5. Dehongli’r Polisi a Chyflawni Enillion Net
Mae’r adain hon yn cynnig canllawiau sut i fynd i’r afael a chydymffurfio â gofynion Polisi NTE/4. Y prif gwestiwn i’w holi ydi a yw’r holl effeithiau niweidiol tebygol ar nodweddion naturiol, rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt wedi cael eu hosgoi gymaint ag sy’n bosibl.
- Osgoi effeithiau niweidiol ar safleoedd dynodedig (gweler Atodiad 2) ac ar rywogaethau a warchodir (gweler Atodiadau 2 a 3).
- Osgoi effeithiau niweidiol ar gynefinoedd a rhywogaethau a nodwyd yn Adran 42 y Rhestr o Gynefinoedd neu Rywogaethau pwysicaf i Gymru a CGBLl Conwy.
- Cynnal yr holl rywogaethau a chynefinoedd a’r ddarpariaeth ar eu cyfer sy’n bodoli yng nghynllun a dyluniad y safle.
- Lle bo hynny’n briodol, darparu cynllun tirweddu gan ystyried yr uchod cyn rhoi caniatâd cynllunio.
- Osgoi gadael y rhywogaethau a’r cynefinoedd sy’n bodoli wedi eu hynysu yn y datblygiad gorffenedig trwy eu cysylltu â chynefinoedd cyfagos gan goridorau bywyd gwyllt priodol, fel y nodwyd mewn arolwg blaenorol.
Yn ddelfrydol dylai’r cam dylunio ddilyn yr wybodaeth arolwg a gasglwyd yn ystod y Cam Cyn-gymhwyso, os yw hynny’n briodol. Dylid darparu mesurau digonol yn y dyluniad ar gyfer bioamrywiaeth a ganfuwyd ar y safle, er mwyn diogelu neu wella hynny, gan eu cysylltu â nodweddion bywyd gwyllt cyfagos lle bynnag bo hynny’n bosibl. Gellir nodi manylion y rhain a’u cyfiawnhau yn y Datganiad Bioamrywiaeth. (Geler Adran 6)
Cam Cyn-gymhwyso
Mae’r cam cyn-gymhwyso yn bwysig iawn wrth ystyried bioamrywiaeth o fewn datblygiad. Mae’n gyfle i drafod y datblygiad gyda swyddogion cynllunio a sefydliadau eraill, lle bo hynny’n briodol, fel yr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt lleol neu’r CFGA. Gellir wedyn amlygu unrhyw faterion penodol yn fuan a derbyn yr wybodaeth berthnasol, gan osgoi unrhyw oedi diangen yn ddiweddarach yn y broses gynllunio. Mae trafodaethau cyn gwneud cais fel hyn yn gallu helpu trwy fod yn sail ar gyfer dewis safle datblygu, gwaith arolwg a gosodiad y safle.
Camau Lliniaru i Leihau Niwed na ellir ei Osgoi
- fod y gwaith yn cael ei wneud ar adeg briodol y flwyddyn er mwyn osgoi aflonyddu ar rywogaethau, (gweler Atodiad 6);
- eu bod yn cael unrhyw drwyddedau angenrheidiol yn gynnar yn y broses, fel bod rhywogaethau a warchodir yn cael eu trin yn iawn. Mae CCGC yn darparu canllaw ar rywogaethau a warchodir, (gweler Adran 7 ar dudalen 18). Ond cofiwch fod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn gwneud cais am drwydded i aflonyddu ar rywogaeth a warchodir gan Ewrop;
- cymerwyd pob cam posibl arall i leihau cymaint a bo modd ar yr effaith ar fioamrywiaeth, er enghraifft: creu llain ragod rhwng ardaloedd sensitif ac ardaloedd datblygu er mwyn gostwng achosion aflonyddu ar gynefinoedd;
- sicrhau bod isadeileddau newydd (er enghraifft pontydd) yn cael eu dylunio er mwyn galluogi bywyd gwyllt i barhau i symud o gwmpas;
- cynnal statws hydrolegol safleoedd sensitif trwy ddylunio isadeiledd draenio’n ofalus;
- trawsleoli cynefinoedd na ellir eu cadw ar eu safleoedd presennol lle bynnag fo hynny’n bosibl. Er enghraifft, gellir trawsleoli gwrychoedd a choed yn llwyddiannus dim ond i chi gymryd digon o ofal;
- trawsleoli rhywogaethau o gynefinoedd a fydd yn cael eu dinistrio i safleoedd derbyn addas (i’w ddefnyddio fel camau achub yn unig, i arbed rhywogaethau a fyddai’n cael eu colli fel arall).
Camau Gwneud Iawn am Niwed Gweddilliol
Lle bydd datblygiad, er gwaethaf pob cam lliniaru posibl, yn cael effaith niweidiol gweddilliol ar fywyd gwyllt, gellir gwneud iawn am hynny trwy fesurau a ddyluniwyd i wneud iawn am unrhyw niwed. Lle bo angen hynny, dylai datblygwyr newid cynllun y safle i sicrhau bod lle ar gyfer nodweddion adferol yn ystod cam cynnar y broses cynllunio.
Tra bod iawndal bob amser yn ddewis olaf, bydd yr Awdurdod Cynllunio’n ceisio:
- Sicrhau bod cynefinoedd yn cael eu gwella, eu hadfer neu eu hail-greu ar y safle, yn gyfagos i, neu’n agos iawn at y safle.
- Sicrhau fod y camau gwneud iawn yn cael eu gwarantu gan amodau neu gan ymrwymiadau / cytundebau cyfreithiol.
Fel arfer, mae ecoleg cynefin lled-naturiol, fel coetir hynafol neu rostir, wedi datblygu dros gyfnod hir o amser, gan gynyddu yn ei werth bioamrywiaeth, ond mae cynefin a gafodd ei greu o’r newydd, fel coetir newydd neu ddôl blodau gwyllt, fel arfer yn dlotach yn ecolegol am beth amser, gyda gwerth bioamrywiaeth is iddo. Oherwydd hynny, ystyrir bod adfer neu wella cynefinoedd sydd eisoes yno’n well na’u hail-greu.
Buddion Newydd
Yn ychwanegol at y cynigion eraill ar gyfer mesurau lliniaru neu wneud iawn am effaith uniongyrchol, efallai bydd cyfle i ddarparu budd newydd ar gyfer bywyd gwyllt, er enghraifft trwy greu cynefinoedd neu eu gwella. Gellir sicrhau’r rhain trwy ymrwymiadau neu gytundebau cynllunio. Dylid manteisio ar bob cyfle posibl i sicrhau y bydd pob cais datblygu’n cyfrannu’n bositif tuag at wella un neu ragor o rywogaethau neu gynefinoedd rhestr Adran 42. Mae hyn yn gwella ansawdd y datblygiad a’i amgylchedd yn gyffredinol, ac yn cynnig budd trwy wella cynaladwyedd y prosiect a’i fod yn cydymffurfio’n well â pholisïau cynllunio.
- Creu cynefinoedd newydd fel coetiroedd, tir pori garw, dolydd blodau gwyllt, toeau gwyrdd, neu byllau mewn ardaloedd wedi eu tirweddu neu fannau cyhoeddus agored.
- Gosod mannau agored a thirweddu fel bod y planhigion sy’n cael eu plannu rhyngddynt yn ffurfio coridor bywyd gwyllt rhwng cynefinoedd gerllaw’r safle.
- Dylid darparu ar gyfer rhywogaethau fel ystlumod, gwenoliaid neu dylluanod gwyn gydag adeiladau newydd, neu waith trawsnewid
- Adfer safleoedd tirlenwi a mwynau i fod yn laswelltir, rhostiroedd neu welyau cyrs
- Defnyddio Cynlluniau Draenio Cynaliadwy (SUDS) fel bod isadeiledd draenio (fel ffiltro gwelyau cyrs) hefyd yn gweithredu fel cynefin bioamrywiaeth.
Sicrhau enillion net mewn Bioamrywiaeth
Mae hyn yn cynnwys diogelu a gwella'r hyn sydd yno eisoes, yn ogystal â darparu cynefinoedd newydd a nodweddion ar gyfer bywyd gwyllt sydd mor hyblyg â bo modd. Mae’n rhaid gwarchod, a gosod camau i wella cyflwr pob cynefin sy’n bwysig yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol (gan gynnwys cynyddu poblogaethau rhywogaethau nodweddiadol a’r rheiny sy’n bwysig o safbwynt cadwraeth).
Bydd y cynefinoedd hyn a ddiogelwyd yn cael eu hestyn neu ychwanegu atynt trwy adfer cynefinoedd sydd wedi diraddio neu trwy greu cynefinoedd newydd lle mae’r amodau’n caniatáu hynny. Bydd hyn yn creu rhwydwaith gynhwysfawr o isadeiledd gwyrdd cysylltiedig a fydd yn darparu cynefinoedd bwyd gwyllt ychwanegol, ategol gan ddiogelu cynefinoedd allweddol rhag effeithiau niweidiol mannau datblygedig y safle a’u gweithgareddau cysylltiedig.
Gwybodaeth ddigonol
Wrth ddelio â chais cynllunio, dylai’r Awdurdod Cynllunio sicrhau fod digon o wybodaeth ar gael am fioamrywiaeth y safle, effeithiau posibl y datblygiad ar fioamrywiaeth ar y safle ac oddi arno a pha mor bwysig yw’r effeithiau hynny.
Er mwyn darparu gwybodaeth ddigonol gall ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio:
- Ystyried a yw’r datblygiad bwriedig o fewn, neu’n agos at, safle a ddynodwyd ar gyfer cadwraeth natur
- Ystyried yn ofalus cysylltiadau bioamrywiaeth y safle a phresenoldeb neu absenoldeb rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir sy’n bwysig i fioamrywiaeth. Efallai bydd angen arolwg manwl.
- Ystyried cysylltiadau â chynefinoedd neu nodweddion naturiol y tu allan i’r safle.
- Cysylltu â’r Ganolfan Cofnodion Lleol (COFNOD) i gael data cynefinoedd a rhywogaethau penodol ar gyfer safle (os yw ar gael) a allai gynorthwyo gyda llunio manylion unrhyw arolwg.
- Ystyried oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) ar gyfer y datblygiad.
Mae arolygon ac adroddiadau arolygon proffesiynol yn gallu helpu’r datblygwr i:
- Canfod unrhyw gynefinoedd allweddol a nodweddion o fewn, neu’n gyfagos i’r safle
- Asesu effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth;
- Cyflwyno digon o wybodaeth amgylcheddol i’r Awdurdod Cynllunio ynglŷn â chysylltiadau’r safle ac effeithiau tebygol y datblygiad;
- Ystyried a ddylid gwneud cais am drwyddedau;
- Ystyried a oes angen Asesiad Priodol i gydymffurfio â Rheoliadau Cynefinoedd 1994 fel y’i diwygiwyd.
Dylai dyluniadau manwl adeiladau a strwythurau eraill gynnwys mesurau arbennig ar gyfer bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori coed mewn dyluniad stryd neu fannau agored ‘caled’. Dylai cynlluniau gynnwys safonau penodol ar gyfer integreiddio nodweddion bioamrywiaeth mewn adeileddau a mannau tirweddu caled. Mae nodweddion fel hyn yn cynnwys safleoedd neu adeileddau nythu neu glwydo, ‘toeau a ffasadau byw’, a llystyfiant ar adeiladau (gweler Pecyn Cymorth ar Doeau Gwyrdd, Asiantaeth yr Amgylchedd’, yn: http://www.environment-agency.gov.uk/cy/busnes/sectorau/91967.aspx, a phrosiect ‘Building Greener’ CIRIA, yn http://www.ciria.com/buildinggreener/.
Dylid nodi bod amcanion ymchwil yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i gydweddu cynefinoedd cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth ar doeau, gan gyfrannu’n helaeth at fioamrywiaeth.
- Bat Conservation Trust – http://www.bats.org.uk
- CFGA (Cymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar) – http://www.rspb.org.uk
- London’s Swifts – http://www.londons-swifts.org.uk
- Barn Owl Trust – http://www.barnowltrust.org.uk
- Black Redstarts – http://www.blackredstarts.org.uk
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol http://www.nationaltrust.org.uk
Gellir cyflawni hyn trwy ddilyn canllawiau’r ddogfen hon a thrwy ddefnyddio’r cyfeirlyfrau penodol y mae rhestr ohonynt yng nghefn y ddogfen. Dylid cynnwys y newidiadau hyn ar y dyluniadau a gyflwynir fel rhan o’r cais, yn ogystal â’r hyn a ddisgrifiwyd yn y Datganiad Bioamrywiaeth.