4. Polisi a Dehongliad Lleol
Mae’r system cynllunio defnydd tir yn pennu’r fframwaith ar gyfer datblygu a defnyddio tir y 25 awdurdod cynllunio yng Nghymru (22 awdurdod lleol a 3 awdurdod parc cenedlaethol), Mae’n rhaid i bob awdurdod baratoi Cynllun Datblygu Lleol, sy’n darparu fframwaith a gydnabyddir yn gyfreithiol ar gyfer rheoli datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn hierarchaeth y Strategaeth Gymunedol.
Mae gan y CDLl swyddogaeth hanfodol i’w chwarae mewn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau pwysig a nodwyd yn y canllaw hwn. Mae’r CCA hwn yn ddolen gyswllt bwysig sy’n dangos gweithredir y CDLl, yn rhannol, trwy’r system gynllunio.
Mae llawer o’r pwysau ar fioamrywiaeth yn gysylltiedig â defnyddio a datblygu tir. Felly, mae gan y system gynllunio swyddogaeth hanfodol o ran cadwraeth bioamrywiaeth. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Ecolegydd a Swyddog Ymholiadau Cynllunio, sy’n gallu cynghori pobl am faterion bioamrywiaeth sy’n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio. Dangosir NTE/4 yn llawn ar dudalen 8 ac mae’n rhan o bennod ar yr Amgylchedd Naturiol yn y CDLl. Mae’n amlinellu’r gofynion ar ddatblygiad newydd mewn perthynas â Bioamrywiaeth.
Polisi Bioamrywiaeth CDLL Conwy NTE/4
POLICY NTE/4 - BIOAMRYWIAETH
-
Dylai datblygiadau newydd anelu at gadw a, lle bo'n bosibl, gwella bioamrywiaeth trwy:
- Leoli sensitif a chynllunio a dylunio sy'n lliniaru effeithiau;
- Llunio rhaglen ddatblygu sy'n lliniaru'r effaith ar fioamrywiaeth a rhywogaethau;
- Creu, gwella a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a thirweddau naturiol;
- Integreiddio mesurau bioamrywiaeth i'r amgylchedd adeiledig;
- Cyfrannu tuag at gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP);
- Darparu ar gyfer cytundeb rheoli gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r awdurdod lleol i sicrhau cadwraeth a dyfodol buddiannau bioamrywiaeth yn y tymor hir.
-
Dylai pob cais gynnwys Datganiad Bioamrywiaeth sy’n cadw at y canllawiau a nodwyd yn y Canllaw Cynllunio Ategol CDLl5 – ‘Bioamrywiaeth a Chynllunio’.Bydd y Cyngor yn gwrthod cynigion a fydd yn effeithio’n sylweddol ar rywogaethau a warchodir neu rywogaethau â blaenoriaeth neu eu cynefinoedd, oni bai fod yr effaith honno wedi'i lliniaru'n ddigonol, a bod mesurau adfer a gwella priodol yn cael eu cynnig a'u sicrhau drwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio.Mewn amgylchiadau eithriadol, os bydd manteision economaidd neu gymdeithasol y cynnig yn bwysicach na'r niwed i safle neu rywogaethau pwysig, yr ymagwedd a ddefnyddir fydd osgoi neu leihau cymaint a bo modd ar y niwed hwnnw i ddechrau, ac yna ceisio lliniaru'r effaith er mwyn sicrhau na cheir gwir golled mewn bioamrywiaeth. Defnyddir amodau a rhwymedigaethau cynllunio fel bo'n briodol er mwyn sicrhau hyn