1. Cyd-destun
Prif bwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yw helpu’r cyhoedd, ymgeiswyr a datblygwyr, swyddogion cynllunio ac aelodau’r Cyngor sy’n delio â cheisiadau cynllunio fyddai’n gallu effeithio ar fioamrywiaeth.
Mae llawer o’r pwysau ar fioamrywiaeth yn ymwneud â datblygu a’r defnydd tir. Felly, mae gan y system gynllunio rôl hanfodol i’w chwarae mewn diogelu a gwella bioamrywiaeth trwy gynigion datblygu newydd.
Gall datblygiadau sydd wedi eu dylunio’n dda helpu perchnogion tai i gwrdd â’u hanghenion newidiol, ychwanegu gwerth at eu heiddo a darparu cyfleoedd manwerthu, swyddfeydd neu dwristiaeth fywiog gan wella’r ardal leol. Gyda dyluniadau da mae’n bosibl hefyd gostwng biliau ynni ac osgoi gwastraffu adnoddau naturiol. Gall y rhan fwyaf o ddatblygiadau hefyd ddarparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau a gwella bioamrywiaeth y safle a’r ardal o’u hamgylch.
Bydd y Cyngor yn ystyried y CCA hyn wrth wneud penderfyniadau cynllunio gan ddod i rym ar unwaith. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn cynghori y gellir defnyddio CCA i osod canllawiau manylach ar weithredu polisïau CDLl. Er bod y canllaw hwn yn atodol i’r polisïau cyfredol, mae’n cyd-fynd hefyd â’r cyd-destun polisi cenedlaethol a gafodd ei ddiweddaru, a bydd hwn yn rhan o’r CDLl trwy fonitro blynyddol.