  4. Dylid dylunio parcio ar gyfer ymwelwyr fel y rhan hanfodol  o unrhyw ddatblygiad lle bo gofyn amdano, ac mae’n rhaid ystyried anghenion pobl anabl.
  5. Ar gyfer datblygiadau lle cyflwynwyd tystiolaeth glir y bydd perchnogaeth ceir yn is na’r arfer, gellir mabwysiadu agwedd mwy hyblyg tuag at nifer y lleoedd parcio.  Tystiolaeth dderbyniol ar gyfer hynny fyddai cytundeb gyda’r tenantiaid i sicrhau lefelau perchnogaeth ceir isel.
  6. O ran cartrefi preswyl ar gyfer yr henoed a chartrefi nyrsio, mae’n rhaid darparu digon o leoedd parcio gweithredol yn agos at yr adeilad i alluogi ambiwlans i fynd a dod wrth yrru ymlaen.
  7. Bydd safonau parcio isel ar gyfer llety pwrpasol i fyfyrwyr yn seiliedig ar amod sy’n gofyn am gytundeb tenantiaeth cyfreithlon i atal myfyrwyr rhag parcio ar strydoedd cyfagos o fewn 3 milltir i adeilad y llety, cyfleusterau cludiant cyhoeddus, a chyflwyno cynllun teithio.
  8. Lle cynigir addasu lloriau uchaf siopau canol trefi, tybir mai defnydd storfa bresennol fel ‘warws adwerthu’ fydd yn berthnasol ar gyfer cyfrifo darpariaeth parcio.
9.2.

SWYDDFEYDD – Defnydd Dosbarth B1 Busnes , Dosbarth A2 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol (gan gynnwys canolfannau galwadau)

9.2.1.

ARDAL 1

9.2.2.

ARDALOEDD 2 a 3

9.2.3.

ARDALOEDD S 4 - 6

9.2.4.

Nodiadau perthnasol i safonau parcio swyddfeydd bob Ardal

  1. Bydd gofynion ailddatblygu swyddfeydd, estyniadau ac addasiadau yn debyg i adeiladu newydd, ond yn amodol ar nodyn b isod.
  2. Ar gyfer eiddo hyd at 200m2 arwynebedd llawr gros, caniateir cynnydd o 20%  heb angen parcio ychwanegol.  Dim ond unwaith y caniateir hyn a bydd rhaid adleoli unrhyw barcio sy’n cael ei ddisodli gan y datblygiad .
  3. Efallai ystyrir llacio’r gofynion parcio ar gyfer newid defnydd llawr gwaelod adeilad mewn ardaloedd siopa o Ddefnydd Dosbarth A1 (siopau ) i Ddefnydd Dosbarth A2 (Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol).
  4. Parcio wedi’i neilltuo ar gyfer pobl anabl:  Gweler Atodiad 1.
  5. Ar gyfer parcio beiciau a beiciau modur, gweler Atodiadau 4 a 5. 
9.3.

SIOPAU (Gan gynnwys Siopau, Archfarchnadoedd ac Uwchfarchnadoedd)

9.3.1.

ARDAL 1

9.3.2.

ARDALOEDD 2 a 3

9.3.3.

ARDAL 4 a 5

9.3.4.

ARDAL 6

9.3.5.

Nodiadau perthnasol i safonau parcio Siopau ar gyfer pob Ardal

  1. Mae’r safon anweithredol yn rhagdybio cymhareb adwerthu/heb fod yn adwerthu o 75/25.  Efallai gellir amrywio hyn yn ôl doethineb yr Awdurdod Lleol pan ddefnyddir cymhareb wahanol.
  2. Er efallai bod gan ‘barciau adwerthu’ barcio ar y cyd, bydd angen lefelau parcio tebyg ar ddatblygiadau fel hyn ar y siopau unigol, oherwydd bydd pobl yn parcio’n hirach yno.
  3. Pan ddefnyddir eiddo presennol ar gyfer sefydlu marchnad stondinau, bydd yr ymgeisydd yn nodi’r lleoliad ar gyfer darparu parcio ymwelwyr.
  4. Ar gyfer eiddo gyda chyfanswm arwynebedd gros llawr hyd at 200m², caniateir cynnydd o 20% heb angen rhagor o barcio.  Dim ond unwaith gellir caniatáu hyn, a bydd rhaid adleoli unrhyw barcio sy’n cael ei ddisodli. 
  5. Nid yw’r cynnydd mewn trafodion archfarchnadoedd yn gymesur â’r cynnydd mewn ardal y llawr.  Mae estyniadau o 33% llawr gros yn creu cynnydd o 10% mewn trafodion.
  6. Mae’r safon anweithredol yn cynnwys parcio ar gyfer staff.
  7. Gweler Atodiad 1 ar gyfer parcio wedi ei neilltuo ar gyfer Pobl Anabl.
  8. Gweler Atodiad 4 a 5  ar gyfer parcio ar gyfer beiciau a beiciau modur
  9. Yn ogystal â’r gofynion parcio gweithredol ar gyfer gwasanaethu siopau, mae’n rhaid darparu lleoedd parcio ychwanegol bob amser i ganiatáu cerbydau sy’n gwasanaethu’r siop i ddod i mewn a gadael cwrtil yr ardal gwasanaethu trwy yrru ymlaen.
9.4.

WARYSAU ADWERTHU A GAREJYS

9.4.1.

ARDALOEDD 2 - 5

Sylwer :

Rhagdybir na fydd datblygiadau fel hyn yn cael eu caniatáu yn Ardal 1 nac yn Ardal 6. Felly ni ddarparwyd data ar gyfer yr Ardaloedd hyn.

9.4.2.

Nodiadau perthnasol i safonau parcio Warysau Adwerthu a Garejys pob Ardal

  1. Mae’r ystod creu teithiau a gofynion parcio warysau adwerthu yn amrywio’n fawr.  Gellir dosbarthu gofynion parcio y rhan fwyaf o fathau cyffredin o siopau mewn bandiau eang.  Dangosir hyn gan y gofynion yn y tabl.

          Gofynion uchaf           -          Siopau DIY

          Gofynion canolig                    Siopau trydanol/offer nwy,

                                                       Dodrefn pacio fflat

        Gofynion isaf              -           Siopau dodrefn a osodir at ei gilydd/carpedi,

                                                      Siopau nwyddau’r cartref a hamdden

  1. Er efallai bod gan ‘barciau adwerthu’ barcio ar y cyd, bydd angen lefelau parcio tebyg ar ddatblygiadau fel hyn ag ar gyfer siopau unigol, oherwydd bod pobl yn parcio yno yn hirach.
  2. Lle defnyddir adeilad presennol ar gyfer sefydlu marchnad stondinau, bydd yr ymgeisydd yn nodi’r  lleoliad ar gyfer parcio ymwelwyr. 
  3. Ar gyfer eiddo gyda chyfanswm gros llawr hyd at 200m², caniateir cynnydd o 20% heb fod angen rhagor o barcio.  Dim ond unwaith y gellir caniatáu hyn, a bydd rhaid adleoli unrhyw barcio sy’n cael ei ddisodli.
  4. Mae estyniadau o 33% o arwynebedd llawr gros yn creu cynnydd o 10% mewn trafodion.
  5. Mae’r safon anweithredol yn cynnwys parcio ar gyfer staff.
  6. Gellir llacio’r gofynion parcio mewn canolfannau gwasanaethu cyflym e.e. teiars, pibellau gwacáu, MOT ac yn y blaen.
  7. Os yw eiddo gwerthu ceir yn cynnwys ardaloedd arddangos allanol, bydd angen rhagor o leoedd parcio.
  8. Gweler Atodiad 1 ar gyfer parcio wedi ei neilltuo ar gyfer Pobl Anabl.
  9. gweler Atodiad 4 a  5 ar gyfer parcio beiciau a beiciau modur.
  10. Yn ogystal â’r gofynion parcio gweithredol ar gyfer gwasanaethu siopau, mae’n rhaid darparu lleoedd parcio ychwanegol bob amser i ganiatáu cerbydau sy’n gwasanaethu’r siop i ddod i mewn a gadael cwrtil yr ardal gwasanaethu trwy yrru ymlaen.
  11. Bydd siopau cyfleus mewn gorsafoedd petrol yn denu cwsmeriaid nad ydynt yn prynu petrol a bydd angen darparu lleoedd parcio iddynt.  Mae’n rhaid asesu’r gofyniad ychwanegol hwn fel siop fechan.
9.5.

DIWYDIANT A WARYSAU DIWYDIANNOL

9.5.1.

ARDAL 1

9.5.2.

ARDAL 2 – 4

9.5.3.

ARDALOEDD 5 a 6

9.5.4.

Nodiadau perthnasol i Warysau Diwydiannol a Diwydiant a safonau parcio ar gyfer pob Ardal

  1. Dylai cerbydau allu dod i mewn a gadael y safle trwy yrru ymlaen.
  2. Caniateir llacio’r safonau ar gyfer lleoedd gweithredol pan wneir trefniadau arbennig ar gyfer gwasanaethu’r safle
  3. Mae parcio ymwelwyr yn cael ei gynnwys yn y parcio anweithredol.
  4. Caniateir cynnydd o 20% ar gyfer adeilad gyda chyfanswm arwynebedd llawr hyd at 235m, heb fod angen parcio ychwanegol.  Dim ond unwaith gellir caniatáu hyn a bydd rhaid adleoli unrhyw barcio sy’n cael ei ddisodli.
  5. Gofynion gweithredol: Dylid ystyried fod lleiafswm yr ardal weithredol yn 10% o Arwynebedd Llawr Gros sy’n uwch na 2,000m2.  Efallai bydd angen dangos bod yr ardaloedd uchod yn addas ar gyfer y pwrpas. 

  1. Diffinnir y Cyfyngiad Datblygu Cyffredinol o 235m² fel yr uchafswm ar gyfer unedau er mwyn annog cwmnïau newydd sydd angen safleoedd maint garej.  Diffinnir unedau mwy fel, “Diwydiant".
  2. Diwydiannau o natur dechnegol iawn yw cwmnïau sy’n arbenigo mewn arloesedd technegol ac fel arfer maent yn seiliedig ar ficrobrosesyddion.
  3. Os yw’r adeiladau’n cael eu defnyddio fel canolfannau dosbarthu, mae’n rhaid darparu digon o le hefyd ar gyfer cerbydau masnachol sy’n debygol o gael eu parcio yno dros nos.
  4. Gweler Atodiad 1 ar gyfer parcio wedi ei neilltuo i bobl anabl.
  5. Gweler Atodiadau 4 a 5 ar gyfer parcio beiciau a beiciau modur
9.6.

MANNAU ADLONIANT

9.6.1.

ARDAL 1

9.6.2.

ARDALOEDD 2 - 4

9.6.3.

ARDALOEDD 5 a 6

9.6.4.

Nodiadau ynglyn â safonau parcio Lleoedd Adloniant ar gyfer pob ardal

  1. Yn ogystal â gofynion parcio gweithredol ar gyfer gwasanaethu mae’n rhaid darparu digon o le ychwanegol bob amser i ganiatáu cerbydau gwasanaethu i ddod i mewn i gwrtil ardal gwasanaethu’r adeilad a’i adael trwy yrru ymlaen. 
  2. Mae’n rhaid darparu’n ddigonol ar gyfer pobl anabl. 
  3. Gweler Atodiadau 4 a 5 ar gyfer parcio beiciau a beiciau modur.
9.7.

GWESTAI A BWYTAI

9.7.1.

ARDAL 1

9.7.2.

ARDALOEDD 2 - 4

9.7.3.

ARDALOEDD 5 a 6

9.7.4.

Nodiadau perthnasol i Westai a Bwytai pob Ardal

  1. Dylid asesu cyfleusterau ar gyfer pobl amhreswyl trwy ddefnyddio’r categori priodol.  Dylid lleihau nifer y lleoedd parcio lle disgwylir y bydd pobl yn rhannu cyfleusterau.
  2. Mae’r gwahaniaeth yn y gofynion parcio  rhwng ardaloedd, yn caniatáu gwahaniaethu rhwng tafarndai ‘gwledig’ a thafarndai ‘trefol’ y mae’n debygol y bydd rhagor o bobl yn cerdded iddynt.
  3. Bydd angen llai o barcio ar gyfer tafarndai a adeiladwyd cyn 1914 i ganiatáu eu hailddatblygu neu eu hestyn gan gynyddu eu maint hyd at 20% o gyfanswm arwynebedd y llawr,  heb fod angen parcio ychwanegol.
  4. Gellir llacio’r gofynion anweithredol ar gyfer bwytai a chaffis mewn canolfannau siopau  sefydledig os gellir dangos eu bod yn atodol i’r ardal siopa neu lle bo bwytai fel hynny’n cael eu defnyddio’n bennaf min nos gan fod digon o le parcio yn yr ardal.  Ond, mae’n rhaid darparu digon o le parcio yn y cefn ar gyfer staff.  Nid yw hyn yn berthnasol i gaffis gyrwyr lorïau).
  5. Mae’n rhaid i fwytai, gan gynnwys cyfleusterau gyrru trwodd ar gyfer archebu a chasglu bwyd yn y car, gael mynediad ar wahân ar gyfer hyn a darparu lleiafswm o 6 lle aros.
  6. Yn ogystal â’r gofynion parcio gweithredol ar gyfer gwasanaethu, mae’n rhaid darparu digon o le bob amser i ganiatáu cerbydau gwasanaethu i ddod i mewn i gwrtil gwasanaethu’r eiddo, a’i adael, trwy yrru ymlaen.
  7. Mae’n rhaid darparu’n ddigonol ar gyfer defnydd pobl anabl.
  8. Gweler Atodiad 4 a 5 ar gyfer trefniadau parcio beiciau a beiciau modur.
9.8.

SEFYDLIADAU CYMUNEDOL

9.8.1.

ARDAL 1

9.8.2.

ARDALOEDD 2 – 6

9.8.3.

Nodiadau perthnasol i safonau parcio Sefydliadau Cymunedol pob Ardal

  1. Bydd lefel y ddarpariaeth hon yn briodol ar gyfer ysbytai dwys ac ysbytai cymdogaeth.  Bydd lefel ddarpariaeth is yn dderbyniol ar gyfer pob math o ysbyty arall.
  2. Ymarferwr i gynnwys meddygon, deintyddion, nyrsys, ymwelwyr iechyd, ac yn blaen.
  3. Bwriad yr ystod hon yw adlewyrchu gwahanol ddalgylchoedd eglwysi a mannau addoli.  Byddai llai o leoedd parcio ar eglwys sy’n gwasanaethu ardal leol nag eglwys sy’n gwasanaethu ardal eang.
  4. Dylid ystyried lle parcio coetsis lle bo hynny’n briodol a lle i barcio beiciau a beiciau modur.
  5. Yn ogystal â gofynion parcio ar gyfer gwasanaethau, mae’n rhaid gadael digon o le bob amser i ganiatáu cerbydau gwasanaethau i ddod i mewn i ardal gwasanaethu cwrtil yr adeilad lle darperir hynny a’i adael, wrth yrru ymlaen.
  6. Mae’n rhaid asesu cyfleusterau bar adeilad clwb ac adnoddau bwyty ar wahân bob amser.
  7. Gweler Atodiad 1 ar gyfer neilltuo lleoedd parcio ar gyfer pob anabl.
  8. Gweler Atodiadau 4 a 5 ar gyfer parcio beiciau a beiciau modur. 
9.9.

SEFYDLIADAU ADDYSGOL

9.9.1.

ARDAL 1

9.9.2.

ARDAL 2 - 4

9.9.3.

ARDAL 5 a 6

9.9.4.

Nodiadau perthnasol i Sefydliadau Addysgol

  1. Yn ogystal â pharcio anweithredol mae’n rhaid darparu ardal ar gyfer codi a gollwng plant ysgol.
  2. Dylid ystyried argaeledd lle parcio digonol wrth ymyl y palmant ar gyfer Meithrinfeydd Dydd mewn eiddo wedi ei addasu (h.y. parcio heb gyfyngiad).
  3. Dylid asesu hyn yn ôl rhifau maint llawn y feithrinfa.  Os cyflogir staff rhan amser dylid cynyddu hyn i’w cyfwerth amser llawn.
  4. Mae profiad yn dangos y bydd angen o leiaf 15 o leoedd ceir ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion.  Eithriadau i hyn fydd ysgolion uwchradd arbenigol (e.e. crefyddol neu Gymraeg) gyda dalgylch eang lle byddai nifer llai yn ddigonol, neu ysgolion mwy ym mhob categori lle bydd angen cynnydd sylweddol (hyd at 50) efallai.  O ran bysiau, dylid darparu digon o leoedd oddi ar y stryd ar gyfer yr holl wasanaethau y bydd gweithredwr yr ysgol newydd yn rhagweld eu rhedeg ar gyfer disgyblion, ac eithrio bysiau gwasanaeth sy’n mynd heibio.
  5. Dylai’r ardal barcio gynnwys cyfleuster i alluogi cerbydau droi heb gefnu.  Mewn amgylchiadau eithriadol byddai’n dderbyniol gosod yr ardal droi oddi wrth ardaloedd y disgyblion.
  6. Lle bod lefel uchel o fyfyrwyr rhan amser (rhyddhau am ddiwrnod), cynyddir y safon ar gyfer Colegau Addysg Uwch/Prifysgolion i 1 lle parcio ar gyfer pob 3 myfyriwr.
  7. Lle defnyddir yr ysgol ar gyfer defnydd deuol, cymdeithasol ac oedolion, mae derbyn arwynebeddau'r mannau chwarae ar gyfer parcio yn dderbyniol.
  8. Diffiniadau ysgolion ar gyfer pwrpas y safonau hyn yw:-

      Meithrin      -     grwpiau cyn oed ysgol 3-5 oed, yn aml mewn eiddo preswyl wedi ei addasu     

      Babanod     -     ysgolion ffurfiol 3-7 oed     

      Cynradd      -     ysgolion ar gyfer plant 5 neu 7 i 11 oed     

      Uwchradd   -     ystod oedran 11 i 18 oed     

      Colegau Addysg Uwch ac Addysg Bellach – yn cynnwys colegau chweched dosbarth.

  1. Mae’n rhaid gwneud darpariaeth briodol ar gyfer defnydd pobl anabl
  2. Mae’n rhaid gwneud darpariaeth briodol i rieni godi/gollwng plant yn ôl yr amgylchiadau lleol ac unrhyw gynllun teithio’r ysgol.  Mae’n rhaid lleoli ardaloedd gollwng plant fel nad yw diogelwch plant yn cael ei beryglu  wrth iddynt gerdded neu feicio i’r ysgol
  3. Gweler Atodiadau 4 a 5 ar gyfer parcio beiciau a beiciau modur.

« Back to contents page | Back to top