10. ATODIADAU

10.1.

ATODIAD 1 – MYNEDIAD I BOBL ANABL

10.1.1.

NODIADAU CANLLAW i YMGEISWYR

Mae’n rhaid i bob adeilad cyhoeddus newydd, lle bo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol, fod yn hygyrch i bobl anabl a bod cyfleusterau yno ar eu cyfer.  Mae gofynion Deddf Pobl Anabl a Salwch Cronig 1970 a Deddf Pobl Anabl a Phobl â Salwch Cronig (Diwygio) 1976 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005, yn berthnasol i ystod eang o adeiladau, gan gynnwys: swyddfeydd, siopau, banciau, swyddfeydd post, canolfannau chwaraeon, gwestai, bwytai a thafarndai, theatrau a sinemâu, canolfannau arddangos, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, neuaddau cymunedau ac eglwysi; ynghyd â phob adeilad addysg, gan gynnwys ysgolion, prifysgolion a cholegau.  Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae’n bosibl fod adeiladau eraill yn cael eu cynnwys dan delerau’r Deddf.

10.1.2.

Wrth gyhoeddi dogfen gynhwysfawr ar safonau parcio, cydnabuwyd bod cysylltiad rhwng y gofyniad sylfaenol o gael mynediad i adeiladau gan bobl anabl, â threfniadau parcio. Lluniwyd yr atodiad hwn felly i dynnu sylw datblygwyr at y materion ychwanegol hyn.

10.1.3.

Ar ôl ystyried nifer o ganllawiau a ddarparwyd gan nifer o gyrff ac awdurdodau sydd i gyd mwy neu lai yn ymwneud â’r maes hwn, argymhellir defnyddio’r cyhoeddiadau a ganlyn fel sail ar gyfer llunio canllawiau:

“Reducing Mobility Handicaps”

Canllawiau a gyhoeddwyd gan The Institution of Highways and Transportation, 6 Endsleigh Street, London, WCIH ODZ.

“Planning and Access for Disabled People”

A good practice guide cyhoeddwyd gan Department for Communities and Local Government,          PO Box 236, Wetherby, LS23 7NB

10.1.4.

Mae’r ddogfen gyntaf yn nodi ystyriaethau allanol datblygiad yn fanwl iawn tra bod yr ail ddogfen yn canolbwyntio mwy ar y system gynllunio, ond dylid eu darllen a gweithredu’r argymhellion ynddynt  gyda’i gilydd.

Yn ogystal â chynnwys y ddwy ddogfen uchod, mae’n rhaid i ddatblygwyr ystyried yn briodol yr agweddau a ganlyn , sy’n bwysig i bobl anabl. 

  1. Arwyddo llwybrau cerddwyr – ar ôl sefydlu’r lleoliad mwyaf cyfleus ar gyfer parcio cerbydau pobl anabl, mae’n hanfodol fod gan ddatblygwyr gynllun gosod arwyddion clir i ddangos y mynedfeydd priodol ar gyfer pobl anabl ac yna’i weithredu.
  2. Dylai graddiant unrhyw ramp fod cyn lleied a bo modd.  Ni ddylid ystyried fod ‘uchafswm graddiant 1 i 12’ yn dderbyniol ar gyfer pobl anabl, os oes modd yn y byd ei osgoi.  Dylai datblygwyr ystyried yn ofalus iawn lefelau mannau parcio a lefelau llawr gorffenedig perthnasol yn ystod cam cynnar eu cynllunio, fel bod llwybr gwastad neu bron a bod yn wastad (llai na 5% fyddai orau) ar gael rhwng y lle parcio a’r adeilad, os yw hynny’n bosibl.
  3. Mae’r anhawster a achosir i bobl anabl gael mynediad i adeilad wedi ei gynnwys yn y dogfennau ond gall oedi wrth agor drysau ac yn y blaen achosi annifyrrwch mawr ac felly dylai’r datblygwr ystyried gosod canopi wedi’i ddylunio ar gyfer defnydd pobl anabl dros fynedfeydd.
10.1.5.

PARCIO WEDI EI NEILLTUO AR GYFER POBL ANABL

Argymhellir fod y lleoedd parcio wedi ei lleoli yn briodol, o fewn 50 metr o’r cyfleuster byddai orau, ac yn cael ei wasanaethu gan y maes parcio ac sy’n ddigonol o ran eu maint a’u nifer, yn cael eu darparu ar gyfer pobl ag anableddau.  Dylai maint pob lle parcio a lefel y ddarpariaeth gyd-fynd ag argymhellion dogfen yr Adran Gludiant ‘Inclusive Mobility’, ‘A Guide to Best Practice on Access to Pedestrian and Transport Infrastructure’ (2002).

10.1.6.
Y cymesurau a argymhellir ar gyfer lleoedd deilwyr Bathodyn Glas yw: 
  • Ar gyfer meysydd parcio yn gysylltiedig â’r eiddo cyflogaeth presennol; 2% o gyfanswm niferoedd parcio, gydag o leiaf un lle parcio .
  • Ar gyfer meysydd parcio yn gysylltiedig ag eiddo cyflogaeth newydd; 5% o gyfanswm nifer lleoedd yn y  meysydd parcio.
  • Ar gyfer meysydd parcio yn gysylltiedig â mannau siopau, hamdden neu gyfleusterau adloniant a mannau ar agor i’r cyhoedd; Lleiafswm o un lle ar gyfer pob gweithiwr sy’n anabl ynghyd â 6% o gyfanswm nifer y lleoedd parcio ar gyfer modurwyr anabl sy’n ymweld â’r adeilad.
  • Ar gyfer meysydd parcio yn gysylltiedig â gorsafoedd rheilffordd; O leiaf un lle parcio ar gyfer pob gweithiwr rheilffordd sy’n yrrwr anabl ynghyd â:

                  Ar gyfer maes parcio a llai nag 20 lle, un lle ar gyfer pobl anabl         

                  Ar gyfer maes parcio gyda 20 i 60 lle, dau le ar gyfer pobl anabl         

                  Ar gyfer maes parcio 61 i 200 lle, tri lle ar gyfer pobl anabl         

                 Ar gyfer maes parcio gyda rhagor na 200 o leoedd, 4% o gyfanswm nifer y lleoedd parcio phedwar lle anabl yn ychwanegol at hynny. 

10.1.7.

Dylid marcio cilfachau parcio oddi ar y stryd ar gyfer pobl anabl, â llinellau melyn a symbol cadair olwyn melyn yn y lle parcio.  Dylid gosod arwydd, neu arwyddion, wrth fynedfa’r maes parcio i gyfeirio modurwyr anabl i leoedd parcio penodol, a fydd, os nad yw’n faes parcio dan do, hefyd yn arwyddion uwch ar ben y cilfachau parcio wedi eu neilltuo.  Dylai arwyddion y tu mewn i’r maes parcio ddangos y ffordd fwyaf cyfleus i’r cyfleusterau sy’n cael eu gwasanaethu gan y maes parcio, a’r pellter at y cyfleusterau hynny.  Dylai’r marciau gydymffurfio â Safonau Prydain BS8300:2001 ‘Design of buildings and their approaches to meet the needs of disabled people - Code of Practice’, yn ogystal ag argymhellion dogfen yr Adran Cludiant ‘Inclusive Mobility’, ‘A Guide to Best Practice on Access to Pedestrian and Transport Infrastructure’ (2002).

10.1.8.
Dylid marcio cilfachau parcio pobl anabl ar y stryd gan arwyddion a’u marcio gan gydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol (1994).  Dylai pob cilfach fod ag arwydd wedi ei godi ar ben y gilfach is sicrhau petai dail neu eira yn cuddio marciau’r ffordd, bod pwrpas y gilfach yn amlwg o hyd.
10.2.

ATODIAD 2 – GOSODIAD ARDALOEDD PARCIO

Ceir: y dimensiynau safonol ar gyfer lleoedd parcio ceir yw 4.8m x 2.6m 

Mewn Ardaloedd parcio ar dir, y gofyniad ar gyfartaledd ar gyfer pob car, gan gynnwys lle ar gyfer mynediad, yw 21m²  (226 tr.2)

10.2.1.

Cerbydau Gyrwyr Anabl

Y dimensiynau safonol ar gyfer parcio ceir yw: 4.8m x 3.6m

Mae hyn yn galluogi’r gyrwyr i symud o’r cerbyd i gadair olwyn.  Gyda rhai gosodiadau gellir defnyddio cilfachau 4.8m x 2.6m ond mae’n rhaid gwneud darpariaeth ychwanegol i’r bobl anabl allu symud i gadeiriau olwyn (gweler isod)

Mae’n rhaid darparu mynediad i’r cefn.

Dyma  ddulliau gwahanol o drefnu lleoedd parcio i bobl anabl

* MAE’N RHAID I WYNEB FFORDD GYFAGOS FOD YN GLIR O UNRHYW RWYSTR OS YW LLEOEDD PARCIO 2.6m YN CAEL EU DEFNYDDIO.
10.2.2.

Cilfachau Cerbydau  - Mae’n rhaid i’r gilfach fod yn ddigon mawr ac wedi’i leoli fel ei bod yn bosibl symud y cerbyd ar y safle, h.y. mae angen lleiafswm 105m² i ganiatáu lori 12 metr  anhyblyg,  adael y safle wrth yrru ymlaen.  Mae manylion pellach arferion dylunio da i’w cael yn y ‘Highway Authority Design Standards neu ‘Designing for Deliveries’, Freight Transport Association 1998.

Cerbydau Cymalog                       16.5m x 2.55m                       

Cerbydau Cymalog llwytho isel    18.0m x 2.55m                       

Cerbydau anhyblyg                      12.0m x 2.55m                       

Bysiau a Choetsis (2 echel)           13.5m x 2.55m                       

Bysiau a Choetsis (3 echel)           15.0m x 2.55m                       

Bysiau a Choetsis  (cymalog)        18.75m x 2.55m                       

Y lled fwyaf ar gyfer cerbydau rhewi   yw 2.65metr

Mae’n rhaid ar gyfer pob cerbyd ddod i’r safle a gadael y safle wrth yrru ymlaen.Mae canllawiau ychwanegol ar gyfer gosodiadau parcio i’w cael yn y Llawlyfr Strydoedd.

10.3.

ATODIAD 3 – TIRWEDDU

10.3.1.

Dylid defnyddio planhigion mewn maes parcio i dorri ar undonedd yr ardal palmant ac er mwyn diffinio neu guddio cilfachau parcio, ac i ddarparu nodweddion gweledol.  Ystyrir bod tirweddu yn rhan hanfodol o ddylunio ardaloedd parcio ac nid rhywbeth wedi ei ychwanegu ar ôl hynny.  Dylai glaswellt, planhigion gorchuddio tir, llwyni a choed sy’n cael eu defnyddio mewn meysydd parcio allu gwrthsefyll llygredd ac ni ddefnyddio coed gyda chwymp dail mawr na ffrwythau na changhennau sydd yn syrthio.  Dylid osgoi y rhan fwyaf o rywogaethau pisgwydden, gwallt y forwyn a chastanwydden.  Dylid gofalu nad yw’r plannu yn cuddio gwelededd ar gyffyrdd nac yn amharu ar warchod y safle.

10.3.2.

Dylai’r planhigion gyd-fynd â chymeriad lleol a’i lystyfiant gan ddefnyddio rhywogaethau brodorol yn ogystal â rhywogaethau addurniadol.  Dylid hefyd ystyried beth fydd uchder a lled y planhigion mewn blynyddoedd a sut fyddant yn effeithio ar strwythurau gerllaw.  Dylid osgoi defnyddio planhigion lle bydd sbwriel yn casglu ynddynt.

10.3.3.

Mae canllaw defnyddiol ar gyfer dewis  rywogaethau ar gael ar wefan a luniwyd gan Horticultural Trades Association ynghyd â’r Landscape Institute yn www.plantspec.org.uk.

10.3.4.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd tirlunio caled yn fwy priodol er enghraifft blociau concrit, briciau, slabiau palmentydd a cherrig bychain.

10.3.5.

Mae dewis helaeth o ddefnyddiau wynebu ar gael ar gyfer meysydd parcio.  Mae dewis pa un i ddefnyddio mewn sefyllfa benodol yn dibynnu ar ddwysedd y defnydd a ddisgwylir, sut fydd y maes parcio’n edrych a faint o arian sydd ar gael ar gyfer gosod a chynnal a chadw.

10.3.7.

Dylai dylunio a thirweddu meysydd parcio ystyried y cyngor yng nghanllawiau asesu’ cynllun parcio diogelach ‘Park Mark’ y Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu, yn ogystal â gofynion mwy cyffredinol Polisi Cynllunio Cymru a’r Nodyn Canllawiau Technegol 12: Dylunio (TAN12).

10.4.

ATODIAD 4 – SAFONAU PARCIO BEICIAU

10.4.1.

 Mae parcio tymor byr a pharcio tymor hir yn cael eu hystyried ar wahân yn y tablau a ganlyn.  Mae parcio tymor byr yn ateb gofynion cwsmeriaid neu ymwelwyr eraill pan fyddant yn ymweld â datblygiad, lle byddai parcio arhosiad hir yn berthnasol i anghenion staff.  Dylid hefyd annog staff i feicio i’w gwaith trwy ddarparu cyfleusterau ychwanegol fel loceri, ystafelloedd newid a chawodydd.  Mae rhesel parcio beiciau wedi ei orchuddio hefyd yn bwysig wrth annog staff i ddefnyddio beiciau.

10.4.2.

Dylid gosod lleoedd parcio beiciau mewn man diogel a chyfleus.  Dylid gofalu nad yw’r cyfleusterau parcio beiciau wedi’u gosod mewn man lle gallant rwystro cerddwyr, pobl anabl ac yn enwedig pobl â nam ar eu golwg.

10.4.3.

Dylid gosod arwyddion priodol i ddangos lleoliad parcio tymor byr ar gyfer beiciau.

10.4.4.

 Oherwydd diogelwch, dylid lleoli cyfleusterau parcio beiciau mewn ardaloedd sy’n weladwy ac felly’n caniatáu goruchwylio anffurfiol.  Mewn rhai amgylchiadau efallai bydd angen gwella hyn trwy ddefnyddio teledu cylch caeedig neu gamau diogelwch eraill.

10.4.5.

Mae canllawiau ar ddylunio parcio beiciau ar gael yn Nhaflen yr Adran Gludiant:“Traffic Advisory Leaflet 5/02 “Key Elements of Cycle Parking” ac ar Daflen Wybodaeth Sustrans FF37 “Cycle Parking”.

10.4.6.

Dylai pob datblygiad preswyl fod yn hygyrch i feiciau a dylid ystyried lleoedd cadw beiciau wrth ddylunio anheddau.  Mewn amgylchiadau priodol, efallai gellir darparu cyfleusterau cymunedol cyfleus.  Mae canllawiau ar y pwnc hwn ar gael yn y Llawlyfr Strydoedd.

10.4.7.
Os yw datblygiad wedi ei leoli mewn canolfan fasnachol ac nid yw’n briodol darparu cyfleusterau parcio beiciau, oherwydd rhesymau penodol, dylid gofyn i’r datblygwr ddarparu cyfraniad ariannol tuag at ddarparu cludiant cynaliadwy.
10.4.8.

 Dylid ystyried darparu cyfleusterau penodol ar gyfer beicwyr, wrth dderbyn Cynllun Teithio.

10.5.

ATODIAD 5 – SAFONAU PARCIO BEICIAU MODUR

10.5.1.

Dylid lleoli parcio beiciau modur mewn man diogel a chyfleus lle nad yw cerbydau eraill yn gallu dod ar draws na rhwystro’r ardal beicio modur.

10.5.2.
Mae beiciau modur yn tueddu i gael eu dwyn.  Felly dylid lleoli parciau beiciau modur mewn ardaloedd sy’n weladwy oherwydd rhesymau diogelwch, ac felly’n caniatáu eu goruchwylio’n anffurfiol.  Dylid osgoi waliau uchel o’u cwmpas a llwyni oherwydd gallant fod yn orchudd ar gyfer lladron.  Mewn rhai amgylchiadau efallai bydd angen teledu cylch caeedig neu gamau diogelwch eraill.  Dylid lleoli’r cyfleusterau hyn lle ni ellir defnyddio cerbydau mwy, fel faniau, i ddwyn beiciau modur.
10.5.3.

Mae’n rhaid darparu mannau angori cadarn i gloir’ beiciau modur, ond mae’n rhaid eu dylunio fel eu bod yn gallu cymryd ystod eang o faint olwynion beiciau modur, ond ddim yn gallu lladron i’w lefro’n hawdd na defnyddio torwyr bolltau nac offer arall a fydd yn cael eu defnyddio i’w dwyn.  Dylid gofalu hefyd nad yw’r cyfleusterau cloi yn creu perygl baglu i gerddwyr, pobl anabl ac yn enwedig i bobl â nam ar eu golwg.

10.5.4.

Byddai parcio dan do ar gyfer beiciau modur o fudd i’r beicwyr, yn enwedig ar gyfer parcio tymor hir, yn ogystal â chyflenwad o finiau sbwriel cyfleus oherwydd ychydig o le sydd gan y beicwyr i gario eitemau ychwanegol.  Mae hefyd yn bwysig ystyried darparu loceri i gadw dillad a helmedau amddiffynnol y beicwyr.

10.5.5.

Mae hyd  beiciau modur yn gyffredinol yn llai wrth eu parcio, oherwydd bydd yr olwyn blaen y cael ei throi i’w safle cloi.  Mae’r hyd a lled effeithiol yn amrywio rhwng oddeutu 1600mm i 2300mm (hyd) a 650mm i 900mm (lled). Argymhellir 2.8m x 1.3m fel maint cilfach .

10.5.6.
Ystyriaeth ychwanegol yw beicwyr anabl.  Awgrymir darparu ar gyfer beicwyr anabl trwy ddarparu cilfachau wedi eu marcio’n benodol, neu gilfachau mwy.  Bydd unrhyw feiciwr gyda symudedd llai a gwannach yn cael budd o le ychwanegol i osod eu hunain wrth ochr eu beiciau wrth droi neu wrth fynd arno.  Wrth i’r boblogaeth beicwyr heneiddio, byddant yn llai hyblyg a bydd ganddynt ystod lai o symudiadau, a bydd hyn yn dod yn fwy cyffredin.
10.5.7.

Ni ddylid wynebu cilfachau parcio beiciau modur gyda defnyddiau bitwmen oherwydd mae’n gallu toddi mewn tywydd poeth, gan achosi i le’r beic modur suddo a’r beic i droi drosodd.  Byddai arwynebeddau concrit yn osgoi’r broblem hon.

10.5.8.

Mae canllawiau pellach i’w cael yn y Llawlyfr Strydoedd.

10.6.

ATODIAD 6 - CYNALADWYEDD

10.6.1.

Bydd pwyntiau cynaladwyedd yn cael eu rhoi i ddatblygiadau sy’n ateb y meini prawf isod am fod yn agos, o ran pellter cerdded at gyfleusterau lleol, cludiant cyhoeddus, llwybrau beiciau ac amlder cludiant cyhoeddus lleol.  Bydd dyfarnu’r pwyntiau cynaladwyedd hyn yn arwain at lai o ofynion parcio fel y nodwyd isod:

Os yw sgôr pwyntiau cynaladwyedd anheddiad o fewn 400metr o ysgol a swyddfa bost     (1 X 2 bwynt = 2 bwynt), o fewn 300metr o arhosfan bws (3 phwynt) ac amlder gwasanaeth bob 15 munud, ond dim ond rhwng 8am a 6 pm (2 bwynt – 1 pwynt = 1 pwynt) yn sgorio cyfanswm o 6 phwynt.

10.6.2.

Gostyngiad yn y Gofyniad Parcio

Ac eithrio Ardal 1 lleoliadau Canol Dinas, ni fydd y gostyngiadau mewn gofynion parcio ar gyfer unedau preswyl yn arwain at lai nag un lle parcio ac ar gyfer pob datblygiad arall ni weithredir y gostyngiad oni bai fod cynllun teithio derbyniol yn cael ei gyflwyno hefyd.

« Back to contents page | Back to top