2. Beth ydi Bioamrywiaeth?

2.1.
Bioamrywiaeth ydi’r cyfoeth ac amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau.  Caiff rhai cynefinoedd a rhywogaethau eu cydnabod eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol neu genedlaethol tra bo eraill o bwysigrwydd lleol. Mae’r cyfan yn cyfrannu at gymeriad naturiol ardal benodol a’i diffinio. Mae bywyd gwyllt ein mannau agored gwledig ac arfordiroedd yn ffurfio rhan sylweddol o gyswllt pobl â’r amgylchedd naturiol yng Nghonwy, ac yn ffodus mae nifer o’r mannu hyn yn hawdd i’w cyrraedd, gan ychwanegu at ansawdd bywyd. Mae bioamrywiaeth yn rhan annatod o amgylchedd naturiol iach a gweithredol.
2.2.

Mae bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer cynnal systemau byw naturiol, neu’r ecosystemau, sy’n rhoi bwyd, tanwydd, iechyd, cyfoeth a gwasanaethau hanfodol eraill i ni. Mae’n hanfodol ar gyfer ein lles.

2.3.
Mae pobl yn rhan o’r fioamrywiaeth hwn hefyd ac maent yn gallu’i warchod . Mae’r CCA hwn yn darparu canllawiau sut i warchod a gwella bioamrywiaeth yng nghyd-destun pob datblygiad. Mae’n nodi’r mesurau sydd eu hangen i wella bioamrywiaeth, gan gynnwys beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod enillion net bioamrywiaeth yn darparu dyfodol cynaliadwy.

« Back to contents page | Back to top