3. Bioamrywiaeth yng Nghonwy

3.1.

Mae gan Gonwy doreth o fywyd gwyllt ac amrywiaeth o gynefinoedd. Mae golygfeydd gwych o bentir prydferth y Gogarth, gyda’i glogwyni môr, palmentydd calchfaen a Chylchdro’r Gogarth, ar draws Traeth Lafan i Eryri ac Ynys Môn i’r gorllewin, ac arfordiroedd Gogledd Cymru a Sir Gaerhirfryn i’r dwyrain. Mewn cyferbyniad â hyn mae uwchdiroedd gwyntog bryniau Hiraethog sy’n ffurfio cilfach rhwng coedwig gonifferaidd fawr Clocaenog, bryniau’r Migneint ac wrth gwrs Afon Conwy.  Mae Hiraethog yn gynefin ar gyfer bridio i’r bod glas, y gwalch bach a’r grugiar ddu tra bo’r barcud coch yn raddol greu cadarnle iddo’i hun yn ne’r Sir.

3.2.

Mae ein cefnfro gwledig yn ffurfio calon Conwy ac yn glytwaith o goedwigoedd, uwchdiroedd pori, dyffrynnoedd a gwrychoedd. Mae coedwigoedd derw yn cynnig cynefin ar gyfer ymwelwyr yr haf fel y tingoch, gwybedwr cefnddu, a thelor y coed,  tra bo’r dylluan frech a chnocell y coed yma trwy’r flwyddyn. Mae dyffryn eang afon Conwy yn cysylltu cadwyn ogleddol y Carneddau,  Eryri a Choedwig Gwydir yn y gorllewin â Choed Hafod a’r bryniau tua’r dwyrain sy’n estyn i Sir Ddinbych a dyffryn Clwyd a’i amaethyddiaeth amrywiol. Ymhellach i’r dwyrain mae Bryniau Clwyd sy’n Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol (AHEN), 

3.3.

Mae gan ein bywyd môr amrywiaeth fawr o anifeiliaid, gan gynnwys cwrelau meddal, anemonau’r môr, pysgod, crancod ac adar môr sy’n bridio. Mae clogwyni arfordirol Conwy yn gynefinoedd ar gyfer y fran goesgoch, Dyma rywogaeth brinnaf y fran sy’n nythu ym Mhrydain. Mae Bae Cinmel yn ardal bwysig ar gyfer llygoden y dŵr a’r fadfall gyffredin. Mae gan Gonwy hefyd naw rhywogaeth o ystlumod yn byw yma, gan gynnwys yr ystlum pedol leiaf sydd mewn perygl mawr, ac sydd wedi diflannu o ran fwyaf o’i ardaloedd gogleddol yn Ewrop. Mae poblogaeth gref o’r rhywogaeth hon yn Nyffryn Conwy.

« Back to contents page | Back to top